Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 16 Mai 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Gwener, 16eg Mai, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Mai, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Eurfryn Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones,

Clive McGregor, RL Owen,  J Arwel Roberts, Hefin Thomas,

John Penri Williams, Selwyn Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) (eitem 13.2)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (KS)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

 

Swyddog Monitro (eitem 13.2)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones - Deilydd Portffolio Cynllunio

 

Aelodau Lleol:

WI Hughes - eitem 7.1, Eric Jones - eitem 10.5,

Goronwy Parry MBE - eitemau 10.7, 10.8

 

Estynnodd y Cynghorydd Thomas Jones groeso i bawb i gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor newydd, yn arbenig i aelodau newydd.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn:  

 

 

 

3.1      9 Ebrill, 2008

 

 

 

Eitem 6.3 - 30C636A Ffrith Shepherd's Hill, Tyn-y-gongl Holodd y Cynghorydd Hefin Thomas am fanylion o ddyddiad a chynnwys transgript gafodd ei gylchredeg gan y cyn Gynghorydd D Lewis-Roberts i Aelodau.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd ef yn y cyfarfod ond y buasai yn gwneud ymholiadau.  

 

 

 

3.2      16 Mai, 2008 - rhoddwyd gerbron y cyfarfod.  Fe nodwyd i'r Cynghorydd Thomas Jones gael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn a'r Cynghorydd RL Owen yn Is-Gadeirydd yn gynharach y diwrnod hwn.  

 

 

 

4

YMWELIAD Â SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safle Cynllunio gafwyd ar 23 Ebrill, 2008.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl argymhelliad y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Fe adroddwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ystyriaethau priffyrdd a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C413  CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR TU CEFN I MOR AWEL, LLANDEGFAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd gohirio'r cais ar 9 Ebrill, 2008 tra'n cwblhau trafodaethau ar faterion priffyrdd.  Cafwyd ar ddeall nad oedd unrhyw anghytuno mawr yng nghyswllt arolwg trafnidiaeth yr ymgeisydd, fodd bynniag roedd trafodaethau yn parhau yng nghyswllt y lleiniau gwelededd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tra'n cwblhau trafodaethau ar faterion priffyrdd.  

 

 

 

 

 

6      CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C331E  NEWID DEFNYDD AC EHANGU'R ADEILAD ALLANOL I ANNEDD YN PLAS CICHLE, LLANFAES, BEAUMARIS

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.   .

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Mawrth, ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.  Dymuniad y Pwyllgor ar 9 Ebrill, 2008 oedd caniatau'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau fod y cais yn cydymffurfio a Pholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu'r aelodau at bwynt 2 yn adroddiad y swyddog (ymateb y swyddog i'r rhesymau dros ganiatáu).  Doedd yr adeilad ddim yn cael ei ystyried yn strwythurol gadarn fel bod modd ei addasu heb waith ailadeiladu sylweddol, doedd o ddim yn cydymffurfio a gofynion Polisi 55.  Argymhelliad o wrthod y cais oedd yma.

 

 

 

Er budd aelodau newydd, cyfeiriodd y Cynghorydd RL Owen yr aelodau at y drafodaeth flaenorol yn eitem 6.1 ar dudalen 2 y cofnodion - roedd y peiriannydd strwythurol yn gweld yr adeilad yn addas i'w addasu a'r swyddog yn anghytuno â hyn.  Twristiaeth oedd prif ddiwydiant y rhan yma o'r Ynys;  â'r ymgeiswyr yn mynd i oed roeddynt yn dymuno i'r ferch a'r teulu gymryd y busnes drosodd yn raddol, yn arbennig y rhan gwely a brecwast o'r busnes.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd WJ Chorlton.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorywyr John Chorlton, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones, RL Owen, Selwyn Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Thomas Jones, Arwel Roberts, John Penri Williams

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr Lewis Davies, Clive McGregor

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau safonol yn cynnwys cytundeb dan Adran 106 i sicrhau fod yr addasiad yn parhau i fod yn rhan o'r busnes presennol.  

