Cyngor Sir Ynys Môn dogfennau , 27 Mawrth 2009

Cyngor Sir Ynys Môn
Dydd Gwener, 27ain Mawrth, 2009

CYNGOR SIR YNYS MÔN

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J.Chorlton; E.G.Davies; Lewis Davies;

Barrie Durkin; Jim Evans; Keith Evans; C.Ll.Everett; P.M.Fowlie;

D.R.Hughes; Fflur M.Hughes; K.P.Hughes; R.Ll.Hughes;

W.I.Hughes; Eric Jones. G.O.Jones; H.Eifion Jones;

O.Glyn Jones; R.Dylan Jones; T.H.Jones; C.McGregor;

Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Robers; G.W.Roberts OBE

J.Arwel Roberts; E.Schofield; Hefin W.Thomas; Ieuan Williams;

J.Penri Williams; Selwyn Williams;

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid,

Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Pennaeth Gwasanaeth (Polisi),

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro,

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

T.Ll.Hughes; Peter S.Rogers;

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

 

 

Agorwyd y cyfarfod gyda Gweddi gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod na Swyddog.

 

2

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, YR ARWEINYDD, AELODAU’R PWYLLGOR GWAITH NEU’R PENNAETH GWASANAETH TÂL

 

Nid oedd unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau’r Pwyllgor Gwaith na Phennaeth y Gwasanaethau Taledig.

 

3

........CAIS AM GYFARFOD ARBENNIG O’R CYNGOR SIR

 

Yn unol â  Phara 4.1.3.1(iv) o Gyfansoddiad y Cyngor (Tudalen 94) roedd y Cadeirydd wedi galw Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor yn dilyn cais i’r pwrpas hwnnw wedi’i arwyddo gan 5 Aelod o’r Cyngor.

 

 

 

Roedd y cais yn darllen :-

 

 

 

Dan Baragraff 4.1.3.1.4 y Cyfansoddiad rydym yn gofyn i Gadeirydd y Cyngor alw Cyfarfod Arbennig i’r Cyngor i ddelio gyda’r eitemau a ganlyn:-

 

 

 

1.  Cymeradwyo’r Telerau Cytundeb;

 

2.  Gwneud unrhyw drefniadau dros dro a fo’n angenrheidiol.

 

 

 

     Arwyddwyd:-  Y Cynghorwyr Ieuan Williams, R.G.Parry; C.McGregor; R.Ll.Hughes; P.Fowlie;

 

     Dyddiedig :-   20 Mawrth 2009.

 

 

 

 

 

4   CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

 

 

Mabwysiadwyd y canlynol:-

 

 

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

 

 

5

TERMAU CYTUNDEB

 

 

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid annerch y cyfarfod.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol iddo adrodd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth 2009 ac i drafodaeth gael ei chynnal yn y cyfarfod hwnnw ynglyn â’r posibilrwydd o ddiweddu contract y Rheolwr-gyfarwyddwr yn gynnar, trwy gytundeb dwyochrog.

 

 

 

Roedd yr Awdurdod wedi apwyntio cynghorydd Cyflogwyr Llywodraeth Leol fel ei gynrychiolydd ac roedd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ei gynghorydd ei hun.  Yn dilyn trafodaethau rhwng y cynrychiolwyr, roedd cytundeb arfaethedig wedi’i ddrafftio.

 

 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid fanylion am brif dermau’r cytundeb yn cynnwys hawliau pensiwn, datganiad i’r wasg, geirda a chostau bychan eraill.  Rhoddodd hefyd fanylion am gost ariannu’r fath gytundeb.  Pwysleisiodd, fodd bynnag, nad oedd dyddiad wedi’u gytuno ac ar hyn o bryd nid oedd unrhyw gytundeb wedi’i arwyddo.  Pwysleisiodd hefyd ei bod yn holl bwysig bod y Pwyllgor Gwaith yn rhoi eu rhesymau dros eu penderfyniad i argymell mabwysiadu’r pecyn arfaethedig ac wrth gytuno, trwy gytundeb dwy ochrog, i derfynu contract gwaith y Rheolwr-gyfarwyddwr.

 

 

 

Rhoddwyd copi i’r aelodau o benderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Archwilio, gyda’r ddau ohonynt wedi’u cynnal ar 26 Mawrth 2009.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth ddiffuant rhwng yr Aelodau, cynigiodd y Deilydd Portffolio yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth 2009 ac y dylid eu mabwysiadu.  Nododd y Cadeirydd y byddai pob pleidlais trwy Bleidlais yn cael ei chofnodi ac y byddai angen pleidleisio’n unigol ar bob cynnig.

 

 

 

PENDERFYNODD y Cyngor Sir lynu wrth argymhellion y Pwyllgor Gwaith dyddiedig 26 Mawrth 2009 a phleidleisio ar y canlynol:-

 

 

 

Argymhelliad

 

 

 

(i)      mabwysiadu’r pecyn arfaethedig a bod y naill ochr a’r llall yn cytuno i ddwyn contract cyflogaeth y Rheolwr-gyfarwyddwr i ben fel yr amlinellir hynny yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

(ii)     y bydd y rhesymau am y penderfyniad hwn yn cael eu rhannu’n llawn gyda’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth 2009.

 

 

 

(iii)     dylid penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) yn Bennaeth y Gwasanaethau Tâl ar sail dros dro yn syth ar ôl dwyn y cytundeb i ben a thalu honorariwm iddo sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyflog gwirioneddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol a phwynt cyntaf graddfa cyflog y cyn Reolwr-gyfarwyddwr (hyd at Awst 2006) ar ei werth cyfredol.

 

 

 

(iv)     dylid cyfeirio’r broses o recriwtio olynydd i’r Pwyllgor Penodi i’w hystyried ymhellach a gwneud argymhellion i’r Cyngor.

 

 

 

(v)     dirprwyo i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor yr awdurdod i gytuno ar unrhyw fân-newidiadau y bydd angen eu gwneud i delerau’r cytundeb a chytuno i’r holl ddogfennau cysylltiedig y cyfeirir atynt yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Cafwyd cynnig gwelliant i’r argymhelliad gan y Cynghorydd Hefin Thomas ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd H.Eifion Jones, sef :-

 

 

 

(a)  Peidio â derbyn argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i wneud cytundeb gyda’r Rheolwr-gyfarwyddwr iddo adael yr Awdurdod hyd oni fydd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi cwblhau ei waith ac wedi cyflwyno adroddiad llawn ar ei ganfyddiadau i’r Cyngor Sir.    

 

 

 

(b) Ailystyried swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr ar ôl derbyn y casgliadau yn adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

 

 

O Blaid y Gwelliant:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett; Keith Evans; D.Rees Hughes; Fflur M.Hughes;

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM  -  9

 

    Yn Erbyn y Gwelliant:-

 

 

 

     Y CynghorwyrEurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; P.Fowlie; Ken Hughes;

 

     R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones; O.Glyn Jones; T.H.Jones;

 

     Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 25

 

 

 

Cafodd Argymhelliad (i) ei gynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams a’i Eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

     O Blaid y Cynnig:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; P.Fowlie; Ken Hughes;

 

     R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones; O.Glyn Jones; T.H.Jones;

 

     Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 25

 

 

 

     Atal Pleidlais:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett; Keith Evans; D.Rees Hughes; Fflur M.Hughes;

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM -  9

 

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r pecyn arfaethedig a bod y naill ochr a’r llall yn cytuno i ddwyn contract cyflogaeth y Rheolwr-gyfarwyddwr i ben fel yr amlinellir hynny yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

Cafodd Argymhelliad (ii), yn cynnwys y ffaith bod y rheswm am y penderfyniad ar sail Llythyr Blynyddol yr Archwiliwr Cyffredinol, ei gynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

     O Blaid y Cynnig:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; P.Fowlie; Ken Hughes;

 

     R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones; O.Glyn Jones; T.H.Jones;

 

     Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 25

 

 

 

     Atal Pleidlais:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett; Keith Evans; D.Rees Hughes; Fflur M.Hughes;

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM -  9

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD seilio’r penderfyniad ar Lythyr Blynyddol yr Archwiliwr Cyffredinol.

 

     

 

Cafodd Argymhelliad (iii) ei gynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

     O Blaid y Cynnig:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; K.Evans; P.Fowlie;

 

     Ken Hughes; Derlwyn R.Hughes; R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones;             O.Glyn Jones; T.H.Jones; Aled Morris Jones; C.McGregor;; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 26

 

 

 

     Atal Pleidlais:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett;  Fflur M.Hughes; Rhian Medi

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM -  8

 

 

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) yn Bennaeth y Gwasanaethau Tâl ar sail dros dro yn syth ar ôl dwyn y cytundeb i ben a thalu honorariwm iddo sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyflog gwirioneddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol a phwynt cyntaf graddfa cyflog y cyn Reolwr-gyfarwyddwr (hyd at Awst 2006) ar ei werth cyfredol.

 

 

 

Cafodd Argymhelliad (iv) ei gynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

     O Blaid y Cynnig:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; P.Fowlie; Ken Hughes;

 

     R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones; O.Glyn Jones; T.H.Jones;

 

     Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 25

 

 

 

     Atal Pleidlais:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett; Keith Evans; D.Rees Hughes; Fflur M.Hughes;

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM -  9

 

 

 

PENDERFYNWYD y dylid cyfeirio’r broses o recriwtio olynydd i’r Pwyllgor Penodi i’w hystyried ymhellach a gwneud argymhellion i’r Cyngor.

 

 

 

Cafodd Argymhelliad (v) ei gynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

     O Blaid y Cynnig:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies; Lewis Davies; Barrie Durkin; Jim Evans; P.Fowlie; Ken Hughes;

 

     R.Ll.Hughes; William I.Hughes; Eric Jones; Gwilym O.Jones; O.Glyn Jones; T.H.Jones;

 

     Aled Morris Jones; C.McGregor; Rhian Medi; Bryan Owen; J.V.Owen; R.L.Owen;

 

     R.G.Parry OBE; G.O.Parry MBE; Eric Roberts; Elwyn Schofield; Ieuan Williams; J.Penri Williams;

 

     Selwyn Williams.

 

                                                  CYFANSWM - 25

 

 

 

     Atal Pleidlais:-

 

 

 

     Y Cynghorwyr John Chorlton; C.L.Everett; Keith Evans; D.Rees Hughes; Fflur M.Hughes;

 

     H.Eifion Jones; R.Dylan Jones; Hefin W.Thomas; Gareth W.Roberts OBE;

 

                                                     CYFANSWM -  9

 

 

 

PENDERFYNWYD dirprwyo i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor yr awdurdod i gytuno ar unrhyw fân-newidiadau y bydd angen eu gwneud i delerau’r cytundeb a chytuno i’r holl ddogfennau cysylltiedig y cyfeirir atynt yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

   

 

 

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ALED MORRIS JONES

 

     CADEIRYDD