Penderfynwyd –
• Nodi’r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb a’r atborth a gafwyd ynddynt fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;
• Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 8, Atodiad 1 ac yn Atodiad 3 gyda’r eithriad o gynyddu ffioedd parcio ceir mewn safleoedd trefol a fydd yn aros yr un peth heblaw am y raddfa 50c a ddiddymir gan wneud isafswm cost o £1.
• Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor fod yn gweithio i sicrhau bod o leiaf £7.1m yn y balansau cyffredinol;
• Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 6, Atodiad 1;
• Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £142.146m a chynnydd yn lefel y Dreth Gyngor felly o 4.5%, (£56.16 – Band D), gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 10 Mawrth, 2020;
• Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor;
• Cytuno y bydd unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl;
• Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn;
• Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pŵer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa digwyddiadau annisgwyl ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith;
• Cymeradwyo bod y Premiwm Treth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn parhau i fod yn 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer tai gwag.