Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Mehefin 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Mehefin, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs Burns, John Byast, Eurfryn Davies,

Denis Hadley, J. Arwel Edwards, Aled Morris Jones,

O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts,

W. T. Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio (JW)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Cynorthwy-ydd Technegol (AE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd P M Fowlie

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Fflur Hughes (eitem 4.11),

R. L. Hughes (eitem 4.4), Gwilym O. Jones (eitem 4.3),

H. Eifion Jones (eitem 6.1), Peter Rogers (eitem 6.2),

John Rowlands (eitem 4.13), Hefin Thomas (eitem 4.7, 4.17), Noel Thomas (eitem 4.10), John Williams (eitem 4.6)

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau oddi wrth Aelodau a Swyddogion ac fe'u cofnodir o dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion o gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio Gorchmynion gynhaliwyd ar 11 Mai, 2005  (Cyfrol y Cyngor Medi 2005 )

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones ei fod yn siomedig bod y cais a wnaed yn y cyfarfod diwethaf am gael cyfarfod gyda'r Rheolwr-gyfarwyddwr, Arweinydd y Cyngor ac Arweinyddion y grwpiau gwleidyddol, mewn perthynas â dyraniad y seddau i'r grwpiau gwleidyddol heb ddigwydd.  Nodwyd mai nid y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oedd y fforwm ar gyfer trafodaeth o'r fath.

 

 

3

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad o'r Ymweliadau Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2005.

 

 

 

MATERION YN CODI :

 

 

 

34C303J/1 - 80B Bro Ednyfed Llangefni - eitem 1, tudalen 1, paragraff cyntaf.  Nodwyd y byddai'r annedd arfaethedig yn sownd i rif 80A ac nid 80B fel a nodwyd yn y cofnodion.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI AR Y COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

10C33K/EIA - AMRYWIAD I AMODAU 2 A 5 RODDWYD AR GANIATÂD CYNLLUNIO 10C33H ER MWYN CANIATAU AILGYFLWYNO 'TRAC MÔN' I FYND YMLAEN YN UNOL Â'R GOSODIAD DIWYGIEDIG YN TRAC MÔN, TY CROES

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol roedd swyddogion wedi argymell bod yr aelodau yn ymweld â'r safle oherwydd natur y cais ac fe ddigwyddodd hyn ar 18 Mai, 2005.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod gwaith ymgynghori yn mynd ymlaen a'i gyngor oedd gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.2

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

 

 

11C450 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU GWAITH TRIN PREIFAT AR O.S. 5238, PENTREFELIN, AMLWCH

 

 

 

Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol roedd yr aelodau wedi caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

roedd y safle o fewn clwstwr

 

Ÿ

ystyriaethau eraill o bwys h.y. person lleol, amaethyddiaeth

 

Ÿ

Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor roedd y cais hwn wedi ei ohirio i ganiatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais fel eu ceir yn adroddiad y swyddog - bod y ffaith fod yr ymgeisydd yn berson lleol ac yn ffarmio ddim yn rhesymau cynllunio o bwys, ac roedd am argymell fod yr aelodau yn newid eu penderfyniad blaenorol ac yn gwrthod y cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Byast bod y safle yn agos iawn i glwstwr o 9 byngalo a chynigiodd fod yr aelodau yn glynu wrth eu penderfyniad blaenorol i gymeradwyo'r cais hwn, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

Cynghorodd y Cyfreithwyr yr aelodau i gymryd pleidlais wedi ei chofnodi a bu'r pleidleisio fel a ganlyn :

 

 

 

I GYMERADWYO'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG I WRTHOD)

 

Bessie Burns, John Byast, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (8)

 

 

 

I DDERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG AC ARGYMELL GWRTHOD :

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, R. L. Owen (3)

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo'r cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

13C132A - CREU TRAC GO-KART, CODI ADEILAD STORIO AC ADEILAD I YMWELWYR, ALTRO'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN BRYN GOLEU, BODEDERN

 

 

 

Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mai fe ofynnwyd i'r aelodau ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol er mwyn asesu'r sefyllfa.

 

 

 

Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd yr ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ond heb fod ag unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig, roedd y Cyngor Cymuned yn lleisio pryderon ynglyn â lefel y swn byddai'n dod o'r trac.  Roedd llythyr ychwanegol gan Mr a Mrs Thomas, Llannerch, Caergeiliog i law yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ac fe roddwyd gerbron yn y cyfarfod.  Roedd ffacs o Eryri Leisure yng Nghaernarfon hefyd i law yn dweud iddynt gael caniatâd i agor canolfan go-kart yng Nghaernarfon a disgwyl oedd y byddai hwn yn agored erbyn Pasg 2006, a hefyd cafwyd crynodeb o sylwadau eraill yn adroddiad y swyddog a rhoddwyd gerbron y cyfarfod.

 

 

 

Disgrifiodd y swyddog y cynnig oedd ar dir amaethyddol yn agos iawn i'r A5 a'r A55.  Cyfeiriodd yr aelodau at adroddiad cynhwysfawr y swyddog.  Roedd y cais yn cynnwys asesiad effaith swn wnaed gan Gynghorwyr Amgylcheddol.  Byddai lefelau'r swn yn cael eu rheoli trwy roddi amodau fyddai'n cael eu monitro gan Adain Iechyd Amgylcheddol yr Awdurdod.  Roedd y cais yn ymateb yn gadarnhaol i bolisïau'r Awdurdod ar dwristiaeth, cyflogaeth ac arall gyfeirio amaethyddol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Gwilym O. Jones am ganmol yr ymgeisydd ar y gwaith ymchwil eang a wnaed ynglyn â'r cais.  Wrth reswm byddai camau yn cael eu cymryd i leihau effaith y swn, ond er hynny roedd yr effaith ar y gymdogaeth, yn arbennig cartref preswyl Gwyddfor yn parhau i greu pryder.

 

 

 

Canmolodd y Cynghorydd R. L. Owen hefyd ymdrechion yr ymgeisydd i arall gyfeirio a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i gymeradwyo'r cais.  Eiliwyd y sylwadau hyn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones a D. Lewis-Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a gyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Nodwyd hefyd fod cartref preswyl Gwyddfor yn cael ei nodi fel "y Ficerdy" ar y cynllun O.S. oedd ynghlwm.

 

 

 

4.4

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

15C141 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN O.S. 8032, TREFDRAETH

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb yn y cais hwn, a safodd i lawr o'r Gadair a gadawodd y cyfarfod yn ystod y trafod a'r pleidleisio ar hwn.  Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd Arthur Jones yr Is-Gadeirydd.

 

 

 

Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor.  Yn y cyfarfod diwethaf roedd yr aelodau wedi cymeradwyo'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog i wrthod am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

mae'r safle yn gorwedd o fewn eiddo arall

 

Ÿ

dim pryderon ynglyn â'r briffordd

 

Ÿ

pobl leol

 

 

 

Unwaith eto yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor roedd y cais wedi ei ohirio i ganiatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros caniatáu'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cynllun newydd wedi ei atgynhyrchu yn yr adroddiad a dywedodd fod llythyr arall gyda sylwadau i law ac fe roddwyd gerbron yn y cyfarfod.  Cyfeiriodd at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor dros ganiatáu'r cais fel a geir yn adroddiad y swyddog.  Byddai caniatáu'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes yn gosod cynsail beryglus.  Nid yw'r safle yn gorwedd o fewn anheddiad sy'n cael ei gydnabod yn y cynllun datblygu, ac nid oedd y ffaith nad oedd Adran Priffyrdd ag unrhyw wrthwynebiad yn rheswm cadarnhaol dros gymeradwyo ac mewn termau cynllunio nid yw bod yn "bobl leol" yn cyfiawnhau rhoddi caniatâd cynllunio.  Mae dau o'r rhesymau a roddwyd yn rhai nad ydynt yn rhesymau cynllunio dilys, ac roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. L. Hughes y byddai rhoddir caniatâd hwn yn caniatáu i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg a'u tri o blant adeiladu cartref iddynt eu hunain.  Er nad oedd yn cael ei gydnabod fel y cyfryw, mae'r safle yn gorwedd o fewn clwstwr o 8 o dai ac fe ellid ei ystyried ei fod yn mewn lenwi.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu wedi ei sefydlu yn 1992 trwy ganiatáu cais ar y tir cyfagos ar y sail "angen lleol".  Roedd y Cynghorydd Hughes yn annog yr egwyddor o cadw siopau lleol ac ysgolion mewn ardaloedd gwledig, ac nid oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod gormod o le rhwng Crud y Wennol a'r Eglwys i hwn gael ei gyfrif fel "mewn lenwi", roedd hyn mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arthur Jones am gymharu yr effaith o ganiatáu un ty yn y "cefn gwlad" i ganiatáu trac go-kart yn y cefn gwlad.

 

 

 

Yn dilyn cyngor gan y Cyfreithiwr cytunodd yr aelodau i gymryd pleidlais wedi ei chofnodi ac roedd y pleidleisio fel a ganlyn :

 

 

 

I GYMERADWYO'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG I WRTHOD):

 

Y Cynghorwyr Bessie Burns, John Byast, Eurfryn Davies, Denis Hadley, J. Arthur Jones, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts.

 

 

 

ATAL PLEIDLAIS:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau a roddwyd uchod.

 

 

 

4.5

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C367 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I FODOL, LLANDEGFAN

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn dymuno iddo gael ei gofnodi na fyddai yn pleidleisio ar y cais hwn gan ei fod yn dymuno siarad am y cais fel yr aelod lleol.

 

 

 

Yr aelod lleol oedd wedi gofyn ar i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor.  Yng nghyfarfod mis Ebrill roedd yr aelodau wedi penderfynu ymweld â'r safle i asesu'r lleoliad a chynhaliwyd hyn ar 20 Ebrill 2005.  Yn absenoldeb yr aelod lleol o gyfarfod mis Mai roedd y cais wedi ei ohirio.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at adroddiad cynhwysfawr y swyddog ar y cais hwn ac at y trafodaethau a ddigwyddodd ym Mhwyllgor mis Ebrill.  Roedd yr angen am annedd amaethyddol yn cael ei dderbyn ond roedd y safle hwn yn cael ei ystyried i fod y lleoliad anghywir.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod yr ymgeisydd yn ffermio ochr yn ochr a'i dad a'i fod yn dymuno adeiladu cartref iddo'i hun a'i wraig.  Roedd y cais hwn yn cyflawni'r meini prawf angenrheidiol i gyfiawnhau adeiladu annedd amaethyddol gan fod y fferm yn ymestyn i tua 130 o aceri, ac ymhellach roedd angen iddo fyw yn agos i'r tir.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd R. L. Owen ei gefnogaeth i'r cais, roedd maint yr uned ar ei ben ei hun yn cyfiawnhau caniatáu'r cais hwn ac eiliwyd y sylwadau gan y Cynghorwyr D. Lewis-Roberts a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones hefyd yn cefnogi'r cais hwn am annedd amaethyddol i barhau'r gymuned wledig.

 

      

 

     Tra roedd y Cynghorydd John Roberts yn amheus os mai hwn oedd y safle orau i'r ty roedd yn anghytuno a barn y swyddog y dylai'r ty gael ei adeiladu yn ymyl prif adeiladau'r fferm.

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y tir hwn yn cael ei ffermio gyda'r prif fferm oedd beth pellter i ffwrdd ac nid oedd i'w ystyried fel pebai yn uned ar wahân.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais hwn ar sail 'angen amaethyddol'.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

      

 

4.6

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     20C28B/ECON - ADDASIADAU AC ESTYNIADAU I DDARPARU BWYTY WEDI EI EHANGU, 18 O LOFFTYDD I WESTEION GYDAG YSTAFELL FRECWAST, CLWB HAMDDEN I WESTEION AC AELODAETH LEOL, PARCIO GYDA THIRLUNIO CALED A MEDDAL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AC ADDASIADAU I'R FYNEDFA BRESENNOL YN DOUGLAS INN, TREGELE

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedi argymell y dylai'r aelodau ymweld â'r safle oherwydd natur a maint y datblygiad ac fe ddigwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Disgrifiodd y swyddog y cynnig fel y ceid y manylion yn adroddiad cynhwysfawr y swyddog.  Roedd ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ond yn codi dim un gwrthwynebiad i'r cynnig.  Bu ymateb cryf i'r ymgynghori cyhoeddus, yn cefnogi ac yn gwrthwynebu'r cynnig.  Cyfeiriodd yr aelodau i'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth ffurfio argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Roedd y swyddog yn argymell cymeradwyo'r cais hwn.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd John Williams roedd maint y cynnig yn rhy fawr i'r pentref gwledig hwn, yn arbennig o gymryd i ystyriaeth agosrwydd rhai o'r tai i'r safle.  Beth amser yn ôl fe gafodd yr ymgeisydd ganiatâd i ymestyn yr eiddo a'r maes parcio ac roedd hynny yn cael ei ystyried yn rhesymol ac yn dderbyniol ar y pryd.  Fe ffurfiwyd y 'tir arbennig' pan adeiladwyd y ffordd osgoi yr A5025 ar gyfer Gorsaf Bwer Wylfa.  Roedd y tir hwn wedi ei gyflwyno i'r gymuned gan ffermwr lleol ac roedd y Cynghorydd John Williams yn cwestiynu hawl yr ymgeisydd i fynd â'r tir hwn.  Yn 1973 fe blannodd plant lleol goed ar y safle ac roedd gwrthwynebiad lleol cryf i dorri rhain.  Nid yw'r tir wedi ei nodi yng Nghynllun Lleol Ynys Môn na'r CDU ar gyfer ei ddatblygu.  Awgrymodd y Cynghorydd Williams y dylai Adain Gyfreithiol y Cyngor edrych ar "Reolau Critchell Down" a dangosodd y Cynghorydd Williams i'r aelodau gynllun drychiad ochr oedd yn dangos maint yr adeiladau presennol a'r hyn oedd yn cael ei fwriadu.  Roedd dwy ddeiseb i law (un yn cefnogi a'r llall yn gwrthwynebu), roedd gwrthwynebiad lleol cryf i faint y cynnig mewn gosodiad gwledig fel hyn.  Mae'r safle o fewn parth gwacau mewn argyfwng Gorsaf y Wylfa.

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i waith ymgynghori gael ei wneud gyda'r ymgeiswyr i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon.  Nid oedd perchnogaeth y  tir oedd wedi ei roddi yn bwysig wrth benderfynu ar y cais hwn.  Nid oedd gan Niwcliar Prydain unrhyw wrthwynebiad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Denis Hadley ei fod yn tueddu i gefnogi darparu llety o ansawdd, ond roedd yn teimlo nad yma oedd y lle am ddatblygu o'r maint hwn.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones nad oedd y cynlluniau yn dangos coed presennol ar y tir nac unrhyw waith tirlunio oedd i'w wneud.  Roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo y byddai hyn yn gorddatblygu'r safle ac yn edrych tros dai cymdogion, byddai'n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd; roedd yntau hefyd yn teimlo y byddai'n gwrthwynebu'r cais hwn.

 

      

 

     Barn y Cynghorydd Eurfryn Davies oedd y byddai'r cynnig yn creu cyflogaeth yn yr ardal ac yr oedd am gynnig derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i gymeradwyo'r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts fod y cais yn cael ei wrthod oherwydd ei fod mor agos i groesffordd ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 9 bleidlais i 2 PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog i'w ganiatáu, am y rhesymau canlynol :

 

      

 

Ÿ

gorddatblygu - allan o gymeriad mewn gosodiad gwledig

 

Ÿ

edrych drosodd

 

Ÿ

effaith weledol

 

Ÿ

dim digon o lefydd parcio

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

4.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C24C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I TY'N LON, LLANDDONA

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd am ddod â'r cynnig hwn gerbron y Pwyllgor am resymau polisi a diogelwch ffordd.  Yn y cyfarfod diwethaf, ar gais yr aelod lleol, roedd yr aelodau wedi dewis ymweld â'r safle ac fe ddigwyddodd hyn ar 18 Mai, 2005.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau i hanes cynllunio y safle hwn a'r polisïau perthnasol a gymerwyd i ystyriaeth gan y swyddog wrth lunio ei adroddiad.  Nodwyd y dylai cyfeiriad at Bolisi 53 ddarllen fel Polisi 50 (aneddiadau rhestredig).  Roedd ymgynghorwyr statudol yn gwneud sylwadau ond heb fod ag unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.  Roedd y swyddogion yn teimlo y byddai'r fynedfa arfaethedig yn ddiogel.  Y farn oedd bod y cais hwn yn fewn lenwi o fewn aneddiad rhestredig.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn hynod bryderus fod y swyddogion yn teimlo fod y fynedfa arfaethedig yn dderbyniol.  Yn y cyfarfod blaenorol roedd y swyddogion wedi dweud bod gwelededd o 90 metr i'r ddau gyfeiriad o'r porth ond roedd y Cynghorydd Thomas yn amheus a oedd llawer mwy na 40 metr o welededd.  Roedd yn cael y gwelededd yn y porth yn is na'r safon, yn annigonol ac yn hollol annerbyniol.  Roedd rhan o'r tir heb fod ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.  Am y rhesymau hyn roedd y Cynghorydd Thomas yn argymell fod y Pwyllgor yn gwrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y Prif Beiriannydd Priffyrdd yn gweld y fynedfa arfaethedig yn addas ac yn dderbyniol o osod amodau.  I wella'r gwelededd byddai'r porth presennol i Ty'n Lon yn cael ei gau i

 

      

 

     gerbydau a'i ail leoli i greu porth sy'n cael ei rannu.  Byddai'r wal derfyn yn cael ei gostwng i 1 metr o uchder.  O gofio y cyflymdra ganiateid yn y lleoliad, byddai gwelededd o 70m yn ddigonol.

 

     Anghytuno wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts gyda sylwadau'r swyddog gan ddweud ei fod yn tybio fod 50m i un cyfeiriad a 30m i'r ochr arall.  Roedd hefyd yn cwestiynu os oedd y tir yn debygol o gael ei lifogi.  Cynigiodd ei fod yn cael ei wrthod ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn tybio fod tri neu bedwar porth arall yn agos iawn i'r safle, ac roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais.  Roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn cynnig derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o gymeradwyo'r cais hwn.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Eurwyn Davies.  Er mwyn fod yn gyson dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 o'r Cynllun Lleol ac roedd yntau am gefnogi argymhelliad y swyddog o gymeradwyo.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arwel Edwards yn ystyried y byddai symud y porth presennol o fudd i'r briffordd a mynegodd ei gefnogaeth.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio yn 6 o'r naill ochr.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod yntau hefyd yn gweld bod y gwelededd yn annigonol a defnyddiodd ei bleidlais fwrw i wrthod y cais.  Fe benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm na allai'r llain gwelededd angenrheidiol gael ei ddarparu.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

4.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112 - CAIS AMLINELLOL I GODI 6 ANNEDD YNGHYD AG ADDASIADAU I'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AR DIR YN GYFAGOS I Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror roedd y swyddog wedi argymell i'r aelodau ymweld â'r safle uchod a digwyddodd hyn ar 16 Chwefror 2005.  Roedd y swyddog yn argymell gohirio ymhellach oherwydd fod materion priffyrdd eto i'w trafod.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.9

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR O 28 APARTMENT PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO TU FEWN A CHAMPFA YNGHYD Â CHREU PORTH NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO MYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYNTIRION, TRAETH GOCH.

 

      

 

     Ymwelodd yr aelodau â safle'r cais ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod adroddiad yr ymgynghorwyr annibynnol wedi ei hanfon ymlaen i'r ymgeiswyr ac roedd disgwyl am eu hymateb hwy.  Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts fod y cais hwn yn cael ei dynnu'n ôl oddi ar y rhaglen oherwydd yr amser yr oedd yn ei gymryd i'r ymgeiswyr i ymateb.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD tynnu y cais hwn yn ôl o'r rhaglen.

 

      

 

4.10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C125D - CAIS AMLINELLOL I GODI 5 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN CYNLAS, GAERWEN

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor gan fod safle'r cais yn gyfagos i'w eiddo ac oherwydd materion mynediad a traeniad.  Yng nghyfarfod mis Mai  penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a digwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd gwybodaeth yn dal ar ôl heb ei dderbyn gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac argymhellodd y dylid gohirio trafod y cais hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.11

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J - DYMCHWEL YR ADEILAD DI-DDEFNYDD PRESENNOL YNG NGHEFN Y SAFLE AC AILDDATBLYGU GYDAG ADEILAD TRI LLAWR O SWYDDFA A DEFNYDD GWERTHU GYDA CHYFLEUSTERAU STORIO AR LEFEL Y SELAR AC ALTRO'R FYNEDFA BRESENNOL YN WASANAETHAU HERON, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn gael ei ystyried gan y Pwyllgor.  Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd 2004.  Oherwydd bod y cynnig bellach wedi newid yn sylweddol roedd yr aelodau wedi ail ymlwed â'r safle ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cynlluniau rheoli traffig newydd ar gyfer y safle wedi eu cyflwyno yn yr  ychydig ddiwrnodau diwethaf gan yr ymgeiswyr ac felly roedd yn gofyn am ohirio'r cais hwn tra roedd swyddogion yn ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Yn seiliedig ar wybodaeth roddwyd yn adroddiad y swyddog, cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y Pwyllgor yn symud ymlaen i benderfynu ar y cais hwn.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai'n annoeth symud ymlaen â phenderfynu ar y cais hwn heb gael yr holl fanylion.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts y dylid derbyn argymhellion y swyddog i ohirio, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 3 penderfynodd yr aelodau symud ymlaen gyda'r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ond heb fod ag unrhyw wrthwynebiad i'r cais hwn.  Mynegodd yr aelod lleol ei bryderon ynglyn â'r effaith y byddai'r cynnig yn ei gael ar ganol y dref ac ar fwynderau eiddo cyfagos.  Roedd llythyr pellach i law oddi wrth Mr a Mrs Ross, Glennydd er nad oedd unrhyw faterion newydd yn cael ei godi yn y llythyr hwn.  Cyfeiriodd y swyddog yr aelodau at y polisïau perthnasol yn adroddiad y swyddog, hefyd ymateb y swyddog i'r tri mater o gonsyrn oedd yn cael ei godi.  Roedd y cynnig presennol wedi ei leihau mewn maint ac wedi symud yn ôl o'r terfyn gyda'r eiddo preswyl.  Roedd yn teimlo fod cyfaddawd wedi bod ac roedd y swyddogion yn cael y cynnig yn dderbyniol.

 

      

 

     Dywedodd Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y cynllun rheoli traffig a gyflwynwyd yn ddiweddar yn annerbyniol, yn arbennig o ystyried y cynnydd mewn traffig fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y cynnig.  Roedd y swyddog yn dymuno cael mwy o drafodaethau gyda'r ymgeiswyr i wella'r trefniadau mynd i mewn ac allan oedd yn cael eu bwriadu.  

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd Fflur Hughes bedwar mater oedd yn achosi pryder :-

 

      

 

Ÿ

effaith niweidiol y cynnig ar eiddo cymdogion, yn arbennig o ystyried y ffaith fod lefel y tir yma yn llawer is

 

Ÿ

uchder y cynnig oedd yn parhau fel mater o bryder

 

Ÿ

tagfeydd trafig - dylid dwyn mewn cof fod sawl cyffordd yn agos iawn i'r safle hwn.

 

Ÿ

effaith y cynnig ar fusnesau yng nghanol y dref.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn croesawu'r cynnig i wella edrychiad y safle ac nid oedd ganddi unrhyw broblem gyda chreu lle ar gyfer y swyddfeydd.  Ni ellid disgrifio canol y dref fel un 'ffyniannus' yn yr hinsawdd bresennol; dylai busnesau lleol presennol a swyddi gael eu diogelu cyn belled ag oedd yn bosibl.  Byddai'r cynnig yn cael effaith negyddol ar yr ardal cadwraeth.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones y dylai'r profion llinellol a swyddogaethol gael eu gosod pan yn delio gyda'r cais hwn; dylid nodi fod Cyngor Tref Llangefni yn gwrthwynebu'r cais yn gryf iawn.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i asesiad llawn gael ei wneud wrth benderfynu argymhelliad y swyddog, ac ymhellach byddai amodau yn cael eu gosod i reoli'r math o siopau.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cwestiynu a oedd gan yr ymgeisydd ganiatâd ar gyfer cyfleusterau cario a storio ar y safle.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones fe gadarnhaodd y swyddog fod gan yr eiddo presennol hawl i werthu pethau.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeisydd wedi newid y cynlluniau gwreiddiol yn sylweddol er mwyn cyrraedd cyfaddawd.  Roedd yr ymgeisydd yn cyflogi dros 70 o bobl ar dri safle y maent yn ei rhedeg.  Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y cais yn cael ei dderbyn, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.  Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y byddai'r cynnig yn gwella'r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn nes y gellid cwblhau y gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ar faterion priffyrdd.

 

 

 

4.12

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C303J/1 - CODI UN TU PAR AR PLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Aled Morris Jones a Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu diddordeb yn y cais hwn a gadawsant y cyfarfod yn ystod ystyriaeth a phleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Roedd y cais wedi ei ddwyn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mai penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a digwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ohirio ystyried y cais hwn oherwydd fod materion ar ôl i'w trafod.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.13

CAIS Y N TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C129A - CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASIADAU I'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AR BLOT YN GYFAGOS I CAE BERLLAN, CAIM

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mai yr oedd yr aelodau wedi penderfynu gohirio ystyried y cais yn absenoldeb yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn cael ei ystyried o dan Bolisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Nid yw Caim yn cael ei gydnabod fel anheddiad rhestredig o fewn Polisi 49.  Roedd problemau priffyrdd yn ymwneud â'r cais hwn, mae hwn yn ardal hynod o sensitif allan yn y cefn gwlad ac nid oedd unrhyw dystiolaeth i'w gefnogi wedi ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gyfiawnhau caniatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands fod yma wrthdaro teimladau - gwrthwynebu cryf yn y gymdogaeth ac eto roedd y Cyngor Cymuned yn teimlo y byddai'r cynnig yn toddi i mewn ac roeddent yn cefnogi'r cais.  Dyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd oedd yn dymuno adeiladu ei gartref ei hun.  Argymhellodd y Cynghorydd John Rowlands fod yr aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen y dylid cael ymweliad safle i ganiatáu'r aelodau asesu'r sefyllfa, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

4.14

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     36C175K/TR/ECON - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI LLETY I DRAFAELWYR, GORSAF BETROL, 2 FWYTY GYDA CHYFLEUSTERAU GYRRU TRWODD, YNGHYD Â CHREU MYNEDIAD NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR, MAES PARCIO A THIRLUNIO AR DIR CYFAGOS I TYRPEG NANT, LLANGEFNI

 

      

 

     Datganodd Mr. J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Mai roedd yr aelodau wedi argymell i'r aelodau ymweld â'r safle hon tra roedd ymgynghori yn mynd ymlaen er mwyn cael dealltwriaeth o'r safle a natur y cais cyn penderfynu arno a digwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod gwaith ymgynghori yn mynd yn ei flaen a bod y swyddogion yn disgwyl bod mewn safle i gyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod mis Gorffennaf.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.15

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C213 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I GLAN GORS, RHOSGOCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Byast ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi dwyn y cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror roedd yr aelodau wedi caniatáu'r cais hwn, yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, am y rhesymau  a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

mae yna elfen o fforddiadwyaeth yn y cais gan mai cwpl ifanc yw'r ymgeiswyr

 

Ÿ

mae'r tir amaethyddol yn un o ansawdd gwael ac yn arbennig o greigiog

 

Ÿ

mae o leiaf 9 eiddo arall o fewn clwstwr yn y lleoliad.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

Yng nghyfarfodydd Mawrth ac Ebrill fe dderbyniodd yr aelodau argymhellion y swyddog i ohirio ystyried y cais hwn er mwyn caniatáu i swyddogion ymchwilio i mewn i faterion technegol a godwyd yn ystod yr ymgynghori a wnaed.  Yng nghyfarfod mis Mai penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle er mwyn asesu'r lle drostynt eu hunain ac fe ddigwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r aelod lleol ofyn am ohiriad pellach ar y cais hwn yn ei absenoldeb.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.16

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C28E - CODI BLOC APARTMENTAU AR GYFER 8 UNED YNGHYD AG ALTRO MYNEDIAD I GERBYDAU A CHERDDWYR YNGHYD Â THORRI COED A SYMUD GWRYCHOEDD AR DIR YN GYFAGOS I WHEEL & ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror, ar argymhelliad y swyddog, penderfynodd yr aelodau i ymweld â'r safle a digwyddodd hyn ar 16 Chwefror 2005.  Mae ystyried y cais bellach wedi ei ohirio yn dilyn gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn cael ei dynnu oddi ar y rhaglen hyd derbynnid asesiad o risg llifogydd.  

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y byddai'r cais hwn yn awr yn cael ei dynnu'n ôl oddi ar y rhaglen.

 

      

 

4.17

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     42C62G - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR BLOT YN Y GANOLFAN ARDDIO, PENTRAETH

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu oherwydd angen lleol ac angen busnes.  Yng nghyfarfod mis Mai ar gais yr aelod lleol, fe benderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle er mwyn asesu'r sefyllfa ac fe ddigwyddodd hyn ar 18 Mai 2005.

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y safle a'r cynnig gan gyfeirio'r aelodau at y polisïau a ystyriwyd wrth wneud argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Nid oedd gan ymgynghorwyr statudol unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.  Yn unol â Pholisi 53 o'r Cynllun Lleol roedd hwn yn cael ei ystyried i fod yn y cefn gwlad, nid oedd unrhyw angen amaethyddol na choedwigaeth wedi ei gyflwyno i gyfiawnhau caniatáu'r cais.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno iddo gael ei nodi i'r cais blaenorol a wrthodwyd ar 10 Chwefror 2005 gael ei benderfynu o dan bwerau dirprwyedig (paragraff 3 yn adroddiad y swyddog).  Roedd yr ymgeisydd yn ddyn ifanc lleol oedd yn gweithio ar y safle o dan arolygaeth ei dad.  Ni fyddai codi annedd i'r rheolwr ar y safle arbennig hon yn cael unrhyw effaith niweidiol ar y tirwedd.  Yr oedd angen pendant a chlir am gael ty i rheolwr ar y safle oherwydd rhesymau diogelwch.  Os na châi ty ei sicrhau yma yna byddai angen codi ffens diogelwch a fyddai hyn yn cael gwaeth effaith.  Byddai'r tir yn cael ei glirio i ostwng y tir tu cefn i'r twneli plastig a sied ac roedd hyn yn golygu na châi unrhyw effaith niweidiol ar y tirwedd.  Gofynnodd Cynghorydd Thomas am gymeradwyaeth i'r cais hwn a gosod amodau i gysylltu'r annedd i'r busnes.  Os y byddai'n cael ei ganiatáu roedd yn eglur y byddai rhaid i'r annedd fod wedi ei gysylltu i'r busnes.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones cadarnhaodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai mab yr ymgeisydd fyddai'n byw yn y ty.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Cynghorydd Thomas fod yr ymgeisydd ei hun yn byw tua hanner milltir i ffwrdd oddi wrth y busnes.

 

    
Mynegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei gefnogaeth i'r cais gan y byddai'n cefnogi busnes lleol, a chynigiodd derbyn y cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 11 pleidlais penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod ac am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

angen busnes

 

Ÿ

angen garddwriaethol/amaethyddol

 

Ÿ

dim gwrthwynebiad priffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

4.18

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C199A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I PENRHOS, PENYGRAIGWEN

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a hynny ar sail priffyrdd.  Yn absenoldeb yr aelod lleol yn y cyfarfod diwethaf fe benderfynodd yr aelodau ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau i'r disgrifiad o'r safle ac i'r cynnig fel yr oedd manylion ohono yn adroddiad y swyddog.  Dywedodd y swyddog fod safle'r cais yn gorwedd ar derfyn anheddiad rhestredig Penygraigwen fel ei diffinnir o dan Polisi 50 yn y Cynllun Lleol.  Byddai'r cynnig yn ffurfio estyniad annerbyniol i ffurf bresennol y datblygu a byddai'n ymwthio i'r tirwedd gwledig.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeisydd yn dymuno dychwelyd i fyw yn agos i fferm y teulu a lle hurio peiriannau law yn llaw â busnes eu fferm.  Mae safle'r cais yn ffurfio estyniad bychan rhesymol gan ei fod yn gyfagos i'r anheddiad lle ceir tua 20 o dai.  Byddai caniatáu'r cais yn cynnal y gymuned leol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones am gymeradwyo'r cais ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 9 pleidlais penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn ffurfio estyniad bychan neu resymol i'r anheddiad o dan Bolisi 50.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau economaidd wedi eu cyflwyno i'w ystyried gan y cyfarfod.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

6.1

21C61A - CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE O.S. 0606 LLANDDANIEL FAB

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol ac ar gais asiant yr ymgeisydd roedd yr aelodau wedi cytuno i ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle iddynt gyflwyno gwybodaeth bellach.

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cynnig ar safle fel y'i  ceid yn adroddiad y swyddog.  Cyfeiriodd y swyddog yr aelodau i'r polisïau perthnasol oedd yn cael ei rhestru yn adroddiad y swyddog gyda chyfeiriad arbennig at Bolisïau 50, 52 a 53 o'r Cynllun Lleol.  Roedd teimlad fod safle'r cais yn rhy bell o ffin y pentref.  Mae'r safle rhyw 200m o ffin ddatblygu Llanddaniel Fab. Roedd ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ond heb wrthwynebu'r cynnig.  Roedd gwrthwynebiadau'r Adran Priffyrdd ynglyn â'r llain gwelededd bellach wedi ei ddatrys ac yn awr ni fyddai'r Adran Priffyrdd yn codi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar ddileu rheswm (03) (priffyrdd) yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones y byddai hwn yn darparu ty fforddiadwy i'r ymgeisydd.  Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth yn ymwneud â'u statws ariannol ac wedi costio y byddai adeiladu ty tair llofft rhywle tua £85,000.  Roedd y Cynghorydd Jones yn ystyried fod hwn yn fewn lenwi o fewn clwstwr o dai eraill a'i fod hefyd o fewn neu ar ffin pentref.  Argymhellodd y Cynghorydd Jones y dylai yr aelodau ymweld â'r safle i asesu hyn drostynt eu hunain.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Arwel Edwards fod hwn wedi ei fwriadu i ddarparu ty fforddiadwy o fewn 200m o'r pentref.  Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd, dywedodd y Swyddog fod y safle yn rhy bell o'r ffin datblygu i gael ei ystyried i fod yn dy fforddiadwy.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts yn cynnig cymeradwyo'r cais ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones y dylid cael ymweliad safle ac eiliodd y Cynghorydd R. L. Owen y cynnig hwn.

 

      

 

     O 7 pleidlais PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.2

45C332A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN PARC, PENLON, NIWBWRCH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor Gorchmynion ar ofyn yr aelod lleol.  

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y safle a'r cynnig.  Nid oedd gan ymgynghorwyr statudol unrhyw wrthwynebiad ac eithrio'r Cyngor Cymuned Lleol.  Yn unol â Pholisi 53 o'r Cynllun Lleol byddai hwn yn ffurfio datblygiad newydd yn y cefn gwlad.  Nid yw'r safle yn gorwedd o fewn anheddiad na chlwstwr.  Nid oedd unrhyw newid o bwys yn y cais hwn i'r un a wrthodwyd cyn hyn yn 2004.  Yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod newid sylweddol wedi bod ers 2004.  Nid oedd gan Grampian Foods bellach wrthwynebiad i'r cynnig gan na fyddai'n tarfu ar eu gweithgareddau.  Y rheswm pam yr oedd yr ymgeiswyr yn dymuno adeiladu ty mor agos i'r fferm ieir oedd i fod yn agos at y Pentref Modelau cyfagos, busnes teuluol llwyddiannus.  Roedd hyn yn darparu ty fforddiadwy i'r ymgeiswyr.  Dywedodd yr Arolygwr Cynllunio y dylid nodi Penlon fel clwstwr o fewn y CDU.  Roedd y Cynghorydd Rogers yn teimlo fod hwn yn fewn lenwi ac na fyddai'n cael effaith niweidiol ar y tirwedd.  Roedd un o'r ymgeiswyr yn gweithio o fewn y system addysg ac roedd y llall yn arwerthwr amaethyddol, pobl ifanc leol oeddynt.  Roedd stad Clynnog gerllaw wedi cael caniatâd i ddatblygu 14 o aneddiadau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones na fyddai datblygu'r safle hon yn cael effaith niweidiol ar unrhyw un, roedd y teulu yn rhedeg busnes oedd wedi ei sefydlu ac atgoffodd yr aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau a chynigiodd dderbyn y cynnig.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod safle'r cais yn cydymffurfio gyda Polisi 50 (aneddiadau rhestredig) yn y Cynllun Lleol, ac yr oedd yn cefnogi pobl leol.  Mynegodd y Cynghorydd Glyn Jones hefyd ei gefnogaeth.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Arwel Edwards i'r Arolygwr Cynllunio argymell i Penlon gael ei nodi fel clwstwr o fewn y CDU.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

      

 

     O 7 pleidlais penderfynodd yr aelodau ganiatáu'r cais hwn gan ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (aneddiadau rhestredig) a'i fod yn fewn lenwi, hynny yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

6.3

48C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD YNGH Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GYFERBYN Â RHES Y WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Datganodd Mrs Wendy Faulkner o'r Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol a hefyd oherwydd fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn y Cyngor.

 

      

 

     Ar gais yr ymgeisydd argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn cael ei ohirio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

11LPA101T/CC - FFURFIO LLE PARCIO NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR YN YSGOL SYR THOMAS JONES, AMLWCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Byast diddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod ystyriaeth a phleidleisio arno.

 

      

 

     Fe ddygwyd y cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2

16C32C - CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANEDDIADAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN STRYD FAWR, BRYNGWRAN

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn i'r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu.

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod hwn yn cael ei ohirio er mwyn disgwyl am gael ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7.3

18C138C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YN ARGRAIG, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd J. Arthur Jones ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y trafod a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Mrs Bessie Burns yn dymuno iddo gael ei gofnodi y byddai hi yn cymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem hon yn rhinwedd ei swydd fel aelod lleol, ac wedyn ni fyddai yn pleidleisio ar y cais.  

 

      

 

     Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cynnig a'r safle a chyfeiriodd at y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu a gwneud argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Roedd egwyddor yr angen am dy amaethyddol yn cael ei dderbyn gan y swyddogion ac roeddent yn teimlo fod safle'r cais yn rhy bell oddi wrth brif ganolbwynt y fferm (tua 2 filltir i ffwrdd oddi wrth y brif fferm).  Roedd y swyddogion hefyd yn teimlo y byddai addasu rhai o'r adeiladau presennol y fferm yn fwy priodol.  Byddai'r safle anghysbell a gwasgarog yn cael effaith annerbyniol ar y dynodiad tirwedd.  Nodwyd fod y Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Mrs Burns ei chefnogaeth i'r ymgeisydd lleol oedd yn dymuno byw yn ei gymuned leol.  Byddai caniatáu'r cais yn cynnal y gymuned leol.  Roedd nifer o dai eraill wedi eu gwasgaru yn yr ardal.  Byddai'r annedd yn cael ei adeiladu i safon uchel.  Byddai caniatáu'r cais hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r teulu.  Anogodd yr aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau trwy ganiatáu'r cais hwn.  Roedd deiseb yn cynnwys rhyw 200 o enwau wedi ei gyflwyno i gefnogi cais blaenorol yr ymgeisydd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn teimlo y dylid cefnogi yr annedd amaethyddol hwn er mwyn cynnal yr economi lleol a chadw'r iaith yn fyw.  Roedd adeiladau y  fferm bresennol yn anaddas i'w haddasu.  Roedd y Cynghorydd Jones yn argymell caniatáu'r cais hwn, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 10 pleidlais penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais hwn, yn groes i benderfyniad y swyddog o wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

angen amaethyddol a lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf i ganiatáu amser i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

7.4

19CLLH - DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â GWAITH AILWAMPIO AR BLATFFORM 2, GORSAF Y RHEILFFORDD, CAERGYBI

 

      

 

     Fe ddygwyd y cais hwn gerbron y Pwyllgor gan fod y cynnig yn ffurfio rhan o Becyn Amgylcheddol a Chludiant Caergybi.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

19C587A - NEWID DEFNYDD TIR I GREU LLE CHWARAE I BLANT AR DIR YNG NGHEFN PAC FELIN DDWR, LLAINGOCH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i lythyr hwyr gael ei dderbyn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad o 3 Parc Felin Dwr - ac roedd hyn yn codi materion newydd o bwys.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

34LPA121H/CC - LLUNIO MAES PARCIO I GEIR A BYSUS YN YSGOL GYFUN LLANGEFNI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd J. Arthur Jones ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

9.1

ADEILADAU FFERM YN TY COCH, LLANFFINAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, copi o grynodeb o benderfyniad Arolygwr Llywodraeth Cynulliad Cymru ar apêl o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i addasu adeilad fferm ddi-ddefnydd yn 1 Bwthyn, tanc septig a thraen cerrig, 1 man pasio i gerbydau a dymchwel sgubor wair o dan cais cynllunio rhif 23C183A a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 15 Gorffennaf, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

9.2

CRAIG WEN, 5 STRYD FAWR, BODFFORDD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru :

 

      

 

9.2.1

o dan adran 174(2)(a) a (g) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y'i diwygiwyd - apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth rhoddwyd gan yr Awdurdod hwn oherwydd torri rheoli cynllunio ar gyfer newid o ddefnydd preswyl i ddefnydd cymysg o breswyl ac i barcio bysus (cyfeirnod JME/MG/2003/14/43) - fe dynnwyd y rhybudd yn ôl ac ni fu unrhyw weithredu pellach.

 

      

 

9.2.2

o dan adrannau 174, 322 a Rhestr 6 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Llywodraeth Leol 1972, adran 250(5) - penderfyniad ffurfiol a Gorchymyn Costau.

 

 

 

 

 

Terfynwyd y cyfarfod am 4.30 p.m.

 

 

 

 

 

J. ARWEL ROBERTS

 

CADEIRYDD