Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 11eg Mai, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr ymddiheuriadau fel y nodir hwy uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn: -

 

Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.2.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a

diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. Victor Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.4. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.2.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Vaughan Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn

perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 70 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 13 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 20 Ebrill, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd a gynhaliwyd ar 20 Ebrill, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthyas â cheisiadau 10.1, 10.3 a 12.2.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 215 KB

6.1  20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.2  39C561/FR – The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 20C102L/EIA/RE Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch.

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn,

gadawodd y Cynghorydd W. T. Hughes y Gadair ar gyfer y drafodaeth a’r

penderfyniad ar y cais. Y Cynghorydd T. V. Hughes, sef yr Is-gadeirydd a

etholwyd ar gyfer y cyfarfod hwn, aeth i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymweliad safle a drefnwyd ar gyfer 16 Mawrth, 2016 wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd hyd nes y cafwyd canlyniad trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau posibl i liniaru’r effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos. Mae'r trafodaethau'n parhau ac ystyrir y gallai olygu newidiadau o bwys i’r cais. Argymhellwyd gohirio rhoi sylw i’r cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 39C561 / FR / TR Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu

mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau'n parhau gyda

Llywodraeth Cymru ynghylch materion priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn. Y farn oedd y dylid gohirio rhoi sylw i’r cais oherwydd y gallai canlyniad y trafodaethau ddylanwadu ar argymhelliad yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 564 KB

7.1  16C202 – Capel Salem, Bryngwran

7.2  31C210H – Graig, Lôn Graig, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 16C202 Cais llawn i newid defnydd a wneir o gapel i fod yn ddwy

annedd sy'n cynnwys balconi yng Nghapel Salem, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny ar 20 Ebrill, 2016.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bob Parry OBE fel Aelod Lleol at ei resymau am ofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle ac yn arbennig at argaeledd lleoedd parcio ar y safle. Holodd a oedd yr awdurdod priffyrdd yn fodlon gyda’r lleoedd parcio a oedd ar gael ar y safle. Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd fod dau lecyn parcio yn ddigonol ar gyfer y safle sy'n cydymffurfio â Safonau Parcio'r Awdurdodnid oes unrhyw gyfleuster parcio ar y safle ar hyn o bryd. Er ei fod yn gwerthfawrogi bod angen datblygu’r hen gapel, dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o'r farn fod angen gosod amodau ar gyfer diogelwch plant sy'n defnyddio'r llwybr troed sy'n rhedeg ar hyd ochr safle’r cais a'r fynedfa i gerbydau. Dywedodd hefyd y dylid cadw’r rheiliau o flaen yr hen gapel oherwydd y gwahaniaeth rhwng lefelau tir y Cyngor Sir a thir y capel. Byddai hyn yn diogelu unrhyw blant sy'n cerdded i'r ysgol neu aelodau o'r cyhoedd rhag llithro wrth gerdded ger y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry fod angen gosod amod arall ar unrhyw

ganiatâd mewn perthynas â’r pyst pren ar y darn o dir ger y fynwent wrth

safle'r cais. Mae angen eu hailosod i atal ceir rhag parcio ar y tir. Byddai’r llain hwn o dir yn caniatáu gwell gwelededd i’r plant sy’n dod o'r ysgol groesi'r ffordd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans i’r Aelod Lleol a oedd yn gywir yn dweud bod plentyn wedi cael ei anafu ar Ffordd Salem ym Mryngwran y llynedd er nad oedd cofnod o unrhyw ddigwyddiad ar gofrestr yr Adran Briffyrdd ers dros 20 mlynedd. Ymatebodd y Cynghorydd Parry bod y digwyddiad wedi’i gofnodi yng nghofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned Bryngwran; roedd Aelod o’r Cyngor Cymuned wedi gweld y ddamwain pan drawyd y plentyn gan gar.  Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod cofnodi digwyddiadau ar gronfa ddata’r Adran Briffyrdd yn dibynnu ar ddamweiniau’n cael eu hadrodd i’r Heddlu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid rhoi ystyriaeth i gael 'marciau coch' ar y ffordd i rybuddio traffig bod plant yn croesi o’r ysgol ger safle'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd modd gorfodi amodau

cynllunio ar ganiatâd pan nad yw'r tir dan sylw ym mherchnogaeth neu dan reolaeth yr ymgeisydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynghylch mantais gynllunio bosibl i'r gymuned. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.

