Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 30 Ionawr, 2014. Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2014 fel rhai cywir. |
|
Breinlen Datblygu Aelodau PDF 210 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro – Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r cynnydd wnaed o ran cwrdd â gofynion Siarter CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.
Rhoes Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y modd y mae’r Cyngor wedi cwrdd â’r gofynion ac wedi derbyn y Siarter Safonol. Cyflwynwyd plac a thystysgrif i’r Cyngor ar 6 Mawrth 2014 gan Mr Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethu), CLlLC.
Nododd fod y statws wedi cael ei ganiatáu am gyfnod o 3 blynedd ac roedd hyn yn rhan o raglen waith y Pwyllgor.
Eglurodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y gall y Cyngor, yn ychwanegol at y Siarter Safonol, weithio hefyd tuag at gwrdd â Siarter Lefel Uwch CLlLC, sef dyfarniad sydd newydd gael ei ddatblygu gan CLlLC.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Gwe Ddarlledu Cyfarfodydd a Mynychu o Bell PDF 146 KB Cyflwyno adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro – Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad cynnydd gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd - yn dilyn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror mewn perthynas â’r ymarfer caffael, bu’n rhaid ail-raglennu gweddarlledu cyfarfodydd. Bydd yr offer yn cael ei osod yn Siambr y Cyngor erbyn diwedd mis Ebrill. Yn dilyn proses dendro gystadleuol, dyfarnwyd y contract i Public-i. Bydd hyfforddiant ar gyfer Aelodau a’r staff ar system weddarlledu Public-i yn cychwyn ym mis Mai a bydd y system yn hollol weithredol erbyn Mehefin 2014 gan gychwyn gyda’r cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mehefin 2014.
Mewn perthynas â mynychu o bell, disgwylir canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith yn y man.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Grant Datblygu Gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned - diweddariad PDF 83 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â'r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - Adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn dweud fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi arian i Gynghorau Sir i gynnig grant o hyd at £500 i bob Cyngor Tref a Chymuned, gan gynnwys y rheiny sydd eisoes â gwefan, i’w wario ar ddatblygu gwefannau.
Nodwyd bod y grant yn un i gynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned i baratoi ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sy’n cynnwys darpariaethau i gynghorau cymuned gyhoeddi gwybodaeth ar wefan. Yn wreiddiol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau’n dweud fod angen defnyddio’r arian erbyn diwedd Mawrth 2014. Mae’r cyfnod hwn bellach wedi’i ymestyn i 2014/15.
Nodwyd bod y Cyngor yn ymgynghori gydag Un Llais Cymru i sicrhau fod Cynghorau Tref a Chymuned yn defnyddio’r arian sydd wedi cael ei glustnodi.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid diweddaru Clercod y Cynghorau Tref a Chymuned a’u hatgoffa am yr arian grant sydd ar gael.
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa gyfredol. |
|
Adroddiadau Blynyddol gan yr Aelodau PDF 194 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â'r uchod. Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor hwn ar 4 Chwefror 2013 ac ar 2 Gorffennaf 2013 ynghylch Adran 5 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a’r angen i sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i ganiatáu i Aelodau baratoi Adroddiad Blynyddol ar eu gwaith.
Nodwyd y gofynnwyd am adroddiadau drafft erbyn 9 Ebrill 2014 gan yr Aelodau gyda golwg ar eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ym mis Mehefin 2014.
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa gyfredol fel y caiff ei hamlinellu yn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Datblygu Aelodau ac Adoliad Datblygu Personol Cyflwyno adroddiad llafar gan y Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Rhoes yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol adroddiad llafar mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Aelodau a’r Adolygiadau Datblygiad Personol.
O ran yr Adolygiadau Datblygiad Personol, dywedodd y Swyddog ei bod yn asesu atborth o’r adolygiadau a wnaed a’r angen i ymgynghori gydag Arweinyddion Grwpiau yn y man. Byddai adroddiad ar Gynllun Datblygu 2014/15 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn y man.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor 2014/2015 PDF 209 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â'r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn dweud mai swyddogaeth y Pwyllgor hwn yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yw adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth yn yr awdurdod o ran staff, llety ac adnoddau eraill fel y gellir cyflawni dyletswyddau a swyddogaethau'r gwasanaethau democrataidd.
Bydd adroddiad ar waith y Pwyllgor yn ystod 2013/14 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 8 Mai 2014.
Wrth ddatblygu rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2014/15, argymhellir y dylid canolbwyntio ar y meysydd isod:
• Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol; • Gweddarlledu cyfarfodydd a mynychu o bell; • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; • Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol; • Moderneiddio arferion gweithio; • Y gyllideb ar gyfer 2015/16 a’i heffaith ar y Gwasanaethau Democrataidd.
Yn ystod chwarter cyntaf 2014/15, cynigir trefnu grŵp ffocws ar gyfer Aelodau er mwyn cael atborth yr Aelodau ar arferion gweithio a’r rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi y bydd y rhaglen waith yn cael ei diweddaru yn y cyfarfod nesaf. |