Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Medi 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Medi, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi, 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning,

J. Arwel Edwards, P.M. Fowlie, Denis Hadley, R.Ll. Hughes,

A. Morris Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis- Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, John Rowlands.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Polisiau Cynllunio (ME)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)
Cynorthwywr Cynllunio (GO)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)
Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Roberts, Keith Thomas.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr Mrs. B. Burns (eitemau 6.1, 6.2 a 7.5), W.J. Chorlton (eitemau 5.1 a 7.6), W.I. Hughes (eitem 4.3),

Goronwy Parry MBE (eitemau 7.18 a 7.19), R.G. Parry OBE (eitemau 4.4. a 4.5), Hefin Thomas (eitem 6.3), W.J. Williams (eitem 4.7).

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wybod i'r rhai oedd yn bresennol bod mam y Cynghorydd R.Ll. Hughes wedi'n gadael yn ddiweddar a mynegwyd cydymdeimlad gyda'r Cynghorydd a'i deulu

 

Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod y Cynghorydd Keith Thomas yn teimlo'n llawer iawn gwell y dyddiau hyn ar ôl ei gyfnod yn yr ysbyty'n ddiweddar.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 28 Gorffennaf 2004.

(Cyfrol y Cyngor 21.09.2004, tudalennau 64 - 79)

 

YN CODI :

 

 

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Peter Rogers wedi datgan diddordeb yn Halen Môr Môn (eitem 4.11 y cofnodion).

 

 

 

Cais Cynllunio 18C154 Cae Ordnans 522, Fferm Gwlgri Rhyd-wyn (eitem 4.4 ar dudalen 4 y cofnodion)

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones nad oedd y cofnod a ganlyn yn adlewyrchu yr hyn a ddywedodd:

 

 

 

"Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones fod yr adeiladau gyferbyn â'r safle y tu mewn i ffiniau arfaethedig y CDU a than Bolisi 50 y Cynllun Lleol roedd y safle ar gyrion y pentref."

 

 

 

Ar gais y Cynghorydd Jones cytunwyd i ddileu'r uchod o'r cofnodion.

 

 

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 18 Awst, 2004.

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

4.1

11C122B/EIA DARPARU GWAITH CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhai materion yn dal i fod heb eu datrys yn y cais hwn ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.2

14C92B TROI SWYDDFEYDD YN SIOP TRIN GWALLT A PHARLWR PRYDFERTHU (SEF DOSBARTH A1) YN YSTAFELLOEDD 1 AC 18 PARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod swyddogion yn dal i fod mewn ymgynghoriad gyda'r ymgeisydd ynghylch y cais ac argymhellodd y dylid gohirio ei ystyried.  

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

 

 

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU 

 

 

 

4.3

14C174B CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r cyfarfod ar 28 Gorffennaf, 2004 pan penderfynwyd ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol gan ei fod ef yn teimlo na ddylid trin y cais fel cais yn tynnu'n groes i'r polisiau.  Teimlai'r Cynghorydd Hughes bod y cais hwn yn cwrdd â meini prawf y polisiau cyfredol.  Bu'r aelodau'n ymweld â safle'r cais ar 18 Awst, 2004.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig a dygodd sylw'r aelodau at bolisiau perthnasol gafodd eu hystyried wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor ac y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  Dywedodd y swyddog y dylai Polisi 51 ddarllen "Polisi 53 (tai yn y cefn gwlad)" ar dudalen 4 adroddiad y swyddog.  Wedyn dygodd y swyddog sylw'r aelodau

 

 

 

 

 

at yr hanes cynllunio o wrthod ar y safle hwn.  Hefyd cafwyd sylwadau cyrff yr ymgynghorwyd â nhw'n statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad ganddynt i'r cynnig.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod i'r safle hwn hanes o wrthod, y gwrthodiad olaf wedi digwydd yn 2003.  Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd yr un pennaf gafodd sylw ac yn y cyswllt hwn credai'r swyddogion fod y safle'n anaddas ac nad oedd yn cydymffurfio gyda'r polisiau.  Yn ogystal credwyd bod y cais yn groes i Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Buasai'r cynnig yn creu nodwedd annymunol yn y tirwedd.

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W.I. Hughes, yr aelod lleol, mai mater o farn yw dehongli a oedd y safle yn y cefn gwlad ai peidio.  Credai ef bod Llynfaes yn glwstwr gwledig a nododd hefyd bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi'n ddiweddar i godi annedd gyda garej ddwbl a lolfa haul ar draws y ffordd i'r cais hwn.  Wedyn aeth y Cynghorydd ymlaen i ddyfynnu o'r CDU yng nghyswllt pryderon am ddyfodol y cymunedau gwledig.  Yma roedd cwpl ifanc yn ymgeisio am ganiatâd ac yn dymuno dychwelyd i'r gymuned ond nid oedd yno eiddo na phlotiau ar werth.  Yn Rhan 1 o Bolisi 2 yr CDU mae darpariaeth yng nghyswllt datblygiadau cynaliadwy.  Credai y buasai pawb ar ei ennill yn sgil gwelliannau arfaethedig i welededd y briffordd ar hyd y darn hwn o'r ffordd gan fod yr ymgeisydd yn bwriadu codi wal gerrig ymhellach yn ôl o'r briffordd i wella'r gwelededd ar ei hyd.   Ni fuasai'r datblygiad hwn yn ymwthio yn annymunol i'r tirwedd gan fod y safle o'r golwg ac eithrio o'r lôn ei hun.

 

 

 

Wedyn aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymlaen i atgoffa'r Pwyllgor bod Polisi 50 yn creu gofynion i ystyried yr effaith ar y tirwedd ac nid oedd y cynnig hwn yn welliant i'r tirwedd hwnnw.  Roedd raid ystyried y cyfan o'r polisi nid rhannau dewisol ohono.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Arthur Jones roedd y cais y tu mewn i Bolisi 50 y Cynllun Lleol (Pentrefi Rhestredig) a bod angen ei ystyried fel estyniad bychan rhesymol na châi effaith andwyol ar gymeriad nac ar bleserau'r cyffiniau.  Dan bolisi HP5 dywedir y bydd anheddau unigol yn cael caniatâd gyda'r amod nad yw'r datblygiad yn niweidio cymeriad y tirwedd o gwmpas.  Peth da fuasai cael teulu lleol yn y lle hwn.  O'r herwydd cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Arthur Jones a theimlai y dylid ystyried pob cais yn ôl ei ragoriaethau ei hun.

 

 

 

Dan Bolisi 50 credai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod cyfle i bobl ifanc fyw yn y cefn gwlad a rhoes ei gefnogaeth i'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes bod angen edrych ar Bolisi 50 yn llawn.  Datblygiad rhubanaidd oedd Llynfaes a buasai ychwanegu ty arall yn anogaeth i ragor o geisiadau'n y dyfodol.  Ar ôl pwyso a mesur ni theimlai'r Cynghorydd Hughes y medrai gefnogi'r cais ac argymhellodd ei wrthod yn unol ag argymhellion y swyddog yn ei adroddiad.  Barnai'r Cynghorydd Hughes bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisiau.  

 

 

 

O 12 pleidlais ac yn groes i argymhellion y swyddog PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

mantais i'r briffordd trwy wella'r gwelededd yn y lle hwn ar y lôn

 

Ÿ

roedd y cais yn cwrdd â meini prawf ym mholisiau HP5 yr CDU ac ym Mholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU 

 

 

 

4.4

16C138A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU OFFER PREIFAT A NEWYDD I DRIN CARTHION AR GAE ORDNANS 6674, BRYNGWRAN

 

 

 

Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno wedi iddo gael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf ac ar ôl i'r aelodau ymweld â'r safle ar 18 Awst 2004.

 

 

 

Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bwriad a'i leoliad fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog ond dygodd sylw aelodau at hanes cynllunio'r lle.  Aeth ymlaen i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf gan ddweud bod llythyr arall wedi'i dderbyn oddi wrth yr ymgeisydd ac roedd hwnnw ar gael yn y cyfarfod.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw'n statudol ond nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.

 

 

 

Cafwyd adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio ar y polisi perthnasol gafodd sylw wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, sef Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Y ffactor fwyaf perthnasol a phwysig a gafodd effaith ar argymhelliad y swyddog oedd bod safle'r cais y tu allan i ffiniau pentref Bryngwran fel y gwelir hynny yn yr CDU a chafwyd cadarnhad hefyd gan yr Arolygydd.  Mae hwn yn fater o bwys mawr.  I'r pentref hwn mae ffiniau diffiniedig a phendant ac argymhellodd ei wrthod.  

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, yr aelod lleol, bod y cais hwn yn debyg i'r cais blaenorol (4.3 y cofnodion hyn).  Roedd rhyw fymryn y tu allan i ffiniau'r pentref a chytunodd yr aelod bod Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn yn berthnasol yng nghyswllt y cais.  Yr wythnos cynt y rhoddwyd sylw i'r cais yn y Cyngor Cymuned ac roedd yr ymgeisydd yn fodlon llofnodi cytundeb dan Adran 106 yn cyfyngu ar unrhyw ddatblygiadau pellach.  Nododd y Cynghorydd Parry bod y tir perthnasol mewn powlen yn y tirwedd ac ni châi effaith andwyol arno.  Roedd y Cynghorydd Parry yn gefnogol i'r cais.

 

 

 

Ar ôl ymweld â'r safle teimlai'r Cynghorydd R.Ll. Hughes nad oedd y cynnig yn dderbyniol ac yn estyniad i'r pentref gan ychwanegu bod y cais yn debyg iawn i'r un cynt.

 

 

 

Anghytuno wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones gyda'r Cynghorydd Hughes gan ddweud mai y nant fechan oedd ffiniau'r pentref ac nad oedd y cais gerbron yr un peth â'r cais flaenorol.  Yn ôl y Cynghorydd Arwel Roberts roedd y pentref, oherwydd ei natur, yn hir iawn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog, sef gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn gyfartal ar 7 yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio'i bleidlais fwrw PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU 

 

 

 

4.5

16C156 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO A DARPARU MYNEDFA I GERBYDAU AR GAE ORDNANS 8370, CAPEL GWYN, BRYNGWRAN

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol ac yn groes i argymhelliad y swyddog penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

darparu ty fforddiadwy i berson lleol oedd yn dymuno dychwelyd i'r gymuned y cafodd ei fagu ynddi

 

Ÿ

buasai'r cynnig hwn yn adfywio'r clwstwr hwn o anheddau

 

Ÿ

teimlai'r aelodau bod y rhwydwaith lleol o ffyrdd yn ddigonol

 

 

 

Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at ymateb y swyddog i'r rhesymau a roddwyd o blaid caniatáu'r cais hwn fel y manylwyd ar y rheini yn yr adroddiad.  Hefyd cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau wedi derbyn copi o lythyr oddi wrth yr ymgeisydd.  Nid oedd Capel Gwyn wedi'i restru fel pentref yn y Cynllun Datblygu Unedol ac ni chafodd y cynnig hwn ei gyflwyno fel cais am annedd fforddiadwy.  Chwaith nid oedd tystiolaeth y buasai'r bwriad yn adfywio'r ardal ac yn amlwg nid oedd y ffyrdd lleol yn cyrraedd y safon. Nid oedd y cais yn un priodol i'w gymeradwyo ac argymhellwyd ei wrthod.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, yr aelod lleol, mai cwpl ifanc oedd yma yn dymuno dychwelyd i fyw i'r gymuned, yn agos i gartref y teulu ac ar dir a roddwyd iddynt.  Cytunodd y Cynghorydd Parry nad oedd modd ystyried Capel Gwyn fel pentref ond fodd bynnag credai fod safle'r cais y tu mewn i glwstwr o anheddau.  Roedd y capel lleol a siop wedi cau, a buasai'r math yma o gais yn hwb i adfywio'r gymuned.  Roedd yma resymau teuluol o blaid rhoddi caniatâd ac nid oedd tir wedi'i glustnodi ar gyfer tai y tu mewn i ffiniau pentref Bryngwran.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones lynu wrth benderfyniad y Pwyllgor a rhoddi caniatâd i'r cais a chafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd Aled Morris Jones ond hefyd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones i roddi amod ynghlwm wrth y caniatâd i sicrhau y bydd yr annedd yn "annedd fforddiadwy".

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y cyfreithiwr y buasai'n amhriodol gwneud yr annedd hon yn un fforddiadwy tra bod y cais yn gofyn am rywbeth arall a phrun bynnag roedd yn groes i bolisiau cydnabyddedig y Cyngor yng nghyswllt darparu anheddau fforddiadwy.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes.

 

      

 

     Roedd y cyfreithiwr yn gobeithio bod yr aelodau yn derbyn mai gwrthod oedd y penderfyniad cywir gan ddilyn arweiniad y swyddog.  Credai y gallai rhoddi caniatâd gyfateb i gamweinyddu ac awgrymodd gofnodi'r bleidlais. Cymharodd y cais hwn gyda'r un a wrthodwyd ger Caergeiliog yn y Pwyllgor diwethaf.  Ran ystyriaethau cynllunio roedd cais Caergeiliog yn fwy derbyniol na'r un hwn ond er hynny cafodd ei wrthod ond roedd y Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo yr un hwn.  

 

      

 

     Gan ddilyn darpariaethau paragraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais ar y cais hwn a dyma'r canlyniad:

 

      

 

     O BLAID CYMERADWYO'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG): Y Cynghorwyr Eufryn Davies, F.M. Fowlie, D. Hadley, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones,

 

     O. Glyn Jones, Thomas Jones, Tecwyn Roberts, D. Lewis Roberts (9).

 

      

 

     GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:  Y Cynghorwyr John Byast, P. Dunning, J. Arwel Edwards, R.Ll. Hughes, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, John Rowlands (7).

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r cais am y rhesymau uchod.

 

      

 

      

 

     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

4.6

19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY TAFARN A CHODI 12 ANNEDD DWY YSTAFELL WELY YR UN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhai materion yn dal i fod heb eu datrys yn y cais hwn ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

4.7

23C223 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA AR GAE ORDNANS 1800 CAE TYN LÔN, TALWRN

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y cais hwn er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeiswyr gyflwyno rhagor o fanylion ynghylch y materion hynny oedd heb eu datrys.  

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd adroddiad ar hanes cynllunio'r safle ac ar y gwaith ymgynghori statudol a wnaed fel y manylwyd ar hwnnw yn adroddiad y swyddog; hefyd nodwyd bod un llythyr o wrthwynebiad wedi'i dderbyn.  Rhestrwyd y polisiau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog yn ei adroddiad gan roddi sylw arbennig i Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn (Pentrefi Rhestredig) a HP4 yn yr CDU (pentrefi).  Dywedodd y swyddog fod y safle arfaethedig mewn llecyn amlwg, ac yn y golwg yn yr Ardal o Dirwedd Arbennig, câi effaith annymunol ar y tirwedd gan greu estyniad annymunol o'r pentref i'r cefn gwlad.  Cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y Swyddog.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd yn ddynes leol oedd yn dymuno priodi ar aros i fyw yn y pentref.  Teimlai'r Cynghorydd fod safle'r cais ar ffiniau'r pentref ac roedd yr ymgeisydd wedi codi sawl pwynt perthnasol yn ei llythyr.  Dygodd y Cynghorydd Williams sylw'r aelodau at adroddiad y swyddog ar yr "Effaith ar Bleserau Preswylio" Tyn Lôn (tudalen 53 yr adroddiad) a Pholisi 50 (Pentrefi Rhestredig) (tudalen 51 yr adroddiad yn cyfeirio at hyn), a chredai mai estyniad bychan oedd hwn - un derbyniol a rhesymol.  Nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu ac ni fuasai'r annedd yn edrych dros eiddo gerllaw.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams i'r aelodau ymweld â'r safle.

 

      

 

     Yn unol â chais yr aelod lleol cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts bod yr aelodau'n ymweld â'r  safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais am y rhesymau a roddwyd gan yr aelod lleol.

 

      

 

 

 

4.8

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

 

 

     34C83C - CODI 21 O ANHEDDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr. JRW Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn dal i fod yn ymgynghori gyda'r asiant yng nghyswllt materion priffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

      

 

4.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     35C207G - EHANGU A NEWID DEFNYDD YR HEN FELIN, EI THROI YN LLETY GWYLIAU YN YR HEN FELIN, LLANGOED

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Robert Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt gwrthodwyd y cais oherwydd safon rhwydwaith y ffyrdd yn lleol a hefyd am nad oedd y lôn fechan yn ddigon mawr i gymryd rhagor o draffig a ddeuai yn sgil darparu

 

      

 

     carthbwll.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y manylion draenio bellach wedi'u derbyn a pheirianwyr draenio'r Cyngor yn credu eu bod yn dderbyniol.  Nid oedd yr Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu.  Cynhaliwyd ymchwiliad i'r penderfyniad blaenorol o wrthod ar 17 Awst.  Ar yr achlysur hwn roedd y swyddog yn argymell rhoddi caniatâd am nad oedd unrhyw reswm dros wrthod.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd John Rowlands, yr aelod lleol, nad oedd rhwydwaith y ffyrdd yn lleol yn cyrraedd y safon a theimlai bod hwnnw'n rheswm digonol i wrthod y cais.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod 99% o'r lôn yn croesi tir preifat a chytunodd hefyd gyda'r aelod lleol yng nghyswllt rhwydwaith y ffyrdd yn lleol.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Swyddog Priffyrdd mai mater preifat oedd cyflwr y lôn ac nid oedd yn berthnasol wrth bennu'r cais hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus ynghylch yr apêl.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones bod y fynedfa sydd yno eisoes yn gwasanaethu'r safle a nododd hefyd na fuasai rhoddi caniatâd yn creu rhagor o draffig yn ôl TAN 18 (Trafnidiaeth).  Ychwanegodd y Cynghorydd Jones nad oedd yn hapus yng nghyswllt y cyfleusterau parcio ar y safle nac ynghylch y materion draenio.

 

      

 

     O 9 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor, sef gwrthod y cais hwn.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd PM Fowlie ar y cais.

 

      

 

     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

4.10

46LPA841/CC/EIA CODI MAST CYFATHREBU NEWYDD A DYMCHWEL YR HEN ADEILAD OFFER A CHODI ADEILAD NEWYDD I'R OFFER A CHAEL GWARED O'R HEN FAST, Y SYLFAEN GONCRID A'R FFENS DDIOGELWCH YN Y FOEL, MYNYDD TWR, CAERGYBI

 

      

 

     Cais gan y Cyngor oedd hwn ac ar dir oedd yn eiddo i'r Cyngor; ymwelodd yr Aelodau â'r safle ar 21 Gorffennaf 2004.

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio ar hanes cynllunio'r safle ac ar y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth i'r swyddog bennu argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Ar y wal yr oedd cynlluniau a dygodd y swyddog sylw'r aelodau atynt.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad ond bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn argymell rhoddi amodau ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd.  Roedd y Cyngor Cymuned yn erbyn.  Cyflwynwyd ffotograffau dychmygol o'r bwriad ac o sylwi ar yr hyn a welwyd roeddent yn dderbyniol.   Hefyd cyflwynwyd asesiad o effaith y datblygiad ar yr amgylchedd a oedd yn profi mai hwn oedd y safle gorau i'r datblygiad.  Derbyniwyd 5 llythyr o wrthwynebiad a chrybwyllwyd y rheini yn adroddiad y swyddog ac roedd y 5 ar y bwrdd yn y cyfarfod.  Roedd rhai materion yn peri pryder, megis effaith y datblygiad ar iechyd ac ar yr olygfa ond credwyd bod y materion hyn yn dderbyniol.

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes ei fod yn bleidiol i'r gwasanaeth Band Llydan gan ychwanegu bod raid codi uchder y mast presennol i bwrpas trosglwyddo neges radio yn effeithiol ac roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda'r canllawiau cyfredol.  

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Peter Dunning roedd yr ardal hon yn atyniad i ymwelwyr a nododd bod y mast arfaethedig yn uwch o lawer na'r hen un.  Roedd y Cynghorydd Hughes yn berffaith gywir yn yr hyn a ddywedodd ac roedd y Cynghorydd Dunning yn hapus ar ôl derbyn gair o gadarnhad fod y canllawiau ICNIRP yn cael eu bodloni.  Ei bryder pennaf ef oedd y gellid gosod system meicrodon rywbryd yn y dyfodol ar y mast a dymunai ef drosglwyddo'r mater yn ôl i'r Pwyllgor hwn cyn symud ymlaen i wneud hynny.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn argymell gwrthod y cais oherwydd ei bryder ynghylch gwneud defnydd meicrodon o'r mast yn y dyfodol ac effaith hynny ar yr ardal o gwmpas - o bosib ar dai.  Hefyd buasai uchder y mast yn ei wneud yn nodwedd amlwg iawn.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r pryderon iechyd cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r Aelodau at adroddiad y swyddog ble dywedwyd bod y bwriad hwn yn cydymffurfio gyda'r canllawiau yn yr ICNIRP, a darllenodd y Swyddog Baragraff 12.13.8 Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) fel yr ymddangosodd hwnnw ar dudalen 64 adroddiad y swyddog.  Cytunai'r swyddog bod yr ardal hon yn ardal sensitif ond dan y cynnig hwn roedd bwriad i ailddatblygu'r hen safle.

 

      

 

     Teimlo roedd y Cynghorydd R.Ll. Hughes fod y manteision yn fwy na'r anfanteision a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i wrthod gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

19C251H - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL ADEILAD A CHODI BLOC SWYDDFEYDD WYTH LLAWR, LLE PARCIO TANDDAEAROL YNGHYD Â CHODI CHWE THY TERAS YN FFORDD KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac mewn ymgynghoriad gyda'r aelod lleol gan ddilyn yr arferion cyfredol a hynny'n absenoldeb y Cadeirydd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebiad i'r bwriad, a bellach roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno asesiad boddhaol yng nghyswllt yr effaith ar draffig.  Yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ar 7 Gorffennaf nodwyd bod swyddogion yn dal i ddisgwyl am wybodaeth gan yr ymgeisydd ac felly yr oedd pethau o hyd.  Er gofyn sawl gwaith roedd yr ymgeisydd wedi methu â darparu ffotograffau pwrpasol yn dangos effaith weledol y bwriad, ac eithrio un ffotograff a oedd yn cael ei ddangos yn y cyfarfod.  Ni fedrai'r swyddogion asesu effaith weledol y bwriad hwn yn llawn ac o'r herwydd teimlent ei bod hi'n rhy gynnar i geisio gwneud argymhelliad.  Gan y swyddogion cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais ond, fel arall, petai'r Pwyllgor yn dymuno gwneud penderfyniad roedd swyddogion yn argymell ei wrthod am na chyflwynwyd digon o wybodaeth.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton, yr aelod lleol, bod hwn yn un o'r ceisiadau cynllunio pwysicaf a gyflwynwyd ers peth amser.  Buasai'r prosiect hwn yn cefnogi ardal helaeth trwy greu gwaith, ac roedd y tir y câi'r datblygiad effaith arno mewn powlen ac yn is na thref Caergybi a'r bont reilffordd.  Mae'r adeilad sydd yno yn rhyw 35 - 40' o uchder.

 

      

 

     Ar ran arall o'r safle yr oedd gwaith nwy y dref gynt ac yno roedd adeiladau hyd at 4 neu 5 llawr o uchder.  Heb fod ymhell mae'r orsaf dân gyda thwr 5 llawr a hefyd mae yno fast, a'r uchder i gyd o gwmpas 60'.  Buasai'r cynnig gerbron yn gweddu i'r ardal.  

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd safle'r cais hwn yn un pwysig iawn ac yn mynd i adfywio'r ardal trwy greu gwaith.  Yma ychwanegodd y Cynghorydd Chorlton nad oedd raid cyflwyno ffotograffau pwrpasol, ac yn enwedig o gofio mai cais amlinellol oedd y cais gerbron.  

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn cytuno ac yn cefnogi'r egwyddor o ddatblygu'r safle, ond oherwydd rhagdybio y buasai uchder y bwriad hwn o gwmpas 33m; roedd hi'n bwysig asesu effaith yr adeilad ar y tirwedd - buasai'r cynnig hwn er enghraifft yn uwch na Chofeb Skinner.  Roedd y Cyngor yn gwneud yn iawn wrth ofyn am wybodaeth ac roedd raid iddo gael gwybodaeth i bwrpas cyfiawnhau datblygiad o'r fath.  Ychwanegodd y buasai'r cais hwn, pe rhoddid iddo ganiatâd, yn sefydlu egwyddor adeilad 8 llawr ar y safle ac am gyfnod hir.

 

      

 

     Yn ôl y swyddog Priffyrdd, gallai trogylch Kingsland dderbyn unrhyw gynnydd yn y traffig a ffactorau eraill, megis cynigion i fabwysiadu Cynllun Teithio yn cynnwys "parcio a theithio i mewn ar y bws" a defnyddio'r rheilffordd a'r bysus.  Nid oedd yr adain Briffyrdd yn gwrthwynebu'r bwriad mewn egwyddor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i roddi caniatâd i'r cais amlinellol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis Roberts.

 

      

 

     Gan ddilyn argymhelliad y swyddog cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes i ohirio ystyried y cais oherwydd pwysigrwydd dilyn y broses briodol er ei fod yn cytuno fod y cais yn un pwysig.  Gan fod y cynnig yn un mor bwysig ac arwyddocaol roedd angen symud ymlaen gyda phwyll.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones bod y safle hwn yn un "llwyd", a buasai'r bwriad yn creu swyddi ac yn dod ag arian i Gaergybi a chan nad oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu nid oedd yr un gwrthwynebiad perthnasol arall i'r bwriad.  Roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai'r cais hwn yn adfywio tref Caergybi.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Denis Hadley'n teimlo bod yr hen adeilad sydd yno yn cael effaith ddrwg ar yr olygfa a bod angen cefnogi prosiect megis y cynnig oedd gerbron.

 

      

 

     O 9 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad i swyddog, sef argymhelliad o ohirio.  Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatáu:

 

      

 

Ÿ

Roedd Caergybi angen y math hwn o ddatblygiad a buasai'n creu gwaith yn yr ardal

 

Ÿ

roedd yn gais economaidd

 

Ÿ

buasai'r bwriad hwn yn gwella gwedd y safle sydd ar hyn o bryd yn ddolur llygad

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, câi'r cais ei ohirio yn otomatig tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

5.2

  23C160D/EIA - YMESTYN CHWAREL CARREG GALCH RHUDDLAN BACH, BRYNTEG

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd ynghlwm wrtho. Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r aelodau gael golwg ar y safle cyn trafodaethau.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

      

 

6.1

18C1G - DYMCHWEL ADFAIL AR Y SAFLE A CHODI ANNEDD NEWYDD YNG NGLAN Y GORS BACH, RHYD-WYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried yn ôl dymuniad yr aelod lleol sy'n cefnogi'r cais.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r bwriad dan sylw.  Eglurodd mai adfail oedd ar y safle a dygodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r lle.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad ac roedd yr aelod lleol yn gefnogol am y rhesymau a restrwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Rhoddwyd caniatâd i altro'r adeilad yn 1984 ond cafwyd hanes o wrthod gan gynnwys gwrthod ar apêl.  Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno llythyr arall a hwnnw gerbron yn y cyfarfod.  Wedyn tynnodd y swyddog sylw'r aelodau at bolisiau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor hwn gan gyfeirio'n arbennig at Bolisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Nid oedd angen amaethyddol am yr annedd ac roedd yr adeilad wedi adfeilio mor llwyr ac yn amlwg heb ei ddefnyddio i fyw ynddo ers blynyddoedd fel bod modd dod i'r casgliad iddo gael ei adael i fynd â'i ben iddo.  Roedd y swyddog yn gryf yn argymell gwrthod y cais.  

 

      

 

     Yn ei hanerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, fod tai yma ac acw yn y cyffiniau a theimlai hi na fuasai'r bwriad hwn yn cael effaith ddrwg ar y tirwedd.   Cytunai bod y safle yn y cefn gwlad ond roedd Polisi 54 yn caniatáu codi anheddau newydd yn lle hen rai a theimlai hi bod cyflwyniad asiant yr ymgeisydd yn briodol a pherthnasol iawn.  Dygodd y Cynghorydd Burns sylw'r aelodau at Bolisi HP9 yn yr CDU sy'n dweud fel a ganlyn "caniateir ty newydd yn lle hen un os yw'r annedd yn cynnwys ôl troed yr adeilad gwreiddiol, yn addas i'r ardal ac yn cynnwys safon dylunio uchel."  Ers yr 1980au bu'r ymgeisydd yn byw mewn carafan ar y safle hwn ac ar ôl i rywun fod yn byw yn y ty tan 1970au fe'i prynwyd gan yr ymgeisydd yn 1986.  Credai'r Cynghorydd Burns bod modd edrych ar y cais fel un economaidd oherwydd bod yr ymgeisydd yn cyflogi o gwmpas 8 o bobl yn lleol yng nghyswllt ei fusnes pysgota.  Fel rhan o'r busnes hwnnw mae'r ymgeisydd yn pysgota am gragenbysg, gan gynnwys cregyn gleision a chimychiaid yn Afon Menai i'w gwerthu'n lleol a hefyd i bwrpas allforio.  Ar hyn o bryd roedd gan yr ymgeisydd drwydded yn dal cwota gyda'r mwyaf am bysgota cregyn gleision yn Ewrop ac mae'n cyfrannu tuag at yr economi leol.  

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd y bwthyn ar y safle bellach yn adfail a ffotograffau ar y ffeil yn dangos nad oedd modd ei ddefnyddio fel annedd yn ei gyflwr presennol.  Rhoddwyd cyngor i'r ymgeisydd gyflwyno cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon petai'n dymuno sefydlu defnydd cyfreithlon i'r bwthyn fel annedd.  Os oedd yr ymgeisydd yn dweud bod angen annedd yn y lle hwn i gynnal ei fusnes pysgota yna roedd raid iddo gyfiawnhau'r gosodiad.  Nid ar y sail honno y cyflwynwyd y cais gerbron.  

 

      

 

     Atgoffodd y Cynghorydd Thomas Jones yr aelodau o strategaeth adfywio economaidd Ynys Môn ac roedd y busnes hwn yn creu gwaith yn lleol ac roedd y Cynghorydd yn bleidiol i'r cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arthur Jones a oedd gan yr ymgeisydd ddefnydd wedi'i sefydlu ar gyfer y garafan breswyl ac roedd ef yn argymell ymweliad.  

 

      

 

     Yma soniodd y swyddog bod yr adfail mewn cyflwr mor druenus fel bod coed a llwyni eraill yn tyfu y tu mewn i weddillion y waliau ac nid oedd to ar yr adeilad.  Yma darllenodd y swyddog y meini prawf priodol y mae'n rhaid eu bodloni wrth ystyried ceisiadau i godi anheddau newydd yn lle hen rai - darn wedi'i godi o Bolisi 54 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes oedd atgoffa'r aelodau bod y cais hwn yn annedd newydd am fod yr hen adeilad wedi'i adael.  Dyletswydd yr ymgeisydd oedd cyflwyno tystiolaeth i sefydlu bod yr annedd yn cael ei defnyddio.  Cafwyd argymhelliad o wrthod gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes am fod y cais y tu allan i ddarpariaethau polisi 54.  

 

      

 

      

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Thomas Jones roddi caniatâd i'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd P.M. Fowlie.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

roedd angen trin y cais fel codi ty newydd am hen dy dan bolisi 54 Cynllun Lleol Ynys Môn

 

Ÿ

nid oedd y bwthyn ar y safle wedi'i adael

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, câi'r cais ei ohirio yn otomatig tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

      

 

6.2

18C154A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER, DARPARU MYNEDFA NEWYDD   A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 522, GWLGRI, RHYD-WYN

 

      

 

     Yr aelod lleol a ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r bwriad.  Aeth y swyddog ymlaen i grybwyll y polisiau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yn ei hanerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns bod angen lleol am dy fforddiadwy.  Roedd y safle ar gyrion y pentref a thai ar draws y ffordd i safle'r cais.  Roedd angen edrych arno fel "safle eithriad" dan bolisi 52 y Cynllun Lleol ac ychwanegodd y Cynghorydd bod angen adfywio cymuned Rhyd-wyn.  Ac aeth ymlaen i ofyn i'r aelodau fod yn gyson a rhoddi sylw ffafriol i'r cais.  

 

      

 

     Yng nghyswllt cysondeb atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r aelodau bod y cais blaenorol wedi'i wrthod ar 27 Gorffennaf 2004 ac yn y cyfamser ni fu unrhyw newid yn yr amgylchiadau gan ychwanegu bod angen i'r safle fod yn nes i'r pentref cyn y gellid edrych arno fel safle eithriad.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod eisoes wedi cefnogi'r cais hwn dan bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  

 

      

 

     Wedyn cytunodd y Cynghorydd Arthur Jones bod angen ystyried y safle "fel un yn y pentref neu ar ei gyrion" ond dan bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn nid oedd ffiniau pendant diffiniedig i Ryd-wyn.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd Rheolwr y Polisiau Cynllunio fod yr CDU, ar ôl cyfnod ymgynghori hir, wedi'i lunio, wedi'i dderbyn gan yr aelodau etholedig a hefyd wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor Sir.  Dan HP4 yr CDU roedd ffiniau diffiniedig i bentref Rhyd-wyn ac nid oedd safle'r cais y tu mewn i'r ffiniau hynny.

 

      

 

     Yma cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes bod y cais yn groes i bolisiau a'r safle yn y wlad agored y tu allan i ffiniau'r pentref ac o'r herwydd gofynnodd am gofnodi'r bleidlais gan gynnig derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Dan baragraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais ar y cais fel a ganlyn:-

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG):

 

     Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, Thomas Jones, D. Lewis Roberts (4)

 

      

 

     GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

     Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, P. Dunning, J. Arwel Edwards, D. Hadley, R.Ll. Hughes, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Tecwyn Roberts (9)

 

      

 

     YMATAL:

 

     Y Cynghorwyr P.M. Fowlie, O. Glyn Jones, John Rowlands (3)

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.3

22C154B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 263, LLANDDONA

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor a thybio bod y cynnig hwn yn cydymffurfio gyda'r polisiau.

 

      

 

     Wedyn gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig a chrynodeb o hanes cynllunio'r safle a oedd yn y cefn gwlad agored ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Ni chyflwynwyd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau angen amaethyddol a dygodd y swyddog sylw'r aelodau at bolisiau perthnasol a ddefnyddiwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, a hynny'n cynnwys TAN 6 (Datblygiad Amaethyddol a Gwledig), dan Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Nodwyd bod yr Adain Briffyrdd yn argymell gwrthod am nad oedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn cyrraedd y safon a chafwyd sylwadau hefyd gan gyrff eraill yr ymgynghorwyd â nhw'n statudol ond nid oeddynt yn gwrthwynebu'r bwriad.  Cafwyd cadarnhad wedyn gan y swyddog bod llythyr o wrthwynebiad wedi'i dderbyn a'r argymhelliad ganddo oedd gwrthod.  

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd wedi byw yn yr ardal hon erioed a'i fod bellach yn dymuno codi ty fforddiadwy ar y tir hwn a roddwyd iddo.  Roedd yr ymgeisydd yn gweithio yn Cig Môn - cwmni sy'n cefnogi'r diwydiant amaethyddol.  Yn groes i adroddiad y swyddog teimlai'r Cynghorydd Thomas bod yma angen amaethyddol am annedd ac roedd y cais, yn ei farn ef, yn syrthio dan bolisi 53.  Mewn ymateb i statws yr ardal hon y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol - roedd caniatâd cynllunio wedi'i roddi'n ddiweddar i godi 6 byngalo gerllaw a 50 apartment gwyliau yn y cyffiniau.  Mewn ymateb i wrthwynebiad yr Adain Briffyrdd dywedodd bod 26 o anheddau ar y ffordd hon at y traeth, a bod o leiaf 100m o welededd o boptu'r fynedfa arfaethedig i'r safle; hyd y gwyddai'r Cynghorydd Thomas nid oedd yr un ddamwain wedi digwydd ar hyd y darn hwn o'r lôn.  Gofynnodd am roddi caniatâd i'r cais.  

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn wedi'i gyflwyno'n seiliedig ar angen amaethyddol na chyda'r bwriad o ddarparu ty fforddiadwy a phrun bynnag roedd angen cyflwyno tystiolaeth i gefnogi anghenion o'r fath.  I bwrpas gweithio yn Llangefni onid oedd yn well i'r unigolyn fyw yn yr ardal honno? Ychwanegodd y swyddog bod y chwe byngalo gerllaw wedi derbyn caniatâd dan yr hen bolisiau.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod y darn hwn o lôn yn anaddas i dderbyn rhagor o ddatblygiadau.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Yn ogystal mynegwyd cefnogaeth gan y Cynghorydd John Rowlands.  

 

      

 

     Nid oedd unrhyw amwysedd dan bolisi 53 meddai'r Cynghorydd R.Ll. Hughes ac nid oedd yr amod priffyrdd yn berthnasol gan fod y cais yn groes i bolisi a gofynnodd am gyfnodi'r bleidlais.

 

      

 

     Dan baragraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais ar y cais fel a ganlyn:-

 

      

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG):

 

     Y Cynghorwyr John Byast, D. Hadley, P.M. Fowlie, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, Thomas Jones, D. Lewis Roberts, J. Arwel Roberts, Tecwyn Roberts, John Rowlans (10)

 

      

 

     GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. Dunning, R.Ll. Hughes, O. Glyn Jones, R.L. Owen (6).

 

      

 

     YMATAL: (0)  

 

      

 

     Y rhain oedd rhesymau'r aelodau dros roddi caniatâd i'r cais:

 

      

 

Ÿ

roedd rhwydwaith ffyrdd lleol yn ddigon da i dderbyn rhagor o anheddau

 

Ÿ

roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi 53 ac yn cwrdd ag angen amaethyddol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, câi'r cais ei ohirio yn otomatig tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

Roedd y Cynghorydd P.M. Fowlie yn dymuno cofnodi nad oedd ganddo fudd cyllidol yn y lladd-dy yn Llangefni.

 

 

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

12C323 - DILEU FFENESTR FAE A GWNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN YN CHAUNTRY HOUSE, BIWMARES

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod gwrthwynebiad wedi'i gyflwyno i'r cais gwreiddiol yn lleol ac mewn ymateb i'r pryderon hyn roedd y cynnig wedi'i ddiwygio a graddfa'r gwaith yn llai.  Roedd  swyddog yn argymell caniatáu'r cais os oedd y gwaith ymgynghori'n cael ei gwblhau'n foddhaol fel y manylwyd ar y materion hynny yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i ganiatáu'r cais hwn, am y rhesymau a roddwyd, i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ond gyda'r amod bod y gwaith ymgynghori yn cael ei wneud a'i gwblhau'n foddhaol a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.2

12C323A/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DDILEU FFENESTR FAE A GWNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN A GWAITH ALTRO MEWNOL A GWAITH AR Y WAL DERFYN YN CHAUNTRY HOUSE, BIWMARES

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD peidio â gwrthwynebu'r cais, ond gydag amodau yn adroddiad y swyddog a nodi y bydd y cyfryw gais yn cael ei yrru at CADW i benderfynu arno.

 

      

 

7.3

13LPA803A/CC - DARPARU YSTAFELL DDOSBARTH SYMUDOL YN YSGOL GYNRADD BODEDERN

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.4

17C126C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR CAERAU, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r cynnig gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio.  Cais amlinellol oedd hwn a'r Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu oherwydd bod y fynedfa yn rhy beryglus.  Hefyd cafwyd sylwadau gan y cyrff statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad ac yn sgil ymgynghori gyda'r cyhoedd cafwyd un llythyr o wrthwynebiad yr adroddwyd arno yn adroddiad y swyddog.  Cyfeiriodd y swyddog at y polisiau perthnasol y rhoddwyd sylw iddynt wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn (Pentrefi Rhestredig).  O safbwynt cynllunio credwyd bod y cynnig hwn yn ymwthio i'r cefn gwlad agored.

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, nad oedd yr un cyfeiriad wedi'i wneud at bolisi HP5 yr CDU (pentrefi a chlystyrau yn y cefn gwlad).  Gan fod annedd yr ochr draw i'r lôn credai'r Cynghorydd Davies bod y cais hwn yn llenwi bwlch ac na fedrai dderbyn adroddiad y swyddog lle dywedwyd bod y bwriad yn ymwthio i'r cefn gwlad.  Roedd modd rhannu Llansadwrn yn ddwy ran, y rhan uchaf a'r rhan isaf a'r safle hwn rhwng y ddwy ran.  Y cae oedd y ffin rhwng y ddwy ran.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod aelodau yn cael golwg ar safle'r cais am y rhesymau yr oedd newydd eu cyflwyno a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

7.5

18C146C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR GAE ORDNANS 9835, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r cynnig dan sylw.  Ond roedd Adran Addysg y Cyngor Sir wedi gofyn am ohirio ystyried y mater.  Crybwyllodd y swyddog y polisiau perthnasol hynny y rhoddwyd sylw iddynt wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig cyfeiriodd at Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn (pentrefi rhestredig).

 

      

 

     Roedd ceisiadau cynt wedi'u gwrthod oherwydd lleoliad annerbyniol y fynedfa i'r safle oherwydd bod datblygiad o'r fath yn mynd i fod yn ddieithr ac yn ymwthgar a hynny'n cael effaith andwyol ar brydferthwch a nodweddion y fro fel y manylwyd ar y cyfryw bethau yn adroddiad y swyddog.  Bellach roedd yr ymgeisydd wedi diwygio'r cynllun a'r swyddogion yn ei weld yn dderbyniol ac yn argymell rhoddi caniatâd gyda'r amod bod rhagor o waith ymgynghori yn cael ei gwblhau.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, bod y cais hwn eisoes wedi'i wrthod dair gwaith.  Gan ddilyn cais y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg gofynnodd y Cynghorydd Burns am ohirio ystyried y cais fel bod pobl yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau.

 

      

 

     Yr hyn a boenai'r Cynghorydd Burns oedd y problemau traffig yn y cyffiniau ar adegau pan oedd disgyblion yn mynd i'r ysgol yn y bore a hefyd yn gadael yn y prynhawn; siom i Mrs. Burns oedd sylwi bod y ffotograffau o blaid y cais wedi'u tynnu ar 10 Awst pan oedd yr ysgol ar gau - dangosai'r ffotograffau hyn bod digon o lecynnau pasio a bod y gwelededd yn ddigonol, hefyd roedd y gwrych wedi'i dorri.  Rhoes y Cynghorydd Burns wahoddiad i swyddog o'r Adran Briffyrdd ynghyd ag Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion weld y sefyllfa yn yr ysgol rhwng 3-3.15 p.m. yn ystod tymor yr ysgol.  Gofynnodd i'r Pwyllgor ohirio'r mater am fis er mwyn ystyried effaith y cynnig ar y priffyrdd.

 

      

 

      

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd Eurfryn Davies fod modd diystyru sylwadau'r Adran Addysg a chynigiodd ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn sylwadau.  Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn credu bod digon o wybodaeth eisoes ar gael i bennu'r cais a chynigiodd y dylid rhoddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd P.M. Fowlie.

 

      

 

     Yn ôl swyddog o'r Adain Briffyrdd roedd y fynedfa arfaethedig bellach wedi'i symud i lecyn gyferbyn â ffordd fynedfa y stad dai, sef union y drws nesaf i'r ysgol.  Nid oeddynt bellach yn gwrthwynebu'r bwriad.  Hefyd roedd y datblygwr wedi cynnig gosod pafin yn ffrynt y datblygiad a hwnnw'n cysylltu gyda'r pafin gyferbyn â'r ysgol a hynny o fudd i bawb.  

 

      

 

     O 9 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7.6

19C837A - TROI ANNEDD YN LLE PARATOI PRYDAU POETH PAROD YN OGWEN HOUSE, TERAS GREENFIELD, CAERGYBI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Chorlton, yr aelod lleol, yn derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.7

19LPA844/CC - DYMCHWEL UNED DDIWYDIANNOL A DARPARU UNED DDIWYDIANNOL NEWYDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU YN UNED HYFFORDDIANT CYBI, STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i sylw'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor a hefyd ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.   

 

      

 

7.8

19C874/AD - CAIS I DDARPARU PANEL GWYBODAETH I'R GYMUNED YN SUMMER HILL, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9

19C875/AD - CAIS I DDARPARU PANEL GWYBODAETH I'R GYMUNED YN FICTORIA SQUARE, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.10 19C876/AD - CAIS I DDARPARU PANEL GWYBODAETH I'R GYMUNED YN FFORDD TYWYSOG CYMRU, CAERGYBI     

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.11

19C877/AD - CAIS I DDARPARU PANEL GWYBODAETH I'R GYMUNED YM MAES PARCIO SGWÂR SWIFT, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.12

19C878/AD - CAIS I DDARPARU PANEL GWYBODAETH I'R GYMUNED GER EGLWYS CYBI, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd i'r hysbyseb ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.13

19C882 - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER CAE SERRI, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.   

 

      

 

7.14

24LPA52H/CC - ESTYNIAD UNLLAWR I YSGOL GYNRADD PEN-Y-SARN

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

7.15

25C151C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GAREJ, DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD A MYNEDFA NEWYDD YN NHAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth am y cais a gofynnodd am ohirio'r drafodaeth.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.16

  31GD30F - CAIS I GODI LLWYBR UCHEL O GERRIG A FYDD YN RHAN O'R LLWYBR ARFORDIROL YN J.S.M.T.C. INDEFATIGABLE, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Richard Eames o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor am ei fod yn rhan o rwydwaith llwybr arfordirol y Cyngor ac yn cael ei gyflwyno gan Menter Môn fel asiant i'r Goron.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

7.17

43C77C - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI CHWE ANNEDD AR WAHÂN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y GERLAN, PONT RHYD Y BONT

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth am y cais a gofynnodd am ohirio'r drafodaeth.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

      

 

7.18

49C9V - YMESTYN LIBART Y MAN GWERTHU CEIR, Y SGWÂR, Y FALI

 

      

 

     Yr aelod lleol a ofynnodd am ddwyn y cais hwn i sylw'r Pwyllgor.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r safle ac o'r cynnig a dygodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle a'r polisiau perthnasol a gafodd sylw wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Eglurodd y swyddog fod y safle mewn ardal fasnachol yn y pentref a chredai bod yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellodd roddi caniatâd gyda'r amod bod rhagor o sylw'n cael ei roddi i union eiriad amod (05) "bydd raid i'r holl gerbydau sydd ar werth fod mewn cyflwr digon da i fynd ar y lôn."

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, bod yr ardal hon yn un sensitif a rhywfaint o broblemau yn gysylltiedig gyda'r busnesau o gwmpas. Rhoes y Cynghorydd Parry groeso i'r amodau ac yn enwedig y rheini'n ymwneud â gwelededd a thirlunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond yn amodol ar unrhyw newidiadau y penderfyno Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio arnynt yng nghyswllt geiriad amod (05).

 

      

 

      

 

7.19

49C254 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN 12 FFORDD PENDYFFRYN, Y FALI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Wedyn cafwyd disgrifiad o'r safle gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a hefyd o'r cynnig a dywedodd bod y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw'n statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb yr un gwrthwynebiad i'r cynnig.  Mewn egwyddor credwyd bod hwn yn llenwi bwlch a rhoddid amodau priodol ynghlwm i bwrpas cuddio'r lle a thrwy hynny liniaru'r pryderon.  Roedd y swyddog yn argymell caniatáu'r cais.

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod mynegodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol ei bryderon y gallai hwn fod yn gynsail i ragor o geisiadau cynllunio cyffelyb a phryderon hefyd ynghylch yr effaith a gâi ar bleserau y tai o gwmpas.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

8     MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

     30C380A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD AR DIR GER 4 TAI BETWS, LLANBEDR-GOCH

 

      

 

     Ar ôl i'r Pwyllgor benderfynu rhoddi caniatâd i'r cais uchod yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog, nodwyd bod y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio wedi derbyn manylion draenio boddhaol ynghylch y cais.  Rhyddhawyd caniatâd cynllunio ar 6 Awst, 2004.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

     YN CODI:

 

      

 

     Nodwyd bod y ceisiadau a ganlyn wedi'u gwrthod gan y Pwyllgor Cynllunio hwn ac nid dan y pwerau dirprwyol:

 

      

 

     19C843A - Orotavia, Walthew Avenue, Caergybi

 

     32C122 - tir ger Craig Eithin, Caergeiliog

 

     49C247 - Bronallt, Llanynghenedl  

 

      

 

      

 

10     APELIADAU A WRTHODWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt yr apeliadau isod a wrthodwyd:

 

      

 

10.1

PLOT 4, YR HEN REITHORDY, LLANFAELOG

 

      

 

     Apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i godi annedd unllawr (cais rhif 28C163J dyddiedig 11 Awst 2003).

 

      

 

10.2

GWESTY'R BOATHOUSE, PORTH-Y-FELIN, CAERGYBI

 

      

 

     Apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i ymestyn ac altro er mwyn ychwanegu at le, gwella mynedfa a chyfleusterau'r gwesty (cais cynllunio rhif:  19C126H dyddiedig 29 Gorffennaf, 2003).

 

      

 

11     APÊL A GANIATAWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch yr apêl isod a ganiatawyd:

 

      

 

11.1

PLOT 6, MAES GLAS, BETHEL, BODORGAN

 

      

 

     Apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i godi annedd newydd (byngalo) dan gais cynllunio 15C34M dyddiedig 12 Mehefin, 2003.

 

      

 

      

 

12     SEMINAR GYNLLUNIO

 

      

 

     Nodwyd bod y seminar wedi'i threfnu ar gyfer nos Fercher, 22 Medi, 2004.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5.50 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R.L. OWEN

 

     CADEIRYDD