Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 10 Hydref 2006

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 10fed Hydref, 2006

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   10 Hydref 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd John Arthur Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards; O. Glyn Jones; Bryan Owen;

R. L. Owen; G. O. Parry MBE; J. Arwel Roberts; W. T. Roberts;

John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (DR)

Uwch Swyddog Safonau Masnach (DO)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J. Byast, W. J. Chorlton, Peter Dunning, C. L. Everett, N. H. Thomas.

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 9 Mai 2006 fel rhai cywir. (Cyfrol y Cyngor 19.09.2006, tud 74 - 75)

 

3

DEDDF GAMBO 2005

 

Adroddodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach ar Ddeddf Gamblo 2005 sy'n disodli'r gyfraith bresennol sydd bellach dros 30 oed ac sy'n cael ei hystyried yn annigonol i reoli'n briodol faterion modern megis gamblo ar-lein neu'r newidiadau ym marn y gymdeithas am gamblo.  Nodau'r prif newidiadau i'r ddeddfwriaeth yw canolbwyntio ar ostwng yr elfen droseddol sy'n gysylltiedig â gamblo, bod yn deg ac yn agored a gwarchod pobl ifanc a phobl fregus.  Roedd copi o fersiwn ddrafft o'r Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Deddf Gamblo 2005 ynghlwm wrth yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog bod y drafft yn destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd ac y bydd y drafft terfynol o'r polisi yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr i'w fabwysiadu.

 

Dywedodd y Swyddog bod yr holl faterion mewn perthynas â'r Ddeddf yn cael eu dirprwyo i'r Pwyllgor Trwyddedu yn bennaf ac eithrio :

 

Ÿ

Y polisi trwyddedu tair blynedd

Ÿ

Y polisi i beidio â chaniatáu casinos

Ÿ

Pennu ffioedd

 

 

Gall Pwyllgorau Trwyddedu wedyn ddirprwyo ymhellach i Is-Bwyllgor Trwyddedu a Swyddogion ac awgrymir cynllun dirprwyo tebyg i'r un a ddefnyddiwyd mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003.  Os derbynnir sylwadau ar gais byddai angen cynnal gwrandawiadau yn debyg i'r rheini a gynhaliwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

 

 

Bydd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am drwyddedu adeiladau gamblo, caniatáu categori is o beiriannau gamblo a chofrestru lotriau cymdeithasau sydd â gwobrau islaw lefel benodol.  Dygodd y Swyddog sylw at dri math o amod y gellir eu cynnwys ar drwydded adeilad sef :

 

 

 

Ÿ

Amodau mandadol

 

Ÿ

Amodau 'default'

 

Ÿ

Amodau'r awdurdod trwyddedu

 

Hyd yma, ni dderbyniwyd unrhyw gyllid o gwbl gan y Llywodraeth ar gyfer gweithredu Deddf Trwyddedu 2005.  Mae hyn yn destun pryder mawr ac roedd y Swyddog yn ofni y gallai hyn gael ei adael tan y funud olaf.  Yn yr un modd, ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau mewn perthynas â phennu ffioedd.  Mae'r Llywodraeth yn ystyried y gellir cwrdd â'r costau parhaus drwy'r ceisiadau cychwynnol a'r ffioedd blynyddol (ar gyfer trwyddedau adeilad) a ffioedd ar gyfer trwyddedau a chaniatadau eraill.  Bydd ffioedd ar gyfer trwyddedau adeilad yn cael eu pennu trwy gyfres o fandiau gydag uchafswm penodedig ym mhob band.  Bydd Awdurdodau Trwyddedu wedyn yn gallu pennu eu ffioedd penodol o fewn y bandiau hyn, wedi eu cyfyngu i adennill costau.  Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn pennu'r ffioedd ar gyfer trwyddedau a gwasanaethau eraill.

 

 

 

Dengys profiad a gafwyd o weinyddu Ddeddf Trwyddedu 2003 bod trosglwyddo i system drwyddedu newydd yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau yn arbennig felly o safbwynt cynghori busnesau ynghyd â'r broses weinyddol o dderbyn a chynhyrchu trwyddedau newydd.  Cyflwynir adroddiad pellach i'r Pwyllgor gyda hyn i ddelio gyda materion adnoddau parhaol a dros dro y mae'r awdurdod yn eu hwynebu ynghyd â materion yn ymwneud â'r gyllideb pan fydd lefelau'r ffioedd yn hysbys.  

 

 

 

Roedd yr amserlen a luniwyd yn pennu dyddiad targed ar gyfer gweithrediad llawn o fis Medi 2007 wedi derbyn ceisiadau am drwyddedau o Ionawr 2007 ar ôl i'r Cyngor Sir gwblhau'r broses ymgynghori a mabwysiadu'r polisi yn Rhagfyr 2006.

 

 

 

Nid oedd y Swyddog yn gallu ateb cwestiynau penodol mewn perthynas â Bingo Gwobr, Galwyr Bingo Gwirfoddol, Ffioedd Loteri ac ati oherwydd na dderbyniwyd y canllawiau a'r manylion.  Dywedodd y bydd y wybodaeth hon ar gael i'r aelodau unwaith y derbynnir y canllawiau a'r manylion.  Yn ogystal, mynegodd yr aelodau bryder ynghylch costau gweithredu a rhedeg y gwasanaeth a chynigiwyd y dylid monitro'r agwedd hon yn ofalus.

 

 

 

Diolchodd yr aelodau i'r Swyddog a'i Adran am y gwaith sydd yn cael ei wneud gan nodi eu bod yn hyderus y byddai Deddf Gamblo 2005 yn cael ei weithredu'n llyfn.

 

 

 

PENDERFYNWYD :

 

 

 

Ÿ

Nodi cynnwys yr adroddiad hwn gan gynnwys yr amserlen gyfredol ar gyfer gweithrediad Deddf Gamblo 2005;

 

Ÿ

Gwahodd aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau ar Ddeddf Gamblo 2005 i'r swyddog.

 

 

 

4

CANLYNIADAU AROLWG BODDHAD A GYNHALIWYD YMYSG DEFNYDDWYR Y GWASANAETH TRWYDDEDU

 

 

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach adroddiad yn amlinellu canlyniadau arolwg boddhad cwsmeriaid a gynhaliwyd gan yr Adran i fesur lefel boddhad busnesau a oedd wedi defnyddio'r Gwasanaeth Trwyddedu yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

 

 

Ymatebodd 30% i'r holiaduron ac roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny yn dangos bod 90% o'r busnesau yn fodlon gyda'r gwasanaeth tra bod 100% ohonynt yn cytuno bod y swyddog wedi bod yn gwrtais.  Roedd y lefelau boddhad isaf ynghylch gwybodaeth busnesau o'r drefn gwyno gorfforaethol a chydnabu'r swyddog bod angen addysgu pobl ymhellach a ryddhau mwy o wybodaeth ar yr agwedd hon.

 

 

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu'r ymateb cadarnhaol i'r holiadur a diolchodd i'r swyddog am waith caled ei Adran ar adeg o bwysau o ran gweithredu'r deddfwriaeth newydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnwys.

 

 

 

5

Y DIWEDDARAF AR FATERION TRWYDDEDU

 

 

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach adroddiad byr yn rhoi amcangyfrif o'r costau i'r Awdurdod o ran gweinyddu'r Swyddogaethau Trwyddedu newydd.  Pwysleisiodd mai amcangyfrifon yn unig oedd y ffigyrau ac nad oeddynt wedi eu cadarnhau gan Adran Gyllid y Cyngor.

 

 

 

Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cyngor Sir ystyried ffyrdd o gwrdd â chostau ychwanegol, efallai trwy godi'r ffioedd os bydd raid.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r ffigyrau tybiedig ac annog Adran Gyllid y Cyngor i un ai gymeradwyo neu newid y ffigyrau cyn gynted ag y bo modd.

 

 

 

6

HYFFORDDIANT

 

 

 

Nodi y cynhelir sesiwn hyfforddi ar gyfer aelodau'r Pwyllgor hwn ar y cyfrifoldebau dan Ddeddf Gamblo 2005 ar 9 Tachwedd 2006 yn Swyddfeydd Cyngor Sir Gwynedd, Penrallt, Caernarfon.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD