Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

06/07/2022 - Materion Eraill ref: 2872    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


06/07/2022 - Gweddill y Ceisiadau ref: 2873    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

12.1 VAR/2022/36 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio rhif OP/2019/6 (dymchwel hen weithle cemegol a chodi 7 uned fusnes) er mwyn caniatáu amser ychwanegol i gyflwyno’r cais materion a gadwyd yn ôl yn Hen Safle Peboc, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2022/87 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd rhan o hen gae chwarae’r ysgol yn fan chwarae i blant yn Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amod cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3 VAR/2022/3 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (05) (Cynllun Rheoli Tail), (08) (Cynllun Tirlunio), (10) (Strategaeth Lliniaru Goleuadau), (11) (Cynllun Rheoli Coetir), (12) (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (17) (Gwaith Archeolegol), ac (18) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o gais cynllunio rhif FPL/2019/251/EIA (codi uned ddofednod) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion ar ôl cychwyn gwaith datblygu yng Nghae Mawr, Llannerch-y-medd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.5 FPL/2022/46 – Cais llawn ar gyfer adeiladu 12 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol ar dir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.


06/07/2022 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 2871    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

11.1 HHP/2022/163 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Tan y Garnedd, Lôn Fferam Uchaf, Pentraeth

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad.


06/07/2022 - Departure Applications ref: 2870    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


06/07/2022 - Affordable Housing Applications ref: 2869    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


06/07/2022 - Ceisiadau Economaidd ref: 2868    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


06/07/2022 - Cofnodion ref: 2864    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 


06/07/2022 - Applications that will be Deferred ref: 2866    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


06/07/2022 - Ymweliad Safleoedd ref: 2865    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 a 29 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.


06/07/2022 - Applications Arising ref: 2867    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/07/2022

Effective from: 06/07/2022

Penderfyniad:

7.1 OP/2021/10 - Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 10 annedd gyda mynediad, ffordd fynediad fewnol a pharcio cysylltiedig, yn ogystal â manylion llawn y mynediad a’r gosodiad yn Nhyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad a chwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau rhwymedigaethau mewn perthynas â darparu tai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at ddarparu man chwarae priodol oddi ar y safle, yn hytrach na’i ddarparu’n uniongyrchol o fewn y safle.

 

7.2 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn llety gwyliau yn Chwarelau, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

7.3 FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy’r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy 

 

Penderfynwyd gohirio’r cais er mwyn rhoi amser i Swyddogion gymharu’r cais â chais FPL/2019/223 a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor.

7.4         FPL/2021/160 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3) i fod yn fusnes tecawê bwyd poeth (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd ag addasiadau i’r fynedfa i gerbydau yn Bryn Bela, Lôn Sant Ffraid, Trearddur

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.5 FPL/2021/266 - Cais llawn ar gyfer adeiladu 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa i gerbydau, adeiladu lôn newydd ar y safle ynghyd â thirlunio meddal a chaled ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

7.6 FPL/2021/361 – Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, mannau chwarae tu allan, maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.7 FPL/2021/267 – Cais llawn ar gyfer codi caban gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.8 FPL/2021/317 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad tri llawr presennol sy’n cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell wely gyda bwyty a chyfleuster chwaraeon dŵr cysylltiedig ar gyfer gwesteion a maes parcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

7.9 FPL/2022/7 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu’r Maes Carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i osod carafanau teithiol, ynghyd ag adeiladu bloc toiledau/cawodydd ym Maes Carafanau Mornest, Pentre Berw

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais cyfan, yn groes i argymhelliad y Swyddog, oherwydd barnwyd bod elfen y cais a oedd yn ymwneud ag ymestyn y safle carafanau sefydlog yn cydymffurfio â Pholisi TWR 3.

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rheswm a roddwyd dros gymeradwyo dwy ran y cais.

7.10  FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer codi ciosg gwerthu bwyd a diod er mwyn gwerthu hufen iâ, wafflau a diodydd meddal yn Ocean’s Edge, Lôn Isallt, Trearddur Bay

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd barnwyd ei fod yn groes i Bolisi MAN 6 yn y CDLlC.

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rheswm a roddwyd am wrthod y cais.


28/06/2022 - Datganiad o Ddiddordeb ref: 2860    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/07/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

No declaration of interest was received.


28/06/2022 - Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig ref: 2861    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/07/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

None to report.


28/06/2022 - Cost of Living – Discretionary Scheme ref: 2859    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

·         Cymeradwyo darparu £150 i’r grwpiau a nodir yn adran 2.1.1 yn yr adroddiad, a bod cyllideb gwerth £150,000 yn cael eu gweinyddu gan  Adain Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Sir Ynys Môn;

·         Cymeradwyo cyllid caledi i drigolion sy’n symud o lety brys i lety sefydlog:-

Hyd at £300 o gyllid i dalu am gostau bwyd a / neu danwydd wrth symud i lety mwy sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau tanwydd uniongyrchol megis olew. Yn ychwanegol, gellir defnyddio’r cyllid i gefnogi costau dodrefnu. Bydd y cyllid o £50,000 yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol yn seiliedig ar anghenion asesedig.’

·         Cymeradwyo £150 ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch ac sy’n rhentu neu’n berchen llety ar yr Ynys ac sydd wedi’u heithrio o gam un:-

£5,000 i’w ddarparu i Grŵp Llandrillo Menai i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod;

£5,000 i’w ddarparu i Brifysgol Bangor i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod.

·         Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer ail gam y cynllun costau byw ar gyfer trigolion Ynys Môn sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog / cyn-filwyr ac sydd mewn caledi ariannol. Bydd y taliad o hyd at £300 i bob aelwyd sy’n wynebu caledi yn seiliedig ar anghenion asesedig:-

‘£10,000 i’w ddarparu i Leng Brydeinig Ynys Môn a SAFFA i gefnogi cyn-filwyr sy’n wynebu caledi

·         Cymeradwyo’r grŵp canlynol ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn caledi ariannol ac sydd heb fynediad at gyllid caledi ychwanegol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol. Fe all y cyllid gefnogi costau bwyd a thanwydd.

·         Bydd yr agwedd hon yn cefnogi trigolion sydd yn wynebu tlodi er eu bod mewn gwaith. Bydd y taliad hwn o hyd at £300 yn seiliedig ar anghenion asesedig a gellir ei weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·         Bydd yr agwedd hon yn cynnwys pob math o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a bydd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o galedi. 100,000 i’w weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·         Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 Cyngor Sir i gynyddu cyllidebau sefydliadau yn seiliedig ar achosion busnes derbyniol, sy’n dangos yr angen a’r galw.

 


28/06/2022 - Housing Revenue Account Outturn - Quarter 4 2021/22 ref: 2858    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.


28/06/2022 - Capital Outturn 2021/22 ref: 2857    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

·      Nodi sefyllfa alldro drafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 sy’n destun Archwiliad; a

·      Cymeradwyo dwyn ymlaen £11.242m i 2022/23 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriant. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2022/23 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 yw £47.203m.

 


28/06/2022 - Cofnodion ref: 2853    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2022 fel cofnod cywir.

 


28/06/2022 - The Executive's Forward Work Programme ref: 2854    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2022 i Chwefror 2022 fel y’i cyflwynwyd.


28/06/2022 - Revenue Budget Monitoring, Outturn 2021/22 ref: 2856    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

·   Nodi’r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2021/22;

·   Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 y manylir arnynt yn Atodiad C;

·   Nodi sefyllfa’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;

·   Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2021/22 yn Atodiadau D a DD;

·   Nodi balansau ysgolion yn Atodiad E.

 


28/06/2022 - Scorecard Monitoring Report - Quarter 4, 2021/22 ref: 2855    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 28/06/2022 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/06/2022

Effective from: 28/06/2022

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar  y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch4 2022/23, nodi meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

 


24/06/2022 - Rhaglen ref: 2862    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 24/06/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 24/06/2022

Effective from: 24/06/2022

Penderfyniad: