Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2024/25 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried a’u harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn gysylltiedig ag Addysg, Tai, yr Economi, Newid Hinsawdd a Pherfformiad y Cyngor Cyfan.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ar gyfer 2023/24.
· Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC i gadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol.
· Darparu sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion, a thrwy hynny, roi’r sicrwydd sydd ei angen ar Aelodau i graffu ar berfformiad y Cyngor.
· Parhau i gefnogi’r Cyngor i ddatblygu ei system CRM fel llwyfan ar gyfer prosesu cwynion a darparu data “byw” am berfformiad trin cwynion, fesul gwasanaeth, i swyddogion perthnasol, penaethiaid gwasanaeth a’r Tîm Arweinyddiaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023-28.
· Cymeradwyo’r broses ymgynghori.
· Cymeradwyo dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Tai, i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion 2024-2029.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2025/26, sef 31,445.15 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o Sylfaen y Dreth Gyngor at y diben yma - Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).
· Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2025/26 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o sylfaen y dreth – Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2025/26 sef 33,472.17, ac am y rhannau hynny o'r ardal sydd wedi eu rhestru yn argymhelliad 3 yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith a ddiweddarwyd ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2024 a Gorffennaf 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.
· Cytuno i weithredu’r Ffioedd a Thaliadau newydd ar gyfer 2024/25, a’r ffioedd a addaswyd, fel y manylir yn Atodiad E.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith, a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024, fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2024
Effective from: 26/11/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod Chwarter 2.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.116m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 2, a newidiadau yn y cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.477m ar gyfer 2024/25.
· Cymeradwyo dwyn ymlaen unrhyw danwariant posib, fel y nodir yn adran 4.2 yn yr adroddiad.