Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 27 Mawrth 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Gwener, 27ain Mawrth, 2009

CYNGOR SIR

 

Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd am 2:00 p.m.

ar 27 Mawrth, 2009 

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Cadeirydd)

Y Cynghorydd O.Glyn Jones (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton, E.G.Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Keith Evans, C.Ll.Everett, P.M.Fowlie, D.R.Hughes,  Mrs Fflur Hughes, Kenneth P.Hughes, R.Lloyd Hughes, Trefor Ll.Hughes, W.I.Hughes, Eric Jones, G.O.Jones, H.E.Jones, R.Dylan Jones, Thomas Jones, Clive McGregor, Rhian Medi, Bryan Owen, J.V.Owen, R.L.Owen, R.G.Parry, OBE, G.O.Parry, MBE, Eric Roberts, G.W.Roberts, OBE, J.Arwel Roberts, Hefin W.Thomas, Ieuan Williams, J.P.Williams,

Selwyn Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden

Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Dros Dro) Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro

Swyddog y Wasg (GJ)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd Peter Rogers

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Alan Morris, Rheolwr Cydberthynas (Swyddfa Archwilio Cymru), Mr Gareth Jones (PricewaterhouseCoopers), Mr James Quance (PriceWaterhouseCoopers)

 

          Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Rhian Medi.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ar yr adeg benodol hon, gofynnodd y Cynghorydd W.J.Chorlton beth oedd sefyllfa’r Cadeirydd a’i fod ef ar ddeall bod y Cadeirydd wedi derbyn cyngor ynghylch ei swyddogaeth fel Cadeirydd y cyfarfod hwn a gofynnodd am gadarnhad a oedd hynny’n gywir ai peidio.  Cadarnhaodd y Cadeirydd iddo dderbyn cyngor a gofynnodd y Cynghorydd W.J.Chorlton wedyn a oedd y Cadeirydd yn bwriadu diystyru’r cyngor hwnnw.  Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd y buasai’n ildio’r Gadair i’r Is-Gadeirydd am y drafodaeth ar y mater hwn a gadawodd y cyfarfod.

 

Cyhoeddodd yr Is-Gadeirydd y buasai’n gofyn am bleidlais o hyder yn y Cynghorydd Aled Morris Jones fel Cadeirydd, a gofynnodd am gynigydd ac eilydd.  Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd P.M.Fowlie a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd G.O.Parry, MBE.   Ond oherwydd mater o drefn torrodd y Cynghorydd W.J.Chorlton ar draws a gofynnodd beth oedd y rhesymeg y tu cefn i’r bleidlais hon; nododd bod pwynt wedi’i wneud ynghylch cwyn ac nad oedd y mater hwn ar y rhaglen.  Gan na wyddai am unrhyw gynsail o’r blaen pan oedd cwyn wedi’i chyflwyno yn erbyn Cadeirydd Pwyllgor neu Gyngor ac o’r herwydd gofynnodd am gyngor cyfreithiol; roedd unigolyn wedi ildio’r Gadair oherwydd cwyn yn ei erbyn ac wedyn wedi’i adfer i’r Gadair gan y corff y cwynwyd yn ei erbyn; nid oedd hyn yn gwneud synnwyr i’r  Cynghorydd Chorlton.

 

Nid oedd yr Is-Gadeirydd (yn y Gadair) am ganiatáu trafodaeth ar y mater; ond unwaith eto cododd y Cynghorydd W.J.Chorlton fater o drefn oherwydd iddo ofyn am gyngor cyfreithiol ar y mater.  Gan y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE cafwyd y sylw na fedrai’r Cadeirydd wrthod cwestiwn a dweud y gwir; gofynnodd am eglurhad cyfreithiol a hynny am nad oedd y mater hwn ar y rhaglen ac felly a oedd y cyfarfod mewn trefn i gymryd pleidlais o hyder.  Ond hefyd roedd cwyn yn erbyn Cadeirydd y Cyngor ynghylch ei ymddygiad yng nghyfarfod cynt y Cyngor.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gynnig cyngor ar y pwyntiau a godwyd ac aeth y swyddog ymlaen i egluro bod yma ddau bwynt wedi’i godi - yn gyntaf, roedd y cwestiwn o roddi cyngor ai peidio i’r Cadeirydd yn fater preifat iddo ef, ac felly nid oedd yn fater trafodaeth mewn cyfarfod cyhoeddus.  Yng nghyswllt yr ail bwynt, yn ymwneud â’r cynnig o hyder, roedd yn Rheolau Gweithdrefn y Cyngor restr gynhwysfawr o gynigion yr oedd modd eu codi o’r llawr yn ystod y drafodaeth ac nid oedd cynnig o hyder neu o ddiffyg hyder ar y rhestr honno.  O’r herwydd nid oedd hawl i gyflwyno’r cynnig nac i’w drafod na phleidleisio arno heddiw.

 

 

 

Diolchodd y Cynghorydd G.W.Roberts OBE am y cyngor a’r eglurhad ar y sefyllfa gyfreithiol.  Fodd bynnag, credai y dylai’r Cyngor wrando ar gyngor y swyddog gan fod holl aelodau’r Cyngor Sir yno er mwyn Ynys Môn ac awgrymodd, oherwydd y datblygiadau, na fuasai’r fath beth ag Ynys Môn yn y dyfodol ac roedd yr holl aelodau’n gyfrifol am hynny.  Apeliodd y Cynghorydd Roberts at y Cadeirydd i roddi sylw i’r cyngor.

 

 

 

Yma cafwyd y sylw gan y Cynghorydd William Hughes nad oedd cwestiwn y Cynghorydd Chorlton ar y rhaglen chwaith.  Aeth ymlaen i ofyn a oedd y llythyr a yrrwyd at Gadeirydd y Cyngor Sir yn fater preifat ac os oedd, sut y cafodd y Cynghorydd Chorlton afael arno?

 

 

 

Ailddywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yn fodlon trafod unrhyw gyngor a roddwyd neu beidio i Gadeirydd y Cyngor Sir - mater preifat oedd hwnnw rhyngddi hi a’r Cadeirydd; hefyd ychwanegodd nad oedd hi yn sicr wedi datgelu’r wybodaeth i neb.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE at lythyr a yrrwyd at holl aelodau’r Cyngor gan y  Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn egluro beth ddigwyddodd yng nghyfarfod cynt y Cyngor - a oedd yn gwbl ultra vires ac yn gwbl anghywir.  Yn wir credai’r Cynghorydd bod yma haeriad difrifol iawn ac roedd hi’n amlwg na allai’r Cadeirydd gadeirio’r cyfarfod ac i fod yn deg gydag ef roedd wedi gadael.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes bod y cwestiwn wedi’i ofyn - cafwyd y sylw gan y Cynghorydd Barrie Durkin mai’r unig beth a wnaed oedd cyflwyno cwyn yn erbyn Cadeirydd ac nid oedd y gwyn honno wedi cael sylw eto.  Credai ef ei bod hi’n gwbl annheg cymryd y cam hwn yn erbyn rhywun cyn i’r mater gael ei setlio yn y dull priodol; felly roedd ef yn cefnogi’r cynnig a oedd wedi’i gyflwyno.

 

 

 

Yma cododd y Cynghorydd W.J.Chorlton bwynt yn ymwneud â mater o drefn oherwydd bod y Swyddog Monitro eisoes wedi cyflwyno adroddiad verbatim yng nghyswllt darpariaeth y Cyfansoddiad ar y mater - yng nghyswllt beth y gallai’r Cyngor ei wneud neu beidio. Holodd a oedd y Cadeirydd yn bwriadu diystyru’r cyngor unwaith eto a hynny gerbron y gwyr bonheddig oedd yn bresennol [yr Archwilwyr].

 

 

 

Cyhoeddodd yr Is-Gadeirydd (yn y Gadair) gan ddilyn y Cynghorydd Durkin, ei fod yn teimlo y dylid gofyn i’r Cadeirydd ddychwelyd a chymryd ei Gadair ac ailgydio yn y dylestwyddau fel Cadeirydd.

 

 

 

Yma torodd y Cynghorydd G.W.Roberts, OBE ar draws am na fedrai gredu’r hyn yr oedd yn ei weld; roedd cynigydd ac eilydd i bleidlais o hyder a honno yn anghyfreithlon yn ôl cyngor Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol.  Yn awr roedd yr Is-Gadeirydd o’i ben a’i bastwn ei hun o’r Gadair yn dymuno galw’r Cadeirydd yn ôl i’r Siambr gan wybod yn iawn pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa ar ôl derbyn y llythyr a rannwyd yn rhoddi cyngor cyfreithiol.  Roedd yn synnu’n fawr at yr Awdurdod ac ni ddylid dweud gair am beth oedd yn deg; os mai tegwch oedd y mater gerbron yna ni ddylai’r Cyngor fod yn cyfarfod heddiw. Aeth ymlaen i gyfeirio at bapurau newydd ac ar effaith yr Awdurdod hwn ar fywydau pobl, a phlediodd gyda’r aelodau i feddwl am y mater yn ddwys.  Nid dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o beth ddigwydd yn yr Awdurdod - cyfeiriodd at amgylchiadau yn y gorffennol ac yn bersonol ni welai ddim i’w rwystro rhag dweud rhagor am hynny.  Soniodd unwaith yn rhagor am ddifrifoldeb y sefyllfa a gofynnodd i’r aelodau unwaith eto feddwl beth yr oeddynt yn ei wneud i’r Awdurdod.  Mentrodd ddweud na fuasai Awdurdod ym Môn am gyfnod hir eto a bod yr aelodau yn mynd i lawr y trywydd hwnnw a hynny am eu bod yn torri’r rheolau.  Unwaith eto pwysodd ar aelodau i beidio â gwneud hynny a’u hatgoffa bod heddiw yn ddiwrnod difrifol iawn ac y gallai gael  effaith ar fywydau pobl.

 

 

 

Cafwyd y sylw gan y Cynghorydd Rhian Medi na chredai hi bod y Cadeirydd wedi gadael y cyfarfod oherwydd ei fwriad i aros y tu allan am y cyfan o’r cyfarfod - dim ond am y drafodaeth benodol hon fel bod modd i’r Cyngor symud ymlaen.  Aeth ymlaen i son nad oedd ganddi fawr o amynedd gydag unigolion oedd yn benderfynol o weiddi - roedd hi’n siwr fod pawb yn y Siambr yn medru clywed popeth yn iawn; nid oedd ychwaith yn hoff o’r ffordd yr agorwyd y cyfarfod hwn a hynny cyn hyd yn oed ddechrau trafod y busnes gerbron ac unigolion yn annerch y cyhoedd.  Roedd hi yn dymuno symud ymlaen gyda’r cyfarfod a gwadd y Cadeirydd yn ôl i’r Siambr. Fel y cynghorwyd yr aelodau sawl tro yn y gorffennol mater i’r unigolyn oedd gwneud penderfyniad ac nid mater i weddill yr aelodau.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yr un mor ymwybodol â’r Cynghorydd G.W.Roberts o bwysigrwydd y dydd, ond gan ychwanegu ei fod yn mawr obeithio na fuasai neb yn cerdded o’r cyfarfod heddiw fel y gwnaeth yr Wrthblaid yn y cyfarfod cynt a chredai ef bod hynny’n gwneud cam â’r Cyngor.  Os oedd yr Wrthblaid yn dymuno cael gwrthdrawiad yna roedd yn rhaid i hynny ddigwydd y tu mewn i’r Cyngor - nid y tu allan - a bod y mater hwn yn ymwneud yn yr un modd ag aelodau’r Pwyllgor Archwilio.  Roedd yn dymuno gofyn i’r Cynghorydd W.J.Chorlton ai llythyr dyddiedig 19 Mawrth, 2009, gan y Swyddog Monitro oedd yr unig sail i’w gwestiynau.

 

 

 

Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton mai hwn oedd y llythyr yr oedd yr aelodau wedi’i dderbyn; yr achwynydd oedd ef ei hun ac roedd wedi cwyno oherwydd digwyddiadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor a dull y Cadeirydd o ddelio gyda’r mater ar y dydd.  Wedyn holodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes a oedd y Swyddog Monitro hefyd yn cyfeirio at y llythyr hwn neu a oedd llythyr arall.  Yn seiliedig ar beth a ddywedwyd roedd ef yn teimlo efallai bod llythyr arall.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd hi wedi dweud a oedd llythyr arall ai peidio.  Os oedd hi wedi cynnig cyngor yn ysgrifenedig neu ar lafar i’r Cadeirydd yna mater rhyngddi hi a’r Cadeirydd oedd hynny.  Nid oedd hi wedi datgelu’r wybodaeth i neb.  

 

 

 

Yma cyhoeddodd yr Is-Gadeirydd (yn y Gadair) y buasai’n gwadd y Cadeirydd yn ôl i’r Siambr i gadeirio’r cyfarfod er mwyn symud ymlaen gyda’r materion gerbron.

 

 

 

Torrodd y Cynghorydd W.J.Chorlton ar draws gan ofyn ar ba sail yr oedd hynny’n cael ei wneud ac ym mha fodd yr oedd cyfiawnhau hynny.  Gofynnodd i’r Cadeirydd sut y medrai gyfiawnhau hyn a hynny fel bod modd i’r gwyr bonheddig oedd yn bresennol [yr Archwilwyr] gynnwys y mater yn eu hadroddiad.

 

 

 

Ymatebodd yr Is-Gadeirydd (yn y Gadair) na welai ef unrhyw reswm pam y dylid gwahardd y Cadeirydd rhag cadeirio’r cyfarfod.  Ond dywedodd y Cynghorydd Chorlton bod y Cadeirydd wedi cau ei hun allan o’r cyfarfod yn seiliedig ar ei gwestiwn ef iddo.  Wedyn cafwyd geiriau rhwng yr Is-Gadeirydd a’r Cynghorydd Chorlton ynghylch yr egwyddor o alw’r Cadeirydd yn ôl neu beidio.  Yn y cyfamser roedd y Cadeirydd wedi dychwelyd i’r Siambr a chyhoeddodd ei fod ef bellach yn Gadeirydd ac y buasai’n cymryd yr awenau.   Ond gofynnodd y Cynghorydd Chorlton sut y medrai ystyried cymryd y Gadair ar ganol trafodaeth yn ei absenoldeb; dywedodd bod yr hyn oedd yn digwydd yn sgandal.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i’r Is-Gadeirydd beth oedd y bleidlais yng nghyswllt adfer y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Gadair.  Mewn ymateb dywedodd yr Is-Gadeirydd ei fod yn derbyn y cyngor a roddwyd iddo, sef bod trefn o’r fath yn anghyfreithlon.  Ond os oedd y cam hwn yn anghyfreithlon nododd y Cynghorydd Hefin Thomas na ddylai’r Cadeirydd fod wedi dychwelyd.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid symud ymlaen gyda busnes y Cyngor.  Ond pwysleisio y pwynt ynghylch canlyniad y bleidlais a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas.  Atgoffwyd pawb gan y Cadeirydd iddo gael gwahoddiad yn ôl i’r cyfarfod ac y buasai’n dal ymlaen gyda’r cyfarfod. Ond roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dal i ddymuno cael ateb ynghylch y bleidlais.  Cynghorwyd y Cynghorydd Thomas gan y Cadeirydd i gyflwyno’i sylwadau trwy’r Gadair ac felly gofynnodd y Cynghorydd Thomas i’r Gadair ofyn i’r Is-Gadeirydd beth oedd canlyniad y bleidlais.  Ailddatgan a wnaeth y Cadeirydd iddo gael ei wadd yn ôl i’r cyfarfod ac y buasai’n bwrw ymlaen gyda’r cyfarfod hwnnw.  

 

 

 

Os felly gofynnodd y Cynghorydd Thomas i’r Cadeirydd a oedd yn gwrthod ei gais; ymateb y Cadeirydd oedd dweud ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda’r cyfarfod.

 

 

 

Yng nghyswllt datgan diddordeb dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin iddo ddatgan diddordeb yng nghyfarfod cynt y Cyngor llawn pan oedd yr eitem hon gerbron [h.y. y Llythyr Blynyddol]; bellach roedd ar ddeall nad oedd raid datgan diddordeb ac o’r herwydd nid oedd yn bwriadu datgan diddordeb unwaith eto ar y pwnc.

 

 

 

2

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i Mr. Tudur Williams ar ei ymddeoliad heddiw yn dilyn cyfnod o 10 mlynedd o wasanaeth gyda'r Cyngor; roedd yn deall bod Mr. Williams hefyd wedi gwasanaethu am gyfnod o 10 mlynedd gyda Chyngor Gwynedd cyn hynny.  Ar nodyn mwy trist, roedd y Cynghorydd John Williams wedi datgan ei fwriad i sefyll i lawr fel aelod o'r Cyngor oherwydd afiechyd.  Nododd ei fod yn sicr y byddai'n cael cefnogaeth yr aelodau i ysgrifennu ar ran y Cyngor i'r Cynghorydd Williams a Mrs Williams i ddymuno'n dda iddynt i'r dyfodol.  Wedyn rhoddodd wahoddiad i'r Cynghorydd R. G. Parry OBE gyfarch y cyfarfod ar y mater hwn ar ran Plaid Cymru.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd R. G. Parry OBE bod ymadawiad y Cynghorydd John Williams yn ddiwrnod trist i'r Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Williams bob amser yn wr bonheddig a bob amser yn sicr ac yn bwyllog ei farn.  Roedd yn cofio'r cyfnod pan fu'r Cynghorydd Williams yn Gadeirydd y Cyngor yn 2001/02 yn dilyn cyfnod fel Is-Gadeirydd i'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.  Roedd yn cael ei adnabod gan bawb fel John Cemaes ac fel hynny y cyfeirid ato bob amser.  Er gwaethaf problemau, bu'n Gadeirydd bonheddig iawn i'r Cyngor a hynny bob amser hyd eithaf ei allu.  Ar ran Plaid Cymru, roedd y Cynghorydd R. G. Parry yn dymuno dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Williams am adferiad buan a llwyr a phob dymuniad da i'r dyfodol.

 

      

 

     Ategodd Arweinydd y Cyngor yr hyn yr oedd y Cynghorydd R. G. Parry wedi ei ddweud uchod. Roedd yn cofio’r amser pan gafodd ef ei hun ei ethol i'r Cyngor ryw 10 mlynedd yn ôl bellach, a'r Cynghorydd John Williams neu "John Cemaes" bob amser yn gyfaill oedd yn barod iawn i roddi cymorth a chyngor.  Roedd yn ymwybodol hefyd nad oedd John Williams, yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor, mewn iechyd rhy dda; roedd yn sicr y byddai pawb oedd yn bresennol eisiau dymuno'n dda i'r Cynghorydd John Williams a'i wraig ac y byddai'n cael cefnogaeth pawb i gyfleu’r neges iddo ef ac i Mrs Williams.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Gwilym O. Jones hefyd yn falch o gael y cyfle i annerch y cyfarfod ar yr achlysur hwn gyda'r Cynghorydd John Williams yn sefyll i lawr fel aelod.  Y Cynghorydd John Williams ac yntau oedd yr unig ddau aelod oedd ar ôl yng Nghyngor Môn oedd wedi gwasanaethu ar Gyngor Sir Gwynedd hefyd.  Roedd y Cynghorydd John Williams wedi dechrau ei wasanaeth fel aelod ar Gyngor Sir Gwynedd yn 1989 fel olynydd i'r Cynghorydd Glyngwyn Roberts, ac yn sicr, roedd yn aelod gweithgar iawn o Gyngor Gwynedd, fel ag yr oedd wedi bod ar Gyngor Sir Ynys Môn.  Fel un oedd yn gweithio yn ardal Cemaes yn ddyddiol roedd yn ymwybodol o'r parch mawr yn ardal Llanbadrig i'r Cynghorydd John Williams.  Ei deulu oedd yn dod gyntaf i’r Cynghorydd John Williams bob amser ac roedd yn ddyn ei ardal er ei fod yn dod yn wreiddiol o ardal Dwyran.  Roedd yntau hefyd yn dymuno adferiad iechyd llwyr a buan i'r Cynghorydd Williams ac yn dymuno’r gorau i John Williams a'i wraig am ddyfodol hapus a dedwydd.

 

      

 

3

CAIS AM GYFARFOD ARBENNIG O’R CYNGOR SIR - LLYTHYR BLYNYDDOL 2007/08

 

      

 

     Yn unol â Phara. 4.1.3.1.(iv) Cyfansoddiad y Cyngor, galwyd y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor gan y Cadeirydd ar ôl derbyn cais i’r diben hwnnw - cais wedi’i lofnodi gan 10 o aelodau’r Cyngor i bwrpas trafod eitem 3 fel a nodwyd ar raglen cyfarfod Cyngor Sir Ynys Môn ar 5 Mawrth, 2009, sef Llythyr Blynyddol y Rheolwr Cydberthynas am 2007/08.

 

      

 

     Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i Mr Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru ac i Mr Gareth Jones a Mr James Quance o PricewaterhouseCoopers, a’u gwadd i annerch y Cyngor ar Lythyr Blynyddol y Rheolwr Cydberthynas am 2007/08.

 

      

 

     Dywedodd Mr Alan Morris bod dwy ran i’r Llythyr Blynyddol a bod ynddo grynodeb o waith Archwilwyr Allanol yr Awdurdod a’r Arolygwyr dros y flwyddyn cynt.  Y rhan gyntaf oedd adroddiad yr Archwiliwr Penodedig a buasai Mr Gareth Jones, PWC yn arwain yng nghyswllt dwyn sylw at brif bwyntiau’r rhan hon o’r adroddiad.

 

      

 

     ADRODDIAD YR ARCHWILIWR PENODEDIG

 

      

 

     Roedd Mr Gareth Jones yn gwerthfawrogi bod y Llythyr wedi’i gyflwyno o’r blaen i’r aelodau a’u bod wedi cael cyfle i adolygu’r cynnwys.  Yn y cyd-destun hwn ei fwriad yn awr oedd canolbwyntio ar y negeseuon allweddol yn yr adroddiad ac yn arbennig bum casgliad allweddol yr Archwiliwr Penodedig gan ddechrau ar dudalen 10 y ddogfen fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Mae’r Datganiadau Ariannol yn cyflwyno sefyllfa ariannol y Cyngor yn deg ac ni nodwyd unrhyw wendidau perthnasol o ran rheolaeth fewnol

 

 

 

Mae Datganiadau Ariannol 2007/08 yn cyflwyno sefyllfa ariannol y Cyngor yn deg ac fe’u paratowyd yn briodol ac ni chafwyd unrhyw wendidau perthnasol mewn rheolaeth fewnol ac yn y cyswllt hwn buasai gwendidau perthnasol yn rhai o natur a fuasai’n peri risg i gadernid y cyfrifon ariannol.  Ar 30 Medi, 2008, cyhoeddodd yr archwilwyr adroddiad archwilio diamod ar y Datganiadau Ariannol.

 

 

 

     Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005, roedd y Cyngor wedi hysbysebu hawliau etholwyr lleol i fwrw golwg dros y Cyfrifon Blynyddol a gwneud copi ohonynt; holi’r Archwilydd ynglyn â’r cyfrifon a bod yn bresennol gerbron yr Archwilydd a gwrthwynebu’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt.  Defnyddiwyd yr hawliau hyn ac roedd etholwr lleol wedi gwrthwynebu’r cyfrifon yng nghyswllt prynu, trwy arwerthiant, eiddo yn Amlwch o’r enw Craig-wen.  Er bod yr archwilwyr wedi canfod bod gwendid yn y dull o brynu roeddynt, ar ôl ystyried y mater yn ofalus iawn, wedi penderfynu peidio â defnyddio eu disgresiwn i geisio datganiad dan Adran 32 (1) Deddf 2004 bod yr eitem yn y cyfrifon dan sylw yn groes i gyfraith.  Amlinellwyd y rhesymau y tu cefn i’r casgliad hwn ym mharagraff 21 ar dudalen 12 yr adroddiad a chafwyd sylwadau’r Archwilwyr ar yr agwedd drefniadol i’r prynu ym mharagraff 22.

 

      

 

     Yn ystod y flwyddyn, cwblhaodd Swyddfa Archwilio Cymru y gwaith ar wrthwynebiad a oedd yn ymwneud â chyfrifon 2000/01.  O ganlyniad, ardystiwyd bod yr archwiliadau o’r blynyddoedd ariannol 2000/01 hyd at 20006/07 wedi’u cwblhau yn ystod 2008.  Roedd yr Archwilwyr hefyd wedi ardystio bod archwiliad o gyfrifon 2007/08 wedi’i gwblhau.

 

      

 

Ÿ

Cwblhawyd ffurflennni Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan yn briodol.

 

      

 

Ÿ

Roedd gan y Cyngor drefniadau boddhaol yn 2007/08 i’w helpu i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.  Fodd bynnag, roedd rhai materion amrywiol yr oedd angen mynd i’r afael â hwy.

 

 

 

Roedd adroddiad yr archwilwyr ar drefniadau’r Cyngor i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau yn ystod 2007/08 yn ymddangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Nodwyd y meini prawf a ddefnyddiwyd i asesu hyn yn Atodiad 2.  Er bod yr adroddiad yn nodi bod trefniadau i sicrhau gwerth am arian yn eu lle, roedd yn rhaid nodi na chafwyd sylwadau ar effeithiolrwydd yr elfen gwerth am arian ei hun.  Hefyd roedd yr adroddiad yn cyflwyno sylwadau ar rai materion yr oedd angen rhoddi sylw iddynt a chafodd y rhain eu nodi yn Arddangosyn 3 ac yn cynnwys nifer o feysydd lle’r oedd trefniadau rhannol yn eu lle; ac er eu bod yn gwerthfawrogi bod peth cynnydd wedi’i wneud yng nghyswllt y trefniadau hyn, a chan gofio bod yr adroddiad yn ymwneud â chyfrifon y flwyddyn cynt sydd bron i flwyddyn ôl bellach ac ar ôl trafodaethau gyda’r archwilwyr teimlwyd bod mwy o feysydd o drefniadau rhannol ym Môn nag ym mwyafrif cynghorau eraill Cymru.  

 

 

 

Ÿ

Ceir cyfleoedd i’r Cyngor sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a gwneud gwelliannau pellach o ran darparu gwasanaethau.

 

 

 

Mae gan y Cyngor record dda o weithredu o fewn ei gyllideb refeniw gyffredinol ac mae ganddo drefniadau priodol ar waith i reoli ei gronfeydd ariannol wrth gefn a’u defnyddio.  Fodd bynnag, roedd gorwariant sylweddol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn.  Cafwyd sylwadau gan yr archwilwyr i’r perwyl bod cyfleoedd i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a gwneud gwelliannau pellach o ran darparu gwasanaeth yn dal i fod; hefyd, yn y rhan hon, roedd yr archwilwyr yn adrodd ar yr her sy’n wynebu’r Cyngor eleni ac ym mlynyddoedd y dyfodol.

 

 

 

Ÿ

Roedd trefniadau cynllunio gwelliannau’r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion statudol a nodwyd meysydd lle mae angen gwaith pellach.

 

 

 

Roedd cyfrifoldebau manwl a sgôp gwaith yr archwilwyr yng nghyswllt hyn a hefyd y dystysgrif archwilio yn ymddangos yn Atodiad 3 yr adroddiad.  Hefyd ceir yn yr adran hon sylwadau gan yr archwilwyr ar anawsterau yn y cydberthnasau gwaith rhwng rhai aelodau o’r Pwyllgor Gwaith a rhai aelodau o’r Tîm Rheoli a nodwyd yn ystod gwaith archwilio PWC (paragraffau 58 -60). Roedd y sylw hwnnw, ar y cyd gyda’r sylwadau yn y rhan o Lythyr y Rheolwr Cydberthynas wedi arwain at argymhelliad i Archwiliwr Cyffredinol Cymru o blaid cael archwiliad llywodraeth gorfforaethol ar y Cyngor.  

 

 

 

Roedd gweddill Llythyr yr Archwiliwr yn cyffwrdd â meysydd megis ardystio gwaith ar geisiadau am grant; roedd cryn bwysau wedi bod yn y maes hwn a’r swyddogion wedi gwneud gwaith sylweddol iawn ac yn arbennig yng nghyswllt diweddaru hawliadau am grantiau Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf.

 

 

 

     ADRODDIAD Y RHEOLWR CYDBERTHNASAU AR RAN YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL 

 

 

 

     Dygodd Mr Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru sylw’r aelodau at dudalen 23 yr adroddiad lle dechreua adroddiad y Rheolwr Cydberthynas ar ran yr Archwiliwr Cyffredinol yn ymgorffori astudiaethau ar arolygon y gwasanaethau ac ar swyddogaethau corfforaethol y Cyngor.

 

 

 

Ÿ

Adolygiadau ar Wasanaethau

 

 

 

Roedd sawl neges bositif yn y rhan hon o’r adroddiad ac yn arbennig felly yng nghyswllt Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;  yng nghyswllt hefyd y cynnydd i sicrhau Safon Ansawdd Tai Cymru a Chynllunio a Rheoli Gwastraff lle cafwyd cynnydd yn y ddau faes gwasanaeth hyn.  Hefyd edrychwyd ar ddau faes arall, sef y Gwasanaethau Hamdden lle cafwyd peth cynnydd ond roedd asesiad newydd yn cael ei wneud ar y ffordd ymlaen a sylw yn cael ei roddi i’r opsiynau; felly buasai’r gwaith hwn yn parhau yn y dyfodol.  Y gwasanaeth olaf yr edrychwyd arno oedd rheoli’r fflyd gerbydau ac edrychwyd ar drefniadau’r Cyngor fel rhan o astudiaeth genedlaethol.  Canfuwyd nad oedd y Cyngor yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a nodwyd sawl maes lle gellid cyflwyno gwelliannau.

 

 

 

Hefyd yn y rhan hon roedd crynodeb o rywfaint o waith a wnaed gan reoleiddwyr eraill.  Roedd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad ar y Gwasanaethau Budd-daliadau Tai a nodi yn yr adroddiad hwnnw sawl maes ar gyfer cyflwyno gwelliannau; roedd Swyddfa Archwilio Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i weithio gyda’r Cyngor ar gynllun gweithredu i roddi sylw i’r gwelliannau hyn gyda golwg ar symud y gwasanaeth yn ei flaen.

 

 

 

Yng nghyswllt yr Arolwg ar y Cyd o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd gwaith dilyn i fyny yn mynd i gael ei wneud ar yr adroddiad ac roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol; mae’r gwaith dilyn i fyny yn cael ei wneud yn nhrefn naturiol pethau ond cafodd ei ddal yn ôl ac yn awr bydd yn cael ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

 

 

Daeth arolygiad ar y cyd o’r Tîm Troseddu Ieuenctid yng nghyswllt Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd Môn i’r casgliad bod y gwasanaeth yn gwneud cynnydd cadarnhaol a’r Bwrdd Rheoli a’r tîm staff yn darparu arweiniad a chyfeiriad effeithiol.

 

 

 

Ÿ

Swyddogaethau Corfforaethol

 

 

 

 

 

Hwn yw’r maes sydd wedi creu’r pryderon mwyaf ac yn hwn y nodwyd pryderon ynghylch arweinyddiaeth y Cyngor.  Roedd y gwaith a wnaed ar reoli perfformiad corfforaethol wedi dangos bod yma gryn sgôp i ddatblygu a gwella.  Roedd y gwaith a wnaed yn dilyn Llythyr Blynyddol y llynedd, lle crybwyllwyd gwrthdaro rhwng aelodau fel pwnc, wedi dwyn sylw at y ffaith nad yw’n ymddangos bod gan y Cyngor arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol sy’n gytûn, a bod hyn yn cael effaith negyddol ar y gallu i gytuno ac i weithredu ar flaenoriaethau a gwella gwasanaethau, ac mae hon yn ffactor a arweiniodd at argymhelliad gan yr Archwiliwr Penodedig i gael archwiliad llywodraeth gorfforaethol ar y Cyngor.  Cyflwynwyd yr argymhelliad hwn i Archwiliwr Cyffredinol Cymru ac ar ôl iddo ef roddi sylw dyladwy iddo cafodd ei dderbyn.  Roedd yr Archwiliad hwn ar y gweill ac yn mynd i ddechrau yn ystod wythnos 30 Mawrth.  Fel rhan o’r archwiliad gwneir pythefnos o waith maes yn ystod wythnos 30 Mawrth ac wythnos 20-24 Ebrill; prif ffocws y gwaith hwn fydd ceisio ateb y cwestiwn a ydyw’r Cyngor yn cael ei redeg yn iawn ac roedd llawer o gwestiynau manylach dan y pennawd cyffredinol hwn mewn meysydd megis safon ymddygiad, cyfathrebu, arweinyddiaeth a rheoli.  Câi pob un o’r Aelodau gyfle i gwrdd â’r Tîm Archwilio fesul un ac mewn grwpiau, a bydd y gwaith hwn yn parhau.  Buasai aelodau o’r Tîm Archwilio yn bresennol yn y Cyngor ar ddydd Llun, 30 Mawrth a chyn dechrau ar y gwaith archwilio gwirioneddol câi dwy sesiwn wybodaeth eu cynnal gyda gwahoddiad i’r holl Aelodau a’r holl swyddogion fynychu; yn y cyfarfodydd hyn rhoddid crynodeb byr o’r methodoleg ac o’r dull a ddefnyddir gan y Tîm Archwilio.

 

 

 

YMATEB Y RHEOLWR-GYFARWYDDWR I’R LLYTHYR BLYNYDDOL

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr wrth yr aelodau ei fod yn dymuno ymateb i’r Llythyr Blynyddol yn ei swyddogaeth fel  Rheolwr-gyfarwyddwr y Cyngor ac ar ran y staff a’r gwasanaethau.  Yn fras teimlai bod y Llythyr yn dweud bod cyllid yr Awdurdod yn gadarn yn gyffredinol a hefyd bod ei wasanaethau yn gyffredinol yn gadarn.  Yng nghyswllt cyllid dywed y Llythyr bod trefniadau gwerth am arian yn foddhaol; hefyd mae’n crybwyll bod gorwariant wedi digwydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2007/08, a bod y mater wedi cael sylw ar y cyd gyda Bentley Jennison, a pharatowyd cynllun gweithredu ar y cyd gyda’r gwasanaeth.  Hefyd roedd rownd gyllidebol 2009/10 yn gwneud lwfans am y pwysau o gyfeiriad y galw ar y Gwasanaethau Anableddau Dysgu.

 

 

 

Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn falch o’r gydnabyddiaeth a roes yr archwilwyr i waith a wnaed ar reoli perfformiad a risg; roedd cryfhau a newid y diwylliant yn y maes hwn yn bwysig iawn iddo ef yn bersonol.  Mae’r cynnydd yn y maes hwn yn cael ei gofnodi a chredai ef mai’r peth pwysicaf oedd sefydlu a pharhau gyda’r cyfarfodydd chwarterol a gafodd eu galw ar y cychwyn yn “Derrick’s Quarterlies” ond bellach yr enw syml arnynt yw’r “quarterlies” ac iddo ef roedd hyn yn cynrychioli newid pendant ac yn arwydd bod rheoli perfformiad yn cael ei dderbyn y tu mewn i’r diwylliant.  Roedd y rhain yn dechrau dod trwodd i’r strwythur pwyllgorau yn dilyn y rowndiau chwarterol i adolygu’r gwasanaethau. ‘Roedd yn pwysleisio, ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y Llythyr Rheoli, o ran Rheoli Perfformiad roedd 55% o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a fesurwyd gan yr archwilwyr allanol wedi cryfhau; 32% ohonynt wedi dal eu tir a dim ond 13% wedi colli tir a bydd y Tîm Perfformiad yn cadw golwg ar y maes hwn; roedd yn rhaid nodi yma felly bod hanner y dangosyddion wedi cryfhau.

 

 

 

Hefyd roedd angen rhoddi sylw i ddatblygu mecanweithiau i weithredu ar argymhellion archwilio - eu derbyn a gweithredu arnynt, a’u dilyn trwodd a’u hadolygu.  Pan ddaeth yma gofynnodd i’r archwilwyr allanol fwrw golwg dros yr holl argymhellion archwilio yn y system - teimlai ef bod arno angen llinell yn y tywod o ran faint o risgiau yr oedd yr Awdurdod hwn yn eu hwynebu fel corff.  Bellach roedd y gwaith hwn wedi’i gwblhau ac wedi llifo trwy’r system a bellach yn eitem sefydlog yn yr arolygon perfformiad chwarterol yn yr adrannau a’r gwasanaethau.

 

 

 

Roedd strwythur y pwyllgorau yn ystyriaeth arall ac yn arbennig swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio fel colofn gynhaliol i sicrhau nad oes dim yn dianc trwy’r system.  Bellach roedd archwilwyr mewnol ac allanol yn cyflwyno adroddiadau’n annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio, ac o’r herwydd ceir sicrwydd allanol ynghylch perfformiad cyffredinol yr Awdurdod fel corff, ac roedd hyn yn ei farn ef yn cyfateb i lywodraeth iach.  Cafodd strwythur y Pwyllgorau ei adolygu ym Mai, 2007 gyda’r bwriad o nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau pendant.

 

 

 

 

 

 

 

Hefyd crybwyllwyd rheoli prosiectau ac roedd yn rhaid darparu adnoddau i’r elfen hon er mwyn cyflawni’r nod a buasai hynny, gobeithio, yn digwydd yn ystod y 12 mis nesaf.  Roedd yr Awdurdod wedi creu cynghrair gyda Chyngor Dinas Abertawe ac yn manteisio ar brofiad y Cyngor hwnnw gan ei fod, bedair blynedd yn ôl, wedi cychwyn ar y daith hon, a’r Awdurdod hwn yn mawr obeithio y deuai ffrwyth o hynny.  Cymorth mawr arall yw hwnnw yng Ngorsaf Bwer yr Wylfa gerllaw ac roedd staff yr Orsaf yn rhoddi cymorth i aelodau’r Awdurdod hwn ar y mater dan sylw; ceisiodd yr awdurdod hwn, heb lwyddiant, recriwtio rheolwr prosiect i yrru’r cynllun yn ei flaen i ben ei daith, ond bellach roedd yn chwilio am ffyrdd eraill i ddarparu adnoddau pwrpasol i gyflawni’r nod.  Ar hyn o bryd roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn bwrpasol.

 

 

 

Roedd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn wasanaeth pwysig ac yn cynrychioli risg fawr; dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr mai ef oedd Cadeirydd y Bwrdd ar hyn o bryd a’i obaith oedd bod aelodau yn sylwi bod y gwasanaeth wedi datblygu’n dda dros y ddwy flynedd diwethaf a diolchodd i’r tîm am ei waith.  Yn ddiweddar cafwyd Cynhadledd i Ogledd Cymru ym Mangor dan ei gadeiryddiaeth ef a lle roedd cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn clywed am y gwaith da a wnaed.  Roedd y pwyslais ar waith ataliol yn rhan allweddol o’r gwasanaeth hwn a goleddai’r athroniaeth bod yr unigolion hyn yn blant ac yn bobl ifanc gyntaf ac yn droseddwyr yn ail.  O ganlyniad i’r gwaith hwn gwahoddwyd ef ar ran y gwasanaeth i wneud cyflwyniad yn y Gynhadledd Genedlaethol yn Harrogate ym mis Tachwedd 2008, ac felly roedd y gwasanaeth yn cael lle amlwg a hynny i’w briodoli i ymdrechion y tîm.

 

 

 

Aeth y Rheolwr-gyfarwyddwr ymlaen i nodi bod y Rheolwr Cydberthynas yn ei adroddiad wedi cyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol; ar ôl cynnal arolwg ar y cyd o’r Gwasanaeth rhoddwyd iddo raddfa 3 seren a hynny’n golygu bod yr Awdurdod hwn yn un o’r gwasanaethau prin hynny trwy Gymru i dderbyn 3 seren.  Wrth gyffwrdd yn y gwaith dilyn i fyny roedd y Llythyr Archwilio yn cyfeirio at gyflawni yng nghyswllt y cynllun gwaith yn hytrach na chyflawni yn y gwasanaeth ei hun - roedd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gydnabod fel un cryf ac wedi cael graddfa 3 seren mewn asesiad annibynnol.  Felly roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd i roddi sylw i brosesau yn ystod yr wythnosau nesaf fel rhan o waith dilyn i fyny arferol.

 

 

 

Hefyd crybwyllwyd newidiadau cyfansoddiadol yn y Llythyr - a bod yr Awdurdod yn benodol yn gorfod ymdopi gyda lefel uchel o ganiatâd cynllunio yn groes i bolisi.  Mewn ymateb i hyn newidiwyd y Cyfansoddiad ac roedd hyn yn cael ei gydnabod yn y Llythyr.  Gyda phleser hefyd soniodd bod y gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol yn symud yn ei flaen a’r Awdurdod bellach yn cydymffurfio gydag amserlen Llywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt y gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol.

 

 

 

i gloi soniodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y buasai’n hoffi crybwyll un neu ddau o faterion eraill a ddigwyddodd ar ôl y cyfnod hwnnw y cyfeiriwyd ato yn y Llythyr Blynyddol.  Ym mis Tachwedd, 2008, roedd yn falch o’r dystysgrif Buddsoddwyr mewn Pobl a gafwyd i nodi llwyddiant yr Awdurdod hwn yn gorfforaethol - cydnabyddiaeth nad oedd erioed wedi’i derbyn o’r blaen.  Roedd yn y gorffennol wedi cael cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl i adrannau unigol ond nid yn gorfforaethol ac roedd hon yn gamp fawr i’r Cyngor, i’r staff ac i’r holl Reolwyr oedd yn rhan o’r prosiect.  Hefyd datblygwyd gwaith ymgynghorol mewnol gan fanteisio ar sgiliau staff ar ôl iddynt ddilyn Gradd Meistr dan Raglen Rheoli Newid John Moores ym Mhrifysgol Lerpwl.  Hefyd roedd yr Awdurdod hwn wedi meithrin cysylltiadau cryfion gyda’r byd academaidd mewn mannau eraill ac yn benodol gydag Ysgol Fusnes Warwick, ysgol gyda phroffil amlwg ym Mhrydain ymhlith awdurdodau lleol ac roedd yr Awdurdod, gyda’r ysgol hon, yn datblygu strategaeth, gweledigaeth a datganiad diwedd y daith. Yn olaf, yn Ionawr 2009, roedd Ynys Môn wedi’i gydnabod fel awdurdod disglair i weddill Cymru a hynny ar ôl cynnal Uwch Gyfarfod Economaidd yn Llangefni.  Roedd yr Awdurdod wedi cael ei gydnabod yn y Cynulliad Cenedlaethol a hefyd yn Uwch Gyfarfod y Cynulliad Cenedlaethol lle cafodd ei waith ar y mater hwn ei chwifio fel arfer dda i’r 21 o awdurdodau lleol eraill.  Roedd uwch gyfarfod Llangefni yn cael ei gydnabod fel arweinyddiaeth gymunedol dda ac yn ymateb priodol yng nghyd-destun y wasgfa gredyd a’r dirwasgiad economaidd byd eang.  

 

 

 

Yn olaf, achubodd ar y cyfle i ddiolch i staff ac i wasanaethau’r Awdurdod; teimlai’n eithriadol o falch o’u gwaith nhw a theimlai hefyd bod y Llythyr Blynyddol yn gefnogaeth gadarn i’r Awdurdod o ran rheoli cyllidebol a’i wasanaethau.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr-gyfarwyddwr am ei anerchiad ac aeth ymlaen i agor trafodaeth ar y Llythyr Blynyddol.  Cafwyd y sylwadau a’r anerchiadau a ganlyn gan yr aelodau.

 

YMATEB Y CYNGOR I’R LLYTHYR BLYNYDDOL

 

 

 

Roedd hi’n amlwg o’r Llythyr Blynyddol, yn ôl y Cynghorydd Cliff Everett, bod llawer iawn o waith da wedi’i wneud y tu mewn i’r Cyngor yn Ynys Môn a hynny yn ystod arweinyddiaeth Mr Derrick Jones; felly roedd am achub ar y cyfle i ddiolch yn gyhoeddus i Mr Jones am y gwaith a wnaeth ar ran yr Awdurdod.  Wedyn aeth ymlaen i sôn am ei gyfrifoldeb ef ei hun fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a chafwyd ganddo hanes manwl yn nodi sut yr oedd y Pwyllgor Archwilio wedi ceisio symud ymlaen gyda’r mater hwn dros y misoedd diwethaf.  Cafodd y Pwyllgor Archwilio ei gyfarfod cyntaf i drafod y Llythyr Blynyddol ar 29 Ionawr, 2009.  Yr adeg honno penderfynodd dderbyn y Llythyr Blynyddol ac i gael cyfarfod gyda’r Pwyllgor Gwaith a chyda’r Tîm Rheoli ar wahân i geisio taro ar ffordd ymlaen yng nghyswllt yr anawsterau rhwng y ddau dîm fel y cyfeiriwyd at hynny yn y Llythyr ac fel y dywed y penderfyniad.  Ond ers y dyddiad hwnnw roedd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, wedi cael ei rwystro gan y Grwp Annibynnol Gwreiddiol ac aelodau Plaid Cymru ar y Pwyllgor, i’r graddau bod Arweinydd y Cyngor wedi rhoi gwybod iddo mewn neges e-bost (ac roedd copi wedi’i rhannu ymhlith holl aelodau’r Cyngor) na fuasai’n mynychu [y cyfarfod hwnnw y bwriadwyd ei gael fel rhan o benderfyniad y Pwyllgor Archwilio].  Er mai mater i Arweinydd y Cyngor oedd hynny nid oedd ef fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn hapus gyda’r ffordd yr ysgrifennwyd y neges e-bost ac roedd hefyd wedi herio’r neges.  Y mater gerbron felly oedd cael cyfarfod gyda’r Tîm Rheoli - unwaith eto cafodd lythyr gan Ysgrifennydd y Grwp Annibynnol Gwreiddiol yn dweud na fuasai aelodau’r grwp hwnnw yn mynychu’r cyfarfod.  Felly, er bod y Pwyllgor Archwilio wedi penderfynu’n unfrydol i chwilio am ffordd ymlaen, yn anffodus ni ddaeth dim o’r peth oherwydd dymuniad y weinyddiaeth sy’n rheoli.  Wedyn roedd wedi galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio i geisio trafod y mater; cyflwynwyd gwys i’r Pwyllgor Gwaith fynychu’r cyfarfod ond gwnaeth yr aelodau hynny ddatganiad o ddiddordeb a gadael - nid oeddynt yn dymuno cael eu tynnu i mewn.  Fodd bynnag, arhosodd y Tîm Rheoli yn y cyfarfod a gofynnwyd cwestiynau i aelodau’r tîm hwnnw yn gyhoeddus ac yn breifat.  Ni fedrai ddatgelu beth a ddywedwyd yn breifat, ond cadwyd cofnod ac roedd cofnodion i’r trafodaethau ar y pryd.  Yn ddiweddar cafodd achos i alw cyfarfod arbennig arall o’r Pwyllgor Archwilio a gyfarfu ddoe, 26 Mawrth. Unwaith eto cafodd ei herio fel Cadeirydd a hynny trwy gynnig, yn y cyfarfod, gan aelod o’r Grwp Annibynnol Gwreiddiol i ohirio’r cyfarfod, cyn trafod y mater oedd gerbron y Cyngor yn hwyrach heddiw.  Roedd hi’n glir yng Nghyfansoddiad y Cyngor bod y Pwyllgor Archwilio â’r hawl i gyflwyno argymhellion i’r Cyngor os oedd unrhyw gam yn mynd i fod â goblygiadau ariannol i’r Cyngor ac yr oedd goblygiadau ariannol i’r camau y bwriedid eu cymryd.   Methu a wnaeth yr ymgais i stopio’r cyfarfod ac felly gadawodd aelodau y Grwp Annibynnol Gwreiddiol ac aelodau Plaid Cymru y Pwyllgor.  Ond roedd cworwm yn dal i fod ynddo ac felly aeth ymlaen gyda’r busnes - sesiynau cyhoeddus a phreifat a chadwyd cofnod air am air o’r trafodaethau.  Felly medrai ddweud, yn ôl profiad, iddo wynebu rhwystredigaeth yr holl ffordd oherwydd aelodau’r weinyddiaeth sy’n rheoli ar y  Pwyllgor Archwilio - ei rwystro rhag gwneud ei waith fel Cadeirydd annibynnol un o bwyllgorau rheolaethol yr Awdurdod.   Yn wir roedd y weinyddiaeth sy’n rheoli wedi mynd mor bell â thynnu aelod oddi ar y Pwyllgor Archwilio y diwrnod cyn y cyfarfod ac yn ei le wedi penodi’r Cynghorydd Barrie Durkin a deallai ef bod y Cynghorydd olaf hwn wedi cyflwyno cais dan Ddeddf Rhyddid i Wybodaeth am iddo ef fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio roddi i’r Cynghorydd Durkin pa dystiolaeth bynnag yr oedd wedi’i rhoddi i gynrychiolydd yr archwilwyr allanol ar y tîm archwilio.

 

      

 

     Yma cododd y Cynghorydd Barrie Durkin fater o drefn oherwydd iddo gael ei enwi a dywedodd y Cadeirydd y buasai’n cael yr hawl i ymateb yn y man.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cynghorydd Cliff Everett bod hyn wedi digwydd ac aeth ymlaen i ailadrodd yr hyn yr oedd eisoes wedi’i ddweud.  Teimlai bod y cais i gael gwybod pa wybodaeth a roddwyd i’r Archwilwyr, trwyddo ef fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yn anghredadwy ac yn arwydd o ba mor ddifrifol oedd pethau y tu mewn i’r Awdurdod.  Teimlai ef bod yr Awdurdod yn mynd i lawr lôn y “banana republic”.  Dywedodd wrth yr aelodau bod yr archwiliad llywodraethol corfforaethol, yn seiliedig ar hanes pethau o’r fath, yn debygol o arwain at ymyrraeth; gwastraff ar amser oedd credu bod popeth am fod yn iawn ar ddiwedd y dydd a phawb yn hapus; mae’n debyg y ceid ymyrraeth.  Roedd, yn bersonol, wedi gofyn am ryw fath o ymyrraeth gan dybio, os na fedrai deugain o aelodau’r Cyngor redeg yr Awdurdod yna roedd yn rhaid i rywun ddod yma i weithredu ar eu rhan.  Aeth y Cynghorydd Everett ymlaen i sôn am gyfeiriad a wnaed yn ystod y trafodaethau at Gyngor Gwynedd a rhoes rybudd i’r aelodau, pan ddaw’r etholaid llywodraeth leol nesaf, iddynt baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd Ynys Môn yn mynd dan reolaeth Gwynedd unwaith eto.  Credai ef y buasai Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei ddileu ym mhen tair blynedd ac roedd y bai am hynny ar yr aelodau.  Teimlai ef bod yr amgylchiadau wedi’i orfodi i wneud y datganiadau hyn.

 

      

 

     Wedyn dyfynnodd o baragraff 85 Llythyr yr Archwilydd; a gofynnodd i Mr Alan Morris a oedd y posibilrwydd bod uwch swyddog o’r Awdurdod hwn yn gadael yn mynd i ragfarnu yr archwiliad llywodraeth corfforaethol o’r Awdurdod neu a fuasai o fudd i’r unigolyn hwnnw fod yn ei swydd, o leiaf hyd oni châi’r archwiliad ei gwblhau.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Mr Alan Morris na fuasai unrhyw newidiadau yn rheolaeth yr awdurdod hwn yn awr yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar yr archwiliad; roedd yr archwiliad yn mynd i gael ei gynnal a buasai’n edrych ar nifer o faterion yng nghyd-destun arweinyddiaeth y Cyngor.  Petai unrhyw unigolyn yn gadael y Cyngor cyn i’r archwilwyr gael y cyfle i siarad gyda’r person hwnnw credai, er nad oedd wedi cael cyfle i ofyn am gyngor cyfreithiol ar y mater i gadarnhau hyn, bod gan Swyddfa Archwilio Cymru bwerau fel bod yr archwilwyr yn medru siarad gydag unigolyn o’r fath a chasglu tystiolaeth.  Felly o’r safbwynt hwn ni chredai y câi hynny unrhyw effaith;  roedd gan yr arolygwyr archwilio bwerau cyfreithiol sylweddol a’r hawl ganddynt i siarad gyda phwy bynnag y dymunant siarad gydag ef/hi yn ystod eu gwaith a chasglu tystiolaeth.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin y sylw ei fod eisoes wedi codi pwynt o drefn oherwydd iddo gael ei enwi a’i fod yn cadw’r hawl i ddod yn ôl petai’n teimlo bod angen gwneud hynny.  Aeth ymlaen i ddweud am y gwahoddiad a gafodd ddoe i wasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio; roedd wedi derbyn hwnnw oherwydd cais iddo wneud hynny a hefyd oherwydd credu bod ganddo lawer i gynnig i’r Pwyllgor. Soniodd iddo fod yn rhan o wleidyddiaeth ers cyfnod o ddeugain mlynedd a chredai ef bod cyfarfod ddoe y Pwyllgor Archwilio wedi’i gadeirio mewn ffordd warthus a theimlai bod democratiaeth, oherwydd hynny, wedi mynd yn ôl ymhell.  Yng nghyswllt ei gais ef am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yng nghyswllt y wybodaeth a roes y Cynghorydd Everett i’r Tîm Archwilio, dywedodd y Cynghorydd Durkin iddo gyflwyno’r cais hwnnw oherwydd bod y Cynghorydd Everett wedi gwadd pobl i ofyn y cwestiynau hynny pan aeth at y wasg - peth yr oedd wedi’i wneud yn aml yn ddiweddar - a thrwy ddweud yn gyhoeddus ei fod wedi rhyddhau adroddiadau i’r Tîm Archwilio ac i’r graddau ei fod wedi dwyn sylw at y ffaith bod peth o’r deunydd a ryddhawyd wedi’i ddweud yn breifat.  Awgrymodd bod ganddo’r hawl i wybod beth oedd yn cael ei wneud gan fod hynny wedi’i hysbysebu yn y wasg.

 

      

 

     ‘Ran eglurhad dywedodd y Cynghorydd Cliff Everett nad oedd wedi gwneud datganiad o’r fath; eglurodd iddo ef ddweud yn y  Pwyllgor Archwilio i bwrpas cofnod, y buasai’n rhyddhau dogfennau i holl aelodau’r Cyngor ac roedd wedi gwneud hynny - gan gynnwys y ddau ymateb e-bost (un oddi wrth yr Arweinydd ac un oddi wrth Mr Alan Morris); roedd y rheini ar gael dan y  Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac roedd wedi dweud wrth y Pwyllgor am ei fwriad i ryddhau’r dogfennau hyn i’r cyhoedd a hefyd oherwydd ei fod yn ceisio bod yn agored ac yn dryloyw.  Dywedodd bod yr aelodau yn ceisio gwasanaethu eu cymunedau ar yr Ynys ond bod y digwyddiadau y tu mewn i’r Cyngor yn difetha’r gwaith hwnnw.  Roedd y deunydd gwirioneddol, sef yr ohebiaeth rhwng y Cynghorydd Clive McGregor a’r Rheolwr-gyfarwyddwr unwaith eto ar gael dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth; pwysleisiodd iddo glirio popeth a wnaeth bob cam o’r ffordd a bod Arweinydd y Tîm Archwilio wedi derbyn yr un dogfennau, a hefyd wedi derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio.  Roedd wedi derbyn cyngor y Swyddog Monitro ar ei hawl i rhyddhau y pethau hyn i gynrychiolydd yr Archwiliwr Cyffredinol a’r cyngor yn dangos y gallai wneud hynny.  A oedd yma awgrym ei fod yn anonest gyda’r Cyngor?  Dywedodd unwaith yn rhagor bod ei eiriau yn ffeithiol; cyfeiriodd at ddatganiadau gan Arweinydd y Cyngor i’r Daily Post yn crybwyll iddo gael cyngor y Dirprwy Swyddog Monitro i beidio mynychu y cyfarfodydd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod; roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at yr Arweinydd a chafodd ef fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio gopi o’r llythyr hwnnw a chyflwynwyd copi i bob aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn herio’r datganiad yn y Daily Post ac yn dweud nad oedd wedi rhoddi cyngor o’r fath ynghylch mynychu’r cyfarfodydd hyn.  Buddiol fuasai sefydlu beth yw’r ffeithiau a dyma yn union beth yr oedd yn ceisio ei gyflawni - trosglwyddo’r ffeithiau i’r maes cyhoeddus.  Atgoffodd yr aelodau iddo ef fod unwaith ar Bwyllgor Michael Farmer mewn cyfnod pryd y gwnaed rhai argymhellion penodol ynghylch bod yn agored ac yn dryloyw; ef a’r Cynghorydd Schofield oedd yr unig ddau aelod etholedig sy’n dal i fod ar yr Awdurdod hwn ac a oedd yn aelodau o’r Pwyllgor Adolygu Arbennig; Cadeirydd y Pwyllgor arall oedd Mr Richard Parry Jones. Yn adroddiad Michael Farmer roedd 8 o argymhellion a gafodd eu mabwysiadu’n unfrydol gan y Cyngor - argymhelliad 8 oedd yr un perthnasol yn y cyd-destun hwn a dywed hwnnw na ddylid trin swyddogion yn amharchus na’u herlid na’u bwlio.  Yr haeriad a wnaed oedd iddo roddi dogfennau preifat i’r wasg; hyd yn oed ar ôl cyfarfod ddoe o’r Pwyllgor Archwilio cysylltodd y wasg gydag ef a rhoes wybod iddynt ei fod yn fodlon rhoddi datganiad ar y drafodaeth yn gyhoeddus ond nid ynghylch beth a drafodwyd yn breifat, ac roedd hon yn ffaith.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Clive McGregor y cyfarfod wedyn ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth gwnaeth ei ddatganiad yn Saesneg oherwydd ei fod am i bobl ddeall yr hyn oedd ganddo i’w ddweud.  Roedd y Cynghorydd Everett wedi cyfeirio at symud y Cynghorydd Keith Evans oddi ar y Pwyllgor Archwilio.  Roedd y Cynghorydd Keith Evans wedi peidio â bod yn aelod o’r Grwp Annibynnol Gwreiddiol ac roedd y Cyfansoddiad yn caniatáu i Arweinydd y Grwp, ar ôl colli aelod, benodi yn ei le gyda’r amod bod y balans gwleidyddol yn cael ei ddiogelu a dyma’r cwrs a gymerodd y Grwp.  Roedd gan y Swyddog Monitro bwerau dirprwyol i newid cynrychiolaeth ar Bwyllgorau ond ar ôl ymgynghori gyda’r Arweinydd; gofynnodd i’r Swyddog Monitro gadarnhau mai hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd - nid oedd yma unrhyw weithred ddrwg.  Gan ei fod ef wedi’i enwi yn y llythyr cadarnhaodd iddo ysgrifennu at y Rheolwr-gyfarwyddwr a’i fod hefyd wedi cwestiynu rhai penderfyniadau, ond os oedd rhywun yn dilyn gramadeg y llythyr yn ofalus, roedd modd gweld nad oedd wedi bygwth - yr hyn a wnaeth oedd awgrymu efallai bod rhai troseddau yn cael eu datgelu o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.  Roedd yn glynu wrth yr hyn a ddywedodd ac ni chredai bod y llythyr yn un bygythiol.  Yn wir roedd wedi dangos y llythyr i nifer o unigolion ers ei gyhoeddi.  Credai bod yr ohebiaeth yn un breifat rhyngddo ef a’r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Yma torrodd y Cynghorydd Cliff Everett ar draws i ddweud ei fod wedi dosbarthu’r llythyr yn hytrach na’i gyhoeddi; ond roedd y Cynghorydd Clive McGregor yn anghytuno gyda’i ddehongliad o beth yw ystyr cyhoeddi.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth W.Roberts at yr ateb a roes Mr Alan Morris ynghylch y cwestiwn a ofynnwyd - petai swyddog yn gadael yr awdurdod a oedd modd iddo/iddi fod yn rhan yn yr ymchwiliadau.  Ni chredai ef bod yr ateb a roddwyd yn gwbl glir oherwydd crybwyll bod rhaid gofyn am gyngor cyfreithiol.  Roedd hyn yn peri pryder gan fod yr Awdurdod yn wynebu ymchwiliadau difrifol ac os oedd penderfyniad penodol yn cael ei wneud heddiw yng nghyfarfod y Cyngor yn hwyrach ymlaen ynghylch a oedd swyddog yn mynd i fod yn rhan o’r ymholiadau ar y gweill ai peidio felly roedd yma sefyllfa ddifrifol iawn ynghylch bod yn agored ac yn dryloyw.  Gofynnodd am ateb.

 

      

 

     Ond ni fedrai Mr Alan Morris roddi ateb pendant diamwys heb yn gyntaf gael cyngor cyfreithiol; ond roedd yn ffyddiog bod pwerau archwilio ac ymchwilio’r archwiliwr cyffredinol yn ddigon cryf i ganiatau i’r arolygwyr siarad gyda phwy bynnag y dymunant a chymryd tystiolaeth ganddynt.  Pwysleisiodd unwaith eto ei fod yn dymuno cael cyngor tîm cyfreithiol Swyddfa Archwilio Cymru cyn rhoddi ateb pendant ar y pwnc.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd W.J.Chorlton sylw bod y Cynghorydd Clive McGregor, wrth ymateb uchod yn barod iawn i gyfiawnhau symud y Cynghorydd Keith Evans oddi ar y Pwyllgor Archwilio ond nad oedd y weinyddiaeth sy’n rheoli mor barod i lenwi’r bwlch ar y Pwyllgor Gwaith a bod hynny’n rhwystro’r Cynghorydd R.Llewelyn Jones rhag gwasanaethu ar unrhyw bwyllgor, am nad oedd yr un lle gwag ar unrhyw bwyllgor ac o’r herwydd roedd hynny’n gadael y Cynghorydd Jones mewn limbo.  Ynghylch beirniadaeth y Cynghorydd Durkin o gadeiryddiaeth y Cynghorydd Everett o’r Pwyllgor Archwilio roedd yn dymuno cofnodi bod y Cynghorydd Everett, yn ei farn ef, wedi gwneud gwaith ardderchog a hynny oherwydd llwyddo i ddwyn pethau allan i’r agored - pethau a fuasai wedi bod ynghudd fel arall petai ddim wedi bod yn y gadair.  Roedd wedi llwyddo i ddwyn pethau allan i’r maes cyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd weld beth oedd yn digwydd.   Yn bersonol roedd ef wedi bod yn ceisio, ers wythnosau, cael gwybodaeth gan yr Arweinydd ynghylch llythyr yr oedd yr Arweinydd wedi’i yrru at yr Archwilwyr ac enwi rhai pobl ynddo; oherwydd ei fod wedi’u henwi nhw roedd yn dweud nad oedd raid iddo gyflwyno gwybodaeth; ond roedd yr unigolyn sy’n gyfrifol am y math hwn o waith y tu mewn i’r Awdurdod wedi dweud wrtho yn gategorïaidd y bydd raid iddo ddarparu’r wybodaeth ond ei fod ef ei hun yn dal i ddisgwyl am y wybodaeth honno.

 

      

 

     A'i dyma oedd yr Arweinydd ei eisiau yn go iawn?  Yr oedd ef ei hun wedi cael llawer o bobl yn rhedeg arno ond y grwp oedd yn rheoli oedd i fod i gynnal delwedd barchus yr awdurdod hwn, ond y grwp hwnnw oedd yn awr yn tynnu ei enw da i lawr, ac nid ef.  

 

      

 

     Codwyd pwynt o drefn gan y Cynghorydd Rhian Medi gan nad oedd yn barod i wrando arno'n cael ei ddweud mai hi a'i chyd aelodau oedd yn tynnu'r Cyngor i lawr; gofynnodd i'r Cynghorydd Chorlton dynnu ei sylwadau yn ôl oherwydd eu bod yn amharchus.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Chorlton y byddai'n siarad ar yr hyn yr oedd ef yn ei gredu oedd y gwirionedd a bod pobl o du allan i'r awdurdod yn haeddu cael gwybod am yr hyn oedd yn mynd ymlaen.  Gofynnodd pwy oedd wedi cerdded allan o'r cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio ddoe pan oedd Cadeirydd y Pwyllgor yn ceisio dod â rhai materion i sylw'r cyhoedd; hwn oedd yr unig gyfle yr oedd yn mynd i'w gael i ddod a materion gerbron; hwn oedd yr unig sesiwn fyddai'n cael ei gynnal yn gyhoeddus ac yr oedd, felly, yn iawn i faterion gael eu hamlygu ac i bobl cael gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.  Fel yr oedd y Cynghorydd Everett wedi dweud, ni fyddai'r weinyddiaeth yn gallu cuddio am yn hir iawn gan y byddai pethau'n digwydd yn yr awdurdod, a da iawn oedd hynny.  Roedd angen i'r awdurdod gael materion yn agored fel y gallai'r cyhoedd weld beth oedd yn mynd ymlaen.  Roedd y weinyddiaeth wedi ceisio rhoi taw ar y cyfarfod ddoe gan wneud penderfyniad ei bod yn gynamserol a bod yn rhaid disgwyl hyd heddiw i wneud y penderfyniad a'i drafod.  Dywedodd ei fod yn credu y byddai'r penderfyniad wedi bod yn ddiwerth ac na fyddai wedi bod yn werth ei drafod wedi hynny.  Gofynnodd beth oedd y pwynt o gael Pwyllgor Archwilio am benderfyniad oedd eisoes wedi ei gymryd; roedd y Grwp oedd yn rheoli wedi gwneud hynny'n fwriadol ac ni allai hynny fod yn iawn.  Mae democratiaeth a bod gyda mwyafrif yn golygu rhoi cyfle i bobl gael dweud eu dweud a wedyn fod pleidleisio yn eu herbyn - dyna beth oedd democratiaeth - rhaid i bobl gael cyfle i ddweud yr hyn sydd ar eu meddwl a'r hyn y maent yn ei gredu ynddo neu mae amser yr aelodau yn cael ei wastraffu a waeth pebai maer yn rhedeg yr  holl le oherwydd roedd yr hyn oedd yn mynd ymlaen yno yn warthus; ni allai neb ofyn cwestiwn ac ni allai neb gael ateb.  Roedd yn dal i ddisgwyl am ateb ynglyn â beth oedd y sefyllfa iawn; fodd bynnag, byddai'n rhaid i atebion gael eu rhoi oherwydd ymhen 12 mis byddai'n gofyn am y cyfrifon.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn ceisio rhwystro'r Cynghorydd Chorlton rhag siarad ond nododd bod yr acwstics yn y Siambr yn dda - roedd hynny'n bwysig iddo ei wybod.  Dywedodd y Cynghorydd Chorlton ei fod yn teimlo'n angerddol ynglyn â'r hyn oedd yn mynd ymlaen yn yr awdurdod a'i fod, yn ei farn ef, yn anghywir.  Dywedodd y gallai'r Cadeirydd gael cymaint o hwyl ac roedd yn ei ddymuno a'i fod yn barod i ddadlau gydag ef yn unrhyw le ar unrhyw amser ac y gallai wneud hynny ar docyn gonest yn ogystal.

 

      

 

     Nododd Arweinydd y Cyngor, o ran cywirdeb, bod ganddo ef fel Arweinydd ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, hawl i ddewis a phenodi aelod pan oedd ef yn teimlo bod angen hynny a bod hynny'n wahanol i'r termau a'r cyfarwyddyd ar gyfer gwneud penodiadau i bwyllgorau.  Roedd yn dymuno i hynny gael ei nodi.

 

      

 

     Gwneud y sylw wnaeth y Cynghorydd G. O. Parry nad oedd unrhyw un wedi awgrymu na ddylai swyddog gael mynediad i'r archwiliad; roedd braidd yn siomedig gydag ymateb yr Archwilwyr oherwydd fe allent fod wedi dweud ei bod yn arferol i swyddog gael ei gyfweld.  Nododd ei fod yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio ddoe a bod y Pwyllgor hwnnw braidd yn ddifriol a'i fod yno trwy gydol yr holl gyfarfod.  Roedd, fodd bynnag, wedi synu bod cyfarfod lle roedd y cyhoedd a'r wasg wedi eu gwahardd ac ar fater mor sensitif, nad oedd ochr gyfreithiol ac ariannol y Cyngor hwn wedi sylweddoli bod yno faterion oedd yn cael eu cyfrif fel rhai cynamserol gan fod y materion hynny i'w hystyried heddiw.  Roedd yn dal wedi ei synu gyda'r dull y cafodd y cyfarfod ei gynnal ac roedd wedi ei synu'n fwy o lawer i weld y sylwadau oedd wedi ymddangos yn y Daily Post heddiw. Aeth y Cynghorydd Parry yn ei flaen i wneud rhai sylwadau ynglyn â'r papur newydd hwnnw, y Daily Post.

 

      

 

     Cododd y Cynghorydd W. J. Chorlton bwynt o drefn yn seiliedig ar derm a ddefnyddiwdyd gan y Cynghorydd Parry.  Eglurodd y Cadeirydd mai cyfeirio yr oedd y Cynghorydd Parry at bapur newydd; nid oedd wedi gwneud unrhyw gyfeiriad at unrhyw Gynghorydd arbennig ac roedd yna wahaniaeth rhwng y ddau beth.

 

      

 

      

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn croesawu'r rhai oedd wedi dod o'r tu allan i wrando ar y drafodaeth oherwydd bod y Cyngor, unwaith eto, yn plymio i'r dyfnderoedd yn nhermau sut i beidio â dadlau, a sut i beidio ymddwyn yn unol â'r llyfr. Dyma'r unig beth oedd wedi cael ei glywed heddiw ac nid oedd am fod yn amharchus o'r blaid oedd yn gwrthwynebu - nid oedd neb wedi sefyll i fyny a chyfeirio at y pethau da sydd yn mynd ymlaen yn y Cyngor hwn.

 

      

 

     Codwyd pwynt o drefn gan y Cynghorydd Cliff Everett yn dweud bod cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2009 yn dangos bod y Pwyllgor wedi llongyfarch staff yr Awdurdod ar y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn ei flaen i ddweud y byddai'n cywiro yr hyn yr oedd wedi ei ddweud ac nad oedd neb wedi dweud heddiw am y gwaith da oedd yn cael ei wneud.  Fel yr oedd y Rheolwr-gyfarwyddwr wedi ei ddweud, roedd yna bethau da yn digwydd o fewn y Cyngor heb i'r aelodau sylweddoli hynny ac roedd staff yn haeddu mwy o glod na'r hyn yr oeddent yn ei gael.  Gofynnodd i'r Archwilwyr oedd yn y cyfarfod a oedd hi'n bosibl iddynt roi cyngor i'r Archwilydd Cyffredinol, yn dilyn yr archwiliad a chwblhau ei adroddiad, bod enwau'r Cynghorwyr, y swyddogion ac unrhyw un arall sy'n berthnasol, yn cael eu cyhoeddi.  Roedd yn teimlo, ac roedd yn credu bod ganddo gefnogaeth traws-barti yn hyn o beth, ac y byddai hyn yn datrys llawer iawn o drwbl oherwydd ar hyn o bryd roedd pawb yn gweithredu ar iniwendo - mae'r Llythyr Blynyddol yn cyfeirio at aelodau yn ogystal ag at y Pwyllgor Gwaith ac nid oedd yn glir; nid oedd yn deg bod pob aelod yn cael ei beintio gyda'r un brwsh â'r rhai oedd yn gwneud drwg, ac nid oedd yn hapus gyda hynny.  Pwysleisiodd fod yna rai Cynghorwyr oedd yn ceisio gwneud ei gorau a hynny heb wneud dim byd drwg ond gan obeithio gwneud da i'r Cyngor.  Roedd yn rhaid gwneud newidiadau ac roedd yn rhaid i'r awdurdod symud yn ei flaen ac os nad oedd unigolion yn derbyn hynny, wel ni ddylent fod yma.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at y ffaith mai ef oedd yr unig Gynghorydd ar y Pwyllgor Safonau nes iddo orfod sefyll i lawr pan gollodd ei sedd ar y Cyngor Sir.  Roedd yn gwneud ei orau bob amser i fod yn deg ac roedd yn gwneud ei orau i fod yn deg gyda phawb heddiw ond roedd y ffordd yr oedd rhai unigolion yn ymddwyn yn Siambr y Cyngor yn mynd o dan ei groen.  Er mwyn bod yn deg, dywedodd bod yn rhaid i aelodau edrych arnynt eu hunain a sylweddoli beth yn union yr oeddent yn ei wneud.  Gofynnodd i'r aelodau feddwl am yr Ynys ac am y pethau da oedd wedi eu gwneud yn y Cyngor, ac roedd am longyfarch yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn arbennig.  Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen i weld yr adroddiad ar ddiwedd yr archwiliad, ac os oedd ef ei hun wedi gwneud rhywbeth oedd yn anghywir, yna fe ddylai ei enw ef hefyd gael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Keith Evans at y ffaith fod ei enw wedi ei grybwyll nifer o weithiau yn ystod y drafodaeth, a hynny oherwydd ei fod wedi peidio a bod yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf.  Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw gwyn ynglyn â chael ei symud oddi ar y Pwyllgor a'i fod yn deall y sefyllfa oedd yn bodoli a bod yr hyn oedd wedi digwydd yn hollol gywir; ond yr oedd er hynny yn siomedig oherwydd ei fod yn teimlo, efallai braidd yn naïf, y gallai'r sefyllfa gydag aelodaeth y pwyllgor fod wedi parhau tan y cyfarfod blynyddol ym mis Mai.  

 

      

 

     Roedd hefyd yn siomedig oherwydd ei fod yn meddwl y gallai, fel un o aelodau hynaf y Cyngor, fod wedi parhau i allu gwneud cyfraniad ystyrlon i drafodaethau'r Pwyllgor Archwilio.  Roedd yn sicr yn cydfynd gyda'r Cadeirydd, y Cynghorydd Everett fis Ionawr diwethaf, pan grybwyllwyd y syniad y dylai'r Pwyllgor Archwilio geisio cael i waelod y problemau trwy gynnal cyfarfod rhwng y ddau barti ar wahân tu ôl i ddrysau caeëdig er mwyn gallu gofyn cwestiynau sylfaenol megis beth yn union yw'r broblem ac fel y gellid bod wedi ceisio datrys y broblem yn fewnol.  Ers y cyfnod hwnnw, roedd yn ymddangos fel pebai'r awdurdod wedi neidio ar dren heb neb yn ei dreifio a bod y tren yn awr ar ben y dibyn; roedd yr hyn oedd wedi digwydd hyd at fis Ionawr yn ddifrifol iawn ond roedd yr hyn oedd wedi digwydd ar ôl mis Ionawr bron wedi dod â'r lleni i lawr.  Pryder arall oedd ganddo oedd bod cyfran helaeth o'r Llythyr Blynyddol yn dda a bod cymaint o bethau cadarnhaol ynddo ac roedd am ategu'r hyn ddywedwyd gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yn y cyswllt hwn.  Roedd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu yn dda ac roedd y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r hyn yr oedd yr awdurdod yn ei wneud, ac roedd am ddweud, gan dybio y byddai aelodau eraill yn dweud yr un modd, ei fod eisiau i'r Cyngor hwn barhau ac y byddai'n gofyn i'r Arolygwyr pan fyddent yn dod i'r Cyngor i roi pren mesur dros figyrnau'r hogiau drwg ond i ddweud hefyd mai'r neges o Ynys Môn oedd bod Cyngor Môn a staff Cyngor Môn am i'r Cyngor hwn barhau; roedd gan yr awdurdod ran i'w chwarae ac roedd hynny'n cael ei werthfawrogi.  Nid oedd aelodau angen uno â neb arall na chael eu llyncu gan neb arall - roeddent eisiau sefyll ar eu pennau eu hun ac roedd yn teimlo fel un o'r aelodau hynaf gyda pheth dylanwad llwybr canol, fe obeithiai, y byddai wedi gallu helpu'r Pwyllgor Archwilio hyd at fis Mai.  Fodd bynnag, roedd y penderfyniad wedi ei wneud fel arall ac nid oedd am gwyno am y mater,  roedd yr aelod oedd wedi dod yn ei le wedi bod yn gwrtais iawn ynglyn â'r mater a dyna oedd diwedd y peth.  Ond roedd yn bryderus ynglyn â dyfodol y Cyngor hwn a'r camau yr oedd yn ei gymryd, gan gynnwys yr un oedd i ddod yn hwyrach heddiw ac yntau'n credu ei fod yn creu difrod ac yn un na fyddai'n gwneud unrhyw ddaioni i'r awdurdod ac yn un oedd yn hollol anghywir o ran ei amseriad.  Roedd hefyd yn bryder iddo mai'r cyhoedd fyddai'r rhai fyddai'n dioddef ac y gallai'r holl aelodau fod allan ar eu pennau.  Roedd am atgoffa'r aelodau iddo gael ei ethol fis Mai diwethaf gyda mwyafrif mawr yn Ward Cadnant a phe byddai'n darfod a bod yn Gynghorydd yn swyddogol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, yna fe fyddai'n parhau i gynrychioli ward Cadnant am ddim am weddill tymor ei swydd oherwydd bod y bobl yr oedd yn ei gynrychioli yn disgwyl cael cymorth ganddo.  Roedd y cyhoedd angen y Cyngor ac roedd wedi gobeithio y byddai'r awdurdod yn gallu sortio'r mater hwn ei hun, ond roedd yn awr yn teimlo y byddai corff allanol yn gwneud y penderfyniad drostynt.  Ei neges ef oedd - beth bynnag y byddai'r archwilwyr yn ei ganfod, y neges parhaol oedd bod yn rhaid i Gyngor Ynys Môn barhau i fyw, ac roedd yn siwr y byddai pawb arall yn cytuno gydag ef yn hyn o beth.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn croesawu'r cyfle i drafod yr adroddiad hwn gyda'r archwilwyr heddiw a'i bod yn fater trist bod yn rhaid i'r aelodau aros am fis er mwyn gallu bod wedi gwneud hynny.  Roedd yn amlwg oddi wrth y Llythyr Blynyddol bod yna broblemau o fewn yr awdurdod; roedd yna broblemau cyn hyn rhwng yr aelodau; roedd y sefyllfa honno bellach wedi casglu ac wedi trosglwyddo i aelodau a swyddogion.  Hwn oedd y rhan fwyaf damniol yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd yna hefyd nifer o bethau da am yr adroddiad a byddai'n llongyfarch y gwasanaethau a hefyd y swyddogion am wneud gwaith mor dda mewn amseroedd hynod o anodd; roedd yn siwr pebaent yn cael cyfle i wneud ei gwaith yna fe allai'r awdurdod symud yn ei flaen yn dda.  Yn anffodus, roedd yn ymddangos nad oedd yn cael cyfle i wneud hynny ac roedd yn amlwg oddi wrth yr adroddiad bod yna anawsterau mawr rhwng aelodau'r Pwyllgor Gwaith ac Uwch Swyddogion.  Dyma lle roedd y broblem yn gorwedd.  Nododd y Cynghorydd Thomas ei fod yn cytuno gyda'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fod pobl ar y stryd yn tueddu i bwyntio bysedd i bob cyfeiriad ac mai'r unig ffordd, felly, y gallai'r problem gael ei datrys fel y gallai'r awdurdod symud yn ei flaen, yw i'r adroddiad archwiliad enwi enwau.  Roedd yna, yn ei farn ef, lond llaw o unigolion oedd yn dinistrio'r awdurdod hwn ac roeddent yn benderfynol o hunan-ddinistrio; y cyfan yr oeddent ei eisiau oedd edrych ar ôl eu agenda personol pwy eu hunain ac roedd yn ymddangos fel pe na bai gweddill yr ynys yn bwysig.  I hyn ddigwydd, roedd yn bechod mawr.  Roedd y Llythyr Blynyddol hefyd yn cyfeirio'n glir at ddiffyg arweiniaeth.  Nododd y Cynghorydd Thomas ei fod yn adnabod Arweinydd y Cyngor yn dda iawn a'i fod yn cael ymlaen yn dda gydag ef, ond er gwaethaf hyn roedd yna ddiffyg arweiniaeth.  Roedd am ofyn i'r Arweinydd, ac roedd am ei atgoffa, pe byddai'n hoffi hynny ai peidio, ei fod yn Arweinydd i 39 aelod ac nid dim ond yn arweinydd ar ei grwp ei hun, felly paham na allai aelodau'r awdurdod weld y llythyr yr oedd wedi ei anfon i'r archwilwyr yn condemnio swyddogion gan fod yn feirniadol o'r swyddogion hynny.  Roedd o'r farn, os oedd yr Arweinydd yn ysgrifennu ar ran yr aelodau, y dylai'r holl aelodau hynny gael gweld y llythyr hwn - roedd o'r farn ei bod yn bwysig bod hynny'n digwydd.  Gofynnodd felly i'r Arweinydd ganiatáu i'r aelodau oedd ddim wedi gweld y llythyr, gael cyfle i wneud hynny.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd nad oedd rhai o'r geiriau oedd wedi eu defnyddio gan y Cynghorydd Thomas ynglyn â chynnwys y llythyr yn gywir.  Roedd y llythyr, fodd bynnag, yn y broses o fynd drwy'r system ac roedd ar ei ffordd i unrhyw un oedd wedi gofyn amdano, ac roedd yn credu, os nad oedd Mr. Alan Morris yn gwybod am hyn eisoes, yna yr oedd yn dweud wrtho am hynny heddiw - bod y llythyr yn y system i gael ei ryddhau.  Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas ymhellach ynglyn â'r amser ynglyn â rhyddhau'r ddogfen.  Dywedodd yr Arweinydd nad oedd yn sicr iawn o'r broses ac y byddai'n gofyn i'r Adran Gyfreithiol ynglyn â'r amser; roedd am gadarnhau, fodd bynnag, bod y ddogfen yn y system.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i'r llythyr arbennig hwn ddod i feddiant y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol ddydd Mercher yr wythnos hon a bod y swyddog yn awr yn delio gyda cheisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Deddf Diogelu Data yr oedd wedi eu derbyn.  Nid oedd hi ei hun wedi gweld y llythyr ac roedd wedi gofyn i'r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol beidio a dangos y llythyr i neb nes y byddai wedi cwblhau'r prosesau cyfreithiol; roedd yn credu, fodd bynnag, y byddai'r hyn y gellid ei ryddhau yn cael ei ryddhau yn ystod yr wythnos nesaf.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes yn croesawu'r Llythyr Blynyddol ac o'r farn ei fod yn nodi cryfderau ac arfer dda o fewn y Cyngor yn ogystal â rhai gwendidau y byddai'n rhaid mynd i'r afael â hwy.  O safbwynt y gwendidau, roedd yna argymhellion clir ynglyn â sut y gellid gwella'r gwasanaethau.  Yr hyn oedd yn peri consyrn iddo ef oedd bod yr adroddiad yn cyfeirio ar fwy nag un achlysur at y ffaith nad oedd camau effeithiol wedi'u cymryd mewn ymateb i argymhellion blaenorol.  Roedd o'r farn nad oedd unrhyw esgus am hynny, ac ni allai ddeall unrhyw ffordd o feddwl nad oedd yn cymryd sylw o argymhellion i wella gwasanaethau.  Roedd yn ddyletswydd ar bob swyddog ac aelod i gynnig gwasanaeth effeithiol na ellid ei wella, a byddai'n hoffi gweld yr awdurdod hwn yn gweithio gyda'i gilydd ac yn derbyn yr her i gyflawni pob un o'r argymhellion yn hytrach na gwneud dim byd.

 

      

 

     Oedd, mi roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol mewn sawl ffordd meddai'r Cynghorydd G. W. Roberts; mae pawb yn gweithio gyda'r bwriad o wella ac roedd yr adroddiadau oedd wedi eu derbyn dros y flwyddyn diwethaf wedi bod yn rhai cadarnhaol i'r awdurdod o safbwynt yr Adran Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Roedd yn beth hawdd iawn i'r aelodau bigo ar yr hyn oedd yn eu siwtio hwy er mwyn gallu ei ddefnyddio nes ymlaen.  Roedd felly am ddiolch i'r swyddogion am y gwaith yr oeddent yn ei wneud ar bob lefel.  Cynllun 4 i 5 mlynedd oedd hwn.  Roedd yr hyn yr oedd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes wedi ei ddweud yn iawn - roedd yn drueni nad oedd yr adroddiad yn enwi enwau a phe byddai wedi gwneud hynny byddai'n golygu llai o waith i'r Cyngor Sir.  Roedd yna linell oedd yn mynd trwy'r adroddiad - linell ynglyn ag agwedd rhai aelodau mewn Pwyllgorau.  Yn y cyfarfod galw-i-mewn diwethaf roedd wedi dychryn ac roedd felly yn deall paham yr oedd Mr. Alan Morris wedi gwneud sylw ynglyn â chydweithredu mewn perthynas â "rhai" aelodau o'r Pwyllgor Gwaith a rhai swyddogion.  Roedd yr awdurdod, felly, yn lladd ei hun dros "rai".  Y gobaith oedd y byddai'r adroddiad yn cyhoeddi enwau oherwydd yr oedd yna batrwm wedi bod tros y 10 mlynedd diwethaf.  Byddai'n gofyn i'r aelodau ystyried faint o swyddogion o Ynys Môn oedd wedi gorfod gorffen eu gwaith yn yr awdurdod oherwydd adroddiad, efallai, neu oherwydd ei fod ef/hi wedi mynd yn groes i grwp. Yn ei farn ef, roedd yna beth troelli wedi bod yn yr adroddiad ynglyn â Graigwen.  Yn y cyfarfod diwethaf roedd wedi dweud yn glir ei fod wedi datgan diddordeb yn y mater fel Arweinydd ac fel cynrychiolydd Amlwch a dim am unrhyw reswm arall. Dywedodd ei fod yn credu i'r Cynghorydd Eric Jones wneud cais mewn Pwyllgor arall am i'r holl wybodaeth ar Graig Wen gael ei gyhoeddi; roedd yn credu bod hyn yn hynod o bwysig.  Gofynnodd, felly a fyddai'n bosibl i'r holl wybodaeth fod ar gael yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at alwadau ffôn wnaed ai peidio, llythyrau ac adroddiadau ar ffeiliau yn y Cyngor.  Ategodd ei fod yn credu bod yr wybodaeth yn bwysig ac yn bwysig hefyd i'r archwilwyr.  Y patrwm yma ym Môn oedd un lle roedd swyddog yn gwneud cwyn, yna fendeta, ac yna llys  cangarw; roedd ef yn hollol fodlon i enwi enwau pebai angen.  Fodd bynnag, ni ddylai enwau pob un o Gynghorwyr Ynys Môn gael eu pardduo ac ni ddylid cyfeirio ati fel problem Cyngor Môn.  Problem y Pwyllgor Gwaith oedd hon a byddai'n parhau i fod yn broblem am amser hir os na fyddai gan aelodau ddigon o asgwrn cefn i ddweud hynny ac os na fyddent yn gwneud, yna pobl a theuluoedd ar yr Ynys fyddai'n dioddef.  Roedd am fentro dweud, pwy fyddai'n dod i Ynys Môn o ystyried ei hanes.  Er mwyn gwella'r Cyngor, roedd angen i'r awdurdod weithio fel tîm er na fyddai rhai yn hoffi steil arbennig.  Roedd yn teimlo fod yr aelodau yn cwffio y naill yn erbyn y llall.  Ailadroddodd ei gais am i'r holl wybodaeth ar Graigwen fod ar gael i'r holl aelodau a chyfeiriodd at y ffaith bod y mater hwn eisoes wedi costio £50k i'r awdurdod mewn ymchwiliad, a thra bod yr archwilwyr wedi clirio'r mater gyda pheth bai ar swyddogion, byddai ef yn dweud nad oedd unrhyw fai ar y swyddogion.  O safbwynt gweithdrefnau, ef yn bersonol oedd yn gyfrifol am roi y person anghywir yn y Gadair tra roedd y dirprwy arweinydd yn bresennol.  Yr hyn oedd yn bwysig i'r Cyngor Sir, fodd bynnag, oedd ei fod wedi ennill yr hawl i brynu'r tir hwn.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai drin y cais wnaed gan y Cynghorydd G. W. Roberts fel cais dilys am wybodaeth o dan y rheoliadau amgylcheddol; byddai felly yn gofyn i'r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol weld os oedd yna ddogfennaeth o'r fath a phe byddai, byddai'n gofyn a ellid ei ddatgelu ai peidio.

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin ei fod yn hollol gefnogol i'r cais i'r wybodaeth hon gael ei ryddhau.  Byddai'n mynd a'r cais ymhellach ac yn gofyn am i'r holl wybodaeth ar Craigwen fod ar gael.  Roedd yn derbyn cydnabyddiaeth y Cynghorydd G. W. Roberts mai ef oedd yn gyfrifol am roi'r person anghywir yn y Gadair ond roedd yn rhaid i un ystyried beth oedd wedi digwydd ar ôl hynny;  hwnnw oedd y peth pwysig.  Roedd camgymeriad wedi ei wneud, ond beth ddilynodd hynny oedd yn ei bryderu ef yn fawr.  Felly, byddai'n gwneud cais trwy'r Gadair, y dylid gofyn i'r Swyddog Monitro roi'r holl wybodaeth ar Graigwen, ac nid ond yr wybodaeth yr oedd ef yn bersonol wedi ei dderbyn yn barod, ond yr wybodaeth oedd wedi'i dal yn ôl.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd G. W. Roberts, pan fyddai'n gwneud penderfyniad, byddai'n barod i ddweud hynny.  Ychwanegodd bod angen cael yr holl wybodaeth ar Craigwen er mwyn gallu clirio'r mater, ac roedd angen cael hefyd yr holl adroddiadau yr oedd swyddogion wedi eu hysgrifennu ynglyn â Chynghorwyr tros y 2-3 blynedd diwethaf fel y gellid clirio pethau yn gyfan gwbl.  

 

      

 

     Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Cynghorydd Barrie Durkin wedi gwneud nifer o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth mewn perthynas â Chraigwen ac yr oedd y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol wedi delio â'r ceisiadau hynny.  Roedd y Cynghorydd Durkin wedi derbyn nifer o ddogfennau a hefyd restr o ddogfennau nad oeddynt wedi eu datgelu oherwydd i'r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol eu heithrio yn gyfreithlon.  Ni allai hi weithredu yn groes i hynny gan mai cyfrifoldeb a dyletswydd y swyddog oedd hynny.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Durkin wedi ei hysbysu o'i hawl i apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac roedd wedi ei wahodd i ymarfer yr hawl hwnnw.  Yn yr ymchwiliadau maith wnaed gan PWC ar fater Craigwen, roeddent wedi derbyn yr holl bapurau gan gynnwys rhai cyfreithiol, cynllunio ac eiddo ac nid oedd unrhyw ddogfennau wedi eu dal yn ôl oddi wrthynt.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts ei fod am wneud yn siwr bod pawb wedi cael y wybodaeth ofynnwyd amdani gan y Cynghorydd Eric Jones, cynnig a gefnogwyd gan y Cynghorydd Barrie Durkin.  

 

     Roedd y Cadeirydd am gael eglurhad o'r hyn oedd wedi cael ei ddweud - bod yna wybodaeth na fyddai'n cael ei wneud yn gyhoeddus er bod y wybodaeth honno gan y Cyngor;  gofynnodd am gadarnhad fod hynny'n gywir.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol bod hynny'n gywir.  Roedd y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol wedi datgelu pob dim oedd yn iawn iddo'i ddatgelu yn ôl y gyfraith; roedd yna nifer o ddogfennau ar y ffeil oedd wedi eu heithrio o safbwynt yr archwiliad ac o safbwynt diogelu data ac yn y blaen.  Nid oedd y dogfennau hynny wedi eu datgelu; roeddent wedi eu rhoi i PWC ond nid oeddent wedi cael eu datgelu i aelodau.  Os oedd yr aelodau'n dymuno gweld y dogfennau hynny yna byddai raid iddynt wneud apêl i'r Comisiynydd Gwybodaeth ac os byddai ef yn dweud wrth yr awdurdod am ei gyhoeddi, yna byddai'n gwneud hynny.  Ar bwynt arall godwyd gan y Cynghorydd G. W. Roberts ynglyn â sicrhau bod copïau ar gael o bapurau yn ymwneud â Craigwen; roedd yr hyn oedd wedi ei ddatgelu i'r Cynghorydd Durkin yn awr yn gyhoeddus ac fe ellid, felly, ei gopïo i'r holl aelodau os oeddent yn dymuno.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Durkin ei fod yn credu, fel Cynghorwyr ac aelodau oedd yn cynrychioli eu hetholwyr, bod ganddynt hawl ar sail angen i wybod, i weld yr holl ddogfennau er mwyn eu helpu i ddod i benderfyniad ac argymhelliad cywir.  Gofynnodd a fyddai hynny'n cynnwys y dogfennau na ddatgelwyd i aelodau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai'r dogfennau hynny ar gael oni bai bod y Comisiynydd Gwybodaeth yn Gorchymyn i'r awdurdod eu datgelu, ac os felly, byddai'r Cyngor yn gwneud hynny.  Nododd y byddai'n gwahodd yr aelodau i wneud apêl i'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd G. W. Roberts i'r Cadeirydd am ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ar y mater hwn.  Roedd yn teimlo ei bod yn bwysig bod yr aelodau'n derbyn yr holl wybodaeth ar Craigwen a hefyd yr holl adroddiadau yr oedd Uwch Swyddogion wedi  eu hysgrifennu tros y tair blynedd ddiwethaf ar bwyntiau yn ymwneud â Chynghorwyr.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn dymuno gwneud sylw ar y sylwadau wnaed gan y Cynghorydd G. W. Roberts.  Roedd yn bryderus os oedd dogfennau yn ymwneud â'r mater hwn, yna byddai'n rhaid i'r holl ddogfennau gael eu rhyddhau ac roedd am ofyn i'r Adran Gyfreithiol geisio cymryd camau i'w rhyddhau i bob aelod; eglurodd ei fod yn cyfeirio at yr holl ddogfennau nad oeddent wedi'u rhyddhau oherwydd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu fel arall ni fyddai'r awdurdod byth yn cael i waelod y mater.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Clive McGregor y byddai'n cefnogi'r hyn oedd wedi cael ei ddweud.  Roedd ef yn aelod newydd ac roedd am fod yn agored ac efallai mai dyma un o rhesymau paham y cafodd ei gyhuddo o fwlio mewn llythyr i'r Rheolwr-gyfarwyddwr.  Dywedodd ei fod yn dymuno darllen yr hyn yr oedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr hwnnw ac fe ddyfynodd, "it may be that we require a police investigation into the issue of Craigwen as offences of malfeasance in public office would appear to be made out.  It is then and only then that confidence in the Isle of Anglesey County Council would be apparent."

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. W. Roberts ei fod yn ddiolchgar i'r Cynghorydd McGregor am ddarllen y llythyr allan; roedd y mater hwn eisoes wedi costio £50k yn ychwanegol am y canlyniadau; ac roedd y pris yn fwy ar y cychwyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Cliff Everett mewn ymateb i'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn credu ei fod yn iawn i ddweud bod yma broblemau yma ond roedd am atgoffa'r aelodau bod y Pwyllgor Archwilio wedi gofyn yn benodol yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr am enwau'r unigolion er mwyn nodi lle roedd y problemau'n gorwedd.  Roedd wedi derbyn ymateb Mr. Alan Morris ar 10 Chwefror ac roedd Mr. Morris wedi dweud nad oedd caniatâd iddo wneud hynny ar gyngor ei reolwr cydymffurfio ac y byddai mewn gwirionedd yn troseddu pebai'n rhoi'r wybodaeth  Felly, o safbwynt cael rhywun o'r tu allan, byddai'n dweud bod yr archwilwyr oedd yn bresennol yn rhai o'r tu allan - archwilwyr allanol ydyn nhw, a'r hyn oedd yn mynd i ddigwydd yn awr oedd archwiliad llywodraethu corfforaethol gan Swyddog yr Archwilydd Cyffredinol - rhywbeth hollol wahanol.  Nid achos fyddai yma o gael llythyr archwilio gydag argymhellion, byddai'r argymhellion o'r archwiliad llywodraethu corfforaethol yn mynd i'r Gweinidog, yn hytrach nac i'r Awdurdod a'r Gweinidog fyddai'n gwneud penderfyniad.  Fel  gwrthblaid, roeddent wedi cael cyfarfod gyda'r Aelod Seneddol.  Roedd hefyd, fodd bynnag, wedi ysgrifennu i'r Aelod Cynulliad ers 12 Mawrth yn gofyn am gael cyfarfod.  Roedd yn dal i ddisgwyl am ateb i'r llythyr a anfonwyd, roedd yn credu bod angen cadw'r Aelod Cynulliad yn y darlun yn ogystal, o ystyried mai ef oedd yr Aelod Cynulliad Lleol gan nad oedd fel aelod yn chwarae gwleidyddiaeth.  Roedd yn hollol o ddifrif yma ar y sail y byddai'r mater hwn yn cael effaith ar bawb ar yr Ynys ar ddiwedd y dydd.  Gofynnodd os oedd yr aelodau o ddifrif eisiau gweld y Cyngor hwn yn cael ei ddiddymu.  Roedd yr aelodau i gyd wedi dweud eu bod eisiau statws awdurdod unedol ac roedd achos cryf wedi ei wneud i Ynys Môn fod yn awdurdod unedol ac fe grewyd Awdurdod felly yn 1996 oedd yn golygu ei fod yn ymgymryd â swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.  A oedd yr aelodau o ddifrif eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau o naill a'i gael ei diddymu a'u gosod o dan ofal Gwynedd neu Gonwy neu rhywun arall o gofio bod gan yr awdurdodau hyn bolisïau sydd yn wahanol mewn sawl agwedd ac nad ydynt yn berthnasol i Ynys Môn.  Er enghraifft, roedd bandiau'r Dreth Gyngor yn is ar Ynys Môn nag oeddynt mewn unrhyw ran arall o Gymru ac felly, y gymuned fyddai'n debygol o ddioddef o ganlyniad i'r anghydfod yn yr awdurdod a hynny, fel yr oedd yr archwiliwr wedi dweud yn glir - oherwydd rhai aelodau o'r Pwyllgor Gwaith.  Roedd yr holl aelodau'n ffurfio'r Cyngor, ac os oedd rhai aelodau oedd yn bresennol yn achosi problemau yna fe ddylid eu symud o'u swyddi.  Yr hyn yr oedd ef wedi ceisio ei wneud yn y Pwyllgor Archwilio oedd cael pennau at ei gilydd, ond yn sydyn iawn roedd gwleidyddiaeth a chwipiau tair llinell a'r math yna o beth wedi dod i mewn i'r mater ac roedd pethau wedi disgyn yn ddarnau o ganlyniad.  Roedd yn credu y byddai'r sefyllfa yn gwaethygu a bod y penderfyniad oedd i'w wneud yn nes ymlaen heddiw yn debygol o gael effaith sylweddol ar sut y byddai'r Cyngor yn gweithredu ac y byddai'r rhai fyddai'n pleidleisio o'i blaid yn prysuro difancoll y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd Mr. Alan Morris y byddai'n hoffi egluro un pwynt mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed.  Byddai adroddiad yr archwiliad llywodraethu corfforaethol yn debygol o gynnwys argymhellion i'r Cyngor.  Fodd bynnag, yn dilyn yr archwiliad, fe all yr archwilydd cyffredinol ystyried gwneud argymhellion i Weinidog Llywodraeth y Cynulliad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes nad oedd yn ymwybodol bod y Cynghorydd Everett wedi ysgrifennu i unrhyw berson, ond byddai unwaith yn rhagor yn gwneud apêl i'r archwilwyr, o ystyried bod nifer wedi dweud bod angen enwi enwau yn cynnwys swyddogion, aelodau ac unrhyw un arall, i roi pwysau ar yr Archwilydd Cyffredinol i wneud hynny; ac os na fyddai hynny'n cael ei wneud, yna byddai hynny'n gam yn ôl.  Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas y byddai'n eilio hynny. Cadarnhaodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes y byddai'n cynnig bod llythyr yn cael ei anfon i'r Archwiliwr Cyffredinol yn gofyn am iddo enwi enwau fel y gallai pobl yr Ynys weld lle roedd y problemau a hefyd weld lle nad oes unrhyw broblemau.

 

      

 

     Yn ei ateb, dywedodd Mr. Alan Morris na allai ragweld casgliadau'r gwaith ymchwilio cyn i'r Tîm fod wedi gwneud y gwaith hwnnw, a than hynny nid oedd yn deg iddo ef ddweud os byddai'n briodol ai peidio i unrhyw un enwi unigolion.  Ar hyn o bryd, roedd yn anodd ateb y cwestiwn.  Byddai'n dibynnu ar ba dystiolaeth fyddai'n dod allan o'r gwaith y byddai'r Tîm yn ei wneud ac ar ddiwedd y broses honno, os byddai'r dystiolaeth yn dweud y byddai'n briodol iddynt enwi unigolion, yna fe fyddant yn gwneud hynny.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes - os nad oedd yn bosibl i Mr. Alan Morris roi pwysau ar yr Archwilydd Cyffredinol i wneud hynny, yna efallai y gallai'r Cyngor ysgrifennu iddo.  Dywedod y Cynghorydd Hefin Thomas unwaith yn rhagor y byddai'n eilio hynny ac mai dymuniad y Cyngor oedd bod unigolion yn cael eu henwi.  

 

      

 

     Eglurodd yr Arweinydd ei fod wedi cael trafodaethau gyda'r Archwilydd Cyffredinol pan fu iddo ymweld â'r Cyngor rai wythnosau yn ôl, ac yr oedd yntau hefyd gyda'r un brwdfrydedd â'r aelodau a'r run teimladau â phob un o bobl Môn.  Roedd wedi dweud ei fod yntau'n berffaith fodlon i gael ei enwi os oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le - roedd Mr. Alan Morris yn dyst i hynny - a gyda neb llai na Mr. Jeremy Coleman ei hun.  Roedd wedi dweud, fel Arweinydd, wrthynt am wneud yn glir ymhle roedd y problemau'n gorwedd ac os byddai raid iddo fynd o'i swydd yna yr oedd yn berffaith fodlon gwneud hynny ar y dydd byddai hynny'n cael ei ddweud.  Felly yr oedd teimladau'r aelodau wedi eu gwneud yn glir i'r Archwilydd Cyffredinol ac fe fyddai Mr. Alan Morris yn gallu cadarnhau'r ffaith honno.  Roedd pawb eisiau symud ymlaen ac os oedd hynny'n golygu enwi rhai unigolion yna byddai'n croesawu hynny.  Ond roedd dymuniadau'r aelodau ar y pwynt hwn eisoes wedi cael eu mynegi i'r Archwilydd Cyffredinol.

 

      

 

     Dywedod y Cynghorydd H. Eifion Jones ei fod yn dymuno gwneud sylw ar y gwaith wnaed gan y Cynghorydd Cilff Everett yn ystod y mis diwethaf; roedd wedi gweithio'n galed iawn i geisio datrys sefyllfa anodd ac yng nghyfarfod ddoe roedd wedi dilyn cyngor cyfreithiol.  Cyfeiriodd yr aelodau at bwynt 59 ar tudalen 20 yn y Llythyr Blynyddol lle cyfeirir at yr anawsterau yn y berthynas weithio rhwng rhai o aelodau'r Pwyllgor Gwaith a rhai uwch swyddogion oedd yn cael effaith niweidiol ar y Cyngor.  Ar bwynt 59, roedd yr Archwilwyr wedi bod yn adolygu materion ddygwyd i'w sylw mewn perthynas â phrynu eiddo yn Amlwch.  Roedd sylwadau ar yr adolygiad wedi eu gwneud ynghynt yn y llythyr ond yn ystod yr adolygiad, dywedir bod yr Archwilwyr wedi dod yn ymwybodol o anawsterau yn y berthynas weithio rhwng aelodau o'r Pwyllgor Gwaith a rhai uwch swyddogion.  Byddai'n hoffi cael rhyw syniad o beth yn union oedd yr anawsterau hynny a pha bryd yn union y daethant i'r amlwg.  

 

      

 

     Yn ôl Mr. Gareth Jones, roedd yr anawsterau yn amlwg yn nhermau cwblhau adroddiad PWC a phenderfynwyd y byddai hynny'n cael ei adrodd yn y Llythyr Archwilio ac fe geisiwyd cael sylwadau gan y gwahanol bartïon ynglyn â'r casgliadau drafft; fe aethpwyd â'r trafodaethau hynny ymhellach ac fe wnaed sylwadau yr adroddwyd arnynt yn y Llythyr Archwilio ynglyn â chyfathrebu a gwybodaeth yn cael ei rannu rhwng swyddogion a rhai aelodau o'r Pwyllgor Gwaith a pha amser fyddai'n iawn i adrodd am hynny.  Gyda'r holl faterion eraill oedd yn cael eu dwyn i fyny'n gyffredinol ar draws yr archwiliad, roedd y ddau, felly, wedi eu cysylltu gyda'i gilydd yn nhermau'r Llythyr Archwilio.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones ei fod yn tybio felly mai anghytuno oedd yma rhwng rhai aelodau o'r Pwyllgor Gwaith a'r swyddogion; gofynnodd unwaith yn rhagor pa bryd yr oedd hyn wedi dod yn amlwg - a oedd gan yr Archwilwyr unrhyw syniad ym mha fis yr oedd hyn wedi dod yn amlwg.

 

      

 

     Yn ystod cyfnod cwblhau'r llythyr archwilio y bu hyn meddai Mr. Gareth Jones - byddai'n tybio tua mis Hydref/Tachwedd.  Yn wreiddiol y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r Llythyr Archwilio oedd dechrau Tachwedd ond oherwydd y gwaith o'i gwblhau, roedd ychydig yn hwyrach na'r dyddiad hwnnw.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Gwilym O. Jones, yr oedd yn bwysig i bobl ddeall bod y llythyr yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan; roedd yna gymalau o fewn y llythyr fel oedd wedi cael ei ddweud eisoes sydd yn cyfeirio at rai gwendidau ond o safbwynt gwasanaethau, roedd yn sicr y byddai pawb yn cytuno bod gan yr awdurdod le i longyrach swyddogion yma yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni a hefyd allan yn y cymunedau ac fe allai sicrhau'r Cyngor bod y bobl oedd yn derbyn y gwasanaethau hyn yn eu gwerthfawrogi hwy'n fawr.  Fel aelod, roedd ef yn bersonol wedi bod ag ymwneud o'r dechrau gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd yn teimlo y dylai'r awdurdod deimlo boddhad mawr yn y gwaith oedd yn cael ei wneud ar Ynys Môn.  Echdoe roedd cyfeiriad wedi ei wneud mewn Pwyllgor arall at y diweddar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Mr. Byron Williams ac yn sicr roedd yr awdurdod yn ddyledus iawn iddo.  Roedd wedi gosod sylfaeni cadarn i'r gwasanaeth ym Môn ac roedd ganddo brofiad helaeth mewn gwasanaethau i'r henoed o'i amser gyda Chyngor Gwynedd ac roedd wedi trosglwyddo'r profiad hwnnw i Ynys Môn gan adeiladu tîm profiadol iawn o'i gwmpas.  Nododd y Cynghorydd Jones ei fod yn ddiolchgar iawn bod Mr. T. Gwyn Jones yn parhau gyda'r gwaith da.  Roedd yna faterion nad oeddent yn dod o fewn yr adroddiad ond oedd yn haeddu eu crybwyll; y ddau wasanaeth mwyaf pwysig yng nghyd-destun cyllid llywodraeth leol oedd Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac wrth ddweud hynny nid oedd yn bod yn amharchus o wasanaethau eraill.  Roedd pob un aelod yn llywodraethwr ysgol ac yn brysur o fewn eu cymunedau ac felly roeddent yn ymwybodol o'r gwaith mawr oedd yn mynd ymlaen yn yr ysgolion ar draws Ynys Môn ac yr oedd yr aelodau'n derbyn adroddiadau cynhwysfawr o fewn eu cymunedau oedd yn mynd o dan groen y gwasanaeth - dyna oedd gwaith yr aelodau a dyna paham fod y sefyllfa y daethpwyd ati y prynhawn hwn mor drist ac yn ymwneud â mân  gweryla.  Os oedd yna achos i fod yn feirniadol, yna roedd yn rhaid i ddyn fod yn feirniadol.  Braint yr wrthblaid yw gwrthwynebu ac roedd hynny'n cael ei ddeall.  Os oedd yna achos i aelodau dderbyn bai, yna fe ddylent wneud hynny.  Byddai ef yn bersonol yn croesawu'r archwilwyr yma yn y Cyngor yr wythnos nesaf ac roedd yn bwysig eu bod yn cyfweld cymaint o bobl ag sy'n bosibl oherwyd bod eu gwaith yn bwysig er budd a dyfodol llywodraeth leol yma ar Ynys Môn. Dywedodd bod cyfeiriad wedi ei wneud yn y drafodaeth i'r ffaith ei fod unwaith yn aelod o Gyngor Gwynedd ac roedd yn falch o hynny, os mai'r teimlad yn awr yw bod yna broblemau yma ar Ynys Môn nid oedd hynny'n hollol gywir; roedd problemau Ynys Môn yn mynd yn ôl flynyddoedd.  Roedd yn cofio pan fu iddo ddweud ei fod am sefyll etholiad ar Ynys Môn yn 1995 yr ymateb a gafodd oedd - beth ddaeth drosto fo; dyna roedd o'n glywed.  Felly doedd y problemau o fewn llywodraeth leol ddim yn ffenomenon newydd i Ynys Môn.  Roedd hefyd yn cofio'r diweddar Charles Williams, un o ddiddanwyr mwyaf profiadol Cymru yn dweud bod Ynys Môn, yn wahanol - roedd ei phobl yn bobl Ynys.  Ond, beth bynnag fo'r feirniadaeth o bobl Môn mae nhw, yn y diwedd yn tueddu i ddod at ei gilydd.  O safbwynt dyfodol llywodraeth leol ym Môn, fe gyfeiriwyd at y tebygrwydd y gallai Gwynedd gymryd yr awdurdod trosodd;  pan fu ef yn gwasanaethu ar Gyngor Gwynedd, roedd yn deyrngar i'r awdurdod hwnnw ac roedd ganddo barch mawr i'r aelodau yr oedd wedi gweithio gyda hwy gan ddysgu crefft y Cynghorydd oddi wrthynt - unigolion fel Tom Jones, Llanuwchlyn, Dafydd Orwig, John Lazarus Williams - dyma'r unigolion yr oedd yn eu parchu, pobl sydd nid yn unig yn haedu bod mewn llywodraeth leol ond hefyd mewn senedd, ac mewn cabinet o fewn senedd.  Fodd bynnag, wedi iddo ddod i Ynys Môn a dod i ddeall yr hyn yr oedd llywodraeth leol yn ei olygu roedd yn deall pa mor bwysig oedd cael awdurdod unedol yma ym Môn.  Pan fyddai'n arfer cyfeirio at y problemau yn ei ardal ef wrth swyddog yng Ngwynedd, byddai'r mater yn cael ei nodi ond ar Ynys Môn byddai'r swyddog yn gwybod am ble a beth yn union y byddai yn cyfeirio ato - roedd yr elfen leol yn bwysig iawn mewn llywodraeth leol.  Roedd yn gobeithio'n fawr, felly, y byddai'r archwilwyr yn cael at wraidd y problemau yma, ac os byddai'n rhaid enwi unigolion, wel bydded felly.  Roedd am annog yr aelodau wedyn i symud ymlaen mewn ysbryd cydweithrediad er mwyn sicrhau y bydd yna awdurdod unedol i bobl ac ieuenctid Ynys Môn.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd G. O. Jones am ei gyfraniad a gofynnodd i Mr. Alan Morris egluro beth oedd cyfnod amser y Llythyr Blynyddol a pha gyfnod yr oedd yn ymwneud ag ef h.y. o ba amser roedd y llythyr perthynas yn dechrau a pa bryd roedd yn gorffen.  Dywedodd Mr. Alan Morris nad oedd yr ateb mor hawdd i'w roi:  roedd y Llythyr Blynyddol yn cynnwys adroddiad yr Archwiliwr Penodedig ar awdit yr archwilwyr o gyfrifon yr awdurdod am y flwyddyn ariannol 2007/08; fodd bynnag, roedd hefyd yn delio gyda phob gwaith awdit / archwiliad oedd wedi ei wneud, i bob pwrpas, rhwng Rhagfyr 2007 a Tachwedd 2008.  Felly roedd pob ymdrech wedi ei wneud i'r adroddiad fod i fyny i'r funud.  Eglurodd Mr. Gareth Jones bod y Llythyr Archwilio wedi ei gyflwyno tua diwedd Tachwedd 2008 felly yr oedd yn ymwneud â gwaith wnaed yn ystod y flwyddyn galendr honno o safbwynt meysydd archwilio eraill.  Cadarnhaodd y Cadeirydd wedyn bod yr adroddiad yn ymwneud â'r cyfan o 2008 gan ddechrau fis Ionawr 2008.  Roedd y Cynghorydd G. W. Roberts am atgoffa'r aelodau bod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddyddiadau pan fu i'r problemau ddechrau.

 

      

 

     Gwneud sylw gwnaeth y Cynghorydd Thomas Jones ei fod yn cytuno gyda llawer o'r hyn yr oedd y Cynghorydd G. O. Jones wedi ei ddweud sef, waeth pa mor bwysig yw'r tîm fydd yn ymweld â'r awdurdod yr wythnos nesaf, i Mrs Williams sy'n byw yn rhif 3 Teras y Goron, Llanfechell, bydd yn llawer mwy pwysig iddi hi os bydd ei gofalwr yn galw yno am 6:30pm nag am unrhyw Archwiliwr Cyffredinol sy'n dod i Langefni.  Roedd angen i'r aelodau sylweddoli hynny, o dderbyn eu bod weithiau yn ystyried eu bod yn bwysig yma yn yr awdurdod.  Dywedodd bod y Llythyr Blynyddol wedi derbyn cyhoeddusrwydd mewn rhai mannau fel adroddiad damniol; os yw pobl eisiau gwybod beth yw adroddiad damniol fe ddylent edrych a darllen y rhai ddrafftiwyd 10 mlynedd yn ôl yn arbennig yr un o 1998.  Roedd yr adroddiad hwnnw yn addysg ynddo'i hun yn nhermau'r problemau oedd yn bodoli ar y pryd.  Nododd bod 3 o gwestiynau wedi eu gosod i'r archwilwyr.  Yn gyntaf, cyfeiriodd yr aelodau at rhif 3 yn ymwneud â rheoli risg a gofynnodd i'r archwilwyr a oeddent wedi edrych ar gofrestr risg yr awdurdod ac a oeddent yn gallu rhoddi cyfarwyddyd ynglyn â rôl y Pwyllgor Archwilio yn adolygu'r gofrestr risg honno o bryd i'w gilydd.

 

      

 

     Cadarnhaodd Mr. James Quance, PWC y byddai'r archwilwyr wedi edrych ar reoli risg ac ar y gofrestr risg fel rhan o unrhyw archwiliad.  Roedd yna arfer orau yn gyffredinol gyda rheoli risg y byddai gan y Pwyllgor Archwilio rôl yn adolygu cynnwys y gofrestr risg.  

 

      

 

     Yn ei ail gwestiwn, cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas Jones at baragraff 38 o'r Llythyr Blynyddol lle crybwyllir y diffyg yn y gronfa bensiwn - roedd diffyg net y gronfa pensiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn £41.7m, ac yn eu sylwadau roedd yr archwilwyr yn awgrymu mai'r nod yn y tymor hir fyddai bod mewn sefyllfa lle byddai cronfa lawn h.y. dim dyled ar y gronfa.  Gofynnodd i'r archwilwyr a allent rhoddi rhyw amcan o'r amser y dylai'r Cyngor anelu ato i gyrraedd y pwynt hwnnw a hefyd roedd am ofyn iddynt a allai'r awdurdod hwn, yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, barhau gyda chynllun pensiwn cyflog terfynol.

 

      

 

     Dywedod Mr. Gareth Jones, PWC wrth ateb nad oedd cynllun pensiwn Ynys Môn yn anarferol o'i gymharu gyda phob awdurdod arall yn Lloegr a Chymru.  Bydd gwerthusiad ariannol yn cael ei wneud a chyngor yn cael ei roi ar lefel y cyfraniadau wnaed i mewn i'r cynllun pensiwn; roedd y broblem ynglyn â chynaliadwyaeth y cynllun pensiwn cyflog terfynol yn un yr oedd pawb yn ei wynebu ar hyn o bryd.  Yn y sector preifat yn arbennig, roedd cynlluniau pensiwn cyflog terfynol yn dod yn rhai unigryw yn arbennig o safbwynt aelodau newydd yn dod i mewn i gynlluniau a hwn oedd un o'r sialensau mawr oedd yn wynebu pob awdurdod lleol yng Nghymru ac nid yr awdurdod lleol hwn yn unig.

 

      

 

     Yn ei drydydd cwestiwn gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones ynglyn â pharagraff 66 yn y Llythyr Blynyddol lle crybwyllir anghysonderau yng nghyswllt partneriaethau Cymunedau'n Gyntaf.  Gofynnodd a oedd yr archwilwyr yn fodlon bod strwythurau yn eu lle fel na fyddai ffaeleddau o'r fath yn digwydd eto.

 

      

 

     Dywedodd Mr. Gareth Jones, PWC i'r mater hwn ddod i'r amlwg ac i adroddiadau ddod gerbron mewn blynyddoedd cynt a bod yr archwilwyr wedi mynegi pryderon sylweddol ynglyn â pheth o'r dystiolaeth ddogfennol ddarparwyd i'r Cyngor gan rai o'r mudiadau partner.  Roedd swyddogion y Cyngor a PWC wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn i ail ymweld â hawliadau grant ac i geisio sicrhau bod tystiolaeth o'r hawliadau a gwybodaeth i'w cadarnhau.  Roedd yn deg dweud bod swyddogion wedi rhoi llawer o waith i mewn i'r sefyllfa a'u bod wedi mynd ymhell yn eu blaenau o safbwynt y sefyllfa a'r hawliadau oedd ar ôl o'i gymharu ar amser hwn y flwyddyn ddiwethaf.  Yr agwedd arall oedd bod y Swyddog Cydlynu Grantiau wedi'i benodi o fewn yr awdurdod oherwydd fod yr awdurdod, fel llawer o rai eraill, yn cynhyrchu nifer sylweddol o grantiau, ac roedd swmp y grantiau a'r gwaith papur yn uchel iawn, felly yr oeddent wedi gweld gwelliant mawr yn y maes hwn tros y flwyddyn ddiwethaf.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. V. Owen nad oedd wedi dod i'r Cyngor hwn er ei fwyn ei hun nac er mwyn unrhyw grwp nac unrhyw Arweinydd, ond yn hytrach ar gyfer y bobl oedd wedi ei anfon ef yma.  Roedd llawer o sylw wedi cael ei wneud ynglyn â llythyr yr oedd y Swyddog Monitro wedi ei ddosbarthu ynglyn â chyfarfod o'r Cyngor ar 5 Mawrth; yr oedd wedi edrych ar y llythyr ac nid oedd yn cyfeirio o gwbl at yr hyn yr oedd ef wedi ei gynnig ar y diwrnod, felly roedd yn tybio bod yr hyn yr oedd wedi ei gynnig yn gyfreithlon.  Felly roedd yn fwy na pharod i wneud y cynnig heddiw.  Fodd bynnag, roedd yn cytuno gyda phob dim oedd wedi ei ddweud yn y cyfarfod heddiw ac roedd yn credu bod y cyfan o fewn ei gynnig, sef derbyn y Llythyr Blynyddol a bod Pwyllgor Gwaith o dan yr arweiniaeth sydd yn ei lle yn awr yn cael cyfle i fynd drwyddo fel na fydd yr awdurdod byth eto yn derbyn llythyr fel hwn, a hynny er budd pobl Ynys Môn.  Roedd yn teimlo bod y datganiad a wnaeth yn ateb yr holl bryderon a fynegwyd - roedd yn iawn i enwi pobl a'u cywilyddio ond roedd yn rhaid iddo ddweud ei fod yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Everett am ddangos yr ohebiaeth berthnasol iddo.  Roedd ef yn bersonol wedi gwneud ymholiadau ynglyn â'r ohebiaeth ac roedd ef wedi cael atebion rhesymol i'r datganiadau oedd wedi cael ei gwneud.  Fodd bynnag, byddai wedi ei chael yn bur anodd heddiw i ddosbarthu'r gwobrau Oscar - dyma, yn ei farn ef, oedd Ynys Môn ar ei gorau.  Roedd am annog yr aelodau i beidio anghofio - ni allai fod yn feirniadol o bob un o'r aelodau na phob un swyddog er bod ganddo feirniadaeth ar gyfer rhai ac iddo'i gwneud yn hysbys.  Fodd bynnag, y syniad y mae'r awdurdod yn ei roi i bobl sy'n cyfri ac ni ddylai'r aelodau gysuro eu hunain nad oedd y syniadau hwn wedi cychwyn ond ers mis Mai y flwyddyn diwethaf.  Roedd hyn wedi bod yn mynd ymlaen am nifer o flynyddoedd.  Nid oedd wedi gofyn am i bob peth dan haul gael ei ddwyn allan i'r awyr iach oherwydd roedd yn credu y dylai'r awdurdod fod yn symud yn ei flaen.  Byddai, fodd bynnag, yn dyfynu aelod amlwg a pharchus o'r Cyngor - yr oedd yn amser symud ymlaen.  Rhybuddiodd yr aelodau i beidio anghofio bod pobeth oedd yn dod allan o du'r Llywodraeth yn dweud yn syml - dydych chi ddim digon mawr, dydych chi ddim digon cryf.  Nid oedd am glywed mwy o siarad am y posibilrwydd o golli Ynys Môn; byddai'n gwneud ei gynnig yn y gobaith a chyda'r gred y bydd yr awdurdod yn symud yn ei flaen i sicrhau y bydd yr Ynys yn arwain ym mhob maes.  Eiliwyd cynnig y Cynghorydd J. V. Owen gan y Cynghorydd W. I. Hughes.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd G. W. Roberts welliant i gynnig y Cynghorydd J. V. Owen.  Wrth egluro, dywedodd bod y drafodaeth ar y mater hwn wedi digwydd o fewn y Cyngor ac mai'r Cyngor, felly, fyddai'n derbyn neu ddim yn derbyn y Llythyr Blynyddol.  Roedd felly am gynnig diwygiad yn dweud bod y Cyngor fel corff yn derbyn y Llythyr Blynyddol a'r drafodaeth ar hynny fyddai'n rhoddi peth statws i'r bleidlais.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.18.5 o'r Cyfansoddiad, cytunwyd y dylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar y mater a safodd 10 aelod o'r Cyngor ar eu traed er mwyn i hynny ddigwydd.

 

      

 

     Roedd y bleidlais wedi ei chofnodi fel a ganlyn -

 

      

 

     O blaid cynnig y Cynghorydd J. V. Owen bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Pwyllgor Gwaith ddelio gyda'r Llythyr Blynyddol - y Cynghorwyr Barrie Durkin, Lewis Davies, E. G. Davies, Jim Evans, P. M. Fowlie, Kenneth Hughes, R. Lloyd Hughes, Trefor Lloyd Hughes, W. I. Hughes, A. M. Jones, Eric Jones, G. O. Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, Rhian Medi, Clive McGregor, Brian Owen, J. V. Owen, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, R. G. Parry, OBE, Eric Roberts, Ieuan Williams, J. P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Cyfanswm - 25

 

      

 

     Tros y diwygiad gynigiwyd gan y Cynghorydd G. W. Roberts bod y Cyngor yn derbyn y Llythyr Blynyddol fel yr oedd wedi ei gyflwyno - y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Keith Evans, Cliff Everett, D. R. Hughes, H. Eifion Jones, R. Dylan Jones, J. Arwel Roberts, G. W. Roberts, OBE, Hefin Thomas.

 

      

 

     Cyfanswm - 9

 

      

 

     Atal pleidlais - y Cynghorydd Mrs Fflur Hughes.

 

      

 

     Cafodd y cynnig gwreiddiol ei gario, felly a phenderfynwyd rhoddir awdurdod i'r Pwyllgor Gwaith i ddelio gyda'r Llythyr Blynyddol am 2007/08.

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd A. M. Jones

 

     Cadeiryd

 

      

 

      

 

     Terfynwyd y cyfarfod am 4:15 pm.