Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 6 Mai 2003

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 6ed Mai, 2003

CYFARFOD BLYNYDDOL CYFFREDINOL CYNGOR SIR YNYS MÔN

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 MAI 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns, John Byast, W.J. Chorlton, J.M. Davies, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hughes, Dr. J.B. Hughes, R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones, H. Eifion Jones, W. Emyr Jones, Rhian Medi, R.L. Owen, G.O. Parry M.B.E., Bob Parry O.B.E., G.W. Roberts O.B.E., Gwyn Roberts, J. Arwel Roberts, John Roberts, W.T. Roberts, John Rowlands, Elwyn Schofield, H.W. Thomas, Keith Thomas, G. Alun Williams, John Williams, W.J. Williams.

 

 

WRTH LAW:

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo),

Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro (MJ)

Swyddog Cyfathrebu,

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr D. D. Evans, Fflur M. Hughes, O. Gwyn Jones, R. J. Jones, R. Ll. Jones, G. Allan Roberts.

 

 

1

ETHOL CADEIRYDD

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Mrs B. Burns fel Cadeirydd y Cyngor Sir am 2003/2004.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei phenodi fel Cadeirydd, talodd y Cynghorydd Mrs B. Burns deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd R. L. Owen a hefyd i Mrs S. Owen am eu hymrwymiad yn cynrychioli'r Cyngor Sir mewn modd urddasol trwy gydol eu cyfnod yn eu swyddi.

 

Diolchodd y Cynghorydd R. L. Owen, y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, i holl aelodau a swyddogion y Cyngor Sir am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod ei gyfnod yn y swydd.  Diolchodd hefyd i'w wraig Mrs Suzanne Owen am ei chefnogaeth yn ystod ei dymor fel Cadeirydd.  Cafwyd crynodeb gan y Cynghorydd Owen o'i ddyletswyddau fel Cadeirydd yn ystod y flwyddyn a oedd yn cynnwys yr anrhydedd a ddaeth i ran tref Biwmares pan ymwelodd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn ystod Dathliadau'r Jiwbilï Aur.

 

2

ETHOL IS-GADEIRYDD

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd J. Arwel Roberts fel Is-Gadeirydd y Cyngor Sir am 2003/2004.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i'r aelodau am eu hyder ynddo a dywedodd ei fod yn bwriadu cydweithio gyda'r Cadeirydd newydd a etholwyd a'i chefnogi.

 

3

CYHOEDDIADAU

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd T. Ll. Hughes am fod yn daid am yr ail dro.

 

4

ARWEINYDD Y CYNGOR

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Bob Parry O.B.E, fel Arweinydd y Cyngor am y flwyddyn i ddod.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r aelodau am eu hyder ynddo a llongyfarchodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a oedd newydd eu penodi a dymunodd yn dda iddynt yn eu cyfnodau yn eu swyddi.

 

5

DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W. J. Chorlton fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor am y flwdyddyn i ddod.

 

 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r aelodau am ei ethol a llongyfarchodd y Cynghorydd Mrs B. Burns a'r Cynghorydd J. Arwel Roberts fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir.  Llongyfarchodd y Cynghorydd Chorlton y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. ar gael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor.

 

 

 

6

DIRPRWYAETH WNAETHPWYD GAN YR ARWEINYDD/AELODAETH Y PWYLLGOR GWAITH

 

Yn unol â Rheol 4.4.1.2 y Rheolau Gweithdrefn enwodd Arweinydd y Cyngor y rheini a nodir isod fel yr aelodau yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio :-

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd R. G. Parry O.B.E.     -    Arweinydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac Aelod Portffolio yr Amgylchedd

 

Y Cynghorydd W. J. Chorlton          -    Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod Portffolio Tai a Chynhwysiad Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd D. R. Hughes          -    Aelod Portffolio Hamdden a'r Celfyddydau

 

Y Cynghorydd E. G. Davies          -    Aelod Portffolio Addysg

 

Y Cynghorydd R. Ll. Jones           -    Aelod Portffolio Addnoddau'r Cyngor

 

Y Cynghorydd Rhian Medi          -    Aelod Portffolio Cymunedau Iach a Diogel

 

Y Cynghorydd G. W. Roberts O.B.E.     -    Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a Chynllunio

 

Y Cynghorydd Elwyn Schofield     -    Aelod Portffolio Adnoddau Dynol, Eiddo a Morwrol

 

Y Cynghorydd Keith Thomas      -   Aelod Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chamerâu Goruchwylio    

 

 

 

7

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Gyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro mewn perthynas â'r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ar ôl sefydlu'r Glymblaid Newydd fel y grwp gwleidyddol mwyaf ar y Cyngor ac arno 23 o aelodau ac ar ôl ethol y Cynghorydd R. G. Parry OBE ar 4 Ebrill yn Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd W. J. Chorlton yn Ddirprwy Arweinydd gyda chefnogaeth 7 o Ddeiliaid Portffolio ar y Pwyllgor Gwaith, bellach mae gofyn i'r Cyngor adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau Sgriwtini a Phwyllgorau eraill.

 

 

 

Mae'r prif egwyddorion sy'n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yn ymddangos yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac yn dweud fel a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

(i)  that not all the seats on the body are allocated to the same political group;

 

Ÿ

(ii) that the majority of the seats on the body is allocated to a particular political group if the number of persons belonging to that group is a majority of the authority's membership;

 

Ÿ

(iii)  subject to (a) and (b) above, the number of seats on the ordinary committees of a relevant Authority which are allocated to each political group bears the same proportion to the total of all the seats on the ordinary committees of that Authority; and

 

Ÿ

(iv) subject to paragraphs (a) to (c) above, that the number of the seats on the body which are allocated to each political group bears the same proportion to the number of all the seats on that body and is borne by the number of members of that group to the membership of the Authority.

 

 

 

Roedd tabl ynghlwm wrth yr adroddiad yn dangos cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau'r Cyngor gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth uchod ac yn seiliedig ar ddau grwp gwleidyddol a chanddynt 23 a 15 o aelodau, a dau Aelod Rhydd ar wahân.  

 

 

 

O 113 o seddi, gan ddyrannu 64 o seddi i'r grwp mwyafrifiol, 43 i'r grwp lleiafrifol a chyfanswm o 6 i'r Aelodau Rhydd, er nad oes gan yr Aelodau Rhydd hawl gyfreithiol i seddi oni bai fod y Cyngor yn penderfynu cadarnhau dyraniad o hyd at 6 sedd rhwng yr Aelodau hynny.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

7.1

nodi'r trefniadau newydd ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a'r nifer o seddi a roddir i bob grwp ac i'r Aelodau Rhydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

 

7.2

cytuno ar ddyrannu 6 sedd rhwng y ddau Aelod Rhydd.

 

 

 

8

CADARNHAU PWYLLGORAU

 

PENDERFYNWYD cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau presennol fel y cyfeiriwyd ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

9

RHAGLEN CYFARFODYDD CYFFREDINOL Y CYNGOR

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhaglen ganlynol ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod :

 

23 Medi, 2003           -     2.00 p.m.

 

 

 

11 Rhagfyr, 2003          -     2.00 p.m.

 

 

 

4 Mawrth, 2004           -     2.00 p.m.

 

Mai 2004 (Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol - dyddiad i'w gadarnhau).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

    Y CYNGHORYDD MRS B BURNS

 

CADEIRYDD