Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 15 Medi 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2009

CYFARFOD CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2009 (10:00am)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Keith Evans,  C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, K. P. Hughes,  T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, Eric Jones, Gwilym O. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.  Ll. Jones, T. H. Jones, Aled Morris Jones, Clive McGregor,  Rhian Medi, Bryan Owen, J. V. Owen, R.L. Owen, Bob Parry OBE,  G.O. Parry MBE, Eric Roberts, G. W. Roberts, OBE, J. Arwel Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, Ieuan Williams. John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Hamdden a Chymunedol)

Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro,

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor,

Swyddog Cyfathrebu.

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr   Fflur Medi Hughes, H. Eifion Jones, R. Ll. Hughes

 

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd y Cadeirydd ddiddordeb yn eitem 3(b) ymlaen ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidleisio.

 

Datganodd y Cynghorwyr E. G. Davies, W. I. Hughes, T. Jones, B. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry OBE, E. Schofield ac I. Williams ddiddordeb yn Eitem 3(b) a (c) yn rhinwedd eu swydd fel aelodau'r Pwyllgor Gwaith tra roedd y Cyngor heddiw yn ymgymryd â swyddogaeth sgriwtini, gan gymryd rhan yn y cyfarfod ond heb bleidleisio ar yr eitemau.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes yn ôl i'r Cynghorydd P. M. Fowlie wedi iddo fod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

 

Cymerodd y Cynghorydd P. M. Fowlie y cyfle i ddiolch i'r Cadeirydd ac i'r Cynghorydd R. G. Parry fel Cynghorwyr yn y Wardiau agosaf iddo am eu parodrwydd i  ymgymryd â'i ddyletswyddau yn ystod cyfnod ei anhwylder.  Roedd hefyd am longyfarch Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir a'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd yn dilyn eu penodiad fis Mai diwethaf.

 

Roedd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yr oedd wedi'i derbyn yn ystod yr amser hwn a gofynnodd i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro anfon neges i holl adrannau'r Cyngor yn diolch i'r staff am y negeseuon a'r dymuniadau da yr oedd wedi'u derbyn.  Rhag i unrhyw "Bedr yr anghrediniwr" ar yr Ynys ofyn i'r wasg ynglyn â chyflwr ei iechyd, un o'r cyflyrau oedd ganddo oedd anhwylder y galon ac roedd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Frenhinol Manceinion.  Ar 13 Awst, fe fethodd llawfeddygon weithio ar ei galon.  Byddai'n mynd yn ôl i Fanceinion ddydd Gwener a byddai'r llawfeddygon yn dweud wrtho beth fyddai'r camau nesaf yn ei driniaeth.  Yn anffodus, o ganlyniad i'r feddyginiaeth roddwyd iddo, roedd yn awr yn dioddef o'r gowt.

 

Unwaith yn rhagor, mynegodd ei ddiolchiadau didwyllaf i bawb ac os byddai rhywun yn dymuno gweld sut roedd ei gyflwr a'i gynnydd, ni fyddai angen gofyn i'r wasg leol am yr wybodaeth hon, gan ei fod bob amser ar gael ar ben arall y ffôn.

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ddeiseb i'r Cadeirydd gyda thros 1,000 wedi'i llofnodi yn gwrthwynebu cau Pwll Nofio Caergybi.  Yn yr un modd, cyflwynwyd deisebau gan y Cynghorwyr Raymond Jones a C. McGregor dros eu Wardiau eu hunain.

 

 

 

 

 

3

STRATEGAETH CANOLFANNAU HAMDDEN

 

 

 

(a)  Cyflwynwyd - Adroddiad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y Rhagolygon Cyllidebol.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr (Cyllid) bod y Prif Bwyllgor Sgriwtini wedi gofyn iddo rhoi cyflwyniad i'r Cyngor fel y gallai'r aelodau weld yn union beth oedd y cefndir ariannol tu ôl i'r penderfyniadau yn Strategaeth y Canolfannau Hamdden ac i faterion eraill yn gyffredinol.  

 

 

 

Roedd gwariant cyhoeddus yn destun trafodaeth yn y cyfryngau bob dydd o ganlyniad i'r wasgfa ariannol.  Roedd y cyflwyniad i'r Cyngor heddiw yn seiliedig ar y cyflwyniad a roddwyd i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Mai a Mehefin 2009.  Roedd y prif negeseuon yn eithaf tebyg ond roeddent wedi'u diweddaru yn dilyn cyflwyniad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf.

 

 

 

Roedd y wybodaeth oedd yn cael ei rhoi heddiw yn seiliedig ar ffigyrau oedd wedi'u cyhoeddi yn ymwneud â gwariant cyhoeddus, gan y Canghellor, y Cynulliad Cymreig ac eraill.  

 

 

 

Roedd y sefyllfa wedi dod i fodolaeth oherwydd yr argyfwng byd eang.  Roedd ffyniant economaidd yn gostwng, roedd incwm pobl yn mynd i lawr, roedd proffid yn lleihau a hynny'n golygu bod yr incwm a ddeuai o drethi yn gostwng trwy'r byd i gyd gyda gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus oherwydd pethau felly.  Roedd y Cyngor hwn yn dibynnu am 80% o'i gyllid o'r Cynulliad Cymreig ac yntau yn ei dro yn dibynnu ar gyllid gan y Llywodraeth Ganolog.

 

 

 

Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu cynllun tymor canolog 3 blwyddyn ym Mawrth 2009.  Yn y cynllun hwnnw, defnyddiwyd £2m o'r arian wrth gefn yn 2009/10.  Roedd y Cyngor eisoes yn defnyddio'i arian wrth gefn i raddau helaeth er mwyn osgoi gwneud mwy o doriadau y byddai'n rhaid iddynt ddigwydd.  Y rhagamcan oedd y byddai'n rhaid talu'r swm yn ôl tros y 2-3 blynedd nesaf.  Rhagamcanwyd ar y pryd byddai angen 1.5% o arbedion blynyddol a 4.5% o gynnydd yn y dreth Gyngor flynyddol er mwyn adennill y sefyllfa tros 3 blynedd.  Fodd bynnag, ers cyhoeddi cyllideb cenedlaethol y Canghellor mis Ebrill, roedd y cynllun hwnnw'n edrych yn llawer rhy optimistaidd.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at Dabl 3 o'i gyflwyniad (Cynllun Ariannol Tymor Canolog) oedd yn cyfeirio at gyfanswm cyllideb am y blynyddoedd 2009-12 yn cael eu cyllido gan y Dreth Gyngor, cyllid diamod y Cynulliad ac arian wrth gefn.

 

Aeth y Cyfarwyddwr yn ei flaen i ddweud bod yr Adran yn y broses o gwblhau'r cyfrifon am 2008/09 ac y byddent yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar ddiwedd y mis i'w cadarnhau.

 

 

 

Fe fu gostyngiad net yn ystod Mawrth.  Roedd sefyllfa o safbwynt gwariant wrth gefn yn edrych ychydig yn waeth yn awr nag ym mis Mawrth pan roedd swyddogion yn ceisio rhagamcanu'r sefyllfa ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol.

 

 

 

Pan oedd rhywun yn edrych ar y flwyddyn gyfredol, roedd yna welliant bychan yn y sefyllfa ariannol.  Yn seiliedig ar fonitro'r chwarter cyntaf yn unig fe ellid gweld bod yna ychydig o danwariant mewn cyllidebau corfforaethol.  Roedd swyddogion wedi nodi y byddai chwyddiant yn risg sylweddol yn nhermau'r flwyddyn bresennol, ond roedd yn ymddangos na fyddai'r Cyngor angen yr arian yr oedd wedi'i gadw ar gyfer chwyddiant.  Os byddai hynny'n troi allan fel y disgwylid, y gobaith oedd y byddai yna welliant bychan am 2009/10.  Roedd y sefyllfa felly wedi gwella mewn un blwyddyn ond wedi gwaethygu mewn un arall.

 

 

 

Atgoffa'r Cyngor wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol o'r neges roedd wedi ei roddi i'r Pwyllgor Gwaith ar 9 Chwefror 2009 pan fu iddo fabwysiadu'r gyllideb am y flwyddyn hon a'r cynllun 3 blynedd.  Roedd y Cyngor yn defnyddio ei arian wrth gefn i raddau helaeth.  Erbyn mis Mawrth, roedd yn ymddangos bod y sefyllfa ariannol genedlaethol yn gwaethygu a bod swyddogion yn nerfus o ddefnyddio £2m o'r arian wrth gefn.

 

 

 

Y neges oedd, yn hytrach na defnyddio'r £2m o'r balansau, bod pob arbediad ddoi i ni'r flwyddyn hon yn rhywbeth i'w fancio yn hytrach na rhywbeth i ariannu gwariant pellach.  Rhaid fydd meddwl fel hyn am y cyfnod sydd i ddod er mwyn sicrhau y gellir lleihau'r ddibyniaeth ar arian wrth gefn.  Fodd bynnag, fe fyddai yna arian wrth gefn mewn blynyddoedd i ddod i ddelio gyda'r storm sy'n cael ei hwynebu o safbwynt cyllid cyhoeddus.  

 

 

 

Hwn oedd y neges a roddwyd i'r Cyngor Sir yn ôl ym mis Mawrth ac nid oedd y Cyfarwyddwr am ymddiheuro tros ail adrodd hyn heddiw.  Aeth yn ei flaen i gyfeirio at y flwyddyn ariannol nesaf - 2010/11.  Pan wnaeth y Cyngor fabwysiadu cynllun 3 blynedd, roedd y swyddogion yn rhagamcanu 1.3% yn ychwanegol o gyllid gan y Cynulliad.  Roedd 1.3% yn hanesyddol isel.  Ers hynny mae'r Canghellor wedi cyhoeddi ei gyllideb genedlaethol yn Ebrill y flwyddyn hon ac wedi torri'n ôl yn sylweddol ar y cyllid sy'n dod o Lundain i Gaerdydd.  Roedd cyllideb y DU wedi torri yn ôl £215m ar  gyllideb refeniw y Cynulliad a £200m ar y cyllideb Cyfalaf.  Os byddai toriad cyllideb refeniw'r Cynulliad oddeutu 1.5% yna y dybiaeth niwtral fyddai dim cynnydd ariannol i gyllid y Cyngor hwn.

 

 

 

Ar gyfartaleddd roedd yr arian i lywodraeth leol yn cynyddu 2.9%.  Roedd rhai Cynghorau yn gwneud yn well neu'n waeth na hynny.  Roedd hyn wedi digwydd bob blwyddyn ers cael y fformiwla gyllido gyda nifer o wahanol ystadegau i fesur yr angen.  Roedd yr isaf wedi derbyn 1.6% a'r gorau yn cael 4.7%.  Yn ddiweddar roedd y Cyngor wedi bod yn gwneud yn waeth o dan y fformiwla na'r cyfartaledd i Gymru.  Y prif reswm tros hyn oedd nad oedd poblogaeth yr ynys yn tyfu fel gweddill poblogaeth Cymru.  Pe byddai'r Cynulliad yn gostwng y 2.9% i 2% yna ni fyddai'r Cynghorau yn y gwaelod yn cael ond 0.7%.  Pebai Cynghorau yn derbyn 1.3% ar gyfartaledd yna ni fyddai'r Cynghorau yn y gwaelod yn derbyn dim.   Roedd disgwyl y byddai datganiad ar hyn ar 13 Hydref.  Yn 2010/11 roedd yn bosibl na fyddai yna gynnydd ar gyfer chwyddiant na dim byd arall ac y byddai'r Cyngor hwn yn derbyn rhywbeth tebyg i'r flwyddyn hon, y flwyddyn nesaf.  

 

 

 

Ar hyn o bryd, roedd y Cynghorau'n ymwybodol o'r toriadau o Lundain i Gaerdydd.  Ar 6 Hydref byddai'r Cynulliad yn cyhoeddi ei gyllideb a dyna pryd y byddwn yn gwybod sut y mae llywodraeth leol wedi gwneud yn nhermau ei ran o'r deisen.  Yr wythnos ddilynol fe fyddem yn gwybod sut yr oedd y swm honno i'w rhannu rhwng y Cynghorau unigol.  Oherwydd mai Môn oedd yn debygol o gael y cynnydd lleiaf ar gyfartaledd, fe gafwyd trafodaeth arall yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am dermau'r 'cyllid llawr'.  Golygai hyn bod llawr o 0.5% neu 1% wedi ei osod ac na fyddai unrhyw Gyngor yn cael llai na hynny.

 

 

 

Yn y trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf roedd yna deimlad ymysg Cynghorau yng Nghymru y dylai fod yna rhyw fath o lawr yn y setliad unwaith yn rhagor. Roedd y Cyfarwyddwr yn croesawu gweithredu o'r fath gan ei fod yn diogelu'r Cyngor hwn o safbwynt yr arian geid o'r Cynulliad.  Fodd bynnag, mewn graff oedd wedi'i baratoi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglyn â'r cynnydd yn y Dreth Gyngor am 2009/10 trwy Gymru, roedd capio wedi ei osod ar 5% ac roedd nifer o Gynghorau'n agos, neu ar ben y ffigwr hwn.  Y ffigwr cyfartaleddog oedd 3.95%.  Yr hyn yr oedd rhai Cynghorau'n ei ddweud oedd, pebai'r Awdurdod hwn er enghraifft mewn sefyllfa lle roedd wedi cael ychwanegiad isel iawn gan y Cynulliad a'i fod angen help gan y 'cyllid llawr', yna nid oedd yr Awdurdod hwn i fod i ddefnyddio'r ffigwr hwnnw tuag at leihau'r Dreth Gyngor.  Pebai, dyweder £1m yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad, yna fe fyddai'r Cynulliad yn disgwyl i swm debyg gael ei godi gan y Treth Dalwyr.  Roedd y neges hwnnw wedi ei wneud yn glir dros y blynyddoedd ac roedd yn gryfach byth erbyn heddiw.

 

 

 

Roedd disgwyl i'r Cyngor hwn gael cynnydd yn y Dreth Gyngor pebai'n derbyn y diogelwch hwnnw gan y Cynulliad.  Roedd yma neges pwysig iawn i'r holl aelodau pan ddoi'r Cyngor hwn i drafod y Dreth Gyngor.  Roedd y Cyngor hwn yn chwarae gêm genedlaethol gydag Awdurdodau eraill a gyda'r Cynulliad.

 

 

 

Nid oedd y Cyfarwyddwr yn ystyried bod y Cyngor hwn mewn sefyllfa lle gallai unrhyw gorff cenedlaethol orfodi penderfyniadau arno.  Ar ddiwedd y dydd penderfyniadau democrataidd lleol fyddai'n cael eu gwneud.  Ond wrth wneud y penderfyniad hwnnw, roedd yn rhaid i rhywun ystyried yr hyn oedd yn cael ei ddisgwyl a'r posibilrwydd o golli cefnogaeth ariannol.

 

 

 

O edrych ar y rhagolygon am 2010-11 byddai'r wasgfa economaidd yn creu pwysau ar rai cyllidebau gyda mwy o alw am rai gwasanethau.  Fe allai arfarnu swyddi fod yn gost ychwanegol ar y gyllideb.  Roedd pensiynau'r sector cyhoeddus hefyd yn broblem ar draws y bwrdd yn y sector cyhoeddus.  Roedd rhai yn dweud yn genedlaethol bod pensiynau'r sector cyhoeddus yn bwn annheg ar y wlad.  Roedd y pwn hwnnw yn disgyn ar y gronfa bensiwn.

 

 

 

Dim ond capasiti cyfyngedig iawn oedd yna i godi incwm oherwydd y wasgfa ariannol.  Roedd gallu pobl i dalu yn nhermau ffioedd yn gostwng.  Roedd chwyddiant yn isel ac roedd disgwyliadau y cyhoedd wedi gostwng yn nhermau yr hyn yr oedd yn rhesymol i'w dalu.  Yn y gorffennol, roedd codi ffioedd parcio neu brydau ysgol wedi cyfrannu tuag at leihau'r problemau ariannol. Efallai bod ein gallu i wneud hyn yn awr wedi'i gyfyngu oherwydd y sefyllfa ariannol. Roedd yna ansicrwydd mawr hefyd o safbwynt chwyddiant a graddfeydd llog a sut y byddai'r wasgfa yn cael effaith ar wasanaethau'r Cyngor.  Rydym ni i gyd mewn sefyllfa nas gwelwyd o'r blaen.

 

      

 

     Gan edrych ymlaen ar y rhagolygon am 2011-12 ac wedyn - roedd y toriadau i wario cyhoeddus yn wybyddus gan i'r Canghellor osod ei gyllideb am y flwyddyn.  Mae hefyd yn dibynnu ar yr hyn a ddywed y Prif Weinidog heddiw gan i gyfeiriad gael ei wneud at doriadau pellach ar ben y toriadau oedd wedi'u crybwyll yn flaenorol.  

 

      

 

     Fe adroddodd Pricewaterhouse Coopers yn ôl yr wythnos ddiwethaf a theitl ei gyflwyniad oedd 'Managing in a Perfect Storm'.  Yr hyn yr oedd yn ei olygu oedd bod bopeth drwg yn digwydd gyda'i gilydd lle mae rhywun yn colli arian ac roedd yna wasgu a chostau uwch ar wasanaeth.  Roedd y cwmni wedi dweud y gallwn fod o fewn 2-3 blynedd yn wynebu toriadau o rhyw 20-30%.  Roedd hynny yn llawer iawn gwaeth nag unrhyw ffigyrau yr oedd ef fel Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi'i rhoddi i'r aelodau heddiw.  

 

      

 

     Dyma hefyd yr oedd SOLACE yn ei ddweud gyda'u ffigyrau drafft o'r diffyg yn y gyllideb flynyddol am 2013-14 i awdurdodau bychan yn £5m ar ei orau, yn y canol yn £13.8m ac ar ei waethaf yn £33.4m.  Dim ond Awdurdod bychan yw'r Cyngor hwn gyda chyllideb flynyddol o £110m.  Roedd £33m felly yn doriad o 30% yn y gyllideb.  Roedd y Cyfarwyddwr yn gobeithio y byddai'r Cyngor hwn yn nes at y canol, ond fe allai fod yn waeth ac nid oedd yn debygol o fod yn well.

 

      

 

     Pan oedd yn edrych ar y rhagolygon am 2011-12, roedd yn gweld bod yna bwysau ar gostau, yswiriant cenedlaethol a chynnydd mewn pensiynau o 2011, codiad yn y dreth tirlenwi a thoriad ariannol yng nghyllid y Cynulliad.

 

      

 

     Os oedd yr aelodau yn tybio bod y newyddion hwn yn newyddion drwg, yna roedd y gwariant cyfalaf i'r sector cyhoeddus yn llawer gwaeth.  Byddai cyllid cyfalaf y Cynulliad yn haneru erbyn 2013/14.  Roedd yn anodd iawn meddwl hyn trwodd yn yr effaith gai o safbwynt rhaglenni cyfalaf.

 

      

 

     Roedd yn rhagweld toriadau dros y misoedd i ddod i gyllid sail a rhai grantiau cyfalaf yn cael eu torri gan y Cynulliad a Llywodraeth Leol.  Fe allai fod yn sefyllfa lle na fyddai unrhyw brosiectau cyfalaf newydd o gwbl.

 

      

 

     Tynnodd sylw'r Cyngor at y datganiadau canlynol wnaed gan unigolion yn yr ychydig fisoedd diwethaf ynglyn â gwariant cyhoeddus.

 

      

 

     "As Finance Minister, I have been saying consistently for around 18 months now, the years of plenty have come to an end, and we need to be planning form some lean years coming ahead" Andrew Davies AC, Dragon's Eye, 12 Chwefror 2009.

 

      

 

     "Public service managers that do not plan their spending on the basis that they will have substantially less money to spend in two years are lliving in cloud-cuckoo-land"  Steve Bundred, Prif Weithredwr y Comisiwn Archwilio, Y Times 27 Chwefror.

 

      

 

     "For years politicians have argued about how to spend the proceeds of growth.  For years to come they will have to argue about what should be cut"  Nick Robinson, BBC, 23 Ebrill 2009.

 

      

 

     Roedd y Cyfarwyddwr yn meddwl bod y datganiad olaf hwn yn un arwyddocaol iawn i'r Awdurdod hwn.  Pan oedd y Cyngor yn trafod ei flaenoriaethau roeddent fel arfer yn flaenoriaethu ar gyfer datblygu gwasanaethau i'r rhaglen gyfalaf h.y. adeiladau newydd ac ati.  Ond yn y dyfodol, byddai'n rhaid canolbwyntio'r trafodaethau ar doriadau ac roedd y posibilrwydd o dwf mewn gwasanaethau yn sero.

 

      

 

     "The public sector will be the last sector into the recesion and the last one out.  So far, it has been government policy to protect public services, and no government is going to introduce cuts or even threaten them with a general election looming.  This all bodes very ill for the budgets allocated to public organisations after the election"  Jeff Jones, Ymgynghorydd Llywodraeth Leol, Western Mail, 12 Awst 2009.

 

      

 

     "The decisions we take over the next year or so will define the shape of Wales, the Unitd Kingdom, for the next decade and beyond"  Alastair Darling, yn siarad gydag arweinwyr busnes Cymreig, 8 Medi 2009.

 

      

 

     Nid oedd neb yn crybwyll toriadau cyn yr Etholiad Cyffredinol.  Fodd bynnag, erbyn heddiw, roedd y pleidiau gwleidyddol yn cydnabod bod toriadau yn anorfod, pwy bynnag oedd mewn grym. Roedd y sector cyhoeddus fel arfer yn dilyn y sector preifat mewn creisis economaidd.  Hyd yn oed pebai'r dirwasgiad yn dod i ben heddiw, roedd y pwysau o doriadau ar wariant cyhoeddus yn dal i barhau.  

 

      

 

     Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro ei ymgais i ddiwygio'r cynllun 3 blynedd o 2009-10 i 2012-13.  Byddai mwy o bwysau ar wariant, pensiynwyr ac ati a byddai cyllid yn lleihau.  Roedd wedi tybio yn ei ffigyrau y byddai'r Cyngor yn codi'r Dreth Gyngor rhyw 4% yn dilyn y neges roddwyd iddo gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Oherwydd hyn, roedd y ffigyrau ychydig bach yn well na'r ffigyrau yr oedd wedi eu darparu fis Mehefin.  Ym Mehefin roedd wedi siarad am doriadau o £10m dros 3 blynedd.  Byddai lefel y toriadau oedd i'w gwneud yn fwy nag unrhyw doriadau a wnaed yn ystod bywyd y Cyngor hwn.

 

      

 

     Aeth y Cyfarwyddwr yn ei flaen i awgrymu sut y gellid gwneud y toriadau.  Y drefn arferol oedd torri'r rheolaeth uchaf, swyddogaethau swyddfeydd cefn a dileu gwasanaethau anstatudol.

 

      

 

     Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn ddigon ac nid oeddynt ond rhan fechan iawn o'r gyllideb.  Ni fyddai arbed 20% o gostau uwch rheolaeth yn rhoi ond £0.3m; byddai 10% o wasanaethau cefnogol ynrhoi £0.7m.  Roedd y rhain yn dargedau uchel iawn ac fel arfer fe fyddant yn is na hyn h.y. y lefel realistig i'w gyrraedd:  Toedd yr holl wasanaethau anstatudol a ddarperir gan y Cyngor ond yn costio £5m.  Pebai'r Cyngor yn penderfynu cau bob un o'i Wasanaethau Hamdden a Datblygu Economaidd, ni fyddai'n gwneud digon o arbedion.

 

      

 

     Byddai rhaid i'r Cyngor felly edrych ar wasanaethau statudol.  Roedd y rhan fwyaf o'r gyllideb honno yn mynd tuag at Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Byddai rhaid i'r Cyngor feddwl am wahanol batrymau o wasanaeth gan ei bod yn bosibl y gallai disgwyliadau'r cyhoedd newid.  Fe allai safonau cenedlaethol newid trwy'r wlad i gyd, efallai trwy'r byd i gyd.

 

      

 

     Fe ofynnwyd i'r Cyfarwyddwr yn ddiweddar yn y Prif Bwyllgor Sgriwtini i ddarparu rhestr o'r hyn allai'r Cyngor hwn ei wneud i gyflawni'r arbedion hyn.  Fe fyddai penderfyniadau anodd i'w gwneud o safbwynt y math o arbedion yr oedd yn rhaid eu cael.  

 

      

 

     Rhaid i'r Cyngor, felly edrych a allai fforddio ai peidio y lefel bresennol o Ganolfannau Hamdden, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Dydd yn ei drefi a'i bentrefi.

 

      

 

     O safbwynt rhesymoli ysgolion cynradd, roedd y Cyngor hwn eisoes wedi trafod cau 4/5 o ysgolion.  Roedd hynny wedi achosi consyrn mawr yn y gymuned.  A oedd y Cyfarwyddwr yn ystyried y byddai'n rhaid ail edrych at y ffigwr hwn hefyd tros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac fe allai'r ffigwr fod rhwng 10-20 o ysgolion cynradd.  A allai'r Cyngor barhau i gadw chweched dosbarth ym mhob ysgol uwchradd?  Pe baem yn rhesymoli, yna roedd yna gwestiwn o safbwynt cynaliadwyaeth y 5 Ysgol Uwchradd.

 

      

 

     O safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol, yn sicr byddai'n rhaid i'r Cyngor ail ymweld â'r trothwy lle roedd pobl yn cael cefnogaeth yn y gymuned.  Yn yr hinsawdd sydd ohoni, rhaid i bobl ddod yn llawer mwy annibynnol neu yn fwy dibynnol ar deulu neu gymdogion, oherwydd ni fyddai'r gefnogaeth sector cyhoeddus yno iddynt.  Rhaid i ni fynd yn ôl i'r hen ffordd o feddwl am bethau a pheidio dibynnu cymaint ar y wladwriaeth.  

 

      

 

     Roedd hefyd yn credu bod angen ail ystyried natur rhai o'r gwasanaethau oedd yn cael eu darparu gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.  Roedd rhai unigolion gydag anghenion dyrys iawn ac roedd y gost o'u cynnal yn y gymuned yn uchel iawn.  Roedd wedi bod yn bolisi cenedlaethol ers sawl blwyddyn i symud pobl allan o sefydliadau ac yn ôl i mewn i'r gymuned.  Roedd yn deall y polisi hwnnw, ond yn y dyfodol byddai'n rhaid ail ystyried polisïau o'r fath.

 

      

 

     Un gyllideb fawr arall oedd Priffyrdd ac efallai y byddai angen gwneud toriadau caled i gynnal a chadw priffyrdd.  Efallai y byddai angen cyflwyno mwy o gyfyngiadau ar y priffyrdd, megis pwysau, cyflymder, a chau rhai lonydd gwledig yn y tymor hir.  Yn olaf, nid oedd adfywio economaidd yn statudol ac efallai y byddai'n rhaid i'r Cyngor leihau'r lefel o fuddsoddiad.  O'i gymharu â Lloegr, roedd y gwariant yng Nghymru ar adfywio economaidd yn uchel iawn.  Roedd yna gwestiynau'n cael eu gofyn o safbwynt dyblygu gwaith a siroedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

 

      

 

     Nid opsiynau oedd yr uchod ond rhaid gweithredu arnynt i gyd dros gyfnod o amser.

 

      

 

     Yn olaf, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at yr hyn allai wella'r sefyllfa.  Byddai rhewi cyflogau sector cyhoeddus yn genedlaethol yn helpu.  Hefyd rhai cyfyngiadau ar bensiynau'r sector cyhoeddus.  Pebai toriadau'r DU yn disgyn ar adrannau heb eu datganoli e.e. pebai Llywodraeth Prydain yn gohirio Trident neu gardiau identiti, ni fyddai'r Cynulliad yn derbyn y run rhan o'r toriad.  Rhaid cael ail-feddwl byd eang ar lefelau derbyniol o ddyled gyhoeddus er mwyn mynd â ni allan o'r dirwasgiad hwn.

 

      

 

     Efallai y gallai pethau fod yn waeth ar ddiwedd y dydd gyda chwyddiant allan o reolaeth, pwysau economaidd yn arwain at fwy o alw am wasanaeth a mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am ymddiheuro i'r Cyngor am y newyddion drwg ond roedd yn ystyried y byddai'n ddefnyddiol fel cefndir i'r penderfyniadau anodd oedd yn wynebu'r Cyngor hwn.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am ei gyflwyniad a dweud y byddai copi o'r sleid ar gael i bob un o'r aelodau pe gwnaent gais amdano.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd Tom Jones, y Deilydd Portffolio Cyllid i'r Cyfarwyddwr am ei gyflwyniad.  Roedd y Cyngor yn wynebu amseroedd anodd.  Nid oedd pethau'n debygol o ddod yn well o safbwynt gwariant cyhoeddus hyd 2018 o leiaf.  Mewn geiriau eraill, roedd y Cyngor yn wynebu blynyddoedd anodd.  Roedd yn sefyllfa drist ond o leiaf roedd y Cyngor wedi cael darlun realistig o'r rhagolygon.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd P. S. Rogers ei fod yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a'u bod hwy wedi bod yn fwy ymwybodol o'r hyn oedd yn digwydd. Nid oeddent hwy mewn cymaint o sefyllfa sach llian a lludw.  Roeddent hwy yn wynebu'r dyfodol ac wedi rhoi cynlluniau yn eu lle ac yn edrych i gyrraedd yr amcanion hynny.  Faint o arian oedd wedi ei wastraffu gan y Cyngor hwn ar y contract prydau ysgol ac ar ail drefnu'r Cyngor a cholli ei gyn Reolwr-gyfarwyddwr?  Yn awr roedd yna Fwrdd Adfer a Rheolwr-gyfarwyddwr Interim yn dod i redeg y Cyngor hwn.  Roedd y Cyngor hwn yn gyfoethog o ran asedau, ac eto hwn oedd yr Awdurdod oedd yn perfformio waelaf yng Nghymru gyda'r bobl dlotaf yng Nghymru.  Yn ei farn ef, ni ddylid taro'r Canolfannau Hamdden yn gyntaf ac fe ddylai'r Cyngor fod yn edrych ar ffigwr cyffredinol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Penri Williams bod y Llywodraeth wedi rhoi £50b yn ychwanegol i'r system Fancio a hynny'n cyfateb i £55m ar gyfartaledd o arian Ynys Môn.  Gofynnodd faint yn fwy o arian fyddai'r Cyngor hwn yn ei dderbyn pebai'r fformiwla Barnett yn cael ei adolygu?  Roedd y Gemau Olympaidd yn costio £112m a'r cyfan yn cael ei wario yn Llundain.  Roedd Cyngor Gwynedd eisoes wedi derbyn rhestr o doriadau ynghyd â chostiadau a hynny oll yn dod i £22m.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ateb bod ffigyrau rhagamcanedig ar gyfer gwariant cyhoeddus yn ganlyniad i'r wasgfa ariannol ac nid yn ganlyniad y llywodraeth hwn yn achub y Banciau.

 

      

 

     Arian papur oedd yr arian a roddwyd i'r Banciau h.y. arian oedd wedi cael ei greu trwy weithred weinyddol.  Roedd yn cytuno bod yna anghyfiawnder yn fformiwla Barnett fel a ddangoswyd yn ddiweddar gan Gomisiwn Holtham.  Gyda fformiwla decach byddai Cymru'n well yn ariannol.  Fodd bynnag, nid oedd hwn yn amser pryd y byddai'r llywodraeth yn cydnabod hyn, yn arbennig cyn yr Etholiad Cyffredinol.  O safbwynt cael rhestr o doriadau, rhywbeth i'r aelodau etholedig oedd hynny mewn cydweithrediad â'r swyddogion.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE bod heddiw wedi bod yn ddydd o brysur bwyso.  Roedd wedi cael ar ddeall y byddai toriad o £5m y flwyddyn hon i Ynys Môn gan y Cynulliad ac £8m wedi hynny.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ei fod, yn ei amcanion fis Mehefin yn siarad am £5m y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf.  Yn ôl rhagamcanion heddiw, roedd wedi symud pethau ymlaen flwyddyn arall.  Roedd, felly, yn edrych ar £3-4m y flwyddyn yn y rhagamcan hwnnw.  Pan geid cyllideb y Cynulliad byddai'r ffigyrau hynny'n newid.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Aled Morris Jones, roedd angen i'r Cyngor ofyn i'r Cynulliad ac i Lywodraeth Ganolog fod yn onest gyda'u ffigyrau cyn yr Etholiad Cyffredinol.  Gofynnodd i'r Arweinydd ysgrifennu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn i Lywodraeth Leol edrych ar rai prosiectau, megis cardiau adnabod, gyda golwg iddynt cael eu diddymu.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd E. Schofield i'r Cyfarwyddwr am ei adroddiad clir.  Erbyn 2013 y rhagamcanion oedd y byddai yna doriadau o 30%.  Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddai'n rhaid i'r Cyngor ddechrau ar y gwaith o wneud arbedion nid yn unig yn ei wasanaethau anstatudol ond hefyd yn ei wasanaethau gorfodol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd C. Ll. Everett bod gan y Cyngor hwn asedau oedd lawer yn fwy na Chynghorau eraill ac y gallai sicrhau ychydig o arian trwy werthu lluniau Tunnicliffe yn Oriel Môn.  Fe allai hyn gael ei ddefnyddio tuag at gadw'r Canolfannau Hamdden.

 

      

 

     Wrth ateb, fe ddywedodd y Cyfarwyddwr (Cyllid) bod i werthu asedau mewn ariannu cynlluniau cyfalaf.  Ond, yn ystod yr hinsawdd bresennol, nid oedd gan bobl yr arian i brynu neu ni allant fenthyca arian o'r banciau.  Roedd prisiau yn y farchnad gelf yn mynd i lawr hefyd.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd C. Ll. Everett yn ei flaen i gyfeirio at y Cytundebau Adran 106 ynglyn â datblygu ar yr Ynys.  Roedd angen i'r Cyngor fod yn edrych ar fantais gynllunio i'w rhoi i mewn i gyfalaf anstatudol a phrosiectau refeniw.  Cyfeiriodd at Morrisons yng Nghaergybi fel y prif esiampl.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J. V. Owen ynglyn â'r gost i drethdalwyr Ynys Môn pebai'r holl Ganolfannau Hamdden yn cael eu cadw?

 

      

 

     Wrth ateb fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - pe byddai'r Cyngor yn penderfynu cadw pethau yr un fath yn hytrach na thorri £5m y flwyddyn nesaf, yna byddai hyn yn golygu cynnydd o 20-30% ar y Dreth Gyngor.

 

      

 

     Ni fyddai caniatâd i'r Cyngor weithio yn y fath fodd oherwydd byddai'n cael ei gapio gan y Cynulliad.  

 

      

 

     Ni fyddai cau'r Canolfannau Hamdden yn ddigon ac roedd y Cyngor hwn yn wynebu gorfod gwneud dwsin o benderfyniadau amhoblogaidd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn balansio'r gyllideb.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Raymond Jones yn meddwl bod symiau mawr o arian wedi ei wastraffu gan y Cyngor yn amddiffyn Marina Biwmares, trefnu cytundeb Rheolwr-gyfarwyddwr, costau wythnosol cyllido Oriel Môn a Chwrs Golff Llangefni.  Roedd o'r farn y dylai'r tir yn y cwrs golff gael ei werthu ar gyfer datblygiad tai.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Keith Evans paham yr oedd y Canolfannau Hamdden wedi eu neilltuo i gael sylw?  A oeddent yn darged hawdd ai peidio?

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn ateb nad oedd yn bosibl llunio rhaglen o arbedion i gyd gyda'i gilydd, roedd yn rhaid i un agwedd fod yn gyntaf.  NId oedd y Gwasanaethau Hamdden wedi'u neilltuo, dim ond bod y gwasanaeth hwnnw yn anlwcus o fod y cyntaf i'w ystyried.

 

      

 

     Dywedodd y Dirprwy Arweinydd mai ei ddealltwriaeth ef oedd bod Cwrs Golff Llangefni yn gwneud proffid ac nid colled.  Ynglyn â'r pwynt wnaed ynghynt ynglyn â'r Bwrdd Adfer, y cwbl y byddai'n ei wneud, fyddai edrych ar y penderfyniadau oedd yn cael ei wneud gan Gynghorwyr ac ni fyddai'n cyfarfod ar yr Ynys.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro y byddai'n cyfeirio at gylch gorchwyl y Bwrdd Adfer yng nghyfarfod y prynhawn heddiw.  O safbwynt Cwrs Golff Llangefni, cyfleuster cyhoeddus oedd hwn a thros y blynyddoedd roedd wedi bod yn iach iawn o safbwynt ei gyllideb a'i incwm.  Fodd bynnag, dros y ddwy flynedd diwethaf roedd y cwrs wedi dioddef yn ariannol oherwydd tywydd gwael.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn ystyried y dylai'r toriadau ddechrau gyda'r Gwasanaeth Addysg, gan bod athrawon oedd yn ymddeol ar ddydd Gwener yn dod yn ôl ar ddydd Llun fel athrawon llanw ac yn costio yn ddrud i bobl Môn.  Nid oedd athrawon ifanc newydd gymhwyso yn gallu cael swyddi o ganlyniad.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod y cwestiwn o ail gyflogi athrawon wedi codi sawl gwaith dros y blynyddoedd.  Roedd eu cyflogi yn fater i lywodraethwyr yr ysgolion ac nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hyn cyn belled a bod yr athrawon yn rhai cymwys, yn ffit ac yn iach.  Atgoffodd y Cyngor bod ysgolion wedi gorfod gwneud toriadau dros y 10-15 mlynedd diwethaf a bod yn rhaid i lawer o athrawon adael, nid allan o ddewis ond o anghenraid. Roedd yr Adran wedi atgoffa llywodraethwyr o'r angen i roi blaenoriaeth i athrawon oedd newydd gymhwyso.  Fodd bynnag, dim ond rhoi cyngor allai'r Adran ei wneud yn hyn o beth.  O safbwynt y Canolfannau Hamdden, roedd swyddogion wedi bod yn ymdrechu dros y blynyddoedd i sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy cost-effeithiol.  Yn y diwedd, mater i'r aelodau oedd penderfynu ar eu rhestr o flaenoriaethau.

 

      

 

     Penderfynwyd gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn iddo gysylltu â Llywodraeth Ganolog yn gofyn iddo adolygu prosiectau cenedlaethol y gellid eu dileu ar hyn o bryd, heb gael effaith ar wasanaethau lleol.

 

      

 

     (b)   Cyflwynwyd er gwybodaeth - Adroddiadau dderbyniwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 23 Mehefin, 2009 a 21 Gorffennaf 2009 mewn perthynas â'r Strategaeth Canolfannau Hamdden.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro iddi dderbyn cais i roi cyngor ar y drafodaeth fyddai'n cael ei chynnal yn y rhan hwn o'r cyfarfod.  Roedd y Cyngor llawn yn eistedd yn ei rôl fel Prif Bwyllgor Sgriwtini.  Roedd hynny'n golygu bod gan yr aelodau o'r Pwyllgor Gwaith oedd wedi cymryd rhan yn y penderfyniad gwreiddiol, ddiddordeb rhagfarnol, ond roedd y Côd Ymddygiad yn caniatáu iddynt barhau yn y cyfarfod ac i gymryd rhan yn y drafodaeth.  Fodd bynnag,  fe roddwyd cyngor iddynt nad oedd caniatâd iddynt bleidleisio ar unrhyw benderfyniad, oherwydd i bob pwrpas, roedd y Cyngor heddiw yn gweithredu fel Prif Bwyllgor Sgriwtini.  Fe allai Eitem 4 ar y rhaglen, fodd bynnag, gael ei benderfynu gan holl Aelodau'r Cyngor.

 

      

 

     Fe ofynnwyd hefyd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro roi cyngor i ddweud a oedd penderfyniadau ar leihau gwasanaethau mewn Canolfannau Hamdden yn cynnwys cau pyllau, ac a oedd yn fater i'r Pwyllgor Gwaith ynteu i'r Cyngor Llawn i'w drafod.

 

      

 

     Yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn y Cyfansoddiad oedd "os yw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn groes neu ddim yn hollol unol â'r fframwaith polisi, yna rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn".  Roedd y fframwaith polisi yn dechrau ar Dudalen 36 o'r cyfansoddiad ac yn rhestru dros 30 o gynlluniau a strategaethau oedd wedi'u mabwysiadu gan y Cyngor llawn ei hun.  Felly roedd angen i unrhyw benderfyniad oedd yn mynd i gael effaith ar y cynlluniau a'r strategaethau hynny gael eu gwneud gan y Cyngor llawn yn hytrach na gan y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Roedd wedi cysylltu gyda phob Pennaeth Gwasanaeth a gofyn iddynt ddadansoddi'r cynlluniau a'r strategaethau yn y fframwaith polisi yr oedd ganddynt hwy gyfrifoldeb amdanynt ac i adrodd yn ôl iddi hi gyda'u safbwyntiau i ddweud os oedd y bwriad i gau Canolfan Hamdden Biwmares a dau bwll nofio arall yn groes, neu ddim yn hollol unol, gydag unrhyw gynllun neu strategaeth oedd yn dod o dan ddyletswyddau'r Cyngor llawn.  Roedd wedi derbyn 5 ateb, wedi dadansoddi'r wybodaeth ac wedi dod i'r casgliad nad oedd y bwriad i gau yn hollol unol â'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc a'r Cynllun Gofal Cymdeithasol.  Roedd yna hefyd rhai elfennau yn y Cynllun Gwella a'r Cynllun Cymunedol oedd yn achosi pryderon iddi.  Roedd wedi derbyn adroddiad wedi'i baratoi gan y Gwasanaethau Hamdden ac roedd yn hapus i rannu'r adroddiad gydag unrhyw un oedd angen copi.  Roedd yn hollol fodlon mai mater ddylai hwn fod yn y pen draw i'r Cyngor llawn ac nid i'r Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE am gael copi ysgrifenedig o'i ddatganiad i bwrpasau egluro pethau.

 

      

 

     Dywedodd hithau y byddai'n rhoi copi i'r Cynghorydd Parry.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Rhian Medi os oedd yr un ddadl yn berthnasol i'r rhaglen rhesymoli ysgolion?

 

      

 

     Wrth ateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro i gyngor gael ei roi y tro diwethaf pan ddaeth y mater hwn gerbron y Pwyllgor Gwaith, a hynny'n seiliedig ar y wybodaeth dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Addysg ynglyn â chynnwys ei gynlluniau a'u strategaethau ar y pryd a hefyd ar gyngor y Cyfreithiwr Addysg wedi ei dderbyn gan y Cynulliad Cymreig.  Roedd wedi gofyn i'r Cyfreithiwr Addysg ac i Mr. Geraint Elis wneud y gwaith hwnnw unwaith yn rhagor cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar gau ysgolion.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd E. Schofield yn dymuno dweud ynglyn â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith ynglyn â chau pyllau nofio y byddai'r Pwyllgor hwnnw'n ystyried cau dau bwll nofio, ond yn dilyn ymgynghori gyda'r undebau a hefyd dderbyn adroddiad llawn ynglyn â'u cyflwr.  Nid oedd y penderfyniad gan y cyn Bwyllgor Gwaith 3 blynedd yn ôl yn ddigon cadarn o safbwynt Canolfan Hamdden Biwmares ac a oedd y Cyngor felly yn cael ei hun yn yr un sefyllfa yma heddiw?

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud ynglyn â'r Gwasanaeth Hamdden.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi bod yn ystyried yr hyn oedd yn fforddiadwy.  Roedd wedi dod i ganlyniad dros dro nad oedd yn edrych fel pebai'r Cyngor yn mynd i allu fforddio cadw pethau fel ag y maent a bod y Pwyllgor wedi gofyn i swyddogion wneud gwaith pellach ynglyn â chyflwr yr adeiladau a chael barn y staff a'r undebau.  Dywedodd nad oedd unrhyw beth yn rhwystro i'r Pwyllgor Gwaith gyflwyno argymhellion i'r Cyngor ynglyn â hyn.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd E. Schofield ymlaen i ddweud nad oedd y Pwyllgor Gwaith wedi gwneud penderfyniad terfynol ynglyn â chau'r pyllau.  Gofynnodd a fyddai'r Pwyllgor Gwaith yn cael ei wahardd rhag cymryd rhan mewn trafod a phleidleisio ar y mater yn y Cyngor?

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Monitro mewn ateb - unwaith yr oedd y mater gerbron y Cyngor am benderfyniad, nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar yr aelodau, oni bai fod ganddynt ddiddordeb personol.  Byddai hawl ganddynt i gymryd rhan mewn trafodaeth a phleidleisio cyn belled ag y gallai pawb ddangos eu bod wedi cadw meddwl agored h.y. eu bod yn barod i ystyried yr holl dystiolaeth, y dadleuon, a'r deunydd ymgynghori a gafwyd, erbyn amser y penderfyniad terfynol.

 

      

 

     Tynnu sylw'r Aelodau wnaeth y Cynghorydd C. Ll. Everett bod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Gorffennaf wedi penderfynu cau dau bwll nofio ar Ynys Môn.  Cafodd hwn wedyn ei alw i mewn gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini ac fe rwystrodd unrhyw weithredu ar y penderfyniad.  Roedd ef wedi cynnig yn y cyfarfod hwn y dylai'r mater gael ei gyfeirio i'r Cyngor llawn gan ei fod yn ystyried bod y Pwyllgor Gwaith yn torri rhai amodau yn y Cyfansoddiad.  Roedd hyn wedi cael ei gadarnhau gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro heddiw.

 

      

 

     Wrth ateb, dywedodd y Cynghorydd E. Schofield mai penderfyniad amodol oedd hwn gan y Pwyllgor Gwaith ac nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud hyd yma.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton mai'r pwynt sylfaenol oedd mai'r Cyngor ac nid y Pwyllgor Gwaith ddylai benderfynu ar ddyfodol y pyllau nofio.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd P. S. Rogers i'r Cynghorydd G. O. Parry egluro i'r Cyngor rai o'r sylwadau yr oedd wedi eu gwneud yn ddiweddar yn y wasg yn lleol yn dweud wrth blant ifanc am neidio i'r môr.

 

      

 

     Wrth ateb dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE mai'r sylw yr oedd wedi ei wneud oedd bod yna ddigon o draethau o amgylch yr arfordir a bod hynny'n rhoi cyfle i bobl i'w defnyddio a dysgu nofio yno.  Roedd cymaint o bobl wedi gwneud hynny yn y gorffennol.

 

      

 

     Nid oedd yn diystyru'r ffaith fod y pyllau yn ddefnyddiol iawn.  Roedd hefyd wedi nodi bod y twristiaid oedd yn dod yma yn manteisio ar ein harfordir prydferth a'n traethau a bod hynny'n rhan o gynnal eu hiechyd.  Roedd yna hefyd bob math o gyfleon i bobl fwynhau ein hynys ac i gadw'n heini ac yn iach.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad dderbyniwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 23 Mehefin a 21 Gorffennaf, 2009.

 

      

 

     (c)   Cyflwynwyd a nodwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Prif Bwyllgor Sgriwtini gynhaliwyd ar 7 Awst 2009 (Galw i Mewn).

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd C. Ll. Everett yr aelodau at dudalennau 5 a 6 o'r cofnodion lle roedd wedi cyfeirio'n benodol at y Clwb Codi Pwysau yng Nghaergybi.  Gofynnodd am i ddyfodol y clwb gael ei gyfeirio i sylw'r Ymddiriedolaeth Elusennol gyda chais bod yr Ymddiriedolaeth yn rhyddhau arian cyfalaf er mwyn cyflawni amcanion y clwb.  Gofynnodd ymhellach i'r Cynghorydd G. W. Roberts dderbyn hyn fel rhan o'r Rhybudd o Gynigiad y byddai'r Cyngor yn ei drafod yn eitem 4 ar y rhaglen.  Cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) roedd yn iawn bod y Cyngor yn gofyn i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ryddhau cyfalaf.  Fodd bynnag, ei gyngor i'r Ymddiriedolaeth fyddai y byddai'n rhaid i'r cais gael ei wrthod gan nad oedd yn cydymffurfio gyda rheolau'r Ymddiriedolaeth oherwydd na allai'r Ymddiriedolaeth wneud cyfraniad tuag at wasanaeth oedd yn gyfrifoldeb y Cyngor Sir.  Nid gwaith yr Ymddiriedolaeth oedd achub y Cyngor o'i broblemau.  Nid oedd allan o drefn, ond roedd yn ystyried y byddai'n anoeth i'r Cyngor wneud cais o'r fath.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd E. Schofield fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol, y byddai'n barodi i dderbyn cais gan y Clwb Codi Pwysau i'w ystyried os oedd yn bodloni amodau'r Ymddiriedolaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd C. Ll. Everett - yng ngoleuni'r sicrhad uchod gan y Cynghorydd Schofield, roedd yn barod i dynnu ei gynnig yn ôl.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd T. Lloyd Hughes am i unrhyw gais i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn y cyswllt hwn gymryd safbwyntiau Ysgol Uwchradd Caergybi hefyd i ystyriaeth.

 

      

 

     Ar fater arall, cyfeiriodd y Cynghorydd J. Penri Williams at Tudalen 7 yn y cofnodion lle roedd wedi gofyn am y posibilrwydd o arbed arian ar ein Canolfannau Hamdden trwy ddefnyddio'r ymddiriedolaeth garbon, paneli ynni haul gwyrdd, pwer stem, melinau gwyrdd ac insiwleiddio adeiladau gyda phapur.

 

      

 

     Wrth ei ateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cymunedau Hamdden) bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglyn â defnyddio tyrbinau gwynt a'r ymddiriedolaeth carbon.  Roedd pob ymdrech yn cael ei wneud i arbed arian.  Roedd mwy o waith i'w wneud cyn y gallai swyddogion ddod ag adroddiad yn ôl i'r aelodau ar ffyrdd o sicrhau arbedion.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r materion y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd J. Penri Williams yn cael eu cymryd i ystyriaeth cyn y gwneid unrhyw benderfyniad terfynol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys cofnodion y Prif Bwyllgor Sgriwtini ar 7 Awst 2009.

 

      

 

4

RHYBUDD O GYNNIG YN UNOL Â PHARA 4.1.13.1 O'R CYFANSODDIAD

 

      

 

     (i)  Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd G. Winston Roberts OBE:-

 

      

 

     "Dylid gohirio'r penderfyniad i gau'r canolfannau hamdden yn Ynys Môn am dair blynedd a thrwy hynny greu sefydlogrwydd i'r staff a'r defnyddwyr.

 

      

 

     Dylid cynnal asesiad effaith manwl yng nghyswllt costau ac edrych ar opsiynau eraill, ond yn fwy na dim dylid cael trafodaeth fanwl gyda'r cyhoedd, a gweithio y tu mewn i bolisi'r Cyngor ei hun - Strategaeth Iechyd a Lles".

 

      

 

     Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i'r cynnig, oedd wedi ei gytuno gan y Pwyllgor Gwaith yr wythnos diwethaf, sef na ddylai unrhyw un Ganolfan Hamdden gau hyd nes i ymchwiliad llawn gael ei gynnal ar bob Canolfan.  Byddai'r Pwyllgor Gwaith yn adolygu costau staffio a chynnal a chadw, cyflwr strwythurol yr adeiladau, yn cynnal trafodaeth lawn gyda'r gweithlu ac yn derbyn ymateb y sector gwirfoddol a'r sector preifat ynglyn â chymryd trosodd y canolfannau, ac a fyddent angen rhyw fath o gymorth ariannol i hyrwyddo unrhyw drosglwyddiad.

 

      

 

     Roedd cyfeiriad wedi ei wneud at gwblhau'r gwaith hwn o fewn 3 mis.  Fe roddwyd y cyfnod amser hwn i mewn yn fwriadol oherwydd bod y Pwyllgor Gwaith eisiau dechrau'r gwaith ar unwaith fel y byddai mewn sefyllfa i lunio cyllideb i'w fabwysiadu gan y Cyngor am flwyddyn ariannol 2010/11.

 

      

 

     Fel Arweinydd, roedd yn derbyn yr hyn yr oedd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wedi ei ddweud yn y Pwyllgor Gwaith diwethaf, bod yr amserlen yn rhy dynn ar gyfer y math o waith oedd angen ei wneud.  Felly, y gobaith oedd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Ionawr 2011, sef 15 mis ymlaen o heddiw.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod yna beth consensws ar draws Grwpiau Gwleidyddol i sicrhau bod gwaith pellach yn cael ei wneud cyn i'r Cyngor ddod i benderfyniad terfynol.  Ail ddywedodd yr hyn yr oedd wedi'i ddweud yn y Pwyllgor Gwaith, sef y gallai'r gwaith manwl yn awr gael ei gwblhau o fewn yr amserlen newydd.  Gofynnodd i'r Cyngor ystyried hyn fel targed ac na ddylid dal y swyddogion yn rhy gaeth i ddyddiad penodol gan ei bod yn holl bwysig cael yr atebion iawn cyn dod i benderfyniad.  Roedd yn cytuno y dylid cael cynllun prosiect ac y dylai'r swyddogion adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Pwyllgor ynglyn ag unrhyw lithriad neu anawsterau gyda'r broses.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd E. Schofield o'r farn na ddylid gwneud penderfyniad ar y Canolfannau Hamdden nes byddai gwybodaeth i law ynglyn â'r arbedion y gellid eu gwneud ar draws gwasanaethau'r Cyngor, yn arbennig y gwasanaethau statudol.  Yr oedd  yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd i drafod un gwasanaeth ar wahân i wasanaethau eraill.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE - os oedd y Cyngor yn cytuno gyda'r gwelliant roddwyd gerbron gan yr Arweinydd, yna roedd yn barod iawn i dynnu ei Rybudd o Gynnig yn ôl, ar y dealltwriaeth bod y Cyngor yn cytuno y byddai, o heddiw, yn edrych i wneud arbediad o 10% yn y penderfyniad.

 

      

 

     Wrth ateb dywedodd yr Arweinydd nad oedd yn barod i gynnwys y ffigwr o 10% yn ei welliant ond yn sicr byddai'n rhaid i'r dyddiad olaf i'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad ar y Canolfannau Hamdden fod mewn pryd ar gyfer cynllunio cyllideb 2011/12.

 

      

 

     O dan ddarpariaethau Rheol y Cyngor 18.5 cytunwyd i gymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar y mater.

 

      

 

     O blaid y gwelliant roddwyd gerbron gan yr Arweinydd:-

 

      

 

     O blaid:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, B. Durkin, E. G. Davies, Lewis Davies, K. Evans, Jim Evans, C. Ll. Everett, D. R. Hughes, K. P. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, A. Morris Jones, G. O. Jones, R. Ll. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, T. Jones, C. McGregor, Rhian Medi, B. Owen, J. V. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, R. G. Parry, OBE, Eric Roberts, J. Arwel Roberts, G. W. Roberts, OBE, P. S. Rogers, J. Williams, J. Penri Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Cyfanswm: 32

 

 

 

Yn Erbyn:  Dim                                        Cyfanswm: 0    

 

 

 

Atal:  Y Cynghorydd E. Schofield                              Cyfanswm: 1

 

 

 

Cafodd y gwelliant ei gario.

 

 

 

(ii)  Cafodd y Rhybudd o Gynnig canlynol ei gyflwyno gan y Cynghorydd W. J. Chorlton:-

 

 

 

"Ar ddiwrnod y cyfarfod arbennig o'r Cyngor ar 20 Gorffennaf 2009, cyflwynasom rybudd o gynnig i Mr. Richard Parry Jones a drosglwyddwyd wedyn i chi fel Cadeirydd y Cyngor.

 

 

 

Roedd y rhybudd dan Reol 4.1.3.4 y Cyfansoddiad yn gofyn i chi alw cyfarfod arbennig o'r Cyngor i drafod cau'r Canolfannau Hamdden.  Hyd yma ni chefais ateb gennych ac o'r herwydd bwriadaf ddefnyddio 4.1.3.1.2 y Cyfansoddiad a gofyn i Mr. Richard Parry Jones, fel Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro, alw cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir dan y rheolau i drafod y mater uchod."

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton nad oedd wedi derbyn unrhyw gydnabyddiaeth o'i gais.  Roedd y Cadeirydd wedi anwybyddu rheolau'r Cyfansoddiad ac roedd yn credu y dylid gwneud cwyn swyddogol yn erbyn y Cadeirydd yn hyn o beth.

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro ei fod wedi derbyn Rhybudd o Gynnig a bod hwnnw wedyn wedi'i anfon ymlaen i sylw'r Cadeirydd.  Ni allai roi ateb ar ran y Cadeirydd gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.  Ni allai ond tybio bod materion eraill wedi dod ar draws pethau ac i benderfyniad gael ei wneud gan swyddogion i alw cyfarfod arbennig heddiw.  Yr ateb ffurfiol oedd, "oedd", sef fe ddylai'r Cynghorydd Chorlton fod wedi derbyn ymateb ffurfiol i'w lythyr dyddiedig 20 Gorffennaf.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1:15pm

 

 

 

Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

CADEIRYDD (Eitemau 1-3a yn unig)

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD SELWYN WILLIAMS

 

IS-GADEIRYDD (Eitemau 3(b) - 4).