Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Hydref 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Hydref, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2003 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Dr. J.B. Hughes, T.Ll. Hughes, W. Emyr Jones,

R.L. Owen, G.O. Parry MBE, W.T. Roberts, Hefin Thomas,

W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (HR)  

 

Priffyrdd:

Uchel Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Gwyn Roberts, John Rowlands.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafodd y datganiadau o ddiddordeb a wnaed gan Aelodau a Swyddogion eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Medi 2003.

(Tudalennau 24 - 32 o'r Gyfrol hon).

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO 

 

3

YMWELIAD Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliad â Safle Cynllunio ar 17 Medi 2003.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards am ei absenoldeb a hynny oherwydd amgylchiadau na fedrai eu rhagweld.

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION:

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.1

15C34M CAIS LLAWN AR GYFER CODI BYNGALO AR BLOT 6 MAES GLAS, BETHEL

 

 

 

Cymerodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards y Gadair yn ystod y drafodaeth a'r broses o benderfynu ar y cais; gadawodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes y Gadair am mai ef a gyfeiriodd y cais i'r Pwyllgor hwn a dymunai siarad ar y mater fel aelod lleol.

 

 

 

Ar 20 Awst 2003 yr ymwelwyd â safle'r cais.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod rhoddi caniatâd cynllunio a hynny'n groes i argymhelliad y swyddogion o roddi caniatâd.

 

 

 

Dyma pam yr oeddent yn erbyn rhoddi caniatâd:

 

 

 

(a)  buasai'r cynnig hwn yn cyfateb i orddatblygu ar y safle,

 

 

 

(b)  câi'r bwriad effaith andwyol ar bleserau cymdogion.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoddi amser i'r swyddogion baratoi adroddiad arall ar oblygiadau gwrthod.

 

 

 

Nid oedd gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio ddim i'w ychwanegu at ei adroddiad a dygodd sylw at y prif faterion cynllunio - y rhai y manylwyd arnynt yn Adran 7.0 - 7.7 ei adroddiad.  Teimlai fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt cynllunio ac yng nghyswllt ei effaith ar bleserau tai cyfagos ac yng nghyswllt yr egwyddor defnydd tir.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Goronwy Parry cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt, sef gwrthod, a theimlai yn gryf y buasai'r bwriad yn cael effaith andwyol ar y tai cyffiniol ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.E. Jones fod y Pwyllgor yn derbyn argymhelliad y Swyddog, sef rhoddi caniatâd, ac am y rhesymau yn adroddiad y Swyddog; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

O 6 phleidlais i 3 ac yn groes i argymhelliad y swyddog PENDERFYNODD yr aelodau lynu wrth y penderfyniad cynt, sef gwrthod rhoddi caniatâd am y rhesymau a roddwyd o'r blaen:

 

 

 

(a)  buasai'r cynnig hwn yn cyfateb i orddatblygu ar y safle,

 

(b)  câi'r bwriad effaith andwyol ar bleserau cymdogion.

 

 

 

(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr R. Lloyd Hughes na Trevor Lloyd Hughes ar y cais).  

 

 

 

4.2

18C146 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD A MODURDY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR RHAN O O.S. 9385, BRYNGLAS, LLANRHUDDLAD

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac iddo gael ei ohirio yn y cyfarfod cynt ar ôl i'r ymgeiswyr gyflwyno cynlluniau diwygiedig yr oedd yn rhaid gwneud rhagor o waith ymgynghori yn eu cylch.  

 

 

 

Yma dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau cynllunio perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog oedd polisïau 1, 42 a 50 Cynllun Lleol Ynys Môn, polisi A2 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Nodyn Cyngor Technegol 12 (Dyluniad).

 

 

 

Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (tai newydd yn y cefn gwlad).  Ar y naill law roedd y cynlluniau diwygiedig yn osgoi gorfod torri coed a llwyni ond roedd ffordd y fynediad yn croesi tir amaethyddol y tu allan i ffiniau'r pentref.  O'r herwydd, roedd argymhelliad i wrthod y cais gan resymu y câi'r ffordd fynediad effaith annymunol ar bleserau ac ar nodweddion Ardal Tirwedd Arbennig.    

