Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 15 Medi 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2009

CYFARFOD CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2009 (2:00pm)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd O. Glyn Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd Selwyn Williams - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Keith Evans,  C. Ll. Everett, D. R. Hughes, Fflur M. Hughes, K. P. Hughes,  R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, W. T. Hughes, Eric Jones, Gwilym O. Jones, Raymond Jones, R. Dylan Jones, R.  Ll. Jones, T. H. Jones, Aled Morris Jones, Clive McGregor,  Bryan Owen, J. V. Owen, R.L. Owen, Bob Parry OBE,  G.O. Parry MBE, Eric Roberts, G. W. Roberts, OBE, J. Arwel Roberts, P. S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas, Ieuan Williams. John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)

Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Tai)

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau.

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr   P. M. Fowlie, H. Eifion Jones, Rhian Medi

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr. David Bowles - Rheolwr-gyfarwyddwr Interim.

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adain Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd C. L. Everett ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Personel.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Tai.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Elwyn Schofield ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wyr yn yr Adran Priffyrdd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd B. Owen ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G. W. Roberts OBE ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol

 

Gwnaeth y Cynghorydd A. Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg.

 

 

 

 

2

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir gofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gafwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

5 Mai, 2009 (am)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Eitem 4 - Cofnodion

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 5 Mai 2009 (am) yn y drafodaeth ar gofnodion y Cyngor a gafwyd ar 27 Mawrth 2009, wedi penderfynu derbyn y cofnodion fel rhai cywir gyda'r amod bod swyddogion yn adrodd yn ôl i gyfarfod arferol nesaf y Cyngor ym Medi ar yr union eiriau a ddefnyddiwyd yng nghyfarfod 27 Mawrth gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE yng nghyswllt erthygl a ymddangosodd yn y Daily Post.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd Parry iddo ddefnyddio gair amhriodol yng ngwres y drafodaeth ac roedd yn tynnu'r gair hwnnw'n ôl os oedd yn creu anesmwythyd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton nad oedd yn hapus gyda'r ymateb a hynny am nad oedd y cofnodion yn gofnod cywir onid oedd yr union eiriau wedi eu cofnodi.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro mai'r union eiriau a ddefnyddiwyd yng nghyfarfod 27 Mawrth oedd y rhai a ganlyn:-

 

 

 

"......in today's edition of the Daily Post - a newspaper kept alive by it's obituary column and you can see why - it is dying on it's feet because it is carrying a load of bullshit".

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r cywiriad i'r cofnodion.

 

 

 

Ÿ

30 Mehefin 2009

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

(i)  Eitem 3 - Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru - Adolygu trefniadau Etholiadol Ynys Môn

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Keith Evans yn mynegi pryder gan fod y Cyngor yn y cyfarfod hwn wedi penderfynu gwrthwynebu wardiau aml-aelod, ond er hynny anfonwyd llythyr dyddiedig 13 Gorffennaf 2009 mewn ymateb at y Comisiwn Ffiniau yn dweud bod dymuniad i osgoi trefniadau o'r fath.  Ond er gwaethaf hynny roedd y swyddog dan sylw wedi cyflwyno cynigion i'r Comisiwn Ffiniau gan ddod â holl wardiau Caergybi at ei gilydd fel ward aml-aelod a hefyd roedd Ward Cadnant a Phorthaethwy ynghlwm wrth Lanfair-pwll.  Y pryder ym Mhorthaethwy oedd bod y ward yr oedd ef yn ei chynrychioli (800 o etholwyr) yn mynd i gael ei boddi wrth gyfuno gyda Llanfair-pwll. O'r herwydd nid oedd gan yr ymgeisydd o Borthaethwy unrhyw siawns yn erbyn 2,400 o etholwyr yn Llanfair-pwll.  Buasai trefn o'r fath yn gwbl annemocrataidd ac i bob pwrpas yn dwyn hawliau etholiadol hanner tref Porthaethwy.

 

 

 

Ni wyddai sut y medrai'r swyddog dan sylw fynd yn erbyn cyfarwyddiadau'r Cyngor ac yn erbyn y Panel a sefydlwyd i oruchwylio'r gwaith.  Mewn llythyr o eglurhad i aelodau'r Cyngor Sir dyddiedig 15 Gorffennaf dywedodd y swyddog iddo dderbyn, yn ystod y cyfnod ar ôl cyfarfod y Panel, nifer o wrthwynebiadau gan aelodau unigol a hefyd gan grwpiau gwleidyddol ar ôl ymgynghori yn eang.  Wedyn aeth y llythyr ymlaen i grybwyll nad oedd dewis ar y pryd dim ond rhoddi sylw i'r mater hwn yng Nghaergybi a Llanfair-pwll a Phorthaethwy trwy gyflwyno cynnig i greu rhanbarth aml-aelodau.  Gofynnodd y Cynghorydd Evans am i'r sylwadau yrrwyd gael eu tynnu'n ôl a hynny am eu bod yn groes i benderfyniad y Cyngor.

 

 

 

Hefyd roedd sawl aelod o'r Cyngor yn pryderu ynghylch dull delio gyda'r mater ac y dylai'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wneud ymholiadau i ganfod pam yr oedd y sylwadau hyn yn groes i ddymuniadau'r Cyngor.

 

 

 

Ar y llaw arall roedd rhai aelodau yn teimlo y buasai'r Cyngor yn destun sbort petai'n ysgrifennu at y Comisiwn Ffiniau yn dweud bod penderfyniad y Cyngor yn groes i'r sylwadau a anfonwyd at y Comisiwn.  Buasai cyfle arall ar gael yn ystod yr Hydref i gyflwyno rhagor o sylwadau pryd yr oedd y Comisiwn yn bwriadu llunio cynigion drafft a gwadd sylwadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unigolion eraill â diddordeb cyn gweithredu ar y penderfyniad terfynol wrth baratoi ar gyfer etholiadau Cynghorau Sir 2012.

 

 

 

I sicrhau tegwch i'r swyddog dan sylw, dygodd y Cynghorydd E. Schofield sylw'r Cyngor at benderfyniad y Cyngor ei hun a'r geiriad hwn "fel mater o fyrder rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol sefydlu Panel o aelodau i'w gynorthwyo gyda'r gwaith o lunio ymateb i'r Comisiwn Ffiniau" Mewn geiriau eraill, ar ôl gwrando ar bawb roedd hynny i fod o gymorth iddo lunio'r ymateb.

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones fod cyfarfod arbennig o'r Cyngor yn cael ei alw unwaith y bydd argymhellion y Comisiwn Ffiniau ar gael.  Eiliwyd y cynnig.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Keith Evans cafwyd cynnig bod y Cyngor unwaith eto yn dweud bod y cofnod yn gywir ond bod y swyddog dan sylw wedi gweithredu'n amhriodol ar y penderfyniad hwn ac y dylai'r cyflwyniad gael ei dynnu'n ôl.  Eiliwyd y cynnig.

 

 

 

Mewn ymateb i'r cynnig gan y Cynghorydd Keith Evans argymhellodd Cyfarwyddwraig y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro mewn geiriau cryf na ddylid argymell dod i gasgliadau yn erbyn y cyfryw swyddog heb yn gyntaf ddilyn y broses briodol.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Galw cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir unwaith y bydd argymhellion y Comisiwn Ffiniau ar gael.