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C331B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Bu i'r cais hwn gael ei ohirio ers 9 Ionawr, 2008 er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gynnal arolwg o'r angen am dai yn lleol ac nid oedd canlyniad yr arolwg wedi ei dderbyn.  Dyddiad cau'r ymgynghori oedd 2 Mehefin, 2008 a gofynnodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am ohiriad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C100A  CAIS I GADW CARAFAN STATIG, CYNHWYSYDD A STRWYTHUR YCHWANEGOL, A LLEOLIAD NEWYDD ARFAETHEDIG AR GYFER CYNHWYSYDD AR GAE O.S. 9069, PENTERFYN, LLANFAETHLU

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol (cyn Gynghorydd Mrs Burns).  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Mawrth, ac fe gafwyd hyn ar 19 Mawrth, 2008.  Dymuniad y Pwyllgor ar 9 Ebrill, 2008 oedd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau na fyddai'r bwriad yn cael effaith niweidiol nac effaith gynyddol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithiraidol. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ailadroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai penderfyniad rhannol ddylai hwn fod, h.y. i gadw un cynhwysydd a'r strwythyr ychwanegol ond i wrthod yr ail gynhwysydd a charafan a fyddai'n hollol annerbynniol mewn man gwledig wedi ei ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithiraidol - byddai'n gosod cynsail wrth ystyried ceisiadau o'r fath; argymhelliad cryf o wrthod oedd yma.

 

 

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ken Hughes, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei bod hi'n bosib rhoddi caniatâd personol mewn amgylchiadau eithriadol.  Dywedodd y Cynghorydd Ken Hughes fod y cyngor cymuned yn cefnogi rhoi caniatâd personol yn yr achos hwn ac atgoffodd y Pwyllgor fod y cyfarfod diwethaf wedi caniatáu; byddai yntau hefyd yn cefnogi rhoi caniatâd personol.

 

 

 

Wrth gymryd i ystyriaeth fod y rhain yma ers peth amser, dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y byddai yntau'n cefnogi rhoddi caniatâd personol.

 

 

 

Mynegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bryderon dwys a rhoddodd gyngor cryf yn erbyn rhoddi caniatâd personol - dylai penderfyniadau fod ar ddefnydd tir ac roedd yn parhau i fod o'r farn gref y dylai hwn gael ei wrthod.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod ail gynhwysydd a charafan, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a J Arwel Roberts.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu cadw un cynhwysydd a'r strwythyr ychwanegol gyda'r amod y manylwyd arno, ond gwrthod caniatâd am gynhwysydd ychwanegol a charafan am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

 

 

 

 

6.4      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C398E  NEWID ADEILAD (CYN DY) I ANNEDD YN YNYS GANOL, BRYNTEG

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol (y cyn Gynghorydd WT Roberts).  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Ebrill ac fe gafwyd hyn ar 23 Ebrill, 2008.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at hanes cynllunio'r safle.  Gan y Pwyllgor hwn yn 2006 gwrthodwyd cais i gadw annedd nad oedd wedi derbyn caniatâd, ac roedd camau gorfodaeth wedi dechrau.  Roedd y cynllun presennol yn fwy na hwnnw a wrthodwyd yn 2006 ac yn cynnwys addasu annedd adfeiliedig a'r strwythyr na roddwyd caniatâd iddo fel estyniad. Roedd maint y datblygiad newydd yn cyfateb i godi annedd newydd yn y cefn gwlad a hyn yn groes i bolisiau 55 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn. Cadarnhaodd y swyddog fod y safle ym mhlwyf Llanfair ME.

 

 

 

Yn wyneb y ffaith mai newydd ei ethol oedd yr aelod lleol, ynghyd â llawer o aelodau eraill y Pwyllgor, ac nad oeddynt yn gyfarwydd â'r safle, cynigiodd y Cynghorydd Barrie Durkin ymweld â'r safle er mwyn gweld y sefyllfa drostynt eu hunain, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.5      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

 

 

31C357A  DYMCHWEL YR ANNEDD YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD, GOSOD TANC SEPTIG A CHREU MYNEDFA I GEIR YN SIGLAN BACH, LÔN DYFNIA, LLANFAIRPWLL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol (cyn Gynghorydd John Roberts).   Dymuniad y Pwyllgor ar 9 Ebrill oedd un o ganiatáu a hyn yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlwyd ei fod yn cydymffurfio â pholisiau.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

Mae Polisi 54 o'r Cynllun Lleol yn caniatáu codi anheddau newydd yn lle hen rai.  Roedd y bwriad yn sylweddol fwy na'r annedd wreiddiol a byddai effaith bwriad o'r maint hwn ar y tirlun ehangach yn annerbyniol - yn benodol rhaid i annedd godir yn lle un arall fod wedi ei dylunio i gydymffurfio gyda'r pethau o gwmpas, ei hadeiladu ar y safle presennol, adlewyrchu maint a mas, ychwanegodd y swyddog fod hwn yn hollol annerbyniol.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Jim Evans fod y Pwyllgor diwethaf yn tueddu i ganiatáu'r cais ac mewn ymateb i'w gwestiwn cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod swyddogion wedi ymdrechu i drafod cyfaddawd gyda'r ymgeiswyr i ostwng maint yr adeilad.

 

 

 

Ni fyddai'r bwriad lawer yn fwy na'r hyn a welir yno ar hyn o bryd oherwydd fod llawer o'r adeiladu allanol yn cael eu cynnwys yn y gwaith, meddai'r Cynghorydd John Chorlton; credai ef y byddai hyn yn welliant ar yr hyn sydd yno'n barod.  Gan fod posibilrwydd i safle Ty Mawr gerllaw gael ei ddatblygu, teimlai'r Cynghorydd Chorlton fod hyn hefyd yn rheswm dilys dros ganiatáu; ymhellach nododd fod tai ar yr ochr arall i'r ffordd mewn man amlwg iawn.

 

 

 

Ar ôl pwyso a mesur, byddai cynnwys yr adeiladau allanol yn cyfateb i welliant cynllunio meddai'r Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwesiwn y Cynghorydd Clive McGregor mewn perthynas â gostwng maint y datblygu, dywedodd y swyddog fod yr ymgeiswyr yn anfodlon trafod cyfaddawdu ac yn dymuno i'r cais gael ei ystyried fel y'i cyflwynwyd; aeth y swyddog yn ei flaen i ddweud ei bod yn gynamserol ystyried y posibilrwydd o ddatblygu safle Ty Mawr.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor ac i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Jim Evans, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Glyn Jones, Thomas Jones Clive McGregor, RL Owen, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD diddymu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1      14C28U/ECON  NEWID DEFNYDD TIR DIWYDIANNOL GWAG I GANOLFAN AILGYLCHU A CHODI ADEILAD TROSGLWYDDO AR BLOT 8+, PARC DIWYDIANNOL, MONA

 

      

 

     Daethpwyd â’r cais hwn gerbron y Pwyllgor gan ei fod yn cael effaith ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd y byddai adeilad trosglwyddo pwrpasol yn cael ei adeiladu ynghyd â phortacabins fel swyddfeydd.  Mae’r cynnig yn ymwneud â chludo gwastraff (yn bennaf gwastraff domestig, gwastraff masnachol ac amaethyddol, i’r safle i’w sortio a’i storio gan ddefnyddio peiriannau symudol a rhai sefydlog.  Daw’r cynnig yn lle gorsaf drosglwyddo a geir ar hyn o bryd mewn ardal breswyl ar Lôn Porthdafarch, Caergybi.  Bydd y gwaith ar y safle yn golygu sortio a storio gwastraff er mwyn cynhyrchu deunyddiau eraill yn lle defnyddio cerrig o’r newydd ac i adennill pridd / isbridd a deunyddiau craidd wedi’u hailgylchu ar gyfer eu hailddefnyddio.

 

      

 

     Lleisiodd y Cynghorydd W i Hughes bryderon bod yna fusnes eisoes ar Stad Ddiwydiannol Mona yn cynnig gwasanaethau tebyg i’r hyn oedd dan sylw yma, ac roedd y safle hwn yn cael ei gadw mewn cyflwr blêr ac roedd hynny’n tanseilio safon gweddill y Parc Diwydiannol; roedd yna hefyd bryderon ynglyn â rhediad dwr wyneb a dwr tir o’r safle.  Mewn ymateb i adroddiad y swyddog bod “y cais fel y’i cyflwynwyd yn un ar gyfer newid defnydd o ran o blot 8+”, gofynnodd y Cynghorydd Hughes beth fyddai’n digwydd i weddill plot 8.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton bod yr ymgeiswyr yn bwriadu symud eu busnes o ardal breswyl nad oedd yn addas o fewn ei ward ef, ac roedd y busnes wedi ehangu gydag ehangu pellach yn yr arfaeth ac roedd am gynnig rhoi caniatâd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Lewis Davies, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones, Thomas Jones, Clive McGregor, RL Owen, J Arwel Roberts, Hefin Thomas, Selwyn Williams, John Penri Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd a gyda’r amodau a restrir.

