Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

13.1 MAO/2024/4 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2022/53 er mwyn diwygio'r deunyddiau gorffenedig yng Nghae Braenar, Penrhos, Caergybi.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 14 Mehefin er mwyn diwygio’r deunyddiau gorffenedig.
13.2 RM/2024/1 - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer adeiladu 10 annedd ynghyd â darparu gwybodaeth i ryddhau amod (05) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), amod (06) (Trefniadau Mynedfa) ac amod (09) (Prif Bibell Ddŵr) o ganiatâd cynllunio OP/2021/10 yn Nhyn y Ffynnon, Llannerchymedd.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais Materion a Gadwyd yn ôl wedi cael ei gymeradwyo ar 7 Mehefin, 2024.
13.3 MAO/2024/7 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi cael ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2020/71 er mwyn diwygio dyluniad yn Nhre Angharad, Bodedern.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 3 Gorffennaf, 2024 er mwyn diwygio deunydd y gorffeniad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
12.1 FPL/2024/37 – Cais llawn am estyniad i'r ganolfan ddydd i ddarparu llety preswyl yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2023/353 – Cais llawn ar gyfer codi 54 o anheddau newydd, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb 106 i sicrhau tai fforddiadwy.
12.3 FPL/2020/104 - Cais llawn ar gyfer gosod system reoli dŵr wyneb oddi ar y safle er mwyn gwasanaethu’r datblygiad preswyl cyfagos a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio cyfeirnod 31C170E (Cais llawn ar gyfer codi 16 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr) ar dir gyferbyn ag Ystâd Ty’n Llain, Llanfairpwll.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2023/364 – Cais llawn i dynnu’r twnnel polythen presennol, codi adeilad cymunedol newydd i’w ddefnyddio gan y gymuned a’r ysgol, chodi ffensys a chreu ardal barcio newydd yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 VAR/2024/31 - Cais o dan Adran 73A er mwyn diwygio amod (18) (cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd yr ystâd yn y dyfodol) er mwyn cyflwyno'r wybodaeth ar ôl dechrau datblygu’r safle ac amod (22b) (adroddiad o waith archeolegol) er mwyn darparu'r wybodaeth o fewn 18 mis i gwblhau'r gwaith maes archeolegol o ganiatâd cynllunio FPL/2022/46 (codi 12 annedd) ar dir ger Ystâd Bryn Glas, Brynsiencyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 FPL/2024/66 – Cais llawn i godi sied amaethyddol ym Mryncelli Ddu, Llanddaniel.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd (effaith weledol a materion draenio).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Fe wnaeth y Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb personol (ond nid un a oedd yn rhagfarnu) mewn perthynas â chais 7.5.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
7.1 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned
breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 FPL/2023/118 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i leoli 55 o garafanau/cabanau gwyliau sefydlog, newid defnydd yr adeilad allanol i greu lle golchi dillad, derbynfa a swyddfa ynghyd ag adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 FPL/2023/328 – Cais llawn i droi’r capel yn 3
uned wyliau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu
yng Nghapel Jerusalem, Llangoed.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
7.4 FPL/2024/64 - Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn groes i faen prawf 7, ym mholisi TAN 13 yn y cynllun datblygu.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.)
7.5 FPL/2023/61 – Cais llawn i newydd defnydd tir
amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er
mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd
newydd ar y safle, addasu’r fynedfa bresennol i
gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a
chaled ar dir yn Nhaldrwst, Lôn Fain, Dwyran.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.6 FPL/2023/339 – Cais llawn i newid dyluniad yr adeilad a chais ôl-weithredol i osod cyfleuster parod i drin carthion yn y storfa gychod ar dir ger Lane Ends, Llaneilian.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.7 FPL/2024/40 - Cais llawn i ddefnyddio’r iard bresennol i leoli cynwysyddion storio yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod yr aelodau’n derbyn bod y clwb mewn trafferthion ariannol a phe byddai’n cau byddai swyddi’n cael eu colli ynghyd ag adnodd lleol pwysig. Er eu bod yn derbyn bod y safle, yn dechnegol, mewn cefn gwlad agored mae’n edrych yn debycach i safle tir llwyd.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.)
7.8 HHP/2024/56 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 2 Saith Lathen, Tŷ Croes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
6.1 Cais llawn i godi 15 tŷ fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â chreu ffordd fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Roedd Siaradwyr Cyhoeddus yn gysylltiedig â cheisiadau 7.1, 7.4, 7.7 a 12.2.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar eu diwygio i nodi bod y Cynghorydd Robin Williams wedi bod yn bresennol ar gyfer ceisiadau rhif 1, 3 a 4.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/07/2024
Effective from: 24/07/2024
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu dogfen Hunan-asesiad Corfforaethol 2023/24 fel fersiwn terfynol yn dilyn ystyriaeth a sylwadau ar ei gynnwys gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a osodwyd yn Atodiad A a B yn yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2023/24.
· Nodi’r crynodeb ar gyfer cyllidebau wrth gefn 2023/24, fel y nodwyd yn Atodiad C.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH, D a DD.
· Nodi bod balans o £15.694m yn cael ei amcangyfrif ar gyfer balansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2024.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2023/24 fydd yn destun Archwiliad.
· Cymeradwyo dwyn ymlaen £15.499m i 2024/25 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yw £59.337m.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi Adroddiad Effaith Economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a chynnwys yr adroddiad fel ei fod yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa bresennol, y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau.
· Cefnogi’r Arweinydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r materion, heriau a chyfleoedd.
· Cefnogi gweithgareddau parhaus y Cyngor i nodi a sicrhau cyllid allanol i hwyluso gweithgareddau adfywio yn y dyfodol.
· Sicrhau bod Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn defnyddio’r data sydd yn yr Adroddiad Effaith i wneud penderfyniadau gwybodus fel Cyngor llawn i gyflawni Cynllun y Cyngor (2023-2028).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2023/24 ar y ddolen a ganlyn:- Datganiad-or-cyfrifon-Drafft-2023-2024.pdf (llyw.cymru)
· Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor, sef £15.604m.
· Nodi balans y Cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sef £16.778m, a chymeradwyo creu £1.553m o gronfeydd wrth gefn newydd clustnodedig.
· Cymeradwyo, yn ffurfiol, trosglwyddo £2.002m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i Falansau Cyffredinol y Cyngor.
· Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £5.577m.
· Nodi balans cronfa’r CRT, sef £8.189m.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Medi 2024 i Fawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/07/2024
Effective from: 23/07/2024
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cefnogi’r canlynol -
· I ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu pa bynnag wedi ei ddirprwyo i Ddeilydd Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
· Y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.
· Caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei hanfon at yr Arolygaeth Gynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad ei angen oherwydd nad yw amserlen archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).