7 Ceisiadau yn Codi PDF 540 KB
7.1 17C181C – Fferam Uchaf, Llansadwrn
7.2 41LPA1041/FR/TR/CC – Croesffordd Star, Star
7.3 42C6N – Tan y Graig, Pentraeth
7.4 42C188E/ENF – 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 17C181C – Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig, creu mynedfa gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Groesffordd Star, Star
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 42C6N – Cais llawn ar gyfer lleoli 15 siale gwyliau, creu mynedfa newydd i gerbydau a llwybr cerdded ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Tan y Graig, Pentraeth
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.4 42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn cydymffurfio â pholisi TWR2 a heb gytundeb cyfreithiol 106.
(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig I’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).
Cofnodion:
7.1 17C181C – Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig, creu mynedfa gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Peiriannydd Rheoli Datblygiad y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais a’r bleidlais ddilynol.
Siaradwyr Cyhoeddus
Dywedodd Mrs Bethan Roberts (yn siarad yn erbyn y cais) fod yr ymgeiswyr yn byw ac yn rhedeg eu busnes o Plas Llandegfan lle nad oes unrhyw eiddo cyfagos. Nododd fod nifer o siediau ar gyfer da byw wedi eu hadeiladu ym Mhlas Llandegfan yn y gorffennol a bod y perchnogion yn rhedeg eu busnes amaethyddol o ddydd i ddydd o’r fferm hon. Mynegodd nad oes unrhyw un yn byw yn safle’r cais yn Fferam Uchaf a bod risg o fandaliaeth a pheryglon tân ar y safle gyda 200 o wartheg yn cael eu cadw yn y sied. Dywedodd Mrs Roberts ei bod yn siomedig nad oedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gweld y fynedfa i bentref Llansadwrn yn ystod yr ymweliad safle gan ei bod yn ffordd beryglus. Mae cae chwarae i blant wedi ei leoli ar un ochr o’r ffordd sy’n arwain at Lansadwrn ac mae tro lle nad oes modd gweld o’i gwmpas ar yr ochr arall; does dim asesiad risg o’r ffordd fynediad wedi ei gynnal fel rhan o’r cais; bydd rhieni a phlant yn cerdded ar ochr y ffordd wrth fynd i’r cae chwarae. Does gan y briffordd ddim pafin a byddai adeiladu sied da byw fawr ar safle’r cais yn achosi pryder gan y bydd traffig trwm ar y ffordd gul hon wrth i’r sied gael ei hadeiladu ac yn dilyn hynny wrth i beiriannau gario porthiant ac offer amaethyddol i’r fferm ac oddi yno.
Nododd Mrs Roberts ymhellach fod y sied arfaethedig yn siŵr o achosi llygredd ac arogl drwg ynghyd â photensial am bla llygod a phryfaid; does dim prawf mandylledd pridd ynghlwm â’r cais. Nododd y bydd yr eiddo cyfagos yn gorfod dioddef peiriannau trwm yn cludo slyri o’r fferm a gallai achosi llanast ar y ffordd. Cyfeiriodd ymhellach at BS5502 sy’n nodi na ddylai siediau amaethyddol o’r maint yma gael eu hadeiladu o fewn 400m i eiddo preswyl.
Dywedodd Ms Sioned Edwards (yn siarad o blaid y cais) fod yr ymgeiswyr yn dymuno ehangu eu menter cig eidion o fewn y busnes ffermio. Ar hyn o bryd, mae’r ymgeiswyr yn berchen ar 700 o wartheg mewn pum gwahanol lleoliad a’r bwriad ganddynt yw ail-drefnu eu busnes amaethyddol i fod yn dair uned ffermio lle cedwir gwartheg cig eidion gan rhyddhau’r ddau leoliad arall i storio offer a chynnyrch amaethyddol. Mae’r cais cynllunio yn un ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer 200 o wartheg cig eidion dros fisoedd y gaeaf. Mae’r ymgeiswyr am i’r fenter busnes sydd ganddynt weithio mewn ffordd fwy effeithiol. Dywedodd Ms Edwards fod yr ymgeiswyr wedi cydweithio’n ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7