Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Gorffennaf, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2013. |
|
Gweddarlledu Cyfarfodydd a Mynychu o Bell PDF 232 KB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro ar Rheolwr TGCh mewn perthynas a’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro a’r Rheolydd TGCh mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod gweddarlledu cyfarfodydd wedi ei gysylltu â darpariaethau o fewn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gryfhau democratiaeth leol. Y bwriad yw atgyfnerthu strwythurau a gweithrediad llywodraeth leol yng Nghymru ar bob lefel a sicrhau bod Cynghorau lleol yn ymgysylltu gyda phob rhan o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae pob prif Gyngor wedi cael £40k i gynorthwyo gyda gweddarlledu a threfniadau mynychu o bell ac mae pob Cyngor Cymuned hefyd wedi derbyn £500 yr un i gynorthwyo i sefydlu gwefannau.
Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 rhaid i Awdurdodau Lleol wneud trefniadau i’r Aelodau fedru cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Nid yw’r gofyniad hwn wedi ei ddeddfu hyd yma ond mae’n debygol y bydd hynny’n cael ei drefnu ar gyfer Gwanwyn 2014. Mewn perthynas â gweddarlledu adroddwyd bod trafodaethau anffurfiol wedi eu cynnal eisoes gyda chyflenwyr blaenllaw er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r cynigion a’r costau cysylltiedig ac i asesu hefyd a yw gweddarlledu yn opsiwn ymarferol. Roedd costau arwyddol ar gyfer gwasanaeth a reolir yn awgrymu y byddai’r grant yn cyllido cynllun peilot 2 flynedd ar gyfer datrysiad a gynhelir, a hynny yn seiliedig ar gostau blynyddol o gwmpas £18k y flwyddyn, ond mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau.
Amlinellodd y Swyddogion yr adnoddau staffio sydd raid wrthynt i baratoi ar gyfer pob cyfarfod a gosod yr offer, ynghyd â’r galwadau ychwanegol ar yr Uned Gyfieithu i wasanaethu Pwyllgorau a a chyfieithu mewn cyfarfodydd i bwrpas gweddarlledu.
Cafodd y Pwyllgor drafodaeth ynghylch pa rai o Bwyllgorau’r Cyngor y dylid eu gweddarlledu fel cynllun peilot a PHENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir:-
· Bwrwymlaen i weddarlledu cyfarfodydd am gyfnod peilot o 2 flynedd er mwyn defnyddio’rcyllid gan Lywodraeth Cymru. · Gweddarlleducyfarfodydd y Cyngor Sir llawn, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. · Awdurdodi’rPennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro a’r Rheolydd TGCh i gaffaelyr offer angenrheidiol yn seiliedig ar ddatrysiad a gynhelir. · Nodi’rsefyllfa mewn perthynas â mynediad o bell fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad. |
|
Hyfforddiant Aelodau a Chynllun Datblygu Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod. (ADRODDIAD I DDILYN) Cofnodion: Cafwyd adroddiad llafar gan yr Uwch Swyddog Datblygu AD ar y sesiynau hyfforddi a drefnwyd ar gyfer Aelodau Etholedig, Aelodau Lleyg a Chynghorau Cymuned ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.
Roedd yr Aelodau yn ystyried y dylid rhoi hyfforddiant ar weithdrefnau cynllunio i’r Aelodau hynny nad ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
PENDERFYNWYD
· Nodi’r adroddiad.
· Cyflwyno adroddiad diweddaru i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn. |
|
Adolygiadau Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau PDF 132 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu AD mewn perthynas â’r uchod.
Fel rhan o’r cynllun datblygu a hyfforddi blynyddol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym Mai 2013 dywedodd y Swyddog bod ymrwymiad i gefnogi Aelodau i wneud adolygiadau datblygu personol. Cyflwynwyd yr adolygiadau hyn yn wreiddiol yn ystod 2011/12 i gynorthwyo gwaith y Cyngor tuag at gwrdd â gofynion Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau. Mae’r adolygiadau yn elfen bwysig o’r swyddogaeth datblygu aelodau ac maent yn cyfrannu tuag at ddiweddaru cynlluniau sydd wedi eu teilwrio ar gyfer Aelodau unigol a chynllun datblygu ehangach y Cyngor. Mae’r broses hon o gymorth i ddwyn sylw at unrhyw gefnogaeth mentora a all fod o fudd i waith yr Aelodau.
Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a oedd disgrifiadau swydd wedi eu cynhyrchu ar gyfer swyddogaethau penodol o fewn y Cyngor i Aelodau Etholedig e.e. Cadeiryddion Pwyllgorau. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro fod disgrifiadau swydd wedi eu rhoi I bob Aelod i adlewyrchu eu swyddogaethau penodol.
PENDERFYNWYD :-
· Nodi’radroddiad · Cyflwynoadroddiad gwaith i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. |
|
Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau - Adroddiad Cynnydd PDF 218 KB Cyflwyno adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas a’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â chynnydd o ran cais y Cyngor am statws Siarter.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro fod y Cyngor wedi derbyn sylwadau cychwynnol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi ei boddhad. Roedd yn dymuno cywiro C2 yn yr atodiad sy’n cyfeirio at reidrwydd ar awdurdodau i gynnal adolygiad ynghylch a yw’n well gan Aelodau gael cyfarfodydd yn ystod y dydd ynteu gyda’r nos. Rhagwelir y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr ar y mater hwn.
PENDERFYNWYD :-
· Awdurdodi’rPennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro i ddiweddaru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.
· Cyflwyno adroddiad diweddaru i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn ar y cais am statws Siarter. |