Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 18 Hydref 2007

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Iau, 18fed Hydref, 2007

CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 18 Hydref, 2007 (4.00 p.m.)  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Roberts - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns MBE, John Byast, W.J. Chorlton,

J.M. Davies, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans,

C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, D.R. Hughes,

Mrs. Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, W.I. Hughes, Eric Jones,

G. O. Jones, H. Eifion Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones,

A.M. Jones, R.Ll. Jones, T.H. Jones, Bryan Owen, R.L. Owen,

G.O. Parry MBE, Bob Parry OBE, D.A. Lewis-Roberts,

G.W. Roberts OBE, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts,

J. Rowlands, P.S. Rogers, E. Schofield, Hefin W. Thomas,

John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio),

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (RMJ),

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau,

Swyddog Cyfathrebu

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P.J. Dunning, G.O. Jones, R.Ll. Jones, R.L.Owen,

G. Allan Roberts, J. Rowlands, K. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei wraig yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Datganodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab yn yr Adran Priffyrdd.

 

Datganodd y Cynghorydd Fflur M. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud â chyflogaeth ei mab yn yr Adran Addysg.

 

Datganodd y Cynghorydd C.Ll. Everett ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Adnoddau Dynol.

 

Datganodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Datganodd y Cynghorydd A.M. Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei fab yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd H.W. Thomas ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a busnes ei wraig.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd G.W. Roberts OBE ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a chyflogaeth ei ferch yn yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd Eric Jones ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen a allai ymwneud a Chartrefi Preswyl y Cyngor.

 

 

 

2

AILASESIAD BLYNYDDOL O RISG A’R CYNLLUN GWELLA 2007/2008

 

 

 

(i)     Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 8 Hydref, 2007 wedi penderfynu fel a

 

ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

Cadarnhau’r risgiau a nodwyd a’r trywyddau gwella arfaethedig (Atodiad 1)

 

 

 

Ÿ

Gofyn i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini ystyried y risgiau allweddol (Atodiad 1) a’r Cynllun Gwella drafft (Atodiad 2) ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Ÿ

Yn amodol ar yr uchod, argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn rhoi awdurdod i’r Rheolwr-gyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio (Addysg a Dysgu Gydol Oes) i baratoi fersiwn derfynol y Cynllun erbyn 31 Hydref 2007.

 

 

 

(ii)     Cyflwynwyd - sylwadau gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2007.

 

 

 

(iii)     Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Hydref, 2007 wedi penderfynu fel a           ganlyn :

 

 

 

Ÿ

“Nodi argymhellion y Prif Bwyllgor Sgriwtini ar 11 Hydref, 2007 a diolch iddynt am eu gwaith yn y cyswllt hwn.

 

 

 

Ÿ

Nodi’r sefyllfa gyfredol a’r amserlen mewn perthynas a chwblhau’r Cynllun.

 

 

 

Ÿ

Bod y Cyngor sir yn derbyn ac yn mabwysiadu’r Trywyddau Gwasanaeth a Gwella mewn perthynas a risgiau gwasanaeth a risgiau gwasanaeth a chorfforaethol (Atodiad 1 yn yr adroddiad drafft).

 

 

 

Ÿ

Argymell i’r Cyngor sir y dylid rhoi awdurdod i’r Rheolwr-gyfarwyddwr mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio (Addysg a Dysgu Gydol Oes) gwblhau’r Cynllun erbyn y dyddiad cau sef 31 Hydref, 2007.”

 

 

 

(iv)     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) (Copi eisioes wedi ei ddosbarthu i Aelodau gyda phapurau’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2007).

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. R. Hughes at y Risgiau Gwasanaeth a nodwyd gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini yng nghyswllt y Canolfannau Hamdden gan ddwyn sylw'r Cyngor yn arbennig at y ffaith y bydd y Pwyllgor Gwaith yn parhau i ystyried dyfodol y Canolfannau Hamdden yn hytrach na'r hyn a ddywedir yn y fersiwn Saesneg, sef 'reconsdier' .

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwaith o'i gyfarfod ar 15 Hydref 2007.

 

 

 

3

POLISI CYNLLUNIO INTERIM - GRWPIAU O DAI YN Y CEFN GWLAD

 

 

 

Adroddwyd - bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, 2007 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

 

 

“Nodi cynnwys yr adroddiad a chyfeirio’r mater i gyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir ar 18 Hydref, 2007, i’w benderfynu.”

 

 

 

3.1

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Hydref, 2007.

 

 

 

3.2

Cyflwynwyd - adroddiad pellach gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio).

 

 

 

 

 

 

 

Cynigiodd y Deilydd Portffolio fod y drafodaeth yn cael ei gohirio a bod Grwp Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu ac ar hwnnw y Deilydd Portffolio ac un aelod o bob grwp gwleidyddol a chyflwyno adroddiad yn ôl i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor Sir.

 

 

 

Gan y Cynghorydd P. M. Fowlie cafwyd gwelliant sef na ddylai'r Cyngor dderbyn y Polisi Interim a throsglwyddo'r mater i Banel y Cynllun Datblygu Lleol benderfynu arno.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Deilydd Portffolio ei fod am i Banel newydd ystyried y mater oherwydd y llithro oedd yn digwydd yn barod yn amserlen y Panel Cynllun Datblygu Lleol.

 

 

 

Trechwyd y gwelliant a PHENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater a rhoi'r awdurdod i'r Deilydd Portffolio (Cynllunio, Twristiaeth a Mân-ddaliadau) sefydlu Grwp Tasg a Gorffen i ystyried y mater ac ar y Grwp hwn bydd un aelod o bob grwp gwleidyddol.  Wedyn câi adroddiad ar waith y Grwp ei gyflwyno i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor Sir.

 

 

 

4

RHESTR SAFLE TREFTADAETH Y BYD - PONTYDD MENAI A BRITANNIA

 

 

 

1.1

Cyflwynwyd - gohebiaeth gan y Cynghorydd G.O. Parry MBE mewn perthynas â’r uchod.

 

 

 

 

 

1.2

Cyflwynwyd - y dyfyniad perthnasol o gofnodion cyfarfod y Cyngor Sir gynhaliwyd ar 18 Medi, 2007.

 

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE fod y penderfyniad i gyflwyno Pont y Borth a Phont Britannia gyda golwg ar eu cynnwys ar restr o Safleoedd Treftadaeth y Byd, a hynny fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Unedol, wedi dod i ben pan benderfynodd y Cyngor nad oedd am fwrw ymlaen gyda'r CDU.  Roedd ar ddeall bod y broses hon yn un hir, hyd yn oed dan amgylchiadau cyffredin, ond gofynnodd i'r Cyngor ystyried cyflwyno enwau'r pontydd hyn i'r corff priodol.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd y buasai'n gofyn i'r swyddogion edrych ar y posibilrwydd o restru, ar yr amserlen, y goblygiadau, y costau etc. gyda golwg ar gyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cyngor hwn.  Roedd yn ymwybodol bod y broses o ymgeisio am statws Safle Treftadaeth y Byd yn un faith a hynny'n golygu llawer iawn o adnoddau dynol ac ariannol i'r Cyngor.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd P. M. Fowlie am gyflwyniad, yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) ar yr opsiynau y mae Asiantaeth Cefn Ffyrdd Gogledd Cymru yn eu hystyried yng nghyswllt gwella yr A55 ar draws Pont Britannia yn y dyfodol.

 

 

 

PENDERFYNWYD gofyn i'r Arweinydd gyflwyno adroddiad i'r Cyngor hwn ar a oedd hi'n ymarferol ai peidio bwrw ymlaen gyda'r broses o restru y ddwy bont fel Safleoedd Treftadaeth y Byd.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.30 p.m.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ROBERTS

 

IS-GADEIRYDD