 

 

 

Ÿ

Yn y cyfamser gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro gynnal ymchwiliadau i'r cefndir ac i'r ymateb a gyflwynwyd i'r Comisiwn Ffiniau.

 

 

 

Ÿ

30 Mehefin 2009

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

(ii)  Eitem 6 - Rhybudd o Gynnig (gan y Cynghorydd C. Ll. Everett)

 

 

 

I atgoffa'r Cyngor dywedodd y Cynghorydd C. Ll. Everett mai'r Rhybudd o Gynigiad a gyflwynodd ef ar y dydd dan sylw oedd "pan fo Arweinydd/Dirprwy Arweinydd neu unrhyw Ddeilydd Portffolio yn rhoddi Cyfarwyddyd/Penderfyniad gweithredol i unrhyw swyddog o'r awdurdod bydd raid ei gyflwyno yn ddieithriad yn ysgrifenedig trwy e-bost neu lythyr pennawd.   Bydd trefn o'r fath yn sicrhau fod trywydd archwilio a hynny er lles y swyddog a'r aelod".

 

 

 

Wedyn soniodd bod y Cyngor wedi penderfynu gohirio ystyried y mater tan rywbryd yn y dyfodol.  Roedd yn eironig meddai ef bod y Rhybudd o Gynigiad wedi ei gyflwyno ym Mai 2009 a bod yr adroddiad Llywodraethu Corfforaethol wedi ei gyhoeddi wedi'r dyddiad hwnnw a bod paragraff 82 yr adroddiad hwn yn dweud bod achlysuron lle roedd rhai aelodau o'r Pwyllgor Gwaith wedi tresmasu ar faes gwaith Deilyddion Portffolio eraill ac roedd enghreifftiau o aelodau yn ymyrryd mewn materion gweithredol a oedd mewn gwirionedd yn faterion i'r swyddogion.  Hefyd roedd tystiolaeth bod rhai swyddogion wedi teimlo bod hyn yn fygythiol.  Felly roedd yr hyn yr oedd wedi ei ddweud yn y gorffennol yn cael ei gadarnhau gan yr adroddiad ar Lywodraethu Corfforaethol ac felly gofynnodd i'r Cyngor ailystyried ei Rybudd o Gynigiad.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro bod sylw'n dal i gael ei roddi i'r mater a'i fod mewn gwirionedd yn rhan hanfodol o'r gwaith y bydd Mr. David Bowles yn ei wneud fel rhan o strategaeth i ymateb i argymhellion yr adroddiad Arolwg.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd C. Ll. Everett bod Mr. Bowles yn rhoddi blaenoriaeth i'r mater hwn gan fod y mater a gododd ef fel Cynghorydd yn rhywbeth sy'n digwydd yn ddyddiol ac yn rhywbeth y dylid rhoddi sylw iddo cyn y cyfarfod nesaf o'r Cyngor llawn.

 

 

 

Ÿ

5 Mai 2009 (pm)

 

Ÿ

20 Gorffennaf 2009

 

 

 

3

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU'R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd mai braint fawr iddo heddiw oedd croesawu i'r Siambr 5 o athletwyr o Ynys Môn a enillodd fedalau yng Ngemau'r Ynysoedd yn Aland, y Ffindir ddiwedd Mehefin eleni.  Nododd bod chwe athletwr wedi ennill medalau ond yn anffodus ni fedrai un o'r hwylwyr fod yn bresennol.

 

 

 

Hefyd rhoes groeso i swyddogion Cymdeithas  Leol Gemau'r Ynysoedd, sef:-

 

 

 

Ÿ

David Tommis - Cadeirydd

 

Ÿ

Janet Howarth - Ysgrifennydd.

 

Ÿ

Rob Lamont - Trysorydd

 

Ÿ

Emma Rogers - Rheolwr Cyffredinol

 

 

 

a hefyd deuluoedd a ffrindiau yr enillwyr ac roedd y rheini yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus.

 

 

 

Y swyddogaeth bennaf y pnawn 'ma oedd llongyfarch yr athletwyr llwyddiannus, ond hefyd roedd yn gyfle i'r Cyngor fynegi gwerthfawrogiad diffuant o waith y Gymdeithas.  

 

 

 

Roedd grwp bychan o Swyddogion wedi rhoddi eu hamser yn wirfoddol i ofalu am dros 100 o athletau a'r tîm o hyfforddwyr a'r tîm oedd yn darparu cefnogaeth feddygol.   Roedd y grwp bychan hwn wedi trefnu trafnidiaeth a llety am yr wythnos a gwneud yr holl waith gweinyddol cyn y gemau, yn ystod y rheini ac wedyn.  Ond ar gyfer yr wythnos hon o gemau bob dwy flynedd roedd yn rhaid codi arian - tasg ddiddiwedd.

 

 

 

Ar ran y Cyngor a phawb yn Ynys Môn diolchodd iddynt am wneud yr holl waith hwn.

 

 

 

Pleser mawr i'r Cadeirydd oedd galw arnynt fesul un i dderbyn rhodd fechan i werthfawrogi eu llwyddiant ac i gofio'r achlysur:

 

 

 

1.

Siwan Jones (Enillydd Medal Arian y Foltio)

 

2.

Y Tîm Saethu (Saethu Colomennod Clai) (Enillwyr Medal Aur y Tîm)

 

Edward Jones / Tom Thomas / Anthony White.

 

3.

Thomas Thomas (Enillydd Medal Efydd Saethu Colomennod Clai dull Lloegr)

 

4.

Dominic Breen Turner (Enillydd Medal Arian Safon Laser)

 

Luke Breen Turner (Enillydd Medal Arian Safon Laser) - yn methu bod yn bresennol.

 

 

 

 

 

Soniodd y Cadeirydd am agoriad swyddogol Canolfan Byron ar 26 Mehefin 2009 - canolfan a enwyd ar ôl Mr. Byron Williams, a oedd gynt yn Gyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i gydnabod ei waith da ar ran pobl Ynys Môn.

 

 

 

Llongyfarchwyd staff Melin Llynnon ar ddathlu 25 mlynedd ers ailagor y felin ym  Mai.

 

 

 

Wedyn aeth ymlaen i longyfarch y rheini a gafodd lwyddiant ym Mhrimin Môn, y Sioe Frenhinol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr haf.

 

 

 

Wedyn achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i gydymdeimlo gyda'r Aelodau a'r staff a oedd wedi colli rhai agos yn ddiweddar.

