Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  12LPA1042C/CC – 1, 1A, 1B & 2 Greenedge, Biwmares

 

12.2  19LPA89Q/CC – Ysgol Uwchradd Caergybi, South Stack Road, Caergybi

 

12.3  34LPA791D/VAR/CC – Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

 

12.4  34LPA1015C/MIN/CC – Yr Hen Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni

 

12.5  39LPA589R/CC – Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

12.6  42C268 - Arfryn, Mwyn Awel a Groeslon, Rhoscefnhir

 

Cofnodion:

12.1 12LPA1042C/CC - Cais llawn i ail-doi ynghyd â newid y ffenestri ac ailrendro yn 1, 1A 1B a 2 Greenedge, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer gwaith ail-doi ynghyd â gwaith i frest y simnai a’r nwyddau dŵr glaw. Gan fod yr adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II * ac wedi'i leoli o fewn Ardal Gadwraeth ddynodedig, ymgynghorwyd â'r Ymgynghorydd Treftadaeth ac mae'n cadarnhau nad oes unrhyw bryderon gyda manylion y cynllun a’i fod yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog fod y cynllun yn ceisio gwella cynaliadwyedd hirdymor yr eiddo trwy wella iechyd/diogelwch y to a chynyddu lefelau effeithlonrwydd ynni trwy osod deunydd inswleiddio. Ystyrir y bydd y gwaith yn gwella cymeriad yr adeilad tra'n parhau i gydweddu â chymeriad y teras ac ardal ehangach Biwmares a'i hasedau treftadaeth. Dywedodd y Swyddog ymhellach nad oedd y cyfnod ar gyfer derbyn sylwadau yn dod i ben tan 14 Mawrth ac felly y bydd unrhyw ganiatâd ar yr amod na chodir unrhyw faterion newydd cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod hefyd na cheir unrhyw sylwadau cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben sy’n codi materion nad oeddent eisoes wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog.

 

