Margaret Thomas

Profile image for Margaret Thomas

Teitl: Cyf-etholwr

Gwybodaeth ychwanegol

·      Disgrifiad o Rôl Aelod o’r Pwyllgor Safonau

Mae Margaret wedi byw yn Ynys Môn drwy gydol ei bywyd ac mae hi’n parhau i fyw ar y fferm deuluol, gan ddilyn ymlaen o’i rhieni.

Mae hi wedi bod yn aelod o Gyngor Tref Llangefni ers 23 o flynyddoedd ac wedi bod yn Faer y Dref bump gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd hi’n cynrychioli’r Cyngor Tref mewn Cyfarfodydd Rhanbarthol Un Llais Cymru a chymuned yr ardal.

Mae Margaret wedi bod yn Aelod ac yn Gadeirydd Bwrdd CAB Ynys Môn yn y gorffennol. Mae hi hefyd wedi bod yn drysorydd cangen RNLI Llangefni ers nifer o flynyddoedd.

Mae hi bob amser yn rhagweithiol ac yn gefnogol o fentrau Cymunedol, digwyddiadau gwirfoddol ac amaethyddol. Mae hi’n falch iawn o’r Iaith Gymraeg a’r diwylliant a threftadaeth Gymreig.

Apwyntiadau pwyllgor

Etholiadau