Mater - penderfyniadau

Changes to the Constitution: Delegated Powers - Developments of National Significance and Non-statutory Community Benefits

12/07/2021 - Changes to the Constitution: Delegated Powers - Developments of National Significance and Non-statutory Community Benefits

Penderfynwyd

 

·        Argymell bod y Cyngor Llawn fel Awdurdod Lleol, Awdurdod Cynllunio Lleol ac Awdurdod Priffyrdd Lleol yn dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn ôl y diffiniad yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy’n diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”), a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau dilynol.

·        Argymell bod y Cyngor Llawn yn dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiadau sydd angen Gorchymyn Datblygu Arbennig (e.e. Rheoli Ffiniau) o dan Adran 59 (3) yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

·        Bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo awdurdod dros negodi’r holl fuddion cymunedol anstatudol a phob penderfyniad sy’n berthnasol i drafodaethau o’r fath, yn gysylltiedig â, neu’n deillio o ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i’r Dirprwy Brif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor.

·        Argymell bod adran 3.5.3 yn y Cyfansoddiad yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r dirprwyaethau uchod.