Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022 yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cyflwyno'n ddigartref sydd wedi'u lleoli neu mewn perygl o gael eu gosod mewn llety brys/dros dro.
· Bod dyraniadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref yn cael eu cymeradwyo gan y Rheolwr Tîm Opsiynau Tai gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn cadw at y Polisi Gosod Cyffredin.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo dileu’r prawf modd ariannol ar gyfer gwaith bach a chanolig hyd at £10,000 o’r broses ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 - bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wrth gyfrifo'r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2023/24, sef 31,272.36 (Rhan E6 o Atodiad A i'r adroddiad).
• Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau o’r ardal am y flwyddyn 2023/24 (Rhan E5 o Atodiad A o’r adroddiad)
• Bod, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 (OS 19956/2561) fel y'i diwygiwyd gan OS1999/2935 a'r Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiwyd) 2004, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) (Diwygiwyd) 2016, y symiau a gyfrifir gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei dreth sylfaen ar gyfer y flwyddyn 2023/24 fydd 32,819.56 ac ar gyfer y rhannau o'r ardal fel y'u rhestrir yn y tabl o dan argymhelliad 3 o'r adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi'r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2022/23.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.
· Cymeradwyo'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Melin Llynnon yn unol ag adran 4.2 o'r adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd–
· Nodi'r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.
· Nodi'r crynodeb o'r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 fel y manylir yn Atodiad C.
· Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghori ar gyfer 2022/23 yn Atodiadau CH a D.
· Cymeradwyo trosglwyddo'r tanwariant o £100k ar gyfer cynyddu band eang mewn ysgolion i gronfa wrth gefn a glustnodwyd i ariannu'r gwelliannau band eang yn 2023/24 sydd wedi'u gohirio oherwydd cwblhau prosesau caffael priodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad monitro Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch2 2022/23 ynghyd â’r mesur lliniaru a’i amlinellwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr, 2022 i Orffennaf, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 29/11/2022 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/11/2022
Effective from: 29/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau yn rai dros dro hyd nes bod yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo; adroddir fel bo'n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i'r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad.
· Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2021/22 yn yr adroddiad.
· Anfon yr Adroddiad Adolygu Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2021/22 ymlaen i'r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.