Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

12/01/2022 - Gweddill y Ceisiadau

12.1  VAR/2021/38 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 15 a 16 o ganiatâd cynllunio rhif APP45-36 (caniatâd ar apêl) (adeiladu 15 tyrbin gwynt ar dir yn Nhrysglwyn Fawr, Rhosybol) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol y 14 tyrbin sydd wedi ei adeiladu ar y safle am gyfnod pellach o 10 mlynedd hyd at 29.6.31, ymestyn y cyfnod lle mae angen dadgomisiynu y fferm ynghyd ag ymestyn y cyfnod o orfod tynnu twrbin oddi ar y safle os ddim yn cynhyrchu trydan am gyfnod i'r grid lleol yn Fferm Wynt Trysglwyn, Rhosybol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i

ddileu Amod 1.

 

12.2  FPL/2021/298 –Cais llawn ar gyfer newid defnydd Lolfa Gymunedol i fod yn fflat preswyl llawr gwaelod ynghyd ag addasiadau a gosod paneli solar yn Lolfa Gymunedol St Seiriol, St Seiriols Close, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.3  FPL/2021/299 –Cais llawn am newid defnydd o lolfa gymunedol i greu eiddo preswyl ynghyd a gwaith cysylltiedig Bryn Tirion Biwmares

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.4  FPL/2021/285 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y lolfa gymunedol bresennol i mewn i uned breswyl yn Gerddi Stanley, Biwmares

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.5  FPL/2021/297 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y lolfa gymunedol bresennol i mewn i uned breswyl newydd yn Lolfa Gymunedol Tre Rhosyr, Niwbwrch

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.6  MAO/2021/32 -Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/258 er mwyn diwygio gorffeniad rendr allanol o arw i lyfn yng Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.7  DIS/2021/101 – Cais i ryddhau amod (04) (Manyleb rhaglen o waith archeolegol ) o ganiatâd cynllunio CAC/2019/3: Cais Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi chwech fflat un ystafell wely yn ei le yng Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.8  DIS/2021/102 - Cais i ryddhau amodau (03) (draenio dŵr budr), (05) (Cynllun Rheoli Traffic Adeiladu), (07) (manylion gwaith dymchwel), (08) (manylion ffenestri) ac (11) (cynllun tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/258 (dymchwel yr adeilad presennol a chodi chwech fflat un ystafell wely) ynn Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Rhyddhau amodau (05), (07) ac (11) yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig;

·          Dirprwyo’r pŵer i’r Swyddogion i ryddhau amodau (8) a (3) unwaith y byddant yn fodlon â’r canlynol: y trafodaethau rhwng yr asiant a’r  Swyddog Treftadaeth mewn perthynas ag amod (8) i sicrhau bod manylion y ffenestri’n dderbyniol cyn rhoi caniatâd: ymateb Dŵr Cymru mewn perthynas ag amod (3) yn dilyn derbyn rhagor o wybodaeth gan yr asiant i fodloni’r gofynion.

 

12.9  TPO/2021/31 –Cais i wneud gwaith ar goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yn Dingle, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i

ddileu Amod 1.

 

12.10 FPL/2021/276 - Cais llawn ar gyfer codi 6 tŷ ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Burgess Agricultural Engineers, Stryd y Bont, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.11 ADV/2021/9 - Cais i leoli 2 arwydd heb eu goleuo ar dir yn Bloc E, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.12 FPL/2021/304 –Cais ôl-weithredol ar gyfer defnyddio carafán statig ar gyfer defnydd gwyliau yn The Lodge, Capel Bach, Rhosybol.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.13 FPL/2021/302 - Cais llawn am newid defnydd tir o dir amaethyddol ar gyfer safle i 10 o Garafanau teithiol yn Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.14 VAR/2021/63 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02)(Cynlluniau Cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/278 (Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a chodi 8 annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn) er mwyn diwygio dyluniadau allanol yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.15 MAO/2021/31 – Mân ddiwygiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 20C102L/EIA/RE (Cais llawn i godi 11 o dyrbinau gwynt ) yn Rhyd y Groes, Rhosgoch er mwyn diwygio geiriad amod 24 er mwyn caniatáu i'r manylion gael eu cyflwyno cyn codi'r tyrbinau yn hytrach na cyn i'r datblygiad ddechrau yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.