Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Gorffennaf 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Gorffennaf, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Gorffennaf, 2009 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorton, E.G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, T.H. Jones, R.L. Owen,

J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (EH).

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

HEFYD YN BRESENNOL :

 

 

Y Cynghorydd Bob Parry OBE - Aelod Portffolio (Cynllunio)

 

Aelodau Lleol :

Y Cynghorydd G.O. Parry MBE - (Eitemau 11.5, 11.8, 11.9, 11.10, 11.11)

 

Mynegwyd dymuniadau am adferiad buan i'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Mr. Robyn Jones a oedd wedi torri ei fraich yn ddiweddar.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd Datganiadau o Ddiddordeb a chawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd - fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Mehefin, 2009.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Cynghorydd Bob Parry OBE gyfeirio at eitem 14.2 - Pencraig, Gwalchmai o gofnodion y cyfarfod diwethaf oedd yn dweud : “ ...................... dros yr wythnosau diwethaf roedd cynghorydd yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda chynghorydd morgais yr ymgeisydd ac yn hyderus y bydd cais ganddo am forgais yn llwyddo ond na cheid cadarnhad mewn pryd ar gyfer cyfarfod 3 Mehefin.  Felly argymhellwyd y dylid gohirio ystyried y cais am fis arall i gael y canlyniadau.” Gofynnodd y Cynghorydd Parry am i'r mater gael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 15 Mehefin, 2009.

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

20/C/250 - Gwaith altro ac ymestyn yn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Adroddwyd bod gwybodaeth ychwanegol yn ei ddisgwyl ar gyfer y cais uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

5.2

20/C/251 - Altro ac ymestyn Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Adroddwyd bod gwybodaeth ychwanegol yn ei ddisgwyl ar gyfer y cais uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

5.3

20/C/252 - Altro ac ymestyn Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Adroddwyd bod gwybodaeth ychwanegol yn ei ddisgwyl ar gyfer y cais uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

5.4

20/C/253 - Gwaith altro a threfniadau parcio yn Swn yr Afon, Ty Lawr a Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Adroddwyd bod gwybodaeth ychwanegol yn ei ddisgwyl ar gyfer y cais uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI ODDI AR Y COFNODION

 

 

 

6.1

Newid i amodau (02) a (10) a dileu amod (09) oddi ar gais rhif 12C340C ynghyd a gosod ystafell haul tu cefn i dy rhif 4 a uchder y wal 300mm tu cefn i’r safle sydd yn gwynebu Gerddi Stanley yn Hen Ddepo’r Cyngor, Biwmares

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Cyflwynwyd y cais gyntaf i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin, 2009 pryd y penderfynwyd cael ymweliad a’r safle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 15 Mehefin, 2009.

 

 

 

Mae’r cais yn ymwneud â thir hen ddepo’r Cyngor.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle i godi 4 o dai par o dan gais cynllunio 12C340C.  Cais yw hwn i newid amod (02) a (10) a dileu amod (09) o gais cynllunio 12/C/340C a hefyd darparu ystafell haul yng nghefn ty Rhif 4.  

 

 

 

Roedd amod (02) yn ymwneud â gwneud gwaith yn unol â'r cynlluniau oedd wedi eu cyflwyno, ac roedd amod (09) yn ymwneud â manylion ffenestr ac amod (10) yn ymwneud â deunyddiau gorffen y wal.  Mewn ymateb i'r hyn y gwneir cais amdano:

 

 

 

Ÿ

Newid amod (02) - mae’r ymgeiswyr yn dymuno adeiladu ystafell haul ar dy Rhif 4 sydd yn dderbyniol a bydd yn cydymffurfio gyda’r polisïau uchod.

 

 

 

Ÿ

Newid amod (10 - mae’r ymgeiswyr yn dymuno adeiladu’r wal gyda brics neu frics wedi rendro rhwng y datblygiad a gardd gefn 43 Stryd Wexham er mwyn cael cysondeb.  Mae hyn yn dderbyniol a bydd yn cydymffurfio gyda phob un o’r polisïau a restrir uchod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

Dileu amod (09) - y prif beth gyda dileu’r amod hon yw edrych drosodd i eiddo preswyl sydd gerllaw.

 

 

 

Mae’r pâr o dai pâr yng nghefn y safle wedi’u symud ymlaen ychydig i’r hyn gafodd ei ganiatau’n wreiddiol gyda’r wal yng nghefn y safle yn cael ei chodi 300mm er mwyn sicrhau na fydd unrhyw edrych drosodd ar drigolion Gerddi Stanley.  Y pâr o dai pâr sydd agosaf i Stryd Wexham - mae’r pellter rhwng y tai hyn a therfyn yr eiddo yn Stryd Wexham ryw 9.4 metr ac oddeutu 25 metr oddi wrth yr eiddo ar Stryd Wexham.  Ystyrir felly ei bod yn dderbyniol i ddileu’r amod.

 

 

 

Roedd y cais hefyd yn un i newid amod (04) - ni chaniateir dechrau unrhyw ran arall o’r datblygiad a ganiateir, hyd nes y bo wal(iau) yng ngardd ffrynt 43 Stryd Wexham wedi’i gostwng yn ei uchder i 1 metr, ond ni fydd yr amod hon yn awr yn rhan o’r cais.