12.2 19LPA89Q / CC - Cais llawn i godi ffens a giât ar dir yn Ysgol Uwchradd Caergybi, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw perchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y ffens arfaethedig yn amrywio o ffens 4 medr o uchder rhwng yr ysgol a'r eiddo ar New Park Road – i rwystro peli pêl-droed rhag mynd dros y wal i mewn i erddi anheddau yn New Park Road, a ffens 2.4 metr o uchder rhwng yr ysgol a Ffordd Ynys Lawd – i rwystro peli pêl-droed rhag mynd drosodd i’r ffordd a tharo cerddwyr a cheir. Bydd y ffens arfaethedig yr un fath â’r ffens sydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar hyn o bryd. Barn y Swyddog yw bod y ffens yn cydymffurfio â'r holl bolisïau perthnasol ac na fydd yn cael effaith negyddol ar yr ardal gyfagos, asedau treftadaeth nac eiddo cyfagos. Argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 34LPA791D/VAR/CC - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod(au) (02) (rhaid cwblhau'r lle parcio yn unol â'r manylion a gyflwynwyd cyn i'r defnydd a ganiateir drwy hyn gychwyn a rhaid ei gadw wedyn ar gyfer y dibenion hynny’n unig) a (04) (rhaid gweithredu’r datblygiad a ganiateir yma yn gwbl unol â'r cynllun(iau) a gyflwynwyd ar 18/12/2014, dan gyfeirnod cynllunio 34LPA791C/CC/ECON) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 34LPA791C/CC/ECON (addasiadau ac estyniad, creu lle cadw beiciau a maes parcio) er mwyn diwygio'r cynllun a gymeradwywyd ar gyfer Canolfan Fusnes Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor Sir ar dir y mae’n berchen arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn am newidiadau bach i gynllun a gymeradwywyd eisoes a oedd yn caniatáu estyniad i’r Ganolfan Fusnes ynghyd â lle parcio ychwanegol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys newidiadau i ddyluniad a deunyddiau'r estyniad yn ogystal â lleihad yn yr arwynebedd llawr cyffredinol. Bydd y cynllun parcio arfaethedig hefyd yn cael ei ddiwygio gan olygu y bydd 1 yn llai o leoedd parcio; 13 yn llai o lecynnau parcio yn yr estyniad parcio gogleddol a 13 o lecynnau ychwanegol trwy greu estyniad i'r maes parcio i'r de-ddwyrain. Nid ystyrir y bydd y newidiadau yn newid cymeriad a natur gyffredinol y gwaith arfaethedig. Mae'r Awdurdod Priffyrdd bellach wedi cadarnhau ei bod yn fodlon â'r cynllun ac mae Dŵr Cymru wedi cynnig amod sydd wedi'i ymgorffori eisoes o fewn yr argymhelliad o gymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 34LPA1015C/MIN/CC - Mân newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 34LPA1015B/CC er mwyn newid y drychiadau, to, y cynllun parcio, deunyddiau a thirlunio yn hen Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cynnwys mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd eisoes i ddiwygio gorffeniad a golwg yr adeilad / safle. Nid ystyrir bod y diwygiadau yn golygu newid sylweddol ac ystyrir na fyddant yn cael effaith ar gymeriad yr ardal i’r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais. Ystyrir y bydd y gwelliannau'n gwella swyddogaeth a golwg y safle gan y bydd wedyn yn cydweddu â gorffeniad y busnesau cyfagos. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5 39LPA589R / CC - Cais llawn am estyniad sy'n cynnwys lifft platfform yn Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i godi estyniad sy'n cynnwys lifft platfform. Mae'r cynllun fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol wedi'i ddiwygio mewn ymateb i bryderon am ddiogelwch ac mae drws y lifft nawr wedi ei droi i wynebu'r iard ond mae’r lifft yn aros yn yr un lle ag y cynigiwyd. Ni fydd yr estyniad yn cael effaith ar fwynderau eiddo cyfagos a bydd yn hwyluso trefniadau’r ysgol. Bydd y dyluniad yn adlewyrchu’r adeiladau ysgol sydd yno ar hyn o bryd ac ni fydd yn niweidio cymeriad yr ardal. Argymhelliad y Swyddog yw caniatáu ar yr amod na dderbynnir unrhyw sylwadau cyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar 9  Mawrth, 2018 sy'n codi materion newydd nad ydynt wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod hefyd na cheir unrhyw sylwadau cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben sy’n codi materion nad ydynt eisoes wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog.

 

12.6 42C268 - Cais llawn i newid y defnydd a wneir o dir er mwyn estyn cwrtil tri eiddo ar dir y tu cefn i Arfryn, Mwyn Awel a Groeslon, Rhoscefnhir

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi'i wneud ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i ymestyn cwrtil y tri eiddo sydd ar ochr ffordd yr A5025 tuag at Roscefnhir er mwyn cynnwys y tir sy'n eiddo i'r Cyngor fel lle ar gyfer gardd. Gan fod Groeslon yn eiddo Rhestredig Gradd II, ymgynghorwyd â'r Ymgynghorydd Treftadaeth ac mae'n cadarnhau nad oes gwrthwynebiad i'r cynnig o safbwynt treftadaeth. Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd yn rhaid dilyn proses statudol arall i wneud cais am Orchymyn Cau. Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Swyddog, sef bod y Cyngor Cymuned hefyd wedi cadarnhau bellach nad oes ganddo wrthwynebiad i'r cynnig a bod yr Ymgynghorydd Tirwedd wedi cynnig sylwadau; o ganlyniad, argymhellir amod ychwanegol gyda’r caniatâd cynllunio bod raid cyflwyno manylion am driniaethau ffin er mwyn sicrhau na fydd gweithredu'r cynllun yn arwain at unrhyw effeithiau ar y dirwedd. Barn y Swyddog yw bod y cynllun yn dderbyniol gan y tybir na fydd gweithredu’r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr ardal na'i thrigolion. Mae’r prif faterion mewn perthynas â'r datblygiad – nad yw’r  un ohonynt yn cyfiawnhau gwrthod y cais - wedi cael sylw digonol. Argymhellir  cymeradwyo'r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac amod ychwanegol mewn perthynas â thrin ffiniau.

Dogfennau ategol: