Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel yr uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:
Fe wnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Fe wnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â chais 6.1 ar sail y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt yn Maniffesto Plaid Cymru.
Fe wnaeth y Cynghorydd Victor Hughes ddatgan diddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3.
Fe wnaeth Mr John Alwyn P. Rowlands, Swyddog Priffyrdd ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6 |
|
Cofnodion Cyfarfod 11 Mai, 2016 PDF 441 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:
· 11 Mai, 2016 · 12 Mai, 2016 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 11 Mai, 2016 a 12 Mai, 2016 (cyfarfod i ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Ymweliadau Safle 18 Mai, 2016 PDF 119 KB Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai yna Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 12.1, 12.5, a 12.6 |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 215 KB 6.1 20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch
6.2 39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 13 o dyrbinau gwynt gyda 9 tyrbin gwynt 900kw hyd at 55m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws, ac uchder i frig y llafn o hyd at 79m, a 4 tyrbin gwynt 900kw hyd at 45m o uchder at yr hwb, diamedr rotor o hyd at 52m ar ei draws ac uchder i frig y llafn o hyd at 70m, ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i'r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrid (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch
Am ei fod wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W.T. Hughes y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried a gwneud penderfyniad ar y cais.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau wedi digwydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau posib er mwyn lliniaru effeithiau’r cynllun ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gerllaw, a bod y trafodaethau wedi dwyn ffrwyth ac wedi arwain at gynlluniau diwygiedig. Dywedodd y Swyddog y disgwyliai y gellir gwneud trefniadau i gynnal ymweliad safle ym mis Gorffennaf.
Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn aildrefnu ymweliad safle.
6.2 39C561/R/TR – Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ger ‘The Lodge’, Ffordd Caergybi, Porthaethwy
Penderfynwyd gohirio rhoi ystyriaeth i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 31C170D – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll
7.2 42C127B/RUR – Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir
7.3 45C432C – Graig Fawr, Dwyran
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 31C170D – Cais llawn i Godi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll
Adroddwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll yn y Cynllun Datblygu, er bod y safle’n ffinio â’r ffin hon, felly cafodd y cais ei hysbysebu fel un sy’n tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu. Mae dau o’r Aelodau Lleol wedi gofyn hefyd i’r Pwyllgor wneud y penderfyniad ar y cais. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais a digwyddodd yr ymweliad safle ar 18 Mai, 2016.
Anerchodd Mr Gwynne E. Owen, Siaradwr Cyhoeddus, y Pwyllgor fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais a chyfeiriodd at ffotograffau a oedd wedi’u cynnwys fel rhan o’r sylwadau a wnaed ar y cais, sy’n dangos y tagfeydd o ran parcio a thraffig yn ardal Ffordd Penmynydd – mae’r problemau hyn yn arbennig o ddrwg ar y penwythnos sy’n codi materion ynghylch diogelwch y briffordd. Mae’r ffordd yn beryglus a gallai ddweud hynny o’i brofiad ei hun. Mae’r diffyg gwelededd ar gornel y gyffordd yn beryglus. Mae palmant o gornel y bont mewn fersiwn flaenorol o’r cais wedi cael ei dynnu allan erbyn hyn. Cyfeiriodd Mr Owen at y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru sy’n egluro cyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â diogelwch y ffordd, ac nid yw adroddiad y Swyddog yn cyfeirio ati. Pryder arall i breswylwyr yr eiddo cyfagos yw llifogydd; mae preswylwyr yr eiddo ar Lôn Dyfnia wedi profi dŵr yn dod i mewn i’w cartrefi ddwywaith. Cynigir ffos gerrig yn y cais diweddaraf ond nid yw’r cais yn sôn ai’r datblygwyr ynteu’r trethdalwr fyddai’n gyfrifol am ei chynnal a’i chadw. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan Mr Owen ynghylch perchnogaeth y tir a fydd yn cynnwys y ffos gerrig a fwriedir. Dywedodd Mr Gwynne Owen ei fod ar ddeall, ond nid oedd yn hollol sicr, fod y caeau tu hwnt yn perthyn i berchennog y datblygiad a bod hynny hefyd yn destun pryder yn nhermau datblygiad pellach posib yn y dyfodol. Dywedodd Mr Owen ei bod yn briodol cymryd ymagwedd holistaidd yn y cyswllt hwn gan gofio’r posibilrwydd o ddatblygiadau ychwanegol yn yr ardal a’i effeithiau.