 

 

 

Ychwanegodd y Swyddog Priffyrdd bod yr ymgeiswyr bellach wedi symud y fynedfa i lecyn gyferbyn â'r ysgol ar y cynlluniau diwygiedig ac roedd hynny'n dderbyniol dan y meini prawf priffyrdd a hefyd yn cwrdd ag anghenion yng nghyswllt y gallu i weld yn y fynedfa.  

 

 

 

Crybwyllwyd yn yr adroddiad y llythyrau o wrthwynebiad a ddaeth i law.

 

 

 

Ni chytunai'r Cynghorwyr W.J. Williams a Hefin Thomas y câi'r ffordd at y safle effaith annymunol ar y tirwedd ac y gellid cynnwys yn y caniatâd gynllun i blannu coed.

 

 

 

Ond awgrymodd y Cynghorydd Arwel Edwards y gallai'r ffordd hon gyflwyno nodweddion trefol i'r tirwedd amaethyddol ac y gallai hefyd fod yn gynsail i ragor o ddatblygiadau yn y dyfodol.

 

 

 

O 6 phleidlais i 5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

   

 

4.3

20C197 - ADDASU AC EHANGU PEN Y BONT, 17 STRYD ATHOL, CEMAES

 

 

 

Gohiriwyd y cais hwn yn y cyfarfod diwethaf ar ôl i'r ymgeiswyr gyflwyno cynlluniau diwygiedig yr oedd yn rhaid gwneud rhagor o waith ymgynghori yn eu cylch.   Bu'r aelodau yn ymweld â'r safle ar 17 Medi 2003.  

 

 

 

Cafwyd nifer o wrthwynebiadau i'r cynnig gwreiddiol a dywedwyd am hynny yn adroddiad y swyddog a gadawyd copi ohonynt ar y bwrdd, a hefyd cyflwynwyd llythyr arall gan asiant yr ymgeisydd.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Cynllunio na châi'r cynnig effaith annymunol ar gymeriad nac ar wedd y dynodiad statudol hwn yn groes i'r hyn a ymddangosodd ar dudalen 27 adroddiad y swyddog.

 

 

 

Wedyn cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddog ar y newidiadau i'r cynnig gwreiddiol ac a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr fel a nodwyd yn ei adroddiad.  

 

 

 

Y polisïau perthnasol y rhoes y swyddog sylw iddynt wrth wneud ei argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisïau 1, 4 a 42 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisïau D4, 25 a 29 Cynllun Fframwaith Gwynedd.

 

 

 

Y dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau yn ôl y Swyddog oedd 8 Hydref, 2003 a theimlai bod y cais hwn bellach yn dderbyniol ac argymhellodd bod aelodau yn rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio roddi caniatâd ond gyda'r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a chyda'r amod hefyd na ddeuai gwrthwynebiadau perthnasol i law yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori.  

 

 

 

Cafodd y Cynghorydd John Roberts hi'n anodd gwrthod y cais hwn er gwaethaf effaith unrhyw gynnydd yn y traffig ar ddiogelwch y ffordd.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod hon yn briffordd gyhoeddus ac ni fuasai'r cais ynddo'i hun yn creu rhagor o draffig ac nid oeddent yn gwrthwynebu'r bwriad am resymau priffyrdd.  

 

 

 

Yma mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd R.L. Owen ynghylch dymchwel y wal derfyn a oedd yn rhan o nodweddion yr ardal a gofynnodd am i hon gael ei hailgodi fel ag yr oedd petai caniatâd yn cael ei roddi i'r datblygiad.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dr. J.B. Hughes roddi caniatâd i'r newidiadau a'r estyniadau i'r ty ond gwrthod y cynnig i greu llecyn parcio a oedd yn golygu dymchwel y wal derfyn ac yn hyn o beth cafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Roberts dderbyn argymhelliad y swyddog ond gydag amod i gadw cymeriad y wal derfyn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  

 

 

 

O 6 phleidlais i 4 PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i ganiatáu'r cais i'r Pennaeth Gwasanaeth ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amod bod yr ymgeiswyr yn cadw a diogelu cymeriad y wal derfyn wrth ddarparu llecyn parcio ar y safle a chyda'r amod hefyd na cheid gwrthwynebiadau perthnasol yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori.  

 

 

 

4.4

35C191A - NEWID DEFNYDD TIR AMAETHYDDOL AR GYFER CADW CEFFYLAU YNGHYD AC ADDASU'R FYNEDFA AR O.S. 4947, TYDDYN WAEN, LLANGOED

 

 

 

Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 20 Awst, 2003 ac yn y cyfarfod diwethaf roeddent yn dymuno gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad o roddi caniatâd gan y swyddog - roeddent yn dymuno gwrthod am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

i.     nid yw rhwydwaith y ffyrdd lleol at y safle yn ddigon da, h.y. mae'r ffyrdd yn rhy gul, ac yn rhy droellog i ragor o drafnidiaeth.

 

 

 

ii.     nid yw'r gallu i weld na'r lle i droi yn ddigon da yn y fynedfa.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi amser i'r swyddogion baratoi adroddiad arall ar oblygiadau gwrthod.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod bellach, ar ôl derbyn adroddiad yr Adran Briffyrdd, yn argymell gwrthod y cais hwn.

 

 

 

Roedd y Swyddog Priffyrdd yn argymell gwrthod y cais am nad oedd y llain gweld yn y fynedfa na'r cyfleusterau i droi ar y safle yn dderbyniol yn ôl meini prawf diogelwch y briffordd.

 

 

 

Fodd bynnag, ni allai'r swyddog gefnogi penderfyniad y Pwyllgor i wrthod caniatâd yn seiliedig ar gyflwr rhwydwaith lleol y ffyrdd sy'n rhedeg at y safle ac fel a nodir yn (i) uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am nad yw'r gwelededd yn y fynedfa yn cydymffurfio gyda gofynion diogelwch priffyrdd ac am nad oedd y cyfleusterau i droi ar y safle yn ddigonol.  

 

 

 

4.5

46C360A - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER CODI BYNGALO DORMER I GAEL EI DDEFNYDDIO FEL 'ANECS NAIN' YN SWN Y MÔR, LÔN ST. FFRAID, TREARDDUR

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cais wedi cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac iddo gael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf ar ôl i'r ymgeiswyr gyflwyno cynlluniau diwygiedig yr oedd yn rhaid gwneud rhagor o waith ymgynghori yn eu cylch.

 

 

 

Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais cynllunio ôl-ddyddiol oedd hwn a bod yr egwyddor o ganiatáu anecs nain wedi ei chymeradwyo ar 7 Hydref, 2002 dan y cais cynllunio rhif 46C360.  Fodd bynnag, nid oedd y gwaith a wnaed yn cydymffurfio gyda'r caniatâd a roddwyd.  Roedd y newidiadau yn ymwneud â chodiad yn uchder rhan ganolog yr annedd, ychwanegiad 0.9 metr at yr hyn a ymddangosodd yn y caniatâd a'r ychwanegiad yn hwyluso gwaith adeiladu'r llawr cyntaf.  Hefyd cyfeiriodd y swyddog at wrthwynebiadau a gafodd.  

 

 

 

Yma mynegodd y Cynghorydd Goronwy Parry bryderon difrifol ynghylch nifer y ceisiadau cynllunio ôl-ddyddiol a ddeuai i'r Pwyllgor, a bod hynny yn tanseilio pwer y Pwyllgor, ac yn hyn o beth yr oedd nifer o aelodau yn gytûn.  Hefyd roedd y Cynghorydd Parry yn pryderu ynghylch diogelwch y ffordd yn y cyffiniau hyn ar hyd Lôn St. Ffraid.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

 

 

Roedd yr Aelodau yn teimlo'n gryf iawn yn erbyn yr egwyddor o roddi sylw cydradd i geisiadau cynllunio ôl-ddyddiol - cydradd â cheisiadau eraill oedd dilyn trefniadau priodol a chafwyd pryderon mawr iawn ynghylch nifer fawr y ceisiadau ôl-ddyddiol a ddeuai i'r Pwyllgor.  CYTUNODD yr Aelodau i ofyn i'r Deilydd Portffolio ddwyn pryderon difrifol yr aelodau i sylw'r Pwyllgor Gwaith a phwyso ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ar y Cynulliad i gymryd safiad cryfach yn erbyn ceisiadau cynllunio ôl-ddyddiol.

 

      

 

     Hefyd roedd yr Aelodau yn siomedig iawn gyda'r aelodau lleol hynny oedd yn cyfeirio ceisiadau cynllunio i'w hystyried ac i'w penderfynu ganddo a wedyn ddim yn mynychu a ddim yn achub ar y cyfle i fynegi pryderon i'r Pwyllgor ac i roddi iddo wybodaeth leol angenrheidiol.  

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau economaidd i'r cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau'n tynnu'n groes i'r cyfarfod hwn.

 

        

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

12C66F - ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD Y GANOLFAN FOROL I FOD YN WESTY, BAR A LLE BWYTA YN 'THE OLD BATHS', BIWMARES

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau yn ymweld â'r safle er mwyn deall yn well effaith y datblygiad arfaethedig ar yr Ardal Gadwraeth ac ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.  

 

      

 

7.2

17C122H - CODI ANNEDD AR DIR GER ISCOED, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cafodd y cais ei drosglwyddo i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac oherwydd hanes y safle.  Cyflwynodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ymddiheuriad am fethu bod yn bresennol i annerch y cyfarfod a gofynnodd i'r aelodau ymweld â safle'r cais.

 

      

 

     Yma atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau iddynt ymweld â safle'r cais hwn yn ystod mis Mai, 2003 a than adran 4.6.18 (ii) y Cyfansoddiad "ni fydd angen ymweld â safle .... pan fo'r Aelodau eisoes wedi ymweld â'r safle yn y 12 mis cynt, onid yw'r amgylchiadau yn eithriadol".

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y bwriad hwn wedi'i newid rhyw fymryn chwedl y bwriad a ganiatawyd gan y Pwyllgor ym mis Mehefin 2003.  Nid oedd y cynlluniau diwygiedig yn cyflwyno cynnydd perthnasol yn yr effaith y gallai'r annedd ei chael ar dai cyffiniol.  Y bwriad mewn gwirionedd oedd symud yr annedd arafethedig un metr tuag at ffiniau'r de-orllewin  ar y safle, symud y garej a chreu mynedfa ychwanegol.

 

      

 

     Amlinellodd y swyddog y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y Swyddog, sef Polisïau 42, 49 a 30 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi D1 Cynllun Fframwaith Gwynedd.  Dangosodd y swyddog gynlluniau manwl o'r safle gan nodi'r gwahaniaeth rhwng y cynnig a ganiatawyd ar y naill law a'r newidiadau ar y llaw arall ac a oedd dan sylw ac aeth ymlaen i argymell rhoddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R.L. Owen cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog i roddi caniatâd ac eiliwyd ef gan y Cynghorwyr Emyr Jones a Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

7.3

23C74D - ADDASU AC EHANGU BRO DAWEL, LLANGWYLLOG

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y cais wedi cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai polisïau 42, 58 a 31 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi D4 Cynllun Fframwaith Gwynedd a TAN 12 oedd y polisïau perthnasol i'w hystyried yng nghyswllt y cais hwn.  Roedd y rhan fwyaf o'r gwaith a wnaed yn y lle uchod wedi'i ganiatáu dan ganiatâd cynllunio rhif 23C74C.  Nid oedd y cyfan o'r gwaith yn cydymffurfio gyda'r caniatâd a chais oedd hwn i gywiro hyn a hefyd yng nghyswllt ychwanegiadau eraill a gwaith altro i'r cynllun.

 

 

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo dderbyn cyngor nad oedd yr anghydffurfio'n ddigon mawr i gyfiawnhau camau gorfodaeth ac nad oedd er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd camau o'r fath.

 

     Ychwanegodd y swyddog nad oedd yr un corff statudol yr ymgynghorwyd ag ef yn gwrthwynebu ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor Cymuned yn pryderu oherwydd bod yr awdurdod hwn wedi comisiynu ymgynghorwyr 'Cynefin' i ymchwilio i'r mater.

 

      

 

     Yma dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams fod y "sied" yn yr ardd a gafodd ganiatâd ar apêl dan y rhif 23C74A bellach yn "sied botio ddeulawr".

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Emyr Jones yn hapus gyda rhai datblygiadau diawdurdod ar y safle a theimlai'r Cynghorydd Trevor Hughes y dylid cael deddfwriaeth i geisio rhwystro pobl rhag gwneud gwaith heb dderbyn caniatâd cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W.J. Williams yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y trafodaethau gyda'r Cyngor Cymuned ar y cais hwn.  

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Trevor Hughes, Emyr Jones na Tecwyn Roberts ar y cais.  

