Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Mai 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Mai, 2009

  PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Mai, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Barrie Durkin - Is-Gadeirydd yn y Gadair

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, O. Glyn Jones,

T.H. Jones, R.L. Owen, Hefin W. Thomas, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu,

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (JR).

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr E.G. Davies, Jim Evans, Kenneth P. Hughes.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Fflur M. Hughes (Eitem 6.6), W.I. Hughes (Eitem 6.8), Bryan Owen (Eitem 6.4), Bob Parry OBE (Eitem 6.2), P.S. Rogers (Eitem 6.9).

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at brofedigaeth y Cadeirydd, y Cynghorydd Kenneth P. Hughes ar ôl colli ei fam.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion ar eu traed fel arwydd o barch.

 

 

IS-GADEIRYDD

 

Holodd y Cynghorydd H.W. Thomas pam fod y cyn Is-Gadeirydd yn gweithredu fel Is-Gadeirydd yn y cyfarfod hwn.  O’r Gadair ymatebodd yr Is-Gadeirydd trwy ddweud iddo ofyn i’r cyn Is-Gadeirydd ei gynorthwyo yn y cyfarfod hwn oherwydd ei fod yn bwriadu siarad ar un eitem yng nghyswllt ei ward.   Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Thomas mai swyddogaeth y Pwyllgor hwn oedd penderfynu a oedd yn dymuno penodi Is-Gadeirydd i’r cyfarfod penodol hwn.

 

Ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD penodi’r cyn Is-Gadeirydd, y Cynghorydd R.L. Owen i weithredu fel Is-Gadeirydd y cyfarfod hwn.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Dim.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd Datganiadau o Ddiddordeb a chawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd - cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 8 Ebrill, 2009 a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

 

 

28/C/373A Bryn Gwyn & Bryn Colyn, Ffordd y Stestion, Rhosneigr

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod angen dileu’r geiriau ‘reaffirm’ a ‘previous decision’ o’r cofnodion yng nghyswllt yr eitem a dileu hefyd y geiriau cyfatebol yn y Gymraeg.

 

 

 

32/C/27C - Tre Ifan, Caergeiliog

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd W.J. Chorlton at benderfyniad yng nghyswllt Amod (08) yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf gan ychwanegu nad oeddynt yn adlewyrchu’r drafodaeth ac yn awgrymu y dylid darparu copi o fersiwn ddrafft o Amod (08) cyn rhyddhau’r amodau i’r datblygwr.  Yn ôl cof y  Cynghorydd Chorlton roedd hwn yn ddatblygiad dros 5 mlynedd ac yn agored.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y trafodaethau ar y cais wedi digwydd dros y ddau gyfarfod cynt a’r Swyddogion yn argymell bod y datblygiad yn digwydd dros gyfnod 6/7 mlynedd.  Yn y cyfarfod diwethaf cytunwyd y dylai’r datblygiad gael ei gwblhau dros 5 mlynedd a hynny fesul rhan.  Cadarnhaodd y Swyddog y buasai cymal ychwanegol yn cael ei gynnwys dan Amod (08) yn mynnu cael cytundeb ar unrhyw ddiwygiad i’r adeiladu fesul rhan - cytundeb ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.  Ar ôl gwrando ar recordiad tâp o’r cyfarfod diwethaf dywedodd y  Cynghorydd Chorlton nad oedd Amod (08) yn y cofnodion yn adlewyrchu’r drafodaeth wirioneddol yn y cyfarfod hwnnw.

 

 

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn ar y pryd dywedodd y Cynghorydd T.H. Jones iddo wrando ar y tâp i’r cyfarfod diwethaf a bod y cofnodion, yn ei farn ef, yn adlewyrchu yr hyn a drafodwyd.  Hefyd roedd y Cynghorydd Durkin yr Is-Gadeirydd yn y Gadair wedi gwrando ar y tâp i’r cyfarfod diwethaf a chytunai bod y cofnodion yn gywir.  Gan y Cynghorydd Jones cafwyd cynnig bod y cofnodion yn gywir a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

Cadarnhawyd y cofnodion fel cofnodion cywir i’r Pwyllgor a gafwyd ar 8 Ebrill, 2009.

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd ar 22 Ebrill, 2009.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

20/C/250 - Altro ac ymestyn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd raid i’r Aelodau weld y cynigion yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle a rhoi’r cyfle i’r aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

5.2

20/C/251 - Altro ac ymestyn Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd raid i’r Aelodau weld y cynigion yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle a rhoi’r cyfle i’r aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

 

 

 

 

5.3

20/C/252 - Altro ac ymestyn Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd raid i’r Aelodau weld y cynigion yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle a rhoi’r cyfle i’r aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

5.4

20/C/253 - Gwaith altro a threfniadau parcio yn Swn yr Afon, Ty Lawr & Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd raid i’r Aelodau weld y cynigion yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle a rhoi’r cyfle i’r aelodau gynefino gyda’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

Gweddill y Ceisiadau - 22/C/195 - Codi annedd a darparu mynedfa newydd i gerbydau ac altro’r fynedfa i gerddwyr ar dir ym Mhon Ponc y Felin, Llanddona

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

yn ei gyfarfod ar 8 Ebrill, 2009 yn credu bod y cynnig yn mynd i achosi cynnydd yn y traffig sy’n defnyddio’r fynedfa a hynny oherwydd bod y teulu yn byw yn yr eiddo gerllaw.  Hefyd nododd bod yr Adran Briffyrdd o’r farn nad oedd y gyffordd ger y fynedfa i Stad Ponc y Felin yn cyrraedd y safon a hynny oherwydd gwelededd i’r brif ffordd drwy Llanddona; buasai hyn yn arwain at gynnydd yn y traffig sy’n defnyddio’r gyffordd ger y fynedfa.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol ei fod am gynnig derbyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatau’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd o’r blaen a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.2

Gweddill y Ceisiadau - 28/C/373A - Cais amlinellol i godi tai sef tri o rai deulawr, un byngalo a pedwar fflat y tu mewn i un adeilad deulawr a darparu mynedfa newydd i gerbydau ar dir Bryn Gwyn & Bryn Colyn, Ffordd y Stestion, Rhosneigr

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yng nghyfarfod y  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Mawrth, 2009 penderfynwyd cael ymweliad; trefnwyd yr ymweliad hwnnw ar gyfer 18 Mawrth, 2009.

 

 

 

Dywedodd y  Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny oherwydd gorddatblygu’r safle.  Wrth ddelio gyda’r apêl flaenorol rhoes yr Arolygydd sylw i’r egwyddor o orddatblygu a dyma a ddywedodd am gyd-destun y safle: ‘In such a setting the appeal proposal would not look out of character or have the appearance of being overdevelopment of the site.  I conclude that the proposed development would be consistent with development plan and national policy in this regard.’  Roedd y cais gerbron wedi rhoddi sylw i bryderon yr Arolygydd pan wrthodwyd yr apêl ganddo.  Ni chredwyd bod modd cefnogi apêl yn erbyn gwrthodiad oherwydd gorddatblygu’r safle a hynny am nad oes dwysedd y datblygiad wedi cynyddu dim.

 

 

 

Ar ran yr Aelod Lleol dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf wedi penderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a gwrthod oherwydd gorddatblygu.  Cyfeiriodd at Baragraff 16.3.3. Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn sy’n darllen fel a ganlyn “...  the Council has identified 30 dwellings per hectare, as the average density required across the area to meet the dwelling requirements.”  Roedd y tir hwn yn mesur 0.2 hectar, ac o’r herwydd ddim yn cydymffurfio gyda gofynion y Cynllun.  Yn y cyfarfod diwethaf rhoes y Pwyllgor sylw i effaith y datblygiad ar bleserau y tai gerllaw ac aeth y  Cynghorydd Parry ymlaen i ofyn i’r Pwyllgor gadarnhau’r penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd O. Glyn Jones a oedd dwysedd y cais hwn yn uwch na gofynion Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y dwysedd yn uwch na gofynion CDU Ynys Môn.  Ond pwysleisiodd y Swyddog yn daer bod apêl wedi’i chaniatau’n ddiweddar yn seiliedig ar ddwysedd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton bod yr ymgeisydd wedi bod trwy broses apêl ac wedi rhoddi sylw i’r holl faterion a godwyd gan yr Arolygwyr Cynllunio.  Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i ganiatau a chytuno gydag ef a wnaeth y Cynghorydd T.H. Jones gan nodi bod yr ymgeisydd, o fynd i apêl eto, yn debygol o ennill yr apêl honno yn rhwydd; yn wir gallai ddod o’r apêl gyda llai o gyfyngiadau.  Eiliodd y cynnig i ganiatau gan y Cynghorydd Chorlton.

