Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

27/07/2022 - Gweddill y Ceisiadau

2.1  MAO/2022/13 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 (codi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa i gerbydau) er mwyn creu llwybr 2.5m o led i ddarparu mynediad gwell i'r ysgol newydd, dymchwel y wal bresennol, codi ffens/wal yn ei lle ynghyd â thorri coeden Onnen ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  MAO/2022/16 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/361 (codi uned cyfnod sylfaen newydd) er mwyn ail-eirio amodau (07) (asesiad risg bioddiogelwch), (17) (cynllun rheoli traffig adeiladu), (18) (Tirlunio), (20) (llwybrau troed ar gyfer cerddwyr a (21) (tirlunio) ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2022/51 - Cais llawn ar gyfer codi adeilad llety ategol 6 llofft ynghyd â datblygiadau cysylltiedig yn Plas Rhianfa, Glyn Garth, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.