Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ymddiheuriad. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 4 Mawrth, 2015 PDF 269 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2015. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod siaradwyr cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.1 a 12.2. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 321 KB 6.1 33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen
6.2 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 33C304/B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer dymchwel y fferm bresennol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yng Nghyffordd 7 yr A55 ger Cefn Du, Gaerwen
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw
7.2 45C452 – Stâd Berllan, Llangaffo Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 33C295B - Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger 4, Nant y Gors, Pentre Berw
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cadeirydd. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 18 Mawrth 2015.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Eileen Smith annerch y Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais ac fe ddygodd hi sylw at y pryderon a ganlyn –
• Gwnaed y cais sawl gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac fe gafodd ei wrthod oherwydd nad yw'r Adran Priffyrdd yn ystyried bod y ffordd sy’n rhoi mynediad yn ddigonol i gymryd mwy o draffig. • Mae’r cynnig y tu allan i’r ffiniau cynllunio ar gyfer Pentre Berw. • Nid yw'r cynnig yn cydweddu â gweddill y pentref o ran ei faint a’i ddyluniad. • Mae anawsterau eisoes mewn perthynas â pharcio - yn ei hachos hi roedd y man parcio ar gyfer ei heiddo ar y gongl ac yn aml roedd anawsterau oherwydd eu bod wedi eu blocio i mewn. • Byddai lledu’r porth i safle'r cais yn gostwng nifer y lleoedd parcio hyd yn oed ymhellach ac yn gwneud pethau hyd yn oed yn anoddach. • Yn dilyn salwch yn ddiweddar a oedd wedi ei gadael yn gaeth i gadair olwyn, roedd hi angen gwasanaethau ambiwlans i'w chludo i driniaeth adsefydlu. Mae gyrwyr ambiwlans wedi cwyno nad ydynt yn medru cael mynediad rhwydd bob amser sy’n codi’r cwestiwn o’r hyn fyddai’n digwydd mewn sefyllfa argyfwng.
Nid oedd unrhyw gwestiynau i Mrs Eileen Smith gan Aelodau’r Pwyllgor.
Siaradodd Mr Ieuan Davies o blaid y cais ar ran ei bartner yr oedd y cais yn ei henw. Tynnodd sylw at yr ystyriaethau a ganlyn –
• Oherwydd materion fforddiadwyedd, yr anawsterau iddo ef, ei bartner a’i blant o ran prynu eiddo o faint addas yn y pentref. • Ei ddymuniad i aros o fewn cymuned pentref agos Pentre Berw i fagu ei deulu. Y cynnig hwn yw’r unig ffordd o fedru cwrdd â’r dymuniad hwnnw’n lleol ac mae’r cais am annedd 4 ystafell wely wedi ei wneud ar sail ymarferol i gwrdd ag anghenion teulu sy'n tyfu. • Mae'r cais wedi bod ar fynd am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae ef a’i bartner wedi ateb pob pryder a godwyd gan gynnwys comisiynu arolygon ystlumod a choed. • Mae'r cynnig yn darparu digon o le ar gyfer parcio o fewn safle'r cais sy'n golygu na fydd unrhyw gerbydau ychwanegol yn cael eu parcio ar y briffordd gyhoeddus. Bydd trefniadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod traffig i'r safle yn medru troi a mynd allan o fewn ffiniau’r plot. • Mae trafodaethau a gafwyd gyda chymdogion wedi dangos eu bod yn credu y byddai lledu'r ffordd yn creu anawsterau i blant a fyddai’n gorfod defnyddio palmant culach. • Mae llawer o'r cymdogion wedi dweud y byddent yn fodlon defnyddio’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 24C268G/VAR – Plot 2, Cerrig Man, Amlwch
10.2 25C198B – Maes Cyhelyn, Llanerchymedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 24C268G/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) caniatâd cynllunio rhif 24C268D (adnewyddu cais amlinellol ar gyfer codi annedd) er mwyn caniatáu blwyddyn arall i dderbyn cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ym Mhlot 2, Cerrig Man, Amlwch
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i adnewyddu cais rhif 24C268D a ganiatawyd ym Mawrth 2012. Tra nad yw Cerrig Man wedi ei nodi fel anheddiad yn y Cynllun Datblygu, mae'n cael ei nodi fel treflan cefn gwlad yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd, ac o ystyried y graddau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i'w ddarpariaethau fel ag y bont yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn. Ymhellach i hyn, mae yna ganiatâd cynllunio yn bodoli ar y safle ers 2009. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig ar seiliau technegol; yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac wedi i’r cyfnod ar gyfer ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau eraill a dderbynnir bryd hynny.