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i gadarnhau penderfyniad cynt y Pwyllgor a gwrthod y cais oherwydd effaith y datblygiad ar bleserau’r tai gerllaw.  Cafodd ei eilio gan y  Cynghorydd Selwyn Williams.

 

 

 

Dyma fel y bu’r bleidlais:-

 

 

 

Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:  Y Cynghorwyr O. Glyn Jones,

 

Selwyn Williams.

 

 

 

Derbyn yr adroddiad a chaniatau’r cais: Y Cynghowyr W.J. Chorlton, Lewis Davies,

 

T.H. Jones, Hefin W. Thomas, J.P. Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

Cymerodd yr Is-Gadeirydd etholedig y Gadair am yr eitem nesaf gan fod y Cadeirydd yn Aelod Lleol i’r cais.

 

 

 

6.3

Gweddill y Ceisiadau - Cynlluniau diwygiedig i godi annedd yn y Minnery, Rocky Lane, Benllech

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn y  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009 penderfynwyd ar gael ymweliad.  Trefnwyd yr ymweliad ar gyfer 18 Chwefror, 2009 ac yn y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009 cafwyd argymhelliad gan y Pwyllgor i ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi’r cyfle i’r Swyddogion sefydlu a ydyw’r annedd yn y lleoliad cywir ar y safle.  Cyflwynwyd cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 8 Ebrill, 2009 a chafodd ei wrthod oherwydd gorddatblygu, am nad oedd yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol (Dyluniad) a hefyd oherwydd bod y tai cyffiniol yn colli pleserau.

 

 

 

Mewn ymateb i benderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais ni chredai y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn cyfateb i orddatblygu’r safle.  O edrych ar y cynllun bloc a gyflwynwyd a hefyd ar ôl ystyried troedbrint yr annedd arfaethedig a’r cwrtil cysylltiol nid oedd yn ymddangos bod yr annedd hon yn wahanol i’r tai eraill yn y cyffiniau.  Yn y  Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio yn yr Amgylchedd Trefol a Gwledig ceir cyngor ar y pellter priodol tai, ond gan fod cais blaenorol wedi’i ganiatau roedd yn rhaid rhoddi sylw i hynny hefyd.  Rhoddwyd caniatâd i gais cynllunio rhif 30C606 cyn gwneud y Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio.  Cyflwynwyd y cais diwygiedig er mwyn rhoddi sylw i golli pleserau a hefyd colli goleuni yng nghyswllt y tai cyffiniol. Roedd y cynlluniau diwygiedig yn well na’r rhai gwreiddiol a gymeradwywyd dan gais rhif 30C606 - yn y rhai diwygiedig roedd uchder yr annedd 1.3 metr yn is a hefyd newidiwyd dyluniad y to er mwyn lleihau’r effaith ar y tai cyffiniol.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog iddo dderbyn llythyr gan ysgutor stad y diweddar unigolyn oedd yn byw yn ‘Clifton’ y drws nesaf.  Nododd bod yr ysgutor yn cadarnhau cwyn ei ddiweddar fam bod yr annedd o’r Minnery yn rhy agos i Clifton.  Cyfeiriodd at Dystysgrif Berchenogaeth; cafodd hyn sylw yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor pryd y dywedodd Cyfreithiwr y Cyngor nad oedd y mater yn berthnasol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Aeth y Swyddog ymlaen i nodi bod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhagor o ohebiaeth yng nghyswllt y rhesymau a roddwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor dros wrthod y cais, sef gorddatblygu.  Yma nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynlluniau gwreiddiol wedi’u cyflwyno yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor y rhai a gymeradwywyd ddwy flynedd yn ôl a rhai a oedd yn anghywir.  Dyma a ddywedwyd yng ngohebiaeth yr asiant : “.......  the site plan submitted with the originally approved application showed the site area to be 303m2 .”  Roedd Swyddogion yr Adran Gynllunio wedi ymweld â safle’r datblygiad ac ar ôl mesur y safle gwelwyd bod yr arwynebedd gwirioneddol yn 412m2, gwahaniaeth o 109 m2.  Roedd yr arwynebedd diweddaraf rhyw 36% yn fwy na’r arwynebedd gwreiddiol a ganiatawyd.  Felly roedd y safle yn fwy na’r cais gwreiddiol a gyflwynwyd.  Sylwodd y Swyddog bod yr ohebiaeth yn cyfeirio at y mesuriadau at yr eiddo cyffiniol; yn yr adroddiad cyfeiriwyd at y Canllawiau Cynllunio Atodol diweddar; roedd caniatâd yn barod ar y safle.  Roedd y cynlluniau diwygiedig ymhellach oddi wrth yr eiddo cyffiniol a darllennodd y Swyddog y llythyr oedd yn crybwyll colli pleserau “ ...... I am informed that the loss of amenities to the neighbouring properties is the loss of light into the kitchen/dining area through windows located on the boundary elevation of the dwelling. I would state that the rooms in question have been consturcted as open plan and incorporate both the kitchen and dining area in one room.  In addition to these windows there are patio doors located at the rear of the property, which allow light into the room.”  “ ...... a cross section plan for the current application shows there is no restriction to light through these windows.”  

 

 

 

Soniodd yr Aelod Lleol mai dymuniad y Swyddog oedd gweld y Pwyllgor yn ailystyried ei benderfyniad i wrthod y cais.  Cyfeiriodd at nodyn y Swyddog yn dweud nad oedd y datblygiad hwn yn cyfateb i orddatblygu’r safle a hynny am nad oedd yn wahanol i dai eraill yn y cyffiniau a phwysleisiodd y Cynghorydd Durkin bod hyn yn anghywir.  Roedd yr eiddo yn y cefn ddwywaith uchder unrhyw dy arall ar Rocky Lane; nid oedd yr un ty arall ar y lôn hon yn llai na  5.5m oddi wrth y ty cyffiniol; ond roedd y cais gerbron yn 2.7m yn unig; nid oes yr un ty arall ar y lôn gyda ffenestr o’r brif ystafell fyw mor agos i’r ty cyffiniol; y pellter lleiaf yw 13.5m; dim ond 2.7m sydd rhwng y datblygiad hwn a ffenestr ystafell fwyta Clifton.  Deil y Swyddogion bod yr eiddo cyn agosed ag sy’n bosib i’r lleoliad cydnabyddedig ar y safle ond nid oedd y Cynghorydd Durkin yn cytuno unwaith eto; roedd arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan berchennog Clifton yn dangos yn glir bod yr adeilad sy’n cael ei godi dros 2m draw oddi wrth y lleoliad cywir.  Mewn lle mor gyfyng mae hyn wedi cael effaith ofnadwy ar Clifton.  Nododd yr Aelod Lleol bod y Swyddogion yn dweud nad oedd yn y Canllawiau Cynllunio Atodol unrhyw Gyfarwyddyd pendant ar bellterau rhwng tai; ond roedd pellterau datblygu yn y Canllawiau yn rhoddi tabl o’r pellterau lleiaf bosib rhwng tai a dywed mai’r pellter lleiaf o ffenestr ystafell fyw a wal foel yw 12m; sut felly yr oedd modd caniatáu pellter o 2.7m, llai na chwarter y pellter lleiaf bosib sy’n cael ei gydnabod.  Aeth ymlaen i wneud sylw bod y Swyddog wedi dweud i’r datblygiad hwn gael caniatâd cyn cyflwyno’r Canllawiau Cynllunio Atodol ym Mawrth 2008; ond mae’r cais gerbron yn un gwahanol sydd yn yr un lle yn union bron ac eithrio gosodiad neilltuol y to.  Awgrymodd bod y cais hwn yn sefyll ar ben ei hun a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau’r penderfyniad blaenorol a gwrthod.  Eiliodd y Cynghorydd O. Glyn Jones i wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams nad oedd yn hapus gyda’r cais hwn.  Nododd ei bod yn edrych fel pe bai’r datblygwr yn ceisio lleihau’r datblygiad hwn er mwyn iddo ffitio’r plot ac nid oedd yn hapus gyda’r pellter rhwng eiddo’r cymdogion.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ar ôl gweld y ffotograffau gyflwynwyd gan berchennog Clifton ac agosrwydd y datblygiad, y gallai gydymdeimlo gyda diweddar berchennog Clifton.  Yr hyn sydd i’w benderfynu yma yw - a yw’r datblygiad yn y lle iawn ar y safle.  Nododd iddo ymweld â’r safle ac iddo ystyried nad oedd yr adeilad yn rhy fawr i’r plot.  Gofynnodd pa mor bell ohoni oedd yr adeilad ar y plot.  Roedd yn ymddangos bod rhwng 9 - 10 troedfedd rhwng yr adeiladau; oedd hyn yn anghyffredin?  Gofynnodd beth yn union yw’r rheol ynglyn â ‘hawl goleuni’?  Pwysleisiodd y Cynghorydd Chorlton bod yn rhaid i’r Pwyllgor gael yr holl ffeithiau, gan y gallai fynd i apêl ac efallai y byddai’n rhaid dymchwel yr adeilad a byddai hynny’n golygu costau sylweddol.  Cynigiodd y Cynghorydd Chorlton y dylid derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais hwn.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J.P. Williams bod cais yn ei ward ef wedi’i wrthod oherwydd yr effaith y byddai’r datblygiad yn ei gael ar fwynderau eiddo cyfagos.  Nododd iddo ddweud ar yr ymweliad safle pa mor agos yr oedd y datblygiad hwn at ei gymydog.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio fod pob cais cynllunio’n cael ei ystyried ar ei nodweddion ei hun.  Pwysleisiodd bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle hon i ddisgyn yn ôl arno.  Mae’r ffotograffau a gyflwynwyd gan ysgutor yr eiddo cyfagos yn Clifton yn dangos yr adeilad presennol sydd ar y safle.  Mae asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau sy’n dangos y bydd yr adeilad yn cael ei newid h.y. bydd y to yn cael ei ostwng yn ei uchder rhyw 1.3m, a bydd ongl y to ymhellach oddi wrth Clifton.  Dywedodd y Swyddog mai mater i’r Llysoedd yw penderfynu ynglyn â ‘hawl goleuni’; roedd cynlluniau asiant yr ymgeisydd yn dangos y bydd goleuni’n llifo’n well yn y cynlluniau newydd.  Nododd bod y cynlluniau newydd yn dderbyniol.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r : Y Cynghorydd W.J. Chorlton.

 

      

 

     Cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor a gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog: Y Cynghorwyr Lewis Davies, Barrie Durkin, O. Glyn Jones, J.P. Williams,

 

     Selwyn Williams.

 

      

 

     Atal Pleidlais: Y Cynghorwyr T.H. Jones, H.W. Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddogion.

 

      

 

6.4

Gweddill y Ceisiadau - 34/C/263D - Cais ôlddyddiol i newid defnydd o garej ddomestig a rhan o gwrtil preswyl i’w ddefnyddio gan fusnes weldio dur, ymestyn y cwrtil a dileu amod (04) o ganiatâd cynllunio 34C263C yn Dafarn Newydd, Lôn Cae Cwta, Llangefni

 

      

 

     Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle tua 0.65km o ffin ddeheuol Llangefni.  Gellir mynd i’r safle o Lôn Cae Cwta, lôn gul ddiddosbarth.  Mae’r fynedfa i Lôn Cae Cwta tua 80m o’r groeslon gyda’r B5470 neu Lôn Penmynydd, ac o’r B5109, Lôn Talwrn.  Ar y safle fe geir annedd breswyl, ei gwrtil a’r garej.  Mae yna ddwy annedd arall ger y safle.  Ardal wledig yw hon gan mwyaf, gyda thai unigol yma ac acw.  Nododd bod yr Awdurdod Priffyrdd yn argymell gwrthod y cais oherwydd bod y ddwy groeslon gyda B5420 a’r B5109 yn is safonol oherwydd diffyg gwelededd difrifol i’r ddau gyfeiriad o Lôn Cae Cwta ac roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn meddwl y byddai’r cynnydd yn y defnydd o gerbydau o ganlyniad i’r cais hwn yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd.

 

      

 

     Nododd bod Polisi 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol 1996 yn gefnogol i brosiectau sy’n creu gwaith mewn rhai ardaloedd a ddynodwyd.  O safbwynt safleoedd y tu allan i anheddau sy’n bodoli, bydd y Cyngor yn caniatáu datblygiadau sy’n creu gwaith, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol lle mae’r ymgeisydd wedi gallu dangos gofynion lleoliadol penodol a manteision economaidd fyddai’n cyfiawnhau’r cynnig.  Nid yw’r lleoliad sydd o dan ystyriaeth mewn unrhyw anheddiad sy’n bodoli ac y mae felly yn ymwthiad masnachol dieithr i mewn i ardal o’r cefn gwlad.  Ni ddangoswyd bod unrhyw angen penodol o ran lleoliad i gyfiawnhau pam na ddylai’r busnes fod wedi’i leoli mewn anheddiad sy’n bodoli.  Nid yw’r cynnig felly’n cydymffurfio gyda’r polisi a grybwyllwyd uchod.  

 

      

 

     Mae gan y busnes dur weithdy yn y garej, tra bo llawer o waith y busnes yn cael ei wneud oddi ar y safle, fe wneir ychydig o waith yn y gweithdy, ac mae deunyddiau a thwls yn cael eu storio yn y garej a’r tu allan, gyda gweithgaredd megis torri, greindio, llosgi a weldio’n cael eu gwneud.  Roedd y mwyafrif o’r deunaw o staff yn gweithio oddi ar y safle, gyda’r traffig i’r safle’n cael ei gynhyrchu gan y gweithwyr a faniau yn danfon pethau i mewn ac allan o’r safle.  Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad priffyrdd gan Singleton Clamp a’i Bartner.  Roedd yr Adran Briffyrdd wedi ymateb gydag adolygiad o’r datganiad gan ymgynghorwyr Atkins. Roedd datganiad yr ymgeiswyr yn dod i’r farn bod y rhwydwaith ffyrdd presennol yn gweithio mewn dull saff ac y gallai’r ffyrdd gymryd y lefelau isel o draffig ychwanegol fyddai’n dod o’r safle.  Roedd adroddiad Atkins yn anghytuno’n gryf, gan ddod i’r farn bod y gwelededd yn y ddwy groeslon gyda’r B5420 a’r B5109 yn ddifrifol o is safonol.

 

      

 

     Roedd y cynnig yn cynnwys cadw estyniad i gwrtil preswyl Dafarn Newydd, stribyn bychan o dir oedd cyn hynny yn rhan o gae amaethyddol.  Mae’r ardal a ymestynwyd yng nghefn y garej, ar hyd y terfyn gogledd-orllewinol.  Nid yw’n cael ei ystyried bod ymestyn y cwrtil yn achosi unrhyw newid mawr i fwynderau gweledol y tirwedd.  Fe allai amod gyfyngu’r defnydd i bwrpasau sy’n ategol i fwynhau’r annedd.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid gwrthod y cynnig i newid defnydd y garej i fusnes dur ond y dylid caniatau’r cwrtil preswyl gael ei ymestyn gydag amod y byddai’n cael ei ddefnyddio i bwrpasau fyddai’n ategol i fwynhad yr annedd gyfagos, ac nid i unrhyw ddefnydd masnachol na defnydd busnes o gwbl.  

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol nad oes unrhyw waith dur trwm yn cael ei wneud yn y safle.  Defnyddir y safle ar gyfer defnydd swyddfa i wneud busnes dydd i ddydd.  Roedd taclusrwydd yr adeiladau i’w weld yn amlwg, roedd y rhan fwyaf o’r gwaith metal yn cael ei wneud ar y safle gweithio e.e Caerdydd, Caergybi ac yn y blaen.  Nododd bod datganiad wedi’i gyflwyno gyda’r cais gan yr Ymgynghorwyr Singleton Clamp ynglyn â’r materion priffyrdd; roedd yr Ymgynghorwyr o’r farn nad oedd y datblygiad hwn ond yn cyfrannu ychydig iawn at y traffig yn yr ardal hon.  Dywedodd y Cynghorydd Owen bod y datblygiad hwn yn cydymffurfio gyda’r Polisïau ar ailddefnyddio adeiladau gwag yn y cefn gwlad, eu hailddefnyddio i bwrpasau economaidd.  Roedd yr ymgeisydd yn cytuno bod yn rhaid i’r traffig i’r safle gael ei leihau ac mae’n barod i dderbyn Amod yn cyfyngu i gerbydau dros 17 tunnell ddefnyddio’r ffordd i’r safle.  Nododd bod yr ymgeisydd yn barod i dderbyn amod ynglyn â lefel swn ac i gyfyngu ar yr oriau gweithio ar y safle o 7.30 a.m. i 6.30 p.m., fel yr oedd yr Adran Iechyd yr Amgylcheddol yn ei awgrymu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Owen bod yr ymgeisydd yn barod i dderbyn amod fyddai’n cyfyngu ar fusnes dur yn Dafarn Newydd iddo ef yn bersonol ac i neb arall yn y dyfodol.  Nododd ymhellach bod yr ymgeisydd yn cyflogi 18 o bobl ar hyn o bryd; roedd y rhain yn swyddi gyda chyflogau da i bobl leol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais yw hwn i wneud gwaith trin dur o Dafarn Newydd ac roedd yn ystyried y dylai’r math hwn o fusnes gael ei leoli ar Uned Ddiwydiannol.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr Adran Briffyrdd yn erbyn y cais oherwydd y ddwy groeslon sydd ar naill ben Lôn Cae Cwta.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd O. Glyn Jones na fyddai yna unrhyw gyfyngu ar draffig i Dafarn Newydd pe bai’n fferm; fyddai yna ddim cyfyngiad ar lefelau swn nac oriau gweithio.  Roedd o’r farn y byddai’r cais hwn yn cynhyrchu llai o draffig i ddefnyddio’r ffordd na pe buasai’n fferm.  Roedd o’r farn mai math o arallgyfeirio oedd hwn neu fel arall fe fyddai’n fferm wag; mae’r ymgeisydd yn cynnig gwaith yn y cefn gwlad i drigolion lleol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn cynnig bod y cais yn cael ei ganiatau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams bod yna nifer o ffermydd yn gweithio ar hyd y ffordd ger y cais hwn.  Roedd yn nodi bod y cwynion gan y cyhoedd yn dweud y dylai pob busnes gwledig gael ei leoli ar Unedau Diwydiannol; roedd o’r farn nad oedd digon o unedau ar gyfer yr holl fusnesau gwledig ar Ynys Môn.   Ym marn y Cynghorydd Williams, fe ddylid annog pobl fusnes yn yr economi wledig sy’n barod i ehangu eu busnes.  Roedd yn cefnogi argymhelliad y Cynghorydd O. Glyn Jones i ganiatáu’r cais, ac eiliodd y cynnig.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

      

 

     Caniatáu’r cais  :  Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, O. Glyn Jones,

 

     J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Y rhesymau dros ganiatáu’r cais oedd:-

 

      

 

     Defnydd Tir - Arallgyfeirio

 

     Cadw gwaith yn y Cefn Gwlad

 

     Busnes yno’n barod

 

      

 

6.4.1

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, roedd y cais i newid y defnydd o garej ddomestig i’w defnyddio ar gyfer busnes dur yn cael ei ohirio yn otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu amser i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

6.4.2

Derbyn adroddiad y Swyddogion i ganiatáu’r estyniad i’r cwrtil preswyl, gyda’r amodau.

 

      

 

6.5

Gweddill y Ceisiadau - 34/C/510D/AD - Codi 2 arwydd totem yn Aldi, Lôn y Felin, Llangefni

 

      

 

     Daethpwyd â’r cais i’w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 cadarnhawyd nad oedd yr ymgeiswyr yn dymuno symud ymlaen gyda chais am Arwydd 1 (ger y llyfrgell) ac felly roedd y rhan hon o’r cais yn cael ei dynnu’n ôl.  Penderfynodd y Pwyllgor ymweld â Safle 2 yn y Stad Ddiwydiannol.  Fe wnaed hynny ar 22 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin W. Thomas bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei benderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am Arwydd 2.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.H. Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Ceisiadau Economaidd - 34/C/563A/ECON - Cais llawn i godi 3 uned diwydiannol oddeutu 14,250 troedfedd sgwar gyda lle parcio cysylltiol a ffyrdd stad ar dir yng nghefn yr hen Safle Cunliffe, Llangefni

 

      

 

     (Datganodd Mr. J.R.W.Owen, Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Cyngor.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2008 fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Fe wnaed hynny ar 15 Hydref,  2008 ac fe gafodd y cais ei ohirio yn dilyn hynny i ddisgwyl am gynlluniau diwygiedig.  Cafwyd nifer o gyfarfodydd hefyd gyda chynrychiolwyr trigolion Stad Tan Capel.  Cafodd y cais ei ohirio o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2009 er mwyn gallu adrodd yn ôl ar y trafodaethau gyda’r datblygwyr ynglyn â darparu lle chwarae.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 fe ohiriwyd y cais er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllunio draenio dwr wyneb o’r safle.

 

      

 

     Roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu yn ystyried y gellid rhoi amod ar unrhyw ganiatâd yn ymwneud â rheoli ac arllwys dwr wyneb, hynny’n unol â sylwadau’r ymgynghorwyr statudol.  Mae yna astudiaeth ar hyn o bryd ynglyn â draeniad dwr wyneb yn ardal Llangefni, a byddai gosod amod yn golygu y gallai’r broses o ddraenio dwr wyneb o’r safle a’r tir cyfagos gael ei ystyried gyda’r holl waith hwnnw.  

 

      

 

     Nododd y Swyddog bod apêl wedi’i chyflwyno i’r Arolygaeth Cynllunio oherwydd diffyg penderfynu gan yr awdurdod lleol; byddai’r apêl felly’n cael ei thrin fel pe bai’r cais wedi’i wrthod.  Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod yr apêl wedi’i chyflwyno ond nad oedd cadarnhad wedi’i dderbyn gan yr Arolygwyr i gadarnhau bod yr apêl yn un ddilys yn gyfreithiol.  Nododd y  gallai’r Pwyllgor felly ddelio gyda’r cais (ei ganiatáu neu ei wrthod) neu ei ohirio i ddisgwyl gael cadarnhad gan yr Arolygwyr.  Gofynnodd y Cynghorydd O. Glyn Jones paham bod yr awdurdod mewn sefyllfa o apêl pan nad yw’r ymgeisydd wedi cwblhau’r holl wybodaeth oedd ei angen.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod gan yr ymgeisydd hawl apêl os nad yw’r Awdurdod wedi dod i benderfyniad.  Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol o safbwynt draeniad y dwr wyneb; fe allai’r Swyddog fod wedi dod dros y broblem hon trwy roi amod ar y cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu’r cais hwn gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol ei bod hi a thrigolion Stad Tan Capel angen eglurhad ynglyn â nifer o faterion yng nghyswllt y cais hwn, sef :-

 

      

 

     Stripyn Bwffer - rhwng y datblygiad arfaethedig a Stad Tan Capel sydd i fod yn 8m - 10m.  Nid yw’r trigolion yn teimlo bod yr amodau yn ddigon manwl.

 

      

 

     Tirlunio - Gofynnodd am wybodaeth ynglyn â’r math o goed fydd yn cael eu defnyddio i greu’r bwffer.

 

      

 

     System Ddraenio - mae angen manylion am y system draenio dwr wyneb.  Cafwyd deall bod system ddraenio newydd i’w defnyddio.  Byddai trigolion Tan Capel yn hoffi gwybod os yw’r system hon wedi gweithio mewn llefydd eraill.  Bu systemau draenio’n broblem ar y stad hon oherwydd llifogydd dros y blynyddoedd. Roedd adroddiad ar system ddraenio wedi’i gwblhau yn nhref Llangefni ac fe fyddai trigolion Stad Tan Capel yn hoffi gweld argymhellion yr adroddiad.

 

      

 

     Llythyrau i’r Adran Gynllunio - cwynion nad oedd llythyrau a anfonwyd i’r Adran wedi cael eu cydnabod.

 

      

 

     Asesiad Effaith Amgylcheddol - a wnaed arolwg; fe welwyd Swyddog ar Stad Tan Capel.

 

      

 

     Llygredd Swn - pa lefel o lygredd swn sy’n cael ei ystyried yn dderbyniol?

 

      

 

     Yr Angen am Unedau - a oedd angen unedau o’r fath oherwydd yr argyfwng ariannol byd eang.  Mae yna ddigon o unedau diwydiannol ar yr Ynys yn barod.

 

      

 

     Canclwm Siapan - roedd trigolion Stad Tan Capel yn gofyn am gael gwared o’r planhigyn yn yr ardal.

 

      

 

     Yn ôl yr Aelod Lleol, yn ystod y ddau fis diwethaf, roedd rhywun wedi torri i mewn i’r unedau ar y stad ddiwydiannol ac roedd trigolion Tan Capel yn bryderus ynglyn â hyn.  Nododd y  Cynghorydd Hughes bod pryderon wedi’u mynegi ynglyn â’r defnydd o beiriannau mawr yn defnyddio’r fynedfa i’r safle trwy Stad Tan Capel.  Roedd trigolion y stad hefyd yn bryderus ynglyn â’r effaith bosibl ar werth eu heiddo os câi’r cais ei ganiatáu.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams bod ganddo bryderon ynglyn â’r amodau oedd ynghlwm wrth y cais hwn.  Gofynnodd sut y byddai’r awdurdod lleol yn plismona’r amodau.  Gofynnodd hefyd  a fyddai’r Stad Ddiwydiannol yn cael ei newid yn Unedau Adwerthu yn y dyfodol.

