Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 1 Mai 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 1af Mai, 2007

CYNGOR SIR YNYS MÔN

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai 2007 (1:00pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Rowlands - Cadeirydd

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, John Byast, W. J. Chorlton,

E.G. Davies, J. M. Davies, P. J. Dunning, J. A. Edwards,

K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley,

D. R. Hughes, Mrs Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, Eric Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, Bob Parry OBE,

G. Winston Roberts OBE, John Roberts, J. Arwel Roberts,

W. T. Roberts, P. S. Rogers, H. W. Thomas, J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo)

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ)

Cyfreithiwr (RB) (Eitem 6 yn unig)
Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr E. Schofield, G. Allan Roberts, K. Thomas

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd W. J. Williams, MBE.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Bersonel.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. O. Parry MBE ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Williams, MBE ddatganiad o ddiddorddeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â Menter Môn.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Fflur M. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. G. Davies ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 8 y cofnodion, ac arhosodd yn y cyfarfod ond ni phleidleisiodd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Rowlands ddatganiad o ddiddordeb yn eitemau 10.2, 10.3 a 10.4 y cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitemau.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd D. Lewis Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn eitemau 10.9 a 10.10 y cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitemau.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd H. W. Thomas ddatganiad o ddiddordeb yn eitemau 10.1 a 10.7 y cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafod na'r pleidleisio ar yr eitemau.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferched yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol ac yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda’r Dr J B Hughes, Benllech a oedd, ar un adeg, yn Gynghorydd Sir - ar ôl iddo golli ei wraig Blodwen yn ddiweddar.  Hefyd cydymdeimlodd gyda Mr Meirion Jones, o’r Adran Gyfreithiol ar golli ei fam.

 

 

 

Ym mis Ebrill cafwyd newyddion trist o bentref Llanfaethlu am farwolaeth Mrs Jo-Anne Williams mewn damwain farchogaeth yn Swydd Gaerwrangon.  Yn y byd marchogaeth roedd Mrs Williams yn flaenllaw iawn fel arbenigwraig ac yn ddiweddar dewisiwyd hi i gynrychioli Prydain mewn gemau rhyngwladol yn Iwerddon ond, yn drist iawn, ni chafodd gyfle i fynd.

 

 

 

Gyrrwyd gair o gydymdeimlad at Mr Richard Williams, ei gwr, a chan feddwl am Sian, y ferch fach ddyflwydd oed a’r holl deulu yn eu galar.

 

 

 

Hefyd cydymdeimlwyd gyda’r Cynghorydd Tom Jones ar golli ei fab yng nghyfraith a chyda Dr Gwynne Jones, Prif Weithredwr Cynnal ar golli ei fam.

 

 

 

Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gyda’r holl aelodau hynny o’r staff a oedd wedi cael colledion yn ddiweddar.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a‘r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Ar nodyn ysgafnach, rhoes y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Fand Ieuenctid Môn a Gwynedd ar ennill ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain - Adain Hyn ym Manceinion ddydd Sul diwethaf, 29 Ebrill, a than arweiniad Gwyn Evans.  Oddi ar 1999 roedd y band wedi cystadlu 7 o weithiau yn y gystadleuaeth hon a phob tro un ai wedi dod yn gyntaf neu’n ail - hwn oedd pinacl eu llwyddiant.  

 

 

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd John Meirion Davies ar gwblhau 40 mlynedd o wasanaeth fel Cynghorydd yr wythnos hon.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd y Cynghorydd Bryan Owen, Rheolwr Cyffredinol Clwb Pêl-droed Llangefni ar ennill Cynghrair yr Huws Gray Fitlock Alliance a thrwy hynny gael dyrchafiad i Gynghrair Cymru.

 

 

 

Gyda phleser mawr, dywedodd bod y Cynghorydd E Schofield wedi gadael yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth a’i fod yn dod yn ei flaen yn dda.

 

 

 

 

 

3

CYFLWYNIAD

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i’r Grwp Gapten A S Barmby, OBE, B.Sc, Comander y Llu Awyr Brenhinol y Fali, a oedd yn mynychu cyfarfod o’r Cyngor hwn am y tro cyntaf.

 

 

 

Ganddo cafwyd braslun o swyddogaethau allweddol Llu Awyr Brenhinol y Fali, y berthynas rhwng y Lluoedd a’r contractwyr sifil a chafwyd manylion am brosiectau/buddsoddiadau allweddol yr oedd gwaith yn cael ei wneud arnynt neu fel arall a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol agos.

 

 

 

O edrych tua’r dyfodol roedd yn rhagweld buddsoddiadau sylweddol yn Llu Awyr Brenhinol y Fali a hynny’n argoeli’n dda i bobl Môn a hefyd i drigolion Gogledd Cymru yn gyffredinol.  