 

        

 

7.4

31C271 - DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI PEDAIR ANNEDD NEWYDD AR DIR YN ROSE HILL COTTAGE, FFORDD PENMYNYDD, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Datganodd Richard Eames o'r Adran Briffyrdd ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan gafodd ei ystyried a phan bleidleisiwyd arno.  

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol, y Cynghorydd John Roberts, a chynigiodd ef bod aelodau yn ymweld â safle'r cais i gael gwell dealltwriaeth o'r safle ac asesu'r sefyllfa eu hunain a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd W.J. Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd - a chyn penderfynu ar y cais.   

 

      

 

7.5 39C259A - CODI MORDURDY, FFENS A CADW'R GWAITH YN 22 GWÊL YR WYDDFA,             PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd David Pryce Jones o'r Adain Rheoli Datblygu ddiddordeb yn y cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan un o swyddogion y Cyngor.  Yn ôl y Swyddog Cynllunio nid oedd yr un corff yr ymgynghorwyd ag ef yn statudol wedi gwrthwynebu a'r polisiau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar ei argymhelliad oedd Polisi Cyffredinol 1 a Pholisïau 42 a 58 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd ef yn hapus na châi y bwriad hwn effaith andwyol ar gymeriad nac ar bleserau tai cyfagos a bod y bwriad yn debyg iawn i waith a wnaed ar dai eraill yn yr ardal.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

45LPA829/CC - CREU ARDAL CHWARAEON AML-DDEFNYDD GYDA FFENS PERIMEDR A LLIFOLEUADAU AR DIR YN YSGOL GYNRADD NIWBWRCH, NIWBWRCH

 

      

 

     Trosglwyddyd y cais hwn i'r Pwyllgor am iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo) ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog oedd Polisïau 1, 17 a 42 ac nid oedd yr un corff statudol yr ymgynghorwyd ag ef wedi gwrthwynebu ac eithrio yng nghyswllt y goleuni a fuasai'n taflu drosodd i'r briffordd gyhoeddus.  Argymhellodd bod aelodau yn caniatáu'r cais ar ôl ymgynghori yn foddhaol yng nghyswllt y goleuni.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts roddi caniatâd i'r cais gyda'r amod uchod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i roddi caniatâd i'r cais i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio unwaith y buasai wedi cwblhau'r gwaith ymgynghori yn foddhaol a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

7.7

46C137D - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 34 O DAI TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YN YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod aelodau yn ymweld â'r safle cyn ystyried y cais a phenderfynu arno er mwyn gwerthfawrogi'n well beth fydd effaith y bwriad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry bod yr aelodau yn ymweld â'r safle i gael gwell dealltwriaeth o effaith y bwriad ac i sicrhau hefyd bod y cais yn cael sylw y tu mewn i'r cyfnod amser priodol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd cyn penderfynu arno.

 

      

 

7.8

48C130A/DA - CAIS MANWL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU Y FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GERBRYN Â CROSS KEYS, GWALCHMAI 

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Lynn Ball o'r Adain Gyfreithiol ar y cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod caniatâd amlinellol wedi'i roddi i'r datblygiad uchod gan y Pwyllgor hwn ar 5 Rhagfyr 2001dan y cais cynllunio rhif 48C130.

 

      

 

     Rhyddhawyd caniatâd i faterion wrth gefn dan bwerau dirprwyol cyn sylweddoli y dylid bod wedi trosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor hwn benderfynu arno o gofio iddo gael ei gyflwyno gan un o weithwyr y Cyngor.  

 

      

 

     Cafwyd trafodaethau rhwng y swyddogion, y cyfreithiwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro a chadarnhaodd y Swyddog Monitro, ar ôl siecio'r ffeil gynllunio, ei bod yn fodlon bod y trefniadau arferol wedi'u dilyn yng nghyswllt ystyried ceisiadau o'r fath.  Yn y cyfamser cymerwyd camau i sicrhau bod y Swyddogion Cynllunio yn ymwybodol o'r angen i ymgynghori gyda'r Swyddog Monitro yn y dyfodol pryd bynnag y bydd cais cynllunio fel yr un hwn yn cael ei gyflwyno gan swyddogion.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad i ryddhau caniatâd i faterion wrth gefn gyda'r amod fod raid cydymffurfio gyda'r amodau a nodwyd yn adroddiad y swyddog.   