 

      

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones os oedd yr adroddiad am y draenio dwr wyneb wedi’i derbyn gan yr awdurdod yng nghyswllt y cais hwn.  Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw fanylion wedi’u derbyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi mynd â’i achos i’r Arolygaeth Gynllunio oherwydd diffyg penderfyniad gan yr awdurdod.

 

      

 

     Ymatebodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i gwestiynau a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor.  Nododd i’r cais gael ei ohirio fis Rhagfyr er mwyn caniatáu cael manylion ynglyn â’r ardal bwffer.  Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno manylion llawn oedd yn dweud y byddai’r ardal bwffer yn 8m -10m, ond nid oedd wedi dweud pa fath o goed fyddent.  fe ddylai Amod (04) ddelio â’r mater hwn.  Cyfeiriodd at y system ddraenio; roedd Amod (13) yn dweud “  ........ darpariaeth a gweithrediad system reoli dwr wyneb .....” ; roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r ymgeiswyr ynglyn â’r mater hwn.

 

      

 

     Atebodd y Swyddog ymhellach ynglyn â’r cwynion nad oedd llythyrau’r trigolion yn cael eu hateb gan yr adran; nododd bod un llythyr arbennig yn achosi pryder i drigolion Stad Tan Capel a’i fod wedi rhoi sicrwydd y bydd y llythyr yn cael ei ateb mor fuan ag sy’n bosibl.  Nododd bod asesiad wedi’i wneud ynglyn â lefelau swn.  Fe gynhaliwyd trafodaethau gyda’r Adain Gwasanaethau Amgylcheddol ac y mae wedi awgrymu gosod amod wrth y cais; roedd yr amod hon yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

      

 

     Nododd ymhellach bod y sector breifat wedi rhoi cais i mewn am yr uned hon; mae’n amlwg bod y sector breifat yn ystyried bod angen am y fath uned yn y lle arbennig hwn; ynglyn â mater y Canclwm Siapan; mater yw hwn i Asiantaeth yr Amgylchedd ymchwilio iddo.

 

      

 

     Mynediad i’r safle; mae’r cynllun yn dangos y bydd y fynedfa yn dod drwy’r stad ddiwydiannol a dim trwy Stad Tan Capel.  Nododd nad yw gwerth tai yn ystyriaeth gynllunio o bwys.

 

      

 

     Atoffa’r Pwyllgor wnaeth y Pennaeth Datblygu bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i roi i’r safle hwn yn 2007.  Cais llawn yw hwn ar gyfer rhan o’r safle.

 

 

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones - mewn cais blaenorol roedd amod yn cael ei osod ar ddatblygiad tai na allant gael eu hadeiladu hyd nes y ceid prynwr i’r tai; a ellid gosod amod debyg ar y cais hwn na ellid codi’r unedau nes y ceid tenant / prynwr?

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth Rheoli Datblygu bod gosod amod ar Unedau Diwydiannol yn wahanol i ddatblygiadau tai.  Fe alla’r ymgeisydd apelio yn erbyn amod o’r fath.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams beth oedd yn mynd i ddigwydd i’r tir o dan y safle.   Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Cynllun Meistr Llangefni wedi’i gymeradwyo i’r ardal gan yr awdurdod oddeutu 2 flynedd yn ôl.  Nododd y byddai’r broses CDU yn nodi tir yn yr ardal hon a’i bod i fyny i ddatblygwyr wneud cynigion.  Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y bydd y cynnig yn un derbyniol.

 

      

 

     Mynegi ei bryderon wnaeth y Cynghorydd J.P. Williams bod y datblygiad hwn yn agos i ardal preswyl.  Nododd pe bai ef yn Aelod o’r Cyngor Sir pan oedd y cais hwn wedi’i gyflwyno ar gyfer caniatâd amlinellol, y byddai wedi gwrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn cytuno gyda datganiad y Cynghorydd Williams.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd T.H. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd y cynnig gan y   Cynghorydd R.L. Owen.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y cais yn cael ei wrthod.  Ni chafwyd eilydd.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr W.J. Chorlton,

 

     T.H. Jones, R.L. Owen, Hefin W. Thomas.

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog : Y Cynghorwyr O. Glyn Jones.

 

      

 

     Atal eu pleidlais: Y Cynghorwyr Lewis Davies, O. Glyn Jones, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

6.7

Gweddill y Ceisiadau - 35/C/216E - Newid Cytundeb Adran 106 ar gyfeirnod Cynllunio  35/C/216D i ganiatáu gweithredu un o ddau ganiatâd yn amodol ar beidio â gweithredu ar yr un arall yn Tan y Felin, Llangoed

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).

 

      

 

     Roedd y cais wedi’i ddwyn y Pwyllgor oherwydd bod cryn lawer o bryderon yn lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 fe benderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe ddigwyddodd hynny ar 22 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y caniatâd cynllunio i godi annedd yn awr wedi dod i ben.  Roedd yn ymddangos felly nad oedd unrhyw bwrpas i newid y cytundeb oherwydd mai dim ond un caniatâd oedd yn bodoli bellach ar gyfer y cynllun addasu.  Roedd yr argymhelliad felly’n cael ei newid i un o wrthod.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.J. Chorlton bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd hynny gan y   Cynghorydd T.H. Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H.W. Thomas yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi pleidleisio na chymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn.

 

      

 

6.8

Gweddill y Ceisiadau - 36/C/222B - Dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle ynghyd â gosod tanc septig yn Gors Bach, Cerrigceinwen, Bodorgan

 

      

 

     Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r Pwyllgor benderfynu ar y cais hwn.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 22 Ebrill, 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod copi o’r Gorchymyn Cau wedi’i gyflwyno i‘r Adran Gynllunio gan wrthwynebwr, a hynny ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, yn gofyn paham nad oedd y Cyngor yn gweithredu ymhellach.  Roedd copi o’r Gorchymyn Cau wedi’i gyflwyno i’r Adran Gwasanaethau Amgylcheddol am eu sylwadau.  Roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn nodi : “Rhoddwyd y Gorchymyn Cau ar y perchenogion ar y pryd, oherwydd bod yr amodau o fewn yr eiddo yn gymaint a’i wneud yn ‘anaddas i neb fyw ynddo ac heb fod yn bosib ei wneud yn ffit ar gost rhesymol.’  Roedd cofnodion yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol yn dangos mai’r tenant ar y pryd oedd Mrs. Smith.  Ers hynny roedd wedi symud o’r annedd ac yn byw mewn carafan ar y safle.

 

      

 

     Roedd yr ymgeisydd ar y cychwyn wedi cwblhau Tystysgrif A yn honni mai ef oedd perchennog y ffordd oedd yn rhoi mynediad i’r safle.  Yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd ynglyn â mater hawl tramwy, rhoddwyd Tystysgrif B ynghyd â rhybudd ar berchenogion Hendre Fawr a Mona Cefn.  Mae’r annedd bresennol gyda ffordd mynediad ac nid oes unrhyw gynigion yma i altro ei aleiniad fel rhan o’r cais.  Tra bo dadl yn amlwg ynglyn â’r hawl tramwy, mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno copi o weithred y gofrestrfa tir yn dangos bod yna hawl tramwy.  Ni fyddai gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio fel y mae wedi’i gyflwyno yn rhagfarnu unrhyw barti yn y ddadl breifat sy’n mynd ymlaen.  Ni chafwyd unrhyw sylwadau ynglyn â mynediad na pherchenogaeth mewn perthynas â’r cais blaenorol am Dystysgrif Defnydd Cyfreithiol.

 

      

 

     Nodwyd bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi dweud bod y llain gwelededd i gyfeiriad y de-ddwyrain o’r fynedfa i’r briffordd yn is safonol.  Fodd bynnag, gan mai cais yw hwn am annedd yn lle un arall a chyn belled a bo defnydd sefydlog yr annedd wedi’i sicrhau ar y safle, nid oes gan yr awdurdod unrhyw wrthwynebiad i’r fynedfa arfaethedig.  Rhoddwyd Tystysgrif Datblygiad Defnydd Cyfreithlon fel annedd o dan gais 36C22A yn 2005.  Roedd y Tystysgrif yn ystyried yn llawn y mater o adael yr eiddo’n wag, er ei gyflwr ffisegol ar y pryd a rhoi allan y Gorchymyn Cau, roedd yr eiddo’n cael ei ystyried mewn termau cynllunio fel annedd o hyd.  Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb ar y pryd.  Bydd y cynnig sydd wedi’i gyflwyno’n awr yn ateb y cwestiwn o ba mor addas yw’r eiddo i neb fyw ynddo fel a geir yn y Gorchymyn Cau, ac y mae’r cais yn cydymffurfio’n llawn gyda pholisiau adeiladu tai yn lle rhai eraill.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r annedd gael ei hadeiladu, ac mai ei bryder ef oedd ynglyn â’r trac tuag at yr annedd arfaethedig.  Nododd i’r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus ddweud ar yr ymweliad safle, bod y ffordd i’r annedd yn mynd ar draws llwybr cyhoeddus i gerddwyr yn unig.  Roedd yr Aelod Lleol yn ystyried bod y fynedfa o’r A5 yn beryglus; roedd y trac yn disgyn i lawr yn serth o’r A5.  Gofynnodd faint o welededd sydd ei angen yn y lle arbennig hwn.  Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod asesiad effaith traffig wedi’i wneud yn yr ardal.  Rhaid cael gwelededd o 160 metr ond dim ond rhyw 75 metr a geir yma.  Fodd bynnag, roedd yn nodi - gan bod y strwythur presennol yn cael ei ddymchwel, ystyrir na fydd mwy o draffig yn defnyddio’r fynedfa.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams ei fod yn meddwl bod y fynedfa i’r safle’n beryglus.  Nododd bod yna gweryl ynghylch y tir ac am yr hawl tramwy i’r annedd arfaethedig ac awgrymodd y dylid ystyried mynedfa newydd o’r A55.  

 

      

 

     Datgan wnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton bod cwpl ifanc yma yn dymuno adeiladu annedd newydd ar y safle hwn ac ni allai weld unrhyw broblemau gyda’r cais oherwydd bod annedd wag eisoes yn bodoli ar y safle.  Roedd yn cynnig bod y cais yn cael ei ganiatau.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

6.9

Gweddill y Ceisiadau - 45/C/390 - Dymchwel yr adeilad allanol presennol ynghyd â chodi anecs ar wahân yn Gerallt, Llangaffo

 

      

 

     Yr  Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 fe benderfynwyd caniatáu’r cais a hynny’n groes i argymhellaid y Swyddog.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio, byddai’r cynnig hwn heb wneud cytundeb cyfreithiol addas yn cyfateb i adeiladu annedd ar wahân.  Mae’r fynedfa sy’n gwasanaethu’r safle yn is safonol a byddai’r cynnydd yn y defnydd o’r fynedfa yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch y ffordd.  Fe allai cytundeb Adran 106 sicrhau na chaiff yr unedau eu gwerthu ar wahân, ond ni fyddai hyn yn sicrhau na allai’r uned arfaethedig gael ei gosod a’i defnyddio fel uned ar wahân h.y. fel annedd, neu uned wyliau.  Roedd yr ymgeisydd wedi gwrthod arwyddo cytundeb Adran 106 o’r blaen i ddweud na fyddai neb yn byw yn yr anecs ar unrhyw amser ar wahân i bwrpasau fyddai’n ategol i ddefnydd preswyl yr annedd.  Heb gyfyngiad yn rhwystro gosod neu brydlesu’r anecs nid yw’n bosibl cael rheolaeth ddigonol ar y ddeiliadaeth a’r defnydd.  

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol bod yr ymgeisydd yn derbyn yn llawn y cytundeb Adran 106 oedd yn dweud na allai werthu’r eiddo ar wahân.  Roedd yr annedd ar gyfer ei rieni yng nghyfraith oedranus yn unig.  Nid ydynt yn gyrru car, mae ganddynt dair merch sydd gyda cheir, ac mae’r tair bellach wedi gadael y cartref.  Nododd mai’r awdurdod oedd wedi gosod Amod ar y cais ar y munud diwethaf, na allai’r anecs gael ei gosod allan na’i phrydlesu pe bai rhywbeth yn digwydd i’r hen gwpl.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J.P. Williams ei fod yn cydymdeimlo gyda’r ymgeisydd.  Fodd bynnag, nododd ei bod yn bwysig bod y fynedfa i’r safle’n ddiogel.  Pe bai caniatâd yn cael ei roi i’r cais hwn, gofynnodd y  Cynghorydd J.P. Williams a ellid gosod amod yn dweud na allai’r anecs gael ei gosod na’i phrydlesu hyd nes y bo’r fynedfa wedi’i gwneud yn ddiogel ac i ofynion yr Adran Priffyrdd.  Dywedodd y Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) y byddai hyn yn bodloni’r Awdurdod Priffyrdd.  Nododd y Cynghorydd J.P. Williams mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yw gwneud y fynedfa’n saff i genedlaethau’r dyfodol yn ogystal.  Dywedodd y Cynghorydd H.W. Thomas y byddai’r awgrym wnaed gan y Cynghorydd J.P. Williams yn gwneud pethau’n llawer mwy cymhleth.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd T.H. Jones bod yr ymgeisydd yn ymwybodol iawn o’r broblem gyda’r fynedfa.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones os oedd yr ymgeisydd wedi trafod gyda’r Adran Gynllunio y posibilrwydd o wella’r fynedfa.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad yw’r ymgeisydd yn dymuno gwella’r fynedfa gan y byddai hynny’n golygu gwneud gwaith ar dir nad yw yn ei berchenogaeth.  Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ei fod dan yr argraff nad oedd yr ymgeisydd yn gallu gwella’r fynedfa oherwydd nad yw’r tir yn ei berchenogaeth.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol ei fod yn meddwl bod y materion priffyrdd wedi’u datrys yn y cyfarfod diwethaf.  Roedd dan yr argraff mai cytundeb Adran 106 ynglyn â phrydlesu neu osod yr anecs oedd y mater i’w drafod yn y Pwyllgor hwn.  Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r Aelodau at yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod; roedd argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais yn seiliedig ar y ffaith nad oedd y fynedfa’n addas.  Roedd y cyfeiriad wnaed yn dweud nad oedd y materion priffyrdd wedi cael sylw yn yr adroddiad yn ffeithiol anghywir.  Felly gofynnodd y Cynghorydd J.P. Williams a fyddai’r cyfaddawd yr oedd ef wedi ei awgrymu, sef bod y fynedfa’n cael ei gwella, yn dderbyniol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fyddai’r awgrym hwnnw yn dod dros y broblem o gael mynedfa beryglus, roedd y gwelededd wrth i chi adael y safle yn fater o ddiogelwch.  Nododd mai ei bryder ef oedd y gallai’r anecs gael ei gosod allan yn y dyfodol ac y byddai hyn yn achosi problem gyda’r fynedfa.  Cynigiodd y  Cynghorydd J.P. Williams bod y cais yn cael ei ganiatáu ar yr amod fod y fynedfa’n cael ei gwella cyn y gall yr anecs gael ei werthu neu ei osod yn y dyfodol.  Eiliodd y Cynghorydd O.Glyn Jones y cynnig.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Thomas bod y Pwyllgor yn ail gadarnhau ei benderfyniad i ganiatáu’r cais ond gyda chytundeb Adran 106 yn cyfyngu ar werthu’r anecs ar wahân i’r prif annedd.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd W.J. Chorlton.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:-

 

      

 

     Cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor, i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gyda chytundeb adran 106 yn dweud na chaiff yr eiddo ei werthu ar wahân i’r annedd: Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, H.W. Thomas.

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog,  a gyda chytundeb adran 106 yn dweud na chaniateir gwerthu’r eiddo ar wahân i’r annedd a hefyd na chaniateir gosod na phrydlesu’r eiddo hyd nes y bo’r gwaith gwella angenrheidiol wedi’i wneud i’r fynedfa: Y Cynghorwyr Lewis Davies, O. Glyn Jones, T.H. Jones, J.P. Williams,

 

     Selwyn Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar wneud cytundeb Adran 106 yn dweud na chaniateir gwerthu’r eiddo ar wahân i’r brif annedd ac yn ychwanegol na chaniateir gosod neu brydlesu’r eiddo hyd nes y bo’r gwaith angenrheidiol wedi’i wneud i wella’r fynedfa.

