Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Rhagfyr, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod newu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.4 ond dywedodd ei fod wedi cael cyngor gan Adran Gyfreithiol y Cyngor a Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ei bod yn briodol iddo gymryd rhan yn y mater hwn.

 

Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 7.1.

 

Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.1.

 

Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.1.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.3.

 

Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb yng nghyswllt cais 6.4 a dywedodd y byddai'n gadael y Siambr ar gyfer y drafodaeth ar y cais.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2ail Tachwedd, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 29 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 and 7.4.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 694 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.2  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

6.3  34C681 – Stâd Ty’n Coed, Llangefni

6.4  36C338A – Ysgol Henblas, Llangristiolus

6.5  45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm area solar 49.99MW ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

(Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllty y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W T Hughes ac R O Jones y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r penderfyniad arno.)

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 23C280F - Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro, ynghyd â chreu pwll slyri yn Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 34C681 - Cais amlinellol ar gyfer codi 8 annedd a 2 annedd fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi'u cadw'n ôl, ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir y tu cefn i Stad Coed Tyn, Llangefni

 

(Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r penderfyniad arno.)

 

PENDERFYNWYD y dylid ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.4 36C338A - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r bleidlais arno.)

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.5 45C468 - Cais llawn i addasu adeilad allanol i greu annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau, gosod gwaith trin pecyn ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecoleg yn Bodrida Bach, Brynsiencyn

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 694 KB

7.1  15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

7.2  15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth

7.3  25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerchymedd

7.4  39C561/FR/TR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

7.5  44C102A – Hazelbank, Rhosybol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 15C215C - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

 

(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd T. Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch).

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i'r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 19 Hydref, 2016. Yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 penderfynwyd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddog Cynllunio yn parhau i fod o’r farn bod y plot yn weledol ar wahân i bentrefan Llangadwaladr gan olygu y byddai’n ymwthiad annymunol y y cefn gwlad ac y byddai'n erydu cymeriad a harddwch naturiol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nododd y byddai’n anodd gwrthod unrhyw ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol ar y cae; byddai hyn yn cael effaith andwyol ar yr ardal leol. ‘Roedd y Swyddog yn argymell gwrthod.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd K P Hughes ei benderfyniad blaenorol i gefnogi'r cais a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y sylwadau yn y cyfarfod diwethaf a oedd yn dweud bod Llangadwaladr yn bentref rhestredig ac y gellir cymeradwyo plotiau unigol a dywedodd bod patrwm o anheddau o'r fath eisoes yn bodoli yn y pentref. Eiliodd y cynnig i gymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y byddai'r cais hwn yn ymwthio i’r cefn gwlad a chynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. Yn dilyn y bleidlais : -

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir gan y Swyddogion.

 

7.2 15C30H / FR - Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau presennol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol, ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth

 

Cyflwywnyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 16 Tachwedd, 2016.

 

Siaradodd yr ymgeisydd, Mr Jeff Hughes o blaid y cynnig. Dywedodd Mr Hughes fod y Llywodraeth wedi gofyn i ffermwyr arallgyfeirio yn y 1980au hwyr. Yn dilyn trafodaeth gydag ADAS dywedodd eu bod wedi ystyried agor safle ar gyfer carafanau sefydlog yn Fferm Pen y Bont. Awgrymodd yr awdurdod cynllunio na fyddai safle ar gyfer carafanau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 314 KB

11.1  23C339 – Tyn Llidiart, Talwrn

11.2 48C197 – Penclegir, Gwalchmai

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 23C339 - Cais llawn i addasu adeilad allanol i greu dwy annedd yn Tyn Llidiart, Talwrn

 

Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeiladau allanol i greu anheddau. Mae’r Adroddiad Strwythurol yn cadarnhau bod yr adeilad presennol yn strwythurol gadarn ac yn addas ar gyfer ei addasu.

 

Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2 48C197 - Cais llawn i addasu adeilad allanol yn annedd sy'n cynnwys balconi ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Penclegir, Gwalchmai

 

Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael ei archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeilad i greu anedd ac ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol o fewn y cyd-destun polisi hwn.

 

Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 325 KB

12.1  19LPA1030/CC – Ysgol Santes Fair, Ffordd Longford, Caergybi

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 19LPA1030 / CC - Cais llawn ar gyfer lleoli dosbarth symudol yn Ysgol Gynradd y Santes Fair, Heol Longford, Caergybi

 

Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan ei fod yn gais yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.