10.2 25C198B – Cais llawn i godi annedd ar dir ger Maes Cyhelyn, Llanerchymedd
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yn y Cynllun Lleol Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, bod y rhan fwyaf o safle'r cais y tu allan i’r ffin datblygu yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, ond mae’r ffin ar gyfer Llannerch-y-medd wedi ei newid yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac y mae safle'r cais i raddau helaeth o fewn y ffin yn y CDU a Stopiwyd. O ystyried y camau pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU a Stopiwyd, gellir rhoi cryn bwysau i’w ddarpariaethau fel ag ei fod yn gorbwyso darpariaethau'r Cynllun Datblygu yn yr achos hwn. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar y safle ym mis Ionawr 2009 a chymeradwywyd cais materion wrth gefn am fyngalo dormer ym mis Mai, 2009. Mae'r cais presennol yn ceisio cael caniatâd llawn i godi annedd unllawr, ac ym marn y Swyddog y mae’n dderbyniol o ran ei safle, ei ddyluniad a’i edrychiad ac yn wir mae’n welliant ar y cynnig a gymeradwywyd yn flaenorol, ac ni fydd yn cael effaith ar fwynderau'r ardal. Yr argymhelliad felly yw ei ganiatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu pwerau dirprwyedig i ganiatáu’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion a Gyflwynir gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 995 KB 12.1 14LPA1011/CC – Plot 12, Stâd Ddiwydiannol Mona
12.2 15C116G – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
12.3 19LPA1014/CC – Stâd Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi
12.4 25C248 – Uned 1, Maes Athen, Llanerchymedd
12.5 39LPA1012/TPO/CC – Hen Gronfa Ddwr, Porthaethwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 14LPA1011/CC – Cais llawn i godi adeilad cyfleuster storio/warws ym Mhlot 12, Stad Diwydiannol Mona
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 15C116G – Cais llawn i wneud gwaith addasu ac ehangu yn Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.
Siaradodd Mr Henri Hughes gerbron y Pwyllgor i gefnogi’r cais gan ddweud ei fod fel cymydog i'r ymgeiswyr wedi cysylltu â hwy ohono’i hun i siarad dros y cynnig a fyddai yn ei farn ef, yn cynrychioli diwedd boddhaol i nifer o welliannau a wnaed i'r complecs gan yr ymgeiswyr dros nifer o flynyddoedd ac na fyddai'n tarfu arno ef fel y cymydog agosaf a phreswylydd Tŷ Pigyn. Dywedodd ei fod o’r farn y gall adeiladau newydd weithiau fod yn fwy o ddolur llygaid yn y dirwedd na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y cais hwn ac y gallai’r Pwyllgor benderfynu mewn termau o ddu a gwyn neu fe allai gymryd y llwybr canol a defnyddio synnwyr cyffredin.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn sefyll i lawr fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cais hwn fel y gallai annerch y cyfarfod fel Aelod Lleol i gefnogi’r cais. Pwysleisiodd beth oedd anghenion llety’r teulu sydd ar hyn o bryd yn byw mewn bwthyn un ystafell wely ar y safle, yn gofalu am ddau o wyrion awtistig y mae eu hymddygiad heriol yn gofyn am ystafelloedd gwely ar wahân. Dywedodd, er bod Cyngor Cymuned Bodorgan yn gwrthwynebu'r cynnig oherwydd ei faint, bod y cymdogion yn ei gefnogi. Bydd y cynnig yn cwblhau'r complecs oedd unwaith yn adfeilion, ond lle y ceir yn awr adeiladau wedi eu haddasu i safon uchel.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai hwn oedd trydydd cais yr ymgeisydd o fewn y ddeuddeng mis diwethaf. Y prif ystyriaethau cynllunio oedd a fyddai maint a dyluniad yr estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad yr adeilad gwreiddiol yn ogystal â'r addasiadau yn y lleoliad a’r AHNE. Er ei fod yn cydymdeimlo â sefyllfa’r ymgeiswyr, roedd y Swyddog o'r farn nad oedd y cynnig yn dal i fod yn dderbyniol o ran ei faint a’i ddyluniad oherwydd ei fod bellach yn fwy na’r hyn a wrthodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor ym mis Hydref 2014. Felly, roedd yn ystyried y byddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol ar gymeriad y mwynderau oddi amgylch ac ar yr AHNE ac nad oedd felly yn cydymffurfio â pholisi cynllunio. Argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod y cais. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 14C164E – Tryfan, Trefor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 14C164E – Cais llawn i godi pâr o anheddau, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carffosiaeth ar dir ger Tryfan, Trefor
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill i swyddog perthnasol o dan baragraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sydd ei angen o dan y paragraff hwn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2015 wedi penderfynu caniatáu’r cais yn amodol ar benderfynu materion draenio. Roedd manylion draenio ychwanegol wedi eu derbyn ac roedd yr Adain Ddraenio wedi cadarnhau bod y cynllun yn dderbyniol. Fodd bynnag, fe dderbyniwyd llythyrau pellach gan aelodau o'r cyhoedd ac er mwyn rhoi sylw dyledus i’w pryderon, roedd y cais yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor i'w benderfynu. Nid yw'r cynnig wedi ei newid ers iddo gael caniatâd gan y Pwyllgor ar 4 Chwefror 2015. Dywedodd y Swyddog bod y pryderon fel oedd i’w gweld yn yr adroddiad ysgrifenedig yn ffactorau sydd wedi eu hystyried wrth ddelio â’r cais yn wreiddiol ac ni ystyrir eu bod yn cario digon o bwysau i warantu gwrthod y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y Pwyllgor yn glynu at ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ac ail-gadarnhau fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais.
|