 

      

 

6.10

Gweddill y Ceisiadau - 46/C/416B - Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yn Parc Isallt, Trearddur

 

      

 

     Nodwyd bod y cais hwn wedi’i dynnu’n ôl gan yr ymgeisydd.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw gais economaidd wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

      

 

8

CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy wedi’u cyflwyno i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1

36/C/89J - Cais amlinellol i godi swyddfeydd, ystafell arddangos a chyfleuster storio ynghyd â llety preswyl i berchenogion ar dir ger Plas y Coed, Llangristiolus

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd Selwyn Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi’i ddwyn i’w benderfynu gan y Pwyllgor ar ofyn cyn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a nodwyd ei fod yn gais oedd yn tynnu’n groes, a’i fod hefyd yn creu pump neu fwy o swyddi.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi anfon datganiad i gefnogi’r cais sy’n nodi bod y cwmni’n cefnogi 10 staff ac yn arbenigo mewn gwerthu a chyflenwi peiriannau a nwyddau ar gyfer trosglwyddo delweddau ar wahanol ddefnyddiau, gan gynnwys ceramig, metalau a ffabrigau.  Nid yw lleoliad presennol y busnes yn ddigon mawr i alluogi i’r busnes ehangu a chymryd mwy o staff.  Mae’n rhaid cael llety byw ar y safle i letya cleientiaid a darparu gwasanaeth 24 awr i gleientiaid rhyngwladol.  Yr elfen hon o’r gwasanaeth fu sylfaen llwyddiant y cwmni.  Byddai lleoli’r storws oddi ar y safle yn dwyn miniogrwydd cystadleuol y cwmni.  Yn ei hanfod, mae angen mwy o le ac eiddo mwy.  Y bwriad yw gwerthu’r eiddo presennol er mwyn gallu ariannu’r fenter o adeiladu eiddo mwy.  

 

      

 

     O safbwynt y busnes mae’n glir y gall polisi mewn egwyddor gefnogi’r ehangiad a chreu cyfleon gwaith mewn ardaloedd gwledig.  Fodd bynnag, rhaid cael cyfiawnhad clir yn nhermau lleoliad penodol a gofynion tir.  Byddai’r cynnig hwn yn cyfateb i ddatblygu gwasgarog heb unrhyw berthynas i ganol unrhyw bentref a byddai’r adeilad i’w weld yn amlwg o’r briffordd gyhoeddus ac o’r cefn gwlad o gwmpas.  O’r herwydd, byddai’r cynnig yn cael effaith niweidiol ar edrychiad a chymeriad yr ardal ac yn ymwthiad niweidiol i mewn i’r tirlun.  Nid yw’r ymgeisydd yn ceisio dadlau (ac y mae’n amlwg oddi wrth yr wybodaeth a ddarparwyd) bod gan y busnes angen am leoliad penodol neu ofynion tir fyddai’n cyfiawnhau gosodiad gwledig.  Fe allai’r busnes weithio yr un mor dda mewn gosodiad trefol neu fasnachol.  Gellid dadlau bod busnes o’r fath a’r maint hwn wedi’i siwtio’n well i’r fath leoliadau.  Mae achos yr ymgeisydd felly yn disgyn ar y glwyd hon, os na ellir dangos gofynion lleoliadol neu ofynion tir yna nid oes unrhyw bolisi i gefnogi’r cynnig.  Mae dadl yr ymgeisydd yn seiliedig ar roi yr hyn y mae ef yn ei alw’n “finiogrwydd cystadleuol” i’w gwmni dros ei gystadleuwyr, ond nid yw hyn yn gyfiawnhad cynllunio ar gyfer defnydd tir.  

 

      

 

     Fel gydag unrhyw gynnig gellir gwneud pwyntiau o blaid ac yn erbyn ac mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwybodol o lwyddiant y busnes presennol.  Tra bo’r cynnig yn cyfateb i ‘gais economaidd’ mae hefyd yn amlwg yn groes i bolisi.  Felly, mae’r cais yn ei ffurf bresennol yn disgyn yn fyr o’r amgylchiadau eithriadol allai warantu unrhyw gefnogaeth.  Ymddengys bod opsiynau eraill ar gael fyddai’n caniatáu i’r busnes ymestyn.  Nid yw’r ymgeisydd yn gwneud unrhyw achos cynllunio defnydd tir bod gan y busnes ofynion lleoliadau na gofynion tir arbennig ac felly nid ellir cyfiawnhau unrhyw achos eithriadol.  Nid oes unrhyw angen wedi’i brofi ar gyfer i’r busnes fod mewn lleoliad gwledig.  Mae busnes o’r maint a’r math hwn wedi’i siwtio’n well ar gyfer gosodiad trefol neu fasnachol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton bod yr ymgeisydd yn rhedeg busnes llwyddiannus yn y lleoliad hwn ac yn dymuno ymestyn ac ehangu.  Nododd bod yn rhaid i’r ymgeisydd fod yn agos at ei fusnes i fod ar gael 24 awr ar gyfer ei gwsmeriaid.  Nododd ymhellach y dylai busnes o’r fath gael ei gefnogi a chynigiodd y dylid caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H.W. Thomas o’r farn bod y cais hwn yn hollol amlwg yn erbyn polisïau ac argymhellodd bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd T.H. Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

10

CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1

Gweddill y Ceisiadau - 25/C/198A/DA - Cynlluniau manwl i godi byngalo dormer ar dir yn gefn Maes Cuhelyn, Llannerch-y-medd

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’w benderfynu oherwydd bod partner yr ymgeisydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Cynllunio.  Roedd y cais wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan Baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd safle’r cais yn rhan o iard saer.  Mae’r safle yn union y tu ôl i eiddo preswyl ar Stryd Cuhelyn.  Cais yw hwn i gymeradwyo materion wrth gefn yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio amlinellol.  Ystyrir bod y safle, dyluniad ac edrychiad allanol yn dderbyniol ac nid yw’n cael ei ystyried y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau’r ardal.  Bydd amod yn cael ei gosod yn gofyn am i fanylion tirlunio gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig cyn dechrau’r datblygiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog a chymeradwyo’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2

Gweddill y Ceisiadau - 36/C/283A - Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ynghyd â dymchwel y cwt ‘nissan’ ar ran o gae O.S. 9665 ger Ael y Bryn, Llangristiolus

 

      

 

     Oherwydd bod yr ymgeisydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Cynllunio y cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Roedd y cais hwn hefyd wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan Baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Dweud wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle ym mhentref Llangristiolus ar ddarn o dir yn union ar draws y ffordd i ysgol gynradd Henblas.  Ceir mynediad i’r safle oddi ar y B4422 i briffordd Dosbarth II, sef y brif ffordd trwy’r pentref.  Mae’r tai o gwmpas yn gymysgedd o unedau sengl a deulawr.  Diffinnir Llangristiolus fel Anheddiad Rhestredig o dan Bolisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn ac fel Pentref o dan Bolisi HP4 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Roedd caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i roi ar y safle i godi un annedd.

 

      

 

     Mae yna ddigon o le o fewn y safle i gymryd yr annedd, i greu lle parcio a throi a llecyn mwynderol preifat.  Mae’r annedd yn debyg o ran maint a dyluniad i’r eiddo arall sydd o gwmpas.  Oherwydd y pellteroedd rhwng y cynnig a’r tai presennol ni fydd y cynnig yn cael effaith ar fwynderau’r eiddo cyfagos.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i gymeradwyo’r cais, gyda’r amodau a geir yn yr adroddiad.

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

12/C/266C - Dymchwel siediau cychod presennol a chodi siediau newydd i gychod, ynghyd â gwaith altro ac ymestyn i siop yr orsaf betrol ar siop tacl pysgota yn ABC Powermarine, Penrhyn Safnas, Biwmares

 

      

 

     Daethpwyd â’r cais gerbron y Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw perchennog y tir.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ganiatâd cynllunio gael ei roi i ddatblygu marina i 450 cwch yn Ionawr 2003 i’r de o safle’r cais, y cyfeirir ato yn benodol ym Mholisi TO8 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae trafodaethau cyfreithiol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ynglyn â’r datblygiad hwn ond nid ydynt yn bwysig wrth ystyried y datblygiad sy’n destun yr adroddiad hwn.  Tra gall y trafodaethau cyfreithiol ynglyn â’r Marina gael ychydig effaith ar rai o’r manylion o fewn y cynllun hwn, dywedir unwaith yn rhagor nad yw’r cynigion sy’n destun yr adroddiad hwn yn cael eu heffeithio.  

 

      

 

     Mae’r egwyddor o ddatblygu yn cytuno gyda pholisïau ar gyfer creu gwaith ac ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.  Y bwriad yw ailddatblygu tir oedd wedi’i ddatblygu cyn hyn, symud ymaith rhai hen gytiau blêr a rhoi cymysgedd o adeiladau modern yn eu lle er mwyn sicrhau bywiogrwydd tymor hir y safle.  Bydd y cynnig hefyd yn cynnig gwell isadeiledd carthffosiaeth a storio olew, tanwydd a chemegion, fydd yn llesol i’r amgylchedd.  Ystyrir bod yr egwyddor yn dderbyniol o osod cytundeb cyfreithiol yn cyfyngu unrhyw adwerthu i ddefnyddiau morwrol sydd wedi’u hasesu yn flaenorol fel rhai sy’n dderbyniol yn nhermau’r effaith a geir ar ganolfan siopa Biwmares.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhellion i ganiatáu’r cais, yn amodol ar amrywio’r cytundeb cyfreithiol a gwblhawyd fel rhan o gais cynllunio 12C141T fel bod ei ymrwymiadau hefyd yn cynnwys y datblygiad sy’n destun yr adroddiad hwn a bod caniatâd cynllunio wedi hynny’n cael ei roi gyda’r amodau a geir yn yr adroddiad.

