E-ddeisebau cyfredol

Mae e-ddeiseb yn eich galluogi chi i gyhoeddi eich deiseb yn fyw ar y rhyngrwyd, yn hytrach nag ar bapur yn unig. Gallwch sicrhau bod eich deiseb ar gael i gynulleidfa lawer ehangach gan roi cyfle i chi gasglu mwy o enwau i gefnogi'r ddeiseb.

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Ynys Môn gyflwyno neu lofnodi e-ddeiseb. Gall e-ddeiseb ymwneud ag unrhyw fater y mae gan y cyngor bwerau neu ddyletswyddau drosto neu y mae ganddo gyfrifoldebau cyflawni ar y cyd amdanynt.

I ychwanegu deiseb neu i lofnodi un sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i chi gofrestru eich manylion gyda ni. Defnyddiwch y ddolen 'Cyflwyno e-ddeiseb newydd' isod. Byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen lle gallwch gofrestru fel defnyddiwr newydd neu fewngofnodi i'r system.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r system e-ddeisebau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y broses ddeisebau gallwch gysylltu gan ddefnyddio’r manylion isod:

E-bost: GwasanaethauDemocrataidd@ynysmon.llyw.cymru

Nid oes eDdeisebau cyfredol

Canllawiau, telerau ac amodau

Rydym wedi darparu canllawiau cynhwysfawr i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych wrth ddefnyddio'r system.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno naill ai e-ddeiseb neu ddeiseb bapur, edrychwch ar y Cynllun Deisebau.

Gallwch hefyd ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd Deisebau yma..

Ymwadiad

Nid yw'r cyngor hwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y deisebau ar y wefan hon. Nid yw'r safbwyntiau a fynegir yn y deisebau o reidrwydd yn adlewyrchu rhai'r cyngor.