Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 14 Rhagfyr 2006

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2006

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   14 Rhagfyr 2006 (a.m.)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Rowlands - Cadeirydd

 

Y Cynghorydd W. J. Williams MBE - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, John Byast, W. J. Chorlton, P. J. Dunning, E. G. Davies, J. M. Davies, J. Arwel Edwards, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hadley, R. Ll. Hughes, W. I. Hughes, G. O. Jones, H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, Aled M. Jones, T. H. Jones, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, Bob Parry OBE, D. A. Lewis-Roberts, G. W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, Hefin W. Thomas, Keith Thomas, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Y Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol)

Pennaeth Rheoli Datblygu

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Arweinydd Tîm - Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff

Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol,

Swydog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Keith Evans, Mrs Fflur M. Hughes, Bryan Owen, P. S. Rogers, G. Allan Roberts, Elwyn Schofield.

 

 

 

 

Ar gais y Cadeirydd rhoes Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wahoddiad i'r Cyngor Sir gynnal ei drafodaethau fel Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion heddiw.  Roedd modd i'r Cyngor Sir gyflawni hyn trwy fabwysiadu paragraff 4.1.28 y Cyfansoddiad a'r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio.  

 

Penderfynwyd mabwysiadu paragraff 4.1.28 y Cyfansoddiad.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Yng nghyswllt eitem 3 - Penhesgyn Gors, Llansadwrn cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Cynghorwyr W. J. Chorlton, J. M. Davies, H. Eifion Jones, G. W. Roberts OBE, John Roberts, Hefin W. Thomas a W. J. Williams gan fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod y mater a'i gymeradwyo yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2006.  Gadawodd yr aelodau y cyfarfod am yr eitem hon.

 

Gan fod yr un eitem wedi ei thrafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith yn 2002 cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr E. G. Davies, G. O. Parry MBE, Bob Parry OBE a Keith Thomas.  Gadawodd yr Aelodau y cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

Dywedodd y Cadeirydd y buasai'n cyflwyno cyhoeddiadau yng nghyfarfod llawn y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3

CAIS RHIF 17LPA49H/CC - CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGU CYFLEUSTERAU CYNHYRCHU PWER NWY AR YS AFLE TIRLENWI A DARPARU MYNEDFA, GWASANAETHAU SYLFAENOL A THIRLUNIO'R TIR AR SAFLE TIRLENWI PENHESGYN, PENHESGYN GORS, LLANSADWRN, PORTHAETHWY

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.

 

 

 

Nodwyd fod tua 60 o lythyrau o wrthwynebiad wedi eu derbyn, 55 ohonynt yn llythyrau safonol a rannwyd gan Grwp Gweithredu Penhesgyn ac unigolion wedi eu llofnodi a'u dychwelyd.  Y prif resymau dros wrthwynebu a nodwyd yn y llythyr safonol oedd :-

 

 

 

Ÿ

dim digon o amser i ymateb i'r cyhoeddusrwydd

 

Ÿ

ni wnaed gwaith ymgynghori ystyrlon gyda'r cyhoedd

 

Ÿ

ansicrwydd ynghylch dyfodol y safle

 

 

 

Mewn llythyrau eraill cafwyd rhagor o gyfeiriadau at y gwaith ymgynghori annigonol gyda'r cyhoedd, materion megis traffig, dim digon o waith asesu dan Rheoliadau Ardrawiad Amgylcheddol a datblygu safle gwyrdd a'r ansicrwydd ynghylch cynlluniau tymor hir i'r safle.

 

 

 

Wedyn dywedodd yr Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) bod y cais wedi cael cyhoeddusrwydd trwy rannu llythyrau ymhlith cymdogion, trwy godi rhybuddion ar y safle a thrwy hysbyseb yn y wasg leol.  Ymgynghorwyd gydag 13 o gyrff a sefydliadau.  Dywedodd Gwasanaethau Amgylcheddol yr Awdurdod y bydd raid monitro ansawdd yr aer am gyfnod o flwyddyn ar ôl comisiynu'r cyfleusterau cynhyrchu ar y safle.

 

 

 

Yna aeth yr Arweinydd Tîm rhagddo i wneud sylw bod gwastraff safle tirlenwi yn dirywio'n naturiol a'r broses yn cynhyrchu nwy - nwy methan yn bennaf.  Mae hwn yn nwy difrodus, o deip ty gwydr, ac yn fwy difrodus na charbon deuocsid; mewn ymateb i ofynion Asiantaeth yr Amgylchedd rhaid rheoli'r cyfleusterau'n briodol.   Ar hyn o bryd mae'r gwaith rheoli ar safle gwastraff Penhesgyn yn cael ei wneud trwy losgi'r nwy heb wneud defnydd cynhyrchiol ohono a'r bwriad dan y cais hwn yw sicrhau defnydd cynhyrchiol.  

