Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 3 Mai 2005

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 3ydd Mai, 2005

Cyfarfod blynyddol Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   3 Mai, 2005 (4:10pm)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, J. Byast (Is-Gadeirydd), W. J. Chorlton, E. G. Davies, J. M. Davies, P. J. Dunning, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, G. O. Jones, H. E. Jones, J. A. Jones, O. G. Jones, R. Ll. Jones, T. H. Jones, D. A. Lewis-Roberts, Bryan Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE,  G. A. Rboerts, G. Winston Roberts OBE, J. Arwel Roberts (Cadeirydd), John Roberts, W. T. Roberts, J. Rowlands, E. Schofield, H. W. Thomas, K. Thomas, J. Williams, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (RMJ)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P. M. Fowlie, P. S. Rogers, H. N. Thomas

 

 

 

1

CADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD fod y Cynghorydd John Byast i'w ethol i fod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2005/06.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, fe dalodd y Cynghorydd John Byast deyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, sef y Cynghorydd J. Arwel Roberts am ei ymrwymiad yn cynrychioli'r Cyngor Sir trwy gydol ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts, fel Cadeirydd oedd yn ymddeol, i'r holl aelodau ac i swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod ei dymor yn y swydd.  Hefyd fe roddodd grynodeb o'i ddyletswyddau fel Cadeirydd yn cynrychioli'r Cyngor Sir mewn gweithgareddau amrywiol drwy gydol y flwyddyn.  Mynegodd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd John Byast ac i'w wraig Jenny gan obeithio y byddent yn mwynhau tymor hapus a llwyddiannus yn y gwaith.

 

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Cyflwynwyd dau o enwebiadau am safle'r Is-Gadeirydd, sef y Cynghorydd R. Ll. Jones a John Rowlands.  Yn dilyn pleidlais trwy godi dwylo PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Rowlands fel Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2005/06.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rowlands i'r aelodau am eu hyder ynddo a mynegodd ei fwriad i gydweithredu a chefnogi'r Cadeirydd newydd oedd wedi ei ethol.

 

 

 

 

 

3

DIRPRWYO GAN YR ARWEINYDD / AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH

 

 

 

Yn unol â Rheol 4.4.1.2 o Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith, fe enwodd Arweinydd y Cyngor y canlynol fel yr aelodau oedd wedi eu dewis i weithredu ar y Pwyllgor Gwaith, a hefyd eu dyletswyddau portffolio :-

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams          Arweinydd y Cyngor

 

Y Cynghorydd G. W. Roberts OBE     Is-Arweinydd y Cyngor, Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Chorlton          Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd a Thai

 

Y Cynghorydd D. R. Hughes          Deilydd Portffolio Hamdden, Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg

 

 

 

Y Cynghorydd John Roberts          Deilydd Portffolio Cylllid a Thechnoleg Gwybodaeth

 

Y Cynghorydd H. W. Thomas     Deilydd Portffolio Cynllunio

 

Y Cynghorydd Keith Evans          Deilydd Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo

 

Y Cynghorydd J. M. Davies          Deilydd Portffolio Addysg a Dysgu Gydol Oes

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones     Deilydd Portffolio Pesonel, Polisi a Pherfformiad

 

Y Cynghorydd J. Williams          Deilydd Portffolio Trosedd ac Anrhefn, Amddiffyn y Cyhoedd a'r Amgylchedd

 

 

 

 

 

4

CADARNHAU'R PWYLLGORAU

 

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y strwythur Pwyllgorau presennol wedi eu hailapwyntio fel y cyfeirir atynt o dan Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

 

 

5

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ar drefniadau cydbwysedd gwleidyddol o fewn y Cyngor.

 

 

 

Adroddwyd - Yn dilyn newidiadau diweddar yn aelodaeth rhai o'r grwpiau gwleidyddol a ffurfio grwp gwleidyddol newydd Annibynwyr Radical, roedd angen i'r Cyngor adolygu ei drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau'r Cyngor.

 

 

 

Mewn adroddiad, cyflwynwyd tabl yn dangos y 5 grwp gwleidyddol yn cael eu cynrychioli gan 15, 7, 7, 5 a 4 o aelodau yn olynol gyda 2 o Aelodau Digyswllt.  Cyfanswm nifer y seddau i'w dyrannu oedd 99.  Yn ei gyfarfod ynghynt yn y diwrnod roedd y Cyngor wedi penderfynu diwygio Cyfansoddiad y Cyngor trwy leihau niferoedd yr aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o 18 i 14.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Nodi y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol newydd a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o'r Grwpiau a'r Aelodau  Digyswllt o dan Awdurdodau Lleol a Thai 1989.

 

 

 

Ÿ

Cytuno ar gyfanswm y seddau i'w dyrannu i'r Aelodau Digyswllt.

 

 

 

Ÿ

Atgoffa yr Arweinyddion Grwp i ddarparu rhestr o enwau cynrychiolwyr eu grwpiau ar bob Bwyllgor i'r Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor cyn gynted â phosibl a gorau oll  yn union wedi Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, ac i nodi fod y Pwyllgor Trwyddedu i gyfarfod ar 10/5/05 a'i bod yn angenrheidiol anfon Gwys a Rhaglen ar 4/5/05, a bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i gyfarfod ar 11/5/05 a'i bod yn ofynnol anfon allan yr Wys a'r Agenda ar 5/5/05.

 

 

 

 

 

 

 

6

CADARNHAU'R CYNLLUN O DDIRPRWYO

 

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y rhan o'r Cynllun Dirprwyo fel y ceir ym mharagraff 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

 

 

7

RHAGLEN CYFARFODYDD CYFFREDINOL Y CYNGOR

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol o'r Cyngor am y flwyddyn i ddod :-

 

 

 

20 Medi, 2005 - 2:00pm

 

15 Rhagfyr, 2005 - 2:00pm

 

2 Mawrth, 2006 - 2:00pm

 

2 Mai, 2006 (Cyfarfod Blynyddol) - 2:00pm

 

 

 

 

 

Terfynwyd y cyfarfod am 4.35pm

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD J. BYAST

 

CADEIRYDD