Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 1 Mai 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 1af Mai, 2007

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Ynys Môn  

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2007 (2:45pm)

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Mrs B Burns MBE, J Byast, W J Chorlton,

E G Davies, J M Davies, P J Dunning, J A Edwards, K Evans,

C Ll Everett, P M Fowlie, D R Hadley, D R Hughes,

Fflur M. Hughes, R Ll Hughes, W I Hughes, A M Jones,

Eric Jones, G O Jones, H E Jones, J A Jones, O G Jones,

R Ll Jones, T H Jones, D A Lewis Roberts, Bryan Owen,

R L Owen, G O Parry MBE, R G Parry OBE, G Winston Roberts OBE, J Arwel Roberts, John Roberts, W T Roberts, P S Rogers, J Rowlands, H W Thomas, J Williams, W J Williams MBE.

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol(Cynllunio a’r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol(Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau/ Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth(Polisi)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ)

Swyddog Cysylltiadau y Wasg

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr G Allan Roberts, E Schofield, K Thomas

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd P M Fowlie.

 

1

CADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd W J Williams, MBE yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2007/08.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei apwyntio fe addawodd i’r Cyngor y byddai’n ymgymryd â’i ddyletswyddau ac yn eu gwneud hyd orau ei allu.  Cymerodd y cyfle hefyd o dalu teyrnged i’r Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd John Rowlands, am ei ymrwymiad yn cynrychioli’r Cyngor Sir trwy gydol tymor ei swydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd John Rowlands, y Cadeirydd oedd yn ymddeol, i’r holl aelodau ac i swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod tymor ei swydd.  Rhoddodd hefyd grynodeb o’i ddyletswyddau fel Cadeirydd yn cynrychioli’r Cyngor Sir mewn amrywiol weithgareddau trwy gydol y flwyddyn.  Mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd W J Williams ac i’w wraig Myfanwy gan obeithio y byddant hwythau hefyd yn mwynhau cyfnod hapus a llwyddiannus yn y swydd.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Cynigiwyd ac eiliwyd fod y Cynghorydd John Roberts yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd y Cyngor am 2007/08.  Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Yn dilyn hyn, cafwyd cyngor gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro fod Adran 11 (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn dweud “Ni chaiff Cadeirydd nac Is-Gadeirydd yr Awdurdod weithredu ar Bwyllgor Gwaith Awdurdod Lleol.”

 

Yng ngoleuni’r uchod, rhoddodd y Cadeirydd ganiatâd i’r Pwyllgor gael egwyl o 5 munud er mwyn trafod y mater.

 

Ailalwyd y cyfarfod, ac fe ddywedodd y Cynghorydd John Roberts y byddai’n sefyll i lawr o fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith er mwyn iddo fedru derbyn swydd yr Is-Gadeirydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Roberts yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2007/08.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r aelodau am eu hyder ynddo a diolchodd i’r aelodau am eu geiriau caredig.  Mynegodd ei fwriad i gydweithredu a chefnogi’r Cadeirydd newydd.

 

 

 

3

CYHOEDDIADAU

 

 

 

Dim

 

 

 

4

 

4

 

4

 

4

DADATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan aelod na swyddog.

 

 

 

5

 

5

DIRPRWYO GAN YR ARWEINYDD / AELODAETH Y PWYLLGOR GWAITH

 

 

 

Yn unol â Rheol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefnau’r Pwyllgor Gwaith, enwodd Arweinydd y Cyngor y canlynol fel yr aelodau oedd wedi’u dewis i weithredu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u dyletswyddau portffolio:

 

 

 

Y Cynghorydd G W Roberts OBE

Arweinydd y Cyngor a Deilydd Portffolio dros Adfywio Corfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Cynghorydd W J Chorlton

Deilydd Portffolio Iechyd a Thai

Y Cynghorydd D R Hughes

Deilydd Portffolio Hamdden, Celfyddydau a’r Iaith Gymraeg

 

Deilydd Portffolio Cyllid a Gwybodaeth Technoleg

Y Cynghorydd H W Thomas

Deilydd Portffolio Cynllunio a Thwristiaeth

Y Cynghorydd K Evans

Deilydd Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo

Y Cynghorydd J Meirion Davies

Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio Addysg a Dysgu Gydol Oes

Y Cynghorydd H Eifion Jones

Deilydd Portffolio dros Lywodraethu Corfforaethol

Y Cynghorydd John Williams

Deilydd Portffolio Trosedd ac Anhrefn, Gwarchod y Cyhoedd a’r Amgylchedd

 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod hefyd wedi ailapwyntio’r Cynghorydd W J Williams, MBE i weithredu fel Ymgynghorydd y Cyngor ar faterion Ewropeaidd a Thrafnidiaeth.  Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r Cynghorydd Williams am ei waith gwerthfawr yn y maes hwn.

 

 

 

6

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

 

 

Caniataodd y Cadeirydd drafodaeth ar y mater hwn o weld yr angen i benderfynu ar y trefniadau yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol o fewn y Cyngor yn dilyn newidiadau diweddar yn aelodaeth dau o’r grwpiau gwleidyddol.

 

 

 

Dosbarthwyd tabl i’r aelodau yn dangos cydbwysedd gwleidyddol o fewn Pwyllgorau’r Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

 

 

Roedd y tabl yn dangos 5 Grwp Gwleidyddol 15,9,6,4 a 3 o Aelodau yn olynol gyda 3 o Aelodau Digyswllt ar wahân.  Cyfanswm y seddau oedd i’w dyrannu yn awr oedd 99.

 

 

 

Roedd y ffigyrau wedi’u paratoi er mwyn sicrhau fod y cydbwysedd gwleidyddol yn cael ei gadw ar bob Pwyllgor yn ogystal ag yn ei gyfanswm yn seiliedig ar y ddarpariaeth ddeddfwriaethol.  Roedd dyraniad theoretig o 99 sedd yn dangos dyraniad o 37.125 sedd i Môn Ymlaen, 14.85 sedd i Plaid Cymru, 22.275 sedd i’r Annibynwyr Gwreiddiol, 7.425 sedd i Cadwyn, 9.9 sedd i’r Annibynwyr Radicalaidd a 7.425 sedd i’r Aelodau Digyswllt.  Er mwyn sicrhau cydbwysedd “ yn ôl pwyllgor” ac i gyrraedd rhifau cyfan fel rhywbeth ymarferol fe gafodd y ffigyrau hyn eu talgrynu i 37, 15, 22, 8, 10 a 7.

 

 

 

Ni all yr un grwp gwleidyddol ar y Cyngor ond dyrannu’r seddau yr oedd wedi’i dderbyn o dan y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol i’w aelodau ei hun ac ni all ddyrannu i Gynghorydd nad yw’n aelod o’r un grwp gwleidyddol hwnnw.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol newydd a niferoedd y seddau oedd wedi’u dyrannu i bob un o’r Grwpiau a’r Aelodau Digyswllt o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai, 1989.

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar y nifer cyfan o seddau oedd i’w dyrannu i’r Aelodau Digyswllt.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i Arweinyddion y Grwpiau ddarparu rhestr o enwau cynrychiolwyr eu Grwp ar bob Pwyllgor i Reolwr y Gwasanaethau Pwyllgor mor fuan ag oedd yn bosibl a gorau oll petai modd gwneud hynny’n syth wedi’r cyfarfod hwn o’r Cyngor Sir.

 

 

 

7

CADARNHAU’R PWYLLGORAU

 

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd dderbyn eto strwythur presennol y Pwyllgorau fel y cyfeirir ato o dan Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

8

CADARNHAU’R CYNLLUN O DDIRPRWYO

 

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y rhan o’r Cynllun Dirprwyo fel y’i ceir ym Mharagraff 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

9

RHAGLEN CYFARFODYDD CYFFREDIN Y CYNGOR

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor am y flwyddyn i ddod:-

 

 

 

18 Medi, 2007                     2:00 p.m.

 

13 Rhagfyr, 2007                    2:00 p.m.

 

4 Mawrth, 2008                    2:00 p.m.

 

8 Mai, 2008 (Cyfarfod Blynyddol)           2:00 p.m.

 

........

 

Terfynwyd y cyfarfod am 3:15 p.m.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD W J WILLIAMS, MBE

 

CADEIRYDD