Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 gan ei fod yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith a chan fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod y datblygiad.
Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 gan ei fod yn Aelod o’r Pwyllgor Gwaith a chan fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod y datblygiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.1 FPL/2025/312 - Cais llawn ar gyfer codi gorchudd to dros yr iard fferm bresennol ar gyfer man bwydo a man ymgynnull yn Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
10.1 VAR/2025/43 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio V2191b (cais manwl ar gyfer codi 5 byngalo) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir ger High Tide, Ravenspoint Road, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
10.2 VAR/2025/61 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (13) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio 47C152 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir gyferbyn â Mount Alaw, Llanddeusant
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
7.1 FPL/2025/275 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwm, Hermon
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
6.1 FPL/2024/228 - Cais llawn ar gyfer adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl, ynghyd â chyfleusterau cymunedol, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith gwella priffyrdd, dymchwel yr adeilad presennol ar y safle ynghyd â gwaith datblygu cysylltiedig ar dir ger Glasynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac ar gais Aelodau Lleol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 10.1 a 10.2.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2026 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2026
Effective from: 04/03/2026
Penderfyniad:
Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2026 yn gywir, ond bod angen cynnwys enw’r Cynghorydd Euryn Morris at y rhestr o ymddiheuriadau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Caniatáu i ryddhau hyd at £100k o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn -
· Cadw’r gefnogaeth a ddarperir gan staff asiantaeth er mwyn datblygu arbenigedd dau gyfreithiwr sydd bellach wedi’u penodi.
· Ariannu costau parhaus, ond dros dro, cefnogaeth gan staff asiantaeth ar gyfer cleientiaid, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth a diogel yn ôl i ddarpariaeth gyfreithiol fewnol yn y meysydd gwaith arferol hynny
· Cadw’r Swyddog Diogelu Data Dros Dro presennol i sicrhau bod y Rhaglen Adfer a Gwella Llywodraethu Gwybodaeth yn cael ei chyflawni, yn ogystal ag adolygu a diweddaru’r system CRM, a datblygu paragyfreithiwr newydd.
· Dirprwyo unrhyw geisiadau pellach o’r fath i’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, mewn trafodaeth â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn -
· Cymeradwyo’r newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol at y Dreth Gyngor, er mwyn cyflwyno gostyngiad o 100% ar gyfer aelwydydd lle mae unigolyn sydd â salwch terfynol yn byw, yn unol ag Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
· Gweithredu’r polisi o 1 Ebrill 2026, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dogfennau ategol (gan gynnwys ardystiad SR1) ar waith.
· Dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau weinyddu’r cynllun a gwneud unrhyw fân addasiadau gweithredol fydd angen eu gwneud.
· Monitro ac adolygu effaith y polisi ar ôl 12 mis a chyflwyno’r canfyddiadau i’r Pwyllgor Gwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26, y manylir arnynt yn Atodiad CH.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn derfynol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd cefnogi cyflwyno’r datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2931 drafft i’r Cyngor Llawn er mwyn ei fabwysiadu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Argymell bod y Cyngor Llawn yn derbyn y gyllideb refeniw ddrafft arfaethedig, a chynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, gan olygu fod y gost yn 2026/27 yn £1,792.98, gan nodi y cyflwynir cynnig ffurfiol, fydd yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref / Cymuned, i’r Cyngor ar 5 Mawrth 2026.
· Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £10.4m o falansau cyffredinol.
· Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ynglŷn â chadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir yn Adran 5 o Atodiad 1 yr adroddiad.
· Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.
· Cytuno y gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.
· Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb wrth gefn gyffredinol yn cael ei hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.
· Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem gwerth dros £50k oni bai bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.
· Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag yn aros ar 100%.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd cefnogi’r canlynol –
· Ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).
· Bod y broses ymgynghori yn cael ei chynllunio ar y cyd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy, ond yn cael ei gweithredu’n annibynnol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2026 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2026/2027 ac i drosglwyddo’r datganiad i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2025/26.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 3.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.276m i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £66.945m ar gyfer 2025/26.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd gwrthod y cais a gyflwynwyd mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares i drosglwyddo Maes Parcio’r Castell, Biwmares i’r Cyngor Tref, a chynnig prydles newydd iddynt hyd at 31 Mawrth 2026 yn seiliedig ar yr un amodau â’r brydles wreiddiol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar gyfer 2026/27:-
£’000
Cynlluniau a Ddygwyd Ymlaen o 2025/26
(Cronfa Gyffredinol) 8,394
Adnewyddu Asedau / Prynu Asedau Newydd 6,937
Seilwaith Gwastraff 3,806
Pier a Phontynau Porthaethwy 225
Gwaith Adnewyddu Plas Arthur Cam 2 1,650
Balchder Bro 1,500
Cyfrif Refeniw Tai 31,572
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a argymhellir 2026/27 54,084
Ariennir Gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2,761
Benthyca â Chymorth Cyffredinol 5,047
Cymunedau Dysgu
Benthyca heb Gymorth 0,000
Cronfa Wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf 271
Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig 3,452
Grantiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru 10,044
Benthyca Digymorth
(Cronfa Gyffredinol) 937
Gwarged Cyfrif Refeniw’r CRT 5,418
Grantiau Allanol y CRT 17,291
Benthyca heb Gymorth y CRT 8,863
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2026/27 54,084
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r rhestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2026/27, fel a amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/02/2026
Effective from: 24/02/2026
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-
· Gofal Preswyl (Pobl Hŷn) - £874.18 yr wythnos
· Preswyl (Dementia) - £976.89 yr wythnos
· Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £952.07 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd)
· Nyrsio (Dementia) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,125.03 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd).
· Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd. Bydd rhaid i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion gytuno ar unrhyw eithriadau o fewn y cyllidebau presennol.