Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 14 Rhagfyr 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2006

CYFARFOD CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod ar  14 Rhagfyr, 2006.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Rowlands - Cadeirydd

 

Y Cynghorydd W.J. Williams MBE - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, John Byast, W.J. Chorlton,

J.M. Davies, P.J. Dunning, E.G. Davies, J. Arwel Edwards,

Keith Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley,

Mrs. Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones,

H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, A.M. Jones,

R.Ll. Jones, T.H. Jones, Bryan Owen, R.L. Owen, G.O. Parry MBE,

Bob Parry OBE, D.A. Lewis-Roberts, G.W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts, John Roberts, W.T. Roberts, P.S. Rogers, John Rowlands,

Hefin W. Thomas, Keith Thomas, John Williams.

 

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol),

Cyfarwyddwr Cyfreithiol a Gwasanaethau Pwyllgorau/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd),

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RJ),

Robert Burnell (Cyfreithiwr),

Swyddog y Wasg,

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr C.Ll. Everett, G. Allan Roberts, Elwyn Schofield

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Gwilym O. Jones.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Rowlands ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 11.5.5 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Keith Thomas ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.O. Parry MBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ddwy ferch yn yr Adran Gyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghoyrdd R.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Briffyrdd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghoyrdd W.J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylchedd.  Gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb hefyd yn Eitem 10 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tom Jones ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 11.5.4 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 15 y cofnodion hyn ???????????????

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd A.M. Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn Adran Gwasanethau Amgylchedd.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.G. Parry OBE ddatganid o ddiddordeb yn Eitem 15 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

 

Gwnaeth Mr. R. Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 14 y cofnodion hyn, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETH TÂL

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Derrick Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr newydd y Cyngor a oedd yn mynychu cyfarfod o'r Cyngor am y tro cyntaf.  Ar ran yr aelodau a'r swyddogion dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

 

 

Hefyd llongyfarchwyd Mr. Mike Barton, Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) ar gael ei ethol yn Gadeirydd Bwrdd Swyddogion Consortiwm Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  Gynt roedd Mr. Barton yn Is-Gadeirydd ond yn awr roedd yn codi i'r Gadair am gyfnod o ddwy flynedd.

 

 

 

Wedyn llongyfarchwyd Mrs Lisa Fowlie ar gael ei hethol yn Llywydd newydd y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) - y corff proffesiynol mwyaf yn Ewrop i faterion iechyd a diogelwch.

 

 

 

Llongyfarchwyd Kimberley Davies (Wyres i'r Cynghorydd G. O. Parry, MBE) ar ennill cystadleuaeth Prentis y Fwlyddyn Ffederasiwn Peirianneg a Chyflogwyr Cymru (Cymru).  Bellach roedd Mimberley yn brentis yn Aliwminiwm Môn ar ôl astudio am brentisiaeth peirianneg trydanol fodern yng Ngholeg Menai ond trwy gymorth Hyfforddiant Môn.

 

 

 

Enillodd Aled Williams, gwr ifanc 24 oed o Landegfan, ac a fu gynt yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, wobr Sgolar Gordon Ramsay am eleni.  Yn y Good Food Show BBC, Birmingham rhoddwyd y wobr iddo a dywedodd Gordon Ramsay "mai ef oedd y cogydd ifanc mwyaf talentog ym Mhrydain".

 

 

 

Yn ddiweddar bu'r Cynghorydd E. Schofield yn yr ysbyty a chyflwynwyd iddo ddymuniadau gorau pawb am adferiad llawn a sydyn.

 

 

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Mrs Nellie Williams a'r teulu, merch Katie Prichard a fu farw'n ddiweddar, sef gwrait y diweddar Henadur John Pritchard a fu'n aelod o Gyngor Sir Ynys Môn o 1970 -1973 ac yna o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn o 1973 - 1996.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedyn achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gydag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff a gafodd brofedigaeth yn ddiweddar.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

 

 

---------------------------------------------------------------------------------------

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd - Bod drws ffrynt Swyddfeydd y Cyngor yn peri pryderon oherwydd ystyriaethau Iechyd a Diogelwch, goblygiadau diogelwch, colli gwres a hynny'n gwastraffu tannwydd, a pheryglon hefyd y ceid llifogydd ar y llawr isaf yn ystod tywydd mawr iawn.

 

 

 

I bwrpas datrus y problemau hyn roedd bwriad i ddarparu estyniad ar ffrynt yr adeilad ac roedd cais wedi ei baratoi i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  

 

 

 

Ond cyn symud ymlaen gyda'r cynllun eglurodd yr Arweinydd bod angen cychwyn y broses prynu ac ynddi elfen dylunio ac adeiladu a bod angen llunio rhestr fer o 3 chontractwr addas a wedyn dechrau ar y gwaith.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd - cadarnhawyd a llofnodwyd - cofnodion y Cyngor Sir a gafwyd ar y dyddiadau fel a

 

ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

19 Medi, 2006

 

 

 

Yn Codi -

 

 

 

1. Eitem 3 - Cofnodion

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y Cadeirydd wedi gwneud datganiad yn y cyfarfod uchod na châi aelodau godi cwestiwn ar y cofnodion ac eithrio ar gywirdeb a chredai ef dylid fod wedi cofnodi'r datganiad hwnnw yn y cofnodion.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gweithredu yn ôl y Cyfansoddiad.

 

 

 

Ond daliai'r Cynghorydd A. M. Jones y dylid fod wedi cofnodi'r mater fel mater yr oedd ef wedi ei godi y diwrnod hwnnw.

 

 

 

Cytunodd y Cadeirydd i ddiwygio'r cofnod i adlewyrchu hyn (Ond dywedodd rhai o'r Aelodau fod y cofnod dan sylw yn y fersiwn Gymraeg o'r cofnodion ond iddo gael ei adael allan trwy amryfusedd o'r fersiwn Saesneg).

 

 

 

2. Eitem 4.34 - Cofnodion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a gafwyd ar 31 Awst, 2006

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd A. M. Jones at cofnod ".........."

 

 

 

Ni chredai ef fod y cofnod yn gywir gan mai y cwestiwn a ofynodd ef oedd - a oedd gan Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini yr hawl i rwystro y broses o gyflwyno gwybodaeth i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini.  Wedyn roedd wedi gofyn i'r Swyddog Monitro ymateb yn ysgrifenedig i'r holl aelodau cyn gynted ac yr oedd hynny'n bosib ond nid oedd wedi derbyn ateb ynghylch hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ond dehongliad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ar y pryd oedd fod y Cyghorydd wedi gofyn iddi yrru llythyr at yr holl aelodau yn cynghori ar y weithdrefn cwestiynau ac atebion ac y cyfeiriwyd ati yn y cofnod.  Ar y perwyl hwn gyrrwyd llythyr allan ar 19 Hydref.  Os oedd wedi ymateb i'r cwestiwn anghywir gofynnodd pam fod y Cynghorydd wedi gohirio codi'r mater tan rwan ?

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd A. M. Jones nad oedd y Swyddog Monitro wedi deallt yr hyn y gofynnodd amdano ac y buasai yn croesawu ateb cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

 

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd awgrymodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ei bod yn ymateb rwan a chytunwyd iddi wneud hynny.  Os oedd aelod yn dymuno rhoi eitem gerbron y Pwyllgor Sgriwtini i'w drafod dywedodd mai'r drefn oedd cyflwyno'r cais yn ysgrifenedig i'r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Wedyn roedd hi'n ddyletswydd ar y Rheolwr-gyfarwyddwr i roddi'r eitem ar agenda cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Sgriwtini.  Nid yw'r hawl gan Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw i rwystro rhoddi eitem ar y rhaglen ac unwaith mae eitem ar rhaglen mater i'r Pwyllgor, trwy bleidlais mwyafrifol cyffredin, oedd penderfynu ei chynnwys yn rhaglen waith y Pwyllgor neu benderfynu a oedd am drafod y mater o gwbl.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd A. M. Jones iddi am yr eglurhad.

 

 

 

Eitem 4.25.  Cofnodion y Prif Bwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2006 - Trwyddedu Marchnadoedd ac Arwerthiannau Cist Ceir.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. O. Parry MBE bod 6 mis wedi mynd heibio ers iddo ofyn am adroddiad gan y Deilydd Portffolio/yr Adran ar y sefyllfa diweddaraf.

 

 

 

Gwnaeth y Cadeirydd  nodyn o'r sylwadau a gofynnodd am ddelio gyda'r mater.

 

 

 

Ÿ

31 Hydref, 2006 (Arbennig)

 

 

 

4

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - GWERTHUSIAD O GYMERIAD ARDAL GADWRAETH BIWMARES

 

 

 

Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 30 Hydref, 2006 wedi penderfynu “cymeradwyo’r adroddiad uchod ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol.”

 

 

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth - gopi o’r adroddiad fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Hydref, 2006.

 

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

5

DATGANID O BOLISI GAMBLO

 

 

 

Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd, 2006 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

 

 

“(a) Ei fod yn cymeradwyo’r drafft terfynol o’r Datganiad o Bolisi Gamblo.

 

 

 

(b) Ei fod yn cymeradwyo dirprwyo’r swyddogaethau y manylir arnynt yn Atodiad B y drafft                   terfynol o’r Datganiad o Bolisi Gamblo.

 

 

 

(c) Ei fod yn cymeradwyo dirprwyo’r grym i awdurdodi diwygiadau ymarferol perthnasol i Atodiad         C i E o’r drafft terfynol o’r Datganiad o Bolisi Gamblo i’r Pennaeth Gwasanaeth -       Gwasanaethau Amgylcheddol mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio dros Drosedd ac       Anhrefn, Gwarchod y Cyhoedd a’r Amgylchedd.”

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol).

 

(Anfonwyd copi eisoes at yr Aelodau fel rhan o’r papurau hynny a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Tachwedd, 2006)

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith yn yr achos hyn.

 

 

 

6

NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD

 

 

 

(A) DEDDF GAMBLO 2005

 

 

 

a) Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd, 2006 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

 

 

“Bod y Cyngor yn dirprwyo ei swyddogaethau dan Adran 212 Deddf Hapchwarae 2005 i’r Pwyllgor Gwaith fel yn Paragraff 3.2 yr adroddiad. (Penderfynu ar ffioedd)

 

 

 

Mabwysiadu’r newidiadau a ganlyn i’r Cyfansoddiad :-

 

 

 

yn 3.4.10 ar dudalen 47A, ychwanegu’r geiriau “a Deddf Hapchwarae 2005” i 3.4.10.1, a

 

 

 

drwy ychwanegu Deddf Hapchwarae 2005 at yr Atodiad sydd yn ymddangos ar dudalennau 83 i 86 y Cyfansoddiad ac y cyfeirir ato yn 3.5.3.16 o dan y ddirprwyaeth i’r Pennaeth Gwasanaeth - Gwasanaethau Amgylcheddol ar dudalen 67.”

 

 

 

b) Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro.

 

(Anfonwyd copi eisoes at yr holl Aelodau fel rhan o’r papurau hynny a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Tachwedd, 2006).

 

 

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith yn yr achos hyn.

 

      

 

     (B)  MATERION AMGYLCHEDDOL

 

      

 

     a) Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr, 2006 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

      

 

     “Ei fod yn mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel  y nodir hynny ym mharagraffau 1 a 2 yr adroddiad.”

 

      

 

     b) Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

 

     (Anfonwyd copi eisoes at yr holl Aelodau fel rhan o’r papurau hynny a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Rhagfyr, 2006).

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo y newidiadau i’r Cyfansoddiad fel a nodwyd yn paragraffau 1 a 3 o’r adroddiad.

 

      

 

7

CYNLLUN IAITH GYMRAEG

 

      

 

     a) Adroddwyd - bod y Pwyllgor Trosolwg Polisi Datblygu, Gwasanaethau Sylfaenol ac Adnoddau yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd, 2006, wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “derbyn yr adroddiad a’r newidiadau a argymhellwyd yn y Polisi Iaith.”

 

      

 

     b) Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr, 2006, wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

      

 

     “Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg Datblygu.”

 

      

 

     c) Cyflwynwyd - Addroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi).

 

     (Anfonwyd copi eisoes at yr holl Aelodau fel rhan o’r papurau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 4 Rhagfyr).

 

      

 

     PENDERFYNWYD ?????????????????????????????/

 

      

 

8

PANEL/PWYLLGOR ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol).