 

 

 

Yn y Fali roedd ef yn rhagweld y bydd gwaith integreiddio iawn yn cael ei wneud ar y gwasanaethau cludiant, bydd cynllun y maes awyr yn cael ei lansio a’r posibilrwydd o gael gorsaf reilffordd yn y Fali i gysylltu y cyfan o Ogledd Cymru i’r system ac wedyn ymlaen i Gaergybi i wneud cyswllt gyda’r fferi.  Un cynllun cyffrous iawn ar gyfer y dyfodol fuasai’r posibilrwydd o greu partneriaeth gyda’r Cyngor Sir i ddarparu canolfan i ymwelwyr.  

 

 

 

Roedd canolfan hedfan wedi bod yn y Fali ers 1941 a bellach roedd wedi datblygu’n rhan o’r gymuned.  Ers sefydlu trefniadau contract roedd y berthynas wedi cryfhau.  Wedyn cafwyd manylion ganddo am ymrwymiad y staff sydd ganddo i gefnogi elusennau ar yr Ynys ac yng Ngogledd Cymru.  Roeddynt bob amser wedi cyfrannu tuag at elusennau a phob blwyddyn roedd elfen leol gref yn yr achlysuron codi arian i elusennau.

 

 

 

Wrth gloi diolchodd yn fawr iawn am y fraint o annerch y Cyngor ar waith Llu Awyr Brenhinol y Fali a chyfraniad y lle ym mywyd Ynys Môn ac ar elfennau positif ar gyfer y dyfodol.  Buasai’n hapus iawn dychwelyd yn yr hydref a chyflwyno adroddiad manwl ar y sefyllfa ddiweddaraf - manylu ar sut yr oedd y prosiectau yn datblygu a goblygiadau’r rheini i ragolygon cyflogaeth ar yr Ynys.

 

 

 

Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i’r Grwp Gapten am ei anerchiad gwerthfawr a chan edrych ymlaen hefyd at gael adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf yn yr hydref.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gafwyd ar 6 Mawrth, 2007.

 

 

 

Yn Codi :-

 

 

 

Eitem 2 - Cyhoeddiadau gan y Cadeirydd

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd John Roberts sylw’r Cyngor at y ffaith bod Mr Jim Evans wedi treulio 35 mlynedd o’i 50 mlynedd gyda Swyddfa’r Bost fel Postfeistr yn Llanfair-pwll - nid fel a ddywedwyd yn y cofnodion.

 

 

 

5

TRAFODAETH CYFLWR YR ARDAL

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y Cyngor Sir, dros y deuddeng mis diwethaf, wedi wynebu sawl her.  O’r cychwyn, rydym wedi ceisio canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig i fynd â’r Awdurdod yn ei flaen a chynnal gwasanaethau o safon uchel.  Fel sefydliad, ni fedrwn sefyll yn stond, rhaid i ni fod yn flaengar, edrych ymlaen a datblygu sefydliad sy’n canolbwyntio ar y materion iawn.  Rydym wedi canolbwyntio ar agweddau mewnol a meysydd allweddol yn y Gymuned.

 

 

 

Yn arbennig dygodd sylw at y tasgau heriol a ganlyn y tu mewn i’r sefydliad :-

 

 

 

Ÿ

Rheoli gwaeledd - Rydym yn cydnabod y bydd raid cyflwyno rhagor o welliannau i ddatrys absenoldeb gwaeledd a rheoli hwnnw y tu mewn i’r Cyngor.  Ond, trwy ymdrechion y Cyngor hwn, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o bryd yn rhoddi sylw i fabwysiadu dull cyson o oruchwylio lefelau gwaeledd ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru.

 

 

 

Ÿ

Rheoli Perfformiad a Chynlluniau Busnes - Dan y pennawd hwn mae Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini’r Cyngor yn canolbwyntio ar Gynlluniau Busnes a sicrhau bod yr holl Adrannau yn eu darparu a bydd raid eu datblygu’n barhaus yn y dyfodol.

 

 

 

Ÿ

Rheoli Amser ac oriau ystwyth - Cyflwyno dulliau gweithio ystwyth (gweithio o’r cartref) a bydd arbrawf yn cael ei gynnal yn yr Adran Addysg a Hamdden.  Hefyd mae’r Gwasanaeth Datblygu Economaidd yn arbrofi gyda’r dulliau hyn.

 

 

 

Ÿ

Iechyd a Diogelwch - Bu hon yn sialens enfawr i’r Cyngor a chlustnodwyd adnoddau i gryfhau y tîm Iechyd a Diogelwch, a darparwyd sesiynau briffio manwl trwy gydol y flwyddyn i’r staff a hynny gyda chymorth Alwminiwm Môn a’r Wylfa.  Dros y deuddeng mis diwethaf cafwyd llwyddiannau sylweddol yn y maes hwn a diolchaf i bawb am eu cymorth.

 

 

 

Ÿ

Datblygu’r Cyngor - dros y misoedd diwethaf mae’r Rheolwr-gyfarwyddwr newydd wedi bod yn canolbwyntio ar ddiwylliant y Cyngor a datblygwyd cynigion i gryfhau trefniadau llywodraethu a sicrhau hefyd ein bod yn canolbwyntio ar anghenion y cwsmer ac yn monitro perfformiad mewn ffordd fwy ystyrlon.  Bydd y fframwaith newydd hwn yn sialens ond bydd raid i ni symud ymlaen ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol i sicrhau y bydd gennym drefniadau cadarn yn eu lle.  Yn hwyrach y mis hwn bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried, yn ffurfiol, fframwaith newydd.

 

 

 

Wedyn aeth yr Arweinydd yn ei flaen i roddi sylw i feysydd eraill a gafodd flaenoriaeth uchel a chrybwyll lles yr Ynys yn gyffredinol.  

 

 

 

Adfywio’r Economi a Swyddi

 

 

 

Ÿ

Wylfa – Mae Wylfa ac Alwminiwm Môn yn holl bwysig.  Mae’r swyddi yn talu’n dda ac yn rhoi cyfle i bobl aros yn eu cymunedau a datblygu sgiliau.  Rwy’n falch bod y Cyngor Sir wedi cefnogi Gorsaf Bwer newydd yn Wylfa.  Mae hyn ar frig ein hagenda ac rydym yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i wneud ymrwymiad cadarn ynghylch Wylfa B.

 

 

 

Ÿ

Partneriaeth Môn a Menai rhwng y Cyngor, Cyngor Gwynedd a’r Cynulliad i baratoi cynllun gweithredu i leihau effaith cau’r Wylfa a’r posibilrwydd o golli swyddi allweddol yn Alwminiwm Môn.

 

                

 

Ÿ

Canolbwynt ar Gaergybi – Buddsoddiad o £3m ym Mhrosiect Ty Mawr, £1.4m ym Mhrosiect y Porth Celtaidd a £870k mewn prosiectau adfywio yn gyffredinol.  

 

                

 

Ÿ

Canolbwynt ar Llangefni – Y Ganolfan Integredig newydd a datblygiadau cysylltiedig i adfywio’r dref.

 

                

 

Ÿ

Maes Awyr Môn a’r cyswllt newydd â Chaerdydd – gwariant cyfalaf o £1.5m.         

 

 

 

Ÿ

Sialensiau yn y Dyfodol – yr angen i fanteisio i’r eithaf ar gymorth cydgyfeiriant, cadw swyddi a chyfleon i bobl ifanc aros yn eu cymunedau.

 

 

 

Byw’n Iach, Chwaraeon ac Addysg

 

 

 

Ÿ

Cwblhawyd canolfan chwaraeon newydd gwerth £2.4m yn Ysgol David Hughes £2.4m, hefyd gwnaed gwelliannau i’r cyfleusterau yn Ysgol Uwchradd Bodedern gwerth £200k, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch £150k,  ac Ysgol Gynradd Niwbwrch.  Mae gwaith ar Stadiwm Caergybi bron wedi’i gwblhau.  

 

 

 

Yr Amgylchedd a Thai

 

 

 

Ÿ

Mae tai fforddiadwy yn flaenoriaeth uchel arall.  Ar hyn o bryd mae cynlluniau’n cael eu datblygu ym Modedern, Brynsiencyn a Phorthaethwy a thrwy Bolisiau Cynllunio rydym yn creu cyfleon i ddarparu tai fforddiadwy yn lleol.  Dyma gyfle i bobl ddechrau dringo’r ysgol dai ac mae hwn yn gam cadarnhaol.  Hefyd mae hon yn sialens i nifer fawr o deuluoedd.  

 

           

 

Ÿ

Yn y contractau newydd sydd yn eu lle i reoli gwastraff mae’r ffocws yn dal i fod ar ailgylchu, e.e. mae 75% o aelwydydd yr ynys wedi derbyn bocsys ailgylchu.  Trwy ymdrechion parhaus a buddsoddiadau cyson rydym wedi gostwng 24% ar y gwastraff cyhoeddus sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi ers 2001.  

 

 

 

Ÿ

Bydd cyfleusterau ailgylchu newydd ac offer cynhyrchu trydan yn cael eu darparu ym Mhenhesgyn - ar gost £2.6m.  Yno bydd offer ailgylchu a ddarperir ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Conwy.

 

 

 

Ÿ

Y llynedd lansiwyd prosiect llwybr yr arfordir yn swyddogol a thrwy hynny ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dyma enghraifft o ased mawr iawn i’r Ynys a fydd yn hwb i dwristiaeth gynaliadwy.

 

 

 

Ÿ

Darparwyd cynllun newydd ym Miwmares i amddiffyn rhag llifogydd y môr - cynllun £965k - ac a gyllidwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

 

 

Defnyddio Adnoddau yn Effeithlon

 

 

 

Mewn perthynas â chyllideb eleni, bu’n rhaid wynebu nifer o sialensiau anodd oherwydd setliad gwael.  Er gwaethaf y pwysau mawr, cadwyd y cynnydd yn y gyllideb islaw 5%. Bu’n rhaid i ni wneud arbedion mewn sawl maes a hynny heb gael effaith ar wasanaethau.  Er gwaethaf setliad gwael ar gyfer 2007/08, gan Ynys Môn mae un o’r trethi cyngor isaf yng Nghymru.

 

 

 

Mae defnydd effeithlon o adnoddau yn parhau i fod ar frig ein rhaglen:

 

                

 

Ÿ

Yr ymgynghori cyfredol ar yr Achos dros Newid mewn perthynas â’r ysgolion cynradd.

 

 

 

Ÿ

Addysg Ôl-16 – ymgynghorwyd yn gynharach eleni ar nifer o opsiynau ac rydym ar hyn o bryd yn disgwyl atborth gan y Cynulliad.

 

 

 

Buddsoddi mewn Systemau Newydd

 

 

 

Gweithredu system gyflogau newydd a system refeniw a budd-daliadau newydd.

 

 

 

Deddfwriaeth Newydd

 

 

 

Deddfwriaeth ysmygu newydd a deddfwriaeth parcio anhroseddol.

 

Ond mae angen i ni fod yn flaengar mewn meysydd eraill, e.e. mae  rheoli cartrefi i’r henoed, tai fforddiadwy a buddsoddi yn stoc dai’r Cyngor yn faterion sydd ar frig ein hagenda.  

 

 

 

Celfyddyd a Threftadaeth

 

 

 

Bydd Oriel Syr Kyffin yn ddatblygiad o bwys ac yn hwb sylweddol i’r celfyddydau yn Ynys Môn.  Yn y misoedd diwethaf, gwelwyd datblygu tai crynion Celtaidd ym Melin Llynnon a fydd yn hwb pellach i dwristiaeth ac yn ased pwysig arall i Dreftadaeth yr Ynys.

 

 

 

Arolygon a Rheoli

 

 

 

Yn ystod y flwyddyn cafwyd sawl arolwg ond yma hoffwn gyfeirio’n benodol at yr arolwg ar y cyd yng nghyswllt y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Yng nghyd-destun y Gwasanaethau Cymdeithasol hoffwn roi gwybod i’r Cyngor bod gwaith rheoli’r cartrefi gofal o ddydd i ddydd (Model Menter rhwng y Cyngor / Sector Preifat / Adran Gwasanaethau Cymdeithasol) yn cael ei ystyried gyda golwg ar sicrhau y bydd ein cartrefi gofal yn cael eu rhedeg yn y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol bosib.

 

 

 

Her y Dyfodol

 

 

 

Mae sawl her yn wynebu’r Cyngor:

 

 

 

Ÿ

Gyda golwg ar wneud defnydd effeithiol o adnoddau mae cydweithio’n rhanbarthol a hybu trefniadau partneriaethol yn flaenoriaeth allweddol.  Gwelsom fodelau rhagorol i bwrpas gweithio mewn partneriaeth e.e. prosiect Llu Awyr y Fali a byddwn yn parhau i weithio ar nifer o gynlluniau a fydd yn arwain at well gwasanaethau a mwy o effeithiolrwydd yn y dyfodol - fel enghraifft datblygu gwasanaethau teleofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i fanteisio i’r eithaf ar y dechnoleg newydd.

 

Ÿ

Peth arall y mae’r Pwyllgor Gwaith yn edrych arno yw dulliau prynu’r Cyngor a chafwyd trafodaethau gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Ngogledd-orllewin Cymru i edrych ar ffyrdd o greu arbedion ond, yr un pryd, rhaid diogelu’r economi leol a chreu swyddi.

