Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Chwefror, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Kenneth Hughes a ymunodd â'r cyfarfod yn ddiweddarach am 3:10 p.m.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Ann Griffith - Diddordeb Rhagfarnus yng nghais 6.3 a Diddordeb Personol yng nghais 7.4

Y Cynghorydd Victor Hughes – Diddordeb Personol yng nghais 7.3 a Diddordeb Rhagfarnus yng nghais 13.1

3.

Cofnodion Cyfarfod 6 Ionawr, 2016 pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Ionawr, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle 20 Ionawr, 2016 pdf eicon PDF 123 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Ionawr a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4, 10.1, 12.1, 12.2 a 12.4

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 321 KB

6.1 39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

6.2 42C127B/RUR – Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir

 

6.3 45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1     39C561 / FR - Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2     42C127B / RUR - Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod gwaith trin preifat ar dir yn Fferm Fry, Rhoscefnhir

 

Argymhellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei dynnu oddi ar restr y Pwyllgor hyd nes y bydd Swyddogion yn barod i’w gyflwyno ar gyfer ystyriaeth ffurfiol gan y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais a bwrw ymlaen yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

6.3     45LPA605A / CC - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer codi 17 o anheddau newydd, dymchwel y bloc toiledau presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch

 

Argymhellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei dynnu oddi ar restr y Pwyllgor hyd nes y bydd Swyddogion yn barod i’w gyflwyno ar gyfer ystyriaeth ffurfiol gan y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais a bwrw ymlaen yn unol ag argymhelliad y swyddog.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 718 KB

7.1 19C1038F – Ffordd Ty’n Pwll, Caergybi

 

7.2 31C431 – Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

7.3 36C344 – Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

 

7.4 44C250A – Tai Cyngor , Fourcrosses, Rhosgoch

 

7.5 44C320 - Gorslwyd Fawr, Rhosybol 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1     19C1038F - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ffordd Ty’n Pwll, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ac wedi gofyn hefyd am ymweliad â’r safle.  Yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr   2016, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr, 2016.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Alaw Griffith, Siaradwraig Gyhoeddus, a oedd yn cefnogi'r cais a gafodd ei ddatblygu yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd, Grŵp Cynefin a’r Adran Dai i gwrdd ag angen a nodwyd am annedd 3 ystafell wely yng Nghaergybi. Cyfeiriodd at newidiadau a wnaed i'r cynllun i liniaru effeithiau ar y briffordd. Mae'r cynnig yn darparu ar gyfer dau le parcio o fewn y plot ac ni fydd yn gwaethygu’r problemau parcio cyfredol ar hyd Ffordd Ty'n Pwll. Dywedodd fod cadarnhad wedi ei dderbyn gan yr Adran Briffyrdd nad oedd Ffordd Ty'n Pwll yn Llwybr Diogel dynodedig.

 

Holodd y Pwyllgor y Siaradwraig er mwyn cael eglurhad ar fanylion y mynediad i'r datblygiad arfaethedig a'r problemau posib o ran ceir yn dod allan i Ffordd Ty'n Pwll gan achosi peryglon i gerddwyr.

 

Siaradodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, Aelod Lleol, am ei bryderon ynghylch y cynnig  oherwydd maint bychan y safle, defnydd traffig a cherddwyr o Ffordd Ty'n Pwll a’r ystyriaethau diogelwch yn sgil hynny, problemau parcio ac effeithiau posib ar fwynderau trigolion sy’n byw union gyferbyn â Ffordd Ty’n Pwll.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y derbynnir yr egwyddor o ddatblygiad preswyl gan fod safle'r cais yn dir gwag mewn lleoliad canolog yng Nghaergybi sydd wedi ei amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl.   Roedd y pryderon lleol ynglŷn â'r cais yn ymwneud â thraffig a diogelwch cerddwyr. Mae'r rhain wedi cael eu hystyried gan yr Adran Briffyrdd sydd o’r farn nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod yr effeithiau ar y briffordd yn ddigon andwyol i gyfiawnhau gwrthod. Mae cynllun bloc wedi ei gyflwyno gyda'r cais sy'n dangos bod safle’r cais yn ddigonol ar gyfer y cynnig ac nid ystyrir y byddai'r annedd arfaethedig yn anghydnaws â’r tai eraill yn yr ardal gyfagos.

 

Mynegodd rhai Aelodau o'r Pwyllgor bryderon ynghylch effaith y cynnig ar y briffordd a thraffig a’r  effeithiau, o ganlyniad, ar ddiogelwch cerddwyr yr oeddent yn credu eu bod yn annerbyniol. ‘Roedd yr Aelodau eraill o’r farn na fyddai ychwanegu un annedd yn y lleoliad hwn yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol o ystyried y bydd yn cael ei leoli mewn ardal breswyl ac yn gyfagos i garejys. Gan y bydd yr annedd newydd arfaethedig yn gallu gwneud darpariaeth ar gyfer cerbydau o fewn cwrtil y plot, roeddent yn teimlo na fyddai'n ychwanegu at  broblemau parcio.

 

Mewn perthynas â symudiadau i’r briffordd ac ohoni, cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd nad yw'r sefyllfa yn ddelfrydol ond bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt Priffyrdd ac yng nghyd-destun y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni roddwyd sylw i unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfafod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni roddwyd sylw i unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 214 KB

10.1 42C247 – Iard Gwel y Don, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 42C247 - Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Gwel y Don Yard, Pentraeth

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond y mae’r Swyddog yn argymell ei ganiatáu.

