Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Peter S. Rogers yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Ebrill, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2013. |
|
Cynllun Datblygu Aelodau 2013/14 PDF 321 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.
Nododd fod cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cynnwys cyfrifoldeb am y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau a chyd-destun a manylder y Cynllun Datblygu Aelodau am y flwyddyn ariannol gyfredol fel yr adroddwyd arno i’r Cyngor Sir ar 23 Mai 2013.
Yn unol â’r arfer yn y gorffennol, mae’n briodol i’r Pwyllgor enwebu un o Aelodau i weithredu fel Eiriolydd Datblygu Aelodau. Argymhellir bod Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cymryd y rôl hon.
Fel arwydd o ymrwymiad yr Awdurdod i ddatblygu Aelodau, cyflwynwyd Adolygiadau Datblygiad Personol yn y sefydliad yn ystod 2012 i’r holl Aelodau etholedig. Roedd y rhain yn fodd i’r Aelodau rhoi atborth ar eu datblygiad/profiadau mewn swyddogaethau penodol ac yn fodd i roi siâp ar y gwaith o ddiweddaru’r cynlluniau datblygu hyfforddi.
Rhoes yr Uwch Swyddog Datblygu AD gefndir cryno i’r hyfforddiant a roddwyd i Aelodau etholedig ers yr etholiadau ym mis Mai.
Cododd yr Aelodau'r mater y bu nifer o sesiynau hyfforddiant i Aelodau eu mynychu yn ystod y ddau fis diwethaf. Awgrymwyd y dylid ystyried cynnull cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi gyda’r nos. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fod y mater yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhauenwebu Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn Eiriolydd Datblygu Aelodau. · Nodiy bydd y Rhaglen Hyfforddiant yn eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor. · Nodi’rffocws ar adolygiadau datblygiad personol i Aelodau fel rhan o’r rhaglen. |
|
Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau PDF 140 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad gwaith gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynglyn â’r Siarter Datblygu Aelodau.
Nod y Siarter yw darparu fframwaith eang ar gyfer cynllunio, hunanasesu, gweithredu ac adolygu lleol ynghyd â chymharu gydag Awudrdodau eraill a rhannu arfer da. Mae’r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad i ennill statws siarter er mwyn adlewyrchu ei ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad Aelodau a’r ffocws ar adolygiadau datblygiad personol sy’n ofynnol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
PENDERFYNWYD
· Nodi’r cynnydd fel y manylir arno yn yr adroddiad. · Rhoddi’r awdurdod i Bennaeth Dros Dro y Gwasanethau Democrataidd ddiweddaru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglyn â’r cyflwyniad Marc Siarter. |
|
Darlledu cyfarfodydd a mynediad o bell PDF 143 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynglyn â ddarlledu cyfarfodydd a mynychu o bell.
Dywedodd y Swyddog bod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau wedi ysgrifennu at yr holl Awdurdodau Lleol yn Ionawr 2013 ynghylch mater hyrwyddo democratiaeth leol ac ymgysylltiad cyhoeddus. Rhoddwyd i bob prif Cyngor £40k i gynorthwyo gyda gweddarlledu a mynychu o bell ynghyd â £500 ychwanegol ar gyfer bob Cyngor Cymuned i gynorthwyo’r Cynghorau Cymuned I sefydlu gwefannau. Mae angen gwario dyraniad grant yn ystod 2013/2014. Does dim sicrwydd o grantiau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Ar hyn o bryd mae recordiadau sain o drafodaethau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael eu postio i wefan y Cyngor ond nid yw’r arfer wedi ei ymestyn i Bwyllgorau eraill. O ran gweddarlledu, mae angen rhoi sylw i amryfal faterion technegol ac annhechnegol er mwyn cymryd mantais lawn o ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor a gofynion y dyfodol o ran mynychu o bell.
Bydd y grant o £500 a neilltuwyd i bob Cyngor Cymuned i ddatblygu gwefannau yn cael ei drafod ymhellach gydag Unllais Cymru.
Nododd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y bydd diweddariad manwl yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn mewn perthynas â’r eitem hon.
Nododd yr Aelodau bryderon y byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu costau gweddarlledu a mynychu o bell yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac y bydd adroddiad manwl ar y cyd yn cael ei gyflwyno gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolydd Gwasanaethau TGCh. |
|
Adroddiad Blynyddol yr Aelodau PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynglyn â’r gofyniad i gael Adroddiadau Blynyddol gan aelodau.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y cafwyd ar ddeall gan Lywodraeth Cymru y bydd canllawiau statudol ar Adroddiadau Blynyddol yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Mater i’r Awdurdod i’w penderfynu ar y dull o gyhoeddi’r adroddiad ond rhaid o leiaf gysylltu yr adroddiad I Adran yr Aelod unigol ar wefan yr Awdurdod. Paratowyd canllawiau i gynorthwyo Aelodau i baratoi adroddiadau blynyddol ac roedd y canllawiau ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 2. Mae’n debygol y bydd y canllawiau yn cynnig eitemau sefydlog y dylid eu cynnwys megis:-
Rôl a chyfrifoldebau gan gynnwys presenoldeb Gweithgareddau lleol megis cymorthfeydd a gwaith achos Prosiectau mawr Dysgu a datblygiad
PENDERFYNWYD
· Nodi’radroddiad. · Mabwysiadu’rtempled arfaethedig a’r canllawiau cysylltiedig yn atodiadau 2 a 3 a rhoddi’rawdurdod i’r Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd gyhoeddi canllawiaui’r Aelodau a threfnu sesiynau briffio yn unol â’r amserlen a nodwyd yn yr adroddiad. · Gofyni’r grwpiau gwleidyddol hyrwyddo yn egnïol ymysg y cyfan o’u haelodau yr angen i gwblhau Adroddiadau Blynyddol. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor 2013/14 PDF 205 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Rhaglen Waith y Pwyllgor.
Argymhellodd y dylai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar y materion isod yn ei gyfarfod nesaf :-
· Y Cynllun Hyfforddi Datblygu Aelodau · Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau · Darlledu Cyfarfodydd a Mynychu o Bell · Moderneiddio arferion gwaith a’r defnydd o Ipads
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhaglen waith. |