 

Ÿ

i gloi, mae angen i ni fod yn fwy cadarnhaol a blaengar fel sefydliad.  Mae angen i ni fod ag agwedd ‘gallwn wneud’ a sefydlu partneriaeth effeithiol rhwng Aelodau a Swyddogion.  Mae yna nifer o bethau da iawn am y sefydliad hwn ac rwy’n dymuno diolch i’r Aelodau a’r Staff am eu hymrwymiad a’u hagwedd gadarnhaol.  Yn y pen draw, bydd Tîm Ynys Môn yn llwyddo er budd pawb.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd G O Parry, MBE bryderon ynghylch cyflwr Cob y Fali a hefyd ynghylch y morglawdd yng Nghaergybi - dau gyfleuster o bwysigrwydd rhyngwladol.  Gofynnodd i’r Arweinydd roddi sylw i’r materion hyn ac yn arbennig oherwydd bod angen diogelu’r morglawdd - adeilad na wnaed unrhyw waith cynnal a chadw arno dros y blynyddoedd diwethaf.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Stena ar y mater ond cytunodd, fodd bynnag, fod hwn yn fater o bwys mawr i Ynys Môn ac aeth ymlaen i gydnabod yn ddiolchgar y gefnogaeth a gafodd gan Stena.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd A Morris Jones beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt cynllun y Copper Kingdom ym Mynydd Parys - cynllun a allai ddenu nifer o ymwelwyr i’r rhan hon o’r Ynys.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd ei fod yn croesawu datblygiad o’r fath ond bod raid sicrhau Cynllun Busnes cadarn gan y datblygwyr cyn y gallai’r Cyngor Sir ystyried cyfrannu’n ariannol.  

 

      

 

6     RHEOLI YFED ALCOHOL MEWN MANNAU CYHOEDDUS DYNODEDIG - PORTHAETHWY

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr - Ar 1 Medi, 2001, daeth adrannau 12-16 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu i rym  sydd yn rhoi i’r Awdurdod Lleol rym i gyfyngu ar yfed gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus dynodedig ac maent yn rhoi’r grym i’r Heddlu orfodi’r cyfyngiad hwn.  Ar yr un dyddiad, daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig) i rym.  Roedd y rhain yn nodi’r trefniadau yr oedd raid i Awdurdodau Lleol eu dilyn i ddynodi mannau cyhoeddus i’r pwrpas hwn.  Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r ddeddfwriaeth uchod i’r Cyngor Sir, a bwrw ymlaen gyda’r cais cyntaf am orchymyn o’r fath mewn ardal yn nhref Porthaethwy.

 

      

 

     Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi derbyn sawl cwyn ynghylch yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus ym Mhorthaethwy trwy Bwyllgor Trosedd a Anhrefn Menai, y Cyngor Tref, Heddlu Gogledd Cymru, aelodau’r gymuned fusnes a’r cyhoedd.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno bwrw ymlaen gyda chyfyngiadau ar yfed alcohol mewn ardal ddiffiniedig yn nhref Porthaethwy.

 

      

 

     Mae’r pwerau statudol newydd hyn yn disodli’r is-ddeddfau gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus dynodedig a gall Awdurdodau Lleol orfodi gwaharddiadau ar yfed cyhoeddus oherwydd niwsans neu flinder a achosir i’r cyhoedd neu oherwydd anhrefn.  Os oes digon o dystiolaeth, dylai Awdurdodau Lleol ystyried a ddylid gwneud cais am orchymyn dan Adran 13 y Ddeddf yn hytrach na bwrw ymlaen gydag is-ddeddf leol.

 

      

 

     Yn dilyn ymgynghoriad manwl a maith gyda’r holl bartion â diddordeb, mae’r Cyngor Sir ar ran y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn yn awr yn cyflwyno cais am wahardd yfed alcohol mewn ardal ddynodedig ym Mhorthaethwy - mae digonedd o dystiolaeth ynghylch trosedd ac anhrefn yn digwydd yno oherwydd yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus .

 

      

 

     Telid yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’r gorchymyn, a hynny’n cynnwys y broses ymgynghori ar arwyddion yn yr ardal ddynodedig, o’r Gyllideb Diogelwch Cymunedol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu’n ffurfiol y pwerau a nodir yn Adrannau 12-16 Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor Sir yn dirprwyo’r grym i’r Rheolwr-gyfarwyddwr mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio dros Drosedd ac Anhrefn i wneud Gorchymyn Dynodi dan Adran 13 Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig) 2001 yn Nhref Porthaethwy yn unol â’r ardal a nodwyd ac a ddangosir ar y cynllun a oedd ynghlwm wrth y rhybuddion cyhoeddus ond yn amodol ar ddiwygio’r ffiniau yn derfynol gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymgynghoriad gyda’r Heddlu ar ôl rhoi sylw teilwng i’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol.

 

 

 

Ÿ

Bod Cyfreithiwr y Sir yn penodi dyddiad cychwyn y Gorchymyn Dynodi ar ôl i holl gyfnodau statudol y Rhybudd Cyhoeddus ddod i ben.