 

Siaradodd Mr Elliot Riley-Walsh, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd fod y cynnig mewn ardal breswyl ac yn un ar gyfer cartref modern i deulu, bod iddo ôl troed carbon isel ac na fyddai’n achosi unrhyw niwed gweledol neu niwsans. Yn hytrach, byddai’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o ran polisi defnydd tir, mwynderau ac ystyriaethau creu traffig / mynediad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 262 KB

11.1 38C219G – Cae Mawr, Llanfechell

 

11.2 38C219H/LB – Cae Mawr, Llanfechell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 38C219G - Cais llawn i newid defnydd a newidiadau ac estyniadau i'r adeilad allanol presennol i greu annedd yn Cae Mawr, Llanfechell

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol - fel y diffinnir hynny yng Nghyfansoddiad y Cyngor - fel cydymgeisydd.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2 38C219H / LB - Cais Adeilad Rhestredig i newid defnydd ac addasu ac ymestyn yr adeilad allanol presennol i greu annedd yn Cae Mawr, Llanfechell

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol - fel y diffinnir hynny yng Nghyfansoddiad y Cyngor - fel cydymgeisydd.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 674 KB

12.1 10C118J/VAR – Bryn yr Odyn, Soar

 

12.2 14C171H/ENF – Fferm Stryttwn,  Ty’n Lon

 

12.3 19C1147A – St.David’s Priory, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

12.4 28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 10C118J / VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod sy'n pennu'r cynlluniau a gymeradwywyd dan ganiatâd 10C118H / MIN er mwyn gwneud newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 10C118A / RE i ymgorffori newidiadau i is-orsafoedd, tŷ monitro cyfarpar, gwrthdroyddion, newidyddion , adeiladu offer switsio, mesur diogelwch gan gynnwys camerâu teledu cylch cyfyng a newidiadau i ffensys diogelwch ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Siaradodd Mr Richard Jenkins, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd fod y newidiadau a benodwyd ganddo yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad llwyddiannus a diogel y safle yr oedd  Lightsources wedi ei gaffael a'i ddatblygu ar ôl derbyn y caniatâd gwreiddiol. Mae'r newidiadau yn rhai safonol; nid ydynt yn achosi unrhyw effeithiau ychwanegol at y rhai a ystyriwyd yn wreiddiol ac oherwydd gostwng rhai agweddau ar yr isadeiledd, mae'r effaith yn llai. Mae'r Swyddog Tirwedd yn fodlon bod y newidiadau yn addas ac ni chafwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd neu ymgyngoreion. Mae'r ymgeisydd mewn cyswllt â'r tirfeddiannwr i gytuno ar drwydded barhaol ar gyfer pori defaid, ac yn dilyn y gwaith adeiladu, cytunwyd ar gamau i drwsio’r ffyrdd gyda'r Adran Priffyrdd ac mae’r gwaith hwnnw bellach wedi ei gwblhau wrth fodd yr Adran.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod trigolion Soar yn teimlo eu bod yn cael cam ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Nid ydynt yn gwrthwynebu ynni adnewyddadwy ond maent wedi syrffedu gyda datblygiadau ac yn teimlo nad oes dim ar eu cyfer yn lleol ac nid oes unrhyw waith yn lleol. Maent wedi gorfod dygymod â llawer o anghyfleustra - traffig adeiladu’n mynd a dod a difrod i ffyrdd, gwrychoedd a ffosydd a chost i'r pwrs cyhoeddus o ganlyniad. Mae trigolion yn teimlo ei fod yn adlewyrchu diffyg ystyriaeth o bobl leol a’r broses gynllunio gan ei fod yn gais ôl-weithredol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A (yn hytrach nag Adran 73) o'r Ddeddf Gynllunio gan fod y datblygiad eisoes wedi ei gwblhau. Nid ystyrir bod angen AEA ar gyfer y safle. Mae’r egwyddor o ddatblygu eisoes wedi ei sefydlu oherwydd bod caniatâd cynllunio wedi ei roi’n flaenorol ac mae’r safle’n weithredol. Cais yw hwn i reoleiddio'r datblygiad trwy amrywio amod yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol a oedd yn dweud bod rhaid gweithredu’r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.  Nid ystyrir bod y bwriad yn achosi niwed annerbyniol i dirwedd, bioamrywiaeth neu dreftadaeth ddiwylliannol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffiths ei phleidlais).

 

12.2 14C171H / ENF - Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 193 KB

13.1 42C237D/VAR – Plas Tirion, Clai Mawr, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 42C237D / VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (07) (yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio 42C237 er mwyn newid y cynllun gosodiad yn Helens Crescent, Pentraeth

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes ac y mae argymhelliad i’w ganiatáu.

 

Wedi datgan diddordeb rhagfarnus yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Victor Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y pwyntiau a godwyd yn y llythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd (‘roedd 1 llythyr arall o wrthwynebiad wedi cael ei dynnu’n ôl) ers cymeradwyo’r cais ar 6 Ionawr ond cyn diwedd y dyddiad ar gyfer derbyn sylwadau wedi cael eu hystyried, ond nad ydynt yn newid yr argymhelliad o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.