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau i’w penderfynu gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1.1     23C48C  CEISIADAU DIWYGIEDIG i GODI BYNGALO YN LLE UN ARALL, CODI GAREJ AC ADDASIADAU GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GAIS CYNLLUNIO RHIF 23C48B/DA YNGHYD Â GWAITH ALTRO I’R FYNEDFA BRESENNOL A LLEOLI TANC SEPTIG NEWYDD A THRAEN CERRIG YN BWLCH Y DARAN, CAPEL COCH

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu ond yn gais yr oedd yr awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei ganiatáu gan fod caniatâd cynllunio llawn wedi’i roddi iddo (23C48B/DA, caniatáu yn 1989).  Mae’r cais presennol yn un i ddiwygio’r un a ganiatawyd cyn hyn a chyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at hanes cynllunio’r safle gan gadarnhau bod y datblygiad eisoes wedi’i ddechrau.  Roedd llythyrau wedi’u derbyn gan drigolion yr eiddo i’r de o’r safle.  Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatau.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Clive McGregor am argymell derbyn adroddiad y swyddog a’i argymhellion, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas, fe ddywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod swyddog cynllunio wedi cadarnhau mewn nodyn yn y ffeil bod digon o waith o dan Adran 56 o’r Ddeddf (dechrau sylweddol ar y datblygiad) eisoes wedi digwydd.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Lewis Davies, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones, Thomas Jones, Clive McGregor, RL Owen, J Arwel Roberts, Hefin Thomas, Selwyn Williams, John Penri Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd a gyda’r amodau a restrir.

 

      

 

9.2.1     23................C108C  CADW LLEOLIAD DIWYGIEDIG YR ANNEDD A GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GAIS CYNLLUNIO 23C108B YNGHYD AG YMESTYN Y CWRTIL A CHODI ADEILAD AR 0S 8625, CEFN-IWRCH, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Clive McGregor cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Daethpwyd â’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu ond yn gais y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo cyn hyn.  Roedd yr annedd wedi’i hadeiladu yn unol â’r manylion yn y caniatâd gwreiddiol, ond roedd wedi’i chodi mewn safle oedd yn wahanol i’r un y cafwyd caniatád ar ei gyfer yn wreiddiol, ac yn ychwanegol i hyn roedd adeilad oedd i’w ddefnyddio i bwrpasau oedd yn ategol i’r annedd wedi’i godi.  

 

      

 

     Roedd Swyddogion o’r farn mai dim ond effaith fechan iawn gâi’r cynnig ar gymeriad yr ardal ac ar fwynderau eiddo cyfagos.  Byddai’r polisiau a fabwysiadwyd fel arfer yn tueddu tuag at wrthod codi annedd yn y lleoliad hwn; roedd ystyriaethau eraill o bwys, gan gynnwys hanes cynllunio blaenorol y safle, yn gorbwyso ystyriaethau polisi o’r fath ac yn dweud y gellid rhoddi caniatâd o osod amodau priodol.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y byddai amod (03) yn sicrhau y byddai’r adeilad ychwanegol yn ategol i’r brif annedd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr annedd rhyw 10 - 15m i ffwrdd o’r safle a ganiatawyd yn wreiddiol.  Cymharodd y Cynghorydd Hefin Thomas y cais hwn gyda’r cais yn eitem 6.5 (Llanfair-pwll) yn y cofnodion hyn a dywedodd y byddai’n ei chael yn anodd i gefnogi’r cais, a chytunodd y Cynghorydd Jim Evans gyda hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn Llanfair-pwll yn un oedd mewn safle uwch ond bod y safle hwn yn un isel ac yn un na ellid ei weld bron.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Barrie Durkin y dylid ymweld â’r safle er mwyn asesu’r sefyllfa ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD, yn unfrydol, y dylid ymweld â’r safle.

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1.1     11C514  CAIS LLAWN i GODI DWY ANNEDD YNGHYD AG ADEILADU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I’R EGLWYS GATHOLIG, AMLWCH

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.  Adroddwyd bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol a bod consyrn y trigolion ynglyn â draenio dwr wyneb wedi’u datrys er boddhad pawb.   Roedd argymhelliad y dylai’r ddwy uned breswyl gael eu cynnwys mewn unrhyw ofyn am dai fforddiadwy allai godi yng nghyswllt ceisiadau cynllunio ar weddill y tir oedd dan reolaeth yr ymgeisydd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio i ganiatáu’r cais, yn amodol ar wneud Cytundeb Adran 106 bod y ddwy uned breswyl yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ofynion am dai fforddiadwy yng nghyswllt unrhyw gais cynllunio ar weddill y tir (dangosir mewn glas) sydd o fewn rheolaeth yr ymgeisydd.

 

      

 

10.2.1     13C87A  CAIS LLAWN i GODI GAREJ BREIFAT A STOR YN YR EFAIL, BODEDERN

 

      

 

     Datganodd Mr Dewi Francis Jones ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.  Daethpwyd â’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeiswyr yn rieni i Swyddog o fewn yr Adain Reoli Datblygu.

 

      

 

     Adroddwyd i’r cais gael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y cynnig yn cael ei ystyried fel un derbyniol yn nhermau polisi cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau a restrir.

 

      

 

10.3.1     30LPA894/CC  GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD A NEWID TRAEN CERRIG i WASANAETHU RHIFAU 1 - 4 TAI BETWS, LLANBEDR-GOCH  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Barrie Durkin cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cafodd y cais hwn ei ddwyn gerbron y Pwyllgor gan mai’r Cyngor ei hun sydd yn ei gyflwyno.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn destun ymgynghori hyd 30 Mai, ac argymhellodd ei ohirio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

10.4.1     36C206C  GWAITH ALTRO AC YMESTYN YN CEFN CANOL, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd R Ll Hughes a Mr Robert J Hughes o’r Adran Priffyrdd ddiddordeb yn y cais hwn.  Daethpwyd â’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn gweithio i’r Cyngor a hefyd yn fab i aelod lleol.

 

      

 

     Dywedwyd bod y cais wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau a restrir.  

 

      

 

10.5.1     41C9U  NEWID DEFNYDD TIR i OSOD 56 O GYNHWYSYDDION STORIO YNGHYD AG ADEILADU CANOPI YNG NGHANOLFAN MASNACHU STAR, STAR

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio.  Dywedwyd y byddai’r cynhwysyddion yn cael eu defnyddio i storio gan fusnesau a pherchenogion tai; byddai hefyd yn cynnwys codi strwythur/canopi i sgrinio’r cynhwysyddion rhag i’r cyhoedd eu gweld, yn arbennig o briffordd yr A5.  Roedd y cais gerbron yn dod dros wrthwynebiadau blaenorol y Cyngor

 

      

 

     a thros resymau’r Arolygwr Cynllunio dros wrthod yr apêl, a’r teimlad oedd nad oedd digon o resymau cynllunio dros wrthod y cynnig presennol gydag amodau.

 

      

 

     O ystyried y llythyrau oedd wedi’u derbyn mewn ymateb i’r gwaith ymgynghori cyhoeddus, fe ofynnodd y Cynghorydd Eric Jones am i’r aelodau ymweld â’r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

10.6.1     45C311D  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG i GODI ANNEDD, GAREJ DDWBL, YNGHYD AG ESTYNIAD I’R CWRTIL AR DIR RHWNG RUSHMEAD A PEN Y BONT, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn yr Adran Gynllunio sydd ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd.

 

      

 

     Adroddwyd bod y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Roedd y cais gerbron yn gofyn am ddiwygio yr un ganiatawyd yn flaenorol ac roedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol o safbwynt y tirlun ac effaith weledol cyn belled â bod cynllun tirlunio yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r datblygiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J Arwel Roberts bod adroddiad y swyddog yn cael ei dderbyn a’r cais yn cael ei ganiatáu, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr John Chorlton a Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, a gyda’r amodau a restrir.

