|
|
|
Yn ôl Data Trwyddedu cyfredol, dyma
nifer y trwyddedau a ryddhawyd :-
|
|
|
|
* Trwyddedau Personol - 512
|
|
* Trwyddedau Eiddo :-
|
|
|
|
*
Gydag alcohol - 308
|
|
* Heb
alcohol - 112
|
|
|
|
* Tystysgrifau Eiddo Clwb:-
|
|
* Gydag alcohol - 19
|
|
* Heb alcohol - 0
|
|
|
|
* Rhybuddion Digwyddiadau Dros Dro:-
|
|
*
Derbyniwyd 56 yn 2006
|
|
*
Derbyniwyd 78 yn 2007
|
|
*
Derbyniwyd 21 hyd yma yn
2008
|
|
|
|
Yn unol â’r rheidrwydd cyfreithiol
i ymgynghori ynghylch a pharatoi Polisi Trwyddedu yn amlinellu sut
y byddai’r Cyngor yn gweinyddu’r broses yn ei ardal,
cytunodd y Cyngor ar ei Bolisi Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2004 ac
fe’i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2005. Ymhellach, roedd
hi’n ofynnol dan y gyfraith i bob Awdurdod adolygu ei Bolisi
Trwyddedu bob tair blynedd ac o’r herwydd, adolygwyd y Polisi
llynedd ac aethpwyd allan i ymgynghori eto cyn i’r Cyngor ei
gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2007 a’i gyhoeddi ym mis Ionawr
2008.
|
|
|
|
Y swyddogion sy’n gwneud llawer
o’r penderfyniadau gweinyddol mewn perthynas â’r
broses drwyddedu ond mewn achosion lle derbynnir sylwadau dilys,
rhaid i’r Aelodau wrando ar yr achos mewn proses
lled-farnwrol. Mae ar y Panel Gwrandawiadau 3 aelod o’r
Pwyllgor Trwyddedu sy’n gwrando ar y ddwy ochr o’r
ddadl ac yna’n gwneud penderfyniad. Hyd yma, cafwyd 38 o
Wrandawiadau a 4 Adolygiad.
|
|
|
|
Cafodd yr adolygiad cyntaf o effaith Deddf
Trwyddedu 2003 yn y Deyrnas Gyfunol ei gwblhau ym Mawrth 2008 gan
Adran y Llywodraeth dros Ddiwylliant, y Cyfyryngau a Chwaraeon.
Yn gryno, dyma oedd y casgliadau :-
|
|
|
|
Ÿ
|
mae nifer gyffredinol y digwyddiadau o drosedd ac anhrefn
wedi aros yn sefydlog, ni welwyd cynnydd
|
|
|
Ÿ
|
nid oes tystiolaeth bod mwy o alcohol yn cael ei
yfed
|
|
|
Ÿ
|
ystyrir bod trosglwyddo’r broses trwyddedu alcohol i
awdurdodau lleol wedi bod yn llwyddiannus
|
|
|
Ÿ
|
mae’r system trwyddedu alcohol yn fwy atebol o
safbwynt democratiadd a gall trigolion ddylanwadu’n well ar
benderfyniadau trwyddedu
|
|
|
Ÿ
|
mae yna berthynas weithio well o lawer rhwng awdurdodau
lleol, yr Heddlu ac awdurdodau cyfrifol eraill a’r sawl
sy’n dal trwydded
|
|
|
Ÿ
|
hyd yma, ni welwyd newid amlwg yn y mathau o lefydd sydd
ar agor gyda’r nos ac yn hwyr y nos
|
|
|
|
|
|
Daeth y Swyddog â’i adroddiad i ben drwy
ddweud nad oedd yr Heddlu’n credu y bu cynnydd sylweddol yn
nifer y digwyddiadau ond dygwyd sylw at y ffaith bod helyntion yn
tueddu i ddigwydd yn ddiweddarach yn y dydd. Yn ychwanegol at hyn,
roedd yr Heddlu’n croesawu’r broses a fabwysiadwyd gan
y Cyngor Sir ar gyfer adolygu a diwygio’r Trwyddedau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cytunodd y Swyddog y dylid
diwygio pwynt 8.2 i ddarllen “... y Cynllun Datblygu
Unedol a
stopiwyd.”
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD diolch i’r Swyddog am ei adroddiad
cynhwysfawr a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
|
4 DEDDF HAPCHWARAE 2005
|
|
|
|
Cyflwynodd y Prif Swyddog Safonau Masnach ei
adroddiad a roes i’r Aelodau y diweddaraf ar y sefyllfa
gyfredol mewn perthynas â Deddf Hapchwarae 2005 a ddaeth i
rym ym mis Medi 2005 pryd daeth y Cyngor yn gyfrifol am
weinyddu’r gwaith o ryddhau Trwyddedau Eiddo dan y Ddeddf.
Roedd y broses hon yn cyd-redeg â gwaith y Comisiwn
Hapchwarae a oedd newydd gael ei sefydlu ac a oedd gyfrifol am
ryddhau trwyddedau i Weithredwyr ac Unigolion.
|
|
Cyfeiriodd at y tair egwyddor trwyddedu
:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Atal hapchwarae rhag achosi trosedd ac anhrefn, rhag bod
yn gysylltiedig gyda throsedd neu anhrefn neu rhag cael ei
ddefnyddio i gefnogi trosedd
|
|
|
Ÿ
|
Sicrhau bod hapchwarae’n cael ei gynnal mewn modd
teg ac agored
|
|
|
Ÿ
|
Amddiffyn plant a phersonau bregus eraill rhag cael eu
niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae
|
|
|
|
|
|
Dengys y data Trwyddedu cyfredol:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Adeiladau Hapchwarae (ac eithrio traciau) - 6
|
|
|
Ÿ
|
Canolfan Gemau i Oedolion - 1
|
|
|
Ÿ
|
Canolfannau Adloniant i’r Teulu heb Drwydded -
1
|
|
|
Ÿ
|
Trwydded Adeilad Bingo - 0;
|
|
|
Ÿ
|
Trwyddedau Peiriannau Gemau - 33;
|
|
|
Ÿ
|
Trwyddedau Lotrïau Bychan -
111;
|
|
|
|
|
|
Yn yr un modd â Deddf Trwyddedu 2003, bu’n
rhaid i’r Awdurdod baratoi Polisi Hapchwarae a daeth hwnnw i
rym ym mis Ionawr 2007. Hyd yma, ni chynhaliwyd yr un
gwrandawiad ar yr Ynys dan Ddeddf Hapchwarae 2005 ond nid
yw’n amhosib y bydd angen gwrandawiad neu adolygiad rhyw dro
ac eto, cytunwyd ar broses ar gyfer gwrandawiadau/adolygiadau
o’r fath. Rhoddwyd i’r Aelodau gopi o’r
Polisi Hapchwarae ynghyd â chopi o’r Polisi Adolygu
Trefniadau ar gyfer Gwrandawiadau.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddog am ei
adroddiad a nodwyd ei gynnwys.
|
|
|
|
|
5 MATERION HYFFORDDI
|
|
|
|
|
Dywedodd y Prif Swyddog Safonau Masnach ei fod yn
ymwybodol o’r newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu ers
yr Etholiadau Lleol a gynhaliwyd ym mis Mai a bod 11 o’r 15
Aelod yn Aelodau newydd ac y byddai angen hyfforddiant arnynt mewn
perthynas â Pholisïau Trrwyddedu a Threfniadau
Gwrandawiad. Dywedodd bod trafodaethau wrthi’n cael eu
cynnal gyda Chyngor Gwynedd gyda’r bwriad o gynnal
hyfforddiant ar y cyd am ddiwrnod cyfan gyda’r Aelodau sydd
newydd eu penodi ar Gyngor Gwynedd. Cadarnhaodd y
byddai’n rhoi gwybod i’r Aelodau am y dyddiad ac am
fanylion yr hyffoddiant cyn gynted â phosib.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|