Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD :-
· nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) 2021/22;
· nodi unrhyw adborth i’w rannu â’r OGCC – dim adnorth wedi ei nodi;
· awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC er mwyn cadarnhau bod y Pwyllgor a’r Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol ac i ddarparu sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion ac felly darparu aelodau â’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gallu craffu ar berfformiad y Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn adran A.2 yn yr adroddiad er mwyn iddynt gael eu hystyried gan y Cyngor llawn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cynnydd ar Welliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Gogledd Cymru a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Sir Fôn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD :-
· bod gofyn i’r Cyngor sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw, ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC). Mae’r cynllun yn
nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf ac yn
nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o osod y gyllideb flynyddol;
· nodi cynnwys y cynllun, cymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ac ystyried sut i bontio’r bwlch cyllidol a nodir yn yr adroddiad fel rhan o’r broses ar gyfer gosod cyllideb refeniw 2023/24 fel y nodir
yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD :-
· Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 1 2022/23;
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23;
· Cymeradwyo'r gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf o £4,704k fel y nodir ym mharagraff 9.2 yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Hydref 2022 i Fai 2023, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro
disgwyliedig ar gyfer 2022/23;
· Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23, fel y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH a D.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23 yn chwarter 1.
· cymeradwyo ailddyrannu £0.140m o gyllid cyfatebol mewn perthynas â Thraeth Coch i gynlluniau ar raddfa fach er mwyn ymorol am y cynnydd disgwyliedig mewn costau, fel yr eglurir yn 3.1.1.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 27/09/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1, 2022/2023, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.