 

 

 

Cais cynllunio amlinellol yn unig oedd yma heb unrhyw fanylion am faint yr offer na'r peirianwaith ond mae cyfleusterau o'r fath fel arfer yn rhai bychan.  Bydd raid codi simnai fflam - rhai tebyg i'r ddwy sydd yno'n barod - i losgi'r nwy sy'n dod o'r tir; hefyd bydd raid darparu tyrbinau ac adeiladau i gynhyrchu trydan a darparu cyswllt gyda'r grid.  Câi'r cyfleusterau eu hadeiladu i mewn i'r bryn a hefyd caent eu cuddio o olwg y cyhoedd gan ddatblygiadau eraill a ganiateir ar y safle.

 

 

 

Mewn ymateb holodd y Cynghorydd A. M. Jones a gafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ynghylch y cais ac atebodd y swyddog na chafwyd yr un gair ac o'r herwydd ei fod yn tybio nad oeddent yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau.  

 

 

 

Am na chafwyd ymateb o gwbl gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch credai'r Cynghorydd A. M. Jones y dylid gwrthod.

 

 

 

Dyma fel y bu'r bleidlais :-

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais :  Y Cynghorwyr Mrs B. Burns MBE, John Byast, P. J. Dunning, C. L. Everett, P. M. Fowlie, Denis Hadley, R. L. Hughes, G. O. Jones, W. I. Hughes, J. A. Jones,O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. A. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, John Rowlands, J. A. Roberts.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn groes i argymhelliad y swyddog, gwrthod y cais :  Y Cynghorydd A. M. Jones.

 

 

 

Ymatal rhag pleidleisio :  Y Cynghorydd T. H. Jones

 

 

 

Felly PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad a chyda'r amodau a restrwyd ynddo.

 

 

 

4

(A)  CAIS RHIF 19C689K/ECON - CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGIAD CYMYSG YM MHARC SIOPAU CAERGYBI, STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, PENRHOS, CAERGYBI

 

 

 

(B)  CAIS RHIF 19C689L/ECON - CAIS AMLINELLOL I SYMUD SWYDDFA DOSBARTHU'R POST BRENHINOL AC ADEILADU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR Y TU CEFN I SAFLE DATBLYGU SIOPAU PENRHOS.

 

 

 

(C)  CAIS RHIF 19C970/ECON - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL ADEILADAU A CHODI SIOP GWERTHU BWYDYDD CATEGORI A1, MAN GWASANAETHU CYSYLLTIEDIG, CYFLEUSTERAU PARCIO, MYNEDFA A GWNEUD GWAITH TIRLUNIO AR DIR GER FFORDD KINGSLAND, CAERGYBI

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai'n delio gyda'r tri chais gyda'i gilydd.  

 

 

 

Wedyn cafodd y Pwyllgor gyfle i weld ffotograffau a dynnwyd o'r awyr a hefyd y cyfle i weld llythyrau a ddaeth i law ar ôl gyrru'r agenda allan.

 

 

 

Cafwyd gair o gadarnhad gan y swyddog bod y ceisiadau'n gwyro oddi wrth bolisïau'r Cynllun Datblygu, h.y. y Cynllun Fframwaith a'r Cynllun Lleol.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid rhoddi pwysau ar y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

 

 

Roedd rhannau o'r datblygiadau ar dir sy'n eiddo i'r Awdurdod hwn a chan ddibynnu ar y penderfyniad a wna'r Cyngor bydd raid trosglwyddo'r cais/ceisiadau llwyddiannus i Lywodraeth Cynulliad Cymru i bwrpas ymgynghori a chael penderfyniad.

 

 

 

Cafwyd asesiadau annibynnol ar yr Asesiad Ardrawiad ar y Siopau; yn yr asesiad annibynnol hwnnw y rhain oedd y casgliadau :-

 

 

 

(i)     mai capasiti i gynnal un siop fwydydd yn unig oedd yn yr ardal

 

(ii)      mai dim ond mewn un lle y gellid cefnogi yr elfen heb fwydydd

 

(iii)     roedd ardaloedd Penrhos a Kingsland y tu allan i ganol y dref ac o'r herwydd yn gyfartal o ran ystyriaeth ddilyniadol.

 

 

 

Felly, cyn gwneud penderfyniad, roedd yn rhaid i'r Cyngor ystyried materin perthnasol eraill.

 

 

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y galw am y datblygiad arfaethedig y tu mewn i'r prif ddalgylch - gwnaeth hyn yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad.  Onid oedd y gwariant sydd ar gael yn cael ei hawlio'n ôl buasai'r ardal yn parhau i golli symiau sylweddol o arian i ardaloedd y tu draw i Gaergybi a hefyd y tu draw i'r Ynys.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Swyddog at y materion, yr ystyriaethau, y casgliadau a'r argymhellion yn yr adroddiad gan gadarnhau ei fod wedi ceisio pwyso a mesur nodweddion cadarnhaol a negyddol y ddau gynllun a bod penderfyniad yr aelodau ar y cynllun a gâi eu cefnogaeth yn mynd i arwain at ganiatáu neu wrthod y cais i symud adeilad Swyddfa'r Post.

 

 

 

Er bod safle Kingsland cystal â safle Penrhos o ran polisïau roedd rhaid cydnabod bod safle Kingsland mewn lle mwy canolog yng nghyswllt y dref a hefyd roedd modd cael tripiau cysylltiedig i ganol y dref a hefyd mae'n parchu'r strategaethau adfywio economaidd ar gyfer Caergybi.  Fodd bynnag, er bod y strategaethau hynny yn nodi Penrhos fel lle cyflogaeth gyffredinol ar Ynys Môn mae'n ffaith fod y rhan hon o Gaergybi yn awr wedi datblygu yn ganolfan siopau yn sgil caniatáu siop Tesco, hefyd yn sgil codi siopau dan Ran 1 y datblygiad a mentrau gwerthu eraill sydd yn yr ardal.  Mae safle Penrhos yn rhoi cyfle i bobl wneud tripiau cysylltiedig oherwydd nifer neu  glystyrau'r siopau yn yr ardal.  Does dim sicrwydd y byddai hyn yn digwydd ar safle Kingsland - pe câi'r siop ei chodi yno mae'n fwy na thebyg y byddai'r cwsmeriaid yn dal i achub ar y cyfle i fynd i Barc Siopau Penrhos er mwyn siopio am nwyddau amrywiol ac yn y blaen.

 

 

 

O ran cyflogaeth mae cais Penrhos yn cynnig mwy o swyddi, bron iawn ddwbl nifer cynllun Kingsland.  Mewn ardal o ddiweithdra uchel mae'n rhaid croesawu hyn.  Mae safle Penrhos ymhellach o ganol y dref ond mae'n gwneud y mwyaf o'r newid i weithgaredd siopio a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf heb wneud niwed sylweddol i bolisïau cyflogaeth y Cyngor yn y dyfodol.

 

 

 

Nid yw datblygiad Penrhos o fewn pellter cerdded i ganol y dref.  Un o fanteision pendant y datblygiad arfaethedig hwn yw'r posibilrwydd i gysylltu tripiau i'r siopau ar gyrion y dref - y rhai sydd ar y safle neu gerllaw.  Bydd y datblygiad hefyd yn creu manteision cynllunio - sef ymestyn y gwasanaeth bysus presennol i'r parc siopau a bydd hynny o fantais i rai heb geir.  Hefyd cynigir £80,000 i ddarparu rhai mannau parcio am ddim yn y maes parcio yng nghanol y dref lle mae cyfle i barcio am gyfnodau byrion.  Yn ogystal, ceir llecyn chwarae, darpariaeth ailgylchu a lle i gerddwyr groesi.

 

 

 

Ond yn ogystal cafwyd gair o gadarnhad gan y swyddog fod datblygwr tir Kingsland hefyd wedi cynnig, mewn egwyddor, gyfleusterau parcio am ddim am gyfnod cyfyngiedig (2½ - 3 awr) a gwasanaeth bysus am ddim a gwelliannau i gerddwyr.

 

 

 

Roedd perthynas rhwng y tri chais â'i gilydd a thasg yr Aelodau oedd pwyso a mesur yr ystyriaethau hynny yn y datblygiadau siopau a oedd yn berthnasol i bolisïau cynllunio ac i ystyriaethau eraill o bwys.

 

 

 

Ar ôl ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn roedd y Swyddog yn argymell rhoddi caniatâd i geisiadau (A) ac (C) a gwrthod cais (B) am y rhesymau a gyflwynwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad.  Roedd argymhelliad i ganiatáu cais (A) gyda gwelliannau a hefyd yn amodol ar lofnodi Cytundeb dan Adran 106 i sicrhau'r swm a roddir ar gyfer darparu cyfleusterau parcio am ddim yng nghanol y dref.

 

 

 

Wedyn cafwyd cyngor y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn dweud fod y pwer i benderfynu ar geisiadau (B) ac (C) yn nwylo'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a bod gofyn i'r Cyngor, yn y lle cyntaf, bleidleisio ar dynnu yn ôl bwerau dirprwyol y Pwyllgor yng nghyswllt y ceisiadau hynny cyn symud ymlaen i wneud penderfyniadau arnynt heddiw.

 

 

 

Roedd yr aelodau lleol i ardal y cynlluniau ynghyd ag aelodau Caergybi ac aelodau y Fali a Threarddur yn cytuno gydag argymhellion y swyddogion y dylid cefnogi safle Penrhos a gwrthod safle Kingsland.  Roedd yr aelodau yn ymwybodol iawn o'r problemau traffig a allai godi petai caniatâd yn cael ei roddi i gais Kingsland.

 

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol :-

 

 

 

4.1

tynnu ymaith bwerau dirprwyol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i benderfynu ar geisiadau cynllunio 19C689L/ECON a 19C970/ECON.

 

 

 

4.2

derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu cais cynllunio amlinellol 19C689K/ECON gydag amodau a hefyd gyda chytundeb dan Adran 106 i sicrhau'r swm cyllidol ar gyfer cyfleusterau parcio cyfyngedig yng nghanol y dref.

 

      

 

4.3     derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu cais amlinellol 19C689L/ECON am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

4.4     derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod cais amlinellol 19C970/ECON am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd John Rowlands

 

CADEIRYD