 

 

 

Pwysleisiodd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd R.L. Owen, mai pryderu roedd y trigolion lleol ynglyn ag uchder y wal yng nghefn y safle; byddai hyn yn golygu colli goleuni i'w heiddo.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas o'r farn y dylai'r gwydr tywyll gael ei gadw yn ffenestri'r datblygiad ac felly ni fyddai unrhyw angen i godi uchder y wal yng nghefn y safle.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin ei fod wedi gofyn yn ystod yr ymweliad safle ynglyn ag unrhyw sylwadau oedd gan yr Adain Amgylchedd Adeiledig, oherwydd bod y wal mewn Ardal Gadwraeth.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y Swyddog Cadwraeth yn y Cyngor Sir wedi lleisio pryderon ynglyn â'r cynnig i godi uchder y wal, a hynny oherwydd agweddau hanesyddol a phensaerniol.  Roedd hefyd wedi dweud bod ganddo bryderon ynglyn â strwythur y wal, a hefyd gallu'r wal i gymryd ei chodi 300mm yn ychwanegol.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod am gynnig y dylid dileu'r amodau ond peidio gorfodi codi uchder y wal yng nghefn y safle.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymelliad o ganiatáu, gyda'r amodau oedd yn yr adroddiad ac i beidio a gorfodi i uchder y wal gael ei codi yng nghefn y safle.

 

 

 

 

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

Nid oedd unrhyw gais economaidd wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

8

CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

 

 

Nid oedd unrhyw gais am dai fforddiadwy wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

 

 

Nid oedd unrhyw geisiadau’n gwyro wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10

CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

 

 

10.1

32/C/272 - Codi ffens ‘pallisade’ 2.4m o uchder a giatiau, addasu y mynedfa presennol ynghyd a chynnal a chreu sefydliadau caled i gerbydau yn Iard Nwyddau a Storfa Glo, Gorsaf Gaerwen

 

 

 

(Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Selwyn Williams mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn agos i swyddog sy’n gweithio yn Adran Gynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor Sir.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  

 

 

 

Dan y cais hwn bwriedir codi ffens palisâd 2.4 metr o uchder a giatiau ar ffiniau’r safle, gan ledu’r fynedfa i gerbydau o 6.0 metr i 9.0 metr, darparu giatiau dwbl, dymchwel yr adeilad gwael sydd ar y safle, ynghyd â thwtio a chreu mannau caled i gerbydau.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bydd y cynllun dan sylw yn gwella gwedd y safle gan ei fod ar hyn o bryd yn fler a bydd yn creu mwy o ddiogelwch yng nghyswllt y trac rheilffordd gerllaw.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

10.2

41/C/45E - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd, addasu y mynedfa presennol ynghyd a gosod sustem trin carthffosiaeth preifat ar dir yn Dalar Deg, Penmynydd

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd bod yr ymgeisydd yn gweithio i’r Cyngor ac mae’n ymwneud yn anuniongyrchol gyda’r proses gwneud cais.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mae cais amlinellol yw hwn i godi annedd gydag edrychiad yr annedd a thirlunio’r safle yn cael ei gadw’n ôl i’w cymeradwyo yn y dyfodol.  Mae’r safle’r cais ymysg clwstwr o anheddau ym mhentref Penmynydd.  Mae’n ffurfio rhan o gae mwy o siâp triongl sydd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd ac sy’n ffryntio’r B5420.  Gwelir y safle wrth groeslon y B5420 gyda lôn fechan sy’n arwain i Rhoscefnhir.  Bydd y fynedfa i gerbydau oddi ar y ffordd fechan hon.

 

 

 

Mae Polisi 50 y Cynllun Lleol yn nodi mai Anheddiad Rhestredig yw Penmynydd.  Mae’r polisi yn caniatáu datblygu anheddau unigol o fewn neu ar ffin yr anheddiad cyn belled ag y bo’r meini prawf rhestredig wedi eu bodloni a hynny’n cynnwys bod y cynnig yn amlwg o fewn, neu’n ffurfio estyniad bychan rhesymol i’r rhan ddatblygedig o’r anheddiad ac na fyddai yn cyfateb i ymwthiad annymunol i mewn i’r tirlun nac yn niweidio cymeriad a mwynderau’r ardal.  Gellir mynd i mewn i safle’r cais rhwng dau dy sydd yno ar hyn o bryd ac mae wedi ei leoli o fewn cwrtil tir llwyd yr unedau presennol.  Mae’r safle yn ffurfio lle caeedig naturiol ac mae o fewn clwstwr o anheddau yn y rhan hwn o’r pentref.  Ni fyddai’r cynnig yn cyfateb i ymwthiad annymunol ond byddai’n mewnlenwi ardal gaeedig naturiol o fewn yr anheddiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

Cafodd y ddau gais eu hystyried gyda'i gilydd.

 

 

 

11.1

14/C/28V - Diwygio amod (27) ar ganiatâd cynllunio rhif 14C28U/ECON i ganiatau newidiadau i’r cynllun safle yn Plot 8, Parc Diwydiannol Mona, Mona

 

 

 

11.2

14/C/28W - Codi modurdy/gweithdy ffrâm dur ynghyd a chynllun diwygiedig ar gyfer drychiad blaen i’r adeilad trosglwyddo yn Plot 8, Parc Diwydiannol Mona, Mona

 

 

 

Cyflwynwyd y ceisiadau i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arnynt oherwydd bod y cais yn cael ei wneud ar dir y Cyngor Sir.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais a gyflwynwyd ar y cychwyn o dan rif 14C28U/ECON yn un i newid defnydd rhan o blot 8 yn Parc Diwydiannol Mona i ganolfan ailgylchu gwastraff gyda depo hurio sgipiau yn gysylltiedig.  Roedd y cynnig yn golygu adeiladu adeilad trosglwyddo wedi’i adeiladu i’r pwrpas a portacabins i’w ddefnyddio fel swyddfeydd.  Mae’r cynnig presennol yn gwneud newidiadau bychan i leoliad a gosodiad y cyfleusterau yn dilyn gwaith ymchwilio manwl i’r safle a gwaith clandro’r traeniau er mwyn cael dyluniad terfynol sy’n gwneud gwell defnydd o’r safle.  Mae’r cynnig yn golygu dod â gwastraff rheoledig i mewn i’r safle (yn fwyaf gwastraff ty, masnachol ac amaethyddol) i’w sortio a’i storio gan ddefnyddio peiriannau symudol a rhai parhaol.