 

 

 

 

 

Ystyriwyd eitemau 10.7 a 10.8 gyda’i gilydd.  

 

      

 

      

 

10.7.1     49C255  CYNLLUNIAU LLAWN i GODI NAW ANNEDD YNGHYD Â GWAITH ALTRO I’R FYNEDFA BRESENNOL i GERBYDAU A THORRI RHAI COED A DDIOGELIR O DAN ORCHYMYN CADW COED YN COEDLYS, FFORDD LLUNDAIN, FALI

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Cyngor Cefn Gwlad wedi gwneud asesiad ecolegol boddhaol, ac mai’r argymhelliad oedd caniatáu’r cais gyda gosod cytundeb Adran 106 am dai fforddiadwy.

 

      

 

     Ar ran y trigolion lleol, roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn teimlo ei bod yn rheidrwydd arno ddwyn sylw at y broblem o rediad dwr wyneb o’r safle i Ffordd Pendyffryn, a’i fod hefyd yn cael ei bwmpio oddi ar y safle i wella’r sefyllfa yn ystod glaw trwm, ac roedd trigolion hefyd yn lleisio pryderon ynglyn â cholli coed.  Roedd yn derbyn yr argymhelliad o ganiatáu cyn belled â bod y materion hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

 

      

 

     O weld bod yma ddarpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy, roedd y Cynghorydd Arwel Roberts am gynnig derbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad o ganiatáu, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau a restrir ac yn cynnwys cytundeb cyfreithiol yn cysylltu’r cais hwn i gais 10.8 yn y cofnodion hyn (49C255B) i sicrhau darparu tai fforddiadwy.

 

      

 

10.8.1     49C255B  CYNLLUNIAU LLAWN i DDYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI 4 ANNEDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD i GERBYDAU AR RAN O DIR YN COEDLYS, FFORDD LLUNDAIN, Y FALI 

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio i’w benderfynu.

 

      

 

     O weld bod yma ddarpariaeth wedi’i chynnwys ar gyfer tai fforddiadwy, roedd y Cynghorydd Arwel Roberts am gynnig y dylid derbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad o ganiatáu ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD, yn unfrydol, caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, a gydag amodau yn cynnwys cytundeb cyfreithiol yn cysylltu’r cais hwn i gais 10.7 yn y cofnodion hyn (49C255) i sicrhau darparu tai fforddiadwy.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig oedd wedi’u penderfynu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad wnaed gan yr Arolygwr Cynllunio o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990:

 

      

 

12.1.1     TIR YN GYFAGOS i ORSAF TY CROES

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio amlinellol i godi un annedd o dan gais cynllunio 28C339B wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 3 Mai, 2007 - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

13     MATERION ERAILL

 

      

 

13.1.1     46C448B/EIA  CAIS LLAWN AM WAITH GWELLA ARFORDIROL YNGHYD AG    ADEILADU MAES PARCIO YN NHREARDDUR

 

      

 

     O weld yr ohebiaeth bellach oedd wedi’i derbyn, penderfynwyd gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

13.2.1     OMBWDSMON Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS YNG NGHYMRU - CANFYDDIAD O GAMWEINYDDU

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Glyn Jones ac R L Owen ddiddordeb yn y cais hwn ac aethant allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno.  Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts iddo fynychu cyfarfodydd yn ystod y trafodaethau ar y cais, a’i fod yn cefnogi cyngor y swyddog ar y pryd ac o'r herwydd y buasai'n aros yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

     Roedd y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 9 Mai, 2008 wedi “penderfynu bod y mater yn cael ei gyfeirio i’w benderfynu i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion”.

 

      

 

     Cyflwynwyd:

 

      

 

Ÿ

adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar ymchwiliadau wnaed i faterion Priffyrdd a Chynllunio yn dilyn cyfarfod rhwng swyddfa’r Ombwdsmon, Arweinydd y Cyngor, Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol a swyddogion perthnasol;

 

Ÿ

er gwybodaeth, gopi o’r adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr-gyfarwyddwr, a’r Swyddog Monitro, fel a gyflwynwyd i gyfarfod y Cyngor Sir ar 4 Mawrth, 2008

 

Ÿ

argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus dros Gymru yn dilyn canfyddiad o gamweinyddu yng nghyswllt mater cynllunio (rhif cyfeirio’r Ombwdsmon 200700051).

 

 

 

Ar gais y Pwyllgor roedd y Swyddog Monitro ar ôl iddi ddarparu llythyr o gyngor i aelodau'r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod yna oblygiadau pellgyrhaeddol i benderfynu ar ymateb i ganfyddiadau’r Ombwdsmon.  Dywedodd bod y gweithdrefnau cywir wedi'u dilyn pan oedd y cais hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor, ac fe gymerwyd yr holl faterion cynllunio perthnasol i ystyriaeth, ac fe wnaed penderfyniad cadarn.

 

 

 

Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r Swyddog Monitro egluro beth oedd statws adroddiad yr Ombwdsmon.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai statws argymhelliad yn unig oedd i adroddiad yr Ombwdsmon ac nad oedd iddo unrhyw rym yn gyfreithiol ond petai penderfyniad yn annheg neu’n afresymol roedd yr Ombwdsmon mewn sefyllfa i fynd â’r mater i’r Uchel Lys i ofyn am ddirymu penderfyniad o’r fath - roedd yn fwy na thebyg y byddai’r penderfyniad yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Cyngor hwn gydag argymhelliad pellach.  Roedd yn cynghori nad oedd yna unrhyw resymau cadarn dros wrthod argymhellion yr Ombwdsmon.   

 

 

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Swyddog Monitro fod yr aelodau hynny a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol wedi cael y cyfle i amddiffyn eu penderfyniad ac i ymateb i gasgliadau'r Ombwdsmon, ond cafodd cyflwyniadau'r Aelodau dan sylw eu gwrthod gan yr Ombwdsmon.

 

 

 

Wedyn cymharodd y Cynghorydd Hefin Thomas yr achos hwn gydag achos o herio'r Ombwdsmon yn y Llys yn Argyle a'r Ombwdsmon yn colli.

 

 

 

Hefyd atgoffwyd yr Aelodau gan y Swyddog Monitro o gasgliadau'r Ombwdsmon yn yr achos hwn, sef bod y penderfyniad yn "perverse and taken with maladministration" oherwydd y datblygiad cyfochrog a hefyd oherwydd yr ystyriaeth briffyrdd a oedd, ar ben ei hun, yn ddigon o gyfiawnhad i wrthod y cais.

 

 

 

Yr oedd yr Aelodau wedi dibynnu ar Bolisi 50 ond heb roddi sylw i'r ystyriaeth amwynder.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas pwy fuasai'n gyfrifol am dalu'r iawndal i'r datblygwr.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro mai'r Cyngor, dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am gwrdd â chais datblygwr am iawndal, ac o'r herwydd bydd raid i'r Cyngor benderfynu a ydyw am geisio hawlio'r costau hynny yn ôl trwy sicrhau indemniad gan yr Aelodau unigol hynny a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol, ond mater ar wahân yw hwn, ac ni ddylai ddylanwadu ar benderfyniad heddiw - mae angen seilio hwnnw ar adroddiad yr Ombwdsmon nid ar bwy sy'n gyfrifol am y costau.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r Swyddog Monitro a oedd wedi newid ei chyngor ers rhannu'r llythyr blaenorol ymhlith Aelodau gan nad oedd sôn am indemniad yn ei llythyr diweddaraf.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorydd Hefin Thomas na fu unrhyw newid yn ei sylwadau a bod y llythyr diweddaraf wedi'i yrru at Aelodau newydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion tra oedd y llythyr cynt wedi'i yrru cyn gweithredu at yr Aelodau hynny a wnaeth y penderfyniad sy'n destun adroddiad yr Ombwdsom.

 

 

 

Cafwyd cynnig ffurfiol gan y Cynghorydd Hefin Thomas “bod y Cyngor hwn yn derbyn canfyddiadau ffeithiol yr Ombwdsmon, ond yn gwrthod ei argymhelliad ar y sail na chafodd unrhyw dystiolaeth ei rhoi gan swyddogion priffyrdd i gefnogi eu hargymhelliad ac ymhellach nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu gan unrhyw un i gefnogi’r gosodiad bod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor ar 7 Chwefror, 2007 wedi dangos rhagfarn neu ei fod yn afresymol, yn wrthnysig neu’n annheg wrth ddod i’w benderfyniad.”   Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr ei bod yn amlwg i’r Pwyllgor wneud y penderfyniad anghywir ar y pryd.  Fe wnaed y penderfyniad yn groes i argymhelliad y swyddog.  Roedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu nad oedd “Polisi 50” yn rheswm digonol dros ganiatáu’r fath gais o gofio’r effaith niweidiol a gâi ar fwynderau eiddo cymdogion, ac yn anffodus mae yna dystiolaeth sylweddol bod y penderfyniad yn un gwrthnysig ac nad oedd y meini prawf angenrheidiol o fewn Polisi 50 wedi’u bodloni.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Barrie Durkin os oedd yr ymgeiswyr wedi cwblhau’r tystysgrifau perthnasol yn datgan pwy oedd perchennog y tir.  Dywedodd Pennaeth Rheoli Datblygu bod dyletswydd ar bob ymgeisydd i ddatgan perchenogaeth ar unrhyw dir sy’n cael ei effeithio, ni fyddai’n ymarferol i swyddogion siecio cywirdeb pob cais.  Roedd y Cynghorydd Durkin yn teimlo y dylid mynd ar ôl y fath faterion gan y gallant gael effaith ar gronfeydd cyhoeddus.

 

 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr bod y mater hwn weithiau yn berthnasol ond, yr yr achos penodol hwn, roedd y cyfnod ar gyfer arolwg barnwrol wedi mynd heibio ers tro.  Mater amherthnasol oedd hwnnw ac, o roddi sylw iddo, ni fuasai'r Pwyllgor yn rhoddi sylw i'r prif fater a nodwyd gan yr Ombwdson, sef methu â chyfiawnhau rhoddi caniatâd dan Bolisi 50.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn parhau o’r farn i’r penderfyniad iawn gael ei wneud ar y pryd, ac mai rôl yr Ombwdsmon yw gwneud argymhellion nad ydynt yn rhai cyfreithiol, y llysoedd sydd yn rhoddi dehongliad pendant o’r gyfraith, gyda rhwymedigaeth a hawl i’w gorfodi; cyfeiriodd hefyd at ganlyniad apêl yn ddiweddar yn ymwneud â’r Hen Faddonau ym Miwmares, lle roedd yr aelodau wedi penderfynu gwrthod a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylid penderfynu ar bob cais ar ei rinweddau ei hun - roedd y ffaith nad oedd gwelededd digonol o’r fynedfa ynddo’i hun yn cyfiawnhau gwrthod y cais hwn; cyfeiriodd at ofynion TAN 18 a’r mesuriadau roddwyd yn adroddiad y swyddog yn pwysleisio nad oedd y gwelededd yn ddigonol o’r fynedfa.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Penri Williams, yn teimlo nad oedd sylw digonol wedi cael ei roddi yn adroddiad yr Ombwdsmon i fater y gwelededd o’r fynedfa gan yr Adran Briffyrdd.

 

 

 

Wrth gloi, dywedodd y cyfreithiwr mai pwrpas dod â’r mater hwn i sylw’r Pwyllgor oedd er mwyn lleihau’r niwed a achoswyd ac i osgoi unrhyw achos llys a chostau pellach.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn canfyddiadau’r Ombwdsmon ond gwrthod ei argymhellion:  Y Cynghorwyr

 

Barrie Durkin, Jim Evans, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

 

 

Derbyn adroddiad yr Ombwdsmon a’i argymhellion i ddiddymu’r caniatâd a thalu’r iawndal perthnasol:  Y Cynghorwyr Lewis Davies, Ken Hughes, Thomas Jones, Clive McGregor, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad yr Ombwdsmon a’i argymhellion i ddiddymu’r caniatâd a thalu £500 a £100 i'r achwynwyr perthnasol trwy daliadau ex gratia.

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a therfynwyd am 2.40 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD THOMAS JONES

 

CADEIRYDD