Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Gorffennaf, 2017 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ynghylch cais 7.1 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd K P Hughes ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ynghylch cais 7.3 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd John Griffith ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ynghylch cais 7.3 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Robin Williams ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ynghylch ceisiadau 7.2, 7.3, 7.4 a 12.3 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ynghylch cais 12.2 ar y rhaglen.

 

Er nad aelod yn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol ynghylch cais 7.3 ar y rhaglen. Datganodd ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu hefyd ynghylch cais 12.2.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3ydd Mai, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin, 2017 yn amodol ar newid i eitem 12.2, sef 3 Mulcair House, Llanfairpwll. Dylai’r cofnod ddarllen bod y Cynghorydd K P Hughes wedi dweud fod ganddo amheuon mewn perthynas â'r argymhelliad i wrthod y cais oherwydd materion parcio, gan nad oes cyfleusterau parcio digonol ar gael yn agos i lawer o fusnesau o’r fath.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 21 Mehefin, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, 2017 a  chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.3, 7.4 a 12.2.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd dim ceisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1  20C31OB/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  31C170E – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

7.3  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.4  36C351 – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

7.5  45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW  ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd. 

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac mae’n rhoi cadarnhad ffurfiol o'i gynlluniau a’i bolisïau. Er bod yr amodau a nodir yn yr adroddiad i'r Pwyllgor yn cynnwys y rhan fwyaf o'r polisïau a restrir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,  nid yw Polisi ADN1A (mewn perthynas â cheisiadau PV  Solar o dros 5Mw mewn ardaloedd chwilio posibl) a ddiwygiwyd yn y CDLl ar y Cyd wedi cael sylw llawn o fewn y cais. Felly bydd angen gohirio rhoi sylw i’r cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i Swyddogion ddelio â'r mater hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd KP Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.2 31C170E - Cais llawn ar gyfer codi 16 o anheddau (10 o anheddau gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu  yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu ond mae’r swyddogion cynllunio yn argymell ei ganiatáu.   Cyfeiriwyd y cais hefyd i sylw’r Pwyllgor gan yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd Mr Gwynne Owen (gwrthwynebydd i'r cynnig) ei fod yn ystyried bod y  cynllun safle ar gyfer y cynnig yn gamarweiniol; mae darn o dir sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain nad yw'n rhan o safle Lôn Dyfnia. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried y cais hwn mewn modd cyfannol gan y bydd yn cael effaith ar y traffig sy'n teithio allan o hen Lôn Dyfnia yn y dyfodol. Cyfeiriodd at set o luniau lliw a gyflwynodd i’r Pwyllgor diwethaf; mae un llun yn dangos polyn telegraff sydd yn amlwg wedi ei ddifrodi gan geir ar sawl achlysur. Nid yw’r swyddogion na'r aelodau etholedig oedd ar yr ymweliad safle wedi sylweddoli cymaint yw’r traffig yn yr ardal ac mae’n gwaethygu gyda’r nos ac ar benwythnosau; mae damwain yn anochel.  Mae trigolion lleol wedi cwyno wrth Scottish Power ac maent o’r farn bod angen rhoi’r llinellau ffôn a thrydan  dan y ddaear yn yr ardal ac maent wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cysylltu â'r Awdurdod Cynllunio yn hyn o beth, ond mae'n amlwg  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadu'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 604 KB

12.1  15C224/AD – Cilfan yn Hermon

12.2  34C694BCanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

12.3  46C137FYr Hen Gae Criced, Bae Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 15C224 / AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo i gefn y gilfan yn Hermon

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd yr ystyrir bod y bwrdd arddangos cymunedol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bod wedi dod i’r amlwg nad oedd y tir ym mherchnogaeth y Cyngor a bydd angen cyflwyno hysbysiad statudol angenrheidiol i’r tirfeddiannwr.  Os bydd y tirfeddiannwr yn cytuno y gellir codi’r bwrdd arddangos ar y tir ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol dywedodd y gellir rhoi grym i weithredu i swyddogion  ganiatáu'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol i’r tirfeddiannwr ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a dirprwyo'r grym i weithredu i Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol gofynnol i’r tirfeddiannwr.

 

12.2 34C694B - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sydd biau safle'r cais.

 

Safodd y Cynghorydd Nicola Roberts i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer yr ystyriaeth ar y cais hwn fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd R O Jones, Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem.

 

Dywedodd Mr Peter Davies (o blaid y cais) mai ef oedd Cyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Llangefni a nododd bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ym mis Mai 2016 ar gyfer parc chwaraeon trefol ym Mhlas Arthur, Llangefni ac ar gyfer cynllun goleuo ar y safle. ’Roedd y cynllun goleuo yn cyflawni un o'r amodau ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ym Mai 2016.  Gwnaed cais am gyllid grant i'r Gronfa Loteri Fawr ym mis Gorffennaf 2016 i adeiladu Parc Chwaraeon Trefol. Ym mis Chwefror 2017 derbyniwyd cadarnhad bod y fenter wedi llwyddo i sicrhau cyllid o tua £375k ond ar yr amod bod y gwaith o adeiladu'r cyfleuster yn dechrau erbyn 16 Awst , 2017. Heb ganiatâd cynllunio'r mae’r fenter mewn perygl o golli'r arian grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Ers cael gwybod bod y cais am gyllid grant wedi llwyddo ‘roedd gwaith wedi dechrau i edrych i mewn i'r cynllun a gymeradwywyd eisoes ac i gynnal yr arolygon angenrheidiol ar y safle.  Dangosodd arolwg topograffig bod y tir yn goleddfu mwy tuag at yr ymyl ogledd-ddwyreiniol nag y sylweddolwyd yn gynharach.  ‘Roedd y llethr yn golygu bod posibilrwydd y byddai dŵr wyneb yn cronni ar y safle ac felly roedd angen ei ail ddylunio cyn y cyfarfod hwn fel y gwelir yn y cais.  Dywedodd Mr Davies ymhellach bod problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r parc sglefrio gwreiddiol ac ar ôl cael cyngor gan Heddlu Gogledd Cymru penderfynwyd bod llinellau gwelededd clir ar draws y parc chwaraeon trefol yn atal pobl rhag ymgynnull mewn mannau lle gallent guddio. Mae cyflwyno system teledu cylch cyfyng hefyd yn rhan o'r ymdrech i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod o bryder  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 200 KB

13.1  21C58H – Plas Eurach, Llanddaniel Fab

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 21C58H - Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol yn  Parc Eurach, Llanddaniel Fab

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill 2017, wedi penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Derbyniwyd hysbysiad o apêl a dyddiad dechrau erbyn hyn. Mae'r hysbysiad yn dangos y gall yr apêl symud ymlaen drwy'r weithdrefn ysgrifenedig gan nad yw’r cynigydd ar gyfer gwrthod y cais na’r eilydd yn aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bellach.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr T. Victor Hughes wedi datgan ei fod yn barod i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Cynghorydd Dafydd Roberts yn cael ei enwebu i gymryd rhan yn yr apêl a chynigiodd hefyd bod y cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor hefyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dafydd Roberts a'r cyn-Aelod etholedig, Mr. T. Victor Hughes i gymryd rhan yn yr apêl, ar ffurf ysgrifenedig, ar ran y Cyngor.