Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 2 Mai 2006

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 2ail Mai, 2006

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai, 2006

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorwyr John Byast; W.J.Chorlton, P.Dunning; C.L.Everett; J.A.Edwards; D.Hadley; J.Arthur.Jones; O.Glyn Jones; B.Owen; R.L.Owen; G.O.Parry MBE; J.Arwel Roberts; W.T.Roberts; H.N.Thomas; J. Williams.

 

 

WRTH LAW:

Swyddog Monitro

Cyfreithwyr i'r Swyddog Monitro

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau

 

 

 

 

Cadeiriwyd yr eitem Ethol Cadeirydd gan y Cynghorydd John Rowlands yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Cyngor Sir.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Swyddog nac Aelod.

 

2

CADEIRYDD

 

Derbyniwyd dau enwebiad am swydd Cadeirydd, sef y Cynghorwyr J. Arthur Jones a O. Glyn Jones. Yn unol â phara 4.1.18.5 o Gyfansoddiad y Cyngor fe gofnodwyd y bleidlais. Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

Dros y Cynghorydd John Arthur Jones: Y Cynghorwyr John Byast, W. J. Chorlton;

C. L. Everett; D. Hadley; J. Arthur Jones; J. Arwel Roberts; W. T. Roberts; J. Williams; (8)

 

Dros y Cynghorydd O. Glyn Jones: Y Cynghorwyr P. Dunning; J.Arwel Edwards;                       A. Morris Jones; O. Glyn Jones; B. Owen; G. O. Parry MBE; H. N. Thomas; (7)

 

PENDERFYNWYD ailethol y Cynghorydd John Arthur Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

3

IS-GADEIRYDD

 

PENDERFYNWYD Ailethol y Cynghorydd Dennis Hadley yn Is-Gadeirydd i'r Pwyllgor hwn.

 

 

 

CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES

Y CADEIRYDD