 

      

 

7     YSTYRIED ARGYMHELLIAD Y PWYLLGOR GWAITH I DDIWYGIO’R CYFANSODDIAD - CYNLLUN DIRPRWYO I’R PENNAETH GWASANAETH (EIDDO)

 

      

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) - Yn ei gyfarfod ar 26 Chwefror, 2007, bu’r Pwyllgor Gwaith yn trafod adroddiad ar gael gwared o dir mewn gwahanol safleoedd ac ar newidiadau a awgrymwyd i’r polisi ar gyfer hynny.  Mewn perthynas â newidiadau o’r fath, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn :-

 

 

 

“Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn :-

 

 

 

Dileu’r cymalau canlynol yn y cynllun Dirprwyo :-

 

 

 

3.5.3.19(4) Gweithredu ar bwerau a dyletswyddau’r Cyngor o ran prynu neu gael gwared o dir ac adeiladau yn unol â Pholisi a Dulliau Rheoli Asedion y Cyngor, hyd at a chan gynnwys gwerth ar y farchnad agored o £10,000.

 

 

 

3.5.3.19(6) Cymeradwyo gosod eiddo sydd â gwerth rhent ar y farchnad agored o hyd at £15,000.

 

 

 

Rhoi’r cymalau isod i mewn yn eu lle :-

 

 

 

3.5.3.19(4) Gweithredu ar bwerau a dyletswyddau’r Cyngor o ran prynu neu gael gwared o dir ac adeiladau mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Lleol a’r Aelod Portffolio ac yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Rheoli Asedau’r Cyngor, a fframweithiau Polisi a Chyllidebol y Cyngor.

 

 

 

3.5.3.19(6) Cymeradwyo gosod eiddo yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Rheoli Asedau’r Cyngor, a fframweithiau Polisi a Chyllidebol y Cyngor.

 

 

 

Mae Swyddogion o’r Adain Eiddo wrthi ar hyn o bryd yn adolygu Polisi a Gweithdrefnau Rheoli Asedau’r Cyngor ar gyfer prynu a chael gwared o eiddo.  Gofynnwyd am gyngor ariannol a chyfreithiol priodol fel rhan o’r broses hon.  Cafodd y Polisi a’r Gweithdrefnau presennol eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir yn 2001; fodd bynnag, mae mabwysiadu’r Cyfansoddiad ar ôl hynny wedi arwain at rai anghysonderau ynghylch ar ba lefelau y dylai swyddogion ac aelodau wneud penderfyniadau o’r fath.  Roedd dyfyniadau perthnasol o’r Polisi a’r Gweithdrefnau Rheoli Asedau presennol ynghlwm wrth yr adroddiad er gwybodaeth.  Bydd raid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo mewn perthynas ag unrhyw newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r Polisi a’r Gweithdrefnau.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a mabwysiadu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad fel y manylir uchod.

 

 

 

 

 

 

 

8     SEFYDLU PANEL I DDEWIS PWYLLGOR SAFONAU NEWYDD

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Monitro - O dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2006) rhaid i’r Cyngor fod â Phwyllgor Safonau gyda dim llai na phump a dim mwy na naw o Aelodau.  Rhaid i un Aelod fod yn Gynghorydd Tref neu Gymuned, ac wedi’i enwebu gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

      

 

     Fe wnaeth y Cyngor hwn, wrth adolygu ei strwythur gwreiddiol, symud Cynghorwyr Sir oddi ar y Pwyllgor Safonau, ac ar y Pwyllgor hwnnw yn awr fe geir pum aelod annibynnol/lleyg ac un Aelod Cyngor Tref/Cymuned.

 

      

 

     Bydd tymor chwe Aelod presennol y Pwyllgor Safonau yn dod i ben ar 17 Rhagfyr, 2007.  Bydd angen i’r apwyntiadau newydd fod mewn grym o 18 Rhagfyr, 2007.  Tra bod yn rhaid i Aelod y Cynghorau Tref/Cymuned gael ei enwebu gan yr holl Gynghorau Tref a Chymuned, rhaid i’r aelodau Annibynnol gael eu hapwyntio gan y Cyngor.  

 

      

 

     Bydd yr holl aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau yn dal y swydd am bedair i chwe blynedd.  Fe all y tymor gael ei ymestyn bedair blynedd, gyda chymeradwyaeth y Cyngor.  Fodd bynnag, fe ddylid nodi fod pob un o Aelodau Annibynnol presennol y Pwyllgor Safonau yn gymwys i wneud cais i ailsefyll ond, os cânt eu dewis, ni fydd ganddynt ond hawl i un tymor ychwanegol o bedair blynedd.