 

 

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn a nodwyd bod 73 o geisiadau wedi cael sylw ers y dyddiad hwnnw.  Rhoes y Cynghorydd R.L. Owen ei longyfarchiadau i'r staff am wneud gwaith caled.

 

      

 

     Yma roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn dymuno mynegi pryderon ynghylch problemau parcio yn Nhan y Bryn, y Fali (rhif 49C220A ar dudalen 8 y rhestr ddirprwyol).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

9     APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     Penterfyn Rhostrehwfa

 

      

 

     Nodwyd bod y fersiwn Gymraeg ar y rhaglen yn anghywir - roedd yr apêl yn ymwneud â Phenterfyn, nid Cartrefle, Rhostrehwfa.

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad yr Arolygwr Cynllunio a benodwyd gan y Cynulliad i gynnal apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn - penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel annedd a chodi annedd newydd ym Mhenterfyn, Rhostrehwfa dan gais cynllunio rhif 36C215.  Rhoes yr Arolygwr ei ganiatâd i'r Apêl.

 

 

 

10     RHEOLI PERFFORMIAD - RHEOLI CYNLLUNIO 

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ar archwiliad diweddar gan y Comisiwn Archwilio yn awgrymu y ffordd ymlaen ynghylch monitro a gweithredu ar Gynllun Gwella yn y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio.

 

      

 

     Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd copi o adroddiad arall ac o Gynllun Gweithredu a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini yr Amgylchedd a Chludiant ar 16 Medi, 2003 a hefyd ddyfyniad o gasgliadau'r Comisiwn Archwilio ac awgrymiadau ar gyfer rhagor o welliannau.  Hefyd amgaewyd graffiau yn dangos y newid sydyn a dramatig yn y perfformiad ers yr Arolwg Gwerth Gorau ym mis Rhagfyr 2001.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad yn argymhell fel a ganlyn i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chludiant ar 16 Medi, 2003:  

 

      

 

     "argymell i'r Pwyllgor Gwaith bod perfformiad Rheoli Cynllunio yn cael ei fonitro yn unol â Phrotocol Cyflwyno Adroddiadau a Monitro'r Cyngor (ii) newid cyfrifoldebau'r Grwp Monitro, Grwp ac arno Gadeirydd y Pwyllgor yr Amgylchedd a Chludiant, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, y Deilydd Portffolio (Datblygu Economaidd a Chynllunio) y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) a Phennaeth Gwasanaeth y Gwasanaethau Cynllunio i gynnwys monitro a gweithredu ar y Cynllun Gwella i'r cyfan o'r Gwasanaeth Cynllunio."

 

      

 

     Roedd yr adroddiad yn cadarnhau gwelliannau yn y perfformiad (codi o'r gwaelod yn 2001 i gyrraedd y brig fel y perfformiad gorau yng Nghymru yn 2003) yng nghyswllt delio gyda cheisiadau cynllunio ac o'r herwydd nid yw'r gwasanaeth bellach yn y categori risg uchel a chafwyd argymhellion i fabwysiadu trefniadau newydd i bwrpas monitro perfformiad y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

      

 

     Rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei longyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o'r gwaith gan gynnwys y staff a'r Pwyllgor ac ychwanegodd fod casgliadau'r Arolygwyr yn her i'r gwasanaeth - her i gynnal y gwelliant ac aros yn y chwarter uchaf.  Roedd y Cadeirydd a'r aelodau yn cefnogi sylwadau'r sywddog.

 

      

 

     Derbyniwyd yr adroddiad gan yr Aelodau a nodwyd hefyd y buasai'r Grwp Monitro yn parhau i gyfarfod er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth i'r cyfan o'r Gwasanaeth Cynllunio.

 

      

 

11     ACHLYSURON HYFFORDDI I'R AELODAU

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod seminar wedi'i chynnal ar 30 Medi, 2003 ar y pynciau a ganlyn - tai yn y cefn gwlad/tai fforddiadwy, a'r Cynllun Datblygu Unedol - materion cyn pryd, a rhagor o sesiynau wedi'u trefnu yn y dyfodol agos ar faterion cynllunio yn gyffredinol.   

 

      

 

     Nodwyd bod yr aelodau yn gwerthfawrogi'r sesiynau yn fawr ac yn dymuno'u cael yn rheolaidd.

 

      

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.45 p.m.

 

 

 

  CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

CADEIRYDD