 

 

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at farwolaeth Mr. Huw Elwyn Jones, Cyfreithiwr o Borthaethwy a fu farw ddoe.  Aeth ymlaen wedyn i gydymdeimlo ar ran y Cyngor gyda'r Cadeirydd a'i deulu ar golli ei dad-yng-nghyfraith yn ddiweddar.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

 

 

Yn nesaf dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor am deithiau'r Pwyllgor Gwaith o gwmpas yr ynys i roi'r cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r Pwyllgor a hefyd gyfle i'r Pwyllgor gyflwyno barn ar y materion hynny oedd o bwys iddynt.  Cyfarfodydd oedd y rhain a drefnwyd gan fod y Cyngor wedi ei feirniadu yn yr adroddiad Llywodraethu Corfforaethol lle dywedwyd ei fod yn wan am nad oedd ganddo systemau yn eu lle i gael teimladau'r cyhoedd ynghylch y ffordd ymlaen.  Roedd y gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus (rhwng 7:00-9:00pm) yn cael eu cynnal yn y mannau a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ

30 Medi 2009 - Ysgol Uwchradd Caergybi

 

Ÿ

1 Hydref 2009 - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

Ÿ

5 Hydref 2009 - Canolfan Hamdden Biwmares

 

Ÿ

6 Hydref 2009 - Ysgol Gyfun Llangefni

 

Ÿ

8 Hydref 2009 - Ysgol David Hughes, Porthaethwy

 

Ÿ

13 Hydref 2009 - Ysgol Uwchradd Bodedern

 

Ÿ

14 Hydref 2009 - Neuadd Pritchard Jones, Niwbwrch.

 

 

 

     Os oedd hynny'n bosib fe anfonnir llythyrau at yr holl Gynghorwyr ac at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn gofyn am eu presenoldeb.

 

      

 

     Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. David Bowles, y Rheolwr-gyfarwyddwr dros dro a oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf o'r Cyngor Sir.

 

      

 

     Dim ond ers ychydig ddyddiau yr oedd Mr. Bowles wedi bod yn Ynys Môn ond roedd wedi cael cyfle i weld rhai aelodau a swyddogion ac fe wnaeth ymrwymiad y rhai a welodd argraff dda ac yn arbennig felly y dymuniad i gladdu'r gorffennol a symud ymlaen.  Roedd yn bwriadu treulio 3-4 diwrnod yr wythnos yma ond ni fuasai hynny'n dechrau tan ganol y mis nesaf.  Ei ddymuniad oedd gweithio gyda'r holl aelodau ar draws y grwpiau gwleidyddol a hefyd gyda'r holl swyddogion er mwyn ceisio symud y Cyngor yn ei flaen ac adfer ei enw da cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

      

 

     Gwyddai y buasai'r Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn annerch y Cyngor gyda hyn ar swyddogaeth y Bwrdd Adfer, ond ei amcan personol ef oedd sicrhau y bydd gan y Gweinidog sicrwydd digonol i ddwyn gwaith y Bwrdd i ben gryn dipyn o amser cyn diwedd y cyfnod adfer dwy flynedd.  Hwn oedd y gwir brawf ar hyder a ffydd y rhai mewn grym yng Nghaerdydd a hefyd y tu draw i'r ddinas honno.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro wedi gobeithio y buasai'r Gweinidog wedi cyhoeddi enwau aelodau'r  Bwrdd Adfer ond yn anffodus nid oedd y rheini ar gael eto.  Ond ychwanegodd bod cyhoeddiad ar y gweill.

 

      

 

     Fodd bynnag roedd y Cyngor wedi derbyn llythyr o Swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amlinellu swyddogaeth a chyfrifoldeb y Bwrdd Adfer ac y buasai ei aelodau yn unigolion profiadol gyda sgiliau perthnasol a'r Bwrdd ei hun yn mynd i fod mewn bodolaeth tan o leiaf Awst 2011, onid oedd y Gweinidog yn y cyfamser yn fodlon fod cynnydd sylweddol wedi digwydd.

 

      

 

     Nid Bwrdd cyhoeddus oedd y Bwrdd Adfer ac nid oedd yn endid cyfreithiol chwaith ac nid oedd ganddo awdurdod i wneud na chymeradwyo penderfyniadau yng nghyswllt y Cyngor hwn.  Roedd y cyfrifoldeb hwnnw yn dal i fod gyda'r Cynghorwyr a'r Swyddogion.  Roedd yr aelodau yn gwasanaethu ar y Bwrdd fel unigolion - nid yn cynrychioli'r cyrff y maent yn eu gwasanaethu.  Pennaf amcan y Bwrdd hwn oedd asesu Cynllun Gwella'r Awdurdod a'r ymateb yn hwnnw i'r argymhelliad yn yr adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Roedd ganddo ddiddordeb o bwys mewn sicrhau bod unrhyw gynnydd yn gynaliadwy dros gyfnod hir.  Buasai'n derbyn tystiolaeth aelodau a swyddogion yn y broses o geisio mesur y cynnydd a buasai'r Bwrdd yn rhoddi canllawiau i'r Cyngor ar y gwendidau ac ar unrhyw welliannau eraill fydd raid wrthynt yn y dyfodol.  Yn ogystal buasai'n rhoddi cyngor i'r Gweinidog ar y materion hyn.

 

      

 

     Y berthynas rhwng yr aelodau a'r swyddogion a hefyd rhwng yr amryfal grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor oedd yn achosi'r gwendidau a nodwyd.  Hefyd roedd yn rhaid edrych ar safon ymddygiad yr aelodau ac ar swyddogaeth y Pwyllgor Safonau wrth i hwnnw oruchwylio penderfyniadau a wneir ac edrychir hefyd ar i ba raddau yr oedd y Pwyllgor Sgriwtini yn llwyddo i herio.  Un o'i swyddogaethau eraill fydd edrych ar y gweithdrefnau ac ar effeithiolrwydd y strwythurau rheoli y tu mewn i'r Cyngor ac yn arbennig felly ar y Tîm Rheoli.  Gwendid arall a nodwyd yn yr arolwg oedd methiant i gynllunio'n strategol ac i fonitro perfformiad yn effeithiol ar draws y cyfan o'r Cyngor a hefyd yr angen i ymgynghori gyda'r cyhoedd.

 

      

 

     Yn y man bydd y Bwrdd yn cyflwyno adroddiadau ffurfiol i'r Gweinidog a'r Cynulliad fydd yn darparu swyddogion a chefnogaeth weinyddol i'r Bwrdd trwy'r Gwasanaeth Sifil.  Rhagwelwyd y bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob mis ond petai'r cynnydd yn dda yna roedd modd cael cyfarfodydd bob deufis neu bob chwarter.  

 

      

 

     Nid oedd y Bwrdd yn bwriadu cyfarfod ar yr ynys ond mewn canolfan yn y Gogledd-orllewin a buasai'r holl gyfarfodydd yn breifat ac yn agored i aelodau'r Bwrdd yn unig ac i'r rheini y gofynnwyd iddynt fynychu i ddarparu tystiolaeth.  Cynulliad Cymru fydd yn talu costau'r Bwrdd ond hefyd roedd posibilrwydd y bydd y Bwrdd yn awgrymu y bydd raid i'r Cyngor hwn gael cyngor arbenigol ac os felly buasai'n rhaid i'r Cyngor gwrdd â'r costau cysylltiedig.