 

      

 

     Dywed y Rheoliadau y bydd raid cydymffurfio gyda’r broses ddewis statudol wrth benodi’r Aelodau Annibynnol.  Yn unol â’r Rheoliadau, rhaid i’r Panel Dewis gynnwys tri Chynghorydd Sir (nid oes angen cydbwysedd gwleidyddol), un person annibynnol ac un cynghorydd Tref/Cymuned.

 

      

 

     Gwaith y Panel fydd llunio meini prawf ar gyfer dewis Aelodau Annibynnol newydd.  Bydd y llefydd gwag yn cael eu cyhoeddi mewn hysbysebion fydd yn gwahodd ceisiadau ysgrifenedig oddi wrth aelodau’r cyhoedd fydd yn dymuno cael eu hystyried fel aelodau o’r Pwyllgor Safonau.  Bydd pecyn gwybodaeth a ffurflen gais yn cael eu darparu i’r rhai fydd wedi mynegi diddordeb.  Gofynnir wedyn i’r Panel Dewis sgorio’r ceisiadau, a llunio rhestr fer o’r ymgeiswyr a chynnal cyfweliadau.  Yn dilyn y broses hon bydd y Panel yn gwneud argymhellion i’r Cyngor ac fe ofynnir i’r Cyngor gadarnhau’r apwyntiadau.

 

      

 

     Mae’n ddigon rhesymol tybio y bydd gan y Panel Dewis waith sylweddol, yn arbennig yn ystod y cyfnod o lunio’r rhestr fer, cyfweld a dewis.  Disgwylir y bydd yr holl broses yn cymryd rhyw chwe mis.

 

      

 

     Gan nad yw’r Cynghorwyr Sir bellach yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor Safonau, mae’r aelodaeth gyffredinol wedi gostwng o naw y strwythur gwreiddiol, i lawr i chwech.  O’r herwydd gofynnwyd i’r  Aelodau ystyried a fyddai’n briodol cymryd y cyfle hwn i gynyddu nifer yr Aelodau Annibynnol, er mwyn osgoi unrhyw broblemau posibl gyda chworwm.  Byddai hyn hefyd yn hyrwyddo sefydlu is-bwyllgor o’r Pwyllgor Safonau i wrando ar geisiadau am ganiatâd arbennig sydd, oherwydd eu natur, weithiau yn rhai y mae’n rhaid rhoddi sylw brys iddynt.

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd P S Rogers amheuon ynghylch y Pwyllgor Safonau, sef bod gwrthdaro yn niddordeb y Swyddog Monitro rhwng ei swyddogaeth fel Prif Swyddog Cyfreithiol a hefyd fel Swyddog Monitro a hynny wedi  achosi oedi cyn i’r Pwyllgor Safonau roddi sylw i rai achosion.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ei bod hi o’r farn bod raid penderfynu ar unrhyw wrthdaro mewn diddordebau fesul achos ac efallai y cyfyd rhai sefyllfaoedd lle mae wedi cynghori parti ar fater penodol a hwnnw wedyn yn fater sy’n datblygu yn un perthnasol i’r Pwyllgor Safonau.  Dan amgylchiadau felly ni fuasai’n briodol iddi weithredu fel cynghorydd ac ar adegau o’r fath buasai’n gofyn i Mr Meirion Jones, Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro neu i Mr Robyn Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Dirprwy Swyddog Monitro roddi cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

O 18 Rhagfyr 2007, fod nifer yr Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau yn aros ar  5 aelod.

 

 

 

Ÿ

Bydd tymor Aelod(au) Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben ar 17 Rhagfyr, 2011.

 

 

 

Ÿ

Fod Panel Dewis yn cael ei sefydlu i wneud argymhelliad i’r Cyngor ynglyn â’r rhai ddylai gael eu hapwyntio fel Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau o 18 Rhagfyr 2007 ymlaen.

 

 

 

Ÿ

Mae’r tri Cynghorydd Sir i wasanaethau’r ar y Panel Dewis i’w y Cynghorwyr W.J. Chorlton, P.M. Fowlie a John Roberts.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cynghorydd Tref/Cymuned fydd ar y Panel Dewis yn cael ei enwebu gan ‘Unllais Cymru’.

 

 

 

Ÿ

Bod dewis y person annibynnol i wasanaethu ar y Panel Dewis, yn dilyn proses o hysbysebu a chyflwyno ceisiadau ysgrifenedig, yn cael ei ddirprwyo i’r Rheolwr-gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a’r Swyddog Monitro ar y cyd, ac mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol).

 

 

 

Ÿ

Bydd y Panel Dewis yn derbyn y pwerau dirprwyedig canlynol gan y Cyngor :-

 

 

 

Ÿ

penderfynu ar y meini prawf ar gyfer aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau;

 

 

 

Ÿ

hysbysebu am unigolion sy’n cyfarfod â’r meini prawf ac sydd â diddordeb mewn dod yn Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau;

 

 

 

Ÿ

llunio rhestr fer, cyfweld ac enwebu ymgeiswyr priodol o blith yr ymgeiswyr hynny.

