Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 3 Mai 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 3ydd Mai, 2005

Cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2005 (2:00pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (Cadeirydd)

Y Cynghorydd J. Byast (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, W. J. Chorlton, E. G. Davies, J. M. Davies, P. J. Dunning, J. A. Edwards, K. Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE,  G. A. Rboerts, G. Winston Roberts OBE, John Roberts, W. T. Roberts, P. S. Rogers, J. Rowlands, E. Schofield, H. W. Thomas, H. W. Thomas, K. Thomas, J. Williams, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Keith Thomas.

 

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth partner ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd K. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei chwaer yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yng nghyswllt ei waith fel Clerc i Gyngor Tref Caergybi.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes yn ymwneud â Menter Môn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn Nholldy Penrhos, Caergybi.

 

 

 

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E.  Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 4.2 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.  Hefyd fe ddatganodd ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Addysg a Hamdden a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw  eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Datblygu Economaidd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Robert Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. Allan Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab-yng-nghyfraith yn yr Adran Gyllid.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem  ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Archwilio Mewnol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 15 o'r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag  unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  

 

 

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 5.2 o gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd 3 Mawrth 2005 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio.

 

 

 

 

 

2

DATGANIADAU GAN Y CADEIRYDD

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at brofedigaeth Mrs Jan Adams o golli ei llysfab Phillip Lyn Adams, 23 oed mewn damwain ffordd ger Bangor ar 31 Mawrth 2005.  Estynnwyd cydymdeimlad llwyr hefyd i'w gwr Lyn a'i llysferch Ceri.

 

 

 

Datganodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad llwyraf a'r Cynghorydd R. Ll. Hughes o golli ei dad a hefyd y Cynghorydd W. T. Roberts ar golli ei gefnder.

 

 

 

Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd R. G. Parry OBE am wellhad llwyr a buan yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar.

 

 

 

Llongyfarchwyd yr holl staff oedd yn gysylltiedig â'r Asesiad Iechyd Corfforaethol yn ddiweddar, gyda'r Cyngor yn derbyn y Safon Aur.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Mr. Dewi Rowlands wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Strategol a Datblygu yng Nghyngor Sir Gwynedd tra roedd Mr. Huw Griffiths wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes gyda Chyngor Sir Ddinbych.  Dymunodd yn dda i'r ddau ohonynt yn eu swyddi newydd gan ddiolch iddynt ar ran y Cyngor am eu gwaith gwerthfawr i'r Awdurdod hwn.

 

 

 

 

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd i'w cadarnhau gofnodion y Cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiad a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

3 Mawrth, 2005                                        Tudalen 1 - 31

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 5.2 - Cofnodion y Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2004

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd E. Schofield at gyfarfod blaenorol y Cyngor lle penderfynwyd cytuno iddo dderbyn copi o nodiadau yn llawysgrifen y Clerc o'r Pwyllgor hwnnw.  Roedd hyn wedi digwydd ond roedd yn gwrthwynebu amod osodwyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn llythyr fod y nodiadau yn rhai cyfrinachol ac nad oeddynt i'w rhyddhau.  Dywedodd y Cynghorydd Schofield nad oedd amodau o'r fath wedi eu gosod gan y Cyngor ac roedd yn cwestiynu hawl swyddogion i ymyrryd â phenderfyniad y Cyngor.

 

 

 

Mewn ateb fe ddywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr - gan fod y Pwyllgor Penodi, fel bob amser, wedi ei alw ar sail gyfrinachol, roedd yr un rheolau yn bodoli yng nghyswllt y nodiadau, a bod y Cynghorydd Schofield wedi ei hysbysu ynglyn â'r cyfrinachedd hwn.

 

 

 

Ategodd y Cynghorydd Schofield ei fod yn anhapus ac nad oedd yn derbyn yr ymateb a gofynnodd i'r Cadeirydd ddyfarnu yn erbyn y mater.  

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd wedi derbyn ymateb a symudwyd ymlaen.

 

 

 

Eitem 9 - Cwestiynau Dderbyniwyd dan Reol 4.1.12.4

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE at y cwestiwn ofynnwyd ganddo ef ei hun ynglyn ag absenoldebau tymor hir y staff ac iddo dderbyn ateb oddi wrth y Deilydd Portffolio yn dweud fod nifer yr achosion wedi disgyn o 26 i 10 person ac y byddai'r ffigwr hwn yn cael ei ostwng ymhellach i 3 yn yr wythnosau i ddod.  Holodd am y sefyllfa ddiweddaraf.

 

 

 

Wrth ateb dywedodd y Deilydd Portffolio pe bai'r Cynghorydd Parry yn ysgrifennu ato y byddai yn rhoddi ateb ysgrifenedig iddo.

