Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb a nodir uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb isod:
Gwnaeth y Cynghorydd Richard Owain ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1
Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 7.2 ond dywedodd y byddai’n siarad ar y mater fel Aelod Lleol.
Gwnaeth y Cynghorydd Victor Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 7.3 a dywedodd ei fod wedi derbyn cyngor gan Adran Gyfreithiol y Cyngor a chan Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dweud ei bod yn briodol iddo gymryd rhan yn y mater hwn.
Gwnaeth y Prif Swyddog Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.3 |
|
Cofnodion Cyfarfod 7 Rhagfyr, 2016 PDF 128 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir yn amodol ar y newidiadau isod mewn perthynas â chais 7.2 –
• Bod y Cynghorydd Ann Griffith wedi sefyll i lawr fel Cadeirydd ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais a’i bod wedi annerch y cyfarfod ar y mater hwn fel Aelod Lleol yn unig.
• Mewn perthynas â’r sylwadau yr oedd wedi eu gwneud fel Aelod Lleol, yr hyn a ddywedodd oedd bod y tir o gwmpas y safle dan ddŵr ac fel môr ond nad oedd y ffermdy na’r lôn at y fferm na’r cae penodol hwnnw yn dioddef llifogydd. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o’r ymweliadau â safleoedd a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr, 2016. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.2 |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 621 KB 6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch
6.2 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch
6.3 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llanerchymedd
6.4 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
6.5 45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B/EIA/RE – 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW, ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Richard Owain Jones allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.
Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y gellir asesu’r wybodaeth bellach a dderbyniwyd gan yr Asiant.
6.2 23C280F – Cais ôl-weithredol am sied amaethyddol a pharlwr godro, ynghyd â chreu pwll slyri a datblygiad cysylltiedig yn Plas Llanfihangel, Capel Coch
Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.3 25C242 – Cadw pwll, ynghyd â gwaith draenio yn Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd
Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog hyd oni cheir rhagor o fanylion i gefnogi’r cais.
6.4 34C304K/1/EIA/ECON - Cais Hybrid am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, maes parcio, ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiedig ac am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 157 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â maes parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Oherwydd maint a chyd-destun y cynnig, penderfyniad ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.5 45C468 - Cais llawn i addasu adeilad allanol yn annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau, gosod gwaith trin carthion ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecolegol yn Bodrida Bach, Brynsiencyn
Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog oherwydd materion sy’n parhau i fod angen sylw. |
|
7.1 15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth
7.2 34C681 – Stâd Ty’n Coed, Llangefni
7.3 36C338A – Ysgol Henblas, Llangristiolus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau presennol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm & Camping, Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion am y rhesymau nad oedd y Pwyllgor o’r farn bod y risg llifogydd ar lefel sy’n golygu na fedrir cefnogi’r cais ac na fydd ychwaith yn cael effaith andwyol ar ecoleg Cors Ddyga.
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones, i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cais wedi cael ei gyflwyno bellach i’r cais gael ei alw i mewn ac i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad arno. O’r herwydd, gwaherddir yr Awdurdod Cynllunio Lleol rhag caniatáu’r cais hyd oni fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu a ddylid galw’r cais i mewn ai peidio. Roedd hynny’n golygu fod dau opsiwn ar gael i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod heddiw – naill ai gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog neu ei ohirio.
Yn siarad fel Aelod Lleol, ailadroddodd y Cynghorydd Ann Griffith y sylwadau a fynegodd yn y cyfarfod diwethaf, sef nad yw safle’r cais wedi cael ei effeithio gan lifogydd, hyd yn oed yn ystod y tywydd gwaethaf, megis y tywydd a gafwyd yn ystod Nadolig, 2015 . Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gohirio’r cais hyd oni fyddai canlyniad trafodaethau Gweinidogion Cymru yn hysbys.
Roedd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith a Nicola Roberts o blaid gwrthod y cais oherwydd pryderon ynghylch llifogydd ac oherwydd eu bod yn tybio y dylai’r Pwyllgor gael ei arwain gan farn broffesiynol Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd wedi gwrthwynebu’r cynnig oherwydd bod y mapiau llifogydd yn cadarnhau bod safle’r cais o fewn yr amlinelliad llifogydd difrifol. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac fel eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid gohirio’r cais er mwyn gweld a fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu galw’r cais i mewn ai peidio er mwyn gwneud penderfyniad arno eu hunain. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans a wnaeth, serch hynny, ailadrodd ei fod yn cefnogi’r cais ar sail y ffaith na fu unrhyw lifogydd mewn gwirionedd ar y safle hwn am yr 20 mlynedd diwethaf.
Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i ohirio’r cais ei gario gan bum pleidlais i dair. Penderfynwyd gohirio’r cais am y rheswm a roddwyd.(Ni wnaeth y Cynghorydd Ann Griffith bleidleisio ar y mater am ei bod wedi sefyll i lawr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 34C700 – 1 Ty’n Pwll, Rhostrehwfa
10.2 35C262C – Tyn Pwll, Llangoed Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 34C700 – Cais llawn ar gyfer codi annedd fforddiadwy ynghyd â gosod gwaith trin ar dir ger 1 Tyn Pwll, Rhostrehwfa
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gwyro o Gynllun Lleol Ynys Môn a’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd y mae’r Cyngor â’i fryd ar ei gymeradwyo.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr argymhelliad i ganiatáu yn seiliedig ar y Polisi Cynllunio Interim Drafft – Tai mewn Clystyrau Gwledig a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2011 i sicrhau bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnal cyflenwad tir 5 mnynedd hyd oni fydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei fabwysiadu. Mae’r polisi interim yn berthnasol i geisiadau am dai fforddiadwy sengl mewn clystyrau penodol ar yr amod eu bod yn dderbyniol o safbwynt yr ystyriaethau eraill o bwys sy’n berthnasol ym mhob achos unigol. O ran y cais, mae Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor wedi cynnal Asesiad Fforddiadwyedd sy’n cadarnhau bod yr ymgeisydd angen annedd fforddiadwy. Yn ogystal, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt ystyriaethau cynllunio eraill o bwys gan gynnwys ei ddyluniad a’i leoliad ar y safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod y llofnodir cytundeb Adran 106 sy’n nodi bod rhaid i’r annedd fod yn un fforddiadwy.
10.2 35C262C – Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir ger Tyn Pwll, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gwyro o Gynllun Lleol Ynys Môn a’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd y mae’r Cyngor â’i fryd ar ei gymeradwyo.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr egwyddor o annedd wedi cael ei sefydlu gyda rhyddhau caniatâd cynllunio, serch yn groes i’r argymhelliad a wnaed gan y Swyddogion. Mae’r gwahaniaethau rhwng y cynnig hwn a’r cynnig a gymeradwywyd yn 2012 yn ymwneud â dyluniad, uchder ac ôl-troed gyda’r annedd newydd y bwriedir ei chodi 1.1m yn uwch na’r un wreiddiol ond gydag ôl-troed llai (126.2 metr sgwâr o gymharu â 239.8 metr sgwâr yn wreiddiol). Gan gadw mewn cof bod caniatâd eisoes yn bodoli ar gyfer y safle, ystyriwyd bod y cynnig yn un derbyniol.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw gynigion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 747 KB 12.1 14C171J/ENF – Stryttwn Farm, Tynlon
12.2 21LPA727A/CC – Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel
12.3 34LPA1013B/DA/CC – Ffordd Gyswllt, Llangefni
12.4 39LPA589P/CC – Ysgol David Hughes, Porthaethwy
12.5 42C253 – Ysgol Gynradd Pentraeth, Pentraeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd, ynghyd â newid defnydd a wneir o dir i ddibenion marchogyddiaeth cysylltiedig yn Fferm Stryttwn, Tynlon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y cafodd cais blaenorol am ganiatâd ôl-weithredol a roddwyd yn 2014 ar gyfer datblygiad i addasu ac ehangu stabl presennol yn annedd ac a oedd wedi torri rheolau cynllunio, ei wrthod oherwydd ystyriwyd bod y datblygiad mewn lleoliad anghynaliadwy ac anghysbell heb unrhyw berthynas gyda, ac yn bell o unrhyw anheddiad ac/neu gyfleusterau eraill. Dywedodd y Swyddog bod yr ymgeisydd, wedi colli’r dyddiad cau ar gyfer gofyn am gael siarad yn gyhoeddus yn y cyfarfod hwn, wedi cysylltu gyda’r Adran Gynllunio drwy e-bost a ddarllenodd allan i’r Pwyllgor. Yn ei e-bost, roedd yr ymgeisydd yn pwysleisio’r ymdrechion a wnaeth i gyfaddawdu ac i weithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i ddatrys y mater a chyfeiriodd yn ogystal at y straen a’r gofid yr oedd yr holl broses wedi ei hachosi iddo ef a’u deulu. Aeth yr ymgeisydd yn ei flaen i ddwyn sylw at rinweddau’r cais, sydd, yn ei farn ef, mewn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygiad o’r math yma, byddai’n galluogi teuluoedd i farchogaeth yn ddiogel ac ni fyddai angen ond y mynediad lleiaf i fwynderau eraill e.e. siopau sy’n golygu byddai’r g. shops meaning that the need to travel would be limited. Os bydd y cais yn cael ei wrthod, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n apelio. O ran y cais cyfredol, er bod y Swyddog yn cydnabod bod y penderfyniad yn union gytbwys, wedi pwyso a mesur, ystyrir bod y cynnig yn annerbyniol oherwydd ei leoliad yn y cefn gwlad agored heb unrhyw berthnas gyda, ac yn bell oddi wrth unrhyw anheddiad neu gyfleusterau eraill a byddai’n golygu bod y defnyddiwr yn dibynnu ar y defnydd o gerbydau preifat sy’n groes i bolisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.
Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS fod polisïau cynllunio’n cefnogi datblygiadau twristaidd fel hwn; mae’r ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r adeilad allanol wedi ei addasu ar gyfer ei osod i ymwelwyr i ddibenion marchogaeth penodol sydd, i bob pwrpas, yn weithgaredd gwledig. Roedd y Swyddog yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad anodd a bod rhinweddau yn nwy ochr y ddadl. Atgoffodd y Cynghorydd R.G. Parry'r Pwyllgor o’r cefndir i’r achos hwn a dywedodd bod yr apelydd wedi gwario llawer o arian ar wella’r adeilad sy’n destun y cais hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Parry i’r Pwyllgor gefnogi’r cais fel un a ddeuai â thwristiaeth y mae gwir angen amdano i’r rhan hon o’r Ynys ac fel cais sy’n haeddu cael ei gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod yn meddwl bod angen i’r Pwyllgor gael gwybod mwy am y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 39C295B/LB – Swyddfa Bwcio, Ffordd Cynan, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
13.1 39C295B/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith trwsio ar Swyddfa Docynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai’r cais yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1980.
Penderfynwyd ei nodi er gwybodaeth. |