 

 

 

Mae’r cynnigion yn cytuno gyda pholisïau cynllun strwythur a pholisi lleol sydd yn cynnwys y rhain yng Nghynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd.  Ymhellach, fe ddangoswyd hefyd bod y cais yn bodloni gofynion Cyfarwyddyd Rhanbarthol a Chenedlaethol ar faterion o’r fath.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r ddwy gais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.3     16/C/179 - Cais i newid defnydd adeilad allanol i fod yn annedd, creu estyniad i’r cwrtil ynghyd a gosod tanc septig a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Llain Feurig, Bryngwran

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mrs. Mairwen Hughes, Swyddog Pwyllgor mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mae cais cynllunio llawn i droi adeilad allanol yn annedd sydd yma.  Fel rhan o’r cynllun bwriedir darparu estyniad i ystafell ymolchi a honno’n mesur rhyw 2.9m x 2.45m.  O fwrw golwg dros yr adeilad nid yw’n ymddangos yn gadarn yn strwythurol a hynny oherwydd bod y waliau yn bochio a rhai rhannau o’r waliau wedi dymchwel.  Fel rhan o’r cais cyflwynwyd Adroddiad Strwythurol a dywed hwnnw bod angen gwneud gwaith adeiladu o’r newydd sylweddol.

 

      

 

     Nid yw’r cynnig hwn yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn a buasai’n rhaid gwneud gwaith ailadeiladu sylweddol - gwaith yn cyfateb i godi annedd newydd yn y cefn gwlad ac mae hynny’n groes i’r polisïau lleol a’r rhai cenedlaethol.  Buasai newid y defnydd o’r tir i ddarparu mynedfa i’r safle a hefyd y libart fawr o gwmpas yr annedd arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y tirwedd o gwmpas ac o’r herwydd yn groes i Bolisïau 1, 31 a 55 Cynllun Lleol Ynys Môn i Bolisïau GP1, EN1 a HP8 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac yn groes i Bolisi D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a’r Cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru ac yn groes hefyd i’r Datganiad Polisi Cynllunio Dros Dro gan y Gweinidog 01/2006 - Tai.

 

      

 

     Adroddodd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd Bob Parry OBE,  bod y cais wedi cael ei gyflwyno gan gwpl lleol fydd yn priodi fis nesaf.  Dywedodd bod yr ymgeiswyr wedi comisiynu adroddiad strwythurol eu hunain ar yr adeilad sy'n dweud: "...... having carried out an assessment on the outbuilding and subsequent preparation of the report, I am of the opinion that the outbuilding is capable of being converted into habitual accommodation, although it will need some rebuilding of certain walls as shown on the drawings."  Dywedodd y Cynghorydd Parry bod yr Adran yn anfodlon gyda'r adroddiad a'u bod wedi ymgynghori gydag Adain Rheoliadau Adeiladu'r Cyngor Sir;  roedd yr Adain Rheoliadau Adeiladu wedi nodi bod yr adeilad yn un posibl ar gyfer ei adnewyddu.

 

      

 

     Yn ôl yr Aelod Lleol y Cynghorydd Bob Parry OBE, roedd llythyr wedi ei gyflwyno gan yr Asiantiaid oedd yn dweud: "....... as stated this shows that even if a request for additional work by the building department is accepted only 26% of the original structure of the building will have to be re-built, in effect leaving 74% of the original structure.  This level of rebuilding is clearly entirely acceptable and still would constitute a conversion as defined by Policy 55 of the YMLP."  Nododd ymhellach bod yr Adroddiad Strwythurol a hefyd Adain Rheoliadau Adeiladu'r Cyngor Sir wedi dweud ei bod yn bosibl newid defnydd yr adeiladau allanol i greu annedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod braidd yn ddig bod yr adroddiad yn dweud y byddai'n cael effaith ar y cefn gwlad; roedd adeilad eisoes ar y tir ac os byddai'n cael ei adael yno i waethygu, byddai'n edrych yn fler iawn.  Cyfeiriodd at ran o'r adroddiad oedd yn dweud y byddai pethau megis dodrefn gardd a strwythurau, lein ddillad a nodweddion domestig eraill yn creu ymwthiad annerbyniol i mewn i'r tirlun ac yn niweidio mwynderau'r ardal; defnydd presennol yr adeilad allanol yw lle i gadw gwair a deunyddiau eraill ar gyfer ffermio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ei fod yn pasio'r safle yn rheolaidd a bod yr adeilad yn dod yn fwy diaddurn.  Dywedodd y byddai'n well o lawer ganddo weld annedd ar y safle ac yn dilyn adroddiad yr Aelod Lleol ar yr adroddiad strwythurol, roedd yn ystyried y dylid caniatáu'r cais.  Cytuno wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas gyda'r hyn yr oedd y Cynghorydd O. Glyn Jones wedi ei ddweud gan nodi ei fod yn cefnogi'r cais ac y byddai'n rhoi cyfle i gwpl ifanc lleol adeiladu cartref.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd J. P. Williams at y ffaith bod aelodau wedi bod mewn cyfarfod o Grwp Ffocws yn ddiweddar ac mai un o'r pethau oedd yn cael ei drafod oedd tai fforddiadwy ac roedd yna gytundeb ar draws yr holl grwpiau bod tai fforddiadwy yn flaenoriaeth.  Dyma esiampl o sut y gall cwpl ifanc cael ty fforddiadwy.  Dywedodd y dylid cefnogi teuluoedd ifanc oedd yn barod i ymgymryd â phrosiect o'r fath.