 

 

 

4

COFNODION Y PWYLLGORAU

 

 

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ac i fabwysiadu'r argymhellion lle bo angen, gofnodion y Pwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ddangosir :-

 

 

 

Tudalennau

 

 

 

4.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2005                                   32 - 49

 

 

 

4.2

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU,

 

ISADEILEDD AC ADNODDAU (CDU)

 

a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2005                                   50 - 54

 

 

 

4.3

PWYLLGOR YMGYNGHOROL ALIWMINIWM MÔN

 

gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2005                                   55 - 58

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 3 - Datganiad o Ddiddordeb

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P. J. Dunning yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod yn parhau yn weithiwr yn Aliwminiwm Môn ac nid fel yr oedd y datganiad yn y cofnodion.

 

 

 

Eitem 6 - Aliwminiwm Môn - Presennol a Dyfodol

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Ll. Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyswllt Aliwminiwm Môn i'r Deilydd Portffolio a Datblygu Economaidd ynglyn â'r sefyllfa bresennol gyda'r trafodaethau sydd yn mynd ymlaen i ganfod ffynhonell arall o drydan ar gyfer y gwaith yn dilyn bwriad i gau Gorsaf Bwer y Wylfa yn 2010 a sicrhau'r swyddi presennol yn y gwaith.

 

 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio yn ei ateb fod y Cyngor yn rhagweithiol yn y mater hwn ac y byddai'r Cynghorydd Jones yn derbyn gwybodaeth llawn am y datblygiadau.

 

 

 

4.4

CYD-BWYLLGOR ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

 

a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2005                              59 - 65

 

 

 

Yn codi :

 

 

 

Eitem 4 - Diweddariad Ôl-Arolygiad Estyn

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Schofield fod angen statudol i benodi aelod etholedig a fyddai'n gyfrifol am ddiogelu anghenion plant. Fodd bynnag, nid oedd gofyn statudol penodi swyddog i'r gwasanaeth hwn. Felly gofynnodd, gan fod hwn yn fater sensitif, i'r Pwyllgor priodol o fewn y Cyngor ystyried hyn fel mater o frys.

 

 

 

Mewn ateb dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor y byddai'n trafod y mater hwn gyda'r swyddogion priodol yn y Cyngor.

 

 

 

4.5

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2005                                   66 - 69

 

 

 

4.6

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU,

 

GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU

 

gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2005                                   70 - 72

 

 

 

4.7

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG,

 

IECHYD A LLES

 

a gynhaliwyd ar 14 Ebrill, 2005                                   73 - 78

 

 

 

4.8

PRIF BWYLLGOR SGRIWTINI

 

a gynhaliwyd 19 Ebrill, 2005                         rhannwyd ar wahân (15 - 17 o’r Gyfrol hon)

 

 

 

Yn codi :

 

 

 

Eitem 2 - Cofnodion

 

 

 

Mai dyddiad y cyfarfod oedd 26 Ionawr, 2005 ac nid 11 Ionawr fel y'i ceir yn y cofnodion.

 

 

 

Eitem 7 - Sefydlu Panel Hawl i Wybodaeth

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Schofield nad oedd unrhyw strwythur o fewn y Cyngor i wrando ar apeliadau.  Cynigiodd y dylai hyn ddigwydd fel mater o frys gan fod sefyllfa ar hyn o bryd lle gallai personau oedd wedi dod i benderfyniad i wrthod hefyd fedru ystyried yr apel yn yr ail gyfnod neu fel arall byddai raid iddynt dalu yn ddrud am gyngor annibynnol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wrth ateb dywedodd y Cynghorydd C. L. Everett, aelod o'r Panel Gweithio y byddai sylwadau'r Cynghorydd Schofield yn cael eu hystyried a gwnaeth gais i swyddogion sicrhau fod cyfarfod o'r Panel yn cael ei alw mor fuan ag oedd yn ymarferol er mwyn trafod y mater hwn.

 

      

 

4.9

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

     a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2005               rhannwyd ar wahân          (18 - 25 o’r Gyfrol hon)

 

      

 

4.10

PWYLLGOR GWAITH

 

     gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn :

 

      

 

4.10.1

7 Mawrth, 2005                                   79 - 89

 

      

 

4.10.2

21 Mawrth, 2005                                   90 - 94

 

      

 

Yn codi :-

 

 

 

Eitem 7 - Cymdeithas Pysgota Bolsach

 

 

 

Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd R. Ll. Jones ei fod yn dymuno cael ei hysbysu o'r holl ddatblygiadau ynglyn â hwn.  

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) y byddai'n rhoddi'r wybodaeth berthnasol i'r Cynghorydd Jones mewn ateb ysgrifenedig.

 

 

 

4.10.3

25 Ebrill, 2005                    rhannwyd ar wahân        (26 - 35 o’r Gyfrol hon)

 

 

 

 

 

 

 

5     CYNLLUN PENSIWN I AELODAU

 

      

 

     Adroddwyd - Fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill 2005 ar ôl trafod adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar bensiynau a lwfansau, i aelodau benderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor Sir y dylai pob aelod o oed cymwys fod â'r hawl i ymuno gyda'r cynllun pensiwn ac ôl-ddyddio hynny i 10 Mehefin, 2004 os oes modd".

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dull uchod o weithredu ac fod yr awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) i hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru o hyn.

 

      

 

      

 

6     AELODAU CYFETHOLEDIG

 

      

 

(a)

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI DATBLYGU GWASANAETHAU SYLFAENOL AC ADNODDAU - 12 EBRILL 2005

 

      

 

     Adroddwyd i'r Pwyllgor uchod wneud y penderfyniad a ganlyn :-

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor Sir y dylai Cadeirydd Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn fod yn aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Trosolwg Polisi Datblygu, Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau".

 

      

 

     Gan fod y pleidleisio yn gyfartal, fe dderbyniwyd yr argymhelliad trwy bleidlais fwrw y Cadeirydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno ar yr uchod fel aelod cyfetholedig di-bleidlais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

(b)

PWYLLGOR TROSOLWG POLISI ADDYSG, IECHYD A LLES - 14 EBRILL, 2005

 

      

 

     Adrodd bod y Pwyllgor uchod wedi gwneud y penderfyniad a ganlyn :-

 

      

 

     "Argymell i'r Cyngor Sir y dylai Cadeirydd Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn fod yn aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg, Iechyd a Lles".

 

      

 

     Gan fod y pleidleisio yn gyfartal fe dderbyniwyd yr argymhelliad trwy bleidlais fwrw y Cadeirydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno gyda'r uchod fel aelod cyfetholedig heb bleidlais.

 

      

 

      

 

7     CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - GWERTHUSIAD O GYMERAID ARDAL GADWRAETH CANOL CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) fel y cafodd ei gyflwyno a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2005.

 

      

 

     Adroddwyd - Fod y gwerthusiad cymeriad wedi edrych ar y ffin bresennol ac a oedd angen am unrhyw newidiadau o'r dynodiad gwreiddiol.  Roedd yn canolbwyntio ar ddiddordeb hanesyddol arbennig, cymeriad, edrychiad a chadwraeth fel yr oedd wedi ei bwysleisio yn Ddeddf 1990.  Roedd hefyd yn argymell rhai newidiadau bychan i'r ffin fel oedd yn cael ei ddangos ar y cynllun gyflwynwyd i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yn dilyn paratoi y ddogfen ddrafft fe roddwyd rhybudd cyhoeddus yn y wasg leol gyda chyfnod ymgynghori cyhoeddus o 6 wythnos rhwng 12 Ionawr a 25 Chwefror 2005.  Fe dderbyniodd yr Adran un llythyr ac yn dilyn gohebiaeth roedd rhai newidiadau bychan wedi eu gwneud i'r ddogfen derfynol.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd C. L. Everett bryder oherwydd tipio heb awdurdod ac arddangos posteri hysbysebion heb awdurdod o fewn yr ardal gadwraeth a gofynnodd i swyddogion o'r adrannau Cynllunio a Phriffyrdd edrych i mewn i'r mater hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo gwerthusiad o gymeriad Ardal Gadwraeth Canol Caergybi a'i fabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol.

 

      

 

      

 

8     NEWIDIADAU I'R CYFANSODDIAD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor fel y cafodd ei gyflwyno a'i drafod gan y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2005.

 

      

 

     Adroddwyd - fod y Pwyllgor Gwaith o'r farn y dylai argymhellion o fewn yr adroddiad gael eu cyflwyno i'w hystyried gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod heddiw.

 

      

 

     O dan ddarpariaethau Rheol Gweithdrefnau y Cyngor 18.5 cytunwyd y dylid cymryd pleidlais wedi ei chofnodi ar y mater hwn.

 

      

 

     1.  Dros y Cynnig h.y. I drafod cynnwys yr adroddiad (yn hytrach na gohirio penderfyniad hyd ddyddiad ddiweddarach) :-

 

      

 

     Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, C. L. Everett, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, D. Lewis-Roberts, G. W. Roberts, OBE, J. Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams.

 

     Cyfanswm 20

 

      

 

 

 

 

 

 

 

2.  Yn erbyn y Cynnig

 

 

 

Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, T. Jones, B. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, G. Allan Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, H. N. Thomas, K. Thomas.

 

     Cyfanswm 20

 

 

 

 

 

Ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd fe benderfynwyd o blaid y cynnig i fynd ymlaen i drafod yr argymhellion geir yn yr adroddiad.

 

 

 

Cynigiodd yr Arweinydd :

 

 

 

i.     mewn ymdrech i gyrraedd cyfnod o sefydlogrwydd a chysondeb o fewn y Cyngor, fod Erthygl 15 o'r Cyfansoddiad yn cael ei altro fel na châi unrhyw newidiadau yn y dyfodol i'r Cyfansoddiad ddod i rym ond trwy fwyafrif o ddwy ran o dair.  Fodd bynnag, yn dilyn cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro fe dynnwyd y cynnig hwn yn ôl.

 

      

 

ii.     cynigiodd yr Arweinydd hefyd fod nifer yr aelodau fydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael eu gostwng o 18 i 14.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Elwyn Schofield yn dymuno iddo gael ei gofnodi y dylai'r Arweinydd a'r Is-Arweinydd ddatgan diddordeb ac y dylent adael y Siambr.

 

 

 

____________________________________

 

 

 

 

 

O dan ddarpariaethau Rheol Gweithdrefnau'r Cyngor 18.5 fe gytunwyd i gynnal pleidlais wedi ei chofnodi ynglyn â derbyn yr adroddiad :-

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

 

 

1.  O blaid y Cynnig  h.y.  I dderbyn cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast, W. J. Chorlton, J. M. Davies, K. Evans, C. L. Everett, D. R. Hadley, D. R. Hughes, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, D. Lewis-Roberts, G. W. Roberts, OBE, J. Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, H. W. Thomas, J. Williams, W. J. Williams.

 

Cyfanswm 20

 

 

 

2.  Yn erbyn y Cynnig

 

 

 

Y Cynghorwyr E. G. Davies, P. J. Dunning, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Ff. M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, R. Ll. Jones, T. Jones, B. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, G. Allan Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, H. N. Thomas, K. Thomas.

 

1

Cyfanswm 20

 

      

 

     Defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw a chafodd y cynnig ei basio fel bod :-

 

      

 

Ÿ

Erthygl 15

 

 

 

Para 2.15.2.1  yn parhau heb ei newid.

 

 

 

Ÿ

Rheolau Gweithdrefn y Cyngor

 

 

 

4.1     RHEOLAU GWEITHDREFN Y CYNGOR (tudalen 89)

 

 

 

4.1.1     CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR

 

 

 

4.1.12(vi) ethol yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd yn amodol ar Erthygl 7 ac ar 2.7.3 yn benodol.

 

 

 

Ÿ

Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau.

 

 

 

2.6

Erthygl 6 - Sgriwtineiddio Penderfyniadau

 

      

 

2.6.1

Cyfansoddiad

 

      

 

     Y nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg fydd y nifer honno a nodir yn y tabl isod yn 2.6.2.  Penodir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg gan y Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn ddinesig ac, yn amodol ar yr isod, bydd y penodiad hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill y flwyddyn ddinesig honno.  Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini neu Trosolwg :

 

     (i)  yn marw, neu

 

     (ii) yn ymddeol o'i swydd, neu

 

     (iii) yn aelod o grwp gwleidyddol penodol pan gaiff ei benodi yn Cadeirydd neu'n Is-Gadeirydd a bod y person hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o'r grwp gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith a bydd y Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg yn ei gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd arall.

 

     Bydd y rheolau mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol yn parhau i fod yn berthnasol ond ni fydd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn gymwys i fod yn aelodau o unrhyw Bwyllgor Sgriwtini neu Trosolwg.

 

      

 

Ÿ

Bydd Cadeiryddion ............. fel Cadeirydd ac yn amodol ar 2.6.1

 

 

 

Ÿ

PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL

 

 

 

3.4.2

Y Cyngor yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor bob blwyddyn fydd yn gwneud penodiadau neu'n ailgadarnhau penodiadau a bydd pob Pwyllgor fel yr eitem gyntaf o fusnes yn ei gyfarfod cyntaf yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor yn penodi ei Gadeirydd a'i Is-Gadeirydd ei hun, yn amodol ar yr isod, am y flwyddyn.  Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini neu Trosolwg :

 

     (i)  yn marw, neu

 

     (ii)  yn ymddeol o'i swydd, neu

 

     (iii) yn aelod o grwp gwleidyddol penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu'n Is-Gadeirydd a bod y person hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o'r grwp gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith a bydd y Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg yn ei gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd arall.

 

      

 

Ÿ

4.  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion 3.4.3 (tudlaen 44)

 

Gostwng nifer yr aelodau o 18 i 14.

 

 

 

Ÿ

5.  Aelodau Eraill y Pwyllgor Gwaith

 

 

 

Dileu 2.7.5.5 (tudalen 23) fel cywiriad i'r Cyfansoddiad.

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 4:00pm

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD