Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 6 Mai 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 6ed Mai, 2003

Cyngor Sir Ynys Môn

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mai 2003

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.L. Owen (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd Mrs. B. Burns (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Byast, W.J. Chorlton, E.G. Davies, J.M. Davies,

J.A. Edwards, C.L. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hughes,

Dr. J.B. Hughes, R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes, W.I. Hughes,

H.E. Jones, R. Jones OBE, W. Emyr Jones, Rhian Medi,

G.O. Parry MBE, Bob Parry OBE, G. Roberts, G.W. RobertsOBE, J. Roberts, J.A. Roberts, W.T. Roberts, J. Rowlands,

E. Schofield, H.W. Thomas, K. Thomas, G.A. Williams,

J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo)

Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Meirion Jones (Cyfreithiwr)

Swyddog Cyfathrebu

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, K. Evans, Ff.M. Hughes, G.O. Jones,

O.G. Jones, R.Ll. Jones, R.J. Jones, G.A. Roberts,

W.J. Williams.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd R. Jones OBE.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan yr Aelodau canlynol:-

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt eitem 5 ar gofnodion y Pwyllgor Gwaith dyddiedig 14 Ebrill 2003 (Tudalen 123 Cyfrol y Cyngor) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.  Hefyd, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt eitem 9 ar y Rhaglen (Cymorth Dewisol gyda'r Dreth) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem honno.


Gwnaeth y Cynghorydd T. Lloyd Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 5 cofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2003 (Tudalen 123 Cyfrol y Cyngor), arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth neu unrhyw bleidlais arni.

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gyllid.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn ogystal, datganodd ddiddordeb yn eitem 5 yng nghofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2003 (Tudalen 123 Cyfrol y Cyngor) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais ar yr eitem honno).

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rhian Medi ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt eitem 9 y Rhaglen (Cymorth Dewisol gyda'r Dreth) a doedd hi ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem.  

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd E. Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn Oriel Môn a chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Briffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.  Hefyd, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 9 ar y Rhaglen (Cymorth Dewisol gyda'r Dreth) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem honno.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Byast ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt eitem 9 cofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2003 (Tudalen 109 Cyfrol y Cyngor) ac nid oedd yn rhan o'r drafodaeth nac unrhyw bleidlais ar y mater.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd C.Ll. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 5 cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2003 (Tudalen 123 Cyfrol y Cyngor) . Arhosodd yn y cyfarfod a siaradodd ar yr eitem ond ni phleidleisiodd arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J.A. Roberts ddatganiad o ddiddordeb yng nghyswllt eitem 5 cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2003 (Tudalen 123 Cyfrol y Cyngor) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd H.W. Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 9 y Rhaglen (Cymorth Dewisol gyda'r Dreth) a doedd o ddim yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr eitem.

 

 

 

2

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

 

Ar ran y Cyngor, dymunodd y Cadeirydd yn dda am adferiad llawn a buan i'r Cynghorydd R.J. Jones yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar a hefyd tad y Cynghorydd P.M. Fowlie a oedd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

 

 

 

Ar ran yr Aelodau a'r Swyddogion a oedd yn bresennol, mynegodd y Cadeirydd hefyd ei gydymdeimlad dwysaf gydag unrhyw aelod o staff a oedd wedi dioddef profedigaeth ers y cyfarfod diwethaf o'r Cyngor hwn.

 

 

 

3

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD DAN REOL 12.4

 

Ni dderbyniwyd yr un cwestiwn dan Reol 12.4 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.

 

 

 

4

COFNODION

 

Cadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4 a 20 Mawrth 2003 a 4 Ebrill 2003.

 

 

 

MATERION YN CODI :-

 

 

 

4.1

4 Mawrth 2003                                        Tudalen 1 - 24

 

 

 

Yn codi:-

 

Eitem 1 Datganiad o Ddiddordeb - Roedd y Cynghorydd H.E. Jones yn dymuno nodi ei fod wedi gadael y Siambr pan oedd y mater yn cael ei drafod.

 

 

 

4.2

20 Mawrth 2003                                    Tudalen 25 - 29

 

 

 

Yn codi:-

 

Eitem 1 Datganiad o Ddiddordeb

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi yn fersiwn Gymraeg y cofnodion y dylai'r Cynghorydd J.A. Edwards ddarllen y Cynghorydd J. Arwel Roberts fel un a wnaeth ddatganiad o ddiddordeb fel Cadeirydd Partneriaeth Morawelon.

 

 

 

4.3

4 Ebrill 2003                                        Tudalen 30 - 31

 

 

 

5

Cyflwynwyd er gwybodaeth, ac i fabwysiadu'r argymhellion yn ôl yr angen, gofnodion y cyfarfodydd isod a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir :-

 

 

 

5.1

CYSAG a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2003                     Tudalen 32 - 39

 

 

 

5.2

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2003 Tudalen 40-49

 

 

 

5.3

PWYLLGOR CYSWLLT ALIWMINIWM MÔN a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2003 Tudalen 50 - 53

 

 

 

5.4

PWYLLGOR PENODI a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2003               Tudalen 54

 

 

 

Yn codi:-

 

Gofynnodd y Cynghorydd G.W. Roberts OBE a oedd hi'n briodol ai peidio i'r Cynghorydd E. Schofield fel yr Aelod Portffolio dros Adnoddau Dynol, Eiddo ac Arforol fynd i gyfarfodydd o'r Pwyllgor Penodiadau ?

 

 

 

Dywedodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro bod hyn mewn trefn oherwydd bod y Pwyllgor Penodiadau yn bwyllgor o'r Cyngor ac nid pwyllgor o'r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

5.5

PWYLLGOR SGRIWTINI CYMUNEDAU IACH A DIOGEL

 

a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2003                              Tudalen 55 - 61

 

 

 

5.6

PWYLLGOR SGRIWTINI'R AMGYLCHEDD A CHLUDIANT

 

a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2003                               Tudalen 62 - 69

 

 

 

5.7

PWYLLGOR SGRWITINI CYNHWYSIAD CYMDEITHASOL

 

a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2003                               Tudalen 70 - 74

 

 

 

5.8

PWYLLGOR RHEOLI J.E. O'TOOLE a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2003     Tudalen 75 - 77

 

 

 

5.9

PWYLLGOR SGRIWTINI ADDYSG A HAMDDEN a gynhaliwyd ar

 

27 Mawrth 2003                                        Tudalen 78 - 87

 

 

 

5.10

PWYLLGOR SGRIWTINI DATBLYGU ECONOMAIDD a gynhaliwyd

 

ar 31 Mawrth 2003                                   Tudalen 88 - 91

 

 

 

 

 

5.11PWYLLGOR      CYNLLUNIO A GORCHMYNION a gynhaliwyd

 

ar 2 Ebrill 2003                                         Tudalen 92 - 102

 

 

 

5.12

PWYLLGOR GWAITH a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

 

 

5.12.1

     3 Mawrth 2003                              Tudalen 103 - 111

 

 

 

5.12.2

   11 Mawrth 2003                              Tudalen 112 - 120

 

 

 

5.12.3

   31 Mawrth 2003                              Tudalen 121

 

 

 

5.12.4

   14 Ebrill 2003                                    Tudalen 122 - 132

 

 

 

6

TRAFODAETH AR GYFLWR YR ARDAL

 

O ganlyniad i newidiadau gwleidyddol diweddar o fewn y Cyngor, dywedodd yr Arweinydd na fu'n bosibl cydymffurfio gyda'r gofyniad yn y Cyfansoddiad iddo drefnu trafodaeth flynyddol ar gyflwr yr ardal.  Yn dilyn trafodaethau gyda Chadeirydd y Cyngor a'r Rheolwr-gyfarwyddwr, bwriedid cynnal trafodaeth gyhoeddus ar hyn tuag at ddiwedd mis Gorffennaf.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd C.L. Everett yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnodion ei fod wedi'i siomi nad oedd yr Arweinydd blaenorol,  y Cynghorydd G.O. Parry MBE wedi cwrdd â'i gyfrifoldebau o ran cyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar hyn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd G.O. Parry MBE mewn ymateb y gwnaed trefniadau ond nad oedd y mater wedi symud ymlaen oherwydd y newid i'r cydbwysedd gwleidyddol yn y Cyngor a'i fod yn gobeithio cael y cyfle i gyfrannu yn hwyrach ymlaen.

 

 

 

7

MATERION A DDIRPRWYWYD GAN YR ARWEINYDD

 

Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi'r newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf.

 

 

 

8

POLISI DIOGELU DATA CORFFORAETHOL

 

Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2003 ar ôl trafod yr adroddiad uchod gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro wedi penderfynu argymell fel a ganlyn i'r Cyngor Sir :-

 

 

 

1)  Bod y Cyngor Sir yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant yn y maes Diogelu Data.

 

 

 

2)  Annog holl Aelodau'r Cyngor i fynd i unrhyw gyrsiau hyfforddi sy'n cael eu cynnig.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r uchod.

 

 

 

9

CYMORTH DEWISOL GYDA'R DRETH

 

Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2003, wedi ystyried yr adroddiad uchod gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) wedi penderfynu (inter alia) i argymell i'r Cyngor Sir y dylid ychwanegu'r paragraff canlynol at y cynllun dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid):-

 

 

 

"(9)  Penderfynu ar geisiadau dan adrannau 44A, 47 a 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac unrhyw ddiwygiad neu ailweithredu ohoni gan gymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau polisi a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Cyngor neu'r Pwyllgor Gwaith".

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno i gynnwys y paragraff uchod yn y cynllun dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid).

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 p.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD R.L. OWEN

 

CADEIRYDD