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd B. Durkin ei bod yn bwysig gwneud y gwahaniaeth rhwng adeiladu tai newydd yn y cefn gwlad a newid defnydd adeilad sydd yno'n barod.  Yn yr achos arbennig hwn, roedd yn cefnogi'r cais yn llawn.

 

      

 

     Fe ddylai'r Pwyllgor ymweld â'r safle meddai Rheolwr Rheoli Cynllunio, fel y gallant weld y safle gan ei bod yn anodd dod i benderfyniad cyn i'r aelodau weld yr adeilad.  Fel Swyddogion Cynllunio, roeddent o'r farn bod hyn yn cyfateb i gael annedd newydd yn y cefn gwlad, felly priodol fyddai ymweld â'r safle a gweld yr adeilad.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y swyddog felly yn awgrymu y dylai'r Pwyllgor ymweld â'r safle a nododd nad ydyw'r aelodau yn bobl broffesiynol, a bod cwmni wedi gwneud adroddiad strwythurol ac y dylai'r Pwyllgor dderbyn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd felly y dylai'r cais gael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Hefin W. Thomas.

 

 

 

 

 

 

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Y rhesymau i ganiatau’r cais oedd :-

 

      

 

     Roedd yn bosibl addasu'r adeilad a hynny'n seiliedig ar yr Arolwg Strwythurol ac ar Reoliadau Adeiladu'r Cyngor Sir.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio'n awtomatig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar rhesymau dros paratoi'r cais.

 

      

 

11.4     19/C/437L/TR - Cais cynllunio i newid amod (03) ar ganiatad cynllunio 19C437B/TR i adael y ty bwyta agor 6yb tan hanner nos dydd Sul i ddydd Iau a 6yb - 2yb dydd Gwener a Sadwrn yn Bwyty McDonalds, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd W.J. Chorlton.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mae bwriad y cynnig yw ymestyn oriau agor siop rydau parod a’i hagor o 6.00 am hyd at 12.00 pm ddydd Sul hyd at ddydd Iau ac o 6.00 am hyd at 2.00 a.m. bob dydd Gwener a phob dydd Sadwrn.  Ar hyn o bryd mae’r siop ar agor o 7.00 am hyd at hanner nos bob dydd o’r wythnos.

 

      

 

     Mae’r safle mewn ardal lle mae cymysgedd o adeiladau masnachol a phreswyl ac yn union ger cefnffordd yr A55 sy’n rhedeg i Borthladd Caergybi a thraffig cyson yn mynd heibio i safle’r cais.  Mae’r Adran Iechyd yr Amgylchedd yn dweud na chafwyd cwynion ynghylch unrhyw haeriad o styrbans swn.  Ar ôl rhoddi cyhoeddusrwydd i’r cais mynegwyd pryderon gan gymdogion ynghylch rhagor o styrbans swn os ydi’r oriau agor yn mynd i gael eu hymestyn.  Mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd yn cymryd camau i rwystro styrbans i gymdogion.  Credir bod raid cynnwys amod yn cyfyngu ar ddefnyddio’r sefydliad - ei gyfyngu i gwsmeriaid sy’n gyrru trwodd yn unig am gyfnod i gwsmeriaid sy'n gyrru trwodd yn unig a bod caniatâd yn cael ei roi am gyfnod o dreial o 12 mis.

 

      

 

     Hefyd mae’r ymgeisydd wedi dweud ei fod yn fodlon derbyn caniatâd dros dro i weld a fydd ymestyn yr oriau agor yn cael effaith ar bleserau cymdogion.  Wrth roddi caniatâd dros dro mae hynny’n rhoi’r cyfle i’r Adran sefydlu a ydyw’r cymdogion wedi dioddef ai peidio oherwydd ymestyn oriau agor y siop a gellid ail asesu’r sefyllfa cyn pen 12 mis.

 

      

 

     Nododd yr Aelod Lleol nad oedd yn gallu cefnogi'r cais hwn, er fod yna nifer o fusnesau ger y lleoliad hwn; doedd yr un ohonynt yn agored mor hwyr â'r busnes arbennig hwn.  Nododd y bydd problemau'n deillio yn sgil y bwriad i newid yr oriau agor a chau, gyda phobl yn dod i mewn ac allan o'r lle bwyd cyflym yn eu ceir.  Nododd y Cynghorydd Chorlton y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i reoli unrhyw styrbans am flwyddyn ond unwaith y rhoddir caniatâd parhaol, fe fydd y problemau'n dechrau.  Dywedodd bod angen gwybod os bydd camerâu'n cael eu gosod yn y lleoliad er mwyn plismona'r safle?  Dywedodd ei fod wedi ymweld â'r holl eiddo ger y lleoliad hwn a'u bod i gyd yn erbyn y bwriad i ymestyn oriau agor a chau McDonalds.

 

      

 

     Gofyn cwestiwn wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones sef i ble y byddai'r cwsmeriaid yn mynd i fwyta'r bwyd ar ôl iddynt ddreifio trwodd; roedd yn ymddangos y byddant yn hel ger y tai yn yr ardal.  Roedd am gefnogi'r Aelod Lleol y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn anhapus gydag ymestyn yr oriau gan ei bod yn ymddangos bod yna wrthwynebiad cryf yn lleol i'r cynnig.  Byddai'n creu anghyfleuster o safbwynt swn gyda phobl yn gadael y safle.

 

      

 

     Mae pobl ifanc eisoes yn casglu yn y lleoliad hwn meddai'r Cynghorydd J. Arwel Roberts ac nid oedd yn deall paham nad oedd unrhyw gwyn swyddogol wedi ei chofnodi ynglyn â'r safle hwn.  Nododd bod angen i'r trigolion lleol gael eu diogelu rhag yr anghyfleuster allai godi o ymestyn oriau'r bwyty ac roedd yn cefnogi'r cynnig y dylai'r cais gael ei wrthod.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Y rhesymau tros wrthod y cais oedd :-

 

      

 

     Yr effaith ar fwynderau cyhoeddus (swn, goleuadau).

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatau’r cais.

 

      

 

11.5     34/C/179H - Cynlluniau diwygiedig manwl ar gyfer codi un annedd wedi ei ganiatau yn flaenorol o dan ganiatad cynllunio 34C179F/DA ar dir ger Tyn y Gamfa, Ponc y Fron, Llangefni

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J.P. Williams mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yn seiliedig ar gyd-destun y safle a’r hanes.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio - dan y cais hwn cyflwynir cynlluniau manwl diwygiedig i godi annedd y rhoddwyd caniatâd iddo o’r blaen dan ganiatâd cynllunio rhif 34C179F/DA.  Dechreuwyd ar y gwaith ar y safle yng nghyswllt y caniatâd blaenorol.  Ond mae gwahaniaethau rhwng yr hyn a adeiladwyd a’r cynlluniau a ganiatawyd.  Gwrthodwyd cais cynllunio rhif 34C179G yng nghyswllt dyluniad diwygiedig y mis Tachwedd 2008 oherwydd bod y newidiadau yn mynd i niweidio pleserau tai gerllaw.  Mae'r cais yn ceisio diwygio'r cynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo; mae'r newidiadau yn cynnwys llofft ychwanegol i ymwelwyr, a hynny'n golygu mwy o le yn y to yn y dedrychiad de ddwyrain.

 

      

 

     Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos bod lefel llawr y prif adeilad a’r ‘study’ wedi’u darparu ar lefel is na’r annedd y rhodwyd caniatâd iddi o’r blaen.  Mae cynllun ar y caniatâd a roddwyd yn dangos lefelau yng nghyswllt tai gerllaw yn dangos lefel llawr y garej ac felly lefel llawr y prif adeilad yn wastad gyda’r briffordd ym Mhonc y Fron.  Bellach mae lefelau lloriau’r garej a’r annedd arfaethedig tua 600mm yn is na’r briffordd, ac mae’r gwaith tyllu i ostwng lefelau’r lloriau yn amlwg i’w gweld.  Nid yw lefelau is y lloriau na lefel is y grib yn ychwanegu at lefelau edrych drosodd h.y. y tu draw i beth a ganiatawyd o’r blaen ac maent yn dderbyniol a hefyd mae’r newidiadau yn lleihau graddfa a maint yr adeilad.  Oherwydd y lefelau is yn y llawr, fe geir yn dilyn hynny leihad yn uchder y grib.  Ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn dderbyniol o ran yr effaith ar fwynderau'r eiddo cyfagos ac nad yw yn cael mwy o effaith na'r annedd a ganiatawyd cyn hyn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. O. Parry MBE ei fod yn cynrychioli'r Aelod Lleol gan ei bod yn datgan diddordeb yn yr eitem.  Nododd mai'r arfer oedd y byddai Cynghorydd yn y Ward agosaf yn cynrychioli'r Aelod Lleol ond roedd pob un o aelodau Llangefni yn datgan diddordeb.  Darllenodd y Cynghorydd Parry lythyr gan yr Aelod Lleol oedd yn dweud: “ this is an application to amend plans on a three bedroomed dwelling in April 2007.  Work was undertaken to carry out works not given planning approval which required intervention by Enforcement Officers.  This amended application is a development from that action.  The original approval did present the adjacent property with problems and particularly the owner of Dolgynfynydd.  The building is an intrusion on the skyline and it’s massing interferes with the amenity and privacy of that home.  I doubt if the Planning Committee would approve the dwelling and extension if this was part of the original application.  The observations cover these issues; height of the building and massing.  There is a suggestion that on site works have effectively lowered aspects of the building.  I find it odd that amongst all the measurements included by the applicant to justify the rebuttal of complaints about the building, there is a statement ‘in all probability’ , however the base of the stack is lower than indicated on permission in 2007.  Bearing in mind the extension excavations carried out all over the site during construction process, that is an indication how much work has taken place after the original plan and between this situation here.  If the floor levels have been lowered, why was this not brought to the attention the Committee in 2008 when the application was refused. If it was considered to be such a significant modification now why was it not mentioned in 2008 when amended plan 2 was submitted .  How can a reduction of ridge of 15 inch be sufficient to change the recommendation of refusal in 2008 to an approval now, little has changed in the plan.  The lowering of the ridge height of 15 inches., will not make a significant difference to the appearance or the overlooking factor affecting Dolgynfydd.  The scale and massing is a problem, the report states, the resulting of lowering of the floor and ridge levels reduce the scale and massing of the dwelling, how can this be?  The height and the size of the house has not changed, it is only lower in the ground.  In reality the scale and massing has increased when compared with the improved plan of 2007, significant additions that have been made of additional bedroom, the larger protruding hibed roof; this will have a greater impact on the amenities than previously improved and the increase in floor dimensions of study and lowered floor level.  The Officer has indicated that there is a problem with regard to distance of the development from the adjacent property.  The erection of a 2.4m fence will not reduce the effect of overlooking, it will only obliterate two small windows; the conservatory will still be overlooked by a large lounge window, two bedroom windows, and a very large glassed window.  Considering elevation of the proposed house above Dolgynfydd this will constitute to a major invasion of privacy.  In terms of breaches of planning the dwelling has not been built accordingly to the approved plans, but now the applicants have followed the amended plans now being considered by the Committee. In addition the applicants have been pushing the boundaries to achieve a large size house, I do not accept these as acceptable practices and the owner of Dolgynfydd is asking, should you deem it necessary to approve the application, that you allow trees to be planted on the side of Dolgynfydd.”       

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd E. G. Davies os byddai ymweliad safle o fudd i'r Pwyllgor.  Fodd bynnag, pwysleisiodd bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle ddwywaith, nid yw'r cais yn un sy'n berffaith hawdd a rhaid i'r Pwyllgor wneud penderfyniad iawn.

 

      

 

     Nodi wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones bod yr ymgeiswyr yn mynd i ostwng uchder y to o ryw ddwy droedfedd, ac mae'n ymddangos mai dim ond un eiddo sy'n cwyno am y datblygiad er ei fod bron iawn a bod yn pellter sydd ei angen oddi wrth y datblygiad ac mae yna estyniad iddo yn y cefn.  Nododd hefyd bod amod wedi ei osod ar y cynlluniau diwygiedig y bydd gwaith sgrinio'n cael ei wneud rhwng y ddau eiddo.  Roedd y Cynghorydd Jones yn argymell fod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd E. G. Davies yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

11.6     37/C/168 - Addasu ac ehangu yn 1 Bythynnod Groeslon, Brynsiencyn

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan mae’r Cyngor sydd berchen yr eiddo.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio - dan y cynllun bwriedir codi ystafell ymolchi, to crib unllawr er mwyn darparu cyfleusterau i unigolyn methedig.  Mae’r ystafell ymolchi ar ochr dde’r annedd ac ni cheid effaith ar weddill y tai yn y teras.

 

 

 

Mae digon o le ar y safle i’r cynnig hwn heb greu yr argraff bod pethau wedi gwasgu neu greu’r argraff o orddatblygu ar y safle gan niweidio cymeriad y lleoliad neu bleserau pobl y tai gerllaw.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

11.7     40/LPA/539D/CC - Gosod dwy gerflyn efydd ynghyd a thirlunio a manau eistedd ychwanegol yn Gwylfan Moelfre, Moelfre

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan mae’r Cyngor Sir sydd yn gwneud y cais.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig yn golygu codi dau gerflun efydd ynghyd â thirlunio a gosod seddi ychwanegol yng ngardd y Wylfan, Moelfre ger llwybr yr arfordir.  Bydd y paneli cerffunwaith efydd arfaethedig yn dangos golygfeydd o drasiedi’r Royal Charter yn 1859.   Mae safle’r cais o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).  Y mae’n ddynodiad statudol sy’n cydnabod ei bwysigrwydd o ran ansawdd y tirlun o ran termau cadwraeth natur.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

 

 

11.8     46/C/160H - Cais i godi tri hafotai yn Y Ddraenan Ddu, Penrhosfeilw, Bae Trearddur

 

      

 

     Dywedwyd bod y cais hwn wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

11.9     46/C/160J - Addasu ac ehangu’r annedd a’r adeilad gwely a brecwast, creu cwrtil preswyl, codi storfa hefo dwy uned gwyliau uwchben, gosod system trin carthion ynghyd a chreu trac mynedfa yn Y Ddraenan Ddu, Penrhosfeilw, Bae Trearddur

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais wedi ei dynnu'n ôl yn rhannol.  Yn wreiddiol roedd y cais yn cynnwys adeilad storio ynghyd â dwy uned gwyliau hunangynhaliol uwchben.  Mae'r rhain wedi eu tynnu allan o'r cais.  Mae'r cais yn awr yn un i ymestyn y cwrtil, gosod tanc septig, ymestyn yr ystafell fwyta a'r llofft.  Mae'r argymhelliad wedi newid i un o ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, gyda'r amodau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11.10     49/C/132B - Cais llawn ar gyfer codi 8 annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa presennol i gerbydau ar dir yn Stryd y Cae, Valley

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd G.O. Parry MBE.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mae cais llawn i godi 8 annedd i’w hwn ynghyd â darparu mynedfa newydd i Stryd y Cae.  Bydd 7 o’r anheddau yn unedau teras deulawr yn wynebu Stryd y Cae ac un ohonynt yn annedd deulawr ar wahân yng nghefn y safle ac un bloc dwy garej tu mewn i’r safle.  Hefyd y tu mewn i’r safle darperir llecynnau parcio i 14 o gerbydau.

 

 

 

     Bydd y teras o 7 uned yn wynebu y tai yr ochr draw i safle’r cais.  Mae pellter oddeutu 11 metr rhwng ffrynt y tai presennol a ffrynt yr unedau arfaethedig.  Er nad yw hyn yn cydymffurfio’n llawn gyda gofynion y Canllawiau Cynllunio Atodol - Canllawiau Dylunio i’r Amgylchedd Trefol a Gwledig (Pellter rhwng Datblygiadau) sy’n dweud bod rhaid darparu 17 metr rhwng tai ond ni chredir y buasai’r cynnig hwn yn cael effaith ar bleserau y cymdogion i’r fath raddau fel bod modd cyfiawnhau gwrthod y cais - a hynny gan fod yr olygfa yma dros briffordd gyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson.  

 

      

 

     Nodwyd bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn i’r ymgeisydd gyfrannu £5,000 tuag at welliannau i’r cyfleusterau croesi i gerddwyr ar yr A5.  Mae’r ymgeisydd wedi dweud na fyddant yn cydymffurfio gyda’r gofynion am nad yw’r rheini yn deg nac yn angenrheidiol.  Ni chyflwynwyd gyda chais yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw dystiolaeth y buasai’r cynnig gerbron yn creu peryglon i ddefnyddwyr presennol y briffordd.  Hefyd mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi mynegi pryderon am nad yw’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol - Safonau Parcio; a hynny am fod y cynnig yn darparu 14 o lecynnau parcio yn unig a dwy garej (ac nid yw’r rheini yn cynnig fel llecynnau parcio).  Yn ôl y Safonau Parcio fe ddylai’r datblygiad ddarparu 18 o lecynnau parcio ac o’r herwydd mae hynny’n 4 yn llai na’r gofynion.  Ond nid yw bod 4 yn llai na’r gofynion yn ddigon i gyfiawnhad i wrthod y cais, gan fod y safle yn agos iawn i rwydwaith cludiant cyhoeddus.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais ond roedd am dynnu sylw at gais yr Awdurdod Priffyrdd am gyfraniad o £5,000 am welliannau i'r lle i gerddwyr groesi; roedd yn ystyried fod hyn yn afresymol gan na fydd y tai hyn ar yr A5 sy'n mynd trwy'r pentref.  Pwysleisiodd ymhellach pebai'r cais yn cael ei ganiatáu yna byddai'n rhaid monitro'r cwlfert trwy Stryd y Cae yn ofalus iawn.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd T. H. Jones o'r farn y byddai cyfraniad o £5,000 tuag at wneud gwelliannau i'r lle croesi i gerddwyr yn fantais cynllunio ac roedd yn ystyried nad oedd y swm yn ddigon oherwydd bod y cais yn un am 8 annedd.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod yr ymgeisydd eisoes wedi dweud na fydd yn barod i gyfrannu £5,000 tuag at welliannau i'r lle croesi gan nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei chyflwyno gan yr Awdurdod Priffyrdd yn dweud y byddai'r cynnig yn achosi perygl i ddefnyddwyr yr A5.  Rhaid i ddatblygiad fod yn cael effaith er mwyn gofyn am ganiatâd tuag at welliannau mewn unrhyw ardal; rhaid dangos pwrpas clir tros unrhyw gyfraniad mewn unrhyw gais.  Nododd y Cynghorydd T. H. Jones y bydd y datblygiad arfaethedig yn cynyddu'r defnydd a wneir o'r briffordd gan rai fydd yn byw yn y tai hyn.

 

      

 

     Dweud wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton nad oedd yr Awdurdod hwn wedi cymryd mantais o fantais cynllunio; roedd awdurdodau eraill fel petaent yn manteisio ar bob mantais cynllunio pan gaiff datblygiad ei ganiatáu e.e. Tesco ym Mhorthmadog oedd wedi cyfrannu tuag at ysgol yn yr ardal.  Nododd bod yna gyfle yma i wella cyfleusterau lleol ac fe ddylai'r awdurdod fynd ar ôl hyn.

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd H. W. Thomas nad oedd £5,000 yn afresymol a nododd y dylid gofyn am gyfraniad gan ddatblygwyr i gyfrannu tuag at gyfleusterau cymunedol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. P. Williams wedi ymweld â Chanolfan Hunan Adeiladu yn Swindon ddwy flynedd yn ôl gan nodi bod Swindon yn gofyn am gyfraniad o hyd at £14,000 yr annedd fel mantais cynllunio. Roedd yn ystyried nad oedd £5,000 felly yn yr achos hwn yn afresymol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd B. Durkin at y prif ystyriaethau cynllunio yn y cais gan awgrymu bod yna angen i lynu'n gaeth at effeithiau diogelwch y priffyrdd a newid mewn mwynderau ac agosrwydd unrhyw gynnig i dai cymdogion eraill.  

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol bod datblygiad gyferbyn â'r safle hwn wedi ei ganiatáu'n ddiweddar; roedd Cyngor Cymuned y Fali wedi mynegi ei bryderon ynglyn â materion parcio ar y pryd.  Os oedd y Pwyllgor Cynllunio am fod yn gyson yn ei benderfyniadau, fe ddylai'r cais hwn hefyd gael ei ganiatáu.

 

      

 

     Ystyried y dylid gohirio'r cais gwnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton er mwyn cael trafod y mater o fantais cynllunio ymhellach.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod yn rhaid i'r Pwyllgor, os oedd am fynd ar ôl y mater o fantais cynllunio, roi rhesymau paham yr oedd y swm penodol wedi ei nodi gan y Pwyllgor.  Dywedodd y byddai'r Awdurdod Priffyrdd yn uwchraddio'r lle croesi i gerddwyr a hynny heb ystyried unrhyw gyfraniad gan unrhyw ddatblygiadau eraill yn y pentref.  Roedd y cynllun gwella hwn wedi ei nodi o fewn rhaglen welliannau'r Rhaglen Briffyrdd.  Ailddweud wnaeth y Cynghorydd Chorlton bod awdurdodau eraill i'w gweld yn cael mantais gan ddatblygwyr a bod yr awdurdod hwn i'w weld fel pebai'n colli allan.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais yn cael ei ganiatáu yn amodol ar gael cyfraniad o £5k fel mantais cynllunio, yn cael ei gyfrannu tuag at wneud gwelliannau i'r ffordd yn y parthau oherwydd y defnydd ychwanegol.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

      

 

     Cafwyd cynnig pellach gan y Cynghorydd W. J. Chorlton y dylai'r Swyddog ystyried cyflwyno polisi ynglyn â mantais cynllunio ar gyfer datblygiadau eraill yn y dyfodol ar yr Ynys.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd J. P. Williams.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'r mater yn cael ei ddwyn i sylw'r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) yn y man.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais, yn amodol ar gael cyfraniad o £5k  fel mantais cynllunio yn yr ardal tuag at wneud gwelliannau i'r ffordd.

 

      

 

11.11     49/C/292 - Newid defnydd yr adeiladau allanol i bedwar uned, addasu y mynedfa i gerbydau ynghyd a gosod system trin carthion preifat yn Hen Fali, Fali

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y safle y tu allan i ffiniau datblygu’r Fali, mae union ger yr A5 ar y ffordd allan o’r Fali i gyfeiriad Cob y Fali a Chaergybi.  Y tu cefn i’r safle rhed rheilffordd Caer-Caergybi.  Mae’r safle y tu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a chais sydd yma i droi y ty pen sydd yn y teras a’r adeiladau allanol yn 4 uned breswyl a darparu mannau parcio a throi a libart domestig.

 

      

 

     Mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 yng nghyswllt gwaith addasu ac os ydyw’r maes parcio yn cael ei addasu’n briodol bydd y cynnig hwn yn gwella gwedd y teras yn Hen Fali ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar gymeriad nac ar wedd yr AHNE.

 

      

 

     Nododd y Swyddog bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi awgrymu amodau pellach ynglyn â'r cais hwn; a bod y fynedfa bresennol yn cael ei chau a mynedfa newydd yn cael ei greu.  Nododd ymhellach bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan ddeilydd presennol un annedd ar y safle hwn, yn tynnu sylw at y ffaith bod ganddynt hawl mynediad tros y fynedfa bresennol;  mater preifat yw hwn rhwng y ddau barti.  Mae'n bwysig bod mynedfa newydd yn cael ei chreu oherwydd diogelwch y briffordd.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid rhoddi amod ynghlwm wrth y caniatâd sef y dylai mynedfa newydd gael ei chreu gyda'r fynedfa bresennol yn cael ei chau cyn dechrau'r gwaith datblygu.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais gan y byddai'n gwella'r murddun sydd yno ar hyn o bryd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd H. W. Thomas bod y cais yn cael ei ganiatáu ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopiau o grynodebau o benderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ynghylch :-

 

      

 

     Tir yn Coed Bryn Disgwyl, Gaerwen - gwrthodwyd yr apêl

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd modurdy domestig a rhan o’r cwrtil preswyl ar gyfer rhedeg busnes gwneuthuriad dur, ehangu’r cwrtil, a dileu amod (04) ar ganiatâd cynllunio 34C263C yn Dafarn Newydd, Lon Cae Cwta, Llangefni

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais fod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin, 2009 pan benderfynodd yr Aelodau ganiatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog.    Penderfynodd y Pwyllgor gynnig amod yng nghyswllt oriau’r gwaith, gan gyfyngu’r busnes i gyfnod 7.00 a.m. hyd at 7.00 p.m.  Awgrymwyd y gellid ystyried yr amod safonol a ganlyn fel y gwelliant:-

 

      

 

     “(01) Ni fydd y tir dan sylw yn cael ei ddefnyddio i ddibenion y busnes y rhoddir caniatâd iddo yma ac eithrio rhwng 08:00 - 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 08:00 hyd at 13:00 ar ddydd Sadwrn a dim gwaith o gwbl ar y Suliau nac ar Wyliau’r Banc.”

 

      

 

     Ni chred y Swyddogion y bydd gosod amod ynghlwm wrth y caniatâd yn cael gwared o’r pryderon y dygwyd sylw atynt, sef swn, llwch, arogleuon a diogelwch traffig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd E.G. Davies yn dymuno iddo gael ei nodi nad oedd wedi cymeryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais ar gyfer y cais hwn gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

14.2     46/C/256E - Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir dros dro i lleoli adeilad parod ac adeiladu sgaffoldiau i’w defnyddio fel platfform deifio hyd Medi 30, 2010 ar dir yn gof Du, Penrhosfeilw, Caergybi

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio - yn ei gyfarfod ar 3 Rhagfyr, 2008 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ganiatáu y cais cynllunio am ganiatâd tros dro i godi platfform deifio ynghyd â gwaith cysylltiol ar y penrhyn yn Penrhosfeilw fel y gellid gwneud prosiect deifio. Roedd nifer o amodau ynghlwm wrth y penderfyniad i ganiatâu er mwyn diogelu safleoedd o bwysigrwydd o ran cadwraeth natur a hefyd gyda chytundeb Adran 106 oedd yn gofyn am glirio y safle a thrwsio niwed i strwythur sgaffald oedd yn ffurfio’r platfform deifio os byddai unrhyw niwed yn digwydd iddo, er enghraifft, o ganlyniad i dywydd drwg, ac oedd yn gofyn am i’r safle gael i glirio ar ddiwedd cyfnod y caniatâd tros dro.

 

      

 

     Mae cytundeb drafft wedi ei roi i’r datblygwr; perchennog y safle yw’r trydydd parti fyddai fel perchennog yn gorfod llofnodi’r cytundeb.  Mae llythyrau wedi eu derbyn yn awr gan gyfreithwyr sydd yn gweithredu ar ran perchennog y safle sy’n cadarnhau na fydd y perchennog yn arwyddo’r cytundeb.  Nid ydym yn ystyried bod gosod amodau cynllunio yn briodol ar gyfer cael rheolaeth ddigonol ar y cynllun.   Y mae ar ddeall bod y datblygwyr yn dilyn opsiynau am gynnig yn seiliedig ar y môr er mwyn hwyluso'r safle ddeifio.  Oherwydd nad oes cytundeb dan Adran 106 yma, mae'r argymhelliad ar y cais yn awr yn cael ei newid i un o wrthod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei siom nad oedd y cynllun hwn yn mynd i gael ei barhau oherwydd fe allai'r datblygiad arbennig hwn fod wedi dod â diddordeb hanesyddol i'r Ynys.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen i'r ymgeiswyr gysylltu ag ef oherwydd ei fod ef a'r Cynghorydd E. G. Davies yn Aelodau o Bwyllgor Pysgodfeydd Môr y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru er mwyn cael gwybod os oedd hawliau pysgota yn yr ardal.  Nododd nad oedd unrhyw hawliau pysgota yn bodoli yn y safle arbennig hwn.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd T. H. Jones y dylid derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

      

 

 

 

 

 

 

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD