Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Chwefror 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Chwefror, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd 1 Chwefror, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones,

O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio

Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff)(JIW)

Arweinydd Tîm (NJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol(RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd D Lewis Roberts

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau lleol:  Y Cynghorwyr Peter Dunning - eitem 9.6,

RLl Hughes - eitem 5.7, 8.7, WI Hughes - eitem 8.2, Gwilym O Jones - eitem 5.2, 8.1, RLl Jones - eitem 9.1,  RG Parry OBE - eitem 5.1, 5.8, 8.3, G Allan Roberts eitem 5.4, Noel Thomas - eitem 9.2, Hefin Thomas - eitem 9.4, 9.5, Keith Thomas - eitem 5.3, John Williams - eitem 8.4, WJ Williams MBE - eitem 5.5

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y caswant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2006 (Cyfrol y Cyngor 02.03.2006, tudalennau 53 - 62)

 

3

YMWELIADAU A SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 18 Ionawr, 2006.

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

17LPA494G/CC/ECON DATBLYGU DARPARIAETH COMPOSTIO MEWN CYNHWYSYDD YNGHYD A MYNEDFA A THANADEILEDD A THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG YN SAFLE TIRLENWI PENHESGYN, PENMYNYDD, GER PORTHAETHWY

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Eurfryn Davies and J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Ar argymhelliad y swyddog PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yma.

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C174A  ESTYNIAD I’R CWRTIL YN ABERARCH BACH, LLANEILIAN

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn. Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Cafwyd Ymweliad â’r Safle ar 18 Ionawr, 2006.

 

 

 

Ar argymhelliad y swyddog CYTUNWYD i ohirio ystyried y cais hwn er mwyn caniatau amser i gwblhau’r gwaith ymgynghori.

 

 

 

4.3

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

34C326C/ECON  CODI CANOLFAN ADNODDAU AR HEN SAFLE CROSS KEYS, LLANGEFNI

 

 

 

I asesu addasrwydd y bwriad hwn, ar argymhelliad y swyddog, CYTUNWYD i ymweld â’r safle yma.

 

 

 

5

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

16C49B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CAE’R DDÔL, LLANBEULAN

 

 

 

Gwnaeth Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechneol) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais yma. 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Cafwyd Ymweliad â’r Safle ar 18 Ionawr, 2006.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd RG Parry bod tai eraill yr ymgeisydd yn cael eu gosod am gyfnodau hir, ac o’r herwydd ddim ar gael.  Gerllaw roedd ty ar werth a’r pris gofyn yn £250,000.  Busnes contractio oedd gan y mab yn y maes amaethyddol, a hefyd i’r Cyngor Sir ac yn cyflogi chwe aelod o staff parhaol a hefyd yn darparu gwaith rhan amser.

 

 

 

Ond mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio nad oedd y rhesymau uchod yn cyfiawnhau caniatáu’r cais, ac roedd swyddogion wedi cynnig trafod posibiliadau eraill gyda’r ymgeisydd; yr argymhelliad o hyd oedd argymhelliad o wrthod.

 

 

 

Oherwydd natur y busnes ni chredai’r Cynghorydd Glyn Jones fod addasu adeiladau allanol yn dderbyniol yn yr achos hwn.  Ar yr ymweliad gwelwyd yn glir iawn fod yr adeiladau yn cael eu defnyddio fel rhan o’r busnes, a’r fynedfa atynt ar draws iard fwdlyd a phrysur.  Roedd y plot dan sylw yma union ger ty arall heb fod mewn man anghysbell.  Hefyd nodwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106.  Am y rhesymau hyn cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones y dylid caniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a oedd hefyd yn tybio, ar ôl yr ymweliad â’r safle, nad oedd yr adeiladau allanol yn weigion a segur.  Cytuno gyda’r geiriau hyn a wnaeth y Cynghorydd RL Owen.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd John Roberts bod hwn yn gais am dy yn ychwanegol at dri thy arall ym meddiant yr ymgeisydd.

 

 

 

Ni chredai’r Cynghorydd J Arthur Jones bod y cais yn cydymffurfio gydag unrhyw bolisiau cynllunio, ac o’r herwydd y buasai’n annheg i ymgeiswyr eraill pe rhoddid caniatâd yn yr achos hwn, ac am y rhesymau hyn cafwyd argymhelliad gan y Cynghorydd i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatau’r cais hwn sy’n groes i bolisiau a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,W Tecwyn Roberts (6)

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roddwyd: Y Cynghorwyr John Byast, Arwel Edwards, Denis Hadley,  J Arthur Jones, J Arwel Roberts (5)

 

 

 

Ymatal: Y Cynghorwyr WJ Chorlton, John Roberts

 

 

 

O 6 phleidlais i 5 roedd yr aelodau yn dymuno caniatau’r cais hwn a oedd yn groes i bolisiau, gan nad oedd yr aelodau’n teimlo bod yr adeiladau allanol yn addas i’’w haddasu yn anheddau.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau’r cais yma.  

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C166/ECON  CAIS I GODI GWAITH NWY-BIO, CREU MYNEDIAD NEWYDD AR GYFER CERBYDAU YNGHYD A THIRLUNIO AR RANNAU O GAEAU 7689, 7174, 6760 GER CAE’R GLAW, GWALCHMAI

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd PM Fowlie ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno.  Gwnaeth y Cynghorydd RG Parry OBE hefyd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais yma.

 

 

 

Cafwyd ymweliad â’r safle, ar gais y swyddog ar 14 Rhagfyr, 2005.

 

 

 

Oherwydd y diddordeb cyhoeddus mawr yn y cais a’r prinder lle yn y Siambr i’r cyhoedd PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad a chwilio am le addas arall i gynnal y drafodaeth.

 

 

 

5.3

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

19C6S/ECON  CAIS I GODI ADEILIAD A1 NA FYDD DDIM YN GWERTHU BWYD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AC I GERBYDAU YN KWIK SAVE, PENRHOS, HOLYHEAD

 

 

 

Cafwyd ymwelaid â’r safle, ar gais y swyddog, ar 18 Ionawr, 2006.  

 

 

 

Ar ôl trafodaethau a chydweithrediad rhwng yr ymgeiswyr, y cymdogion a’r swyddogion roedd y Cynghorydd Keith Thomas yn medru adrodd, gyda phleser, bod y cyfan o’r pryderon wedi cael sylw a’u datrys, ac roedd yn argymell derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu yn amodol ar newid amod (08) i gynnwys Sadyrnau (oriau gyda gwaharddiad ar ddanfon nwyddau).

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad i ganiatau’r cais hwn gyda’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog gan gynnwys y gwelliant uchod.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608F  CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDEDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Cafwyd Ymweliad â’r Safle ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Tachwedd penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori Ardrawiad Effaith Trafnidiaeth.  Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2005 dymuniad y Pwyllgor oedd gohirio unwaith yn rhagor hyd nes ymgynghori ar Asesiad Effaith Ieithyddol.  Gofynnodd y swyddog i gyfarfod mis Ionawr, am ohirio y cais unwaith yn rhagor hyd nes cwblhau’r gwaith ymgynghori.

 

 

 

Ar gais y Cynghorydd Eurfryn Davies cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i rannu copiau o Nodyn Cyngor Technegol LLywodraeth Cynulliad Cymru (TAN) 20 ymhlith aelodau.  Yn ôl dymuniad yr ymgeisydd gofynnodd y Swyddog am ohirio gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

CYTUNWYD i ohirio y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

5.5

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

23C160D/EIA  EHANGU’R CHWAREL GALCHFAEN BRESENNOL YN CHWAREL RHUDDLAN BACH, BRYN-TEG

 

 

 

Ar 1 Rhagfyr, 2004, ar gais y swyddog, fe dynnwyd y cais hwn oddi ar y rhaglen hyd nes cynnal asesiadau statudol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 15 Medi, 2004.

 

 

 

Cafwyd disgrifiad gan yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) o natur y bwriad fel y manylwyd arno yn ei adroddiad.  Nododd bod gwrthwynebiad cyhoeddus mawr wedi ei fynegi mewn ymateb i ymgynghori trylwyr.  Roedd y safle yn agos iawn i’r Gors Goch, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, i Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn rhan o safleoedd y “Ramsar” Corsydd Ynys Môn.  Rhoddwyd sylw sylweddol iawn i faterion ecolegol y cynnig a’i effaith ar y dwr tanddaearol.  Daeth y swyddog i’r casgliad fod sawl mater cymhleth a sensitif wedi cael sylw llawn wrth bennu argymhelliad o ganiatáu i’r cais, a hynny am y rhesymau a chyda’r amodau y cytunwyd arnynt gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd fel bod sylw digonol yn cael ei roddi i ddrafftio mesurau lliniaru addas a dulliau monitro;  buasai amodau eraill yn sicrhau cydymffurfiad gyda rheolau y rheoliadau yng nghyswllt llwch, swn, chwythu a lefelau cryndod ac yng nghyswllt adfer y safle a darparu priffyrdd.

 

 

 

Er bod 8 o’r aelodau yn y cyfarfod wedi ymweld â’r safle teimlai’r Cynghorydd WJ Williams y dylent ailymweld.  Dywedodd y Cynghorydd Williams y câi’r cais hwn effaith andwyol ar Safle o Dddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac nid oedd yn siwr pwy fuasai’n gyfrifol am fonitro a sicrhau fod yr amodau yn cael eu parchu a’u cadw.  Roedd yma lu o wrthwynebwyr gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, RSPB, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cymuned Llanddyfnan a chafwyd dros 100 o lythyrau .  Roedd y Cynghorydd Williams yn pryderu am gyflwr y ffordd ac effaith unrhyw gynnydd yn y traffig ac awgrymodd y dylid darparu llwybr cerdded a hefyd bod angen edrych ar effaith y cynnig hwn ar dwristiaeth.  Roedd y safle yn y golwg o ffordd Talwrn ac o Lanbedr-goch.

 

 

 

Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio y buasai’n briodol cyflwyno adroddiad i’r pwyllgor ar fanylion yr amodau a osodid, ond ni fedrai gytuno fod unrhyw fudd i’w gael o ail-  ymweld â’r safle.   Wedyn cafwyd manylion gan yr Arweinydd Tîm (Mwynau a Gwastraff) am yr Asesiad Ardrawiad Traffig ac am yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol a baratowyd.  Roedd y garreg galch garbonifferaidd ddu yn unigryw i’r rhan fechan hon o’r Ynys a defnydd helaeth yn cael ei wneud ohoni i bwrpas adeiladu a chodi waliau.  Petai’r graig yn cael ei chwythu buasai hynny’n creu gwastraff sylweddol ac yn anymarferol, ac o’r herwydd câi’r garreg ei chloddio trwy ddulliau mecanyddol.  Yn yr adroddiad ceir manylion am y gwaith ymgynghori a wnaed a’r asesiadau swn a chryndod.  Roedd asesiad priodol wedi ei wneud, yn unol ag anghenion y rheoliadau cynefinoedd, ac ar y cyd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru a’r casgliadau ynddo oedd fod y bwriad, fel y cafodd ei gyflwyno, yn annhebygol o gael effaith andwyol ar ddyfodol Ardal Gadwraeth Arbennig y Gors Goch.  Cafwyd Argymhelliad gan y swyddog i ganiatáu’r cais.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd RL Owen dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y canllawiau technegol perthnasol yn argymell pellter o leiaf 200m o ran darparu llain diogelwch rhwng ffiniau’r chwarel a’r ty agosaf.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.  

 

 

 

Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Eurfryn Davies bod yr aelodau yn ymweld eto â’r safle yn ôl argymhelliad yr aelod lleol a chan fod cymaint o wahaniaeth barn, eiliodd y Cynghorydd Hadley y bwriad i ymweld.  

 

 

 

Mewn ymateb cafwyd cwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts ac mewn ymateb dywedodd y swyddog bod yr estyniad yn mesur rhyw bedair hectar a hynny’n 1/3 yn fras o’r arwynebedd tir a ddangoswyd ar y map a’i ddefnyddio dros gyfnod o 25 mlynedd.  

 

 

 

     Er bod y Cynghorydd Arthur Jones yn cydymdeimlo gyda’r gwrthwynebwyr lleol nid oedd, ar ôl pwyso a mesur, yn teimlo bod digon o dystiolaeth i wrthod y cais a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu a hefydd roedd y Cynghorydd Fowlie yn gefnogol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i wrthod y cais hwn.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ymweld a’r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, John Roberts (3)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn ailymweld a’r safle:  Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts (10)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatau’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, Denis Hadley PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts (8)

 

      

 

     O 8 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yngynghori gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar yr amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

5.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C303J/1  CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR PLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Rees Roberts o’r Uned Gyfieithu hefyd.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Cafwyd Ymweliad â’r Safle ar 18 Mai, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio fod yr Adran Briffyrdd yn argymell amodau, nad oedd sylwadau i’w cyflwyno gan Dwr Cymru nac Asiantaeth yr Amgylchedd a chadarnhaodd fod llythyrau o wrthwynebiad wedi’u derbyn.  Câi tyllau archwilio eu hagor cyn dechrau adeiladu ar y safle i ganfod yn hollol lle mae’r beipen danddaearol;  petai’r canlyniadau’n anfoddhaol yna câi’r cais ei gyflwyno eto i’r pwyllgor ei ystyried a chyda’r amod hwn roedd y swyddog yn argymell caniatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones bod twll agored 2½’ ym mhen y beipen a hefyd y collid lle parcio pwysig petai caniatâd yn cael ei roddi; hefyd câi cerbydau gwasnaethau argyfwng anawsterau troi a symud, a châi’r cynnig effaith andwyol ar bleserau byngalo y tu cefn i’r safle.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y broblem o edrych drosodd wedi’i datrys ar ôl cyflwyno dyluniad newydd a hefyd bod yr Adran Briffyrdd yn fodlon gyda’r cynnig, ond gydag amod i greu digon o lecynnau parcio.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones ynghylch mesuriadau y llecyn parcio dywedodd yr Uwch Beirianydd Priffyrdd y darperid digon o le i ddau gar yn ffrynt ty rhif 80A a lle i barcio dau gar arall yn ffrynt ty 80B.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd gynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatau’r cais, fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd RL Owen gydag amodau i sicrhau digon o lecynnau parcio.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatau’r cais: Y Cynghorwyr John Byast,  WJ Chorlton, Denis Hadley, Arwel Edwards, PM Fowlie, RL Owen, John Roberts (7)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arthur Jones (2)

 

      

 

     O 7 bleidlais i 2 PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatau’r cais gydag amodau, yn amodol hefyd ar drafodaethau boddhaol a datrys materion traenio.

 

      

 

      

 

5.7     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     36C255  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIC NEWYDD AR DIR GER TY NEWYDD, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau’n dymuno caniatau’r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

buasai’n darparu cartref i berson ifanc lleol

 

Ÿ

buasai’n gweddu gyda’r math o ddatblygiadau yn y cyffiniau

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais yn otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau.

 

 

 

     Dosbarthwyd y map cywir yn y cyfarfod.

 

      

 

     Ailadroddodd y Cynghorydd RLl Hughes yr hyn a ddywedodd yn y cyfarfod cynt, sef y buasai caniatáu’r cais hwn yn cynnal y gymuned leol ac yn gymorth iddi a chan mai ¼ acer yn unig oedd mesur y darn hwn o dir nid oedd yn ymarferol ei ffarmio.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyngorydd Arthur Jones nad oedd y safle mewn pentref nac yn agos i bentref nac i glwstwr o dai a theimlai ef y buasai’n annheg i ymgeiswyr eraill pe rhoddid caniatâd a chynigiodd bod y pwyllgor yn dileu ei benderfyniad blaenorol ac yn gwrthod y cais hwn am resymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cyngorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies lynu wrth y pernderfyniad gwreiddiol ac i ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau canlynol i lynu wrth eu penderfyniad blaenorol o ganiatáu’r cais hwn sy’n groes i bolisiau am y rhesymau a roddwyd eisoes: Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen (6)

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod y cais:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Denis Hadley, Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts (6)

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn gyfartal 6 bob ochr ond gyda pleidlais fwrw’r Cadeirydd PENDERFYNWYD diddymu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a derbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais yma sy’n gwyro am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

5.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     48C128  CAIS CYNLLUNIO AMLINELLOL AR GYFER CODI UN ANNEDD AR DIR GER LAW GATE BACH, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol cafwyd pleidlais unfrydol i ganiatáu’r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

mae’r safle y tu mewn i’r ardal 30 mya

 

Ÿ

roedd yr aelodau’n anghytuno a barn yr Adran Briffyrdd

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y cynghorydd RG Parry oedd gofyn am gysondeb ym mhenderfyniadau’r aelodau a glynu wrth y penderfyniad cynt i ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu ar safle y tu mewn i ganol y pentref a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Penderfynodd yr aelodau’n unfrydol lynu with eu penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd uchod.

 

      

 

      

 

6

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

6.1     34LPA850A/DA/CC/ECON  CODI CANOLFAN INTEGREDIG GOFAL PLANT A HYFFORDDIANT BLYNYDDOEDD CYNNAR, SY’N CYNNWYS GOFOD AR GYFER MEITHRINFEYDD, SWYDDFEYDDD A GOFOD HYFFORDDI I FUDIAD YSGOLION MEITHRIN YN OGYSTAL A GOFOD CRECHE A SWYDDFEYDD I’R GWASANAETH TEULU GWLEDIG A SWYDDFA I WASANAETH GWYBODAETH PLANT CYNGOR SIR YNYS MÔN 

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr J Arthur Jones ac Eurfryn Davies a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan y bydd y datblygiad yn darparu cyfleusterau ar gyfer Gwasanaeth Teuluoedd Gwledig a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Cyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     Cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar 6 Ebrill, 2005 ac fe ymwelwyd â’r safle ar 16 Chwefror, 2005.

 

      

 

     Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio na chafwyd gwrthwynebiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn amodol ar gyngor safonol;  ni dderbyniwyd sylwadau mewn perthynas â’r hawliau tramwy.  Gyda’r amod na ddeuai sylwadau o bwys i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod yr Awdurdod yn caniatáu’r cais hwn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais, a chafodd ei eilio gan y cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad a chyda’r amodau yn yr adroddiad hwnw.

 

      

 

      

 

7     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Fe nodwyd nad oedd ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

8     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

8.1     13C142  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER BRYN COLYN, LLANYNGHENEDL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas y cofnodion dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod cais wedi’i gyflwyno i Gyngor Cymuned y Fali am sylwadau a bod adroddiad ar y rheiny yn adroddiad y swyddog a dymunodd hefyd ddweud bod Cyngor Cymuned Bodedern yn gefnodol i’r cais ac y dylid bod wedi ymgynghori gyda nhw arno.  Buasai’r fenter hon yn darparu llety gwyliau i bobl anabl ac roedd Llygad Busnes a Thwristiaeth Gogledd Cymru’n gefnogol.  

 

      

 

     Dyma pryd y teimlodd y Cynghorydd WJ Chorlton bod ganddo ddiddordeb yn y mater a gadawodd y cyfarfod.

 

      

 

     Aeth y Pennaeth  Gwasnaethau Cynllunio ymlaen i ddweud nad hwn oedd y lle gorau i gynnig o’r fath a gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones a oedd y cais yn un economaidd.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen tybed a oedd modd rhoddi amod ynghlwm i gyfyngu ar yr unigolion gâi breswylio yn yr anedd.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Arweinydd Tîm yr Adran Gynllunio mai bwriad yr ymgeisydd oedd gwerthu Bryn Colyn i gyllido’r cynllun newydd.  Hefyd cadarnhaodd nad cais economaidd oedd gerbron ac nad oedd Llygad Busnes, fel y cyfryw, wedi cefnogi ond er hynny yr oeddynt yn fodlon cynnig cyngor yng nghyswllt sefydlu busnes.  Cais oedd hwn am dy y cynigid ynddo lety gwyliau gwely a brecwast i unigolion anabl.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrhod y cais:  

 

     Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen J Arwel Roberts, Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

8.2     14C190B  CAIS LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN MAES LLAN-FAWR, LLANDRYGARN

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Cath Wynne Pari ar y cais yma.  

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd caniatâd amlinellol eisoes wedi ei roddi i godi anedd ar dir yn ffrynt y safle dan sylw a’r ymgeiswyr wedi llofnodi cytundeb i ddileu’r caniatâd penodol hwn (rhif 14C190A).  Mae’r safle presennol union ger y Ficerdy ac mae’r cynnig hwn yn gostwng effaith y datblygiad ar yr ardal ac o’r herwydd roedd y swyddogion yn tueddu i fod o blaid argymell caniatáu y cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais hwn, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda’r amodau hynny a ymddangosodd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

8.3     16C48E CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIC AR DIR GER GER Y BRYN, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan fod y cais hwn yr un ffunud a chais arall a wrthodwyd yn ddiweddar gan y pwyllgor roedd y Cynghorydd RG Parry yn derbyn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn groes: Y Cynghorwyr John Byast,  Eurfryn Davies, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, Tecwyn Roberts.

 

 

 

Ni chafwyd yr un bleidlais i’r gwrthwyneb.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

8.4     20C74N  CODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD A CHREU UN FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER PEN-CAE, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny oherwydd hanes yr anghydfod sylweddol yn lleol.  Petai’r cais yn cael ei ganiatáu roedd y Cynghorydd John Williams am i’r datblygwr ddefnyddio llechi Cymreig ar y to.  Roedd yma oblygiadau priffyrdd gan fod un o’r tai yn mynd i gael mynedfa yn rhedeg yn uniongyrchol i briffordd brysur yr A5025, a theimlwyd bod modd darparu man croesi pelican yn y man hwn, a hefyd roedd angen diogelu’r llwybr cyhoeddus.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio y buasai’n amhriodol mynnu ar lechi “Cymreig”.  Dywedodd yr Arweinydd Tim Cynllunio wrth yr aelodau fod y tai o gwmpas i gyd gyda thoeau teils.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad i ganiatau’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwydd a chyda’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

8.5     22C177  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AC ALTRO’R FYNEDFA AR GAE ORDNANS RHIF 3986, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

NODWYD bod y cais hwn wedi’i dynnu’n ôl.

 

 

 

8.6     30C603  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNED AR DIR GER BWTHYN AR Y BRYN, BENLLECH

 

      

 

     I bwrpas y cofnodion dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio wrth yr aelodau eu bod yn dymuno dileu’r rheswm cyntaf dros argymell gwrthod y cais hwn.  

 

      

 

     Yn ôl diffiniad Cynllun Lleol Ynys Môn a fersiwn ymgynghorol yr CDU roedd ‘Shepherd’s Hill’ yn y cefn gwlad agored.  Roedd y gwaith wedi dod i ben ar yr CDU adeg ei ddiwygio, ac o’r herwydd nid oedd modd rhoddi pwysau ar y bwriad i gynnwys pentrefi ychwanegol dan Bolisi HP5 - bwriad y buasai’n rhaid ymgynghori gyda’r cyhoedd arno.  Felly roedd yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod am y rheswm a roddwyd yn 9(02) adroddiad y swyddog.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais hwn.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais: Y Cynghorwyr John Byast, J Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, John Roberts,

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau yr adroddwyd arnynt.

 

 

 

8.7     36C256  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER GWELCHYN, CAPEL MAWR

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tim Cynllunio bod merch yr ymgeisydd yn bwriadu dod adref o Iwerddon i fyw yn yr ardal ond roedd yr argymhelliad yn dal i fod yn un o wrthod.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd RLl Hughes y buasai caniatáu’r cais yn ffordd o gynnal y gymuned wledig hon a chefnogi’r ysgol leol ac roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones bod y safle yn y cefn gwlad agored a chynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i ganiatau’r cais yma.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyun i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatau’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, RL Owen

 

 

 

O 7 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt.

 

 

 

9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

        

 

9.1     19C281F CAIS I DDYMCHWEL ADEILADAU A CHODI NAW FFLAT HUNAN-GYNHALIOL YNGHYD A NEWIDIADAU I’R FYNEDFA BRESENNOL YN QUAYSIDE GARAGE, PRINCE OF WALES ROAD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd John Chorlton yn teimlo bod angen twtio’r safle awgrymodd fod y swyddogion yn trafod cynnig mwy derbyniol gyda’r ymgeiswyr - cynnig a fuasai’n dangos mwy o gydymdeimlad gyda’r cyffiniau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais hwn, a chafodd ei eilio gan y Cynghoryddd John Roberts.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais am y rhesymau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

9.2     33C243B NEWID DEFNYDD Y CHWE ADEILAD ALLANOL I CHWE ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION YN NHREFERWYDD, LLANGAFFO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dan Bolisi 53 teimlai’r Cynghorydd Noel Thomas bod y cynnig hwn yn cyfateb i ddatblygiad yn y cefn gwlad agored.  Roedd yr adeiladau y bwriadwyd eu haddasu mewn cyflwr adfeiliedig ar safle rhyw ½ milltir o’r lôn ac am y rhesymau hyn roedd yn argymell bod yr aelodau yn ymweld â’r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Edwards cafwyd cynnig bod yr aelodau yn ymweld â’r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Teimlai’r Cynghorydd Arthur Jones hefyd y buasai’n briodol ymweld yn yr achos hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio wrth y rhai oedd yn bresennol fod y cais yn cydymffurfio gyda’r polisiau addasu.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld a’r safle hwn.

 

      

 

      

 

9.3     34LPA847A/CC  EHANGU LLWYBR TROED COED A’R FFENS YN NANT Y PANDY DINGL, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd y llwybr troed coed yn gweddu i’r amgylchfyd naturiol ac wedyn eglurodd y Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio mai bwriad oedd hwn i ymestyn y ddarpariaeth sydd yno.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais.  Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn anghytuno â’r bwriad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais hwn gyda amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.4     42C51D CAIS DIWYGIEDIG AR GYFER ADDASU AC EHANGU YN CYNNWYS CADW Y TOEAU FFLAT YN Y BULL INN, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn teimlo bod y cais hwn yn gwbl annerbyniol.  Yn barod roedd y pwyllgor wedi rhoddi caniatâd i fwriad i wneud gwaith altro yn y Bwlll Inn, a hynny’n cynnwys codi to crib dros yr hen do fflat oedd yno.

 

      

 

     Ni fedrai Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio gyfiawnhau gwrthod yn yr achos hwn.

 

      

 

     Fodd bynnag, cafwyd cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Glyn Jones ond gofynnodd y Cynghorydd RL Owen a oedd moedd cymryd camau gorfodaeth i sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda’r caniatâd a roddwyd yn y gorffennol.

 

      

 

     Teimlo oedd y Cynghorydd John Chorlton fod arno angen cyngor cyfreithiol a gofynnodd am ohirio’r cais hyd nes derbyn adroddiad ar apêl gyffelyb a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod yn dymuno ymatal rhag pleidleisio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

      

 

9.5     42C51E  CYNLLUNIAU LLAWN I GADW’R 2 DANC NWY A’R LLECYN CAEËDIG YNGHYD A NEWID AMOD (05) AR GANIATAD CYNLLUNIO 42C51C ‘NI CHANIATEIR DECHRAU AR Y DATBLYGIAD A GANIATEIR YMA HYD NES BYDD MANYLION Y SYSTEM AWYRELLU A’R OFFER RHEOLI AROGLEUON, YN CYNNWYS MANYLION UNRHYW DDYCTIAU ALLANOL, WEDI EU GYRRU A’U CYMERADWYO GAN YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL, AC WEDYN BOD YR OFFER A GYMERADWYWYD WEDI CAEL EI OSOD.  BYDD RHAID DEFNYDDIO’R OFFER DRWY’R ADEG TRA YN COGINIO A’I GYNNAL YN UNOL A CHYFARWYDDIADAU’R CYNHYRCHWYR’ FEL Y GELLIR CYFLWYNO A CHANIATAU’R MANYLION SY’N OFYNNOL, CYN 1af EBRILL, 2006 YN Y BULL INN, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rhesymau a roddwyd yn eitem 9.4 uchod.

 

      

 

      

 

9.6     46C397  CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL YR ANNEDD A CHODI PEDAIR ANNEDD NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y BRYNIAU, LON PENRHYN GARW, BAE TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Peter Dunning fod yma ddatblygiad hap-fasnachol drud a mawr yng nghanol Trearddur a phobl y gymdogaeth yn poeni am y draeniau o’r safle ar ben y bryn, yn poeni hefyd am faterion priffyrdd a theimlai’r Cynghorydd y buasai’n briodol ymweld â’r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld, a chytunodd y Cynghorydd Glyn Jones gan deimlo y buasai’n briodol hefyd i’r aelodau gael gweld y gwasanaethau yn y ffordd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

9.7     48LPA851ACC  SYMUD Y BONT BWYSO A SWYDDFA’R SAFLE YNG NGHANOLFAN AILGYLCHU, GWALCHMAI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     YN CODI:

 

      

 

     19C70F/AD (14-18 Ffordd Llunain, Caergybi), 19C925 (Dunelm, Ffordd Porthdafarch, Caergybi)  - cytunodd y Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ddarparu gwybodaeth i’r Cynghorydd John Chorlton am y ddau gais.

 

      

 

      

 

11     APEL DAN DDEDDF IAWNDAL TIR 1961 A THAN ORCHYMYN DATBLYGU IAWNDAL TIR 1974

 

      

 

11.1      TIR YNG NGHAEAU CWERYD, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Er gwybodaeth cyflwynwyd a nodwyd copi o benderfyniad a wnaeth yr Arolygydd  a benodwyd gan Gynunlliad Cenedlaethol Cymru ynghylch apel Dwr Cymru Cyfyngedig Welsh Water yn erbyn Tystysgrif a roes yr Awdurdod hwn ar 14 Medi, 2004 i Ymddiriedolwyr Stâd Flanaghan (y diweddar), sef Tystysgrif Datblygiad arall priodol i dai preifat.  Caniatawyd yr apel a dilewyd y Dystysgrif.  

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.25 p.m.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD