Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 18 Hydref 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 18fed Hydref, 2007

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 18 Hydref, 2007 (1.30 p.m.)

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W.J. Williams MBE - Cadeirydd

 

Y Cynghorydd John Roberts - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, John Byast, W.J. Chorlton,

J.M. Davies, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes,

Mrs. Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, Eric Jones,

H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, A.M. Jones,

T.H. Jones, Bryan Owen, G.O. Parry MBE, Bob Parry OBE,

D.A. Lewis-Roberts, G.W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts,

W.T. Roberts, P.S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas,

John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol),

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo),

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro,

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau,

Swyddog Cyfathrebu.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P.J. Dunning, G.O. Jones, R.Ll. Jones,

R.L. Owen, G. Allan Roberts, J. Rowlands, K. Thomas.

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd P.M. Fowlie.

 

Nodyn : Safodd y Cadeirydd i lawr o'r Gadair am 2.30pm ac nid oedd yn bresennol am weddill y cyfarfod.  Cadeiriodd yr Is-Gadeirydd y cyfarfod.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Datganodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Priffyrdd.

 

Datganodd y Cynghorydd Fflur M. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mhab yn yr Adran Addysg.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd C.Ll. Everett ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Hawliau Dynol.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylchedd.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd A.M. Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd R.G. Parry OBE ddiddordeb yn Eitem 2(i) o’r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresenol yn y cyfarfod yn ystod y trafod a'r pleidleisio ar yr eitem.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd H.W. Thomas ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â diddordebau busnes ei wraig.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylchedd.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd Eric Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a Chartrefi Preswyl y Cyngor.

 

 

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU BENNAETH Y GWASANAETHAU TÂL

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd, ar ran yr Aelodau a'r Swyddogion, ei gydymdeimlad llwyraf i'r Cynghorydd R. Ll. Jones a'i deulu ar golli ei dad-yng-ngyfraith.

 

 

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o'u parch.

 

 

 

3

CYFARFOD ARBENNIG O’R CYNGOR SIR

 

 

 

Yn unol â Pharagraff 4.1.3.1 Cyfansoddiad y Cyngor, mae’r Cadeirydd wedi galw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir yn dilyn cais i’r pwrpas hwnnw, wedi ei arwyddo gan saith aelod o’r Cyngor.

 

 

 

Mae’r cais yn darllen fel a ganlyn :-

 

 

 

“1. The Council resolves that the Executive manages the Small Holdings in accordance with the existing “Small Holdings Policy”, which involved implementation of Constitution 2.1.3(2) securing full consultation for stakeholders before being fully adopted by Council on the 16th May, 2003.

 

 

 

2. The Council resolves to support the re-opening of the Gaerwen/Amlwch Railway Line Project as outlined by “Anglesey Central Railway” who have been offered a 99 year lease by Network Rail.”

 

 

 

Arwyddwyd y cais gan y Cynghorwyr fel a ganlyn :-

 

 

 

Y Cynghorwyr E.G. Davies, P.M. Fowlie, W.I. Hughes, O. Glyn Jones, T.H. Jones, A.. Morris Jones,

 

B. Owen.

 

 

 

1.  Polisi Mân-ddaliadau

 

 

 

(Roedd llythyrau gan Gynghorau Cymuned Llannerch-y-medd a Rhosybol yn gwrthwynebu gwerthu mân-ddaliadau'r Cyngor wedi eu rhoi gerbron y cyfarfod hwn).

 

 

 

Y Cynghorydd Tom Jones oedd yn siarad ar ran y cynnig.  Dywedodd fod dyfodol Stad Mân-ddaliadau'r Cyngor yn un o bwysigrwydd mawr i'r diwydiant ffermio ac i'r Ynys yn gyffredinol.  

 

 

 

Cyfeiriodd at y ddogfen Polisi Mân-ddaliadau fabwysiadwyd gan y Cyngor ym Mai 2003 ac i waith ymgynghori llawn gael ei wneud bryd hynny gyda'r diwydiant ffermio.

 

 

 

Gofynnodd i'r Cyngor unwaith yn rhagor wneud gwaith ymgynghori llawn gyda'r diwydiant ffermio os oedd y Pwyllgor Gwaith yn bwriadu symud oddi wrth y polisi hwn.  Roedd y Cynghorydd Tom Jones am ddadlau ymhellach fod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn groes i'r Cyfansoddiad, oedd wedi'i fwriadu i roi lle amlwg i bobl gymryd rhan weithredol yn y broses o ffurfio'r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol.

 

 

 

Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod y Cyfansoddiad o dan Para 3.2.2.1, yn nodi y dylai Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor fod yn fater na allai gael ei fabwysiadu ond gan y Cyngor llawn.  Roedd y mater hwn wedi ei ddwyn i sylw'r Archwilydd Rhanbarthol ac roedd yntau wedi cadarnhau fod y Stad Mân-ddaliadau yn rhan o'r Cynllun Rheoli Asedau a'i fod felly yn gyfrifoldeb y Cyngor llawn.

 

 

 

Gofynnodd am i'r Cyngor lynu wrth Bolisi 2003 nes y byddai'r Cyngor yn derbyn polisi oedd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac a fyddai'n rhoddi cyfarwyddyd clir ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod yn agored i'r Cyngor heddiw i drafod a phleidleisio ar y cyfeiriad yr oedd y Cyngor yn dymuno gweld y Polisi Mân-ddaliadau'n ei gymeryd.  Beth bynnag fyddai'r penderfyniad wneid gan y Cyngor heddiw, roedd yn rhaid iddi rhoi cyngor i'r swyddogion yn yr Adran Eiddo mai'r polisi cyfreithlon yr oedd yn rhaid iddynt ei ddilyn ar hyn o bryd oedd y polisi roedd y Pwyllgor Gwaith wedi ei fabwysiadu ar 21 Mai 2007.

 

 

 

Ar hyn o bryd, roedd y polisi ar Fân-ddaliadau i'w benderfynu gan y Pwyllgor Gwaith a dim gan y Cyngor llawn.  O dan Para 4.3.2.7 (i) o'r Cyfansoddiad, roedd fframwaith y polisi, sef y polisïau a'r strategaethau oedd i'w benderfynu gan y Cyngor llawn yn dweud "ar adeg mabwysiadu'r Cyfansoddiad hwn 7 Mai 2002 mae'r cynlluniau a'r strategaethau sydd eisoes wedi cael eu mabwysiadu gan y Cyngor yn rhan o fframwaith polisi'r Cyngor."  Roedd y Cyfansoddiad yn mynd yn ei flaen i egluro'r broses ar gyfer newid ac ychwanegu at y fframwaith polisi.  Roedd y Cynllun Mân-ddaliadau y cyfeirir ato yma heddiw wedi ei fabwysiadu yn 2003 ac yn dod felly, ar ôl y Cyfansoddiad.  Er mwyn iddo ddod yn gyfrifoldeb y Cyngor llawn, yn hytrach na'r Pwyllgor Gwaith, roedd yna broses benodol y byddai'n rhaid ei dilyn.  Roedd y gair terfynol yn y pen draw yn gorwedd gyda'r Cyngor, ond ni ellid gwneud y newid hwn trwy Rybudd o Gynnig a thrafodaeth heddiw.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd H. W. Thomas, y Deilydd Portffolio, yn deall paham yr oedd y mater hwn wedi cael ei godi heddiw oherwydd iddo gael ei wneud yn glir yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ar 18 Medi 2007 y byddai Panel yn cael ei sefydlu i edrych ar fân-ddaliadau ac y byddai'n cymryd sylwadau'r cydranddeiliaid perthnasol i ystyriaeth.  Roedd y Panel wedi ei sefydlu a byddai'n cyfarfod yn fuan.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P. M. Fowlie y dylai'r Cyngor ohirio gwneud penderfyniad ynglyn â gwerthu mân-ddaliad Chwaen Newydd ac y dylai'r Panel y cyfeiriwyd ato symud ymlaen ar unwaith i geisio cael safbwyntiau'r cydranddeiliaid.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro i'r Cyngor hwn gael ei alw fel cyfarfod arbennig ac nad oedd unrhyw fusnes i'w drafod mewn cyfarfod a alwyd gan aelodau ond yr hyn oedd wedi ei nodi yn y rhybudd oedd wedi ei gyhoeddi.  Roedd yr hyn oedd wedi ei gynnig gan y Cynghorydd Fowlie mewn perthynas â Chwaen Newydd yn fater ar wahân ac ni ddylid ei drafod yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd H. W. Thomas, fel Deilydd Portffolio, y gwelliant canlynol :-

 

 

 

"Y dylid caniatáu i'r Panel a sefydlwyd i adolygu mân-ddaliadau gwblhau ei waith ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith gyda'i argymhellion.  Adolygiad o'r fath i ystyried safbwyntiau'r holl gydranddeiliaid perthnasol. Fe ddylai unrhyw werthiant y gwnaed penderfyniad arno cyn hyn gan y Pwyllgor Gwaith symud yn ei flaen a bydd gwaharddiad ar unrhyw werthiant pellach hyd amser cwblhau'r adolygiad."

 

 

 

O dan ddarpariaethau Rheol y Cyngor 18.5, cytunwyd y dylid cymryd pleidlais wedi ei chofnodi ar y mater.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

 

 

Dros y gwelliant rhoddwyd ymlaen gan y Cynghorydd H. W. Thomas fel y cyfeirir ato uchod:

 

 

 

Dros : Y Cynghorwyr J. Byast, Mrs. B. Burns MBE, W.J. Chorlton, J.M. Davies, K. Evans,

 

C.Ll. Everett, D.R. Hadley, D.R. Hughes, H.E. Jones, J.A. Jones, D. Lewis-Roberts, J. Roberts,

 

J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, G.W. Roberts OBE, H.W. Thomas, J. Williams, W.J. Williams (Cyfanswm 18)

 

 

 

Yn Erbyn : Y Cynghorwyr E.G. Davies, J. Arwel Edwards, P.M. Fowlie, Ff. M. Hughes,

 

R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, A. Morris Jones, Eric Jones, O. Glyn Jones, T. Jones, B. Owen,

 

G.O. Parry MBE, P.S. Rogers, E. Schofield.   (Cyfanswm 14)

 

 

 

Atal eu pleidlais : Dim

 

 

 

Felly fe gafodd y cynnig ei gario.

 

 

 

2. Lein Gaerwen/Amlwch

 

 

 

Rhoddwyd y llythyrau canlynol gerbron y cyfarfod :

 

 

 

Ÿ

Llythyrau yn cefnogi ail agor y lein gan Gynghorau Cymuned Aberffraw a Llannerch-y-medd.

 

Ÿ

Llythyr gan Gyngor Cymuned Rhosybol a oedd o'r farn y dylai lein drên a thrac seiclo redeg ochr yn ochr.

 

Ÿ

Gwybodaeth gan y Cynghorydd Fflur M. Hughes ar ran Grwp Lôn Las Môn yn cefnogi'r defnydd o lwybr troed/llwybr seiclo.

 

Ÿ

Llythyrau gan Network Rail a'r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth).

 

 

 

Siaradodd y Cynghorydd E. Schofield o blaid y cynnig.  Dywedodd nad oedd yn dderbyniol, o safbwynt y Cyngor, i bethau aros fel ac y maent.  Roedd yna graith oedd yn 25 milltir o hyd ac yn llawn chwyn ar hyn o bryd yn rhedeg ar draws canol Ynys Môn ac roedd iddi potensial economaidd mawr.  Roedd yn rhaid gwneud penderfyniad fel y gellid cael mantais economaidd i'r Ynys o'r rheilffordd ddiddefnydd hon.

 

 

 

Aeth y Cynghorydd Schofield ymlaen i roi gwybodaeth i'r Cyngor ynglyn â sawl mynegiant o gefnogaeth gan bartïon oedd a diddordeb mewn ail weithio'r lein drên.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Fflur M. Hughes am dynnu sylw'r aelodau at y wybodaeth oedd i'w chael o fewn y daflen yr oedd wedi ei rhoi gerbron Grwp Lôn Las Môn, ac yn arbennig at y manteision iechyd fyddai'n deillio o ganlyniad i ddefnyddio'r lein fel llwybr seiclo, llwybr troed a llwybr ceffylau.  Roedd yn deisyfu ar i'r Cyngor lynu wrth ei benderfyniad blaenorol yn hyn o beth.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd C. L. Everett o'r farn nad oedd  y mater oedd yn cael ei drafod heddiw yn y Siambr yn benderfyniad i'r Cyngor ei wneud ac y gallai Network Rail yn y pen draw brydlesu'r trac i bwy bynnag yr oedd yn dymuno.  Roedd, fodd bynnag, yn amheus os oedd gan Rheilffordd Canol Môn y cyllid cyfalaf i symud ymlaen gyda'r cynllun, fyddai'n golygu y byddai'n rhaid iddo fod yn gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw nifer fawr o bontydd oedd yn croesi'r lein.

 

 

 

Dywedodd yr Arweinydd - ers agor llwybr arfordirol Ynys Môn, roedd economi'r Ynys wedi elwa o rhyw £8-10m.  Roedd yn teimlo ei bod hi'n bwysig i'r Cyngor lynu wrth y penderfyniad wnaed ganddo ar 6 Mawrth 2007, sef mai ei opsiwn dewisol oedd i'r lein ddod yn lwybr seiclo, cerdded a cheffylau.  Gofynnodd i'r Cyngor gefnogi'r Cynghorydd Fflur M. Hughes.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd E. Schofield at yr e-bost dyddiedig 16 Hydref, 2007, lle roedd cynrychiolydd Network Rail wedi cadarnhau ar lafar eu bod yn symud ymlaen i wneud cynnig o les 99 mlynedd i Rheilffordd Canol Ynys Môn o fewn ychydig wythnosau.  Wedi iddo wrando ar y drafodaeth yn y Siambr heddiw, roedd yn teimlo y dylai Network Rail, Rheilffordd Canol Ynys Môn a Sustrans ddod at ei gilydd er budd yr Ynys gyfan ac y dylai'r Awdurdod hwn gefnogi defnydd deuol i'r trac.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Schofield, felly, y dylai'r Cyngor ei gwneud yn glir i Network Rail bod y cyngor hwn yn cefnogi gwneud defnydd deuol o'r lein ac y dylai Network Rail yn y pen draw benderfynu ynglyn â beth oedd am ei  wneud gyda'r les.  Pebai angen, byddai'r Awdurdod hwn yn barod i weithredu fel canolwr rhwng y partïon oedd â diddordeb.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ni chafodd cynnnig y Cynghorydd E. Schofield ei gario a PHENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad blaenorol y Cyngor hwn wnaed ar 6 Mawrth 2007.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.55 pm

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD W. J. WILLIAMS

 

CADERIYDD (Hyd 2.30pm)

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ROBERTS (IS-GADEIRYDD) (Wedi hynny)