 

 

 

      

 

4

CWESTIYNAU DAN REOL 4.1.12.4

 

      

 

     (i)  Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd B. Durkin i'r Cynghorydd Tom Jones, Deilydd Portffolio Cyllid:-

 

      

 

     "Wrth gyflwyno cais i'r Adran Gyllid gall unrhyw unigolyn â diddordeb archwilio, a gwneud copïau o'r cyfrifon am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2009 a hyn yn cynnwys yr holl lyfrau, yr holl weithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau yng nghyswllt y materion hyn yn ystod y cyfnod dan sylw a than gyfraith gwlad.  Ar ôl gwneud trefniadau ymlaen llaw i wneud hyn pam y gwrthodwyd i mi fy hawliau i weld y dogfennau uchod?" [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio "y buasai'r Adran Gyllid yn rhoddi cymorth i bwy bynnag sy'n dymuno archwilio neu wneud copïau o'r cyfrifon i'r flwyddyn sy'n dod i ben ym Mawrth 2009. Mae'r hawl hon i archwilio yn cael ei rhoddi dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus Cymru, 2004.  Fodd bynnag, mae'r Ddeddf hefyd dan Adran 30, Is-adran A, yn nodi bod rhai eithriadau ac roedd y wybodaeth yr oeddech yn dymuno ei chael ar yr achlysur hwn yn rhan o'r eithriad, ac o'r herwydd gwrthodwyd mynediad.  Ond os dymunwch drafod y mater yma gyda mi, mi fyddaf yn berffaith fodlon eich cyfarfod pan fydd hynny'n gyfleus i chwi."  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn ategol hwn gan y Cynghorydd B. Durkin:-

 

      

 

     "Mae'n resyn bod yr Adran Gyllid yn teimlo bod beth yr oeddwn yn ymholi yn ei gylch yn syrthio'n gyflawn dan y categori a grybwyllir dan y Ddeddf Diogelu Data, oherwydd roedd gennyf sawl mater yr oeddwn yn dymuno edrych arno.  Ond, dan yr amgylchiadau, os oedd yr Adran Gyllid yn teimlo mai felly yr oedd pethau yna rydwyf yn derbyn yr ateb yn ddigwestiwn.  Ond rhaid i mi roi gwybod i'r Cyngor fy mod yn y cyfamser wedi gorfod codi eitem ar y cyfrifon am 2008/09 gyda'n harchwilwyr allanol.  Fodd bynnag, mi fyddaf yn derbyn eich cynnig ynghylch y cyfarfod".  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W. J. Chorlton a oedd y cwestiwn yr oedd y Cynghorydd B. Durkin yn bwriadu ei ofyn ar y cyfrifon unwaith eto yn mynd i olygu costau ychwanegol i'r Cyngor ac o gofio beth yw'r hinsawdd ariannol presennol?  Aeth ymlaen i grybwyll ein bod eisoes wedi mynd i lawr y lôn hon, sef bod £45,000 wedi ei wario ar gwestiynau gan y Cynghorydd Durkin.

 

      

 

     Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd B. Durkin "sut y gwyddai y Cynghorydd Chorlton, ei fod wedi gofyn cwestiynau ar y cyfrifon yn y gorffennol?  Os oedd twyll difrifol yn digwydd y tu mewn i'r Cyngor, a bod arian y Cyngor yn bwysicach nag ymchwiliad yna awgrymaf eich bod yn ailystyried y mater o ddifrif".  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Wedyn aeth y Cynghorydd W. J. Chorlton ymlaen i ddweud "bod y pwnc hwn wedi ei drafod sawl gwaith ac fe ofynnwyd i'r Cynghorydd Durkin gyflwyno i ni y wybodaeth a'r cyhuddiadau yn ysgrifenedig.  Hyd yma ni chawsom y wybodaeth hon ac rydym yn dal i glywed am y cyhuddiadau yn yr awyr, rydym angen y rhain yn ysgrifenedig fel bod modd cynnal ymchwiliadau iddynt, ac o gofio nad oes neb yn yr awdurdod hwn yn dymuno gweld unrhyw dwyll yn digwydd.  Rydym yn dymuno bod yn awdurdod agored a thryloyw ac mae hyn yn berthnasol i bob un ohonom."  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Y Cynghorydd B. Durkin "Rydwyf yn dal i fod eisiau gwybod sut y cafodd y Cynghorydd Chorlton wybod fy mod, o bosib, wedi codi cwestiwn ar y cyfrifon a hwnnw wedi costio £45k i'r awdurdod hwn.  Rydwyf eisiau ateb i'r cwestiwn yna".  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Y Cynghorydd W. J. Chorlton "Oherwydd bod y mater wedi ei drafod sawl gwaith mewn sawl Siambr mewn sawl ardal.  Roedd pawb yn gwybod hyn". [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Y Cynghorydd B. Durkin "nid yw hwnna yn ateb.  Mae hwn yn fater difrifol iawn.  Ni chafodd fy enw ei grybwyll ynghlwm wrth unrhyw ymchwiliadau o fath yn y byd.  Felly rydwyf yn dymuno gwybod sut y cafodd y Cynghorydd John Chorlton wybod fod y pethau hyn wedi digwydd neu beidio, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod cyfrinachedd wedi ei dorri yma mewn modd difrifol, dan Ddeddf Diogelu Data ar y naill llaw ond hefyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a hoffwn ychwanegu ei bod hi'n drosedd datgelu gwybodaeth dan y deddfau hyn, gwybodaeth eithriedig.  Rydwyf yn mynnu cael ateb iawn a hynny oherwydd yr awydd i fod yn agored ac yn dryloyw"  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Y Cynghorydd W. J. Chorlton "mi gewch ofyn am beth bynnag a fynnoch y Cynghorydd Durkin.  Nid oes raid i mi ymateb i'r math yna o fygythiad.  Pob parch ond pwy rydych yn tybio yr ydych Syr.  A ydych yn gwadu mai chwi oedd y tu cefn i Graig-wen, i'r ymchwiliadau a'r holl gwestiynau yn fanno?   [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Y Cynghorydd B. Durkin "Rydwyf yn mynnu cael ymchwiliad i'r sylwadau a wnaed, ymchwiliad llawn.  Diolch i chwi"  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     (ii)  Cyflwynwyd y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd P. S. Rogers i Arweinydd y Cyngor:-

 

      

 

     "Fe wyddoch fod cyn-Arweinydd yr Awdurdod hwn, y Cynghorydd Phil Fowlie, ar ran y Pwyllgor Gwaith, wedi anfon llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr 2008 at Mr. Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud honiadau difrifol yn erbyn aelodau o'r Tîm Rheoli Corfforaethol na chawsant gopi o'r honiadau hyn tan 22 Ebrill 2009 a oedd ar ôl ymadawiad y Rheolwr-gyfarwyddwr, Mr. D. Jones.

 

      

 

     Anfonwyd ymateb swmpus iawn i'r honiadau atoch a'ch Pwyllgor Gwaith ar 10 Mehefin ac yn eich absenoldeb, cytunodd eich Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bob Parry yn ystod cyfweliad ar y cyfryngau, y byddai angen ymddiheuro i'r Tîm Rheoli Corfforaethol am yr honiadau ffug hyn.  Pa bryd ydych chi'n bwriadu ymddiheuro'n gyhoeddus am y sarhad difrifol hwn ar ein swyddogion?"  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor "Fe y gwyddoch, mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Dr. Brian Gibbons, wedi penodi Mr. David Bowles i ddatrys materion Llywodraethu Corfforaethol yr Awdurdod hwn.  Mae'r materion a godwch yn perthyn i'r maes hwn ac felly byddwn yn dilyn ei gyngor a'i gyfarwyddyd ef yn y cyd-destun yma."  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Cyflwynwyd y cwestiwn ategol a ganlyn gan y Cynghorydd P. S. Rogers:-

 

      

 

     "mae'r cwestiwn mewn gwirionedd yn codi ar gwt y cwestiwn a gyflwynais i'r Pwyllgor Sgriwtini ac i'w ystyried yn hwyrach y mis hwn, ac rydwyf yn gofyn iddo sgriwtineiddio'r haeriadau hyn.  Un o brif feirniadaethau'r adroddiad Archwilio oedd bod raid i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Archwilio fod yn annibynnol ar y cyrff gwleidyddol sy'n rheoli.  Cyn pen dwy flynedd bydd hynny wedi digwydd, h.y. sgriwtineiddio'r penderfyniadau'n agored.  Ond heddiw hoffwn gael sicrwydd gennych y bydd fy nghynnig, pan fydd hwnnw gerbron y Pwyllgor Sgriwtini, yn rhoddi i mi, trwyddoch chi fel Arweinydd y grwp mwyafrifol ar y Cyngor hwn, ddealltwriaeth na fyddwch yn ymyrryd yn y broses, fel bod modd i ni ofyn cwestiynau i'r bobl berthnasol a wnaeth yr haeriadau fel bod modd i ni ddatrys y materion hyn a gwneud yn siwr hefyd ein bod yn symud ymlaen".  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd "Mi fyddwn yn disgwyl am gyfarwyddyd Mr. David Bowles ar y mater hwn".  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini, bod sylwadau'r Cynghorydd Rogers wedi ei dramgwyddo "gan fod y Pwyllgor Sgriwtini yn Bwyllgor annibynnol.  Roedd bellach yn cyfarfod yn fwy rheolaidd nag a wnaeth erioed.  Bydd y mater hwn yn cael ei drafod yn ei gyfarfod ar ddiwedd y mis.  Roedd gan bob Cynghorydd ei farn ei hun a gofynnodd i'r Cynghorydd Rogers beidio â bychanu deallusrwydd yr aelodau trwy gyflwyno'r dadleuon yr oedd yn eu chyflwyno, ac i ddibenion ei brosesau gwleidyddol dirddas."  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Cafwyd yr ymateb hwn gan y Cynghorydd P. S. Rogers "un o'r problemau yn yr adroddiad Archwilio oedd bod y Cyngor dan reolaeth Cabinet mewnol, roedd swyddi yn cael eu rhoddi ar sail nawdd ac nid oedd yma archwilio annibynnol.  Roedd yr haeriadau dan sylw wedi ei herio yn llawn gan y swyddogion ac roedd gan y swyddogion hynny yr hawl i dderbyn ymddiheuriad yr aelodau dan sylw."  [CYFIEITHIAD]

 

      

 

      

 

5

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL - ASESIAD CYMERIAD ARDAL GADWRAETH CANOL AMLWCH

 

      

 

     (a)  Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin, 2009 wedi penderfynu "cymeradwyo'r Asesiad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Canol Amlwch a chefnogi cyflwyno'r ddogfen i'r Cyngor llawn nesaf i'w mabwysiadu fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol."

 

      

 

     (b)  Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) fel y cafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 21 Gorffennaf, 2009.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

 

      

 

      

 

6

NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR - SGRIWTINEIDDIO MATERION TROSEDD AC ANHREFN

 

      

 

     (a)  Dywedwyd - Bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 7 Medi, 2009 wedi penderfynu argymell i'r Cyngor Sir y dylid "digwyio'r Cyfansoddiad trwy gynnwys y newidiadau a nodir yn y tri Atodiad A, B ac ac ynghlwm wrth yr adroddiad."

 

      

 

     (b)  Er gwybodaeth, cyflwynwyd adroddiad y Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd hwnnw i'r Pwyllgor Gwaith ar 7 Medi, 2009.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

 

      

 

      

 

7

PWYLLGORAU SGRIWTINI / TROSOLWG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2008/2009

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. I. Hughes, Cyn Gadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini, bod raid cyflwyno, dan Erthygl 6 Cyfansoddiad y Cyngor, adroddiad blynyddol i'r Cyngor ar waith y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini.  Roedd yr adroddiad blynyddol 2008/09 a gyflwynwyd i'r Cyngor heddiw yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 9 Mai 2008 a'i gyfarfod ar 5 Mai 2009.

 

      

 

     Roedd manylion am y materion a gafodd sylw'r tri Phwyllgor yn ymddangos dan Baragraffau 6, 7 ac 8 yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo adroddiad blynyddol 2008/09 a nodi'r cynnwys.

 

      

 

      

 

8     SEFYDLU PANEL MODERNEIDDIO NEWYDD

 

      

 

     Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro y bydd y Mesur Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu gyda hyn yn dod yn gyfraith.  O'r herwydd bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am lunio modelau gwleidyddol / strwythurau rheoli gwleidyddol i'r holl awdurdodau ar draws Cymru.

 

      

 

     Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu ymgynghori gyda'r nôd o ganfod beth yw'r modelau gwleidyddol a'r strwythurau rheoli gwleidyddol mwyaf priodol ar gyfer y dyfodol.  Roeddid yn disgwyl i'r gwaith ymgynghori ddigwydd rhwng Hydref 2009 ac Ionawr 2010.

 

      

 

     Wedyn buasai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi modelau diwygiedig a'r awdurdodau lleol yn gorfod dewis o'u plith.  Y disgwyl oedd y buasai'r modelau diwygiedig ar gael cyn pen rhyw 6 mis,  ond bod disgwyl i bob awdurdod lleol ymgynghori'n uniongyrchol gyda'r etholwyr a'r model i'w ddewis yn lleol, a'r cynigion terfynol wedyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru eu cadarnhau a'u cymeradwyo.  Buasai'r gwaith hwn yn debyg i'r ymgynghori a'r broses o gymeradwyo a ddigwyddodd yn 2001.  Hefyd efallai y ceid rheoliadau newydd ar faterion sgriwtini / archwilio a oedd yn debyg o fod yn rhan o'r gwaith ymgynghori.

 

      

 

     Er bod yr ymgynghori hwn yn mynd i fod yn bwysig i bob awdurdod lleol roedd hi'n hanfodol bod y Cyngor hwn, oherwydd yr argymhellion yn yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol Gorffennaf 2009 yn ymgymryd yn llawn â'r gwaith ymgynghori a chyflwyno ei sylwadau.

 

      

 

     I hyrwyddo'r broses roedd bwriad i sefydlu Panel Moderneiddio er mwyn ymateb i'r gwaith ymgynghori uchod. Awgrymwyd na ddylid cael cydbwysedd gwleidyddol ar y Panel ond yn hytrach y dylai gynnwys arweinyddion o'r holl grwpiau, un aelod rhydd (ac oni cheir cytundeb rhwng yr aelodau dan sylw  bydd y penodiad yn cael ei wneud gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn ymgynghoriad gyda'r arweinyddion grwpiau) a thri swyddog statudol.  Bydd yr holl Panelwyr yn cael eilyddion a bydd y Panel hefyd a'r awdurdod i droi at y Cyngor llawn.  Roedd natur a manylder y gwaith ymgynghori yn fater i'r Panel benderfynu arno trwy ddisgresiwn ond bydd raid i hwnnw gynnwys o leiaf yr holl aelodau etholedig a swyddogion rheng gyntaf ac ail rheng.  Bydd raid i'r ymateb i'r gwaith ymgynghori adlewyrchu'r holl sylwadau a gafwyd  a faint o gefnogaeth a geir i bob model.

 

     Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r tryloywder a hefyd natur agored y broses ond roedd rhan o'r adroddiad yn peri penbleth iddo - sef nad oedd y Panel hwn yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol.  Cynigiodd dderbyn yr adroddiad gyda'r amod bod cydbwysedd gwleidyddol ar y Panel.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro ei fod yn awgrymu Panel heb gydbwysedd gwleidyddol oherwydd bod sefydlu Panel arall ac arno gydbwysedd gwleidyddol yn mynd i gael effaith, o bosib, ar y cydbwysedd gwleidyddol ar draws Pwyllgorau'r Cyngor. Hefyd am nad oedd y Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad gyda barn ar ran mwyafrif y Cyngor.  Y bwriad oedd hel ynghyd yr holl farnau amrywiol a chyflwyno'r rheini'n ôl mewn ymateb i'r ymgynghoriad, a nodi hefyd faint o gefnogaeth oedd i bob barn unigol.  Tebyg y ceid barn fwyafrifol ond hefyd ceid sylwadau eraill megis sicrhau barn swyddogion rheng gyntaf ac ail rheng, ac unrhyw barti arall y dymunai'r Panel gael ei farn.

 

      

 

     Felly roedd hwn yn cael ei fwriadu fel cyfrwng i gyflwyno negeseuon i'r grwpiau gwleidyddol, yn hytrach na rhywbeth oedd yn mynegi barn fwyafrifol yn unig.  Roedd hefyd fantais arall i gael Panel heb gydbwysedd gwleidyddol - nid oedd raid iddo gydymffurfio gyda rheoliadau mynediad i wybodaeth ac felly mi fedrai gyfarfod ar fyr rybudd a chaniatáu eilyddion.  Gan fod y cyfnod ymgynghori yn gymharol fyr a gorfod, o bosib, gwneud gwaith dwys yn sydyn buasai'n sylweddol haws gwneud y gwaith hwnnw petai modd cael eilyddion.

 

      

 

     Roedd aelodau'r gwrthbleidiau'n pryderu bod y grwp mwyafrifol am weld cydbwysedd gwleidyddol i bwrpas rheoli'r Panel penodol hwn.  Pa neges oedd hon i'r Rheowlr-gyfarwyddwr newydd o ran ysbryd gweithio ynghyd?

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd J. Penri Williams y buasai Panel heb gydbwysedd gwleidyddol yn tanseilio democratiaeth ac yn gam peryglus i'w gymryd.  

 

      

 

     Os oedd y Cyngor heddiw am gael Panel gyda chydbwysedd gwleidyddol yna cynghorodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro y buasai'n rhaid penderfynu faint o aelodau fydd yn gwasanaethu ar y Panel a châi hyn hefyd effaith ar holl Bwyllgorau ac ar holl Banelau eraill y Cyngor.

 

      

 

     Dan yr amgylchiadau nid oedd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE (Arweinydd Grwp Môn Ymlaen) na'r Cynghorydd W. J. Chorlton (Arweinydd y Grwp Llafur) yn fodlon gwasanaethu ar y Panel.

 

      

 

     PENDERFYNWYD sefydlu Panel Moderneiddio ac arno gydbwysedd gwleidyddol - 9 o aelodau ynghyd â 3 swyddog statudol, yn unswydd i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar fodelau/strwythurau gwleidyddol.

 

      

 

      

 

9

MABWYSIADU DATGANIAD AR DDARPARU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio).

 

      

 

     Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu bod gan y Datganiadau Darparu Tai Fforddiadwy a baratowyd yn lleol rôl allweddol o ran sicrhau y parheir i ganolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy.  Buasai'r ffocws hwn yn sail ar gyfer ymrwymiad clymbleidiol 'Cymru'n Un' i sicrhau cynnydd o 6500 yn y cyflenwad o dai fforddiadwy erbyn 2011 a'r Strategaeth Dai Genedlaethol 'Cartrefi Gwell i bobl Cymru'.

 

      

 

     Er bod y Datganiad ar Ddarparu Tai Fforddiadwy yn cael ei weld fel mesur interim hyd nes y bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fabwysiadu, o ran cynllunio, wedi i'r Cyngor ei gymeradwyo, bydd yn 'ystyriaeth o bwys y dylid rhoi pwyslais sylweddol arni wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio am dai ac wrth ddelio gyda chynigion o'r fath mewn apeliadau'.

 

      

 

     Roedd nodi targedau ar gyfer cyflenwi tai fforddiadwy hyd at 2011 yn rhan holl bwysig o'r Datganiad.  Roedd yn rhaid cyflwyno'r Datganiad ar Ddarparu Tai Fforddiadwy i'r Cynulliad erbyn 30 Medi 2009.

 

      

 

     Roedd rhoi cyfeiriad a chymorth i bartneriaid yn hanfodol ar gyfer cwrdd â'r amcanion hyn - sef o ran darpariaeth uniongyrchol Cymdeithasau Tai ar gyfer datblygiadau a gefnogir gyda Grant Tai Cymdeithasol a datblygwyr preifat, trwy ofynion tai fforddiadwy a gynhwysir mewn Cytundebau Adran 106.

 

     Buasai'r Cynulliad angen tystiolaeth bod partneriaethau'n gweithio a bod adroddiad monitro / datgantiad cryno yn cael ei gynhyrchu ac ar gael yn gyhoeddus i nodi'r cynnydd a wnaed o ran cwrdd â'r targedau a nodwyd.

 

      

 

     Cydgysylltwyd y gwaith o gynhyrchu'r Datganiad trwy'r Panel Tai Fforddiadwy ac ymgynghorwyd ar y Datganiad am gyfnod o 6 wythnos, fel sy'n ofynnol, rhwng Ionawr a Mawrth eleni.  Mae'r holl ymatebion a dderbyniwyd wedi cael sylw gan y Panel Tai Fforddiadwy ac mae'r Datganiad wedi ei diwygio lle roedd angen gwneud hynny.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd W. I. Hughes, bod raid i ddatganiad o'r fath fod yn 'un byw' ac felly buasai'n rhaid ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.  Wrth wneud ei benderfyniad gofynnodd i'r Cyngor gydnabod y pwynt hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad ar Ddarparu Tai Fforddiadwy i bwrpas gweithredu'n syth arno a'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi'r awdurdod i'r swyddogion (mewn ymgynghoriad gyda'r Deilyddion Portffolio perthnasol pan fo'n briodol) i olygu ei gynnwys yn ôl y galw.

 

      

 

10     AWDURDOD HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cynghorydd Peter Rogers, cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar waith yr Awdurdod Heddlu rhwng 5 Mai a 31 Awst 2009.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd Peter Rogers bod y cyfarfodydd diwethaf a gafwyd wedi canolbwyntio ar ymadawiad Richard Brunstrom, y Prif Gwnstabl a hefyd ar ymddiswyddiad ei Ddirprwy, Clive Wolfendale, a oedd wedi cael swydd arall.  Penodwyd i'r swydd yr wythnos diwethaf, sef Mr. Mark Polin, a fu gynt yn Ddirprwy Brif Gwnstabl i Swydd Gaerloyw.

 

      

 

     Aeth ymlaen wedyn i sôn am gyflwyno'r Rhaglen Quest trwy nawdd y Swyddfa Gartref - dogfen a oedd wedi chwyldroi y maes heddlu, a hynny trwy ddarparu ystafell reoli ganolog. Yn awr roedd system apwyntiadau yn ei lle a swyddogion pwrpasol yn dod ar ddyletswydd y diwrnod dilynol ac yn trefnu i ymweld â phwy bynnag sy'n cyflwyno cwyn ac roedd hyn yn creu gwell perthynas gyda'r cyhoedd.

 

      

 

     Soniodd wedyn am y cydweithrediad rhwng yr awdurdodau heddlu cyffiniol, sôn hefyd am ddarparu hofrennydd gwell i'r heddlu am wasanaeth heddlu yn y cymunedau, am y Bartneriaeth Ddiogelwch Cymunedol ac am Ddiogelwch y Ffordd.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd J. Penri Williams a oedd modd i'r Cynghorydd Rogers ddarparu adroddiad chwarterol ar waith yr Awdurdod Heddlu trwy'r wefan sydd gan y Cyngor?

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd G. O. Parry beth oedd y sefyllfa ynghylch staff yn Ynys Môn, ac yn arbennig felly faint o staff oedd ar gael yn ystod y nos.  Gofynnodd i'r Cynghorydd Rogers fynd â neges yn ôl i'r Pencadlys ynghylch y 'Car Bobby'.  Dyma ddyfais ddefnyddiol a ddefnyddid mewn sawl sioe etc. a gellid ei ddefnyddio i annog pobl ifanc i fod yn fwy cyfeillgar gyda'r heddlu.  Yn wir roedd y car penodol hwn wedi costio pres mawr a gofynnodd pam ei fod wedi cael llonydd i ddirywio a heb fod ar gael i'w ddefnyddio ar adegau strategol yn ystod yr haf pryd y gellid fod wedi ei ddefnyddio i gyflwyno neges gryf i'r cyhoedd.  Wedyn soniodd bod y berthynas rhwng y cyhoedd a'r heddlu wedi dirywio a'r siom iddo ef oedd nodi nad oeddent wedi gwneud cysylltiad gyda'r ysgolion a'r bobl ifanc - maes lle roedd modd creu argraff.  Cyferbyniodd hyn gyda gwaith prydlon a medrus y Gwasanaeth Tân a oedd wedi chwarae rôl flaenllaw mewn llawer o'r gweithgareddau hyn.  Gofynnodd i'r Cynghorydd Rogers nodi'r pwyntiau hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Peter S. Rogers y buasai'n cysylltu eto gyda'r Cynghorydd Parry ar fater y 'Car Bobby' ac ar ffigyrau staffio dros nos.  Dan y gwasanaeth heddlu yn y cymunedau roedd yr heddlu yn awr yn mynd i'r ysgolion ac yn sefydlu cysylltiadau cryfach nag o'r blaen.  Hefyd roed yr heddlu yn ymwybodol iawn o'r gofynion yn y maes hwn.

 

      

 

     Yn nesaf gofynnodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Rogers gyflwyno cais i'r Awdurdod Heddlu, sef bod eu cyfraniad nhw o'r arian sy'n cael ei dynnu o'r prosiect camerâu cyflymder yn cael ei adfer i'r system addysgu gyrwyr - a oedd gynt yn cael ei rhedeg gan Adrannau Diogelwch y Ffordd.  Ni chredai bod yr arian a neilltuwyd yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod mor deg ac y dylai fod.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts at Reolwyr y Rhawd Gymunedol ac roedd ef am iddynt aros yn eu swyddi am gyfnodau hwy.  Roedd ef yn bwrw amheuon ar gostau yr hofrennydd newydd i'r Heddlu a bod y baich yn syrthio ar y trethdalwyr.

 

      

 

     Yfed dan oed yng Nghaergybi oedd yn peri pryder i'r Cynghorydd Raymond Jones ac nid oedd Gorsaf Heddlu Caergybi yn ymateb o gwbl i'r broblem a gofynnodd am ddwyn sylw yr awdurdod heddlu at yr amgylchiadau.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Rogers bod yr hofrennydd sydd gan yr heddlu wedi ei ddarparu dan gytundeb hurio a bod y contract bellach wedi dod i ben a hwn oedd y rheswm pam fod consortiwm yr Awdurdodau Heddlu wedi talu am hofrennydd gwell.  Hefyd roedd am gyflwyno rhif ffôn i'r Cynghorydd Raymond Jones a sicrhâi ymateb cyflymach iddo i'r problemau a grybwyllodd.

 

      

 

11     AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cynghorydd Aled Morris Jones, un o gynrychiolwyr y Cyngor hwn ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ymwneud â gwaith yr awdurdod hwnnw rhwng 5 Mai a 31 Awst 2009.

 

      

 

     Pwysleisiodd y Cynghorydd ei fod ef yn un o dri chynrychiolydd yr awdurdod hwn ar yr Awdurdod Tân - y rhai eraill oedd y Cynghorwyr Lewis Davies a J. V. Owen.

 

      

 

     Cyfeiriodd at broffesiynoldeb gloyw y gwasanaeth ac ymrwymiad hwnnw i weithio ar y cyd gyda'r gymuned leol.  Sôn wedyn am brosiect Phoenix i bobl ifanc dan anfanteision difrifol.  Roedd y Cyngor hwn wedi cyfrannu'n ariannol tuag at sefydlu'r prosiect a chalonogol oedd gweld y pleser a ddeuai i fywydau'r bobl ifanc hyn, rhai a allai yn ddigon rhwydd syrthio o'r system oni bai am brosiectau o'r fath.

 

      

 

     Cyfeiriodd hefyd at enghreifftiau o weithio ar y cyd gyda'r awdurdod heddlu a chyrff amryfal.  Yn Llanelwy roedd canolfan rheoli newydd wedi ei hagor i ddarparu gwasanaeth ar y cyd rhwng yr Awdurdodau Tân a Heddlu - y cyntaf o'i math ym Mhrydain.

 

      

 

     Hefyd roedd y Gwasanaeth Tân yn cynnal nifer o brofion diogelwch tân a'r gwasanaeth, y llynedd, wedi ymweld â thros 3,000 o gartrefi i siecio ar eu diogelwch.

 

      

 

     Roedd gwaith wedi'i wneud ar cerbydau diffodd tân ac roedd y cyfan ohonynt bellach gyda phympiau achub ac ailddyluniwyd y cerbydau argyfwng i wneud gwaith achub trwm.  Yn ystod 2008/09 cafwyd 18,767 o ddigwyddiadau, 4,859 yn alwadau di-sail a 886 yn alwadau traffig ffyrdd.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn pryderu bod yr amser a dreuliwyd ar faterion priodol iawn megis diogelwch tân, mynychu cyfarfodydd ac ysgolion, yn tynnu oddi ar yr amser a dreuliwyd ar hyfforddiant.  Roedd y Gwasanaeth Tân yn wasanaeth a ddibynnai ar waith tîm ac onid oedd y gwaith tîm hwnnw yn digwydd roedd y canlyniadau'n ddifrifol - credai ef ei bod hi'n holl bwysig sicrhau bod pob unigolyn yn cael hyfforddiant llawn.

 

      

 

     Peth arall a achosai bryder iddo oedd nifer y faniau newydd a brynwyd a'r rheini'n cael eu parcio ger y gorsafoedd tân - i bob golwg yn segur.

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai'n ymateb i'r Cynghorydd Chorlton yng nghyswllt hyfforddiant a hynny y tu mewn i'r 7 niwrnod nesaf.  Ar fater siecio diogelwch cartrefi, roedd yr awdurdod yn sylweddoli bod angen rhagor o adnoddau a chrewyd 5 o swyddi Diogelwch Cymunedol i ddelio gyda'r materion hyn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Chorlton o lle roedd y 5 swydd newydd yn dod? A oedd y rhain yn cael eu tynnu oddi ar y cerbydau achub?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y swyddi ychwanegol hyn yn cael eu creu gyda'r platfformau ysgolion awyr.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd Chorlton ei fod yn llygad ei le - roeddent yn symud staff amser llawn oddi ar yr elfen achub a hynny er mwyn cyflawni materion diogelwch tân.  Felly roedd yn rhaid i'r cerbydau hyn ddisgwyl hyd nes cael staff amser llawn i bwrpas mynd â nhw allan.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes yn lle yr oedd y toriadau ariannol yn digwydd - ai gwasanaethau llinell flaen neu yn y partneriaethau a sefydlwyd gyda'r Cyngor hwn?

 

      

 

     Addawodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai'n cyflwyno adroddiad ar y sefyllfa ariannol i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor ym mis Rhagfyr.

 

      

 

      

 

12     RHYBUDDION O GYNNIG DAN BARAGRAFF 4.1.13.1 Y CYFANSODDIAD

 

      

 

     (a)  Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd G. Winston Roberts, OBE:-

 

      

 

     "(i)  Bod y Cyngor yn rhewi lwfansau'r aelodau am y tair blynedd nesaf a hynny oherwydd yr hinsawdd economaidd ac fel cymorth yng nghyd-destun sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

      

 

     "(ii)  Bod y Cyngor yn rhewi lwfans teithio'r aelodau rhwng y cartref a swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni oherwydd yr hinsawdd economaidd a hefyd i ostwng y troedbrint carbon." [CYFIEITHIAD]

 

      

 

     Ar ôl derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y rhagolygon cyllidebol heddiw, teimlai'r Cynghorydd Roberts ei bod hi'n synhwyrol i ni rewi'r lwfansau a hynny fel datganiad o fwriad gan y Cyngor.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Tom Jones, Deilydd Portffolio Cyllid ei fod yn cytuno i raddau helaeth gyda'r hyn a ddywedwyd.  Roedd Panel Cydnabyddiaeth Ariannol annibynnol wedi ei sefydlu yng Nghymru i edrych ar y maes ac roedd hwnnw wedi cyfarfod yn gynharach eleni a hefyd wedi cael tystiolaeth nifer o Gynghorwyr o'r awdurdod hwn. Felly roedd y Pwyllgor Gwaith wedi ymateb i ymgynghoriad y Panel trwy ddweud na ddylid, yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni, gynyddu'r costau i'r Cyngor yn gyffredinol.  Ond roedd hi'n ddyletswydd ar gynghorau i ystyried lwfansau'r aelodau bob blwyddyn.  Pwysleisiodd bod gan y Panel Cydnabyddiaeth y rhyddid i ostwng y lwfansau sy'n daladwy i aelodau ac fel rhan o ymateb y Pwyllgor Gwaith roedd y Cyngor yn gofyn am yr ystwythder mwyaf bosib y tu mewn i'r system i sicrhau bod honno'n gweithio, orau y gallai, i Ynys Môn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd G. W. Roberts OBE am egluro'n berffaith glir i drethdalwyr Ynys Môn na fydd cyfanswm costau'r lwfansau yn y dyfodol yn ddim mwy na'r ffigwr ar gyfer eleni.  Cynigiodd mai fel hyn y dylai pethau fod.

 

      

 

     Wrth roddi sylw i ail rhan y Rhybudd, dywedodd y Cynghorydd Tom Jones  bod y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol wedi penderfynu y dylai'r lwfansau teithio aros fel y maent heb unrhyw gynnydd am y flwyddyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

Mabwysiadu'r Datganiad o Fwriad gan y Cyngor hwn, sef bod cyfanswm costau lwfansau'r aelodau ddim yn cynyddu dros y tair blynedd nesaf.

 

 

 

Ÿ

Nodi nad oedd y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol wedi cynnig unrhyw gynnydd yn y cyfraddau teithio.

 

 

 

     (b)  Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd H. W. Thomas:-

 

      

 

     "Bod y Cyngor, oherwydd yr hinsawdd economaidd, yn mabwysiadu polisi o dalu lwfans teithio ail ddosbarth yn unig i'r aelodau."

 

      

 

     Gan fod y Cynghorydd H. W. Thomas wedi ei alw o'r cyfarfod dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro nad oedd modd i Aelod arall gynnig ar ei ran.  O'r herwydd roedd y cynnig yn syrthio.  Fodd bynnag, roedd hwn yn fater a drafodwyd yn y Cyngor ar 30 Mehefin 2009 ac felly yn gorfod cydymffurfio gyda'r rheol 6 mis, a hynny'n gorfodi'r Cyngor i ohirio'r Rheolau Sefydlog i bwrpas trafod y pwnc.

 

 

 

 

 

13

YR ARWEINYDD YN DIRPRWYO

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro yn nodi newidiadau i'r cynllun dirprwyo ynghylch swyddogaethau Gweithredol a gyflawnwyd gan yr Arweinydd ers y cyfarfod arferol diwethaf (Rheol 4.4.1.4 Rheolau Gweithdrefn Trefniadau Gweithredol - Tudalen 134 y Cyfansoddiad).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a nodi hefyd fod enw'r Cynghorydd P. M. Fowlie, dan ddirprwyaeth ynghylch cyflwyno taliadau i Gyrff gwirfoddol, wedi ei gynnwys trwy amryfusedd yn fersiwn Saesneg y penderfyniad hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4:40pm

 

      

 

     Y CYNGHORYDD O. GLYN JONES

 

     CADEIRYDD