 

      

 

     Adroddwyd - dan y cytundeb ‘Statws Sengl’ i weithwyr llywodraeth leol, sef y rheini a gyflogir yn ôl telerau ac amdau y ‘Llyfr Gwyrdd’, disgwylir y bydd y Cyngor yn cytuno ar strwythur tâl a graddfeydd unedig i’r holl staff hynny erbyn 1 Ebrill 2007.  Ers rhai blynyddoedd bu’r awdurdod yn gweithio ar arfarnu swyddi gyda’r nod o fodloni’r gofynion uchod.

 

      

 

     Mae pryder yn genedlaethol, ar ôl datblygiadau mewn mannau eraill, y gall grwpiau o weithwyr mewn llywodraeth leo gyflwyno hawliadau dan ddeddfwriaeth tâl cyfartal.  Bydd canlyniadau yr hawliadau hyn yn gorgyffwrdd gyda materion sy’n codi o’r arolwg statws sengl.

 

      

 

     Yn araf iawn y bu’r cynnydd gyda’r materion hyn ond bellach rydym yn cyrraedd pen y daith a’r disgwyl yw y bydd yr awdurdod, gyda hyn, yn barod i fynd i drafodaethau gyda’r Undebau Llafur a bydd raid gwneud penderfyniadau.  

 

      

 

     Mae deddfwriaeth llywodraeth leol yn gwahardd Pwyllgor Gwaith rhag gwneud penderfyniadau ar dâl ac amodau y gweithwyr.  Hon yw’r sefyllfa oherwydd tybio bod gweithlu’r Cyngor yn atebol i’r Cyngor fel corff, nid i’r Pwyllgor Gwaith yn unig.

 

      

 

     Dan Gyfansoddiad y Cyngor dirprwyir cyfrifoldeb am dâl ac amodau Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth i’r Panel Penodi - y Rheolwr Gyfarwyddwr sy’n gyfrifol am y staff eraill.  I bwrpas yr arolwg presennol ar dâl a graddfeydd i bob rheng o’r staff buasai’n fanteisiol pe gellid sefydlu un ffocws i’r broses o wneud penderfyniadau.

 

      

 

     Mae gwir angen agor trafodaethau gyda’r Undebau Llafur ar y strwythurau newydd i dâl a graddfeydd yn sgil arfarnu swyddi.  Ond mae peth gwaith paratoi eisoes wedi ei wneud gan gynnwys Panel tasg a gorffen a sefydlwyd gan yr Arweinydd (heb bwer i weithredu).

 

      

 

     Mae’n bosib (er efallai nad yw’n gwbl ddymunol) y bydd yr awdurdod angen gwneud penderfyniadau amodol yng nghyswllt tâl a graddfeydd.  Hefyd mae’n bosib y bydd angen i’r awdurdod fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau ar hawliadau a gyflwynir gan weithwyr.  Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell fod y Cyngor yn sefydlu panel gyda phwerau i weithredu ac awdurdod i benderfynu ar :-

 

      

 

Ÿ

safiad trafod yng nghyswllt a thermau tâl, graddfeydd ac amodau gwasanaeth sy’n cale effaith ar yr holl staff ac eithrio Pennaeth Gwasanaeth Tâl ac athrawon;

 

 

 

Ÿ

ar setlo unrhyw hawliadau yng nghyswllt y materion hyn;

 

 

 

Ÿ

i bwrpas osgoi unrhyw amheuaeth, bydd hyn yn cynnwys penderfyniadau amodol ar un neu’r ddau o’r materion uchod.

 

      

 

     Bydd raid sicrhau cydbwysedd gwleidyddol ar y Panel ac awgrymwyd y panel gyda’r aelodaeth a ganlyn :-

 

      

 

      

 

     Môn Ymlaen          2

 

     Plaid Cymru          1

 

     Annibynnol Gwreiddiol     1

 

     Partneriaid Cadwyn          1

 

     Radical Annibynnol          1

 

     Cyfanswm               6

 

      

 

     Bydd y Panel yn dilyn y rheolau gweithdrefn yn y Cyfansoddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Sefydlu Panel gyda’r pwerau a’r aelodaeth a amlinellir uchod.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i'r Grwpiau Gwleidyddol gyflwyno i swyddogion enwau eu cynrychiolwyr

 

 

 

 

 

9

POLISI YMDDEOL YN GYNNAR/DISWYDDIAD Y CYNGOR

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) a’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol).

 

     (Anfonwyd copi eisoes at yr holl Aelodau fel rhan o’r papurau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 11 Rhagfyr, 2006).

 

      

 

     (Gan fod Cynghorwyr O. Glyn Jones, R. Ll. Hughes a K. Thomas â perthnasau yn gweithio i'r Cyngor nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem).

 

 

 

     Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr, 2006 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir i dderbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

10

RHYBUDD O GYNIGIAD YN UNOL Â PHARAGRAFF 4.1.13.1 Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     Adroddwyd - bod Arweinydd y Cyngor yn cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad isod :-

 

      

 

     “Bod y Cyngor yn sefydlu Panel o aelodau etholedig i gasglu ac asesu’r holl ddogfennau sy’n berthnasol i Adran 5 Adroddiad er Budd y Cyhoedd yr Archwilydd dyddiedig Ebrill 1998 a dod ag adroddiad i’r Cyngor llawn gydag unrhyw argymhellion ar gyfer camau pellach.

 

      

 

     Cafwyd cyngor cyfreithiol manwl gan y Swyddog Monitro ac argymhelliad bod yr aelodau yn pleidleisio yn erbyn y cynnig trwy bleidlais wedi ei chofnodi.

 

      

 

     Dan Reol 18.5 y Cyngor cytunwyd i gofnodi'r bleidlais.  

 

      

 

     Dyma fel y bu'r bleidlais :-

 

 

 

     (1) Dros y Rhybudd o Gynnig -

 

     Y Cynghorwyr J. Byast, E.G. Davies, J.A. Edwards, P.M. Fowlie, D. Hadley, Ff. M. Hughes,

 

     R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, G.O. Jones, O. Glyn Jones, B. Owen, R.L. Owen,

 

     R.G. Parry OBE, G.W. Roberts OBE, J. A. Roberts, P.S. Rogers, W.T. Roberts,

 

     K. Thomas, W.J. Williams MBE

 

     CYFANSWM 19

 

      

 

      

 

      

 

     (2) Yn erbyn y Rhybudd o Gynnig

 

     Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, J.M. Davies, P.J. Dunning, K. Evans, D.R. Hughes,

 

     A. Morris Jones, H.E. Jones, R.Ll. Jones, Tom Jones, G.O. Parry MBE, J. Roberts,

 

     J. Rowlands, H.W. Thomas, J. Williams.

 

     CYFANSWM 14

 

      

 

     (3) Atal ei Pleidlais

 

     Y Cynghorwyr J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Felly cafodd y cynnig ei gario.

 

      

 

11

CWESTIYNAU A DDERBYNIWYD YN UNOL Â RHEOL 4.1.12.4

 

      

 

11.1     Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd R.Ll. Jones :-

 

      

 

     1.  I ARWEINYDD Y CYNGOR - Beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â record absenoldeb gwaeledd aelodau o'r staff a'r cynnydd neu'r diffyg cynnydd i gyflawni'r amcanion a nodir yn adroddiad y Grwp Tasg a Gorffen ar Absenoldeb Salwch dyddiedig Ebrill 2004 gyda chyfeiriad arbennig at yr angen i reolwyr llinell a goruchwylwyr uniongyrchol gymryd rôl allweddol yn hyn o beth.  Pa mor dda ydy ein perfformiad ni o gymharu gyda diwydiant ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru?

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd "bod hwn yn fater a fu ar agenda y Pwyllgor Gwaith, lefelau gwaeledd a'r sefyllfa'n gyffredinol a'r trefniadau lles y tu mewn i'r Cyngor Sir, roedd y pethau yma yn peri pryder i ni.  Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y Pwyllgor Gwaith dros y misoedd diwethaf ac mae rhan o'ch cwestiwn yn gofyn a ydyw gwaith y Grwp Tasg a Gorffen wedi'i wneud ai peidio.  Mewn ymateb gallaf ddweud fy mod yn hapus bod pethau yn eu llefydd.  Fel Arweinydd gofynnais i Price Waterhouse Coopers baratoi adroddiad annibynnol ar y sefyllfa a rhoi ffigyrau cliriach i ni ac y dylai'r Cyngor lynu wrth y trefniadau sydd ganddo.  Mae hwn yn faes risg uchel i'r Cyngor Sir ac mae'n bwysig fod gennym system yn ei lle i helpu gweithwyr sydd adref ac eisiau help ac yn y cyswllt hwn bydd y nyrs alwedigaethol yn gymorth.  Yn ôl adroddiadau cenedlaethol mae lefelau gwaeledd yn uwch mewn awdurdodau lleol nag yn y sector preifat.  Mi gewch chi gopi o adroddiad yr Archwilwyr, Cynghorydd Jones, pan gyhoeddir yr adroddiad ac mae'r holl ffeithiau a'r dyddiadau ynddo.  Mae'r lefelau yn is a gallaf ddweud fod y swyddogion wedi gweithio hefo ni ar y mater.  Diolch i chwi."

 

 

 

     Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn atodol hwn gan y Cynghorydd R Ll Jones:-

 

 

 

"Buaswn yn gwerthfawrogi copi o'r adroddiad.  Yn adroddiad 2004 mae 9 o argymhellion yn cael sylw a'r argymhelliad olaf yw'r Grwp Tasg a Gorffen ac y dylid ei alw unwaith eto ar yr adeg briodol i adolygu effaith y cynigion y bydd y Pwyllgor Gwaith yn eu mabwysiadu ar ôl derbyn yr adroddiad hwn.  A dwi'n siwr y byddwch chwi'n gwneud hynny?"

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd "Unwaith y bydd yr adroddiad i law byddwn yn galw cyfarfod o'r Panel i fynd drwyddo gyda ni a swyddogion."

 

 

 

2.  I'R AELOD PORTFFOLIO TAI - Beth, yn ei farn o, ydy prif fanteision strategaeth i ddal gafael yn stoc dai'r Cyngor ac a fedr o ddweud wrthym beth fydd y camau nesaf yn y broses a'r goblygiadau ariannol i'r Cyngor?  Hoffai ein grwp ni longyfarch yr Adran Dai am y gwasanaeth ardderchog y maent yn ei roddi - ymysg y gorau yng Nghymru - a chofnodi bod hyn yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo ac yn enghraifft o'r hyn y gall gweithlu ymroddgar ei gyflawni.  Cynigir y dylid anfon llythyr i'r Tîm Rheoli yn eu llongyfarch nhw a'r staff ar eu perfformiad ardderchog.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio (WJC) ei fod "Fel Deilydd Portffolio Tai yn falch iawn o fedru sefyll ar fy nhraed o'ch blaen a dweud bod Cyngor Sir Ynys Môn mewn sefyllfa i gadw'r stoc dai a chyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.  Rhaid i mi ddiolch bod yr Awdurdod hwn a'r Cyngor Bwrdeistref wedi buddsoddi'n ddoeth ac yn gyson yn y stoc dai dros y blynyddoedd.  Dwi'n siwr y bydd pob aelod yn gytûn ar yr egwyddorion yn Safon Ansawdd Tai Cymru i bwrpas gwella tai pobl yr Ynys.  Wrth gadw gafael ar y tai bydd modd i ni osgoi strach i'n tenantiaid a hefyd i staff y Cyngor.  Fel Deilydd Portffolio, rydwyf yn ymrwymo i weithio gyda'r Cyfarwyddwr, y Pennaeth Gwasanaeth a'i dîm er mwyn gwella'r gwasanaeth a chodi safon ein tai.  Gan ddilyn disgwyliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru, byddwn yn ymgynghori gyda'n tenantiaid dros yr wythnosau nesaf ynghylch y cynigion hyn, a byddwn yn cyflwyno Cynllun Busnes ymarferol ar Stoc Dai'r Cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

 

 

Yn gyffredinol iawn,bydd angen tua £184m o arian i gyrraedd safon Ansawdd Tai Cymru a chynnal y safon honno dros gyfnod y Cynllun Busnes ac mae'r cyfnod hwnnw o gwmpas 30 mlynedd.  Yn ddiweddar ysgrifennodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at bob aelod yn egluro'r sefyllfa ac yn cyfeirio at adroddiad ar y cyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 20/11/2006 - gan y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ond gyda ffigyrau mor fawr a chyfnod mor hir gall sawl peth ddylanwadu ar y canlyniadau yn y pen draw.  Felly gofynnaf i bwy bynnag sydd heb ddarllen yr adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud hynny a gwerthfawrogi faint o waith sy'n ein hwynebu."

 

 

 

     Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd R Ll Jones:-

 

 

 

"Fel y Cynghorydd a gynigiodd bod pob ty cyngor ym Môn yn cael gwres canolog, rhyw 5-6 blynedd yn ôl, aethpwyd ati i neilltuo £1m ym mhob cyllideb er mwyn cyflawni'r nod hwn a chredaf bod y tenantiaid yn Ynys Môn wedi bod yn ddiolchgar iawn am y polisi blaengar hwnnw oedd gennym ar y pryd.

 

 

 

3.  I'R AELOD PORTFFOLIO ADDYSG - Yn wyneb y gostyngiad yn nifer y disgyblion yn ein hysgolion, sut mae pethau arni o safbwynt yr adolygiad ysgolion ac fedr o ddweud wrthym a fyddwn yn colli un o'n hysgolion uwchradd ac os byddwn, pa ysgol fydd hi?

 

 

 

Cafwyd yr ymateb a ganlyn gan y Deilydd Portffolio (JMD) :-

 

 

 

"Mae pethau wedi datblygu cryn dipyn ers cyflwyno'r cwestiwn hwn.  Yn y cyfamser cafwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a chyflwynwyd i'r Pwyllgor hwnnw adroddiad y Gweithgor.  Rwan bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei grynhoi a'i gyhoeddi fel dogfen i ymgynghori arni yn y Flwyddyn Newydd.  Ynddi bydd nifer o bosibiliadau a byddant ar gael i'w trafod gyda'r Cyngor, Llywodraethwyr, athrawon a phawb arall sy'n ymwneud ag addysg ar yr Ynys.  Mawr obeithiwn y ceir trafodaeth agored a phawb yn fodlon rhoi ei amgylchiadau personol ei hun o'r neilltu a gweithio tua'r nod o gael y ddarpariaeth orau bosib i bobl yr Ynys.  Bydd hyn yn digwydd yn y sector cynradd lle mae cryn dipyn o leoedd gweigion yn y rhan fwyaf o'r ysgolion.  Nid oes bwriad i gau yr un Ysgol Uwchradd ar yr Ynys ar hyn o bryd.

 

 

 

     Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd R Ll Jones:-

 

 

 

"Fel y dywedwch cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn y cyfarfod o'r Pwyllgor ac rydwyf yn hapus gyda'r ateb".

 

 

 

4.  I'R AELOD PORFFOLIO HAMDDEN - Pa fesurau a gymerwyd i leihau ar y defnydd a wneir o ynni yn ein Canolfannau Hamdden ac a oes modd cael y ffigyrau am y pum mlynedd diwethaf er mwyn gweld a ydym yn llwyddo i gwrdd â'n nod o ostwng biliau ynni ar draws holl Wasanaethau'r Gyngor?

 

 

 

Cafwyd yr ymateb a ganlyn gan y Deilydd Portffolio (DRH):-

 

 

 

"Dwi'n credu bod Rheolwyr a Swyddogion bob amser yn ceisio, a hefyd yn llwyddo, i ddefnyddio llai a llai o danwydd yn ein canolfannau hamdden.  Sefydlwyd Panel i edrych ar y mater.  Un dylanwad o bwys yw oed a chyflwr ein canolfannau.  Ond hefyd rhaid cydnabod wrth gwrs bod cyfyngiadau cyllidol ar y gwasanaeth.  Medrwn gyflwyno sawl enghraifft o'r hyn yr ydym wedi'i wneud, megis haneru'r defnydd o'r llifoleuadau a gostwng y tymheredd yn y pyllau nofio i lefel ddiogel.  Hefyd mae gennym gynlluniau ar gyfer y dyfodol - synhwyryddion goleuni, awyrellu, bwyleri dwr poeth etc.  

 

 

 

Mae'r ystadegau ar gael ac mae croeso i'r Cynghorydd dderbyn copi o'r ystadegau ynghylch defnyddio tanwydd."

 

 

 

     Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd R Ll Jones:-

 

 

 

"Y mis diwethaf bûm mewn cyfarfod yng Nghaerdydd yn ymwneud â hamdden lle roedd pwyslais ar wneud defnydd effeithiol o adnoddau yn y maes hamdden, ond pwysleisiwyd hefyd bod angen cadw hamdden fel rhan bwysig o bortffolio pob Cyngor, gan mai hamdden yw'r maes sydd dan fygythiad pryd bynnag y daw'n adeg o gwtogi.  Mae gennym ddigon o broblemau'n barod, yn yr ardaloedd trefol a gwledig, gyda phobl ifanc heb ddim byd i fynd â'u bryd."

 

 

 

5.  I'R PERSON A ENWEBWYD I WASANAETHU AR AWDURDOD HEDDLU GOGLEDD CYMRU - Beth yw'r sefyllfa bresennol ynghylch nifer yr Heddweision sy'n gweithio ar Ynys Môn - a yw'r ffigwr wedi cynyddu neu wedi lleihau a faint y mae'r Awdurdod yn ei wario fesul pen y boblogaeth ym Môn ac eithrio'r swyddogion ym Mhorthladd Caergybi - a beth ydy'r sefyllfa ynghylch dyfodol swyddogion yr Heddlu Arbennig yng Nghaergybi, ydy eu swyddi yn saff?

 

 

 

Eglurwyd i'r Cyngor fel a ganlyn gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro:  "Mae'r cwestiwn yn cael ei ofyn i'r Cynghorydd H E Jones am mai ef yw cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod yr Heddlu - nid yn ei swyddogaeth fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith.  Dan y rheolau nid oes cyfle i ofyn cwestiynau fel yr un hwn, cwestiynau pen agored i aelodau o'r Awdurdod Heddlu.  Ond mae darpariaeth sy'n caniatau cwestiynau os oes adroddiad gerbron y Cyngor llawn ar yr Awdurdod Heddlu a than yr amgylchiadau hynny gellir gofyn unrhyw nifer o gwestiynau, ond nid oes darpariaeth ar gyfer y cwestiynau hyn, er eu bod yn mynd i gael eu hateb.  Gan mai cwestiynau ffeithiol yw'r rhain gall yr Aelodau ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid i Wybodaeth a chysylltu'n uniongyrchol gydag Awdurdod Gogledd Cymru am wybodaeth o'r fath."

 

   

 

     Cafwyd yr ymateb hwn gan y Cynghorydd H Eifion Jones:-

 

 

 

"Roedd cyfanswm y staff ym Môn ym mlwyddyn ariannol 2001/2002 yn 88.  Am y flwyddyn ariannol hon mae cyfanswm y staff yn Ynys Môn yn 96.  Hefyd mae yma chwe Swyddog sy'n darparu Cymorth Cymunedol i'r Heddlu ac mae'n debyg y bydd yn codi i 15 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Yn y flwyddyn ariannol hon amcangyfrifir bod y gwariant am bob pen o'r boblogaeth ym Môn yn £100.40c plws Costau Canolog.  Nid yw hyn yn cynnwys swyddogion ym Mhorthladd Caergybi.

 

 

 

Nid yw'r Heddlu yn trafod manylion atal terfysgaeth yn gyhoeddus ond mae'r grant sy'n dod o'r Swyddfa Gartref, sef y Grant Sengl Atal Terfysgaeth, yn cynnwys heddlu yn y porthladdoedd.  Yn y flwyddyn ariannol hon roedd y cyfanswm yn £3.692 miliwn.  Ond mae ansicrwydd ynghylch cyllid yn y maes hwn ac ni chafwyd cyhoeddiad eto ar grant y flwyddyn ariannol nesaf.  Mae pob heddwas yn cael sicrwydd swydd ac nid oes modd ei wneud yn ddi-waith.

 

 

 

Yng nghyd-destun sylwadau'r Swyddog Monitro, ni fyddaf yn cymryd unrhyw gwestiynau atodol, dim ond rhai ysgrifenedig."

 

      

 

11.2     Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd R.L. Owen :-

 

      

 

     1.  I'R ARWEINYDD - Mae darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid ym Miwmares yn cael ei ostwng o ddwy noson i un noson yr wythnos - Beth yw'r rheswm am y penderfyniad hwn pan mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gynnydd?  Nid oes gan bobl ifanc unrhyw le i fynd gyda'r nos ac mae hyn yn wir am yr holl drefi a phentrefi ar Ynys Môn.  A oes modd edrych eto ar y modd yr ydym yn darparu cyfleusterau ar gyfer ein pobl ifanc.  Mae unrhyw arian sy'n cael ei wario ar Wasanaethau Ieuenctid yn talu ar ei ganfed ac mae gwir angen gwneud hyn nid yn unig ym Miwmares ond ledled ein Hynys.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio (DRH) fel a ganlyn:-

 

 

 

"Rydwyf ar ddeall bod y ddau Swyddog Ieuenctid wedi trafod y maes yma hefo'r Cynghorydd R L Owen.  Sefydlwyd Panel yn cynnwys yr holl bleidiau i gefnogi'r Gwasanaeth Ieuenctid a hynny yn dilyn adroddiad beirniadol gan Estyn a hefyd ceisiwyd rhesymoli'r gwasanaeth, ac mae hwnnw yn cynnwys 40 o glybiau ieuenctid.  Dan y trefniadau newydd roedd 5 prif glwb yn nalgylchoedd ein hysgolion uwchradd a Biwmares yn eu plith.  Cawsom broblemau recriwtio a chadw staff ac yng Nghanolfan Caergybi penodwyd rheolwr newydd.  Oni bai bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi trosglwyddo dau Arweinydd, ni fuasai Biwmares wedi agor ym mis Medi.  Hefyd rydym wedi penderfynu cadw golwg ar y niferoedd sy'n mynychu clybiau ieuenctid.  Ym Miwmares credaf bod llai na 10 yn defnyddio'r clwb ac nid yw hynny'n cyfiawnhau agor y lle am ddwy noson yr wythnos.  Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn ystyried dyfodol clwb Biwmares fel prif glwb yr ardal.  Os ydyw'n peidio â bod yn brif glwb yna dim ond unwaith yr wythnos y bydd ar agor.  Rydym yn derbyn yr ail gymal yn y cwestiwn ac yn edrych ar ddarpariaeth wahanol.  Gwasanaeth i ieuenctid yw hwn ac mae'n golygu mwy na darparu clybiau ieuenctid yn unig".

 

 

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd R L Owen :-

 

      

 

     "Rydwyf yn dal i fod yn bryderus a heb yr arian ni fydd plant yn medru mynychu'r ganolfan."

 

 

 

2.  I'R AELOD PORTFFOLIO PRIFFYRDD, TRAFNIDIAETH AC EIDDO

 

 

 

Yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng yr Adran Briffyrdd, Siambr Fasnach Biwmares a'r Cylch a Siambr Fasnach Porthaethwy i drafod y problemau a gafwyd gyda thraffig ym Mhorthaethwy, a oes modd cael ateb brys ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd i liniaru'r broblem hon?

 

 

 

Mae gyrwyr bysus teithiau pleser yn dweud wrth aelodau'r Siambr Fasnach na fydd modd iddynt efallai ymweld â Biwmares oherwydd y problemau a gânt i fynd drwy Porthaethwy.  Credaf bod nifer o awgrymiadau ynghylch sut i wella'r sefyllfa wedi cael eu cyflwyno i'r Siambr Fasnach ac y gallai oedi pellach gyda'r gwelliannau hyn gael effaith ddifrifol ar nifer y twristiaid a fedr ymweld â'r dref.  Mae Biwmares, fel y gwyddoch, yn dibynnu'n llwybr ar nifer y twristiaid y mae'n eu denu.  Gofynnaf i chi roi sylw brys i'r mater hwn.

 

 

 

Cafwyd yr ateb hwn gan y Deilydd Portffolio (KE):-

 

 

 

"Mi wn yn dda iawn am y cwestiwn hwn gan y Cynghorydd Richard Owen, fel Deilydd Portffolio Priffyrdd a hefyd fel Aelod Lleol i'r rhan honno o Borthaethwy.  Mae Siambr Fasnach Biwmares a Chyngor Tref Biwmares wedi bod yn weithgar iawn yn cyflwyno sylwadau megis y rheini y mae'r Cynghorydd Owen yn eu dyfynnu.  Yn barod maent wedi cysylltu'n bersonol gyda mi, gyda fy Adran, gyda Chyngor Tref Porthaethwy, yr Aelod Seneddol a'r Aelod Cynulliad - a rhoddwyd atebion.  Yn wir mae'r materion wedi cael sylw manwl a hefyd wedi'u cydnabod i'r graddau bod traffig yn cael ei ddal yn ôl ar adegau yng nghanol tref Porthaethwy.  Ond dangosodd arolwg nad yw'r daliadau yn parhau am fwy na 45 eiliad.  Yr unig ateb yn y pen draw ydi ffordd osgoi i Borthaethwy, a hynny trwy ddarparu cyswllt uniongyrchol rhwng Biwmares a ffordd newydd yr A55.  Mae'r Adran yn rhoi sylw i bosibilrwydd o'r fath.  Ond yn y cyfamser rhaid meddwl am berchenogion siopau Porthaethwy a phwrpas cyflwyno parcio am gyfnodau'n unig ar y stryd fawr yw fel hwb i'r busnes yn y dref  a hefyd i bwrpas arafu traffig sy'n llifo trwodd.  Mae llinellau melyn yn mynd i greu problemau i'r unigolion hynny sy'n dymuno picio i'r siopau lleol a byddant yn cyfyngu ar fusnes.  Yn wir mae sylw wedi'i roddi i system unffordd ond gwrthodwyd system o'r fath a hynny oherwydd problemau newydd a allai godi.  Yn fyr, rydym yn cydnabod bod problem yma ond bydd raid gadael pethau fel y maent hyd nes cyflwyno, yn gynnar y flwyddyn nesaf, y ddarpariaeth ar gyfer parcio anhroseddol gan yr Adran - erbyn hynny bydd modd rheoli parcio ar y stryd yn well ar hyd a lled yr Ynys ac yn enwedig mewn mannau anodd megis y strydoedd ym Mhorthaethwy y mae'r aelod yn cyfeirio atynt."

 

 

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd R L Owen:-

 

 

 

"Cefais wybod gan bobl sy'n dreifio bysus, gan aelodau o'r Siambr Fasnach, na fyddant yn medru dod i Biwmares oherwydd y drafferth yng nghanol tref Porthaethwy.  Gallant fyw gyda'r troadau anodd ger y Garth ond y broblem yw'r traffig sy'n symud trwodd pan fo'r bysus mawr hyn yn croesi Biwmares.  Maent yn gofyn am wneud rhywbeth oherwydd bod Biwmares yn gwbl ddibynnol ar dwristiaeth.  Nid oes yna ddiwydiant o fath yn y byd ar hyn o bryd a rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder.  

 

 

 

11.3     Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd R.G. Parry OBE :-

 

 

 

I'R AELOD PORTFFOLIO CYLLID A TECHNOLEG GWYBODAETH

 

 

 

1.  "Beth oedd cyfanswm y costau o gyflogi Ymgynghorwyr i'r Cyngor Sir yn 2005-06 a hefyd beth oedd y costau i bob Adran unigol?"

 

 

 

     Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio (JR) fel a ganlyn:-

 

 

 

"Mae ystyr geiriau megis arbenigwyr ac ymgynghorwyr yn dibynnu ar ddehongliad ac o'r herwydd gall olygu y naill beth neu'r llall i bobl wahanol.  I bwrpas ateb y cwestiwn hwn cymerwn yn ganiataol bod yma gyfeiriad at y bobl hynny sydd ar y gofrestr fel rhai y rhoddwyd tâl iddynt am gyngor, ond efallai nid y rheini sydd yn achlysurol yn cael eu defnyddio i archwilio adeiladau, penseiri etc.

 

 

 

Roedd y cyfanswm am 2005/06 yn £921,349 a dyma'r dadansoddiad fesul adran :-

 

 

 

     Addysg a Hamdden £288,616

 

     Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol £49,433

 

     Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol £305,999

 

     Cyllid £84,902

 

     Rheolwr-gyfarwyddwr £192,399

 

 

 

Wedyn cafwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd R. G. Parry OBE :-

 

 

 

"Pan ystyriwn y problemau sydd ein hwynebu gyda'r gyllideb a fyddwch chi fel Pwyllgor Gwaith yn ceisio gostwng y ffigyrau hyn eleni ?"

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio "y bydd y Pwyllgor Gwaith yn rhoddi sylw i bob posibilrwydd gan gynnwys y pwyntiau a nodwyd yn eich cwestiwn".

 

 

 

2.  “Beth oedd cost cyfreithwyr a barristers allanol i'r Cyngor yn 2005-06?”

 

 

 

Yn ei ymtateb dywedodd y Deilydd Portffolio (JR) fel a ganlyn :-

 

 

 

"Dwi'n siwr y byddwch chi'n cytuno y Cynghorydd Parry fod y bobl hyn yn ddrud iawn i'w cyflogi.  Am 2005/06 roedd cyfanswm costau Cyfreithwyr a Bar Gyfreithwyr allanol yn £212,158".

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd R. G. Parry OBE "fod gan y Cyngor arbenigwyr yn yr Adran Gyfreithiol ac y gallent hwy darparu "cyngor" o'r fath".

 

 

 

Dyma ymateb y Deilydd Portffolio :-

 

 

 

"Mewn ambell faes rhaid i ni gyflogi Cyfreithwyr a Bar Gyfreithwyr arbenigol ond rydwyf yn derbyn eich sylwadau cyffredinol".

 

 

 

11.4          Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd G.O. Parry MBE :-

 

 

 

1.  I'R AELOD PORTFFOLIO ADDYSG

 

 

 

            “ Mae diogelwch ar fysus ysgol yn peri risg sylweddol i'r Cyngor hwn.  Mae'r mater diogelwch yn berthnasol i'r plant a'r sawl sy'n gweithio i'r cwmnïau bysus.

 

 

 

Beth yw'r sefyllfa bresennol ynghylch gosod a defnyddio Camerâu Goruchwylio ar y cerbydau hyn?”

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio (JMD) fel a ganlyn :-

 

 

 

"Sefydlwyd Grwp Tasg a Gorffen i edrych ar yr holl gwestiwn cludiant ysgol ac wrth gwrs mae hwn yn un o'r meysydd y byddant yn ymchwilio iddo.  Yng nghyswllt Camerâu Goruchwylio mae gennym gynllun arbrofol yn rhedeg a bydd y canlyniadau yn bwydo i'r contractau newydd a wneir yn 2008."

 

 

 

Wedyn cafwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-

 

"A oes yna unrhyw rwystr i ni rhag defnyddio'r Camerâu Goruchwylio ?"

 

 

 

Dyma ymateb y Deilydd Portffolio :-

 

 

 

"Mi wn am unrhyw un dim ond eu bod yn ddrud i'w prynu a'u gosod".

 

 

 

2.  I ARWEINYDD Y CYNGOR

 

 

 

“ Bu oedi gyda'r gwaith o ddatblygu'r Marina ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares oherwydd haeriadau gan Bwyllgor Pysgodfeydd y Gogledd-orllewin a Gogledd Cymru neu aelodau ei Fwrdd.  Mae'r her ddiweddaraf wedi codi pryderon ynghylch buddiannau'r corff hwnnw.

 

 

 

Gan fod cyfraniad blynyddol tuag at y Pysgodfeydd yn cael ei wneud yn y dyraniad ariannol blynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a ddylem ni yn awr 'mofyn adolygiad o'r trefniadau ar lefel genedlaethol?

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd "bod hwn yn gwestiwn pwysig i'r Cyngor ar ôl disgwyl mor hir am y Marina yn Biwmares.  Gallaf sicrhau'r Cynghorydd Parry fy mod yn cytuno 100% ac ni chredaf fod y corff yn chwarae'r gem yn deg gydag Ynys Môn.  Rydwyf wedi cael cyfarfod gyda'i Brif Weithredwr a'i Cadeirydd a chyflwynais iddo fy marn fel Arweinydd ar y mater a godwch yn ei cwestiwn.  O Gaerdydd cefais yr ateb fod y Cynulliad yn edrych ar strwythur newydd a fydd yn cynnig dull unffurf o reoli i'r cyfan o Gymru yn lle yr hen system.  Bydd y cyfnod ymgynghori 12 wythnos gyda'r holl gydranddeiliaid allweddol gan gynnwys y Pwyllgorau Pysgodfeydd presennol a'r Awdurdodau Lleol hynny sy'n aelodau ar y Pwyllgor.  Cyfyd y cwestiwn - a ydynt yn defnyddio ein harian yn y pen draw i rwystro datblygiad y Marina ?"

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE "fod aelodau'r Cyngor Sir, pan fyddant yn mynychu cyfarfodydd y corff hwn, yn gorfod datgan diddordeb a pheidio â chymryd rhan yn y trafodaeth.  Ond mae'r cwmnïau hynny sy'n gweithio yn ardal y pysgodfeydd yn medru trafod a phleidleisio a hynny yn rhoddi iddynt fantais a hynny'n annheg i ni".

 

 

 

 

 

3.  I'R AELOD PORTFFOLIO PRIFFYRDD, TRAFNIDIAETH AC EIDDO

 

 

 

“ Mae'r A55 yn ffordd Ewropeaidd bwysig.  Prif ddefnyddwyr y ffordd ydy gyrwyr Cerbydau/Lorïau Nwyddau Trymion.  Mae rheoliadau llym yn eu lle i sicrhau bod gyrwyr yn cael cyfnodau digonol o orffwys ac yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau Tacograph.  Defnyddir cilfannau fel llefydd gorffwys/parcio.  Ar yr adegau prysuraf, mae cerbydau'n parcio ar yr ymylon glaswelltog sy'n arwain at neu sydd yn ymyl cilfannau.

 

 

 

A fyddai modd i'r Cyngor hwn ofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru wella cyfleusterau ar gyfer parcio yn ystod cyfnodau gorffwys a darparu cyfleusterau priodol ar gyfer gyrwyr lorïau?”

 

 

 

Dyma ymateb y Deilydd Portffolio (KE) -

 

 

 

"Mae'r Cynghorydd Goronwy Parry wedi codi cwestiwn perthnasol ac rydwyf yn berffaith fodlon cynnig ateb sydd efallai yn ddiddorol.  Rydwyf ar ddeall fod trafodaethau yn digwydd rhwng fy Adran a'r Cynulliad ynghylch y broblem a gododd yr aelod a honno'n broblem y mae'n rhaid ei ddatrys.  Mae camau go bendant yn cael eu hystyried i greu safle gorffwyso i yrwyr lorïau ar deithiau maith a hynny mewn lle canolog yn Ynys Môn ger ffordd newydd yr A55.  Ni allaf ddatgelu unrhyw fanylion ar hyn o bryd gan fod y trafodaethau'n parhau.  Ond gallaf ddweud y bydd ar safle o'r fath le i 50 o lorïau gyda gwasanaethau megis lluniaeth a thoiledau.  Rhagwelir y bydd y cyllid i'r safle a'r ffordd gyswllt yn dod o goffau'r Cynulliad ac mae'n debyg y bydd fy Adran i yn rheoli'r lle, yn cyflwyno taliadau priodol i gwrdd â'r costau, ac efallai yn wir i wneud y fenter yn proffidiol.  Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynghorydd Parry a hefyd i'r Aelod Lleol y bydd y safle, pan ddaw, yn ei ward. "

 

 

 

Wedyn dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE "Rydwyf yn diolch i'r Deilydd POrtffolio am ei ateb a nododd ef na chafodd cyfleusterau toiled na chyfleusterau eraill i yrwyr lorïau eu darparu yn y llecyn archwilio newydd gen Croeslon Dalar a phan feddyliwch am rhwystredigaeth y gyrwyr hynny sydd megis dechrau ar siwrneiau maith roedd y ddarpariaeth hon dipyn yn hwyr, onid oedd ?"

 

 

 

11.5.......Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd J. Arthur Jones :-

 

 

 

I ARWEINYDD Y CYNGOR

 

 

 

1.  “ Fedr Cynghorydd dderbyn lwfansau tra'n y carchar?”

 

 

 

Ar ran yr Arweinydd cafwyd yr ateb a ganlyn gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro :-

 

 

 

"Mae'r lwfansau hynny sy'n dyladwy i Gynghorwyr yn parhau tra maent mewn swydd.  Nid oes dim yn y rheoliadau i awgrymu na all Cynghorydd fod mewn man penodol; felly pa un a ydynt yn yr ysbyty, mewn carchar neu mewn gwlad dramor maent yn dal i fod â'r hawl i dderbyn lwfans yn yr un modd.  Fodd bynnag, os ydyw Cynghorydd yn cael dedfryd o garchar am 3 mis neu ragor, yna maent yn colli'r hawl, dan y rheolau, yn awtomatig rhag fod yn Gynghorydd am o leiaf 5 mlynedd.  Os ydyw Cynghorydd yn euog o drosedd droseddol, ond yn derbyn dedfryd lai na 3 mis yna bydd y Cynghorydd hwnnw yn parhau i dderbyn lwfans, onid oes a hyd nes y cyflwynir cwyn i'r Ombwdsmon a hwnnw wedyn yn trosglwyddo'r gwyn i'r Panel dedfrydu.  Dan yr amgylchiadau hynny mae'r Panel Dedfrydu â'r hawl i drynu'r hawliau i fod yn Gynghorydd, ond nid yw hynny'n awtomatig, a phetai'n gwneud gall wneud hynny am gyfnod dim hwy na 5 mlynedd.  "

 

 

 

Wedyn cafwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd J. Arthur Jones :-

 

 

 

"Rydwyf yn falch y glywed ateb gonest.  Hefyd rydwyf yn falch iawn nad yw'r Cyngor wedi ysgeuluso'r unigolyn hwn fel y gwnaed Plaid Cymru.  Mr. Arweinydd, yn gynharach eleni dygodd y Cynghorydd W. I. Hughes sylw'r wasg, y Frenhines a'r Pab a phawb arall at y ffaith fod David Lewis-Roberts i ffwrdd ar wyliau am gyfnod o 7 wythnos.  Nid cyfnod o fisoedd oedd hwn dim ond wythnosau.  Felly a ydyw'r Cynghorydd Wil Hughes wedi dwyn sylw'r Arweinydd at y ffaith fod Cynghorydd Plaid Cymru yn derbyn lwfansau tra fod mewn carchar ? "

 

 

 

Arweinydd - "Dwi ddim mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn yna."

 

 

 

Ar bwynt o drefn dywedodd y Cynghorydd A. Morris Jones dylai unigolyn cael y cyfle i ymateb  i ddatganiadau personol ar ôl iddo gael ei enwi.  

 

 

 

Cytuno gyda'r pwynt hwn a wnaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ac roedd y Cynghorydd Wil Hughes â'r hawl i ymateb i bwrpas cyflwyno eglurhad personol.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. I. Hughes - "Gallaf ddweud yn benodol ac yn blaen wrth y Cynghorydd John Arthur Jones na thynais sylw'r was at unrhyw un.  Y wasg a'n ffoniodd i a gofyn i mi.  Roedd y wybodaethaeth, beth bynnag, ar wefan y Cyngor ac ar gael i bawb.  Yn fano cafodd y wasg y wybodaeth.  "

 

 

 

2.  “ Fedr Aelodau ddefnyddio peiriannau llun-gopïo'r Cyngor at eu defnydd personol (heb gysylltiad gyda'u rôl fel Cynghorwyr) neu er mantais neu i bwrpas gwleidyddol?”

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd "Cyn defnyddio peiriannau ffotocopïo mae'n rhaid cael caniatâd y Rheolwr-gyfarwyddwr".

 

 

 

Wedyn cafwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd J. A. Jones :-  "Rhaid i ni fod yn agored ac yn droloyw.  Gofynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, Arwel Edwards a Fflur Hughes am ganiatâd i ddefnyddio'r peiriant ffotocopïo ym mharlwr yr aelodau i bwrpas copïo pethau sy'n cael eu dosbarthu yn y Gaerwen.  Ydi hynny'n wir ?"

 

 

 

Dyma ymateb y Cynghorydd E. G. Davies - "Unwaith eto y buasai'n well i chi wrando mwy a siarad llai a wedyn efallai y byddwch yn dysgu rhyw ychydig.  Gan fod Cynghorydd mewn carchar fel a dywedwyd, roeddem yn teimlo na ddylid amddifadu preswylwyr Llanfihangel Esceifiog o Gynghorydd i gysylltu ac ef petai angen, ac felly y printiais daflen.  Mi brydais y papur a mae gennyf derbyneb i brofi hynny.   Peidiwch â meddwl mae fy ffrindiau yma a wnaeth hynny, fi wnaeth hynny a rhannu papurau ac roedd croeso cynnes iddynt.  Yn wir roedd pobl yn falch ein bod yn meddwl amdanynt ond ni wnaeth hynny ac ni ofynais am gymorth neb.  Mi welodd y Cynghorydd John Arthur Jones fi yn torri'r papurau a dyna lle ddechreuodd hyn.  "

 

 

 

Cadeirydd - "Mae hyna'n ddigon am rwan".

 

 

 

3.  “Yn ystod y cyfnod yn arwain at baratoi cyllideb y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn nesaf, ydy Ieuan Wyn Jones wedi cynorthwyo/trafod/cynghori neu roi gwybod i'r Cyngor hwn am ei ddyraniad cyllidebol truenus o wael?”

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd - "Teimlaf bod y setliad i Ynys Môn yn un drwg.  Mi gafodd Ieuan Wyn Jones un cyfarfod hefo David Elis-Williams, un hefo Derrick Jones ac un hefo fi ac un arall wedyn hefo David Elis Williams.  Rydwyf wedi gyrru dau lythyr at Ieuan Wyn Jones er mwyn trio codi'r ffigwr o 3% a roddwyd i Ynys Môn yn y setliad, sef y ffigwr lleiaf trwy Gymru i gyd.  Hon yw'r her fwyaf sy'n ein wynebu.  Aeth dau o lythyrau allan ond ni chefais ateb.  Rydym yn dal i ddisgwyl am ffigwr y setliad terfynol gan y Cynulliad".

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Rydwyf yn gofyn i'r Arweinydd a'r Rheolwr-gyfarwyddwr - ydyn nhw am ysgrifennu at Ieuan Wyn Jones yn dweud bod y Cyngor hwn eisiau iddo ddod yma unwaith y mis fel bod modd i ni ddweud wrtho am flaenoriaethau pobl Ynys Môn."

 

 

 

Dyma ymateb yr Arweinydd - "I fod yn deg rydym yn cael cyfarfod misol rhwng Derrick Jones, finnau ac Ieuan Wyn Jones".

 

 

 

4.  “Yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, cefnogodd y Cynghorwyr R. L. Owen ac Aled M. Jones, yn groes i argymhelliad y swyddogion, gais cynllunio a gyflwynwyd gan fab y Cynghorydd Tom Jones ac, er gwybodaeth, mae'r tri chynghorydd yn yr un grwp.  Ydy cefnogi ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd gan gyd-aelodau sydd ar yr un grwp, eu cyfeillion neu eu teuluoedd yn amhriodol ac/neu yn groes i'r Côd Ymddwyn Cenedlaethol?”

 

 

 

Cyflwynwyd y cwestiwn atodol gan y Cynghorydd J. A. Jones :-

 

 

 

"Rydwyf yn falch o gael yr ateb yma.  Roeddwn am ofyn i'r Arweinydd, yn dilyn rhaglenni at y teledu, ysgrifennu at HTV Wales This Week i ddweud wrthynt fod y 3 Cynghorydd wedi gwneud beth a wnaed a roedd dim o'i le yn hynny a'i fod o yn dderbyniol  ac yn briodol dan y Côd Ymddygiad Cenedlaethol".

 

 

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones - "Mae gennyf yr hawl i ymateb dan y Cyfansoddiad.  Yn yr achos hwn does yna ddim i ymateb iddo.  Ond os edrychwn ni ar achos Llanddona ac achosion eraill yn Capel Coch, Talwrn, efallai bod yma rhywbeth i ymateb iddo.  Diolch i chwi."

 

 

 

5.  “ Mae'r Cynghorwyr Peter Rogers, Bob Parry OBE a Keith Thomas ill tri wedi ymddangos ar y rhaglen ITV 'Wales this Week' yn gwneud haeriadau yn erbyn cyd-Gynghorwyr iddynt.  A oes unrhyw un ohonynt wedi cyflwyno haeriadau tebyg yn ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro?”

 

 

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd cafwyd yr ymateb a ganlyn gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro :-  "Yn fy swyddogaeth rydwyf yn cynnig cyngor i Aelodau ac i aelodau'r cyhoedd am gwynion posib i'r Ombwdsmon oherwydd torri'r Côd Ymddygaid.  Mae dipyn o'r cyngor hwnnw yn mynd yn ôl ac ymlaen mewn llythyrau.  Rydwyf o'r farn ym mhob achos bod hyn yn rhan o'r tair eithriad dan y Ddeddf Hawl i Wybodaeth ac o'r herwydd mae'r darpariaeth yn gwneud yr ohebiaeth yn gyfrinachol - yn wybodaeth nad oes modd ei ddatgelu yn y cyd-destun cyfreithiol.  Rydwyf bob amser wedi credu hynny ac wedi gwrthod datgelu dim pan ofynnwyd i mi.  Credaf fod y cais hwn, er bod y cyd-destun yn wahanol yn gais tebyg ac o'r herwydd rhaid i mi wrthod datgelu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani."

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Mae fy enw i yn y cwestiwn hwn.  Hoffaf ddweud yn glir fy mod wedi ysgrifennu at y Swyddog Monitro ynghylch yr holl gwynion a godais a hefyd wedi mynd â'r rheini ymhellach, ac felly egluro yn union beth a wnaethym.  Diolch i chwi.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Ond dydio ddim yn dweud fod pob peth wedi ei ddatrys, efallai ei fod wedi ysgrifennu at y Swyddog Monitro ond rydwyf yn cyfeirio at gwynion, trwyddoch chi Mr. Cadeirydd i'r Arweinydd.  Rydwyf yn gofyn y cwestiwn er mwyn ceisio mesur y dynion hyn, mae'r dynion hyn yn fodlon ymddangos ar rhaglenni a gwneud haeriadau gweigion.  Os ydyn nhw'n ddynion mi fasa nhw'n medru gwneud hyn yn ysgrifenedig.  Diolch i chwi. "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Rydwyf yn gofyn i'r Cynghorydd Jones dynnu'r haeriadau gweigion yn ôl.  Mi welwch o'r cwestiynau sy'n dilyn fod yr holl dystiolaeth ategol gennyf.  Nid haeriadau gweigion yw'r rhain, hwn yw'r gwir a gofynnaf i chwi ofyn iddo dynnu'r geiriau'n ôl os gwelwch yn dda.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Fedr o egluro beth sydd ganddo dan sylw ac efallai wedyn y medraf ei ateb.  "

 

 

 

Y Cynghorydd Keith Thomas - "Cefais fy enwi ac rwy'n pwysleisio ein bod wedi ateb cwestiynau ar y rhaglen.  Dim ond un haeriad yr ydwyf yn ei gofio, sef gan John Arthur Jones a hynny pan oedd yn galw'r gohebydd yn paedophile.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Mae ITV Wales yn cario ymlaen gyda'r haeriadau heb egwyddor.  "

 

 

 

Cadeirydd - "Trefn os gwelwch yn dda.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Codais Pwynt o Drefn a gofyn i'r Cynghorydd Jones dynnu'r geiriau haeriadau gweigion yn ôl.  Mae tystiolaeth yn gefn i'm haeriadau ac rydwyf yn fodlon cyflwyno'r tystiolaeth i unrhyw un sydd yma.  Rydwyf yn gofyn i'r Cynghorydd Jones - a mae hwn yn fater difrifol, dynnu'r haeriadau gweigion yn ôl wrth gyfeirio at Peter Rogers os gwelwch yn dda.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Mr. Cadeirydd fedr o ddweud wrthyf beth sydd ganddo dan sylw - does gennyf fi ddim 'crystal ball'.  "

 

 

 

Y Cadeirydd - "Mater i'r Cynghorydd J. Arthur Jones yw tynnu'r geiriau yn ôl ai pheidio.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Rydwyf yn ail adrodd, mae wedi gwneud haeriadau gweigion.  Cyn belled ac yr ydwyf fi yn y cwestiwn mae pob peth a wnaeth wedi ei ymchwilio gan yr Ombwdsmon ac mi gafodd yr atebion.  Mater iddo ef yw - a ydyw'n fodlon derbyn y rheini ai peidio a mynd ar drywydd y mater eto gyda'r Ombwdsmon.  "

 

 

 

6.  “Yn ddiweddar, cafodd manylion adroddiad gan yr Ombwdsmon eu datgelu i'w wasg a darlledwyd ei benderfyniad ar Wales this Week.  Pwy dderbyniodd neu pwy sydd â chopi o'r adroddiad cyfrinachol hwn?”

 

 

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd cafwyd yr ymateb hwn gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro :-  "Ar ôl derbyn y cwestiwn hwn gwnaed ymholiadau gyda Swyddfa'r Ombwdsmon a chael gwybod gan y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau yno fod 4 copi o'r adroddiad wedi eu gyrru allan.  Un at y Cynghorydd y gwnaed y gwyn yn ei erbyn, un at y Cynghorydd a gyflwynodd y gwyn, un ataf fi fel Swyddog Monitro ac un at Glarc y Panel Dyfarnu."

 

 

 

Cyflwynwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd J. A. Jones :-

 

 

 

"Er mwyn fod yn agored ac yn dryloyw a thrwyddoch chi Mr. Cadeirydd i'r Arweinydd, nid yw'r Cynghorydd y cwynwyd amdano na'r Swyddog Monitro na'r Panel Dyfarnu na'r Ombwdsmon wedi rydhau copi o'r adroddiad.  O'r herwydd dim ond un sydd ar ôl a hwnnw yw'r Cynghorydd Peter Rogers. Trwyddoch chi a gaf ofyn i'r Cynghorydd Rogers a'i fo a ollyngodd yr adroddiad i'r wasg ?  Os ydyw'n ddigon o ddyn i ateb y cwestiwn yna.  "

 

 

 

Cadeirydd - "Ni chredaf fod y cwestiwn yn un teg i'r Cynghorydd Rogers.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Wrth gwrs ei fod.  Y geiriau a ddefnyddiwyd gennych rwan yw gollwng i'r wasg ac adroddiad yr Ombwdsmon.  Yn y fan hon mae gennyf adroddiad gan yr Ombwdsmon yn erbyn Cynghorydd arall a fydd yma, adroddiad Tachwedd 2005.  Ryddhawyd yr achos hwnnw i'r wasg o leiaf 3 mis cyn ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Safonau yma.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Pwynt o Drefn Mr. Caderiydd.  Beth sydd a wnelo hynny â phrisiau pysgod.  Roedd y cwestiwn yn ymwneud â'r maes penodol hwn, nid peth a ddigwyddodd misoedd yn ôl."

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers - "Yr hyn yr ydwyf yn ceisio'i ddweud, pwy ollyngodd yr adroddiad i'r wasg.  Mae pawb sydd wedi bod yn ymwneud o gwbl â'r Ombwdsmon yn gwybod bod stamp ar bob tudalen o'r copïau drafft - stamp cyfrinachol.  NId oes dim o'r fath ar yr adroddiad terfynol hwn, cafodd ei yrru, ac ni chredaf fod y Cynghorydd a gododd y mater hwn yn ymwybodol o'r gwirdrefniadau.  Gwnaed penderfyniad yn erbyn Cynghorydd oherwydd iddo geisio cael manteision ariannol ac yn awr rhai trosglwyddo'r achos i Banel Dyfarnu.  Ni chredaf fod y mater wedi ei ollwng, mae ar gael, ac o'r herwydd mae'r cwestiwn yn amherthnasol ac ni ddylid fod wedi ei godi.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - "Rydwyf yn cymryd felly mai o ollyngodd yr adroddiad. "

 

 

 

7.  “ Ydy'r rhwymedigaethau sydd mewn cytundebau cynllunio Adran 106 yn cynorthwyo neu'n llesteirio ymdrechion pobl sydd angen tai fforddiadwy pan maent yn ceisio prynu ty?”

 

 

 

Cafwyd yr ymateb a ganlyn gan y Deilydd Portffolio (HWT) ar ran yr Arweinydd :-

 

 

 

"Mae'r cytundebau adran 106 sydd ynghlwm wrth geisiadau cynllunio yn fater o bryder i mi oherwydd fy ymrwymiad a hefyd mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu prynwyr tro cyntaf.  Mae llawer wedi son hefo fi am hwn ac rydwyf yn rhoi fy sylw manwl iddo.  Ar 4 Rhagfyr roedd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried y mater a gofynnodd i'r Pwyllgor Trosolwg ystyried y mater a gofynnodd i'r Pwyllgor Trosolwg yr adroddiad.  Y gobaith yw y bydd y Pwyllgorau hyn yn rhoi sylw llawn i ffyrdd o gadw'r tai fel unedau fforddiadwy a helpu'r pobl hynny sydd â gwir angen. Ond hefyd mae'r Gwasanaeth Tai yn cynnal ymchwil i ganfod a ydyw cyfyngiadau dan adran 106, wrth werthu ty fforddiadwy wedyn, yn rhwystr i unigolion rhag cael morgais.  Credaf bod yma fater o bwys, ac mae'n cael sylw brys a byddwn yn ceisio darparu canllawiau cynllunio atodol ar y mater cyn gynted ag y bo'n bosib.  "

 

 

 

Cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd J. Arthur Jones :-

 

 

 

"Mae'n dda gennyf glywed yr ateb yna.  Efallai'n wir nad ydym ni i gyd yn cytuno ond fodd bynnag yn cydnabod ei fod yn cael effaith.  Fedrwn ni os gwelwch yn dda symud ymlaen cyn gynted ac y bo'n bosib i adolygu'r cytundebau adran 106 ar dai fforddiadwy.  Os ydyw'r Cyngor yn y diwedd, yn pendefynu i gadw, iawn, ond hoffwn symud ymlaen i hwyluso pethau i bobl fedru fforddio tai fforddiadwy.  "  

 

 

 

8.  “ Ydy'r Cyngor yn cynnig i Gynghorwyr y cyfle i ddysgu Cymraeg?”

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd :-  "Rydym ni'n gyd yn gwybod mai'r Cyngor hwn oedd y cyntaf yng Nghymru i gael Cynllun Iaith ac rydwyf yn falch iawn fod y Cyngor wedi ei gefnogi.  Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ydyw', mae'r Cyngor yn darparu cyrsiau Cymraeg syml i Gynghorwyr."

 

 

 

Wedyn cyflwynwyd y cwestiwn atodol a ganlyn gan y Cynghorydd J. Arthur Jones :-

 

 

 

"Mae'n dda clywed mae cwrs syml yn y Gymraeg yw hwn a gofynnaf i chwi felly ysgrifennu at y Cynghorydd Peter Rogers, sy'n byw yma ers blynyddoedd ac fe ddylai gael y cyfle i ddysgu Cymraeg.  Mae rhai yn dweud ei fod yn anelu'n uwch ond credaf fod yma fanteision mawr petai medru cyfathrebu yn y Gymraeg.  "

 

 

 

11.6     Cyflwynwyd y cwestin a ganlyn gan y Cynghorydd John Arwel Edwards :-

 

 

 

     I’R ARWEINYDD AC AELOD PORTFFOLIO ADDYSG

 

      

 

     “A all yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio dros Addysg ein sicrhau y bydd yr holl o setliad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg ym Môn, yn y flwyddyn ariannol 2007/2008, yn cael ei wario ar addysg?”

 

      

 

     Ar ran yr Arweinydd cafwyd yr ymateb a ganlyn gan yr Aelod Portffolio (JR) :-

 

 

 

"Dros y blynyddoedd diwethaf nid yw'r Cynulliad wedi bod yn rhoddi arian i'r Adrannau ond yn hytrach i'r Cyngor yn gyffredinol.  Mae'r grwp yr ydwyf fi yn perthyn iddo hefo record dda a hefyd arweinwyr y gorffennol yng nghyswllt trosglwyddo arian clustnodedig i Addysg.  Ar ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf y cyflwynwyd y talp diwethaf o arian Cynulliad i Addysg sef arian i bob athro i gael amser allan o'r dosbarth.  Felly mae'r arian a gawsom, y 3% a grybwyllwyd yn arian cyffredinol i'r Cyngor i'w rannu yn ôl ei ddymuniad.  Clywsom fod pethau go ddiddorol wedi digwydd yng Nghaerdydd ddoe ond dyw'r manylion ddim ar gael am y setliad terfynol. Byddwn yn cael cyfarfod gyda'r Gweinidog ddydd Mawrth a chefais wybod heddiw fod manylion y setyliad wedi'u gohirio tan yr wythnos nesaf.  I ateb y cwestiwn - na does yna ddim arian, ond bydd unrhyw ariana glustnodwyd yn benodol i wasanaeth gan gynnwys addysg yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaeth hwnnw, neu fel arall byddant yn cael dyraniad allan o gronfa gyffredinol y Cyngor.  "

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards :-  "Mae hwn yn fater o bolisi.  Fel Arweinydd y Cyngor, yr Arweinydd sy'n delio hefo polisi.  Rydwyf yn deall yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Roberts sef fod arian Addysg eleni wedi ei roddi i Addysg, yn enwedig gan ein fod wedi cael problemau mawr yn ysgolion uwchradd y sir.  Oherwydd ad-drefnu addysg yng Nghymru nid yw'r arian hwnnw yn cael ei drosglwyddo i'r llefydd cywir ac o'r herwydd daw problemau difrifol yn sgil hynny.  Felly rydwyf yn gofyn i chwi sicrhau y bydd yr ysgolion ar dop y rhestr pan fyddwn yn penderfynu i le y bydd yr arian yn mynd. "

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd :- "Yr arfer oedd trosglwyddo arian.  Ond y llynedd ni chawsom digon o arian o Gaerdydd i helpu athrawon yn yr ystafelloedd dosbarth.  Mi wyddoch, bawb ohonoch, pa mor gared y mae'r Deilydd Portffolio Addysg yn ymladd dros ei adran.  Ond mae'n anodd iawn pan fo Caerdydd ddim yn rhoddi gwybodaeth i ni am y setliad ariannol.  Hoffwn ddiolch i chwi am eich cwestiynau perthnasol, ond fel egwyddor cyffredinol, a'i hwn yw'r lle iawn i ofyn y cwestiynau gan fod y rhan fwyaf o'r rheini y gafwyd heddiw yn gwestiynau sgriwtini ac ar hyn o bryd mae ein sgriwtini yn wan.  Gofynnaf i chwi feddwl am hyn a rhannu'r cwestiynau hyn o gwmpas.  Buasai hynny'n beth iach.  "

 

 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio (JMD) :- "Ymatebodd rhai pobl, ambell dro yn emosiynol, i'r ffaith ein fod yn gyffredinol yn fyr o arian i Addysg ac i pob peth arall.  Credaf fod y llythyr a anfonwyd allan ganddynt yn gamarweiniol, ac rydwyf fi a sawl aelod arall hefyd wedi derbyn y llythyr hwnnw.  Byddwn yn cywiro'r unigolyn perthnasol ar y mater penodol hwnnw.  Hefyd hoffwn ychwanegu fod yma gamddealltwriaeth gan fod dau ffigwr wedi dod o Gaerdydd, ac un yn nod yng nghyswllt beth y dylwn wario ar addysg a'r llall yw ffigwr yn dangos faint o arian y dylid ei wario ar addysg.  Ond mae'r ddau ffigwr yn wahanol ac mae hynny, yn syth, yn creu problem.  Nid yw'r wybodaeth a ddaw o Gaerdydd a'r arian a ddaw o'r lle yn priodi.  Ac mae'r arian a gawn yn arian i wasanaethau'r Cyngor Sir i gyd - nid arian clustnodedig i Addysg.  Ond mae'r gyfran a gawsom ar gyfer Addysg yn gyfran orau posib dan yr amgylchiadau.  Hoffwn amddiffyn lefel y gwariant a chyda gobaith y medrwn gynyddu yn y dyfodol.  Mae'r holl arian a glustnodwyd yn benodol ar gyfer Addysg wedi ei drosglwyddo yn ddieithriad i Addysg.  "

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd P. M. Fowlie : "rhaid gwario'r arian clustnodedig yn y llefydd iawn a dylai pob ysgol gael yr un swm.  Credaf fod Ysgol y Borth wedi cael mwy na'i siâr.  Rhaid cofio am ysgolion eraill yr Ynys.  Yn barod mae rhywun wedi dweud bod angen tai fforddiadwy i lenwi'r ysgolion hyn ac rydwyf yn gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr newydd sicrhau y bydd, fel un o'i dasgau cyntaf, yn dangos fy mod yn anghywir ynghylch un peth ar ôl i mi ddweud mai'r Arweinydd yw'r 'Kingmaker' ac efallai mai 'pwped' yw'r Rheolwr-gyfarwyddwr ac yn enwedig o gofio am y dull o benodi'r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Rydwyf am ei herio ar dai fforddiadwy, a byddant, gobeithio, yn llenwi ein hysgolion.  Ddoe diwethaf cafwyd erthygl yn y wasg leol a deallaf fod rhywfaint o'r wybodaeth yn anghywir.  Rydwyf yn gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr, trwy Swyddfa'r Wasg, gadarnhau y bydd pob peth a brintir yn gywir.  Ac os nad yw pob peth yn gywir fedrwch chi  ddweud am hynny cyn diwedd wythnos nesaf ? "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Chorlton :-  "Nid yw'r erthygl yn gywir".

 

 

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie : "Diolch i chwi am huna, felly gaf fi ofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr a hefyd gyda chaniatâd yr Arweinydd, gawn ni ddatganiad ysgrifenedig fel aelodau ddweud beth oedd yn anghywir a phwy roth yr erthygl yn y papur ?  Ydi hwn yn gwestiwn teg Mr. Cadeirydd? "

 

 

 

Cadeirydd :-  "A bod yn onest ni chredaf ei fod."

 

 

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie : "Felly gaf fi ofyn i'r Deilydd Portffolio Tai am ragor o eglurhad ?"

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Chorlton : "Mater i'r unigolyn yw penderfynu beth fydd yn y wasg.  Yr unig beth y gallaf fi ei wneud yw mynd yn ôl y ffeithiau, ac nid yw'r ffeithiau yn yr erthygl yn gywir.  Mae yma fframwaith ond rhaid i ni gael mwy o eglurhad.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie : "Diolch i chwi am yr ymateb yna ond gofynnaf hefyd i chwi gael gair hefo'r Rheolwr-gyfarwyddwr a'r Arweinydd i roid yr aelodau yn y pictiwr ynghylch pwy sy'n rhedeg y Cyngor. "

 

 

 

Y Cynghorydd J. A. Jones :-  "Yn gynharach heddiw roedd y Cynghorydd E. G. Davies yn pryderu am y Cynghorydd Schofield.  Does dim rhaid iddo boeni mae o yma heddiw yn siarad trwy ceg Phil Fowlie.  "

 

 

 

Y Cynghorydd E. G. Davies : "Mr. Cadeirydd, mae Elwyn Schofield yn wael iawn.  Mae'n rhy wan i eistedd mewn cadair,  gwnaeth sylw difeddwl yn ei erbyn.  "

 

 

 

Cadeirydd :-  "Wnewch chi eistedd i lawr os gwelwch yn dda.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie :-  "Ar hyn o bryd fedr y Cynghorydd Elwyn Schofield ddim codi'r ffôn ac mi ddudai un peth wrthych cefais fy magu yn Aberffraw ac mi fedraf sefyll i fyny ar fy nhraed fy hun.  Os caf wybodaeth byddaf yn ei roddi i chi gyd yma.  Ni fyddaf yn cadw dim ohoni.  Newch chi ofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ddangos i aelodau'r gwrthbleidiau nad ydio'n bwped i'r 'Kingmaker'.  Felly rydwyf yn rhoddi'r her hon i chi.  "

 

 

 

Yr Arweinydd :- "Dwi'n teimlo y dylai ymddiheuro i'r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Mae'r peth yn gwilydd.  Rydym wedi cael trafodaeth teg ar gwestiynau heddiw.  Yr hyn a gollwyd yma yw arweiniad positif a gweledigaeth.  Nid fi yn unig sy'n dweud hyn ond llu o adroddiadau.  Rhaid i chwi barchu Derrick Jones a ddaeth yma atom.  Mi fedrwn ddadlau y tu allan i'r Siambr, y Cynghorydd Fowlie, ond mae hwn yn beth personol.  Dangoswch barch i'r swyddog newydd.  Os ydych chi yn siarad fel yna am y swyddog newydd pa obaith sydd i ni newid y Cyngor Sir.  Rhaid i ni newid y ffordd y mae pethau yn gweithio yma.  Teimlaf fod hyn allan o drefn ac yn annheg.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. M. Fowlie :-  "Gaf fi ymateb Mr. Cadeirydd.  Rydwyf ar ddechrau'r cyfarfod heddiw wedi dymuno'n dda i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ac rydwyf yn dal i ddymuno'n dda iddo gan obeithio y bydd yn gadael ei farc yn y lle 'ma.  Mi ddywedais yn y cyfarfod dydd cynt ac mi ddywedaf hyn eto.  Dwi ddim yn dweud y pethau yma yn ysgafn.  Hon yw'r her fwyaf i'r Rheolwr-gyfarwyddwr - gwneud ei farc.  Cafwyd erthygl yn y papur lleol sy'n anghywir yn ôl y Deilydd Portffolio.  Dyma'r marc y gall ef ei wneud.  Rydwyf wedi dweud ei fod yn dymuno'n dda iddo ac mae'n rhaid i ni gael cyfarwyddyd, mae'r Arweinydd yn gywir.  "

 

 

 

Y Cynghorydd A. Morris Jones :- "Ar fater o drefn cafwyd dau gyfeiriad yn y Siambr hon heddiw at unigolyn sy'n wael ac mae'r peth yn gwbl allan o drefn.  Unwaith gan yr Arweinydd ac unwaith gan y Cynghorydd J. A. Jones.  Felly meddyliwch yn fanwl beth yr ydych yn ei ddweud.  "

 

 

 

Yr Arweinydd :-  "Nes i ddim enwi neb ac mae'r peth yn ffeithiol ac yn bwysig."

 

 

 

Y Cynghorydd A. Morris Jones :-  "Roedd y peth yn annymunol iawn a dweud y lleiaf".

 

 

 

11.7

Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd Mrs. Fflur M. Hughes :-

 

      

 

     I ARWEINYDD Y CYNGOR

 

      

 

     “A yw’n bosibl i’r Arweinydd drefnu cyfarfod gyda Railtrack i agor trafodaethau ynglyn â Lein Amlwch, a’r posibilrwydd o’i hailagor fel llwybr beicio, cerdded a marchogaeth?”

 

      

 

     Ymatebodd yr Arweinydd fel a ganlyn :-  "Railtrack biau Network Rail rwan a chredaf fod oes y tren wedi mynd yn yr achos hwn.  Rydym wedi trafod y peth yn ôl yn 1997 pan oedd arian preifat ar gael.  Rydwyf yn eich gwadd, y Cynghorydd Hughes, i ddod hefo fi a chael trafodaeth gyda'r cwmni.  Rydwyf yn cefnogi'r cwestiwn ond beth yw teimladau'r aelodau yn ei gylch ? "

 

      

 

Y Cynghorydd Ff. M. Hughes :- "Mae hwn yn fater pwysig i'r Ynys ond mae'r cwestiynau a gafwyd yma heddiw yn dangos beth yw safon y drafodaeth yng Nghyngor Sir Ynys Môn.  Mae Cynghorau Gogledd Cymru yn chwerthin ar ein pennau a heddiw rydwyf yn dallt pam.  Bysa ni ddim yn y twll hwn petaem yn defnyddio'r ynni yma i wneud rhywbeth arall yn hytrach na sgorio pwyntiau yn erbyn ein gilydd.  Mae yma swyddogion da, gwaith da yn cael ei wneud, ond teimlaf ac rydwyf yn cynnwys fy hun yn hyn ein bod fel Cynghorwyr yn tynnu'r Cyngor i lawr.  Hwn yw'r cyfarfod cyntaf i'r Rheolwr-gyfarwyddwr newydd ac yn gyhoeddus rydwyf yn dymuno'n dda iddo.  Ond rydwyf yn siomedig iddo fod yn dyst i'r ffordd  yr ydym yn bahafio.   Mae'n drieni a mawr obeithiaf y bydd Derrick Jones yn ôl bore fory ar ôl y gwrthdaro yma heddiw.  "

 

11.8     Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd W.I. Hughes :-

 

      

 

     I ARWEINYDD Y CYNGOR

 

      

 

     “Faint o staff oedd y Cyngor Sir yn eu cyflogi ar y cyntaf o Ragfyr 2005, a faint o staff mae’r Cyngor Sir yn eu cyflogi ar y cyntaf o Ragfyr, 2006?”

 

      

 

     Yn ei ymtaeb dywedodd yr Arweinydd :- "Ym Medi 2005 roedd y ffigwr yn 3485 ac ym Medi 2006 roedd yn 3130."

 

      

 

     Y Cynghorydd W. I. Hughes :-  "Beth sydd ein dychryn yw ein bod yn gweld bob wythnos hysbysebion yn y wasg am swyddi gyda'r Cyngor.  Pan fo gwybodaeth yn cael eu gyrru allan atom ynghylch swyddi fedrwch chi ddweud hefyd a ydyw'r swyddi yn rhai newydd ai peidio.  "

 

      

 

     Yr Arweinydd :-  "Rhaid i ni weld faint o swyddi sydd yn rhai Cyngor, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cadw'r staff.  Mae cadw staff yn llawer iawn rhatach na chyflogi.  Mae hon yn her i ni i gyd.  Y gwaith yma yw datblygu'n raddol nid yn chwildroadol. "

 

      

 

11.9     Cyflwynwyd y cwestinnau a ganlyn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones :-

 

 

 

     I ARWEINYDD Y CYNGOR

 

      

 

     “Ynghylch Maes Awyr Ynys Môn

 

      

 

     Fedrwch chi, os gwelwch yn dda, ddweud wrthyf faint fydd y prosiect hwn yn ei gostio i Gyngor Sir Ynys Môn dros gyfnod 3 blynedd y prosiect?”

 

      

 

     Cafwyd yr ymateb hwn gan yr Arweinydd :-  "Rydwyf yn ddiolchgar i'r swyddogion am eu gwaith caled yn y cyswllt hwn.  Aeth hwn trwy'r Cyngor a rhoddwyd swm £50,000 o'r neilltu fel costau cychwynnol.  Nid ydym wedi gwario'r cwbl o'r £50,000 ac am hyn mae hwn ei werth o i Ynys Môn.  Rhaid ystyried yr holl ffactorau economaidd - nid y costau'n unig.  "

 

      

 

Dywedodd y Cynghorydd A. Morris Jones :- "Felly rydwyf ar ddeall mai £50,000 fydd cyfanswm y gost.  A ydym wedi ystyried y manteision yn erbyn pethau eraill sy'n bosib.  A ydym wedi ystyried faint o bobl fydd yn defnyddio'r cyfleusterau a pha obaith sydd y bydd y Cynulliad yn dal i'w gynnal ar ôl 3 blynedd.  A ydych wedi ystyried y sector twristiaeth hefyd cyn symyd ymlaen gyda'r cynllun ? "

 

 

 

Yr Arweinydd :- "Mae tudalen cyntaf y llyfryn twristiaeth Ynys Môn yn cyfeirio at cyfleusterau hedfan y Fali.  Nid oes un ateb economaidd syml i Ynys Môn.  Am £50,000 rydwyf yn bendant bod hon yn ddeal dda i Ynys Môn.  Os ydym am ddatblygu Ty Mawr yng Nghaergybi a chodi swyddfeydd a ffatrioedd yna rhaid i ni sefydlu'r cyswllt ein hunain gydag Iwerddon.  "

 

 

 

(Dyma pryd y gadawodd y Cynghorydd John Rowlands y Gadair am y drafodaeth ar eitem 11.10 ac aeth y Cynghorydd W. J. Williams MBE iddi).

 

 

 

Is-Gadeirydd: - "Cafwyd chwe cwestiwn gan y Cynghorydd Peter Rogers ond ni chawsant eu cyflwyno mewn pryd ac o'r herwydd ni fyddwn yn caniatáu iddo ofyn y rheini heddiw ond gall eu gofyn y tro nesaf.  Hwn yw'r penderfyniad.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers :- "Diolch yn fawr i chi Mr. Caderiydd am ganiatáu i mi siarad.  Ond cyn i mi ddechrau rwy'n siwr y medraf achub ar y cyfle i ddweud fy mod wedi cael fy mrifo yn fawr gan yr ymosodiad arnaf ynghylch yr Iaith Gymraeg yn y Siambr hon y prynhawn 'ma.  Daethym yma 30 o flynyddoedd yn ôl a phriodi Cymraes.  Yn yr ysgol leol y cafodd fy nau plentyn eu haddysgu a gorffen eu haddysg yn Ysgol David Hughes a'r ddau yn siaradwyr Cymraeg ac yn gwneud pob peth trwy gyfrwng y Gymraeg.  Rydwyf wedi cyflogi, wedi buddsoddi arian mawr yn yr Ynys hon.  Cyflogais nifer dda iawn o bobl.  Hefyd rydwyf wedi hyfforddi sawl ffarmwr ifanc da ar yr Ynys ac mae peth parch i mi er na fedraf y Gymraeg.  Hefyd hoffwn eich atgoffa i mi gael fy ethol gyda'r mwyafrif mwyaf yn fy ward o'r holl Gynghorwyr sydd yn eistedd yma heddiw.  Diolch yn fawr iawn i chwi.  Mi fedrwch ddeall pam fy mod wedi cael fy mrifo yn fawr a dyma'r tro cyntaf i neb erioed ymosod arnaf am na fedraf siarad Cymraeg.  Ond rydwyf ar fy nhraed i haerio'r penderfyniad, eich penderfyniad chwi.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :- "Cyn belled ag yr ydwyf fi yn y cwestiwn mae'r penderfyniad wedi ei wneud.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers :- "Mae'n ddrwg iawn gennym, ond fe ddylech glywed hyn, gan fy mod wedi siarad gyda Colin Everett i lawr yng Nghymdeithas Lywodraeth Leol Cymru a gall y Rheolwr-gyfarwyddwr gadarnhau hyn, sef ei fod ef hefyd wedi cael cyfarfodydd gyda'r dyn fel rhan o'i gyflwyniad i'r swydd yn y Cyngor Sir ac ni all Colin Everett weld dim yn y rheolau sy'n caniatáu i chwi ymyrryd yn y penderfyniad a wnaeth y Rheolwr-gyfarwyddwr bore dydd Llun ac rhaid i mi'ch atgoffa o un peth ...... mae'n wir ddrwg gennyf ond mae hwn yn fater pwysig iawn.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :- "Gwnewch chi eistedd i lawr os gwelwch yn dda.  Mae arweiniad y Cadeirydd yn derfynol ar y mater hwn ac ni fyddaf yn caniatáu trafodaeth.   Rydwyf wedi gwneud fy mhenderfyniad.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers:- "Rhaid i mi ddweud wrthych fod yma argyfwng ac yn arbennig am eich bod wedi anwybyddu penderfyniad y Rheolwr-gyfarwyddwr.  Edrychodd ar y penderfyniad hwnnw o safbwynt y gyfraith a gwnaeth ei benderfyniad dydd Llun.  Rydwyf wedi gwneud fy mhenderfyniad.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :-  "Newch chi eistedd i lawr os gwelwch yn dda, gwnewch chi eistedd i lawr os gwelwch yn dda y Cynghorydd Rogers, gwnewch chi eistedd i lawr.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers :-  "O le yr ydych chi'n dyfynu hyn.  Gâi ofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr o le y mae'n dyfynu hyn ?"

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :-  "Eisteddwch i lawr, eisteddwch i lawr, eisteddwch i lawr.  Yn awr rydwyf yn gofyn i chwi adael yr ystafell.  "

 

 

 

Y Cynghorydd P. S. Rogers :-  "Gadewch i mi eich atgoffa i gyd beth y mae'n ei ddweud.  "

 

 

 

Arweinydd y Cyngor :-  "Dwi'n gofyn i'r ddau ohonoch eistedd i lawr.  Mae'n gwilydd o beth fod y Caderiydd ar ei draed a pa ochr bynnag yr ydych arni y mae yma barch i'r Gadair.  Mae ef wedi gwneud ei benderfyniad ac oherwyd dylem ei barchu.  "

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE :- "Mr. Cadeirydd.  Pwynt o Drefn.  Pwynt o Drefn Mr. Cadeirydd, fedrwch chi ddweud wrthyf beth yw 3 diwrnod gwaith.  Mae Peter Rogers wedi cyflwyno'r papurau hyn i un o'ch swyddogion am 8.30 a.m. bore dydd Llun.  Pa bryd y mae'r diwrnod yn dechrau fel diwrnod gwaith i'r Cyngor hwn a beth ar wyneb y ddaear yw ystyr 3 diwrnod yn eich barn chwi.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :-  "Rydwyf wedi gwneud fy mhenderfyniad ac mae hwnnw'n seiliedig ar fy hawl i wneud.  "

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-  "Mr. Caderiydd, cafodd y cwestiynau hyn eu cyflwyno, cafodd y cwestiynau hyn eu cyflwyno, Mr. Cadeirydd".

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams :- "Newch chi eistedd i lawr".

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-  "Na naf fi ddim eistedd i lawr.  Rydwyf eisiau ateb.  Mae'r rhain wedi eu rhannu fel copi cywir ac nid yw'r sefyllfa'n dderbyniol i'r Cyngor hwn.  Rydych wedi camddefnyddio hyn ac wedi gwrthod yr hawl i'r aelod drafod y materion yma.  Rydwyf yn ail adrodd - mae rhain wedi eu rhannu fel materion a gafodd eu derbyn.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :- "Mi wnaf egluro pethau mewn munud".

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-  "Mae'r Rheolwr-gyfarwyddwr wedi eu derbyn nhw, mae'r Cyfreithiwr wedi derbyn nhw ac wedi eu rhannu nhw maent wedi'u rhannu fel materion priodol i'w trafod ond rydych yn eu gwrthod yn wyneb y ffeithiau hyn ?"

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE :-  "Rydwyf yn gwrthod.  Rydwyf wedi pwyso a mesu hyn ac rydwyf yn eu gwrthod".

 

 

 

Y Cynghorydd G. O. Parry MBE :-  "Mae'r sefyllfa yma'n annerbyniol Mr. Cadeirydd"

 

 

 

Y Cynghorydd Peter Rogers :- "Does gennych chi ddim hawl dan y Côd Ymddygiad i'w gwrthod.  "

 

 

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE - "Gawn ni symud ymlaen at eitem 13 a gofyn i'r Cadeirydd ddod yn ôl."

 

 

 

12

DIRPRWYAETHAU GAN YR ARWEINYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo mewn perthynas â Threfniadau Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd ers y Cyfarfod Arferol Diwethaf (cyfeirir at hyn yn Rheol 4.4.1.4 y Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol ar dudalen 131 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

13

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

      

 

     “Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Paragraffau 1, 7, 8, 9 a 10, Rhan 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni.”

 

      

 

14

PENNAETH DYNODEDIG Y GWASANAETHAU TÂL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â’r uchod.

 

      

 

     Adroddwyd - Bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod diwethaf ar 19 Medi wedi penderfynu penodi Pennaeth Gwasanaethau Tâl am gyfnod dros dro i lenwi'r bwlch rhwng y dyddiad pryd y gadawodd y Rheolwr-gyfarwyddwr blaenorol a'r dyddiad penodi'r swydd wag.  Cytunwyd i dalu cydnabyddiaeth ariannol ond ni thrafodwyd swm penodol.  Felly awgrymwyd talu'r gwahaniaeth rhwng cyflog arferol y Cyfarwyddwr Corfforaethol a gwaelod cyflog y Rheolwr-gyfarwyddwr blaenorol am y cyfnod o 1 Medi hyd at 12 Tachwedd 2006.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno i gymryd y camau hyn a thalu'r swm dan sylw o'r gyllideb am eleni.

 

      

 

15

CWMNI GWASTRAFF MÔN-ARFON

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol), y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a Chyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro ar yr adolygiad a gomisiynwyd ar ran Cyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff i ddyfodol y Cwmni ac ar y penderfyniad a wnaed gan Gyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff ar 29 Tachwedd, 2006.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Derbyn penderfyniad Cyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2006.

 

 

 

Ÿ

Fel y ‘Cyfranddaliwr Cyntaf’ a enwir yng Nghytundeb Cyfranddalwyr Cwmni Gwastraff Môn/Arfon Cyfyngedig, yn dirprwyo i’r ‘aelodau perthnasol’ a benodwyd ganddo i wasanaethu ar Gyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff, (‘Aelodau Ynys Môn’) y grym i weithredu ar ganlyniad yr adolygiad o Gwmni Gwastraff Môn/Arfon, gan gynnwys y grym i wneud penderfyniad gyda’r ‘aelodau perthnasol’ y mae Cyngor Gwynedd, fel yr ‘Ail Gyfranddaliawr’ yn y Cytundeb Cyfranddalwyr, wedi eu penodi i wasanaethu ar Gyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff, (‘Aelodau Gwynedd’) mewn perthynas ag unrhyw drosglwyddiad o asedau ac ymrwymiadau ac unrhyw drosglwyddiad o asedau ac ymrwymiadau ac unrhyw ystyriaethau a phenderfyniadau rheolyddol y bydd angen eu gwneud yn codi o drafodaeth o’r fath.

 

 

 

Ÿ

Ymestyn cylch gorchwyl Aelodau Ynys Môn o’r Cyd-bwyllgor Cwmni Gwastraff fel bod ganddynt yr hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda Aelodau Gwynedd am ddyfodol y cwmni (fel y disgrifir hynny uchod) a all gynnwys neu ddim cynnwys diddymu’r cwmni.

 

 

 

Ÿ

Rhoi awdurdod i Aelodau Ynys Môn o Gyd-bwyllgor y Cwmni9 Gwastraff i bleidleisio i ddiddymu’r cwmni os mai dyna’r casgliad y deuir iddo a chytuno gyda Aelodau Gwynedd ar benodi Diddymwr.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i Aelodau Ynys Môn o Gyd-bwyllgor y Cwmni Gwastraff i adrodd yn ôl i’r Cyngor Sir ar y canlyniad.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd J. A. Jones yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y mater er ei fod wedi ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Cwmni Gwastraff Môn-Arfon.)

 

      

 

16........SWYDD ARWEINYDD TÎM PROSIECT - RHAGLEN GYFALAF ADDYSG A HAMDDEN

 

      

 

     Adroddodd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr, 2006 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir :-

 

      

 

     “Bod y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) presennol yn cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau presennol a’i secondio i swydd Arweinydd Tîm Prosiect i fod yn gyfrifol am Rhaglen Ddatblygu’r Adran am gyfnod o ddwy flynedd yn cychwyn ar 1 Ionawr, 2007 neu mor fuan ag sy’n bosibl wedi hynny.  Deellir y bydd y swyddog yn ymddeol o’i waith ar derfyn y secondiad a byddai hynny’n amod penodi.

 

      

 

     Dylid cydnabod y lefel uwch o gyfrifoldebau sy’n gysylltiedig gyda gweithredu’n fwy corfforaethol drwy uwchraddio’r cyflog presennol o 70% i 85% o gyflog y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

      

 

     Yn dilyn secondio’r Pennaeth Gwasanaeth, rhoi’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden), lenwi swydd wag y Pennaeth Gwasanaeth drwy gyd-ddarpariaeth ag awdurdod cyfagos neu, lle nad yw’n bosibl cyrraedd cytundeb o’r fath, drwy broses recriwtio arferol y Cyngor Sir.  

 

      

 

     Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn yr angen i adolygu cyflog swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) a phenderfynwyd cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor perthnasol ei ystyried.

 

      

 

     Bod y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) presennol yn cydweithio’n agos yn ystod ei gyfnod ar secondiad gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) newydd a benodir er mwyn sicrhau bod dyletswyddau’n cael eu trosglwydo’n llyfn a bod dilyniant effeithiol o safbwynt cyfrifoldebau.

 

      

 

     Bod cost yr uchod (oddeutu £150,000 dros ddwy flynedd) yn cael ei chyllido o falansau’r Adran Addysg a Hamdden ynghy â ffioedd rheoli’r rhaglen gyfalaf lle bo hynny’n briodol.

 

      

 

     Bod Tîm Prosiect ar gyfer Datblygiadau Addysg a Hamdden yn cael ei sefydlu i gynnwys swyddogion gyda’r arbenigeddau priodol o’r Gwasanaethau Addysg, Hamdden, Eiddo, Cynllunio a Chyllid i weithredu fel Grwp Llywio dan arweiniad yr Arweinydd Tîm ar Secondiad y cyfeirir ato uchod.

 

      

 

     Bod y rhaglen ar gyfer adolygu a rhesymoli’r ddarpariaeth yn yr ysgolion yn cael ei rheoli gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio Addysg.

 

      

 

     Yr Arweinydd Tîm Prosiect i weithredu hefyd fel cydgysylltydd tîm amlddisgyblaethol a fydd yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau penodol ar gyfer pob ysgol fydd yn cael ei heffeithio gan leihad yn ei niferoedd disgyblion.”

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden).

 

     (Anfonwyd copi eisoes at yr holl Aelodau fel rhan o’r papurau cyfrinachol i’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2006).

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Derbyn argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2006.

 

 

 

Ÿ

Rhoi'r awdurdod i'r Panel Adolygu Cyflogau a Graddfeydd (a sefydlwyd yn gynharach heddiw) ystyried ac adolygu cyflog swydd Pennaeth Gwasanaeth (Addysg).

 

 

 

Ÿ

Bydd yr Arweinydd Tîm Prosiect yn gyfrifol am adrodd yn ôl i'r Arweinydd ac i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ynghylch datblygu'r prosiect hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3:40 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

CADEIRYDD.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 3.40 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD JOHN ROWLANDS

 

     CADEIRYDD