Siaradodd Mr Rhys Davies, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd ei bod yn bwysig nodi y bydd y mynediad i’r datblygiad yn digwydd oddi ar Lôn Dyfnia ac nid o Lôn Penmynydd. Fel rhan o’r cais, cynigir gwneud gwelliannau i Lôn Penmynydd gan gynnwys adeiladu troedffordd, er nad yw’r datblygwr yn ystyried bod hyn yn angenrheidiol gan nad yw’r mynediad i’r datblygiad o Lôn Penmynydd. Mae’r datblygwr wedi cyfaddawdu ar hyn. Mae wedi treulio dros flwyddyn yn llunio’r cais ac mae’r cais wedi bod yn destun trafodaethau helaeth gyda swyddogion ynglŷn â ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 23C334 – Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau a gosod tanc septig ar dir ger Tŷ Newydd, Maenaddwyn
Dynodwyd y cais hwn fel cais 12.4 ar yr agenda ond fe’i ystyriwyd o dan yr adran hon gan fod y cais yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol fel y diffinnir gan Gyfansoddiad y Cyngor ac o ganlyniad fe’i cyflwynir i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gyfer ei benderfynu. Mae’r cais cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir safle’r cais yn blot mewnlenwi clir a'i fod felly’n dderbyniol o ran cydymffurfiaeth â gofynion Polisi 50. Mae digon o bellter rhwng y cynnig arfaethedig ac eiddo presennol fel na achosir niwed i amwynder deiliaid yr eiddo hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
12.1 11C567A – 24 Awelfryn, Amlwch
12.2 19LPA37E/CC – Bloc Cybi, Caergybi
12.3 19C845J/VAR – Holyhead Hotspurs, Caergybi
12.4 23C334 – Ty Newydd, Maenaddwyn
12.5 30C302M – Gwesty Plas Glanrafon, Benllech
12.6 39C176C – Gogarth, Ffrodd Cadnant, Porthaethwy
12.7 46C499A – Fron y Graig, Ffordd Ravenspoint , Trearddur
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 11C567A – Cais llawn i godi dau dŷ pâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 24 Awelfryn, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Cafwyd cais gan y Cynghorydd W.T.Hughes, un o’r Aelodau Lleol, am ymweliad safle fel bod yr Aelodau yn gallu cael gwell dealltwriaeth o’r pryderon lleol mewn perthynas â pharcio a gor-ddatblygu. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Gofynnodd Mr David Rothwell, a oedd wedi’i gofrestru i annerch y Pwyllgor fel Siaradwr Cyhoeddus ar y cais hwn, a allai fanteisio ar y cyfle i wneud hynny yn y cyfarfod hwn gan ei fod wedi teithio’n benodol i’r diben hwnnw. Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, petai Mr Rothwell yn penderfynu siarad yn y cyfarfod hwn, y byddai’n gwneud hynny unol â’r ddarpariaeth Siarad Cyhoeddus yng Nghyfansoddiad y Cyngor, sef y bydd yn ildio’r cyfle i wneud hynny pan fydd y cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Siaradodd Mr David Rothwell o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn cael ei yrru’n bennaf gan anghenion teuluol a bod y tŷ ar gyfer ei ferch a fydd yn priodi dyn ifanc o Amlwch. Byddai’r datblygiad yn ei galluogi i gael cartref am bris rhesymol. Bydd y deunyddiau ar gyfer y datblygiad yn cael eu prynu’n lleol ac yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd contractwyr Cymreig yn cael eu defnyddio. Mae gan y safle ganiatâd ar gyfer annedd sengl tair ystafell wely ac nid yw’r cais yn addasiad sylweddol o hynny o ran siâp, maint na ffurf ond y cynnig yw rhannu’r eiddo er mwyn darparu annedd i’w ferch gyda’r ail annedd i gael ei werthu am bris y farchnad. Mae dau le parcio wedi eu clustnodi ar gyfer pob eiddo sy’n bodloni polisi’r llywodraeth. Dywedodd Mr Rothwell ei fod wedi bwriadu ysgrifennu at y trigolion lleol er mwyn cadarnhau’r cynnig ac er mwyn tynnu sylw at y ffaith y byddai ar gael am sgwrs o ran lleihau’r effaith yn ystod y gwaith adeiladu gan gynnwys darparu lle parcio ar gyfer cerbydau gweithgynhyrchu.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.2 19LPA37E – Cais llawn i osod ffens ddiogelwch newydd y tu ôl i'r wal derfyn ar hyd Ffordd Ynys Lawd ym Mloc Cybi, Caergybi
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T.Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 19C845J/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 19C845E (lleoli tŷ clwb) er mwyn caniatáu estyniad i'r cyfnod pryd gellir lleoli'r tŷ clwb yn Hotspurs Caergybi, Caergybi
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Cynigiodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 28C116U – Cais o dan Adran 73A i amrywio rhag-amodau (05) samplau o ddefnyddiau toi, (06) disgrifiadau masnachol o ddeunyddiau gorffen, (11) ffordd y stad, (12) cynnal a chadw'r fynedfa a ffordd y stad, (13) sŵn, ( 14) cynllun draenio, (15) systemau draenio cynaliadwy ar benderfyniad apêl cyfeirnod APP \6805\A\07\2053627 er mwyn caniatáu ar gyfer eu rhyddhau ar ôl dechrau'r gwaith ar y safle, ynghyd â dileu amod (16) tai fforddiadwy yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog
Cynghorwyd y Pwyllgor bod apêl wedi’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol dyddiedig 8 Mawrth, 2016 yn gwrthod cais cyfeirnod 28C116U yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.
|