11.1 FPL/2019/145 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid yn Fferm Cefn Dderwen, Brynsiencyn
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â thirlunio.