 

      

 

11.2

19/C/578C - Cais i amrywio Cytundeba Adran 106 ‘dim datblygu pellach’ i ganiatáu adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ty’r Ardd, Caergybi

 

      

 

     Yr  Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cais cynllunio amlinellol wedi’i roi i godi annedd a thrac mynediad ym mis Tachwedd 2008.  Dywedwyd bod cytundeb cyfreithiol yn rhwystro datblygu’r tir lle roedd bwriad i greu’r trac mynediad ac roedd rhai o’r gwrthwynebwyr wedi codi’r pwynt hwnnw.  Y cais i’w ystyried yn awr yw amrywio’r cytundeb cyfreithiol cyn belled ag oedd ei angen er mwyn gallu adeiladu’r trac mynediad i fynd i’r plot.  Roedd cais materion wrth gefn eisoes wedi’i ganiatáu.

 

      

 

     Byddai angen caniatâd cynllunio, yn ogystal â newid y Cytundeb Adran 106, ar gyfer datblygu’r tir y gwnaed y cytundeb yn ei gylch.  Byddai unrhyw ddatblygiad fyddai’n elwa oddi wrth hawliau datblygu a ganiatawyd yn parhau i ddod o dan dermau’r cytundeb a byddai angen caniatâd yr awdurdod er mwyn i waith o’r fath fynd yn ei flaen.  Ni fyddai caniatáu’r newid hwn er mwyn i’r caniatâd cynllunio a roddwyd gan y Pwyllgor yn dilyn rhoi ystyriaeth lawn i’r cais hwnnw yn lleihau’r rheolaeth sydd gan y Cyngor trwy’r cytundeb Adran 106 ar weddill y tir.  Fe all y cytundeb gael ei newid trwy roi caniatâd i ddatblygu’r trac mynediad yn unig neu trwy ddweud na cheir defnyddio’r trac ond ar gyfer rhoi mynediad i’r annedd a ganiatawyd o dan gais 19C686C ac i ddim un pwrpas arall.  Byddai’r cytundeb yn parhau mewn grym ym mhob agwedd arall.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.3

19/C/894K -  Cais i ddiwygio Amod (08) o ganiatâd 19/C/894E er mwyn caniatáu defnydd A3 yn lle swyddfeydd ynghyd â chadw’r fflat uwchben yn 41/43 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pledleisio arno).

 

      

 

     Daethpwyd â’r cais gerbron y Pwyllgor oherwydd mai’r Cyngor Sir sy’n gwneud y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig hwn yn rhan o’r gwaith sy’n mynd ymlaen dan Gynllun Adfywio Canol Tref Caergybi a Phecyn Trafnidiaeth Amgylcheddol Caergybi.  Mae’r adeilad tirnod a ganiatawyd o dan gais rhif 19/C/894E wedi’i adeiladu ond ceisir yn awr newid y defnydd arfaethedig er mwyn caniatáu defnyddiau A3 ar bob llawr yn hytrach na chymysgedd o A3 a defnyddiau swyddfa fel a ganiatawyd yn flaenorol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.4

34/LPA/121J/CC - Gwaith altro ac yn ymestyn yn Ysgol Gyfun, Llangefni

 

      

 

     Roedd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod y cais yn cael ei wneud ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai gwaith altro ac ymestyn oedd yma i adeiladu mynedfa newydd gyda grisiau a ramp mynedfa i’r anabl ac adeiladu siafft lifft 3 llawr a gosod lifft hydrolig i gario 8 o bobl; a hefyd adeiladu ystafell storio ac ystafell feddygol.   Roedd yr estyniadau’n cydymffurfio gyda’r holl bolisïau oedd yn yr adroddiad a bydd yn ffitio i mewn gyda’r ysgol bresennol.  Ni fydd unrhyw eiddo cyfagos yn cael ei effeithio gan y datblygiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.5

39/LPA/152H/CC - Gwaith altro ac yn ymestyn ac ail leoli storfa ar gyfer binau yn Ysgol y Borth, Porthaethwy

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd Selwyn Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pledleisio arno).

 

      

 

     Roedd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd mai Adran Addysg y Cyngor Sir oedd yn gwneud y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y gwaith altro ac ymestyn yn golygu gwneud Estyniad i Ddosbarth 1, Estyniad Toiledau Newydd, Estyniad i Dosbarth 7 ac ail leoli y storfa binau (caiff yr iard bresennol gyda’r waliau o’i chwmpas ei dymchwel gan adeiladu storfa newydd ar gyfer binau).  Bydd ffens goed 1.8 metr o uchder o amgylch y storfa binau.  Bydd yr estyniadau’n cydymffurfio gyda’r holl bolisïau oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad ac yn ffitio i mewn gyda’r ysgol bresennol.  Ni fydd unrhyw eiddo cyfagos yn cael ei effeithio gan y datblygiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.6

46/C/428A - Newidiadau i’r cynlluniau a gymeradwywyd o dan gais 46/C/428 i ymestyn ac altro’r annedd bresennol yn Goferydd, Ynys Lawd, Caergybi

 

      

 

     Yr  Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle mewn lle amlwg uwchben yr arfordir yn Ynys Lawd, Caergybi, gyferbyn â Chaffi Southstack ac o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Roedd y cynnig yn golygu codi estyniad deulawr yng nghefn yr annedd a chodi estyniad unllawr ar yr ochr ynghyd ag adeiladu lle eistedd allanol wedi’i godi ychydig yn uwch.  Roedd y cais yn ddiwygiad i’r un a ganiatawyd yn 2006.  

 

      

 

     Nid oes yr un eiddo arall yn agos i’r safle.  Ystyrir bod dyluniad y cynnig a’r deunyddiau sydd i’w defnyddio i adeiladu’r estyniad yn dderbyniol ac na fyddant yn niweidio’r tirlun o gwmpas.  Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle mewn perthynas â’r cais blaenorol a bydd y cynllun sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd yn welliant i edrychiad yr annedd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatáu’r cais, gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

12     PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, grynodeb o benderfyniadau gan yr Arolygwr Cynllunio ynglyn â:-

 

      

 

     Bryn, Ffordd yr Orsaf,  Rhosneigr - Apêl A - caniatáu’r apêl

 

         Apêl B - gwrthod yr apêl 

 

      

 

     Tir yn gyfagos i Ty Stesion Bodorgan, Bodorgan - caniatáu’r apêl

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

Derbyn Deiseb - Mater a gyfeiriwyd yn ôl i’r Pwyllgor hwn gan y Cyngor Sir

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2009 wedi penderfynu bod y ddeiseb oedd wedi’i arwyddo gan 200 person a gyflwynwyd gan y Cynghorydd R.Ll. Jones, yn cael ei chyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’w hystyried, o ystyried mai’r  Cynghorydd Jones oedd y cyn Ddeilydd Portffolio Cynllunio:-

 

      

 

     “We the undersigned residents of Ynys Môn wish to protest very strongly at the action taken against the Portfolio Holder for Planning, Cynghorydd R. Llewelyn Jones.  We value the right of free speech - we will not stand by and see it taken away from us.  Our Island’s future depends on residents and Councillors being able to speak out and to voice our concerns.”

 

      

 

     Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd R.Ll. Jones egluro’r cefndir i’w symud oddi ar y Pwyllgor Gwaith fel y Deilydd Portffolio Cynllunio.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r ddeiseb.

 

      

 

14.2

11/LPA/101B/1/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod camera CCTV ar y bloc derbyn yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y byddai’r cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 y Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

14.3

11/LPA/101C/1/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith mewnol yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y byddai’r cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 y Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

14.4

12/LPA/908/LB/CC - Cais Adeilad Rhestredig i ddymchwel y stac simnai presennol a’i ailadeiladu yn defnyddio brics a ail-gafwyd.  Gosod cladio UPVC newydd i storfa’r gegin a toilet staff y gegin a newid y shyteri rowlio presennol yn y gegin gyda rhai yn gweithio gyda thrydan yn Ysgol Gynradd Biwmares

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y byddai’r cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 y Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD B. DURKIN

 

     IS-GADEIRYDD YN Y GADAIR