Departure applications

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 13C190 Cais amlinellol i godi 5 annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Sarn Gannu, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd gan Ynys Môn ond gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Rhys Davies i annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr Davies fod y mynediad i’r safle trwy’r fynedfa sydd yno ar hyn o bryd ac sy'n gwasanaethu stad breswyl Llwyn yr Eos a bod y ffordd wedi’I mabwysiadu. Nododd y bydd un o'r 5 annedd yn annedd fforddiadwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn dderbyniol o dan

ddarpariaethau Polisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a’i fod yn ystyried na fydd yr anheddau’n effeithio ar fwynderau’r anheddau cyfagos na’r ardal leol nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y briffordd.  Dywedodd ei fod yn argymell caniatáu yn amodol ar arwyddo cytundeb Adran 106 ar gyfer darparu un uned fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd T. V. Hughes rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 31C170D Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais wedi’i leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll yn y Cynllun Lleol er ei fod yn gyfagos iddi. O’r herwydd roedd y cais wedi cael ei hysbysebu fel un a oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol. Roedd dau o'r Aelodau wedi gofyn am i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, sef Aelod Lleol, ei fod ef a'r

Cynghorydd A. Mummery wedi gofyn am ymweliad â'r safle er mwyn i'r

Pwyllgor weld y safle drosto’i hun ac roedd yn gobeithio y byddai’r materion a godwyd gyda'r adran ar gael erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd y goblygiadau i ddiogelwch y ffordd, pryderon trigolion lleol, draenio a dwysedd a nifer yr anheddau y bwriedir eu codi.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ymweliad â’r safle ac eiliodd y

Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel yr oedd yr Aelodau Lleol wedi gofyn ac am y rhesymau a roddwyd.

 

10.3 35C313A / ENF Cais ôl-weithredol i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Carreg Wen, Penmon

 

Cyflwynwyd y cais i'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 215 KB

11.1  36C294A – Llain Wen, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 36C294A Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i

gerbydau ar dir yn Llain Wen, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr

ymgeisydd yn ffrind agos i 'swyddog perthnasol' fel y diffinnir hynny ym

mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd T. V. Hughes fod hwn yn gais

mewnlenwi ac nad oedd yn gwrthwynebu. Fodd bynnag, dywedodd fod

trigolion a’r Cyngor Cymuned lleol yn bryderus oherwydd nifer y datblygiadau ym mhentref Llangristiolus. Ymataliodd ei bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  22C228 – Ysgol Gynradd, Llanddona

12.2  34C694 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

12.3  43C77G/VAR/ENF – Gerlan,Pontrhydybont

12.4  45C432C – Graig Fawr, Dwyran

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 22C228 Cais llawn i newid defnydd adeilad o hen ysgol gynradd i

neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â

gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd Lewis Davies y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Aelodau Lleol yn cefnogi'r cais ond nododd nad yw cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn dod i ben tan 16 Mai, 2016.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.

 

12.2 34C694 Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd T Victor Hughes y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r

penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad ar dir y Cyngor.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Davies, un o gefnogwyr y cais, i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd Mr Davies fod y cais wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad a bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn hefyd wedi cefnogi'r cais mewn egwyddor trwy roi arian grant tuag at y prosiect. Bydd y prosiect yn adfywio'r gymuned ar gyfer pobl ifanc fel y gallant fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y Parc Chwaraeon Trefol. Mae Pwyllgor y Parc Chwaraeon Trefol wedi cymryd drosodd y Parc Sglefrio blaenorol a leolwyd ar y safle hwn. Roedd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau cyffuriau ac alcohol wedi bod yn bryder i drigolion lleol yn yr hen barc sglefrio. Dywedodd Mr Davies fod Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol wedi bod mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch y problemau hyn a bwriedir gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle fel y gellir monitro drwy wahanol dechnolegau TG.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, sef Aelod Lleol a Chadeirydd y Parc Chwaraeon Trefol, y byddai'n datgan diddordeb sy'n rhagfarnu ac yn gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais hwn ar ôl iddo ddweud gair fel aelod lleol. Roedd y Cynghorydd Rees yn dymuno diolch i Mr. Davies am y weledigaeth hon i ddatblygu Parc Chwaraeon Trefol o’r fath ar safle’r hen barc sglefrio yn Llangefni. Roedd o'r farn y bydd y Parc Chwaraeon yn gaffaeliad mawr i Dref Llangefni a’r Ynys gyfan. Gadawodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod wedi hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol hefyd yn dymuno

llongyfarch Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol am y weledigaeth o greu cyfleuster o'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 184 KB

13.1  38C219H/LB – Cae Mawr, Llanfechell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 38C219H / LB Cais adeilad rhestredig i newid defnydd ac addasu ac ymestyn yr adeilad allanol presennol i greu annedd yn Cae Mawr, Llanfechell

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2016 pan nodwyd bod hwn yn gais a wnaed gan 'swyddog perthnasol' fel y diffinnir hynny yng Nghyfansoddiad y Cyngor dan baragraff 4.6.10.2. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Ers y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016 dywedodd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglŷn â dyluniad diwygiedig tri agoriad bwaog i ddrychiad blaen yr adeilad cyfredol yn hytrach na blocio i ffwrdd rannau isaf yr agoriadau bwaog. Yr argymhelliad yw caniatáu ond byddai angen cadarnhad gan CADW gan fod yr adeilad yn un rhestredig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac

eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei anfon ymlaen at CADW i'w

ystyried.