 

      

 

9     YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi newidiadau i’r cynllun dirprwyo yng nghyswllt swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith ac a gyflwynwyd gan yr Arweinydd ers cyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor (Gweler Rheol 4.14.1.4 Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - tudalen 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

      

 

10     CWESTIWN A DDERBYNIWYD DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

     Cymerodd yr Is-Gadeirydd y Gadair am yr eitem hon.

 

      

 

     Gerbron roedd deuddeg o gwestiynau gan y Cynghorydd P S Rogers a’r rheini wedi’u rhestru fel rhan o’r rhaglen i’r cyfarfod hwn.

 

      

 

     Ar ran ei gyd-Gynghorwyr, mynegodd y Cynghorydd P M Fowlie ei siom bod cwestiynau o’r fath wedi eu rhoddi ar y rhaglen.  Cwestiynau personol a phreifat iawn oedd y rhain a chredai ef na ddylent fod gerbron y Cyngor a’r rheini’n gwestiynau oedd yn cael eu gofyn gan ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau nesaf.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr iddo siarad, ers y Cyngor diwethaf, gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor a’r rheini i gyd yn gytûn na ddylid codi cwestiynau personol o’r fath yn y Siambr hon a hynny am na ddylid gwastraffu amser gwerthfawr y Cyngor ar bethau o’r fath.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd J Arthur Jones bod y Cyngor, dan Baragraff 4.1.14.14 Cyfansoddiad y Cyngor yn rhoi’r rheol dan Baragraff 4.1.12.4 y Cyfansoddiad o’r neilltu a thrwy hynny beidio â gwrando ar y cwestiynau hyn.

 

      

 

     Gofyn a wnaeth y Cynghorydd Tom Jones a oedd y Cyngor â’r hawl i atal Cynghorydd rhag gofyn cwestiynau yn y Cyngor llawn?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro nad oedd hawl absoliwt i ofyn cwestiynau yn dilyn rhybudd, yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn er bod y rhan fwyaf o’r Cynghorau gyda darpariaeth i ganiatáu unigolion i ofyn cwestiynau un ai gyda chyfyngiad amser neu gyda chyfyngiad ar nifer y cwestiynau.  Dan Baragraff 4.1.2.7 Cyfansoddiad y Cyngor roedd modd atal holl reolau a gweithdrefnau’r Cyngor, ac eithrio y rhai statudol, ond am y cyfarfod yn unig.  O’r herwydd ni châi penderfyniad o’r fath effaith y tu draw i’r cyfarfod hwn onid oedd Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yn cael eu newid.  i gyflawni hynny buasai’n rhaid cyflwyno adroddiad arall i’r Pwyllgor Gwaith ac yna i’r Cyngor llawn.  

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd P M Fowlie yr hoffai gofnodi  nad bwriad Arweinyddion y Grwpiau oedd rhwystro neb rhag gofyn cwestiwn yn y Siambr - y maen tramgwydd yma oedd cwestiynau o natur bersonol a phreifat.  

 

      

 

     Roedd yr Arweinydd yn derbyn y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Tom Jones ac ychwanegodd nad y bwriad yma oedd rhwystro trafodaethau yn y dyfodol.  Ond gyda chwestiynau o’r fath roedd angen eu gyrru at y Swyddog priodol am ymateb a pheidio â’u trafod yn agored yn y Siambr.  

 

      

 

     Gofyn a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ble oedd y cyngor cyfreithiol pan oedd Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn delio gyda’r broses o ofyn cwestiynau personol? Roedd y Grwpiau wedi gwneud ymrwymiad yn y cyswllt hwn a pham nad oedd cyngor cyfreithiol ar gael y pryd hwnnw?  Roedd, ar achlysur o’r blaen, wedi gofyn am gyflwyno cyngor cyfreithiol a gofynnodd yn benodol am i hwnnw gael ei roddi yn y dyfodol.  Wedyn pwysodd yn daer ar yr Arweinydd i sicrhau y bydd hawl ddemocrataidd bob amser i’r aelodau ofyn cwestiynau ystyrlon yn y Cyngor ynghylch unrhyw fater polisi a allai godi.

 

      

 

     Penderfynwyd atal y Rheol dan baragraff 4.1.12.4 y Cyfansoddiad a pheidio â gwrando ar y cwestiynau (i atal cafwyd cefnogaeth 27 o’r aelodau allan o’r 37 a oedd yn bresennol).

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 2:20 p.m.  

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd W J Williams, MBE

 

     Cadeirydd