Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

22/09/2026 - Medium Term Financial Plan 2027/28 - 2029/30 ref: 4127    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2027/28 - 2029/30 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau sydd wedi’u cynnwys ynddo.


22/09/2026 - Change to recycling and waste collections ref: 4129    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r argymhellion canlynol -

·      Parhau i gasglu gwastraff gweddilliol unwaith bob 3 wythnos o 2029, ond drwy gasglu biniau du 180 litr newydd yn hytrach na’r biniau 240 litr presennol.

·      Creu mwy o ofod ar gyfer ailgylchu cyn gynted ag y bo’n ymarferol drwy:

 

·         Gasglu cardfwrdd a phapur gyda'i gilydd ym mocs top y troli ailgylchu.

·         Cynnig opsiynau storio ychwanegol ar gyfer ailgylchu cardfwrdd a/neu blastig caled a chaniau ychwanegol.

·      Cyflwyno ymgyrch i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ailgylchu ac ailddefnyddio.

·      Cynnal ymchwil i ymestyn y deunydd sy’n cael ei gasglu i’w ailgylchu i gynnwys plastig meddal a deunyddiau eraill.

·      Symud ymlaen i ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol am gyllid i Lywodraeth Cymru.

 


22/09/2026 - Annual Treasury Management Review 2025/26 ref: 4126    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/26 ac argymell bod y Cyngor llawn yn ei gymeradwyo yn ei gyfarfod ar 24 Medi 2026.

 


22/09/2026 - Decision on the adoption of the proposed Visitor Levy on Anglesey ref: 4128    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r argymhellion canlynol -

·      Nad yw’r Cyngor yn mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith.

·      Bydd y Cyngor yn monitro, adolygu ac yn ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd fabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol.

·      Bydd y Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â'r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o'r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr o'r fath at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.

 


22/09/2026 - The Executive's Forward Work Programme ref: 4120    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2026 a Mai 2027 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 


22/09/2026 - Housing Revenue Account Budget Monitoring – Quarter 1, 2026/27 ref: 4125    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2026/27.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2026/27.

 


22/09/2026 - Capital Budget Monitoring – Quarter 1, 2026/27 ref: 4124    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2026/27 yn ystod Chwarter 1.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.438m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau cyllido, yn unol ag Atodiad C yn yr adroddiad, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.127m ar gyfer 2026/27.

 


22/09/2026 - Revenue Budget Monitoring - Quarter 1, 2026/27 ref: 4123    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

·      Y sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yn yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2026/27.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2026/27, y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2026/27 yn Atodiadau D a DD.

·      Nodi canlyniadau monitro gwariant y Gronfa Costau Newid ar gyfer 2026/27 yn Atodiad E.

 


22/09/2026 - Cofnodion ref: 4119    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2026 yn gywir.

 


22/09/2026 - Draft Self-Assessment & Performance (Wellbeing) 2025/26 ref: 4122    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) drafft 2025/26 fel “drafft gweithredol” a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei gynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2026.

 


22/09/2026 - Scorecard Monitoring Report - Quarter 1, 2026/27 ref: 4121    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/09/2026 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/09/2026

Effective from: 22/09/2026

Penderfyniad:

Penderfynwyd cytuno i dderbyn adroddiad y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 2026/27 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a gwasanaethau perthnasol yn eu harchwilio er mwyn sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg (ymatebion i ymgynghoriadau); Gofal Cymdeithasol a Llesiant (ymholiadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd o fewn yr amserlen); Tai (ailosod eiddo gwag); Economi (archwilio busnesau bwyd risg uchel); Newid Hinsawdd (cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen a lefelau absenoldeb salwch).